Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fel yr addfedodd gwenith ManawyddanAc nid oedd dim yn hyfrytach iddo na gweled Arberth, a'r diriogaeth y buasai yn hela, ef a Phryderi, a Rhianon gyda hwynt. Dechreuodd gynefino â'r lle, a physgota a hela llydnod ar eu gwâl. Wedi hynny dechreuodd lafurio'r tir, a hau maes bychan, ac ail faes, a thrydydd faes. Ac wele y gwenith goreu yn y byd yn codi, a'i dri maes yn llwyddo yn un dwf, fel na welsai ddyn wenith tecach nag ef. Treulio amseroedd y flwyddyn a wnaeth, ac wele y cynhaeaf yn dyfod. Aeth i edrych un o'i feysydd, ac wele yr oedd yn addfed. "Mi a fynnaf fedi hwn yfory," ebe ef. Daeth drachefn y nos honno i Arberth. Y bore glas drannoeth, daeth i fynnu medi ei faes,—pan ddaeth, nid oedd yno namyn y gwelltyn yn llwm. Yr oedd pob tywysen wedi ei thorri oddi ar y gwelltyn, y tywysennau wedi eu dwyn ymaith i gyd, a'r gwellt wedi eu gadael yno yn llwm. Ac efe a ryfeddodd yn fawr. Aeth i edrych y maes arall, ac yr oedd hwnnw yn addfed. "Yn wir," ebe ef, "mi a fynnaf fedi hwn yfory." A drannoeth daeth ar feddwl medi hwnnw; ond pan ddaeth, nid oedd yno ddim namyn y gwelltyn llwm.

"Och fi," ebe ef, "pwy sydd yn gorffen fy nifa i? Mi a'i gwn, y neb ddechreuodd fy nifa sydd yn gorffen, ac yn difa y wlad gyda mi."

Aeth i edrych ei drydydd maes; a phan ddaeth, ni welsai neb wenith tecach, a hwnnw yn addfed. Gwae fi," ebe ef, "oni wyliaf fi heno. A'r neb a ddug yr yd arall a ddaw i ddwyn hwn,—a mi a wybyddaf beth yw."

A chymryd ei arfau a wnaeth, a dechreu gwylied y maes. A mynegodd hynny i Cicfa.

"Ie," ebe hi, pa beth sydd yn dy fryd?