Awdl V

Oddi ar Wicidestun

gan Hywel ab Owain Gwynedd

Karafy gaer wennglaer o du gwennylan;
myn yd gar gwyldec gweled gwylan
yd garwny uyned, kenym cared yn rwy.
Ry eitun ouwy y ar veingann
y edrtch uy chwaer chwerthin egwan,
y adrawt caru, can doeth yn rann,
y edryt uy lledurydy ae llet ourwy,
Llifyant oe chyuoeth a doeth atann,
lliw eyry llathyr oeruel ar uchel uann.
Rac ual ym cotidy yn llys Ogyruann,
chweris oe hadaw hi, adoed kynrann,
ethiw am eneidy, athwyf yn wann.
Neud athwyf o nwyf yn eil Garwy Hir
y wenn am llutir yn llys Ogyruann.