Beibl (1620)/1 Samuel

Oddi ar Wicidestun
Ruth Beibl (1620)
1 Samuel
1 Samuel
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
2 Samuel

LLYFR CYNTAF SAMUEL;

YR HWN A ELWIR HEFYD

LLYFR CYNTAF Y BRENHINOEDD.

PENNOD 1

1:1 Ac yr oedd rhyw ŵr o Ramathaim-Soffim, o fynydd Effraim, a’i enw Elcana, mab Jeroham, mab Elihu, mab Tohu, mab Suff, Effratewr:

1:2 A dwy wraig oedd iddo; enw y naill oedd Hanna, ac enw y llall Peninna: ac i Peninna yr ydoedd plant, ond i Hanna nid oedd plant.

1:3 A’r gŵr hwn a ai i fyny o’i ddinas bob blwyddyn i addoli, ac i aberthu i ARGLWYDD y lluoedd, yn Seilo; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, oedd offeiriaid i’r ARGLWYDD yno.


1:4 Bu hefyd, y diwrnod yr aberthodd Elcana, roddi ohono ef i Peninna ei wraig, ac i’w meibion a’i merched oll, rannau.

1:5 Ond i Hanna y rhoddes efe un rhan hardd: canys efe a garai Hanna, ond yr ARGLWYDD a gaeasai ei chroth hi;

1:6 A’i gwrthwynebwraig a’i cyffrôdd hi i’w chythruddo, am i’r ARGLWYDD gau ei bru hi.

1:7 Ac felly y gwnaeth efe bob blwyddyn, pan esgynnai hi i dŷ yr ARGLWYDD, hi a’i cythruddai hi felly, fel yr wylai, ac na fwytai.

1:8 Yna Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Hanna, paham yr wyli? a phaham na fwytei? a phaham y mae yn flin ar dy galon? onid wyf fi well i ti na deg o feibion?

1:9 Felly Hanna a gyfododd, wedi iddynt fwyta ac yfed yn Seilo. (Ac Eli yr offeiriad oedd yn eistedd ar fainc wrth bost teml yr ARGLWYDD.)

1:10 Ac yr oedd hi yn chwerw ei henaid, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD, a chan wylo hi a wylodd.

1:11 Hefyd hi a addunodd adduned, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn, ac a’m cofi i, ac nid anghofi dy lawforwyn, ond rhoddi i’th lawforwyn fab: yna y rhoddaf ef i’r ARGLWYDD holl ddyddiau ei einioes, ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef.

1:12 A bu, fel yr oedd hi yn parhau yn gweddïo gerbron yr ARGLWYDD, i Eli ddal sylw ar ei genau hi.

1:13 A Hanna oedd yn llefaru yn ei chalon, yn unig ei gwefusau a symudent, a’i llais ni chlywid: am hynny Eli a dybiodd ei bod hi yn feddw.

1:14 Ac Eli a ddywedodd wrthi hi. Pa hyd y byddi feddw? bwrw ymaith dy win oddi wrthyt.

1:15 A Hanna a atebodd, ac a ddywed¬odd, Nid felly, fy arglwydd; gwraig galed arni ydwyf fi: gwin hefyd na diod gadarn nid yfais, eithr tywelltais fy enaid gerbron yr ARGLWYDD.

1:16 Na chyfrif dy lawforwyn yn ferch Belial: canys o amldra fy myfyrdod, a’m blinder, y lleferais hyd yn hyn.

1:17 Yna yr atebodd Eli, ac a ddywed¬odd, Dos mewn heddwch: a Duw Israel a roddo dy ddymuniad yr hwn a ddymunaist ganddo ef.

1:18 A hi a ddywedodd, Caffed dy law¬forwyn ffafr yn dy olwg. Felly yr aeth y wraig i’w thaith, ac a fwytaodd; ac ni bu athrist mwy.

1:19 A hwy a gyfodasant yn fore, ac a addolasant gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddychwelasant, ac a ddaethant i’w tŷ i Rama. Ac Elcana a adnabu Hanna ei wraig; a’r ARGLWYDD a’i cofiodd hi.

1:20 A bu, pan ddaeth yr amser o amgylch, wedi beichiogi o Hanna, esgor ohoni ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Samuel: Canys gan yr ARGLWYDD y dymunais ef, eb hi.

1:21 A’r gŵr Elcana a aeth i fyny, a’i holl dylwyth, i offrymu i’r ARGLWYDD yr aberth blynyddol, a’i adduned.

1:22 Ond Hanna nid aeth i fyny: canys hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Ni ddeuaf fi, hyd oni ddiddyfner y bachgen: yna y dygaf ef, fel yr ymddangoso efe o flaen yr ARGLWYDD, ac y trigo byth.

1:23 Ac Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Gwna yr hyn a welych yn dda: aros hyd oni ddiddyfnych ef; yn unig yr ARGLWYDD a gyflawno ei air. Felly yr arhodd y wraig, ac a fagodd ei mab, nes iddi ei ddiddyfnu ef.

1:24 A phan ddiddyfnodd hi ef, hi a’i dug ef i fyny gyda hi, â thri o fustych, ac un effa o beilliaid, a chostrelaid o win; a hi a’i dug ef i dŷ yr ARGLWYDD yn Seilo: a’r bachgen yn ieuanc.

1:25 A hwy a laddasant fustach, ac a ddygasant y bachgen at Eli.

1:26 A hi a ddywedodd, O fy arglwydd, fel y mae dy enaid yn fyw, fy arglwydd, myfi yw y wraig oedd yn sefyll yma yn dy ymyl di, yn gweddïo ar yr ARGLWYDD.

1:27 Am y bachgen hwn y gweddïais; a’r ARGLWYDD a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo:

1:28 Minnau hefyd a’i rhoddais ef i’r ARGLWYDD; yr holl ddyddiau y byddo efe byw, y rhoddwyd ef i’r ARGLWYDD. Ac efe a addolodd yr ARGLWYDD yno.

PENNOD 2

2:1 A HANNA a weddïodd, ac a ddywed¬odd, Llawenychodd fy nghalon yn yr ARGLWYDD; fy nghorn a ddyrchafwyd, yn yr ARGLWYDD: fy ngenau a ehangwyd ar fy ngelynion: canys llawenychais yn dy iachawdwriaeth di.

2:2 Nid sanctaidd neb fel yr ARGLWYDD; canys nid dim hebot ti: ac nid oes graig megis ein Duw ni.

2:3 Na chwanegwch lefaru yn uchel uchel; na ddeued allan ddim balch o’ch genau: canys Duw gwybodaeth yw yr ARGLWYDD, a’i amcanion ef a gyflawnir.

2:4 Bwâu y cedyrn a dorrwyd, a’r gweiniaid a ymwregysasant a nerth.

2:5 Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara; a’r rhai newynog a beidiasant; hyd onid esgorodd yr amhlantadwy ar saith, a llesgau yr aml ei meibion.

2:6 Yr ARGLWYDD sydd yn marwhau, ac yn bywhau: efe sydd yn dwyn i waered i’r bedd, ac yn dwyn i fyny.

2:7 Yr ARGLWYDD sydd yn tlodi, ac yn cyfoethogi; yn darostwng, ac yn dyrchafu.

2:8 Efe sydd yn cyfodi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r tomennau, i’w gosod gyda thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant: canys eiddo yr ARGLWYDD colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt.

2:9 Traed ei saint a geidw efe, a’r annuwiolion a ddistawant mewn tywyllwch: canys nid trwy nerth y gorchfyga gŵr.

2:10 Y rhai a ymrysonant â’r ARGLWYDD, a ddryllir: efe a darana yn eu herbyn hwynt o’r nefoedd: yr ARGLWYDD a farn derfynau y ddaear; ac a ddyry nerth i’w frenin, ac a ddyrchafa gorn ei eneiniog.

2:11 Ac Elcana a aeth i Rama i’w dŷ; a’r bachgen a fu weinidog i’r ARGLWYDD gerbron Eli yr offeiriad.

2:12 A meibion Eli oedd feibion Belial: nid adwaenent yr ARGLWYDD.

2:13 A defod yr offeiriad gyda’r bobl oedd, pan offrymai neb aberth, gwas yr offeiriad a ddeuai pan fyddai y cig yn berwi, a chigwain dridant yn ei law;

2:14 Ac a’i trawai hi yn y badell, neu yn yr efyddyn, neu yn y crochan, neu yn y pair: yr hyn oll a gyfodai y gigwain, a gymerai yr offeiriad iddo. Felly y gwnaent yn Seilo i holl Israel y rhai oedd yn dyfod yno.

2:15 Hefyd cyn arogl-losgi ohonynt y braster, y deuai gwas yr offeiriad hefyd, ac a ddywedai wrth y gŵr a fyddai yn aberthu, Dyro gig i’w rostio i’r offeiriad: canys ni fyn efe gennyt gig berw, ond amrwd.

2:16 Ac os gŵr a ddywedai wrtho, Gan losgi llosgant yn awr y braster, ac yna cymer fel yr ewyllysio dy galon: yntau a ddywedai wrtho, Nage; yn awr y rhoddi ef: ac onid e, mi a’i cymeraf trwy gryfder.

2:17 Am hynny pechod y llanciau oedd fawr iawn gerbron yr ARGLWYDD: canys ffieiddiodd dynion offrwm yr ARGLWYDD.

2:18 A Samuel oedd yn gweini o flaen yr ARGLWYDD, yn fachgen, wedi ymwregysu ag effod liain.

2:19 A’i fam a wnâi iddo fantell fechan, ac a’i dygai iddo o flwyddyn i flwyddyn, pan ddelai hi i fyny gyda’i gŵr i aberthu yr aberth blynyddol.

2:20 Ac Eli a fendithiodd Elcana a’i wraig, ac a ddywedodd, Rhodded yr ARGLWYDD i ti had o’r wraig hon, am y dymuniad a ddymunodd gan yr AR¬GLWYDD. A hwy a aethant i’w mangre eu hun.

2:21 A’r ARGLWYDD a ymwelodd â Hanna; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar dri o feibion, a dwy o ferched: a’r bachgen Samuel a gynyddodd gerbron yr ARGLWYDD.

2:22 Ac Eli oedd hen iawn; ac efe a glybu yr hyn oll a wnaethai ei feibion ef i holl Israel, a’r modd y gorweddent gyda’r gwragedd oedd yn ymgasglu yn finteioedd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

2:23 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Paham y gwnaethoch y pethau hyn? canys clywaf gan yr holl bobl hyn ddrygair i chwi.

2:24 Nage, fy meibion: canys nid da y gair yr ydwyf fi yn ei glywed; eich bod chwi yn peri i bobl yr ARGLWYDD droseddu.

2:25 Os gŵr a becha yn erbyn gŵr, y swyddogion a’i barnant ef: ond os yn erbyn yr ARGLWYDD y pecha gŵr, pwy a eiriol drosto ef? Ond ni wrandawsant ar lais eu tad, am y mynnai yr ARGLWYDD eu lladd hwynt.

2:26 A’r bachgen Samuel a gynyddodd, ac a aeth yn dda gan DDUW, a dynion hefyd.

2:27 A daeth gŵr i DDUW at Eli, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Onid gan ymddangos yr ymddangosais i dŷ dy dad, pan oeddynt yn yr Aifft yn nhŷ Pharo?

2:28 Gan ei ddewis ef hefyd o holl lwythau Israel yn offeiriad i mi, i offrymu ar fy allor, i losgi arogl-darth, i wisgo effod ger fy mron? oni roddais hefyd i dŷ dy dad di holl ebyrth tanllyd meib¬ion Israel?

2:29 Paham y sethrwch chwi fy aberth a’m bwyd-offrwm, y rhai a orchmynnais yn fy nhrigfa, ac yr anrhydeddi dy feibion yn fwy na myfi, gan eich pesgi eich hunain â’r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel?

2:30 Am hynny medd ARGLWYDD DDUW Israel, Gan ddywedyd y dywedais, Dy dŷ di a thŷ dy dad a rodiant o’m blaen i byth: eithr yn awr medd yr ARGLWYDD, Pell fydd hynny oddi wrthyf fi; canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a’m dirmygwyr a ddirmygir.

2:31 Wele y dyddiau yn dyfod, pan dorrwyf dy fraich di, a braich tŷ dy dad,; fel na byddo hen ŵr yn dy dŷ di.

2:32 A thi a gei weled gelyn yn fy nhrigfa, yn yr hyn oll a wna Duw o ddaioni i Israel: ac ni bydd hen ŵr yn dy dŷ di byth.

2:33 A’r gŵr o’r eiddot, yr hwn ni thorraf ymaith oddi wrth fy allor, fydd i beri i’th lygaid ballu, ac i beri i’th galon ofidio: a holl gynnyrch dy dŷ di a fyddant feirw yn wŷr.

2:34 A hyn fydd i ti yn arwydd, yr hwn a ddaw ar dy ddau fab, ar Hoffni a Phinees: Yn yr un dydd y byddant feirw ill dau.

2:35 A chyfodaf i mi offeiriad ffyddlon a wna yn ôl fy nghalon a’m meddwl; a mi a adeiladaf iddo ef dŷ sicr, ac efe a rodia gerbron fy eneiniog yn dragywydd.

2:36 A bydd i bob un a adewir yn dy dŷ di ddyfod ac ymgrymu iddo ef am ddernyn o arian a thamaid o fara, a dywedyd, Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth, i gael bwyta tamaid o fara.

PENNOD 3

3:1 AR bachgen Samuel a wasanaethodd yr ARGLWYDD gerbron Eli. A gair yr ARGLWYDD oedd werthfawr yn y dyddiau hynny; nid oedd weledigaeth eglur.

3:2 A’r pryd hwnnw, pan oedd Eli yn gorwedd yn ei fangre, wedi i’w lygaid ef ddechrau tywyllu, fel na allai weled;

3:3 A chyn i lamp Dew ddiffoddi yn nheml yr ARGLWYDD, lle yr oedd arch Duw, a Samuel oedd wedi gorwedd i gysgu:

3:4 Yna y galwodd yr ARGLWYDD ar Samuel. Dywedodd yntau, Wele fi.

3:5 Ac efe a redodd at Eli, ac a ddywed¬odd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Ni elwais i; dychwel a gorwedd. Ac efe a aeth ac a orweddodd.

3:6 A’r ARGLWYDD a alwodd eilwaith, Samuel. A Samuel a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Na elwais, fy mab; dychwel a gorwedd.

3:7 Ac nid adwaenai Samuel eto yr ARGLWYDD, ac nid eglurasid iddo ef air yr ARGLWYDD eto.

3:8 A’r ARGLWYDD a alwodd Samuel drachefn y drydedd waith. Ac efe a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywed¬odd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. A deallodd Eli mai yr ARGLWYDD a alwasai ar y bachgen.

3:9 Am hynny Eli a ddywedodd wrth Samuel, Dos, gorwedd: ac os geilw efe arnat, dywed, Llefara, ARGLWYDD; canys y mae dy was yn clywed. Felly Samuel a aeth ac a orweddodd yn ei le.

3:10 A daeth yr ARGLWYDD, ac a safodd, ac a alwodd megis o’r blaen, Samuel, Samuel. A dywedodd Samuel, Llefara; canys y mae dy was yn clywed.

3:11 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, Wele fi yn gwneuthur peth yn Israel, yr hwn pwy bynnag a’i clywo, fe a ferwina ei ddwy glust ef.

3:12. Yn y dydd hwnnw y dygaf i ben yn erbyn Eli yr hyn oll a ddywedais am ei dŷ ef, gan ddechrau a diweddu ar unwaith.

3:13 Mynegais hefyd iddo ef, y barnwn ei dŷ ef yn dragywydd, am yr anwiredd a ŵyr efe; oherwydd i’w feibion haeddu iddynt felltith, ac nas gwaharddodd efe iddynt.

3:14 Ac am hynny y tyngais wrth dŷ Eli, na wneir iawn am anwiredd tŷc Eli ag aberth, nac a bwyd-offrwm byth.

3:15 A Samuel a gysgodd hyd y bore, ac a agorodd ddrysau tŷ yr ARGLWYDD; a Samuel oedd yn ofni mynegi y weledig¬aeth i Eli.

3:16 Ac Eli a alwodd ar Samuel, ac a ddywedodd, Samuel fy mab. Yntau a ddywedodd, Wele fi.

3:17 Ac efe a ddywedodd, Beth yw y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrthyt? na chela, atolwg, oddi wrthyf: fel hyn y gwnelo Duw i ti, ac fel hyn y chwanego, os celi oddi wrthyf ddim o’r holl bethau a lefarodd efe wrthyt.

3:18 A Samuel a fynegodd iddo yr holl eiriau, ac nis celodd ddim rhagddo. Dywedodd yntau, Yr ARGLWYDD yw efe: gwnaed a fyddo da yn ei olwg.

3:l9 A chynyddodd Samuel; a’r AR¬GLWYDD oedd gydag ef, ac ni adawodd i un o’i eiriau ef syrthio i’r ddaear.

3:20 A gwybu holl Israel, o Dan hyd Beerseba, mai proffwyd ffyddlon yr ARGLWYDD oedd Samuel.

3:21 A’r ARGLWYDD a ymddangosodd drachefn yn Seilo: canys yr ARGLWYDD a ymeglurhaodd i Samuel yn Seilo trwy air yr ARGLWYDD. ‘

PENNOD 4

4:1 A daeth gair Samuel i holl Israel. Ac Israel a aeth yn erbyn y Philistiaid i ryfel: a gwersyllasant gerllaw Ebeneser: a’r Philistiaid a wersyllasant yn Affec.

4:2 A’r Philistiaid a ymfyddinasant yn erbyn Israel: a’r gad a ymgyfarfu, a lladdwyd Israel o flaen y Philistiaid: a hwy a laddasant o’r fyddin yn y maes ynghylch pedair mil o wŷr.

4:3 A phan ddaeth y bobl i’r gwersyll, henuriaid Israel a ddywedasant, Paham y trawodd yr ARGLWYDD ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr ARGLWYDD, a deled i’n mysg ni; fel y cadwo hi ni o law ein gelynion.

4:4 Felly y bobl a anfonodd i Seilo, ac a ddygasant oddi yno arch cyfamod AR¬GLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd yn aros rhwng y ceriwbiaid: ac yno ye oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees, gydag arch cyfamod Duw.

4:5 A phan ddaeth arch cyfamod yr ARGLWYDD i’r gwersyll, holl Israel a floeddiasant a bloedd fawr, fel y datseiniodd y ddaear.

4:6 A phan glybu’r Philistiaid lais y floedd, hwy a ddywedasant, Pa beth yw llais y floedd fawr hon yng ngwersyll yr Hebreaid? A gwybuant mai arch yr ARGLWYDD a ddaethai i’r gwersyll.

4:7 A’r Philistiaid a ofnasant: oherwydd hwy a ddywedasant, Daeth Duw i’r gwersyll. Dywedasant hefyd, Gwae ni! canys ni bu’r fath beth o flaen hyn.

4:8 Gwae ni! pwy a’n gwared ni o law y duwiau nerthol hyn? Dyma y duwiau a drawsant yr Eifftiaid a’r holl blâu yn yr anialwch.

4:9 Ymgryfhewch, a byddwch wŷr, O Philistiaid; rhag i chwi wasanaethu’r Hebreaid, fel y gwasanaethasant hwy chwi: byddwch wŷr, ac ymleddwch.

4:10 A’r Philistiaid a ymladdasant; a lladdwyd Israel, a ffodd pawb i’w babell: a bu lladdfa fawr iawn; canys syrthiodd o Israel ddeng mil ar hugain o wŷr traed.

4:11 Ac arch Duw a ddaliwyd; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, a fuant feirw.

4:12 A gŵr o Benjamin a redodd o’r fyddin, ac a ddaeth i Seilo y diwrnod hwnnw, a’i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben.

4:13 A phan ddaeth efe, wele Eli yn eistedd ar eisteddfa gerllaw y ffordd, yn disgwyl: canys yr oedd ei galon ef yn ofni am arch Duw. A phan ddaeth y gŵr i’r ddinas, a mynegi hyn, yr holl ddinas a waeddodd.

4:14 A phan glywodd Eli lais y waedd, efe a ddywedodd, Beth yw llais y cynnwrf yma? A’r gŵr a ddaeth i mewn ar frys, ac a fynegodd i Eli.

4:15 Ac Eli oedd fab tair blwydd ar bymtheg a phedwar ugain; a phallasai ei lygaid ef, fel na allai efe weled.

4:16 A’r gŵr a ddywedodd wrth Eli, Myfi sydd yn dyfod o’r fyddin, myfi hefyd a ffoais heddiw o’r fyddin. A dywedodd yntau. Pa beth a ddigwyddodd, fy mab?

4:17 A’r gennad a atebodd, ac a ddywed¬odd, Israel a ffodd o flaen y Philistiaid; a bu hefyd laddfa fawr ymysg y bobl, a’th ddau fab hefyd, Hoffni a Phinees, a fuant feirw, ac arch Duw a ddaliwyd.

4:18 A phan grybwyllodd efe am arch Duw, yntau a syrthiodd oddi ar yr eisteddle yn wysg ei gefn gerllaw y porth; a’i wddf a dorrodd, ac efe a fu farw: canys y gŵr oedd hen a thrwm. Ac efe a farnasai Israel ddeugain mlynedd.

4:19 A’i waudd ef, gwraig Phinees, oedd feichiog, yn agos i esgor: a phan glybu son ddarfod dal arch Duw, a marw o’i chwegrwn a’i gŵr, hi a ymgrymodd, ac a glafychodd: canys ei gwewyr a ddaeth arni.

4:20 Ac ynghylch y pryd y bu hi farw, y dywedodd y gwragedd oedd yn sefyll gyda hi, Nac ofna; canys esgoraist ar fab. Ond nid atebodd hi, ac nid ystyriodd.

4:21 A hi a alwodd y bachgen Ichabod; gan ddywedyd, Y gogoniant a ymadawodd o Israel; (am ddal arch Duw, ac am ei chwegrwn a’i gŵr.)

4:22 A hi a ddywedodd, Y gogoniant a ymadawodd o Israel; canys arch Duw a ddaliwyd.

PENNOD 5

5:1 A’r Philistiaid a gymerasant arch Duw, ac a’i dygasant hi o Ebeneser i Asdod.

5:2 A’r Philistiaid a gymerasant arch Duw, ac a’i dygasant i mewn i dŷ Dagon, ac a’i gosodasant yn ymyl Dagon.

5:3 A’r Asdodiaid a gyfodasant yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr ARGLWYDD. A hwy a gymerasant Dagon, ac a’i gosodasant eilwaith yn ei le.

5:4 Codasant hefyd yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr ARGLWYDD: a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylo, oedd wedi torri ar y trothwy; corff Dagon yn unig a adawyd iddo ef.

5:5 Am hynny ni sathr offeiriaid Dagon, na neb a ddelo i mewn i dŷ Dagon, ar drothwy Dagon yn Asdod, hyd y dydd hwn.

5:6 A thrwm fu llaw yr ARGLWYDD ar yr Asdodiaid; ac efe a’u distrywiodd hwynt, ac a’u trawodd hwynt, sef Asdod a’i therfynau, â chlwyf y marchogion.

5:7 A phan welodd gwŷr Asdod mai felly yr oedd, dywedasant, Ni chaiff arch Duw Israel aros gyda ni: canys caled yw ei law ef arnom, ac ar Dagon ein duw.

5:8 Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid atynt; ac a ddywedasant, Beth a wnawn ni i arch Duw Israel? A hwy a atebasant, Dyger arch Duw Israel o amgylch i Gath. A hwy a ddygasant arch Duw Israel oddi amgylch yno.

5:9 Ac wedi iddynt ei dwyn hi o amgylch, bu llaw yr ARGLWYDD yn erbyn y ddinas a dinistr mawr iawn: ac efe a drawodd wŷr y ddinas o fychan hyd fawr, a chlwyf y marchogion oedd yn eu dirgel leoedd.

5:10 Am hynny yr anfonasant hwy arch Duw i Ecron. A phan ddaeth arch Duw i Ecron, yr Ecroniaid a waeddasant, gan ddywedyd, Dygasant atom ni o amgylch arch Duw Israel, i’n lladd ni a’n pobl.

5:11 Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid: ac a ddywedasant, Danfonwch ymaith arch Duw Israel, a dychweler hi adref; fel na laddo hi ni a’n pobl: canys dinistr angheuol oedd trwy’r holl ddinas; trom iawn oedd llaw Duw yno.

5:12 A’r gwŷr, y rhai ni buant feirw, a drawyd â chlwyf y marchogion: a gwaedd y ddinas a ddyrchafodd i’r nefoedd.

PENNOD 6

6:1 A bu arch yr ARGLWYDD yng ngwlad y Philistiaid saith o fisoedd.

6:2 A’r Philistiaid a alwasant am yr offeiriaid ac am y dewiniaid, gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i arch yr AR¬GLWYDD? hysbyswch i ni pa fodd yr anfonwn hi adref.

6:3 Dywedasant hwythau, Os ydych ar ddanfon ymaith arch Duw Israel, nac anfonwch hi yn wag; ond gan roddi rhoddwch iddo offrwm dros gamwedd: yna y’ch iacheir, ac y bydd hysbys i chwi paham nad ymadawodd ei law ef oddi wrthych chwi.

6:4 Yna y dywedasant hwythau, Beth fydd yr offrwm dros gamwedd a roddwn iddo? A hwy a ddywedasant. Pump o ffolennau aur, a phump o lygod aur, yn ôl rhif arglwyddi’r Philistiaid: canys yr un pla oedd arnoch chwi oll, ac ar eich arglwyddi.

6:5 Am hynny y gwnewch luniau eich ffolennau, a lluniau eich llygod sydd yn difwyno’r tir; a rhoddwch ogoniant i DDUW Israel: ysgatfydd efe a ysgafnha ei law oddi arnoch, ac oddi ar eich duwiau, ac oddi ar eich tir.

6:6 A phaham y cailedwch chwi eich calonnau, megis y caledodd yr Eifftiaid a Pharo eu calon? pan wnaeth efe yn rhyfeddol yn eu plith hwy, oni ollyngasant hwy hwynt i fyned ymaith?

6:7 Yn awr gan hynny gwnewch fen newydd, a chymerwch ddwy fuwch flith, y rhai nid aeth iau arnynt; a deliwch y buchod dan y fen, a dygwch eu lloi hwynt oddi ar eu hôl i dŷ:

6:8 A chymerwch arch yr ARGLWYDD, a rhoddwch hi ar y fen; a’r tlysau aur, y rhai a roddasoch iddi yn offrwm dros gamwedd, a osodwch mewn cist wrth ei hystlys hi, a gollyngwch hi i fyned ymaith.

6:9 Ac edrychwch, os â hi i fyny ar hyd ffordd ei bro ei hun i Bethsemes; yna efe a wnaeth i ni y mawr ddrwg hwn: ac onid e, yna y cawn wybod nad ei law ef a’n trawodd ni; ond mai damwain oedd hyn i ni.

6:10 A’r gwŷr a wnaethant felly: ac a gymerasant ddwy fuwch flithion, ac a’u daliasant hwy dan y fen, ac a gaeasant eu lloi mewn tŷ:

6:11 Ac a osodasant arch yr ARGLWYDD ar y fen, a’r gist â’r llygod aur, a lluniau eu ffolennau hwynt.

6:12 A’r buchod a aethant ar hyd y ffordd union i ffordd Bethsemes; ar hyd y briffordd yr aethant, dan gerdded a brefu, ac ni throesant tua’r llaw ddeau na thua’r aswy; ac arglwyddi’r Philistiaid a aethant ar eu hôl hyd derfyn Bethsemes.





6:13 A thrigolion Bethsemes oedd yn medi eu cynhaeaf gwenith yn y dyffryn: ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a ganfuant yr arch; ac a lawenychasant wrth ei gweled.

6:14 A’r fen a ddaeth i faes Josua y Bethsemesiad, ac a safodd yno; ac yno yr oedd maen mawr: a hwy a holltasant goed y fen, ac a offrymasant y buchod yn boethoffrwm i’r ARGLWYDD.

6:15 A’r Lefiaid a ddisgynasant arch yr ARGLWYDD, a’r gist yr hon oedd gyda hi, yr hon yr oedd y tlysau aur ynddi, ac a’u gosodasant ar y maen mawr: a gwŷr Bethsemes a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant ebyrth i’r ARGLWYDD y dydd hwnnw.

6:16 A phum arglwydd y Philistiaid, pan welsant hynny, a ddychwelasant i Ecron y dydd hwnnw.

6:17 A dyma’r ffolennau aur, y rhai a roddodd y Philistiaid yn offrwm dros gamwedd i’r ARGLWYDD; dros Asdod un, dros Gasa un, dros Ascalon un, dros Gath un, dros Ecron un:

6:18 A’r llygod aur, yn ôl rhifedi holl ddinasoedd y Philistiaid, yn perthynu i’r pum arglwydd, yn gystal y dinasoedd caerog, a’r trefi heb gaerau, hyd y maen mawr Abel, yr hwn y gosodasant arno arch yr ARGLWYDD; yr hwn sydd hyd y dydd hwn ym maes Josua y Beth¬semesiad.

6:19 Ac efe a drawodd wŷr Bethsemes, am iddynt edrych yn arch yr ARGLWYDD, ie, trawodd o’r bobl ddengwr a thrigain a deng mil a deugain o wŷr. A’r bobl a alarasant, am i’r ARGLWYDD daro’r bobl â lladdfa fawr.

6:20 A gwŷr Bethsemes a ddywedasant, Pwy a ddichon sefyll yn wyneb yr ARGLWYDD DDUW sanctaidd hwn? ac at bwy yr ai efe oddi wrthym ni?

6:21 A hwy a anfonasant genhadau at drigolion Ciriath-jearim, gan ddywedyd, Y Philistiaid a ddygasant adref arch yr ARGLWYDD; deuwch i waered, a chyrchwch hi i fyny atoch chwi.

PENNOD 7

7:1 A gwŷr Ciriath-jearim a ddaethant, ac a gyrchasant i fyny arch yr ARGLWYDD, ac a’i dygasant hi i dŷ Abinadab, yn y bryn, ac a sancteiddiasant Eleasar ei fab ef i gadw arch yr ARGLWYDD.

7:2 Ac o’r dydd y trigodd yr arch yn Ciriath-jearim, y bu ddyddiau lawer; nid amgen nag ugain mlynedd: a holl dŷ Israel a alarasant ar ôl yr ARGLWYDD.

7:3 A Samuel a lefarodd wrth holl dŷ Israel, gan ddywedyd, Os dychwelwch; chwi at yr ARGLWYDD â’ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau dieithr o’ch mysg, ac Astaroth, a pharatowch eich calon at yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef yn unig; ac efe a’ch gwared chwi o law y Philistiaid.

7:4 Yna meibion Israel a fwriasant ymaith Baalim ac Astaroth, a’r AR¬GLWYDD yn unig a wasanaethasant.

7:5 A dywedodd Samuel, Cesglwch holl Israel i Mispa, a mi a weddïaf drosoch chwi at yr ARGLWYDD.

7:6 A hwy a ymgasglasant i Mispa, ac a dynasant ddwfr, ac a’i tywalltasant gerbron yr ARGLWYDD, ac a ymprydiasant y diwrnod hwnnw, ac a ddywedasant yno, Pechasom yn erbyn yr ARGLWYDD. A Samuel a farnodd feibion Israel ym Mispa.

7:7 A phan glybu y Philistiaid fod meibion Israel wedi ymgasglu i Mispa, arglwyddi’r Philistiaid a aethant i fyny yn erbyn Israel: a meibion Israel a glywsant, ac a ofnasant rhag y Philistiaid.

7:8 A meibion Israel a ddywedasant wrth Samuel, Na thaw di â gweiddi drosom at yr ARGLWYDD ein Duw, ar iddo ef ein gwared ni o law y Philistiaid.

7:9 A Samuel a gymerth laethoen, ac a’i hoffrymodd ef i gyd yn boethoffrwm i’r ARGLWYDD: a Samuel a waeddodd ar yr ARGLWYDD dros Israel; a’r ARGLWYDD a’i gwrandawodd ef.

7:10 A phan oedd Samuel yn offrymu’r poethoffrwm, y Philistiaid a nesasant i ryfel yn erbyn Israel: a’r ARGLWYDD a daranodd â tharanau mawr yn erbyn y Philistiaid y diwrnod hwnnw, ac a’u drylliodd hwynt, a lladdwyd hwynt o flaen Israel.

7:11 A gwŷr Israel a aethant o Mispa, ac a erlidiasant y Philistiaid, ac a’u trawsant hyd oni ddaethant dan Bethcar.

7:12 A chymerodd Samuel faen, ac a’i gosododd rhwng Mispa a Sen, ac a alwodd ei enw ef Ebeneser; ac a ddywedodd, Hyd yma y cynorthwyodd yr ARGLWYDD nyni.

7:13 Felly y darostyngwyd y Philistiaid, ac ni chwanegasant mwyach ddyfod i derfyn Israel: a llaw yr ARGLWYDD a fu yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Samuel.

7:14 A’r dinasoedd, y rhai a ddygasai y Philistiaid oddi ar Israel, a roddwyd adref i Israel, o Ecron hyd Gath; ac Israel a ryddhaodd eu terfynau o law y Philistiaid: ac yr oedd heddwch rhwng Israel a’r Amoriaid.

7:15 A Samuel a farnodd Israel holl ddyddiau ei fywyd.

7:16 Aeth hefyd o flwyddyn i flwyddyn oddi amgylch i Bethel, a Gilgal, a Mispa, ac a farnodd Israel yn yr holl leoedd hynny.

7:17 A’i ddychwelfa ydoedd i Rama; canys yno yr oedd ei dŷ ef: yno hefyd y barnai efe Israel, ac yno yr adeiladodd efe allor i’r ARGLWYDD.

PENNOD 8

º1 AC wedi heneiddio Samuel, efe a osododd ei feibion yn farnwyr ar Israel.

º2 Ac enw ei fab cyntaf-anedig ef oedd Joel; ac enw yr ail, Abeia: y rhai hyn oedd farnwyr yn Beerseba.

º3 A’i feibion ni rodiasant yn ei ffyrdd ef, eithr troesant ar ôl cybydd-dra, a chymerasant obrwy, a gwyrasant farn.

º4 Yna holl henuriaid Israel a ymgasglasant, ac a ddaethant at Samuel i Rama,

º5 Ac a ddywedasant wrtho ef, Wele, ti a heneiddiaist, a’th feibion ni rodiant yn dy ffyrdd di: yn awr gosod arnom ni frenin i’n barnu, megis yr holl genhedloedd.

º6 A’r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel, pan ddywedasant, Dyro i ni frenin i’n barnu: a Samuel a weddïodd ar yr ARGLWYDD.

º7 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, Gwrando ar lais y bobl yn yr hyn oll a ddywedant wrthyt: canys nid ti y maent yn ei wrthod, ond myfi a wrthodasant, rhag i mi deyrnasu arnynt.

º8 Yn ôl yr holl weithredoedd a wnaeihant, o’r dydd y dygais hwynt o’r Aifft hyd y dydd hwn, ac fel y gwrthodasant fi, ac y gwasanaethasant dduwiau dieithr; felly y gwnant hwy hefyd i ti.

º9 Yn awr gan hynny gwrando ar en llais hwynt: eto gan dystiolaethu tystiolaetha iddynt, a dangos iddynt ddull y brenin a deyrnasa arnynt.

º10 A Samuel a fynegodd holl eiriau yr ARGLWYDD wrth y bobl, y rhai oedd yn ceisio brenin ganddo.

º11 Ac efe a ddywedodd, Dyma ddull y brenin a deyrnasa arnoch chwi: Efe a gymer eich meibion, ac a’u gesyd iddo yn ei gerbydau, ac yn wŷr meirch iddo, ac i redeg o flaen ei gerbydau ef:

º12 Ac a’u gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion deg a deugain, ac i aredig ei ar, ac i fedi ei gynhaeaf, ac i wneuthur arfau ei ryfel, a pheiriannau ei gerbydau.

º13 A’ch merched a gymer efe yn apothecaresau, yn gogesau hefyd, ac yn bobyddesau.

º14 Ac efe a gymer eich meysydd, a’ch gwinllannoedd, a’ch olewlannoedd gorau, ac a’u dyry i"w weision.

º15 Eich hadau hefyd a’ch gwinllan¬noedd a ddegyma efe, ac a’u dyry i’w ystafellyddion ac i’w weision.

º16 Eich gweision hefyd, a’ch morynion, eich gwŷr ieuainc gorau hefyd, a’ch asynnod, a gymer efe, ac a’u gesyd i’w waith.

º17 Eich defaid hefyd a ddegyma efe: chwithau hefyd fyddwch yn weision iddo ef.

º18 A’r dydd hwnnw y gwaeddwch, rhag eich brenin a ddewisasoch i chwi: ac ni wrendy yr ARGLWYDD arnoch yn y dydd hwnnw.


º19 Er hynny y bobl a wnhodasant wrando ar lais Samuel; ac a ddywed" asant, Nage, eithr brenin fydd arnom ni:

º20 Fel y byddom ninnau hefyd fel yr holl genhedloedd; a’n brenin a’n barna ni, efe a â allan hefyd o’n blaen ni, ac efe a ymladd ein rhyfeloedd ni.

º21 A gwrandawodd Samuel holl eiriau y bobl, ac a’u hadroddodd hwynt lle y clybu yr ARGLWYDD.

º22 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, Gwrando ar eu llais hwynt, a gosod frenin arnynt. A dywedodd Samuel wrth wŷr Israel, Ewch bob un i’w ddinas ei hun.

PENNOD 9

º1 A yr oedd gŵr o Benjamin, a’i enw Cis, mab Abiel, mab Seror, mab Bechorath, mab Affeia, mab i ŵr o Jemini, yn gadarn o nerth.

º2 Ac iddo ef yr oedd mab, a’i enw Saul, yn ŵr ieuanc, dewisol a glân: as nid oedd neb o feibion Israel lanach nag ef: o’i ysgwydd i fyny yr oedd yn uwch na’r holl bobl.

º3 Ac asynnod Cis, tad Saul, a gyfrgollasant: a dywedodd Cis wrth Saul ei fab, Cymer yn awr un o’r llanciau gyda thi, a chyfod, dos, cais yr asynnod.

º4 Ac efe a aeth trwy fynydd Effrairn, ac a dramwyodd trwy wlad Salisa, ac nis cawsant hwynt: yna y tramwyasant trwy wlad Salim, ac nis cawsant hwynt: ac efe a aeth trwy wlad Jemini, ond nis cawsant hwynt.

º5 Pan ddaethant i wlad Suff, y dywed¬odd Saul wrth ei lane oedd gydag ef, Tyred, a dychwelwn; rhag i’m tad beidio a’r asynnod, a gofalu amdanom ni.

º6 Dywedodd yntau wrtho ef, Wele, yn awr y mae yn y ddinas hon ŵr i DDUW, a’r gŵr sydd anrhydeddus; yr hyn oll a ddywedo efe, gan ddyfod a ddaw: awn yno yn awr; nid hwyrach y mynega efe i ni y ffordd y mae i ni fyned iddi.

º7 Yna y dywedodd Saul wrth ei lane, Wele, od awn ni, pa beth a ddygwn ni i’r gwr? canys y bara a ddarfu yn ein llestri ni, a gwobr arall nid oes i’w ddwyn i ŵr Duw: beth sydd gennym?

º8 A’r llanc a atebodd eilwaith i Saul, ac a ddywedodd, Wele, cafwyd gyda mi bedwaredd ran sicl o arian: mi a roddaf hynny i ŵr Duw, er mynegi i ni ein ffordd.

º9 (Gynt yn Israel, fel hyn y dywedai gŵr wrth fyned i ymgynghori a Duw; Deuwch, ac awn hyd at y gweledydd: canys y Proffwyd heddiw, a elwid gynt yn Weledydd.)

º10 Yna y dywedodd Saul wrth ei lane, Da y dywedi; tyred, awn. Felly yr aethant i’r ddinas yr oedd gŵr Duw ynddi.

º11 Ac fel yr oeddynt yn myned i riw y ddinas, hwy a gawsant lancesau yn dyfod allan i dynnu dwfr; ac a ddywedasant wrthynt, A yw y gweledydd yma?

º12 Hwythau a’u hatebasant hwynt, ac a ddywedasant, Ydyw; wele efe o’th flaen; brysia yr awr hon; canys heddiw y daeth efe i’r ddinas; oherwydd aberth sydd heddiw gan y bobl yn yr uchelfa.

º13 Pan ddeloch gyntaf i’r ddinas, chwi a’i cewch ef, cyn ei fyned i fyny i’r uchelfa i fwyta; canys ni fwyty y bobl hyd oni ddelo efe, oherwydd efe a fendiga yr aberth; ar ôl hynny y bwyty y rhai a wahoddwyd: am hynny ewch i fyny; canys ynghylch y pryd hwn y cewch ef.

º14 A hwy a aethant i fyny i’r ddinas; a phan ddaethant i ganol y ddinas, wele Samuel yn dyfod i’w cyfarfod, i fyned i fyny i’r uchelfa.

º15 A’r ARGLWYDD a fynegasai yng nghlust Samuel, ddiwrnod cyn dyfod Saul, gan ddywedyd.

º16 Ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf atat ti ŵr o wlad Benjamin; a thi a’i heneini ef yn flaenor ar fy mhobl Israel, ac efe a wared fy mhobl o law y Philistiaid: canys edrychais ar fy mhobl; oherwydd daeth eu gwaedd ataf.

º17 A phan ganfu Samuel Saul, yr AR¬GLWYDD a ddywedodd wrtho ef, Wele y gŵr am yr hwn y dywedais wrthyt: hwn a lywodraetha ar fy mhobl.

º18 Yna Saul a nesaodd at Samuel yng nghanol y porth, ac a ddywedodd, Mynega i mi, atolwg, pa le yma y mae ty y gweledydd.

º19 A Samuel a atebodd Saul, ac a ddywedodd, Myfi yw y gweledydd: dos i fyny o’m blaen i’r uchelfa; canys bwytewch gyda myfi heddiw: a mi a’th ollyngaf y bore, ac a fynegaf i ti yr hyn oll y sydd yn dy galon.

º20 Ac am yr asynnod a gyfrgollasant er ys tridiau, na ofala amdanynt; canys cafwyd hwynt. Ac i bwy y mae hoB bethau dymunol Israel? onid i ti, ac i holl dŷ dy dad?

º21 A Saul a atebodd ac a ddywedodd, Onid mab Jemini ydwyf fi, o’r lleiaf o lwythau Israel? a’m teulu sydd leiaf o holl deuluoedd llwyth Benjamin? a phaham y dywedi wrthyf y modd hyn?

º22 A Samuel a gymerth Saul a’i lane, ac a’u dug hwynt i’r ystafell, ac a roddodd iddynt le o flaen y gwahoddedigion; a hwy oeddynt ynghylch dengwr ar hugain.

º23 A Samuel a ddywedodd wrth y cog, Moes y rhan a roddais atat ti, am yr hon y dywedais wrthyt, Cadw hon gyda thi.

º24 A’r cog a gyfododd yr ysgwyddog, a’r hyn oedd arni, ac a’i gosododd gerbron Saul. A Samuel a ddywedodd, Wele yr hyn a adawyd; gosod ger dy fron, a bwyta: canys hyd y pryd hwn y cadwyd ef i ti, er pan ddywedais, Y bobl a’wahoddais i. A bwytaodd Saul gyda Samuel y dydd hwnnw.

º25 A phan ddisgynasant o’r uchelfa i’r ddinas, Samuel a ymddiddanodd â Saul ar ben y tŷ.

º26 A hwy a gyfodasant yn fore: ac ynghylch codiad y wawr, galwodd Samuel ar Saul i ben y tŷ, gan ddy¬wedyd, Cyfod, fel y’th hebryngwyf ymaith. A Saul a gyfododd, ac efe a Samuel a aethant ill dau allan.

º27 Ac fel yr oeddynt yn myned i waered i gŵr eithaf y ddinas, Samuel a ddywedodd wrth Saul, Dywed wrth y llanc am fyned o’n blaen ni; (felly yr aeth efe;) ond saf di yr awr hon, a mynegaf i ti air Duw.

PENNOD 10

º1 YNA Samuel a gymerodd ffiolaid o olew, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef, ac a’i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid yr ARGLWYDD a’th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth?

º2 Pan elych di heddiw oddi wrthyf, yna y cei ddau ŵr wrth fedd Rahel, yn nherfyn Benjamin, yn Selsa: a hwy a ddywedant wrthyt, Cafwyd yr asynnod yr aethost i’w ceisio: ac wele, dy dad a ollyngodd heibio chwedl yr asynnod, a gofalu y mae amdanoch chwi, gan ddy¬wedyd, Beth a wnaf am fy mab?

º3 Yna yr ei di ymhellach oddi yno, ac y deui hyd wastadedd Tabor: ac yno y’th gyferfydd tri wŷr yn myned i fyny at DDUW i Bethel; un yn dwyn tri o fynnod, ac un yn dwyn tair torth o fara, ac un yn dwyn costrelaid o win.

º4 A hwy a gyfarchant well i ti, ac a roddant i ti ddwy dorth o fara; y rhai a gymeri o’u llaw hwynt.

º5 Ar ôl hynny y deui i fryn Duw, yn yr hwn y mae sefyllfa y Philistiaid: a phan ddelych yno i’r ddinas, ti a gyfarfyddi a thyrfa o broffwydi yn disgyn o’r uchelfa, ac o’u blaen hwynt nabi, a thympan, a phibell, a thelyn; a hwythau yn proffwydo.

º6 Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddaw arnat ti; a thi a broffwydi gyda hwynt, ac a droir yn ŵr arall.

º7 A phan ddelo yr argoelion hyn i ti, gwna fel y byddo yr achos: canys Duw sydd gyda thi. ."

º8 A dos i waered o’m blaen i Gilgal: ac wele, mi a ddeuaf i waered atat ti, i offrymu oifrymau poeth, ac i aberthu ebyrth hedd: aros amdanaf saith niwmod, hyd oni ddelwyf atat, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych.

º9 A phan drodd efe ei gefn i fyned oddi wrth Samuel, Duw a roddodd iddo galon arall: a’r holl argoelion hynny a ddaethant y dydd hwnnw i ben.

º10 A phan ddaethant yno i’r bryn, wele fintai o broffwydi yn ei gyfarfbd ef: ac ysbryd Duw a ddaeth arno yntau, ac efe a broffwydodd yn eu mysg hwynt.


º11 A phawb a’r a’i hadwaenai ef o’r blaen a edrychasant; ac wele efe gyda’r proffwydi yn proffwydo. Yna y bobl a ddywedasant bawb wrth ei gilydd, Beth yw hyn a ddaeth i fab Cis? A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?

º12 Ac un oddi yno a atebodd, ac a ddywedodd, Eto pwy yw eu tad hwy? Am hynny yr aeth yn ddihareb, A ydyw’ Saul hefyd ymysg y proffwydi?

º13 Ac wedi darfod iddo broffwydo, efe a ddaeth i’r uchelfa.

º14 Ac ewythr Saul a ddywedodd wrtho ef, ac wrth ei lane ef, I ba le yr aethoch? Ac efe a ddywedodd, I geisio’r asymiod: a phan welsom nas ceid, ni a ddaethom at Samuel.

º15 Ac ewythr Saul a ddywedodd, Mynega, atolwg, i mi, beth a ddywedodd Samuel wrthych chwi.

º16 A Saul a ddywedodd wrth ei ewythr, Gan fynegi mynegodd i ni fod yr asynnod wedi eu cael. Ond am chwedl y frenhiniaeth, yr hwn a ddywedasai Samuel, nid ynganodd efe wrtho.

º17 A Samuel a alwodd y bobl ynghyd at yr ARGLWYDD i Mispa;

º18 Ac a ddywedodd wrth feibion Israel, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel; Myfi a ddygais i fyny Israel o’r Ain’t, ac a’ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid, ac o law yr holl deyrnasoedd, a’r rhai a’ch gorthryment chwi.

º19 A chwi heddiw a wrthodasoch eich Duw, yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddrygfyd, a’ch helbul; ac a ddywedasoch wrtho ef, Nid felly; eithr gosod arnom ni frenin. Am hynny sefwch yr awr hon gerbron yr ARGLWYDD wrth eich llwythau, ac wrth eich miloedd.

º20 A Samuel a barodd i holl lwythau Israel nesau: a daliwyd llwyth Benjamin.

º21 Ac wedi iddo beri i lwyth Benjamin nesau yn ôl eu teuluoedd, daliwyd teulu Matri; a Saul mab Cis a ddaliwyd: a phan geisiasant ef, nis ceid ef.

º22 Am hynny y gofynasant eto i’r ARGLWYDD, a ddeuai y gŵr yno eto. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Wele efe yn ymguddio ymhiith y dodrefn.

º23 A hwy a redasant, ac a’i cyrchasant ef oddi yno. A phan safodd yng nghanol y bobl, yr oedd efe o’i ysgwydd i fyny yn uwch na’r holl bobl.

º24 A dywedodd Samuel wrth yr holl bobl. A welwch chwi yr hwn a ddewisodd yr ARGLWYDD, nad oes neb tebyg iddo ymysg yr holl bobl? A’r holl bobl a floeddiasant, ac a ddywedasant, Byw fyddo’r brenin

º25 Yna Samuel a draethodd gyfraith y deyrnas wrth y bobl, ac a’i hysgrifennodd mewn llyfr, ac a’i gosododd gerbron yr ARGLWYDD. A Samuel a ollyngodd ymaith yr holl bobl, bob un i’w dŷ.

º26 A Saul hefyd a aeth i’w dy ei hun i Gibea; a byddin o’r rhai y cyffyrddasai Duw a’u calon, a aeth gydag ef.

º27 Ond meibion Belial a ddywedasant, Pa fodd y gwared hwn ni? A hwy a’i dirmygasant ef, ac ni ddygasant anrheg iddo ef. Eithr ni chymerodd efe arno glywed hyn.

PENNOD 11

º1 YNA Nahas yr Ammoniad a ddaeth i fyny, ac a wersyllodd yn erbyn Jabes Gilead: a holl wŷr Jabes a ddy¬wedasant wrth Nahas, Gwna gyfamod â ni, ac ni a’th wasanaethwn di.

º2 A Nahas yr Ammoniad a ddywedodd wrthynt, Dan yr amod hyn y cyfamodaf a chwi; i mi gael tynnu pob llygad deau i chwi, fel y gosodwyf y gwaradwydd hwn ar holl Israel.

º3 A henuriaid Jabes a ddywedasant wrtho, Caniata i ni saith niwrnod, fel yr anfonom genhadau i holl derfynau Israel: ac oni bydd a’n gwaredo, ni a ddeuwn allan atat ti.

º4 A’r cenhadau a ddaethant i Gibea Saul, ac a adroddasant y geiriau lle y clybu y bobl. A’r holl bobl a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant.

º5 Ac wele Saul yn dyfod ar ôl y gwartheg o’r maes. A dywedodd Saul, Beth sydd yn peri i’r bobl wylo? Yna yr adroddasant iddo eiriau gwŷr Jabes.

º6 Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Saul, pan glybu efe y geiriau hynny; a’i ddigofaint ef a enynnodd yn ddirfawr.

º7 Ac efe a gymerth bar o ychen, ac a’u drylliodd, ac a’u danfonodd trwy holl derfynau Israel yn llaw y cenhadau; gan ddywedyd, Yr hwn nid elo ar ôl Saul ac ar ôl Samuel, fel hyn y gwneir i’w wartheg ef. Ac ofn yr ARGLWYDD a syrthiodd ar y bobl, a hwy a ddaethant allan yn unfryd.

º8 A phan gyfrifodd efe hwynt yn Besec, meibion Israel oedd dri chan mil, a gwŷr Jwda yn ddeng mil ar hugain.

º9 A hwy a ddywedasant wrth y cen¬hadau a ddaethai, Fel hyn y dywedwch wrth wŷr Jabes Gilead; Yfory, erbyn gwresogi yr haul, bydd i chwi ymwared. A’r cenhadau a ddaethant ac a fynegasant hynny i wŷr Jabes; a hwythau a lawenychasant.

º10 Am hynny gwŷr Jabes a ddywed¬asant, Yfory y deuwn allan atoch chwi; ac y gwnewch i ni yr hyn oll a weloch yn dda.

º11 A bu drannoeth i Saul osod y bobl yn dair byddin; a hwy a ddaethant i ganol y gwersyll yn yr wyliadwriaeth fore, ac a laddasant yr Ammoniaid nes gwresogi o’r dydd: a’r gweddillion a wasgarwyd, fel na thrigodd ohonynt ddau ynghyd.

º12 A dywedodd y bobl wrth Samuel, Pwy yw yr hwn a ddywedodd, A deyrnasa Saul arnom ni? moeswch y gwŷr hynny, fel y rhoddom hwynt i farwolaeth.

º13 A Saul a ddywedodd, Ni roddir neb i farwolaeth heddiw: canys heddiw y gwnaeth yr ARGLWYDD ymwared yn Israel.

º14 Yna Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Deuwch, fel yr elom i Gilgal, ac yr adnewyddorn y frenhiniaeth yno.

º15 A’r holl bobl a aethant i Gilgal, ac yno y gwnaethant Saul yn frenin, ger¬bron yr ARGLWYDD yn Gilgal: a hwy a aberthasant yno ebyrth hedd gerbron yr ARGLWYDD. A Saul a lawenychodd yno, a holl wŷr Israel, yn ddirfawr.

PENNOD 12

º1 A SAMUEL a ddywedodd wrth holl Israel, Wele, gwrandewais ar eich llais yn yr hyn oll a ddywedasoch wrthyf, a gosodais frenin arnoch.

º2 Ac yr awr hon, wele y brenin yn rhodio o’ch blaen chwi: a minnau a heneiddiais, ac a benwynnais; ac wele fy meibion hwythau gyda chwi; a minnau a rodiais o’ch blaen chwi o’m mebyd hyd y dydd hwn.

º3 Wele ft; tysdolaethwch i’m herbyn gerbron yr ARGLWYDD, a cherbron ei eneiniog: ych pwy a gymerais? neu asyn pwy a gymerais? neu pwy a dwyllais? neu pwy a orthrymais i? neu o law pwy y cymerais wobr, i ddallu fy llygaid ag ef? a mi a’i talaf i chwi.

º4 A hwy a ddywedasant, Ni thwyllaist ni, ni orthrymaist ni chwaith, ac ni chymeraist ddim o law neb.

º5 Dywedodd yntau wrthynt, Yr ARGLWYDD sydd dyst yn eich erbyn chwi, ei eneiniog ef hefyd sydd dyst y dydd hwn, na chawsoch ddim yn fy llaw i. A’r bobl a ddywedasant, Tyst ydyw.

º6 A Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Yr ARGLWYDD yw yr hwn a fawrhaodd Moses ac Aaron, a’r hwn a ddug i fyny eich tadau chwi o dir yr AifTt.

º7 Yn awr gan hynny sefwch, fel yr ymresymwyf â chwi gerbron yr AR¬GLWYDD, am holl gyfiawnderau yr AR¬GLWYDD, y rhai a wnaeth efe i chwi ac i’ch tadau.

º8 Wedi i Jacob ddyfod i’r Ain’t, a gweiddi o’ch tadau chwi ar yr ARGLWYDD, yna yr ARGLWYDD a anfonodd Moses ac Aaron: a hwy a ddygasant eich tadau chwi o’r Ain’t, ac a’u cyfleasant hwy yn y lle hwn.

º9 A phan angofiasant yr ARGLWYDD eu Duw, efe a’u gwerthodd hwynt i law Sisera, tywysog milwriaeth Hasor, ac i law y Philistiaid, ac i law brenin Moab; a hwy a ymladdasant i’w herbyn hwynt.

º10 A hwy a waeddasantaryr ARGLWYDD, ac a ddywedasant, Pechasom, am i ni wrthod yr ARGLWYDD, a gwasanaethu Baalim ac Astaroth: er hynny gwared ni yr awr hon o law ein gelynion, a nyni a’th wasanaethwn di


º11 A’r ARGLWYDD a anfonodd Jerwbbaal, a Bedan, a Jefftha, a Samuel, ac a’ch gwaredodd chwi o law eich gelynion 6 amgylch, a chwi a breswyliasoch yn ddiogel.

º12 A phan welsoch fod Nahas brenin meibion Ammon yn dyfod yn eich erbyn, dywedasoch wrthyf, Nage; ond brenin a deyrnasa arnom ni; a’r AR¬GLWYDD eich Duw yn frenin i chwi.

º13 Ac yn awr, wele y brenin a ddewisasoch chwi, a’r hwn a ddymunasoch: ac wele, yr ARGLWYDD a roddes frenin airnoch chwi.

º14 Os ofnwch chwi yr ARGLWYDD, a’i wasanaethu ef, a gwrando ar ei lais, heb anufuddhau gair yr ARGLWYDD; yna y byddwch chwi, a’r brenin hefyd a deyrnasa arnoch, ar ôl yr ARGLWYDD eich Duw.

º15 Ond os chwi ni wrandewch ar lais yr ARGLWYDD, eithr anufuddhau gair yr ARGLWYDD; yna y bydd liaw yr ARGLWYDD yn eich erbyn chwi, fel yn erbyn eich tadau.

º16 Sefwch gan hynny yn awr, a gwelwch y peth mawr hyn a wna yr ARGLWYDD o flaen eich llygaid chwi.

º17 Onid cynhaeaf gwenith yw heddiw? Galwaf ar yr ARGLWYDD; ac efe a ddyry daranau, a glaw: fel y gwybyddoch ac y gweloch, mai mawr yw eich drygioni chwi yr hwn a wnaethoch yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn gofyn i chwi frenin.

º18 Felly Samuel a alwodd ar yr ARGLWYDD; a’r ARGLWYDD a roddodd daranau a glaw y dydd hwnnw; a’r holl bobl a ofnodd yr ARGLWYDD a Samuel yn ddirfawr.

º19 A’r holl bobl a ddywedasant wrth Samuel, Gweddïa dros dy weision ar yr ARGLWYDD dy DDUW, fel na byddom feirw; canys chwanegasom d drygioni ar ein holl bechodau, wrth gcisio i ni frenin.

º20 A dywedodd Samuel wrth y bobl, Nac ofnwch; chwi a wnaethoch yr holl ddrygioni hyn: eto na chiliwcn oddi ar ôl yr ARGLWYDD, ond gwasanaethwch yr ARGLWYDD a’ch holl galon; . .

º21 Ac na chiliwch: canys felly yr aech as ôl oferedd, y rhai ni lesant, ac ni’ch gwaredant; canys ofer ydynt hwy.

º22 Canys ni wrthyd yr ARGLWYDD ei bobl, er mwyn ei enw mawr: oherwydd rhyngodd bodd i’r ARGLWYDD eich gwneuthur chwi yn bobl iddo ei hun.

º23 A minnau, na ato Duw i mi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD, trwy beidio a gweddïo drosoch: eithr dysgaf i chwi. y ffordd dda ac uniawn.:

º24 Yn unig ofnwch yr ARGLWYDD, . a gwasanaethwch ef mewn gwirionedd a’ch holl galon: canys gwelwch faint a wnaeth efe eroch.

º25 Ond os dilynwch ddrygioni, chwi a ‘ch brenin a ddifethir.


PENNOD 13

13:1 SAUL a deyrnasodd un ffavyddyn; ac wedi iddo deyrnasu ddwy flynedd ar Israel,

13:2 Saul a ddewisodd iddo dair mil o Israel; dwy fil oedd gyda Saul ym Michmas ac ym mynydd Bethel, a mil oedd gyda Jonathan yn Gibea Benjamin: a’r bobl eraill a anfonodd efe bawb i’w babell ei hun.

º3 A Jonathan a drawodd sefyllfa y Philistiaid, yr hon oedd yn Geba: a chlybu y Philistiaid hynny. A Saul a ganodd mewn utgorn trwy’r holl dir, gan ddywedyd, Clywed yr Hebreaid.

º4 A holl Israel a glywsant ddywedyd daro o Saul sefyllfa y Philistiaid, a bod Israel yn ffiaidd gan y Philistiaid: a’r bobl a ymgasglodd ar ôl Saul i Gilgal. "

º5 A’r Philistiaid a ymgynullasant i ymladd ag Israel, deng mil ar hugain o gerbydau, a chwe mil o wŷr meirch, a phobl eraiil cyn amied a’r tywod sydd ar fin y môr. A hwy a ddaethant i fyny, ac a wersyllasant ym Michmas, o du y dwyrain i Bethafen.

º6 Pan welodd gwŷr Israel fod yn gyfyng arnynt, (canys gwasgasid ar y bobl,) yna y bobl a ymgudd’asant mewn ogofeydd, ac mewn drysnii?? ac mewn creigiau, ac mewn tyrau, aemewn pydewau.

º7 A rhai o’r Hebreaid a aethant dros yr Iorddonen, i dir Gad a Gilead: a Saul oedd eto yn Gilgal, a’r holl bobl a aethant ar ei ôl ef dan grynu.

º8 Ac efe a arhosodd saith niwrnod, hyd yr amser gosodedig a nodasai Samuel. Ond ni ddaeth Samuel i Gilgal; a’r bobl a ymwasgarodd oddi wrtho ef.

º9 A Saul a ddywedodd, Dygwch ataf fi boethoffrwm, ac ofrrymau hedd. Ac efe a onrymodd y poethonrwm.

º10 Ac wedi darfod iddo offrymu’r poethoffrwm, wele, Samuel a ddaeth: a Saul a aeth allan i’w gyfarfod ef, ac i gyfarch gwell iddo.

º11 A dywedodd Samuel, Beth a wnaethost ti? A Saul a ddywedodd Oherwydd gweled ohonof i’r bobl ymwasgaru oddi wrthyf, ac na ddaethost tithau o fewn y dyddiau gosodedig, ac i’r Philistiaid ymgasglu i Michmas;

º12 Am hynny y dywedais, Y Philistiaid yn awr a ddeuant i waered ataf fi i Gilgal, ac ni weddïais gerbron yr AR¬GLWYDD: am hynny yr anturiais i, ac yr offrymais boethoffrwm.

º13 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ynfyd y gwnaethost: ni chedwaist orchymyn yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a orchmynnodd efe i ti: canys yr ARGLWYDD yn awr a gadarnhasai dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd.,

º14 Ond yn awr ni saif dy frenhiniaeth di: yr ARGLWYDD a geisiodd iddo ŵr wrth fodd ei galon ei hun: yr ARGLWYDD hefyd a orchmynnodd iddo fod yn flaenor ar ei bobl; oherwydd na ched* waist ti yr hyn a orchmynnodd yr AR¬GLWYDD i ti.

º15 A Samuel a gyfododd ac a aeth i fyny o Gilgal i Gibea Benjamin: a chyfrifodd Saul y bobl a gafwyd gydag ef, ynghylch chwe chant o wŷr.;

º16 A Saul a Jonathan ei fab, a’r bobl a gafwyd gyda hwynt, oedd yn aros yn Gibea Benjamin: a’r Philistiaid awersylfcasânt ym Michmas. ., .

º17 A daeth allan 6 wetSyll"y Philist¬iaid anrheithwyr, yn dair byddin: un fyddin a drodd tua ffordd Of&a, tua gwlad Sual;;

º18 A’r fyddin arall a drodd tua ffordd Bethhoron: a’r drydedd fyddin a drodd tua ffordd y terfyn sydd yn edrych tUA dyffryn Seboim, tua’r anialwch.

º19 Ac ni cheid gof trwy holl wlad Israel: canys dywedasai y Philistiaid;} Rhag gwneuthur o’r Hebreaid gleddyfafl neu waywffyn.

º20 Ond holl Israel a aent i waered at y Philistiaid, i flaenllymu bob un ei swch, a’i gwlltwr, a’i fwyell, a’i gaib.

º21 Ond yr oedd llifddur i wneuthut min ar y ceibiau, ac ar y cylltyrau, ac at y picnyrch, ac ar y bwyeill, ac i flaenllymu’r symbylau.

º22 Felly yn nydd y rhyfel ni chaed na chleddyf na gwaywffon yn llaw yr un o’r bobl oedd gyda Saul a Jonathan, ond a gaed gyda Saul a Jonathan ei fab.

º23 A sefyllfa’r Philistiaid a aeth allan i fwlch Michmas.

PENNOD 14

º1 ABU ddyddgwaith i Jonathan mab Saul ddywedyd wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r Philistiaid, yr hon sydd o’r tu hwnt: ond ni fynegodd efe i’w dad.

º2 A Saul a arhosodd yng nghwr Gibea, dan bren pomgranad, yr hwn oedd ym Migron: a’r bobl oedd gydag ef oedd ynghylch chwe channwr;

º3 Ac Ahia mab Ahitub, brawd Ichabod, mab Phinees, mab Eli, offeiriad yr AR¬GLWYDD yn Seilo, oedd yn gwisgo effod. Ac ni wyddai y bobl i Jonathan fyned ymaith.

º4 A rhwng y bylchau, lle ceisiodd Jonathan fyned drosodd at amddiffynfa’r Philistiaid, yr oedd craig serth o’r naill du i’r bwlch, a chraig serth o’r tu arall i’r bwlch; ac enw y naill oedd Boses, ac enw y llall Sene.

º5 A safiad y naill oedd oddi wrth y gogledd ar gyfer Michmas, a’r llall oddi wrth y deau ar gyfer Gibea.

º6 A dywedodd Jonathan with y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef. Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r rhai dienwaededig hyn; nid hwyrach y gweithia yr ARGLWYDD gyda ni: canys nid oes rwystr i’r ARGLWYDD waredu trwy lawer neu trwy ychydig.

º7 A’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ef fi ddywedodd wrtho, Gwna yr hyn oll ydd yn dy galon: cerdda rhagot; wele fi gyda thi fel y mynno dy galon.

º8 Yna y dywedodd Jonathan, Wele, ni awn trosodd at y gwŷr hyn, ac a ymddangoswn iddynt.

º9 Os dywedant fel hyn wrthym, Arhoswch nes i ni ddyfod atoch chwi; yna y spfwn yn ein lle, ac nid awn i fyny atynt hwy.

º10 Ond os fel hyn y dywedant, Deuwch .i fyny atom ni, yna yr awn i fyny: canys yr ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn ein llaw ni; a hyn fydd yn argoel i ni.

º11 A hwy a ymddangosasant ill dau i amddinynfa’r Philistiaid. A’r Philistiaid a ddywedasant, Wele yr Hebreaid yn dyfod allan o’r tyilau y llechasant ynddynt.

º12 A gwŷr yr amddiffynfa a atebasant Jonathan, a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, ac a ddywedasant, Deuwch i fyny atom ni, ac ni a ddangoswn beth i chwi. A dywedodd Jonathan wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau. Tyred i fyny ar fy ôl: eanys yr ARGLWYDD a’u rhoddes hwynt yn llaw Israel.

º13 A Jonathan a ddringodd i fyny ar ei ddwylo, ac ar ei draed; a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ar ei ôl. A hwy a syrthiasant o flaen Jonathan: ei yswain hefyd Qedd yn lladd ar ei ôl ef.

º14 A’r lladdfa gyntaf honno a wnaeth Jonathan a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, oedd ynghylch ugeinwr, megis o fewn ynghylch hanner cyfer dau ych o dir.

º15 A bu fraw yn y gwersyll, yn y maes, ac ymysg yr holl bobl: yr amddinynfa a’r anrheithwyr hwythau hefyd a ddychrynasant: y ddaear hefyd a grynodd, a bu dychryn Duw.

º16 A gwylwyr Saul yn Gibea Benjamin a edrychasant; ac wele y lliaws yn ymwas garu, ac yn myned dan ymguro.

º17 Yna y dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef, Cyfrifwch yn awr, ‘ac edrychwch pwy a aeth oddi wrthym ni. A phan gyfrifasant, wele, Jonathan a chludydd ei arfau nid oeddynt yno.

º18 A Saul a ddywedodd wrth Ahia, Dwg yma arch Duw. (Canys yr oedd arch Dew y pryd hynny gyda meibion Israel.)

º19 A thra yr ydoedd Saul yn ymddiddan a’r offeiriad, y terfysg, yr hwn oedd yng ngwcrsyll y Philistiaid, gan fyned a aeth, ac a anghwanegodd. A Saul a ddywedodd wrth yr offeiriad, Tyn atat dy law.

º20 A Saul a’r holl bobl oedd gydag ef a ymgynullasant, ac a ddaethant i’r rhyfel: ac wele gleddyf pob un yn erbyn ei gyfnesaf; a dinistr mawr iawn cedd yno.

º31 Yr Hebreaid hefyd, y rhai oedd gyda’r Philistiaid o’r blaen, y rhai a aethant i fyny gyda hwynt i’r gwersyll o’r wlad oddi amgylch, hwythau hefyd a etroesant i fod gyda’r Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan.

º22 A holl wŷr Israel, y rhai oedd yn llechu ym mynydd Effraim, a glywsant ffoi o’r Philistiaid; hwythau hefyd a’u herlidiasant hwy o’u hôl yn y rhyfel.

º23 Felly yr achubodd yr ARGLWYDD Israel y dydd hwnnw; a’r ymladd â aeth drosodd i Bethafen.

º24 A gwŷr Israel oedd gyfyng amynt y dydd hwnnw: oherwydd tyngedasai Saul y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd hyd yr hwyr, fel y dialwyf ar fy ngelynion. Felly nid archwaethodd yr un o’r bobl ddim bwyd.

º25 A’r rhai o’r holl wlad a ddaethant i goed, lle yr oedd mêl ar hyd wyneb y tir.

º26 A phan ddaeth y bobl i’r coed, v.’ele y mêl yn diferu; eto ni chododd un ei law at ei enau: canys ofnodd y bobl y llw.

º27 Ond Jonathan ni chlywsai pan dyngedasai ei dad ef y bobl: am hynny efe a estynnodd flaen y wmlen oedd yn ei law, ac a’i gwiychodd yn nil y mêl, ac a drodd ei taiw at ei enau; a’i lygaid a oleuasant.

º28 Yna un o’r bobl’ a atebodd, ac a ddywedodd, Gan dynghedu y tynghedodd dy dad y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd heddiw. A’r bobl oedd luddedig.

º29 Yna y dywedodd Jonathan, Fy nhad a flinodd y wlad. Gwelwch yn awr fel y goleuodd fy llygaid i, oher¬wydd i mi archwaethu ychydig o’r mêl hwn:

º30 Pa faint mwy, pe bwytasai y bobl yn ddiwarafun heddiw o anrhaith eu gelynion, yr hon a gawsant hwy? oni buasai yn awr fwy y lladdfa ymysg y Philistiaid?

º31 A hwy a drawsant y Philistiaid y dydd hwnnw o Michmas hyd Ajalon: a’r bobl oedd ddiffygiol iawn.

º32 A’r bobl a ruthrodd at yr anrhaith, ac a gymerasant ddefaid, a gwartheg, a lloi, ac a’u lladdasant ar y ddaear: a’r bobl a’u bwytaodd gyda’r gwaed.

º33 Yna y mynegasant hwy i Saul, gan ddywedyd, Wele, y bobl sydd yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, gan fwyta ynghyd â’r gwaed. Ac efe a ddywedodd, Troseddasoch: treiglwch ataf fi heddiw faen mawr.

º34 Dywedodd Saul hefyd, Ymwasgerwch ymysg y bobl, a dywedwch wrthynt, Dygwch ataf fi bob un ei ych, a phob un ei lwdn dafad, a lleddwch hwynt yma, a bwytewch; ac na phechwch yn erbyn yr ARGLWYDD, gan fwyta ynghyd â’r gwaed. A’r bobl oll a ddygasant bob un ei ych yn ei law y noswaith honno, ac a’u lladdasant yno.

º35 A Saul a adeiladodd allor i’r AR¬GLWYDD. Hon oedd yr allor gyntaf a adeiladodd efe i’r ARGLWYDD.

º36 A dywedodd Saul, Awn i waered ar ôl y Philistiaid liw nos, ac anrheithiwn hwynt hyd oni oleuo y bore, ac na adawn un ohonynt. Hwythau a ddywedasant, Gwna yr hyn oll fyddo da yn dy olwg. Yna y dywedodd yr offeiriad, Nesawn yma at DDUW.

º37 Ac ymofynnodd Saul a Duw, A af fi i waered ar ôl y Philistiaid? a roddi di hwynt yn llaw Israel? Ond nid atebddd efe ef y dydd hwnnw.

º38 A dywedodd Saul, Dyneswch yrna holl benaethiaid y bobl: mynnwch wybod hefyd, ac edrychwch ym mhwy y bu y pechod hwn heddiw. i

º39 Canys, megis mai byw yr AR¬GLWYDD, yr hwn sydd yn gwaredu Israel, pe byddai hyn yn Jonathan fy mab, diau y llwyr roddir ef i farwolaeth. Ac nid atebodd neb o’r holl bobl ef.

º40 Yna y dywedodd efe wrth holl Israel, Chwi a fyddwch ar y naill du; minnau hefyd a Jonathan fy mab fyddwn ar y tu arall. A dywedodd y bobl wrth Saul, Gwna a fyddo da yn dy olwg.

º41 Am hynny y dywedodd Saul wrth ARGLWYDD DDUW Israel, Dod oleufynag. A daliwyd Jonathan a Saul: oad y bobl a ddihangodd.

º42 Dywedodd Saul hefyd, Bwriwch goelbren rhyngof fi a’Jonathan fy mab. A daliwyd Jonathan.

º43 Yna y dywedodd Saul wrth Jo¬nathan, Mynega i mi beth a wnaethost. A Jonathan a fynegodd iddo, ac a ddy¬wedodd, Gan archwaethu yr archwaethais ychydig o fel ar flaen y wialen oedd yn fy llaw; ac wele, a fyddaf fi farw?

º44 Dywedodd Saul hefyd. Felly gwne1ed Duw i mi, ac felly chwaneged, cnid gan farw y byddi di farw, Jonathan.

º45 A dywedodd y bobl wrth Saul, A leddir Jonathan, yr hwn a v.naeth yr ymwared mawr hyn yn Israel? Na ato Duw: fel mai byw yr ARGLWYDD, ni syrth un o wallt ei ben ef i’r ddaear; canys gyda Duw y gweithiodd efe heddiw. A’r bobl a waredasant Jonathan, fel na laddwyd ef.

º46 Yna Saul a aeth i fyny oddi ar ôl y Philistiaid: a’r Philistiaid a aethant i’w lle eu hun.

º47 Felly y cymerodd Saul y frenhiniaeth ar Israel; ac a ymladdodd yn erbyn ei holl elynion oddi amgylch, yn erbyn Moab, ac yn erbyn meibion Ammon, ac yn erbyn Edom, ac yn erbyn brenhinoedd Soba, ac yn erbyn y Philistiaid: ac yn erbyn pwy bynnag yr wynebodd, efe a brchfygodd.

º48 Cynullodd lu hefyd, a thrawodd Amalec; ac a waredodd Israel o law ei anrheithwyr.

º49 A meibion Saul oedd Jonathan, ac Issui, a Malcisua. Dyma enwau ei ddwy ferch ef: enw yr hynaf oedd Merab, ac enw yr ieuangaf Michal.

º50 Ac enw gwraig Saul oedd Ahinoam merch Ahimaas: ac enw tywysog ei filwriaeth ef oedd Abner mab Ner, ewythr frawd ei dad i Saul.

º51 Cis hefyd oedd dad Saul; a Ner tad Abner oedd fab Abiel.

º52 A bu ryfel caled yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Saul: a phan welai Saul ŵr glew a nerthol, efe a’i cymerai ato ei hun.

PENNOD 15

º1 A SAMUEL a ddywedodd wrth Saul, Yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i i’th eneinio di yn frenin ar ei bobl, sef ar Israel: ac yn awr gwrando ar lais geiriau yr ARGLWYDD.

º2 Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD y lluoedd; Cofiais yr hyn a wnaeth Amalec i Israel, y modd y gosododd efe i’w erbyn ar y ffordd, pan ddaeth efe i fyny e’r Aifft.

º3 DOS yn awr, a tharo Amalec, a dinistria yr hyn oll sydd ganddo, ac nac eiriach ef; ond lladd hwynt, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, yn ych ac yn oen, yn gamel ac yn asyn.

º4 A Saul a gynullodd y bobl, ac a’u cyfrifodd hwynt yn Telaim, dau can mil o wŷr traed, a deng mil o wŷr Jwda.

º5 A Saul a ddaeth hyd ddinas i Amalec, ac a gynllwynodd yn y dyffryn.

º6 11 Dywedodd Saul hefyd wrth y Ceneaid, Cerddwch, ciliwch, ewch i waered o fysg yr Amaleciaid; rhag i mi rich distrywio chwi gyda hwynt: herwydd ti a wnaethost drugaredd a holl feibion Israel, pan ddaethant i fyny o’r Ain’t. A’r Ceneaid a ymadawsant o fysg yr Amaleciaid.

º7 A Saul a drawodd yr Amaleciaid o Hafila, ffordd y delych di i Sur, yr h6n sydd ar gyfer yr Aifft.

º8 Ac a ddaliodd Agag brenin yr Amaleciaid yn fyw, ac a laddodd yr holl bobl â min y cleddyf.

º9 Ond Saul a’r bobl a arbedasant Agag, a’r gorau o’r defaid, a’r ychen, a’r brasaf o’r wyn, a’r hyn oll ydoedd dda, ac ni ddistrywient hwynt: a phob peth gwael a salw, hwnnw a ddifrodasant hwy.

º10 Yna y bu gair yr ARGLWYDD with Samuel, gan ddywedyd,

º11 Edifar yw gennyf osod Saul yn frenin: canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ôl i, ac ni chyfiawnodd fy ngeiriau. A bu ddrwg gan Samuel; ac efe a lefodd ar yr ARGLWYDD ar hyd y nos.

º12 A phan gyfododd Samuel yn fore i gyfarfod Saul, mynegwyd i Samuel, gan ddywedyd, Daeth Saul i Carmel; ac wele, efe a osododd iddo Ie, efe a amgylchodd hefyd, ac a dramwyodd, ac a aeth i waered i Gilgal.

º13 A Samuel a ddaeth at Saul. A Saul ddywedodd wrtho ef, Bendigedig fyddych di gan yr ARGLWYDD: mi a gyflewnais air yr ARGLWYDD.

º14 A dywedodd Samuel, Beth ynteu yw brefiad y defaid hyn yn fy nghlustiau, a beichiad y gwartheg yr hwn yr ydwyf yn ei glywed?

º15 A Saul a ddywedodd, Oddi ar yr Amaleciaid y dygasant hwy: canys y bobl a arbedodd y defaid gorau, a’r ychen, i frberthu i’r ARGLWYDD dy DDUW; a’r than arall a ddifrodasom ni.

º16 Yna y dywedodd Samuel wrth Saul, Aros, a mi a fynegaf i ti yr hyn a lefarodd yr ARGLWYDD wrthyf fi neithiwr. Yntau a ddywedodd wrtho, Llefara.

º17 A Samuel a ddywedodd, Onid pan (beddit fychan yn dy oLwg dy hun, y gwnaed di yn ben ar lwythau Israel, ac yr eneiniodd yr ARGLWYDD di yn frenin ar Israel?

º18 A’r ARGLWYDD a’th anfonodd di i daith, ac a ddywedodd, DOS, a difroda y pechaduriaid, yr Amaleciaid, ac ymladd t’w herbyn, nes eu difa hwynt.

º19 Paham gan hynny na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, eithr troaist at yr anrhaith, a gwnaethost ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD?

º20 A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Yn wir mi a wrandewais ar lais yr ARGLWYDD, ac a rodiais yn y ffordd y’m hanfonodd yr ARGLWYDD iddi, a dygais Agag brenin Amalec, ac a ddifrodais yr Amaleciaid.

º21 Ond y bobl a gymerth o’r ysbail, ddefaid a gwartheg, blaenion y ddifrodaeth, i aberthu i’r ARGLWYDD dy DDUW yn Gilgal.

º22 A Samuel a ddywedodd, A yw ewyllys yr ARGLWYDD ar boethoffrymau, neu ebyrth, megis ar wrando ar lais yr ARGLWYDD? Wele, gwrando sydd well nag aberth, ac ufuddhau na braster hyrddod.

º23 Canys anufudd-dod sydd fel pechod dewiniaeth; a throseddiad sydd anwiredd a delw-addoliaeth. Oherwydd i ti fwrw ymaith air yr ARGLWYDD, yntau a’th fwrw dithau ymaith o fod yn frenin.

º24 St A Saul a ddywedodd wrth Sam¬uel, Pechais: canys troseddais air yr ARGLWYDD, a’th einau dithau; oherwydd i mi ofni y bobl, a gwrando ar eu llais hwynt.

º25 Ond yn awr maddau, atolwg, fy mhechod, a dychwel gyda mi, fel yr addolwyf yr ARGLWYDD.

º26 A Samuel a ddywedodd with Saul, Ni ddychwelaf gyda thi; canys bwriaist ymaith air yr ARGLWYDD, a’r ARGLWYDD a’th fwriodd dithau ymaith o fod yn frenin ar Israel.

º27 A phan drodd Samuel i fyned ymaith, efe a ymaflodd yng nghwr ei fantell ef; a hi a rwygodd.

º28 A Samuel a ddywedodd wrtho, Yr ARGLWYDD a rwygodd Irenhiniaeth Israel oddi wrthyt ti heddiw, ac a’i rhoddes i gymydog i ti, gwell na thydi.

º29 A hefyd, Cadernid Isr.icl ni ddywed gelwydd, ac nid edifarha: cunys nid dyn yw efe, i edifarhau.

º30 Yna y dywedodd Saul, Pechais: anrhydedda fi, atolwg, yn awr gerbron henuriaid fy mhobl, a cherbron Israel, a dychwel gyda mi, fel yr addolwyf yr ARGLWYDD dy DDUW.

º31 Felly Samuel a ddychwelodd ar ôl Saul: a Saul a addolodd yr ARGLWYDD.

º32 Yna y dywedodd Samuel, Cyrchwch ataf fi Agag brenin yr Amaleciaid. Ac Agag a ddaeth ato ef yn hoyw. Ac Agag a ddyv.edodd, Chwerwder marwolaeth yn ddiau a aeth ymaith.

º33 A Samuel a ddywedodd, Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithau ymysg gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag ger¬bron yr ARGLWYDD yn Gilgal.

º34 Yna Samuel a aeth i Rama; a Saul a aeth i fyny i’w dv yn Gibea Saul.

º35 Ac nid ymwelodd Samuel mwyach & Saul hyd ddydd ei farwolaeth; ond Samuel a alarodd am Saul: ac edifar fu gan yr ARGLWTOD osod Saul yn frenin ar Israel.

PENNOD 16

º1 AR ARGLWYDD a ddywedodd wrth Samuel, Pa hyd y galeri di am Saul, gan i mi ei fwrw ef ymaith o deyrnasu ar Israel? Llanw dy gorn ag olew, a dos; mi a’th anfonaf di at Jesse y Beth ‘ lehemiad: canys ymysg ei feibion ef y darperais i mi frenin.

º2 A Samuel a ddywedodd. Pa fodd yr af fi? os Saul a glyw, efe a’m lladd i. A dywedodd yr ARGLWYDD, Cymer anner-fuwch gyda thi. a dywed, Deuthum i aberthu i’r ARGLWYDD.

º3 A galw Jesse i’r aberth, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych: a thi a eneini i mi yr hwn a ddywedwyf wrthyt.

º4 A gwnaeth Samuel yr hyn a archasai yr ARGLWYDD, ac a ddaeth i Bethlehem. A henuriaid y ddinas a ddychrynasant wrth gyfarfod ag ef; ac a ddywedasant, Ai heddychlon dy ddyfodiad?

º5 Ac efe a ddywedodd, Heddychlon: deuthum i aberthu i’r ARGLWYDD: ymt sancteiddiwch, a deuwch gyda mi i’r aberth. Ac efe a sancteiddiodd Jesse a’i feibion, ac a’u galwodd hwynt i’r aberth.

º6 A phan ddaethant, efe a edrychodd ar Eliab; ac a ddywedodd, Diau fod eneiniog yr ARGLWYDD ger ei fron ef.

º7 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Samuel, Nac edrych ar ei wynepryd ef, nac ar uchder ei gorffolaeth ef: canys gwrthodais ef. Oherwydd nid edrych Duw fel yr edrych dyn: canys dyn a edrych ar y golygiad; ond yr ARGLWYDD a edrych ar y galon.

º8 Yna Jesse a alwodd Abinadab, ac a barodd iddo ef fyned o flaen Samuel. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr ARGLWYDD hwn chwaith.

º9 Yna y gwnaeth Jesse i Samma ddyfod. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr ARGLWYDD hwn chwaith.

º10 Yna y parodd Jesse i’w saith mab ddyfod gerbron Samuel. A Samuel a ddywedodd wrth Jesse, Ni ddewisodd yr ARGLWYDD y rhai hyn.

º11 Dywedodd Samuel hefyd wrth Jessei Ai dyma dy holl blant? Yntau a ddy¬wedodd, Yr ieuangaf eto sydd yn ôl; ac wele, mae efe yn bugeilio’r defaid. A dywedodd Samuel wrth Jesse, Danfon, a chyrch ef: canys nid eisteddwn ni i lawr nes ei ddyfod ef yma.

º12 Ac efe a anfonodd, ac a’i cyrchodd ef. Ac efe oedd writgoch, a theg yr olwg, a hardd o wedd. A dywedodd yr ARGLWYDD, Cyfod, eneinia ef: canys dyma efe.

º13 Yea y cymerth Samuel gorn yr olew, ac a’i heneiniodd ef yng nghanol ei frodyr. A daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Dafydd, o’r dydd hwnnw allan. Yna Samuel a gyfododd, ac a aeth i Rama.

º14 Ond ysbryd yr ARGLWYDD a giliodd oddi wrth Saul; ac ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD a’i blinodd ef.

º15 A gweision Saul a ddywedasant wrtho ef, Wele yn awr, drwg ysbryd oddi wrth Douw sydd yn dy flino di.

º16 Dyweded, atolwg, ein meistr ni wrth dy weision sydd ger dy fron, am iddynt geisio gŵr yn medru canu telyn: a bydd, pan ddelo drwg ysbryd oddi wrth DDUW arnat ti, yna iddo ef ganu a’i law; a da fydd i ti.

º17 A dywedodd Saul wrth ei weision, Edrychwch yn awr i mi am ŵr yn medru canu yn dda, a dygwch ef ataf fi.

º18 Ac un o’r llanciau a atebodd, ac a ddywedodd, Wele, gwelais fab i Jesse y Bethlehemiad, yn medru canu, ac yn rymus o nerth, ac yn rhyfelwr, yn ddoeth o ymadrodd hefyd, ac yn ŵr lluniaidd; a’r ARGLWYDD sydd gydag ef.

º19 Yna yr anfonodd Saul genhadau at Jesse, ac a ddywedodd, Anfon ataf fi Dafydd dy fab, yr hwn sydd gyda’r praidd.

º20 A Jesse a gymerth asyn llwythog o fara, a chostrelaid o win, a myn gafr, ac a’u hanfonodd gyda Dafydd ei fab at Saul.

º21 A Dafydd a ddaeth at Saul, ac a safodd ger ei fron ef: yntau a’i hoffodd ef yn fawr; ac efe a aeth yn gludydd arfau iddo ef.

º22 A Saul a anfonodd at Jesse, gan ddywedyd, Arhosed Dafydd, atolwg, ger fy mron i: canys efe a gafodd ffafr yn fy ngolwg.

º23 A phan fyddai y drwg ysbryd oddi wrth DDUW ar Saul, y cymerai Dafydd delyn, ac y canai a’i ddwylo; a byddai esmwythdra i Saul; a da oedd hynny iddo, a’r ysbryd drwg a giliai oddi wrtho.

PENNOD 17

º1 YNA y Philistiaid a gasglasant eu byddinoedd i ryfel, ac a ymgynullasant yn Socho, yr hon sydd yn Jwda, ac a wersyllasant rhwng Socho ac Aseca, yng nghwr Dammim.

º2 Saul hefyd a gwŷr Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant yn nyffryn Ela, ac a drefnasant y fyddin i ryfel yn erbyn y Philistiaid.

º3 A’r Philistiaid oedd yn sefyll ar fynydd o’r naill du, ac Israel yn sefyU. ar fynydd o’r tu arall: a dyffryn oedd rhyngddynt.

º4 A daeth gŵr rhyngddynt hwy allan o wersylloedd y Philistiaid, a’i enw Goleiath, o Gath: ei uchder oedd chwe chufydd a rhychwant.

º5 A helm o bres ar ei ben, a llurig emog

a wisgai: a phwys y llurig oedd bûm mil o siclau pres.

º6 A botasau pres oedd am ei draed ef, a tharian bres rhwng ei ysgwyddau.

º7 A phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd; a blaen ei waywffon ef oedd chwe chan sicl o haearn: ac un yn dwyn tarian oedd yn myned o’i flaen ef.

º8 Ac efe a safodd, ac a waeddodd ar fyddinoedd Israel, ac a ddywedodd wrthynt, I ba beth y deuwch i drefnu eich byddinoedd? Onid ydwyf fi Phihstiad, a chwithau yn weision i Saul? dewiswch i chwi ŵr, i ddyfod i waered ataf fi.

º9 Os gall efe ymladd â mi, a’m lladd i; yna y byddwn ni yn weision i chwi: ond os royfi a’i gorchfygaf ef, ac a’i lladdaf ef; yna y byddwch chwi yn weision i ni, ac y gwasanaethwch ni.

º10 A’r Philistiad a ddywedodd, Myfi a waradwyddais fyddinoedd Israel y dydd hwn: moeswch ataf fi ŵr, fel yr ymladdom ynghyd.

º11 Pan glybu Saul a holl Israel y geiriau hynny gan y Philistiad, yna y digalonasant, ac yr ofnasant yn ddirfawr.

º12 A’r Dafydd hwn oedd fab i Effratewr o Bethlehem Jwda, a’i enw Jesse; ac iddo ef yr oedd wyth o feibion, a’r gŵr yn nyddiau Saul a ai yn hynafgwi ymysg gwŷr.

º13 A thri mab hynaf Jesse a aethant ac a ddilynasant ar ôl Saul i’r rhyfel: ac enw ei dri mab ef, y rhai a aethant i’r rhyfel, oedd Eliab y cyntaf-anedig, ac Abinadab yr ail, a Samma y trydydd.

º14 A Dafydd oedd ieuangaf: a’r tr} hynaf a aeth ar ôl Saul.

º15 Dafydd hefyd a aeth ac a ddychwelodd oddi wrth Saul, i fugeilio defaid ei dad yn Bethlehem.

º16 A’r Philistiad a nesaodd fore a hwyr, ac a ymddangosodd ddeugain niwmod.

º17 A dywedodd Jesse wrth Dafydd ei fab, Cymer yn awr i’th frodyr effa o’r eras ŷd hwn, a’r deg torth hyn, ac ar redeg dwg hwynt i’r gwersyll at dy frodyr.

º18 Dwg hefyd y deg cosyn ir hyn i dywysog y mil, ac ymwel a’th frodyr a ydynt hwy yn iach, a gollwng yn rhydd eu gwysti hwynt.

º19 Yna Saul, a hwythau, a holl wŷr Israel, oeddynt yn nyffryn Ela, yn ym¬ladd a’r Philistiaid.

º20 A Dafydd a gyfododd yn fore, ac a adawodd y defaid gyda cheidwad, ac a gymerth, ac a aeth, megis y gorchmynasai Jesse iddo ef, ac efe a ddaeth i’r gwersyll, a’r llu yn myned allan i’r gad, ac yn bloeddio i’r frwydr.

º21 Canys Israel a’r Philistiaid a ymr fyddinasant, fyddin yn erbyn byddin.

º22 A Dafydd a adawodd y mud oddi wrtho dan law ceidwad y dodrefn, ac a redodd i’r llu, ac a ddaeth, ac a gyfarchodd well i’w frodyr.

º23 A thra yr oedd efe yn ymddiddan a. hwynt, wele y gŵr oedd yn sefyll rhwng y ddeulu, yn dyfod i fyny o fyddinoedd y Philistiaid, Goleiath y Philistiad o Gath wrth ei enw, ac efe a ddywedodd yr un fath eiriau, fel y clybu Dafydd.

º24 A holl wŷr Israel, pan welsant y gŵr hwnnw, a ffoesant rhagddo ef, ac a ofnasant yn ddirfawr.

º25 A dywedodd gwŷr Israel, Oni welsoch chwi y gŵr hwn a ddaeth i fyny? diau i waradwyddo Israel y mae yn dyfod i fyny: a’r gŵr a’i lladdo ef, y brenin a gyfoethoga hwnnv; a chyfoeth mawr; ei ferch hefyd a rydd efe iddo ef; a thŷ ei dad ef a wna efe yn rhydd yn Israel.

º26 A Dafydd a lefarodd wrth y gwŷr oedd yn sefyll yn ei ymyi, gan ddy¬wedyd, Beth a wneir i’r gŵr a laddo y Philistiad hwn, ac a dynno ymaith y gwaradwydd oddi ar Israel? canys pwy yw’r Philistiad dienwaededig hwn, pan waradwyddai efe fyddinoedd y Duw byw?

º27 A’r bobl a ddywedodd wrtho ef fel hyn, gan ddywedyd. Felly y gwneir i’r gŵr a’i lladdo ef.

º28 Ac Eliab, ei frawd hynaf, a’i clybu pan oedd efe yn ymddiddan a’r gwyr: a dieter Eliab a enynnodd yn erbyn Dafydd; ac efe a ddywedodd, Paham y daethost i waered yma? a chyda phwy y gadewaist yr ychydig ddefaid hynny yn yr anialwch? Myfi a adwaen dy falchder di, a drygioni dy galon: canys i weled y thyfel y daethost ti i waered.

º29 A dywedodd Dafydd, Beth a waettthum i yn awr? Onid oes achos?

º30 Ac efe a droes oddi wrtho"‘ef at un arall, ac a ddywedodd yr un modd: a’r bobl a’i hatebasant ef air yng ngair fel o’r blaen.

º31 A phan glybuwyd y geiriau a lefarodd Dafydd, yna y mynegwyd hwynt gerbron Saul: ac efe a anfonodd amdano ef.

º32 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Na lwfrhaed calon neb o’i herwydd ef: dy was di a â ac a ymladd a’r Philistiad hwn.

º33 A dywedodd Saul wrth Dafydd, Ni flii di fyned yn erbyn y Philistiad hwn, i pnladd ag ef: canys llanc ydwyt ti, ac yntau sydd yn rhyfelwr o’i febyd.; 34 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Bugail oedd dy was di ar ddefaid ei dad; a daeth Hew ac arth, ac a gymerasant oen o’r praidd.

º35 A mi a euthum ar ei ôl ef, ac a’i trewais ef, ac a’i hachubais o’i safn ef: a phan gyfododd efe i’m herbyn i, mi a ymeflais yn ei farf ef, ac a’i trewais, ac &’i lleddais ef.

º36 Felly dy was di a laddodd y Hew, a’r arth: a’r Philistiad dienwaededig hwn fydd megis un ohonynt, gan iddo amherchi byddinoedd y Duw byw.

º37 Dywedodd Dafydd hefyd, Yr ARGLWYDD, yr hwn a’m hachubodd i o grafanc y llew, ac o half yr arth, efe a’m hachub i o law y Philistiad hwn. A dywedodd Saul wrth Dafydd, DOS, a’r ARGLWYDD fyddo gyda thi.

º38 A Saul a wisgodd Dafydd a’i arfau ei hun, ac a roddodd helm o bres ar ei teen ef, ac a’i gwisgodd ef mewn llurig.

º39 A Dafydd a wrcgysodd ei gleddyf ar ei arfau, ac a geisiodd gcrdded; am na phrofasai efe. A dywedodd Dafydd wrth Saul, Ni allaf gerdded yn y rhai hyn: canys ni phrofais i. A Dafydd a’u diosgodd oddi amdano.

º40 Ac efe a gymerth ei ffon yn ei law, ac a ddewisodd iddo bump o gerrig llyfnion o’r afon, ac a’u gosododd hwynt yng nghod y bugeiliaid yr hon oedd ganddo, sef yn yr ysgrepan: a’i ffon dafl oedd yn ei law: ac efe a nesaodd at y Philistiad.

º41 A’r Philistiad a gerddodd, gan fyned a nesau at Dafydd; a’r gŵr oedd yn dwyn y darian o’i flaen ef.

º42 A phan edrychodd y Philistiad o amgylch, a chanfod Dafydd, efe a’i diystyrodd ef; canys llanc oedd efe, a gwritgoch, a theg yr olwg.

º43 A’r Philistiad a ddywedodd wrth Dafydd, Ai ei ydwyf fi, gan dy fod yn dyfod ataf fi a ffyn? A’r Philistiad a regodd Dafydd trwy ei dduwiau ef.

º44 Y Philistiad hefyd a ddywedodd wrth Dafydd, Tyred ataf fi, a rhoddaf dy gnawd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y maes.

º45 Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiaid, Ti ydwyt yn dyfod ataf fi â chleddyf, ac a gwaywffon, ac a tharian; a minnau ydwyf yn dyfod atat ti yn enw ARGLWYDD y lluoedd, Duw byddinoedd Israel, yr hwn a geblaist ti.

º46 Y dydd hwn y dyry yr ARGLWYDD dydi yn fy llaw i, a mi a’th drawaf di, ac a gymeraf ymaith dy ben oddi arnat; ac a roddaf gelanedd gwersyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd, ac i lwystfilod y ddaear; fel y gwypo yr holl ddaear fod Duw yn Israel.

º47 A’r holl gynulleidfa hon a gant wybod, nad â chleddyf, nac a gwaywffon y gwared yr ARGLWYDD: canys eiddo yr ARGLWYDD yw y rhyfel, ac efe a’ch rhydd chwi yn ein llaw ni.

º48 A phan gyfododd y Philistiad, a dyfod a nesau i gyfarfod Dafydd; yna y brysiodd Dafydd, ac a redodd tua’r fyddin i gyfarfod a’r Philistiad.

º49 A Dafydd a estynnodd ei law i’r god, ac a gymerth oddi yno garreg, ac a dafiodd, ac a drawodd y Philistiad yn ei daloen; a’r garreg a soddodd yn ei daloen ef: ac efe a syrthiodd i lawr ar ei wyneb.

º50 Felly y gorthrechodd Dafydd y Pbilistiad a ffon dafl ac a charreg, ac a drawodd y Philistiad, ac a’i lladdodd ef; er nad oedd cleddyf yn llaw Dafydd.

º51 Yna y rhedodd Dafydd, ac a safodd ar y Philistiad, ac a gymerth ei gleddyf ef, ac a’i tynnodd o’r wain, ac a’i lladdodd ef, ac a dorrodd ei ben ef ag ef. A phan welodd y Philistiaid farw o’u cawr hwynt hwy a ffoesant.

º52 A gwŷr Israel a Jwda a gyfodasant, ac a fioeddiasant; ac a erlidiasant y Philistiaid, hyd y ffordd y delych i’r dyffryn, a hyd byrth Bcron. A’r Philist¬iaid a syrthiasant yn archolledig ar hyd ffordd Saaraim, sef hyd Gath, a hyd Ecron.

º53 A meibion Israel a ddychwelasant o ymlid ar ôl y Philistiaid, ac a anrheithiasant eu gwersylloedd hwynt.

º54 A Dafydd a gymerodd ben y Philist¬iad, ac a’i dug i Jerwsalem; a’i arfau ef a osododd efe yn ei babell.

º55 If A phan welodd Saul Dafydd yn myned i gyfarfod a’r Philistiad, efe a ddywedodd wrth Abner, tywysog y nlwriaeth, Mab i bwy yw y llanc hwn, Abner? Ac Abner a ddywedodd, Fel y mae yn fyw dy enaid, O frenin, nis gwn i.

º56 A dywedodd y brenin, Ymofyn mab i bwy yw y gŵr ieuanc hwn.

º57 A phan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, Abner a’i cymerodd ef ac a’i dug o flaen Saul, a phen y Pbilist¬iad yn ei law.

º58 A Saul a ddywedodd wrtho ef, Mab i bwy wyt ti, y gŵr ieuanc? A dywedodd Dafydd, Mab i’th was Jesse y Bethle«. hemiad.,

PENNOD 18

º1 A wedi darfod iddo ymddiddan a Saul, enaid Jonathan a ymglymodd wrth enaid Dafydd; a Jonathan a’i carodd ef megis ei enaid ei hun.

º2 A Saul a’i cymerth ef ato y diwrnod hwnnw, ac ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dad.

º3 Yna. Jonathan a Dafydd a wnaethant gyfamod; oherwydd efe a’i carai megis ei enaid ei hun.

º4 A Jonathan a ddiosgodd y fantell oedd amdano ei hun, ac a’i rhoddes i Dafydd, a’i wisgoedd, ie, hyd yn oed ei gleddyf, a’i fwa, a’i wregys.

º5 *I A Dafydd a aeth i ba le bynnag yr anfonodd Saul ef, ac a ymddug yn ddoeth. A Saul a’i gosododd ef ar y rhyfelwyr: ac efe oedd gymeradwy yng ngolwg yr holl bobl, ac yng ngolwg gweision Saul hefyd.

º6 A bu, wrth ddyfod ohonynt, pan ddychwelodd Dafydd o ladd y Phiiistiad, ddyfod o’r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel, dan ganu a dawnsio, i gyfarfod a’r brenin Saul a thympanau, a gorfoledd, ac ag offer cerdd dannau.

º7 A’r gwragedd wrth ganu a ymatebent, ac a ddywedent, Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn.

º8 A digiodd Saul yn ddirfawr, a’r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef; ac efe a ddywedodd, Rhoddasant i Dafydd fyrddiwn, ac i mi y rhoddasant filoedd: beta mwy a roddent iddo ef, ond y frenhiniaeth?

º9 A bu Saul a’i lygad ar Dafydd o’r dydd hwnnw allan.

º10 Bu hefyd drannoeth, i’r drwg ysbryd oddi wrth DDUW ddyfod ar Saul; ac efe a broffwydodd yng nghanol y ty: a Dafydd a ganodd a’i law, fel o’r blaen: a gwaywffon oedd yn llaw Saul.

º11 A Saul a daflodd y waywffon; ac a ddywedodd, Trawaf trwy Dafydd yn y pared. A Dafydd a giliodd ddwywaittt o’i ŵydd ef.

º12 A Saul oedd yn ofni Dafydds oherwydd bod yr ARGLWYDD gydag ef, a chilio ohono oddi wrth Saul.

º13 Am hynny Saul a’i gyrrodd ef ymaith oddi wrtho, ac a’i gosododd ef yn dywysog ar fil: ac efe a aeth i mewn ac allan o flaen y bobl.

º14 A Dafydd a ymddug yn ddoeth yn ei holl ffyrdd; a’r ARGLWYDD oediS gydag ef.

º15 A phan welodd Saul ei fod ef yn ddoeth iawn, efe a’i hofnodd ef.;

º16 Eithr holl Israel a Jwda & garodd Dafydd, am ei fod ef yn myned i mewa ac allan o’u blaen hwynt.

º17 A dywedodd Saul with Dafydd, Wele Merab fy merch hynaf, hi a roddaf fi i ti yn wraig: yn unig bydd i mi yn fab nerthol, ac ymladd ryfeloedd yr AR¬GLWYDD. (Canys dywedasai Saul, Ni bydd fy llaw i arno ef, ond llaw y Philistiaid fydd arno ef.)

º18 A Dafydd a ddywedodd with Saul, Pwy ydwyf fl? a pheth yw fy mywyd, neu dylwyth fy nhad i yn Israel, fel y byddwn yn ddaw i’r brenin?

º19 Eithr yn yr amser y dylesid rhoddi Merab merch Saul i Dafydd, hi a roddwyd i Adriel y Meholathiad yn wraig.

º20 A Michal merch Saul a garodd Dafydd: a mynegasant hynny i Saul; a’r peth fu fodlon ganddo.

º21 A dywedodd Saul, Rhoddaf hi iddo ef, fel y byddo hi iddo yn fagi, ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef. Felly Saul a ddywedodd wrth Dafydd, Trwy un o’r ddwy y byddi fab yng " nghyfraith i mi heddiw.

º22 A Saul a orchmynnodd i’w weision fel hyn; Ymddiddenwch a Dafydd yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele, y brenin sydd hoff ganddo dydi, a’i holl weision ef a’th garant di: yn awr gan hynny ymgyfathracha a’r brenin.

º23 A gweision Saul a adroddasant wrth Dafydd y geiriau hyn. A Dafydd a ddywedodd, Ai ysgafn yw yn eich golwg chwi ymgyfathrachu a brenin, a minnau yn ŵr tlawd a gwael?

º24 A gweision Saul a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Fel hyn y llefarodd Dafydd.

º25 A dywedodd Saul, Fel hyn y dywedwch wrth Dafydd; Nid yw y brenin yn ewyllysio cynhysgaeth, ond cael cant o flaengrwyn y Philistiaid, i ddial ar elynion y brenin. Ond Saul oedd yn meddwl peri lladd Dafydd trwy law y Philistiaid.

º26 A’i weision ef a fynegasant i Dafydd y geiriau hyn; a’r ymadrodd fu fodlon gan Dafydd am ymgyfathrachu a’r brenin; ac ni ddaethai yr amser eto.

º27 Am hynny y cyfododd Dafydd, ac efe a aeth, a’i wŷr, ac a drawodd ddau cannwr o’r Philistiaid: a Dafydd a ddygodd eu blaengrwyn hwynt, a hwy a’u cwbl dalasant i’r brenin, i ymgyfath¬rachu ohono ef a’r brenin. A Saul a roddodd Michal ei ferch yn wraig iddo ef.

º28 A Saul a welodd ac a wybu fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, a bod Michal merch Saul yn ei garu ef.

º29 A Saul oedd yn ofni Dafydd yn fwy eto: a bu Saul yn elyn i Dafydd byth.

º30 Yna tywysogion y Philistiaid a aent allan: a phan elent hwy, Dafydd a fyddai ddoethach na holl weision Saul; a’i enw ef a aeth yn anrhydeddus iawn.

PENNOD 19

º1 A SAUL a ddywedodd wrth Jonathan ei fab, ac wrth ei holl weision, am ladd Dafydd.

º2 Ond Jonathan mab Saul oedd hoff iawn ganddo Dafydd. A mynegodd Jonathan i Dafydd, gan ddywedyd, Saul fy nhad sydd yn ceisio dy ladd di: ac yn awr ymgadw, atolwg, hyd y bore, ac aros mewn lle dirgel, ac ymguddia:

º3 A mi a af allan, ac a safaf gerllaw fy nhad yn y maes y byddych di ynddo, a mi a ymddiddanaf a’m tad o’th blegid di; a’r hyn a welwyf, mi a’i mynegaf i ti.

º4 A Jonathan a ddywedodd yn dda am Dafydd wrth Saul ei dad, ac a ddy¬wedodd wrtho, Na pheched y brenin yn erbyn ei was, yn erbyn Dafydd: oherwydd ni phechodd efe i’th erbyn di, ac oherwydd bod ei weithredoedd ef yn dda iawn i ti.

º5 Canys efe a osododd ei einioes yn ei law, ac a drawodd y Philistiad; a’r AR¬GLWYDD a wnaeth iachawdwnaeth mawr i holl Israel: ti a’i gwelaist, ac a lawenychaist: paham, gan hynny, y pechi yn erbyn gwaed gwirion, gan ladd Dafydd yn ddiachos?

º6 A Saul a wrandawodd ar lais Jona¬than; a Saul a dyngodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ni leddir ef.

º7 A Jonathan a alwodd ar Dafydd; a Jonathan a fynegodd iddo ef yr holl eiriau hyn. A Jonathan a ddug Dafydd at Saul: ac efe a fu ger ei fron ef megis cynt.

º8 A bu chwaneg o ryfel: a Dafydd a aeth allan ac a ymladdodd yn erbyn y Philistiaid, ac a’u trawodd hwynt a lladdfa fawr; a hwy a ffoesant rhagddo ef.

º9 A’r drwg ysbryd oddi wrth yr AR¬GLWYDD oedd ar Saul, pan oedd efe yn eistedd yn ei dy a’i waywffon yn ei law: a Dafydd oedd yn canu a’i law.,

º10 A cheisiodd Saul daro a’i waywffon trwy Dafydd, yn y pared: ond efe a giliodd o ŵydd Saul; ac yntau a drawodd y waywffon yn y pared. A Dafydd a ffodd, ac a ddihangodd y nos honno.

º11 Saul hefyd a anfonodd genhadau i dŷ Dafydd, i’w wylied ef, ac i’w ladd ef,’ y bore: a Michal ei wraig a fynegodd i Dafydd, gan ddywedyd, Onid achubi dy einioes heno, yfory y’th leddir.

º12 Felly Michal a ollyngodd Dafydd i lawr trwy ffenestr: ac efe a aeth, ac a ffodd, ac a ddihangodd.

º13 A Michal a gymerodd ddelw, ac a’i gosododd yn y gwely; a chlustog o flew geifr a osododd hi yn obennydd iddi, ac a’i gorchuddiodd â dillad.

º14 A phan anfonodd Saul genhadau i ddala Dafydd, hi a ddywedodd, Y mae efe yn glaf.

º15 A Saul a anfonodd eilwaith gen¬hadau i edrych Dafydd, gan ddywedyd, Dygwch ef i fyny ataf fi yn ei wely, fel y lladdwyf ef.

º16 A phan ddaeth y cenhadau, wele y ddelw ar y gwely, a chlustog o flew geifr yn obennydd iddi.

º17 A dywedodd Saul wrth Michal, Paham y twyllaist fi fel hyn, ac y gollyngaist fy ngelyn i ddianc? A Michal a ddywedodd wrth Saul, Efe a ddywedodd wrthyf, Gollwng fi; onid e, mi a’th laddaf di.

º18 Felly Dafydd a ffodd, ac a ddi¬hangodd, ac a ddaeth at Samuel i Rama; BC a fynegodd iddo yr hyn oll a wnaethai Suul iddo ef. Ac efe a aeth at Samuel, a liwy a drigasant yn Naioth.

º19 A mynegwyd i Saul, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn Naioth o fewn Rama.

º20 A Saul a anfonodd genhadau i ddala Dafydd. A phan welsant gynulleidfa y proffwydi yn proffwydo, a Samuel yn sefyll wedi ei osod arnynt hwy, yr oedd ar genhadau Saul ysbryd Duw, fel y proffwydasant hwythau hefyd.

º21 A phan fynegwyd hyn i Saul, efe a anfonodd genhadau eraill; a hwythau hefyd a broffwydasant. A thrachefn danfonodd Saul genhadau y drydedd waith; a phroffwydasant hwythau hefyd.

º22 Yna yntau hefyd a aeth i Rama; ac a ddaeth hyd y ffynnon fawr sydd yn Sechu: ac efe a ofynnodd, ac a ddywed¬odd, Pa le y mae Samuel a Dafydd? Ac un a ddywedodd, Wele, y maent yn Naioth o fewn Rama.

º23 Ac efe a aeth yno i Naioth yn Rama. Ac arno yntau hefyd y daeth ysbryd Duw; a chan fyned yr aeth ac y proffwydodd, nes ei ddyfod i Naioth yn Rama.

º24 Ac efe a ddiosgodd ei ddillad, ac a broffwydodd hefyd gerbron Samuel, ac a syrthiodd i lawr yn noeth yr holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl nos. arni hynny y dywedent, A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?

PENNOD 20

º1 A DAFYDD a ffodd o Naioth yn Rama: ac a ddaeth, ac a ddywedodd gerbron Jonathan, Beth a wneuthum i? beth yw fy anwiredd? a pheth yw fy rohechod o flaen dy dad di, gan ei fod efe yn ceisio fy einioes i?

º2 Ac efe a ddywedodd wrtho, Na ato Duw; ni byddi farw: wele, ni wna fy nhad ddim, na mawr na bychan, heb ei fynegi i mi: paham gan hynny y celai fy nhad y peth hyn oddi wrthyf fi? Nid felly y mae.

º3 A Dafydd a dyngodd eilwaith, ac a ddywedodd, Dy dad a wŷr yn hysbys i mi gael ffafr yn dy olwg di; am hynny y dywed, Na chaed Jonathan wybod hyn, rhag ei dristau ef: cyn wired a bod yr ARGLWYDD 3m fyw, a’th enaid dithau yn fyw, nid oes ond megis cam rhyngof fi ac angau.

º4 Yna y dywedodd Jonathan with Dafydd, Dywed beth yw dy ewyllys, a mi a’i cwblhaf i ti.

º5 A Dafydd a ddywedodd wrth Jona¬than, Wele, y dydd cyntaf o’r mis yw yfory, a minnau gan eistedd a ddylwn eistedd gyda’r brenin i fwyta: ond gollwng fi, fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd brynhawn y try dydd dydd.

º6 Os dy dad a ymofyn yn fanwl amdanaf; yna dywed, Dafydd gan ofyn a ofynnodd gennad gennyf fi, i redeg i Bethlehem, ei ddinas ei him: canys aberth blynyddol sydd yno i’r holl genedl.

º7 Os fel hyn y dywed efe. Da; heddwch fydd i’th was: ond os gan ddigio y digia efe, gwybydd fod ei fryd ef ar ddrwg.

º8 Gwna gan hynny drugaredd a’th was, canys i gyfamod yr ARGLWYDD y dygaist dy was gyda thi: ac od oes anwiredd ynof fi, lladd di fi; canys i ba beth y dygi fi at dy dad?

º9 A dywedodd Jonathan, Na ato Duw hynny i ti: canys, os gan wybod y cawn wybod fod malais wedi ei baratoi gan fy nhad i ddyfod i’th erbyn, onis mynegwn iti?

º10 A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Pwy a fynega i mi? neu beth os dy dad a’th etyb yn arw?,’

º11 A dywedodd Jonathan wrth Da¬fydd, Tyred, ac awn i’r maes. A hwy a aethant ill dau i’r maes. ‘

º12 A Jonathan a ddywedodd wrth Dafydd, O ARGLWYDD DDUW Israel, wedi i mi chwilio meddwl fy nhad, ynghylch y pryd hwn yfory, neu drennydd; ac wele, os daioni fydd tuag at Dafydd, ac oni anfonaf yna atat ti, a’i fyncgi i ti;

º13 Fel hyn y gwnel yr ARGI.WYDD i Jonathan, ac ychwaneg: os da fydd gan fy nhad wneuthur drwg i ti; yna y mynegaf i ti, ac a’th ollyngaf ymaith, fel yr elych mcwn heddwch: a bydded yr ARGLWYDD gyda thi, megis y bu gyda’m tad i.

º14 Ac nid yn unig tra fyddwyf fi byw, y gwnei drugaredd yr ARGLWYDD A mi, fel na byddwyf fi marw:

º15 Ond hefyd na thor ymaith dy drugaredd oddi wrth fy nhŷ i byth: na chwaith pan ddistrywio yr ARGLWYDD elynion Dafydd, bob un oddi ar wyneb y ddaear.

º16 Felly y cyfamododd Jonathan a thŷ Dafydd; ac efe a ddywedodd, Gofynned, yr ARGLWYDD hyn ar law gelynion Dafydd.

º17 A Jonathan a wnaeth i Dafydd yntau dyngu, oherwydd efe a’i carai ef: canys fel y carai ei enaid ei hun, y carai efe ef.

º18 A Jonathan a ddywedodd wrtho ef, Yfory yw y dydd cyntaf o’r mis: ac ymofynnir amdanat; oherwydd fe fydd dy eisteddle yn wag.;.

º19 Ac wedi i ti aros dridiau, yna tyred i waered yn fuan; a thyred i’r lle yr ymguddiaist ynddo pan oedd y petti ac waith, ac aros wrth faen Esel.

º20 A mi a saethaf dair o saethau tua’i ystlys ef, fel pes gollyngwn hwynt at nod.

º21 Wele hefyd, mi a anfonaf lane, gan ddywedyd, DOS, cais y saethau. Os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o’r tu yma i ti, dwg hwynt; yna tyred di: canys heddwch sydd i ti, ac nid oes dim niwed, fel mai byw yw yr ARGLWYDD.

º22 Ond os fel hyn y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o’r tu hwnt i ti; dos ymaith; canys yr ARGLWYDD a’th anfonodd ymaith.

º23 Ac am y peth a leferais i, mi a thi, wele yr ARGLWYDD fyddo rhyngof fi a thi yn dragywydd.

º24 Felly Dafydd a ymguddiodd yn y maes. A phan ddaeth y dydd cyntaf o’r mis, y brenin a eisteddodd i fwyta bwyd.

º25 A’r brenin a eisteddodd ar ei eisteddfa, megis ar amseroedd eraill; sef ar yr eisteddfa wrth y pared; a Jonathan a gyfododd, ac Abner a eisteddodd wrth ystlys Saul; a lle Dafydd oedd wag.

º26 Ac nid ynganodd Saul ddim y diwmod hwnnw: canys meddyliodd mai il.nnwain oedd hyn; nad’ oedd efe lan, a’i l d yn aflan.

º27 A bu drannoeth, yr ail ddydd o’r inis, fod lle Dafydd yn wag. A dywedodd Saul wrth Jonathan ei fab, Paham na ddaeth mab Jesse at y bwyd, na doe na lleddiw?

º28 A Jonathan a atebodd Saul, Dafydd gan ofyn a ofynnodd i mi am gael myned hyd Bethlehem:

º29 Ac efe a ddywedodd, Gollwng fi, atolwg; oherwydd i’n tyiwyth ni y mae uberth yn y ddinas, a’m brawd yntau a archodd i mi fod yno: ac yn awr, o chefais ffafr yn dy olwg, gad i mi fyned, atolwg, fel y gwelwyf fy mrodyr. Oherwydd hyn, ni ddaeth efe i fwrdd y brenin.

º30 Yna y llidiodd dieter Saul yn erbyn Jonathan; ac efe a ddywedodd wrtho, Ti fab y gyndyn wrthnysig, oni wn i ti ddewis mab Jesse yn waradwydd i ti, ac yn gywilydd i noethder dy fam?

º31 Canys tra fyddo mab Jesse yn fyw ar y ddaear, ni’th sicrheir di na’th deyrnas: yn awr gan hynny anfon, a chyrch ef ataf; canys marw a gaiff efe.

º32 A Jonathan a atebodd Saul .ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Paham y bydd efe marw? beth a wnaeth efe?;

º33 A Saul a ergydiodd waywffon ato ef, i’w daro ef. Wrth hyn y gwybu Jonathan fod ei dad ef wedi rhoi ei fryd ar ladd Dafydd.

º34 Felly Jonathan a gyfododd oddi wrth y bwrdd mewn llid dicllon, ac ni fwytaodd fwyd yr ail ddydd o’r mis: canys drwg oedd ganddo dros Dafydd, oherwydd i’w dad ei waradwyddo ef.

º35 A’r bore yr aeth Jonathan i’r maes erbyn yr amser a osodasai efe i Dafydd, a bachgen bychan gydag ef.

º36 Ac efe a ddywedodd wrth ei fachgen, Rhed, cais yn awr y saethau yr ydwyf fi yn eu saethu. A’r bachgen a redodd: yntau a saethodd saeth y tu hwnt iddo ef.

º37 A phan ddaeth y bachgen hyd y fan yr oedd y saeth a saethasai Jonathan, y llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, ac a ddywedodd, Onid yw y saeth o’r tu hwnt i ti?

º38 A llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, Cyflyma, brysia, na saf. A bachgen Jonathan a gasglodd y saethau, ac a ddaeth at ei feistr.

º39 A’r bachgen ni wyddai ddim: yn unig Jonathan a Dafydd a wyddent y peth. .,

º40 A Jonathan a roddodd ei offer at ei fachgen, ac a ddywedodd"wrtho, DOS, dwg y rhai hyn i’r ddinas.

º41 A’r bachgen a aeth ymaith; a Dafydd a gyfododd oddi wrth y deau, ac a. syrthiodd i lawr ar ei .wyneb, ac a ymgrymodd dair gwaith. A hwy. a gjlisanasant bob un ei gilydd, ac a wylasant y naill wrth y llall; a Dafydd a ragorodd.

º42 A dywedodd Jonathan wrth Da¬fydd, DOS mewn heddwch: yr hya a dyngasom ni ein dau yn enw yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD fyddo rhyngof fi a thi, a rhwng fy had i a’th had dithau, safed hynny yn dragy¬wydd. Ac efe a gyfododd ac a aeth ymaith: a Jonathan a aeth i’r ddinas.

PENNOD 21

º1 YNA y daeth Dafydd i Nob at Ahimelech yr offeiriad. Ac Ahimelech 9 ddychrynodd wrth gyfarfod âDafydd; ac a ddywedodd wrtho, Paham yr ydwyt ti yn unig, ac heb neb gyda thi?

º2 A dywedodd Dafydd wrth Ahi¬melech yr offeiriad, Y brenin a orchmynnodd i mi beth, ac a ddywedodd wrthyf, Na chaed neb wybod dim o’r peth am yr hwn y’th anfonais, ac y gorchmynnais i ti: a’r gweision a gyfarwyddais i i’r lle a’r lle.

º3 Ac yn awr beth sydd dan dy law? dod i mi bûm torth yn fy llaw neu y ptth sydd i’w gael.

º4 A’r offeiriad a atebodd Dafydd, ac a ddywedodd, Nid oes fara cyffredin dan fy llaw i; eithr y mae bara cysegredig: ds y llanciau a ymgadwasant o’r lleiaf oddi wrth wragedd.

º5 A Dafydd a atebodd yr offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, Diau atal gwragedd oddi wrthym ni er ys dau ddydd neu dri, er pan gychwynnais i, llestri y llanciau hefyd ydynt sanctaidd, a’r bara sydd megis cyffredin, ie, petal wedi ei gysegru heddiw yn y llestr.

º6 Felly yr offeiriad a roddodd iddo ef y bara sanctaidd: canys nid oedd yno fara, ond y bara gosod, yr hwn a dynasid ymaith oddi gerbron yr ARGLWYDD, i osod bara brwd yn y dydd y tynnid ef ymaith.

º7 Ac yr oedd yno y diwrnod hwnnw;un o weision Saul yn aros gerbron yr ARGLWYDD, a’i enw Doeg, Edomiad, y pennaf o’r bugeiliaid oedd gan Saul.

º8 A dywedodd Dafydd with Ahime¬lech, Onid oes yma dan dy law di waywffon, neu gleddyf? canys ni ddygais fy nghleddyf na’m harfau chwaith i’m llaw, oherwydd bod gorchymyn y brenin ar ffrwst.

º9 A dywedodd yr offeiriad, Cleddyf Goleiath y Philistiad, yr hwn a leddaist ti yn nyffryn Ela; wele ef wedi ei oblygu mewn brethyn o’r tu ôl i’r effod: o chymeri hwnnw i ti, cymer; canys nid oes yma yr un arall ond hwnnw. A Dafydd a ddywedodd, Nid oes o fath hwnnw; dyro efi mi. ro Dafydd hefyd a gyfododd, ac a ffodd y dydd hwnnw rhag ofn Saul, ac a aeth at Achis brenin Gath.

º11 A gweision Achis a ddywedasant wrtho ef, Onid hwn yw Dafydd brenin y wlad? onid i hwn y canasant yn y dawnsiau, gan ddywedyd, Saul a laddodd iei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn?

º12 A Dafydd a osododd y geiriau hynny yn ei galon, ac a ofnodd yn ddirfawr rhag Achis brenin Gath.

º13 Ac efe a newidiodd ei wedd yn eu golwg hwynt; ac a gymerth arno ynfydu rhwng eu dwylo hwynt, ac a gripiodd ddrysau y porth, ac a ollyngodd ei boeryn i lawr ar ei farf.

º14 Yna y dywedodd Achis wrth ei weision, Wele, gwelwch y gŵr yn gwallgofi, paham y dygasoch ef ataf fi?:

º15 Ai eisiau ynfydion sydd arnaf fi, pan ddygasoch hwn i ynfydu o’m blaen i? a gaiff hwn ddyfod i’m ty i?

PENNOD 22

º1 A DAFYDD a aeth ymaith oddi yno, ac a ddihangodd i ogof Adulam: a phan glybu ei frodyr a holl dy ei dad ef hynny, hwy a aethant i waered ato ef yno.;

º2 Ymgynullodd hefyd ato ef bob gŵr helbulus, a phob gŵr a oedd mewn dyled, a phob gŵr cystuddiedig o feddwl; ac efe a fu yn dywysog arnynt hwy: ac yr oedd gydag ef ynghylch pedwar cant o wŷr.

º3 A Dafydd a aeth oddi yno i Mispa Moab; ac a ddywedodd wrth frenin Moab, Deled, atolwg, fy nhad a’m mam i aros gyda chwi, hyd oni wypwyf beth a wnel Duw i mi.

º4 Ac efe a’u dug hwynt gerbron brenin Moab: ac arosasant gydag ef yr holl ddyddiau y bu Dafydd yn yr amddiffynfa.

º5 A Gad y proffwyd a ddywedodd wrth Dafydd, Nac aros yn yr arnddiffynfa; dos ymaith, a cherdda rhagot i wlad Jwda. Felly Dafydd a ymadawodd, ac a ddaeth i goed Hareth.

º6 A phan glybu Saul gael gwybodaeth am Dafydd, a’r gwŷr oedd gydag ef, (a Saul oedd yn aros yn Gibea dan bren yn Rama, a’i waywffon yn ei law, a’i holl weision yn sefyll o’i amgylch;)

º7 Yna Saul a ddywedodd wrth ei weision oedd yn sefyll o’i amgylch, Clywch, atolwg, feibion Jemini: A ddyry mab Jesse i chwi oll feysydd, a gwinllannoedd? a esyd efe chwi oll yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gannoedd;

º8 Gan i chwi oll gydfwriadu i’m herbyn i, ac nad oes a fynego i mi wneuthur o’m mab i gynghrair a mab Jesse, ac nid oes neb ohonoch yn ddrwg ganddo o’m plegid i, nac yn datguddio i mi ddarfod I’m mab annog fy ngwas i gynllwyn i’m herbyn, megis y dydd hwn?

º9 Yna yr atebodd Doeg yr Edomiad, yr hwn oedd wedi ei osod ar weision Saul, ac a ddywedodd, Gwelais fab Jesse yn dyfod i Nob at Ahimelech mab Ahitub.

º10 Ac efe a ymgynghorodd drosto ef

ft’r ARGLWYDD; ac a roddes fwyd iddo vf; cleddyf Goleiath y Philistiad a roddes rf’e hefyd iddo.

º11 Yna yr anfonodd y brenin i alw Ahimelech yr offeiriad, mab Ahitub, a lioll dy ei dad ef, sef yr offeiriaid oedd yn Nob. A hwy a ddaethant oll at y hrenin.

º12 A Saul a ddywedodds Gwrando yn awr, mab Ahitub. Dywedodd yntau, Wele fi, fy arglwydd.

º13 A dywedodd Saul wrtho ef, Paham y cydfwriadasoch i’m herbyn i, ti a mab’ Jesse, gan i ti roddi iddo fara, a chleddyf, ;ic ymgynghori â Duw drosto ef, fel y cyfodai yn fy erbyn i gynllwyn, megis heddiw?

º14 Ac Ahimelech a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Pwy ymysg dy holl weision di sydd mor ffyddlon a Dafydd, ac yn ddaw i’r brenin, ac yn myned wrth dy orchymyn, ac yn anrhydeddus yn dy dŷ di?

º15 Ai y dydd hwnnw y dechreuais i ymgynghori a Duw drosto ef? na ato Duw i mi. Na osoded y brenin ddim yn erbyn ei was, nac yn erbyn neb o dy fy nhad: canys ni wybu dy was di ddim o hyn oll, nac ychydig na llawer.

º16 A dywedodd y brenin, Gan farw y byddi farw, Ahimelech, tydi a holl fly dy dad.

º17 A’r brenin a ddywedodd wrth y rhedegwyr oedd yn sefyll o’i amgylch ef, Trowch, a lleddwch offeiriaid yr AR¬GLWYDD; oherwydd bod eu llaw hwynt hefyd gyda Dafydd, ac oherwydd iddynt wybod ffoi ohono ef, ac na fynegasant i mi. Ond gweision y brenin nid estynnent eu llaw i ruthro ar offeiriaid yr AR¬GLWYDD.

º18 A dywedodd y brenin wrth Doeg, Tro di, a rhuthra ar yr offeiriaid. A Doeg yr Edomiad a drodd, ac a ruthrodd ar yr offeiriaid, ac a laddodd y diwrnod hwnnw bump a phedwar ugain o wŷr, yn dwyn effod liain.

º19 Efe a drawodd hefyd Nob, dinas yr oft’eiriaid, â min y cleddyf, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, ac yn ych, ac yn asyn, ac yn oen, â min y cleddyf.::

º20 Ond un mab i Ahimelech mab;, Ahitub, a’i enw Abiathar, a ddihangodd, ac a ffodd ar ôl Dafydd.;. ‘

º21 Ac Abiathar a fynegodd i Dafydd,. ddarfod i Saul ladd offeiriaid yr AR¬GLWYDD.

º22 A dywedodd Dafydd wrth Abiathar, Gwybum y dydd hwnnw, pan oedd Doeg yr Edomiad yno, gan fynegi y mynegai; efe i Saul: myfi a fum achlysur marwotaeth i holl dylwyth ty dy dad di.

º23 Aros gyda mi; nac ofna: canys yr hwn sydd yn ceisio fy einioes i, sydd yn ceisio dy einioes dithau: ond gyda mi y byddi di gadwedig.

PENNOD 23

º1 YNA y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Wele y Philistiaid yn ymladd yn erbyn Ceila; ac y maent hwy yn anrheithio yr ysguboriau.

º2 Am hynny y gofynnodd Dafydd i’r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A af fi a tharo’r Philistiaid hyn? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Dafydd, DOS, a tharo’’r Philistiaid, ac achub Ceila.:

º3 A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele ni yn ofnus yma yn Jwda: pa faint mwy os awn i Ceila, yn erbyn byddinoedd y Philistiaid?

º4 Yna Dafydd eilwaith a ymgyng¬horodd a’r ARGLWYDD. A’r ARGLWYDD a’i hatebodd ef, ac a ddywedodd, Cyfod, dos xxx i waered i Ceila; canys myfi a roddaf y Philistiaid yn dy law di.

º5 A Dafydd a’i wŷr a aethant i Ceila, ac a ymladdodd a’r Philistiaid: ac a ddug eu gwartheg hwynt, ac a’u trawodd hwynt a lladdfa fawr. Felly y gwaredodd Dafydd drigolion Ceila.

º6 A bu, pan ffodd Abiathar mab Ahimelech at Dafydd i Ceila, ddwyn ohono ef effod yn ei law.

º7 A mynegwyd i Saul ddyfod Dafydd i Ceila. A dywedodd Saul, Duw a’i rhoddodd ef yn fy llaw i: canys caewyd arno ef pan ddaeth i ddinas a phyrth ac a barrau iddi.

º8 A Saul a alwodd yr holl boblynghyd i ryfel, i fyned i waered i Ceila, i warchae as Dafydd ac ar ei wŷr.

º9 A gwybu Dafydd fod Saul yn bwriadu drwg i’w erbyn ef: ac efe a ddyvyfedodd wrth Abiathar yr offeiriad, Dwg yr effod.

º10 Yna y dywedodd Dafydd, O AR¬GLWYDD DDUW Israel, gan glywed y clybu dy was, fod Saul yn ceisio dyfod i (Eeila, i ddistrywio y ddinas er fy nwyn i.

º11 A ddyry arglwyddi Ceila fi yn ei law ef? a ddaw Saul i waered, megis y clybu dy was? O ARGLWYDD DDUW Israel, mynega, atolwg, i’th was. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Efe a ddaw i waered.

º12 Yna y dywedodd Dafydd, A ddyry arglwyddi Ceila fyfi a’m gwŷr yn llaw Saul? A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Rhoddant.

º13 Yna y cyfododd Dafydd a’i wŷr, y rhai oedd ynghylch chwe chant, ac a aethant o Ceila, ac a rodiasant lle y gallent. A mynegwyd i Saul, fod Dafydd wedi dianc o Ceila; ac efe a beidiodd &, myned allan.

º14 A Dafydd a arhosodd yn yr anialwch mewn amddiffynfeydd, ac a arhodd mewn mynydd, yn anialwch Siff: a Saul a’i ceisiodd ef bob dydd: ond ni roddodd Duw ef yn ei law ef.;

º15 A gwelodd Dafydd fod Saul wedi myned allan i geisio ei einioes ef: a Dafydd oedd yn anialwch Siff, mewa coed.

º16 A Jonathan mab Saul a gyfododd, ac a aeth at Dafydd i’r coed, afra gryfhaodd ei law ef yn Nuw.

º17 Dywedodd hefyd wrtho ef, Nac ofna: canys llaw Saul fy nhad ni’th gaiff di, a thi a deyrnesi ar Israel, a minnau a fyddaf yn nesaf atat ti: a Saul fy nhad sydd yn gwybod hyn hefyd.

º18 A hwy ill dau a wnaethant gyfamod gerbron yr ARGLWYDD. A Dafydd a arhosodd yn y coed; a Jonathan a aeth i’w dy ei hun.

º19 Yna y daeth y Siffiaid i fyny at Saul i Gibea, gan ddywedyd, Onid yw Dafydd yn ymguddio gyda ni mewn arnddiffynfeydd yn y coed, ym mryn Hachila, yr hwn sydd o’r tu deau i’r diffeithwch?

º20 Ac yn awr, O frenin, tyred i waered yn ôl holl ddymuniad dy galon; a bydded arnom ni ei roddi ef yn llaw y brenin.

º21 A dywedodd Saul, Bendigedig fyddoch chwi gan yr ARGLWYDD: canys tosturiasoch wrthyf.

º22 Ewch, atolwg, paratowch; eto myanwch wybod hefyd, ac edrychwch am ei gyniweirfa ef, lle y mae efe yn tramwy, a. phwy a’i gwelodd ef yno; canys dywedwyd i mi ei fod ef yn gyfrwys iawn.

º23 Edrychwch gan hynny, a mynnwch wybod yr holl lochesau y mae efe yn ymguddio ynddynt, a dychwelwch ataf fi a sicrwydd, fel yr elwyf gyda chwi; a os bydd efe yn y wlad, mi a chwiliaf amdano ef trwy holl filoedd Jwda.

º24 A hwy a gyfodasant, ac a aethant i Siff o flaen Saul: ond Dafydd a’i wvr oedd yn anialwch Maon, yn y rhos o’r tu deau i’r diffeithwch.

º25 Saul hefyd a’i wŷr a aeth i’w geisio ef. A mynegwyd i Dafydd: am hynny efe a ddaeth i waered i graig, ac a arhosodd yn anialwch Maon. A phan glybu Saul hynny, efe a erlidiodd ar ôl Dafydd yn anialwch Maon.

º26 A Saul a aeth o’r naill du i’r mynydd,: a Dafydd a’i wŷr o’r tu. arall i’r mynydd ac yr oedd Dafydd yn brysio i fyned ymaith rhag ofn Saul; canys Saul a’i wŷr a amgylchynasant Dafydd a’i wŷr, i’w dala hwynt.

º27 Ond cennad a ddaeth at Saul, gan ddywedyd, Brysia, a thyred: canys y Philistiaid a ymdaenasant ar hyd y wlad.

º28 Am hynny y dychwelodd Saul o erlid ar ôl Dafydd; ac efe a aeth yn erbyn y Philistiaid: oherwydd hynny y galwasaat y fan honno Sela Hammalecoth.

º29 A Dafydd a aeth i fyny oddi yno, ac a arhosodd yn amddiffynfeydd En-gedi.

PENNOD 24

º1 A PHAN ddychwelodd Saul oddi ar ôl y Philistiaid, mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele Dafydd yn anialwch En-gedi.

º2 Yna y cymerth Saul dair mil o wŷr flholedig o holl Israel; ac efe a aeth i pcisio Dafydd a’i wŷr, ar hyd copa creigiau y geifr gwylltion.

º3 Ac efe a ddaeth at gorlannau y defaid, ar y ffordd; ac yno yr oedd ogof: a Saul a aeth i mewn i wasanaethu ei gorff. A Dafydd a’i wŷr oedd yn aros yn ystlysau yr ogof.

º4 A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt, Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg. Yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gŵr y fantell oedd am Saul yn ddirgel.

º5 Ac wedi hyn calon Dafydd a’i trawodd ef, oherwydd iddo dorri cwr mantell Saul.

º6 Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr, Na ato yr ARGLWYDD i mi wneuthur y peth hyn i’m meistr, eneiniog yr ARGLWYDD, i estyn fy llaw yn ei erbyn ef; oblegid eneiniog yr ARGLWYDD yw efe.

º7 Felly yr ataliodd Dafydd ei wŷr a’r geiriau hyn, ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul. A Saul a gododd i fyny o’r ogof, ac a aeth i ffordd.

º8 Ac ar ôl hyn Dafydd a gyfododd, ac a aeth allan o’r ogof; ac a lefodd ar ôl Saul, gan ddywedyd, Fy arglwydd frenin. A phan edrychodd Saul o’i ôl, Dafydd a ostyngodd ei wyneb tua’r ddaear, ac a ymgrymodd.

º9 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Paham y gwrandewi eiriau dynion, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn ceisio niwed id?

º10 Wele, dy lygaid a welsant y dydd hwn ddarfod i’r ARGLWYDD dy roddi di yn fy llaw i heddiw yn yr ogof: a dywedwyd wrthyf am dy ladd di; ond fy enaid a’th arbedodd di: a dywedais, Nid eslynnaffy llaw yn erbyn fy meistr; canys i. nciniog yr ARGLWYDD yw efe.

º11 Fy nhad hefyd, gwêl, ie gwêl gŵr ily f;mtell yn fy llaw i: canys pan dorrais yinnith gŵr dy fantell di, heb dy ladd; gwyhydd a gwel. nad oes yn fy llaw i ddrygioni na chamwedd, ac na phechais i’th erbyn: eto yr wyt ti yn hela fy einioes i, i’w dala hi.

º12 Barned yr ARGLWYDD rhyngof fi a thithau, a dialed yr ARGLWYDD fi amat ti: ond ni bydd fy llaw i arnat ti.

º13 Megis y dywed yr hen ddihareb, Oddi wrth y rhai anwir y daw anwiredd: ond ni bydd fy llaw i arnat ti.

º14 Ar ôl pwy y daeth brenin Israel allan? ar ôl pwy yr ydwyt ti yn erlid? ar ôl ei marw, ar ôl chwannen.

º15 Am hynny bydded yr ARGLWYDD yn farnwr, a barned rhyngof fi a thi: edryched hefyd, a dadleued fy nadi, ac achubed fi o’th law di.

º16 A phan orffennodd Dafydd lefaru y geiriau hyn wrth Saul, yna y dywedodd Saul, Ai dy lef di yw hon, fy mab Dafydd? A Saul a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.

º17 Efe a ddywedodd hefyd wrth Da¬fydd, Cyfiawnach wyt ti na myfi: canys ti a delaist i mi dda, a minnau a delais i ti ddrwg.

º18 A thi a ddangosaist heddiw wneuthur ohonot a mi ddaioni: oherwydd rhoddodd yr ARGLWYDD fi yn dy law di, ac ni’m lleddaist.

º19 Oblegid os caffai ŵr ei elyn, a ollyngai efe ef mewn ffordd dda? am hynny yr ARGLWYDD a dalo i ti ddaioni, am yr hyn a wnaethost i mi y dydd hwn.

º20 Acweleynawr,miawngandeyrnasu y teyrnesi di, ac y sicrheir brenhiniaeth Israel yn dy law di.

º21 Twng dithau wrthyf fi yn awr i’r ARGLWYDD, na thorri ymaith fy had i ar fy ôl, ac na ddifethi fy enw i o dy fy nhad.

º22 A Dafydd a dyngodd wrth Saul. A Saul a aeth i’w dy: Dafydd hefyd a’i wŷr a aethant i fyny i’r amddiffynfa.

PENNOD 25

º1 A BU farw Samuel; a holl Israel a ymgynullasant, ac a alarasant am¬dano ef, ac a’i claddasant ef yn ei dy yn Rama. A Dafydd a gyfododd, ac a aeth i waered i anialwch Paran.

º2 Ac yr oedd gŵr ym Maon, a’i gyfoeth yn Carmel; a’r gŵr oedd fawr iawn, ac iddo ef yr oedditair mil o ddefaid, a mil o eifr: ac yr oedd efe yn cneifio ei ddefaid yn Carmel.:

º3 Ac enw y gŵr oedd Nabal; ac .enw ei wraig Abigail: a"r, wraig oedd yn dda ei deall, ac yn deg d gwedd: a’r gŵr oedd galed, a drwg ei weithredoedd; a Chalebiad oedd efe.

º4 A chlybu Dafydd yn yr aniahaeh, fod Nabal yn cneifio ei ddefaid.

º5 A Dafydd a anfonodd ddeg o lanciau; a Dafydd a ddywedodd wrth y llanciau, Cerddwch i fyny i Carmel, ac ewch at Nabal, a chyferchwch well iddo yn fy enw i.

º6 Dywedwch fel hyn hefyd wrtho ef sydd yn byw mewn llwyddiant, Caffech di heddwch, a’th dy heddwch, a’r hyn oll sydd eiddot ti heddwch.

º7 Ac yn awr clywais fod rhai yn cneifio i ti: yn awr y bugeiliaid sydd gennyt a fuant gyda ni, ni wnaethom sarhad arnynt hwy, ac ni bu ddim yn eisiau iddynt, yr holl ddyddiau y buant hwy yn Carmel.

º8 Gofyn i’th lanciau, a hwy a fynegant i ti: gan hynny caed y llanciau hyn ffafr yn dy olwg di; canys ar ddiwrnod da y daethom ni; dyro, atolwg, yr hyn a ddelo i’th law, i’th weision, ac i’th fab Dafydd.

º9 Ac wedi dyfod llanciau Dafydd, hwy a ddywedasant wrth Nabal yn ôl yr holl eiriau hynny yn enw Dafydd, ac a dawsant.

º10 A Nabal a atebodd weision Da¬fydd, ac a ddywedodd, Pwy yw Dafydd? a phwy yw mab Jesse? llawer sydd o weision heddiw yn torn ymaith bob un oddi wrth ei feistr.

º11 A gymeraf fi fy mara a’m dwfr,;a’m cig a leddais i’m cneifwyr, a’u rhoddi i wŷr nis gwn o ba le y maent?

º12 Felly llanciau Dafydd a droesant i’w ffordd, ac a ddychwelasant, ac a ddaethant, ac a fynegasant iddo ef yr hoB eiriau hynny. ‘ .’:

º13 A Dafydd a ddywedodd wrth ei wŷr, Gwregyswch bob un ei gleddyf. Ac ymwregysodd pob un ei gleddyf: ymwregysodd Dafydd hefyd ei gleddyf: ac ynghylch pedwar cant o wŷr a aeth i fyny ar ôl Dafydd, a dau gant a drigasant gyda’r dodrefn.

º14 I Ac un o’r llanciau a fynegodd i Abigail gwraig Nabal, gan ddywedyd, .Wele, Dafydd a anfonodd genhadau a’r anialwch i gyfarch gwell i’n meistr ni, ond efe a’u difenwodd hwynt.

º15 A’r gwŷr fu dda iawn wrthym ni; ac ni wnaed sarhad arnom ni, ac ni bu i ni ddim yn eisiau yr holl ddyddiau y rhodiasom gyda hwynt, pan oeddem yn y maes.

º16 Mur oeddynt hwy i ni nos a dydd, yr holl ddyddiau y buom gyda hwynt yn cadw y defaid.

º17 Yn awr gan hynny gwybydd, ac ystyria beth a wnelych: canys paratowyd drwg yn erbyn ein meistr ni, ac yn erbyn ei holl dy ef: canys efe sydd fab i Belial, fel na ellir ymddiddan ag ef.

º18 Yna Abigail a frysiodd, ac a gymerth ddau cant o fara, a dwy gostrelaid o win, a phump o ddefaid wedi eu gwneuthur yn barod, a phum hobaid o gras ŷd, a chan swp o resin, a dau can teisen o ffigys, ac a’u gosododd ar asynnod.

º19 A hi a ddywedodd wrth ei gweision, Cerddwch o’m blaen i; wele fi yn dyfod ar eich ôl: ond wrth Nabal ei gŵr nid ynganodd hi.

º20 Ac a hi yn marchogaeth ar asyn, ac yn dyfod i waered ar hyd ystlys y mynydd; yna, wele Dafydd a’i wŷr yn dyfod i waered i’w herbyn; a hi a gyfarfu a hwynt.

º21 A dywedasai Dafydd, Diau gadw ohonof fi yn ofer yr hyn oll oedd gan hwn yn yr anialwch, fel na bu dim yn eisiau o’r hyn oll oedd ganddo ef: canys efe a dalodd i mi ddrwg dros dda.

º22 Felly y gwnelo Duw i elynion Dafydd, ac ychwaneg, os gadawaf o’r hyn oll sydd ganddo ef, erbyn goleuni y bore, un gwryw.

º23 A phan welodd Abigail Dafydd, hi a frysiodd ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn, ac a syrthiodd gerbron Dafydd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd hyd lawr,

º24 Ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ddywedodd, Arnaf fi, fy arglwydd, arnaf fi bydded yr anwiredd, a llefared dy wasanaethferch, atolwg, wrthyt, a gwrando eiriau dy lawforwyn.

º25 Atolwg, na osoded fy arglwydd ei galon yn erbyn y gŵr Belial hwn, sef Nbal: canys fel y mae ei enw ef, felly y mae yntau; Nabal yw ei enw ef, ac ynfydrwydd sydd gydag ef: a minnau dy wasanaethferch, ni welais weision fy arglwydd, y rhai a anfonaist.

º26 Ac yn awr, fy arglwydd, fel y mae yr ARGLWYDD yn fyw, ac mai byw dy enaid di, gan i’r ARGLWYDD dy luddias di rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â’th law dy hun; yn awr bydded dy elynion di, a’r sawl a geisiant niwed i’m harglwydd, megis Nabal.

º27 Ac yn awr yr anrheg yma, yr hon a ddug dy wasanaethferch i’m harglwydd, rhodder hi i’r llanciau sydd yn canlyn fy arglwydd.

º28 A maddau, atolwg, gamwedd dy wasanaethferch: canys yr ARGLWYDD gan wneuthur a wna i’m harglwydd dŷ sicr; oherwydd fy arglwydd sydd yn ymladd rhyfeloedd yr ARGLWYDD, a drygioni ni chafwyd ynot ti yn dy holl ddyddiau.

º29 Er cyfodi o ddyn i’th erlid di, ac i geisio dy enaid; eto enaid fy arglwydd a fydd wedi ei rwymo yn rhwymyn y bywyd gyda’r ARGLWYDD dy DDUW; ac enaid dy elynion a chwyrn deifl efe, fel o ganol ceudeb y ffon dafl.

º30 A phan wnelo yr ARGLWYDD i’m harglwydd yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe o ddaioni amdanat, a phan y’th osodo di yn llaenor ar Israel;

º31 Yna ni bydd hyn yn ochenaid i ti, nac yn dramgwydd calon i’m harglwydd, ddarfod i ti dywallt gwaed heb achos, nefl ddial o’m harglwydd ef ei hun: ond pan wnelo Duw ddaioni i’m harglwydd, yna cofia di dy lawforwyn.

º32 iA dywedodd Dafydd wrth Abigail, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a’th anfonodd di y dydd hwn i’m cyfarfod i:

º33 Bendigedig hefyd fo dy gyngor, a bendiegedig fyddych dithau yr hon a’m lluddiaist y dydd hwn rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â’m llaw fy hun.

º34 Canys yn wir, fel y mae ARGLWYDD DDUW Israel yn fyw, yr hwn a’m hataliodd i rhag dy ddrygu di, oni buasai i ti frysio a dyfod i’m cyfarfod, diau na adawsid i Nabal, erbyn goleuni y bore, un a bisai ar bared.

º35 Yna y cymerodd Dafydd o’i llaw hi yr hyn a ddygasai hi iddo ef; ac a ddy¬wedodd wrthi Aii, DOS i fyny mewn heddwch i’th dy: gwêl, mi a wrandewais ar dy lais, ac a dderbyniais dy wyneb.

º36 Ac Abigail a ddaeth at Nabal; ac wele, yr oedd gwledd ganddo ef yn ei dŷ, fel gwledd brenin: a chalon Nabal oedd lawen ynddo ef; canys meddw iawn oedd fife: am hynny nid ynganodd hi wrtho ef air, na bychan na mawr, nes goleuo y bore.

º37 A’r bore pan aeth ei feddwdod allan o Nabal, mynegodd ei wraig iddo ef y geiriau hynny; a’i galon ef a fu farw o’i fewn, ac efe a aeth fel carreg.

º38 Ac ynghylch pen y deng niwmod y ttawodd yr ARGLWYDD Nabal, fel y bu efe farw.

º39 A phan glybu Dafydd farw Nabal, efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn a ddadleuodd achos fy sarhad i oddi ar law Nabal, ac a ataliodd ei was rhag drwg: canys yr ARGLWYDD a drodd ddrygioni Nabal ar ei ben ei hun. Dafydd hefyd a anfonodd i ymddiddan ag Abigail, am ei chymryd hi yn wraig iddo.

º40 A phan ddaeth gweision Dafydd at Abigail i Carmel, hwy a lefarasant wrthi, gan ddywedyd, Dafydd a’n hanfonodd ni atat ti, i’th gymryd di yn wraig iddo.

º41 A hi a gyfododd, ac a ymgrymodd ar ei hwyneb hyd lawr; ac a ddywedodd, Wele dy forwyn yn wasanaethferch i olchi traed gweision fy arglwydd.

º42 Abigail hefyd a frysiodd, ac a gyfododd, ac a farchogodd ar asyn, a phump o’i llancesau yn ei chanlyn: a hi a aeth ar ôl cenhadau Dafydd, ac a aeth yn wraig iddo ef.

º43 A Dafydd a gymerth Ahinoam o Jesreel; a hwy a fuant ill dwyoedd yn wragedd iddo ef.

º44 A Saul a roddasai Michal ei ferch, gwraig Dafydd, i Phalli mab Lais, o Alim.

PENNOD 26

º1 AR Siffiaid a ddaethant at Saul i Gibea, gan ddywedyd, Onid ydyw Dafydd yn llechu ym mryn Hachila, ar gyfer y diffeithwch?

º2 Yna y cyfododd Saul, ac a aeth i waered i anialwch Siff, a thair mil o etholedigion gwŷr Israel gydag ef, i geisio Dafydd yn anialwch Siff.

º3 A Saul a wersyllodd ym mryn Hachila, yr hwn sydd ar gyfer y diffeith¬wch, wrth y ffordd: a Dafydd oedd yn aros yn yr anialwch; ac efe a welodd fod Saul yn dyfod ar ei ôl ef i’r anialwch.

º4 Am hynny Dafydd a anfonodd ysbiwyr, ac a wybu ddyfod o Saul yn sicr.

º5 A Dafydd a gyfododd, ac a ddaeth i’r lle y gwersyllasai Saul ynddo: a chanfu Dafydd y lle yr oedd Saul yn gorwedd ynddo, ac Abner mab Ner, tywysog ei lu. A Saul oedd yn gorwedd yn y wersyllfa, a’r bobl yn gwersyllu o’i amgylch ef.

º6 Yna y llefarodd Dafydd, ac y dywedodd wrth Ahimelech yr Hethiad, ac wrth Abisai mab Serfia, brawd Joab, gan ddywedyd, Pwy a â i waered gyda mi at Saul i’r gwersyll? A dywedodd Abisai, Myfi a af i waered gyda thi.

º7 Felly y daeth Dafydd ac Abisai at y bobl liw nos. Ac wele Saul yn gorwedd ac yn cysgu yn y wersyllfa, a’i waywffon wedi ei gwthio i’r ddaear wrth ei obennydd ef: ac Abner a’r bobl oedd yn gor¬wedd o’i amgylch ef.

º8 Yna y dywedodd Abisai wrth Dafydd, Duw a roddes heddiw dy elyn yn dy law di: yn awr gan hynny gad i mi ei daro ef, atolwg, a gwaywffon, hyd y ddaear un waith, ac nis aildrawaf ef.

º9 A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, Na ddifetha ef: canys pwy a estynnai ei law yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD, ac a fyddai ddieuog?

º10 Dywedodd Dafydd hefyd. Fel: mae yr ARGLWYDD yn fyw, naill ai y ARGLWYDD a’i tery ef; ai ei ddydd ef a ddaw i farw; ai efe a ddisgyn i’r rhyfel: ac a ddifethir.

º11 Yr ARGLWYDD a’m cadwo i rhai estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr Aaf GLWYDD: ond yn awr, cymer, atolwg, m waywffon sydd wrth ei obennydd ef, a’q llestr dwfr, ac awn ymaith.

º12 A Dafydd a gymerth y waywffon a’r llestr dwfr oddi wrth obennydd Saul a hwy a aethant ymaith; ac nid oedd neb yn gweled, nac yn gwybod, nac yn neffro: canys yr oeddynt oll yn cysgu; oberwydd trymgwsg oddi wrth yr AR¬GLWYDD a syrthiasai arnynt hwy.

º13 Yna Dafydd a aeth i’r tu hwnt, ac a safodd ar ben y mynydd o hirbell; ac, encyd fawr rhyngddynt; j

º14 A Dafydd a lefodd ar y bobl, ac ar| Abner mab Ner, gan ddywedyd, Onid’ atebi di, Abner? Yna Abner a atebodd, ac a ddywedodd, Pwy ydwyt ti sydd yn llefain ar y brenin?

º15 A Dafydd a ddywedodd wrth Abner, Onid gŵr ydwyt ti? a phwy sydd fel ti yn Israel? a phaham na chedwaist dyl arglwydd frenin? canys daeth un o’q bobl i ddifetha’r brenin dy arglwydd di. I

º16 Nid da y peth hyn a wnaethost ti, Fel y mae yr ARGLWYDD yn fyw, meibion euog o farwolaeth ydych chwi, am na chadwasoch eich meistr, eneiniog yr ARGLWYDD. Ac yn awr edrychwch pa le y mae gwaywffon y brenin, a’r llestr dwfr oedd wrth ei obennydd ef.

º17 A Saul a adnabu lais Dafydd, ac a ddywedodd, Ai dy lais di yw hwn, fy mab Dafydd? A dywedodd Dafydd, ‘Py llais i ydyw, fy arglwydd frenin.

º18 Dywedodd hefyd, Paham y mae fy arglwydd fel hyn yn erlid ar ôl ei was? canys beth a wneuthum? neu pa ddrygioni sydd yn fy llaw?

º19 Yn awr gan hynny, atolwg, gwrandawed fy arglwydd frenin eiriau ei wasanaethwr. Os yr ARGLWYDD a’th anogodd ‘ di i’m herbyn, arogled offrwrn: ond os t meibion dynion, melltigedig fyddant j Ay gcrbron yr ARGLWYDD; oherwydd |AV a’ui gyrasant i allan heddiw, fel nad Iwyt yn cael glynu yn etifeddiaeth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, DOS, gwasan.tclliii dduwiau dieithr.

º20 Yn awr, gan hynny, na syrthied fy upward i i’r ddaear o flaen wyneb yr ARGLWYDD: canys brenin Israel a ddaeth ill.in i geisio chwannen, megis un yn hela prins yn y mynyddoedd.

º21 Yna Saul a ddywedodd, Pechais: ilMhwel, Dafydd fy mab: canys ni’th hliygaf mwy; oherwydd gwerthfawr fu I’, eimoes i yn dy olwg di y dydd hwn: iM’le, ynfyd y gwneuthum, a mi a gyfeilinmais yn ddirfawr.

º22 A Dafydd a atebodd, ac a ddywedndd, Wele waywffon y brenin; deled un o’r xxxx llanciau drosodd, a chyrched hi.

º23 Yr ARGLWYDD a dalo i bob un ei nvliawnder a’i ffyddlondeb: canys yr ARGLWYDD a’th roddodd di heddiw yn Iv llaw i; ond nid estynnwn i fy llaw yn i ibyn eneiniog yr ARGLWYDD.

º24 Ac wele, megis y bu werthfawr dy i.nnoes di heddiw yn fy ngolwg i, felly H erthfawr fyddo fy einioes innau yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gwareded fi o bob cyfyngdra.

º25 Yna y dywedodd Saul wrth Dafydd, Bcndigedig fych di, fy mab Dafydd: liLtyd ti a wnei fawredd, ac a orchfygi ilug llaw. A Dafydd a aeth i ffordd;;i Saul a ddychwelodd i’w fangre ei liun.

PENNOD 27

º1 A DAFYDD a ddywedodd yn ei galon, 1\ Yn awr difethir fi ryw ddydd trwy l.iw Saul: nid oes dim well i mi na dianc i ilir y Philistiaid; fel yr anobeithio Saul i lily fod o hyd i mi, ac na’m ceisio mwyl 11 lioll derfynau Israel. Felly y dihangaf i’i l.iw ef.

º2 A Dafydd a gyfododd, ac a dramwyoild, efe a’r chwe channwr oedd gydag ef, lit Ailiis mab Maoch, brenin Gath.

º3 A D.ifydd a arhosodd gydag Achis yn G.iili, etc u’l wŷr, pob un gyda’i deulu; Datydd a’i ddwy wraig, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail gwraig NabaT, y Garmeles.

º4 A mynegwyd i Saul, ffoi o Dafydd i Gath: ac ni chwanegodd efe ei geisio ef mwy.

º5 A Dafydd a ddywedodd wrth Achis, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg di, rhodder i mi le yn un o’r maestrcfi, fel y trigwyf yno: canys paham yr erys dy was di yn ninas y brenin gyda thi?

º6 Yna Achis a roddodd iddo ef y dydd hwnnw Siclag; am hynny y mae Siclag yn eiddo brenhinoedd Jwda hyd y dydd hwn.

º7 A rhifedi y dyddiau yr arhosodd Dafydd yng ngwlad y Philistiaid, oedd flwyddyn a phedwar mis.

º8 A Dafydd a’i wŷr a aethant i fyny, ac a ruthrasant ar y Gesuriaid, a’r Gesriaid, a’r Amaleciaid: canys hwynt-hwy gynt oedd yn preswylio yn y wlad, ffordd yr elych i Sur, ie, hyd wlad yr Ain’t.

º9 A Dafydd a drawodd y wlad; ac ni adawodd yn fyw ŵr na gwraig; ac a ddug y defaid, a’r gwartheg, a’r asynnod, a’r camelod, a’r gwisgoedd, ac a ddychwel¬odd ac a ddaeth at Achis.

º10 Ac Achis a ddywedodd, I ba le y rhuthrasoch chwi heddiw? A dywedodd Dafydd, Yn erbyn tu deau Jwda, ac yn erbyn tu deau y Jerahmeeliaid, ac yn erbyn tu deau y Ceneaid.

º11 Ac ni adawsai Dafydd yn fyw ŵr na gwraig, i ddwyn chwedlau i Gath; gan ddywedyd, Rhag mynegi ohonynt i’n herbyn, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnaeth Dafydd, ac felly y bydd ei arfer ef yr holl ddyddiau yr arhoso efe yng ngwlad y Philistiaid.

º12 Ac Achis a gredodd Dafydd, gan ddywedyd, Efe a’i gwnaeth ei hun yn ffiaidd gan ei bobl ei hun Israel; am hynny y bydd efe yn was i mi yn dragywydd.

PENNOD 28

º1 AR Philistiaid yn y dyddiau hynny a gynullasant eu byddinoedd yn llu, i ymladd yn erbyn Israel. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Gwybydd di yn hysbys, yr ei di gyda mi allan i’r gwersylloedd, ti a’th wŷr.



º2 A dywedodd Dafydd wrth Achis, Yn ddiau ti a gei wybod beth a all dy was; ei wneuthur. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Yn wir minnau a’th osodaf di yn geidwad ar fy mhen i byth.

º3 A Samuel a fuasai farw; a holl Israel a alarasent amdano ef, ac a’i claddasent yn Rama, sef yn ei ddinas ei hun. A Saul a yrasai ymaith y swynyddion a’r dewiniaid o’r wlad. ‘

º4 A’r Philistiaid a ymgynullasant ac a ddaethant ac a wersyllasant yn Sunenu a Saul a gasglodd holl Israel ynghyd; a hwy a wersyllasant yn Gilboa.

º5 A phan welodd Saul wersyll y Philist¬iaid, efe a ofnodd, a’i galon a ddychrynodd yn ddirfawr.

º6 A phan ymgynghorodd Saul a’r AR~ GLWYDD, nid atebodd yr ARGLWYDD iddo, na thrwy freuddwydion, na thrwy Urim, na thrwy broffwydi.

º7 Yna y dywedodd Saul wrth ei weision, Ceisiwch i mi wraig o berchen, ysbryd dewiniaeth, fel yr elwyf ati, ac yr ymofynnwyf a hi. A’i weision a ddywedasant wrtho, Wele, y mae gwraig o berchen ysbryd dewiniaeth yn Endor.;

º8 A Saul a newidiodd ei ddull, ac a wisgodd ddillad eraill; ac efe a aeth, a dau ŵr gydag ef, a hwy a ddaethant at ywraig liw nos. Ac efe a ddywedodd, Dewinia, atolwg, i mi trwy ysbryd’ dewiniaeth, a dwg i fyny ataf fi yr hwn a ddywedwyf wrthyt.

º9 A’r wraig a ddywedodd wrtho ef, Wele, ti a wyddost yr hyn a wnaeth Saul, yr hwn a ddifethodd y swynyddion a’r’ dewiniaid o’r wlad: paham gan hynny yr ydwyt ti yn gosod magi yn erbyn fy’’ einioes i, i beri i mi farw?

º10 A Saul a dyngodd wrthi hi i’r AR¬GLWYDD, gan ddywedyd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ni ddigwydd i ti niwed am y peth hyn.

º11 Yna y dywedodd y wraig, Pwy a ddygaf fi i fyny atat ti? Ac efe a ddywed¬odd, Dwg i mi Samuel i fyny.

º12 A’r wraig a ganfu Samuel, ac a lefodd â llef uchel: a’r wraig a lefarodd wrth Saul, gan ddywedyd, Paham y twyllaist fi? canys ti yw Saul.

º13 A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, Nac ofna: canys beth a welaist ti? A’r wraig a ddywedodd wrth Saul, Duwiau a welais yn dyrchafu o’r ddaear.

º14 Yntau a ddywedodd wrthi. Pa ddull sydd arno ef? A hi a ddywedodd, Gwr hen sydd yn dyfod i fyny, a hwnnw yn gwisgo manteil. A gwybu Saul mai Samuel oedd efe, ac efe a ostyngodd ei wyneb i lawr, ac a ymgrymodd.

º15 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Paham yr aflonyddaist arnaf, gan beri i mi ddyfod i fyny? A dywedodd Saul, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: canys y mae y Philistiaid yn rhyfela yn fy erbyn i, a Duw a giliodd oddi wrthyf fi, ac nid yw yn fy ateb mwyach, na thrwy law proffwydi, na thrwy freudd¬wydion: am hynny y gelwais arnat ti, i hysbysu i mi beth a wnawn.

º16 Yna y dywedodd Samuel, Paham gan hynny yr ydwyt ti yn ymofyn a mi, gan i’r ARGLWYDD gilio oddi wrthyt, a bod yn elyn i ti?

º17 Yr ARGLWYDD yn ddiau a wnaeth iddo, megis y llefarodd trwy fy llaw i: canys yr ARGLWYDD a rwygodd y fren-hiniaeth o’th law di, ac a’i rhoddes hi i’th gymydog, i Dafydd:

º18 Oherwydd na wrandewaist ti ar lais yr ARGLWYDD, ac na chyflewnaist lidiowgrwydd ei ddicter ef yn erbyn Amalec; am hynny y gwnaeth yr ARGLWYDD y peth hyn i ti y dydd hwn.

º19 Yr ARGLWYDD hefyd a ddyry Israel gyda thi yn llaw y Philistiaid: ac yfory y byddi di a’th feibion gyda mi: a’r AR¬GLWYDD a ddyry wersylloedd Israel yn llaw y Philistiaid.

º20 Yna Saul a frysiodd ac a syrthiodd o’i hyd gyhyd ar y ddaear, ac a ofnodd yn ddirfawr, oherwydd geiriau Samuel: a nerth nid oedd ynddo; canys ni fwytasai fwyd yr holl ddiwmod na’r holl noson honno.

º21 A’r wraig a ddaeth at Saul, ac a ganfu ei fod ef yn ddychrynedig iawn; it hi a ddywedodd wrtho ef, Wele, nwrandawodd dy lawforwyn ar dy lais di, u gosodais fy einioes mewn enbydrwydd, nc ufuddheais dy eiriau a leferaist wrthyf:

º22 Yn awr gan hynny gwrando dithau, utolwg, ar lais dy wasanaethferch, a gad i mi osod ger dy fron di damaid o fara; a bwyta, fel y byddo nerth ynot, pan clych i’th ffordd.

º23 Ond efe a wrthododd, ac a ddy¬wedodd, Ni fwytaf. Eto ei weision a’r wraig hefyd a’i cymellasant ef, ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt. Ac efe 11 gyfododd oddi ar y ddaear, ac a eisteddoild ar y gwely.

º24 Ac yr oedd gan y wraig lo bras yn ty; a hi a frysiodd, ac a’i lladdodd ef, ac i gymerth beilliaid, ac a’i tyiinodd, ac o’i pobodd yn gri:

º25 A hi a’i dug gerbron Saul, a cherbron ei weision: a hwy a fwytasant. Yna hwy a gyfodasant, ac a aethant ymaith y noson honno. .

PENNOD 29

º1 YNA y Philistiaid a gynullasant eu holl fyddinoedd i Affec: a’r Israeliaid oedd yn gwersyllu wrth ffynnon sydd yn Jesreel.

º2 A thywysogion y Philistiaid oedd yn tramwy yn gannoedd, ac yn filoedd: ond Dafydd a’i wŷr oedd yn cerdded yn olaf gydag Achis.

º3 Yna tywysogion y Philistiaid a ddywedasant, Beth a wna yr Hebreaid hyn yma? Ac Achis a ddywedodd wrth dywysogion y Philistiaid, Onid dyma Dafydd, gwas Saul brenin Israel, yr hwn a fu gyda mi y dyddiau hyn, neu y blynyddoedd hyn, ac ni chefais ddim bai ynddo ef, er y dydd y syrthiodd efe ataf hyd y dydd hwn?

º4 A thywysogion y Philistiaid a lidiasunt wrtho; a thywysogion y Philistiaid a ddywedasant wrtho, Gwna i’r gŵr hwn ddychwelyd i’w le a osodaist iddo, ac na ddeled i waered gyda ni i’r rhyfel; rhag ei led yn wrthwynebwr i ni yn y rhyfel: canys i pha beth y rhyngai hwn fodd i’w fcistr? onid a phennau y gwŷr hyn?

º5 Onid hwn yw Dafydd, am yr hwn y canasant wrth ei gilydd yn y dawnsiau, gan ddywedyd, Saul a laddodd ei fil¬oedd, a Dafydd ei fyrddiwn?

º6 Yna Achis a alwodd Dafydd, ac a ddywedodd wrtho. Fel mai byw yr AR¬GLWYDD, diau dy fod di yn uniawn, ac yn dda yn fy ngolwg i, pan elit allan a phan ddelit i mewn gyda mi yn y gwersyll: canys ni chefais ynot ddrygioni, o’r dydd y daethost ataf fi hyd y dydd hwn: eithr nid wyt ti wrth fodd y tywysogion.

º7 Dychwel yn awr, gan hynny, a dos mewn heddwch, ac na anfodlona dywys¬ogion y Philistiaid.

º8 A dywedodd Dafydd wrth Achis, Ond beth a wneuthum i? a pheth a gefaist ti yn dy was, o’r dydd y deuthum o’th flaen di hyd y dydd hwn, fel na ddelwn i ymladd yn erbyn gelynion fy arglwydd frenin?

º9 Ac Achis a atebodd ac a ddywedodd wrth Dafydd, Gwn mai da wyt ti yn fy ngolwg i, megis angel Duw: ond tywys¬ogion y Philistiaid a ddywedasant, Ni ddaw efe i fyny gyda ni i’r rhyfel.

º10 Am hynny yn awr cyfod yn fore, a gweision dy feistr y rhai a ddaethant gyda thi: a phan gyfodoch yn fore, a phan oleuo i chwi ewch ymaith.

º11 Felly Dafydd a gyfododd, efe a’i .wyr, i fyned ymaith y bore, i ddychwelyd i dir y Philistiaid. A’r Philistiaid a . aethant i fyny i Jesreel.

PENNOD 30

º1 A PHAN ddaeth Dafydd a’i wŷr i Siclag y trydydd dydd, yr Amaleciaid a ruthrasent ar du y deau, ac ar Siclag, ac a drawsent Siclag, ac a’i llosgasent hi â thân.

º2 Caethgludasent hefyd y gwragedd oedd ynddi: o fychan hyd fawr ni laddasent hwy neb, eithr dygasenf hwy .ymaith, ac aethent i’w ffordd.

º3 Felly y daeth Dafydd a’i wŷr i’r ddinas; ac wele hi wedi ei llosgi â thân: eu gwragedd hwynt hefyd, a’u meibion, a’u merched, a gaethgludasid.

º4 Yna dyrchafodd Dafydd a’r bobl oedd gydag ef eu llef, ac a wylasant, hyd Had oedd nerth ynddynt i wylo.

º5 Dwy wraig Dafydd hefyd a gaeth? gludasid, Ahinoam y Jesreeles, ac Abi¬gail, gwraig Nabal y Carmeliad.

º6 A bu gyfyng iawn ar Dafydd; canys y bobl a feddyliasant ei labyddio ef; oherwydd chwerwasai enaid yr holl bobl, Bob un am ei feibion, ac am ei ferched: ond Dafydd a ymgysurodd yn yr ARGLWYDD ei DDUW.

º7 A Dafydd a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad) mab Ahimelech, Dwg i’ mi, atolwg, yr effod, Ac Abiathar a ddug yr effod at Dafydd.

º8 A Dafydd a ymofynnodd a’r AR¬GLWYDD, gan ddywedyd, A erlidiaf fi sa ôl y dorf hon? a oddiweddaf fi hi? ‘Ac efe a ddywedodd wrtho, Eriid: canys gan oddiweddyd y goddiweddi, a chan waredu y gwaredi.

º9 Felly Dafydd a aeth, efe a’r chwe channwr oedd gydag ef, a hwy a ddaethant hyd afon Besor, lle yr arhosodd y rhai a adawyd yn ôl.

º10 A Dafydd a erlidiodd, efe a phedwar cant o wŷr; canys dau cannwr a arosasant yn ôl, y rhai a flinasent fel iia allent fyned dros afon Besor.

º11 A hwy a gawsant Eifftddyn yn y maes, ac a’i dygasant ef at Dafydd; ac a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd; a hwy a’i diodasant ef a dwfr.

º12 A hwy a roddasant iddo ddarn o ffigys, a dau swp o resin: ac efe a fwyt¬aodd, a’i ysbryd a ddychwelodd ato: canys ni fwytasai fara, ac nid yfasai ddwfr dridiau a thair nos.

º13 A Dafydd a ddywedodd wrtho, Gwas i bwy wyt ti? ac o ba le y daethost ti? Ac efe a ddywedodd, Llanc o’r Ain’r ydwyf fi, gwas i ŵr o Amalec; a’m meistr a’m gadawodd, oblegid i mi glefychu er ys tridiau bellach.

º14 Nyni a ruthrasom ar du deau y Cerethiaid, a’r hyn sydd eiddo Jwda, a thu deau Caleb: Siclag hefyd a losgasom ni â thân.

º15 A Dafydd a ddywedodd wrtho, A fedri di fyned a mi i waered at y dorf hon? Yntau a ddywedodd, Twng wrthyf fi i DDUW, na leddi fi, ac na roddi fi yn llaw fy meistr, a mi a af a thi i waered at y dorf hon.

º16 Ac efe a’i dug ef i waered: ac wele hwynt wedi ymwasgaru ar hyd wyneb yr holl dir, yn bwyta, ac yn yfed, ac yn dawnsio; oherwydd yr holl ysbail fawr a ddygasent hwy o wlad y Philistiaid, ac o wlad Jwda.

º17 A Dafydd a’u trawodd hwynt o’r cyfnos hyd brynhawn drannoeth: ac ni ddihangodd un ohonynt, oddieithr pedwar cant o wŷr ieuanc, y rhai a farchogasant ar gamelod, ac a ffoesant.

º18 A Dafydd a achubodd yr hyn oll a ddygasai yr Amaleciaid: Dafydd hefyd a waredodd ei ddwy wraig.

º19 Ac nid oedd yn eisiau iddynt, na bychan na mawr, na mab na merch, na’r anrhaith, na dim ag a ddygasent hwy i ganddynt: hyn oll a ddug Dafydd adref. !

º20 Dug Dafydd hefyd yr holl ddefaid, a’r gwartheg; y rhai a yrasant o flaen yr anifeiliaid eraill, ac a ddywedasant, Dyma anrhaith Dafydd.

º21 A Dafydd a ddaeth at y ddau can¬nwr a flinasent, fel na allent ganlyn Dafydd, ac a barasid iddynt aros wrth afon Besor: a hwy a aethant i gyfarfod Dafydd, ac i gyfarfod a’r bobl oedd gydag ef. A phan nesaodd Dafydd at y bobl, efe a gyfarchodd well iddynt.

º22 Yna yr atebodd pob gŵr drygionus, ac eiddo y fall, o’r gwŷr a aethai gyda Dafydd, ac a ddywedasant, Oherwydd nad aethant hwy gyda ni, ni roddwn ni iddynt hwy ddim o’r anrhaith a achubasom ni; eithr i bob un ei wraig, a’i feibion: dygant hwynt ymaith, ac ymadawant.

º23 Yna y dywedodd Dafydd, Ni wnewch chwi felly, fy mrodyr, am yr hyn a roddodd yr ARGLWYDD i ni, yr hwn a’n cadwodd ni, ac a roddodd y dorf a ‘ ddaethai i’n herbyn, yn ein llaw ni.

º24 Canys pwy a wrendy arnoch chwi yn y peth hyn? canys un fath fydd rhan yr hwn a elo i waered i ryfel, a rhan yr hwn a arhoso gyda’r dodrefn: hwy a gydrannant.

º25 Ac o’r dydd hwnnw allan, efe a ‘ .nJodd hyn yn gyfraith ac yn farned:ieth yn Israel, hyd y dydd hwn.

º26 A phan ddaeth Dafydd i Siclag, lc a anfonodd o’r anrhaith i henuriaid wda, sef i’w gyfeillion, gan ddywedyd, Wele i chwi anrheg, o anrhaith gelynion yr ARGLWYDD;

º27 Sef i’r rhai oedd yn Bethel, ac i’r rhai oedd yn Ramoth tua’r deau, ac i’r rhai oedd yn Jattir, 2S Ac i’r rhai oedd yn Aroer, ac i’r rhai oedd yn Siffmoth, ac i’r rhai oedd yn listemoa,

º29 Ac i’r rhai oedd yn Rachal, ac i’r rhai oedd yn ninasoedd y Jerahmeeliaid, .ic i’r rhai oedd yn ninasoedd y Ceneaid,

º30 Ac i’r rhai oedd yn Horma, ac i’r rhai oedd yn Chorasan, ac i’r rhai oedd yn Athac,

º31 Ac i’r rhai oedd yn Hebron, ac i’r holl leoedd y buasai Dafydd a’i wŷr yn cyniwair ynddynt.;.

PENNOD 31

º1 AR Philistiaid oedd yn ymladd yn erbyn Israel: a gwŷr Israel a ffoes¬ant rhag y Philistiaid, ac a syrthiasant yn archolledig ym mynydd Gilboa.

º2 A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul a’i feibion; a’r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malci-sua, meibion Saul.

º3 A thrymhaodd y rhyfel yn erbyn Saul, a’r gwŷr Bwâu a’i cawsant ef; ac efe a archollwyd yn dost gan y saethyddion,

º4 Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn a osdd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf:, a thrywana fi ag ef; rhag i’r rhai dienwaededig yma ddytbd a’m trywanu i, a’m gwaradwyddo. Ond ni fynnai ei yswain ef; canys efe a ddychrynasai yn ddirfawr: am hynny Saul a gymerodd gleddyf, ac a syrthiodd arno.

º5 A phan welodd ei yswain farw o Saul, yntau hefyd a syrthiodd ar ei gleddyf, ac a fu farw gydag ef.

º6 Felly y bu farw Saul, a’i dri mab, a’i yswain, a’i holl wŷr, y dydd hwnnw ynghyd.

‘7 A phan welodd gwŷr Israel, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r dyffryn, a’r rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ffoi gwŷr Israel, a marw Saul a’i feibion, hwy a adawsant y dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philistiaid a ddaethant ac a drigasant ynddynt.

º8 A’r bore, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i dri mab yn gorwedd ym mynydd Gilboa.

º9 A hwy a dorasant ei ben ef, ac a ddiosgasant ei arfau ef, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o bob parth, i fynegi yn nhŷ eu delwau hwynt, ac ymysg y bobl.,

º10 A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Astaroth; a’i gorff ef a hoeliasant hwy ar fur Bethsan.

º11 A phan glybu trigolion Jabes Gilead yr hyn a wnaethai y Philistiaid i Saul;

º12 Yr holl wŷr nerthol a gyfodasant, a gerddasant ar hyd y nos, ac a ddygasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei

º1 feibion ef, oddi ar fur Bethsan, ac a ddaethant i Jabes, ac a’u llosgasant hwynt yno.

º13 A hwy. a gymerasant eu hesgyrn hwynt, ac a’u claddasant dan bren yn Jabes, ac ymprydiasant saith niwrnod.