Beibl (1620)/2 Pedr

Oddi ar Wicidestun
1 Pedr Beibl (1620)
2 Pedr
2 Pedr
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
1 Ioan

AIL EPISTOL CYFFREDINOL PEDR YR APOSTOL

PENNOD 1

1:1 Simon Pedr, gwasanaethwr ac apostol Iesu Grist, at y rhai a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd a ninnau, trwy gyfiawnder ein Duw ni, a’n Hachubwr Iesu Grist:

1:2 Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer, trwy adnabod Duw, a Iesu ein Harglwydd ni,

1:3 Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy ei adnabod ef yr hwn a’n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd:

1:4 Trwy’r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr, fel trwy’r rhai hyn y byddech gyfranogion o’r duwiol anian, wedi dianc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant.

1:5 A hyn yma hefyd, gan roddi cwbl ddiwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd, rinwedd, ac at rinwedd, wybodaeth;

1:6 Ac at wybodaeth, gymedrolder; ac at gymedrolder, amynedd, ac at amynedd, dduwioldeb;

1:7 Ac at dduwioldeb, garedigrwydd brawdol; ac at garedigrwydd brawdol, gariad.

1:8 Canys os yw’r pethau hyn gennych, ac yn aml hwynt, y maent yn peri na byddoch na segur na diffrwyth yng ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist.

1:9 Oblegid yr hwn nid yw’r rhai hyn ganddo, dall ydyw, heb weled ymhell, wedi gollwng dros gof ei lanhau oddi wrth ei bechodau gynt.

1:10 Oherwydd paham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a’ch etholedigaeth yn sicr: canys, tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth:

1:11 Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist.

1:12 Oherwydd paham nid esgeulusaf eich coffau bob amser am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod, ac wedi eich sicrhau yn y gwirionedd presennol.

1:13 Eithr yr ydwyf yn tybied fod yn iawn, tra fyddwyf yn y tabernacl hwn, eich cyffroi chwi, trwy ddwyn ar gof i chwi,

1:14 Gan wybod y bydd i mi ar frys roddi fy nhabernacl hwn heibio, megis ag yr hysbysodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi.

1:15 Ac mi a wnaf fy ngorau hefyd ar allu ohonoch bob amser, ar ôl fy ymadawiad i, wneuthur coffa am y pethau hyn.

1:16 Canys nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys, yr hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi gweled ei fawredd ef â’n llygaid.

1:17 Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr-ragorol Ogoniant, Hwn yw fy annwyl Fab i, yn yr hwn y’m bodlonwyd.

1:18 A’r llef yma, yr hon a ddaeth o’r nef, a glywsom ni, pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd.

1:19 Ac y mae gennym air sicrach y proffwydi, yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio’r dydd, ac oni chodo’r seren ddydd yn eich calonnau chwi:

1:20 Gan wybod hyn yn gyntaf, nad oes un broffwydoliaeth o’r ysgrythur o ddehongliad priod.

1:21 Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth, eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân.


PENNOD 2

2:1 Eithr bu gau broffwydi hefyd ymhiith y bobl, megis ag y bydd gau athrawon yn eich plith chwithau, y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol, a chan wadu’r Arglwydd yr hwn a’u prynodd hwynt, ydynt yn tynnu arnynt eu hunain ddinistr buan.

2:2 A llawer a ganlynant eu distryw hwynt, oherwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd.

2:3 Ac mewn cybydd-dod, trwy chwedlau gwneuthur, y gwnant farsiandïaeth ohonoch: barnedigaeth y rhai er ys talm nid yw segur, a’u colledigaeth hwy nid yw yn hepian.

2:4 Canys onid arbedodd Duw yr angylion a bechasent, eithr eu taflu hwynt i uffern, a’u rhoddi i gadwynau tywyllwch, i’w cadw i farnedigaeth,

2:5 Ac onid arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noe, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe ar ei wythfed, pan ddug efe y dilyw ar fyd y rhai anwir;

2:6 A chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, a’u damniodd hwy â dymchweliad, gan eu gosod yn esampl i’r rhai a fyddent yn annuwiol;

2:7 Ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwiriaid:‘

2:8 (Canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysg hwynt, yn gweled ac yn clywed, ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd trwy eu hanghyfreithlon weithredoedd hwynt:)

2:9 Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duwiol rhag profedigaeth, a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn i’w poeni:

2:10 Ac yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid, ac yn diystyru llywodraeth. Rhyfygus ydynt, cyndyn; nid ydynt yn arswydo cablu urddas:

2:11 Lle nid yw’r angylion, y rhai sydd fwy mewn gallu a nerth, yn rhoddi cablaidd farn yn eu herbyn hwynt gerbron yr Arglwydd.

2:12 Eithr y rhai hyn, megis anifeiliaid anrhesymol anianol, y rhai a wnaed i’w dal ac i’w difetha, a gablant y pethau ni wyddant oddi wrthynt, ac a ddifethir yn eu llygredigaeth eu hunain,

2:13 Ac a dderbyniant gyflog anghyfiawnder, a hwy yn cyfrif moethau beunydd yn hyfrydwch. Brychau a meflau ydynt, yn ymddigrifo yn eu twyll eu hunain, gan wledda gyda chwi,

2:14 A llygaid ganddynt yn llawn godineb, ac heb fedru peidio â phechod, yn llithio eneidiau anwadal: a chanddynt galon wedi ymgynefino â chybydd-dra, plant y felltith:

2:15 Wedi gadael y ffordd union, hwy a aethant ar gyfeiliorn, gan ganlyn ffordd Balaam mab Bosor, yr hwn a garodd wobr anghyfiawnder,

2:16 Ond efe a gafodd gerydd am ei gamwedd: asen fud arferol â’r iau, gan ddywedyd a llef ddynol, a waharddodd ynfydrwydd y proffwyd.

2:17 Y rhai hyn ydynt ffynhonnau di-ddwfr, cymylau a yrrid gan dymestl, i’r rhai y mae niwl tywyllwch yng nghadw yn dragywydd.

2:18 Canys gan ddywedyd chwyddedig eiriau gorwagedd, y maent hwy, trwy chwantau’r cnawd, a thrythyllwch, yn llithio’r rhai a ddianghasai yn gwbl oddi wrth y rhai sydd yn byw ar gyfeiliorn.

2:19 Gan addo rhyddid iddynt, a hwythau eu hunain yn wasanaethwyr llygredigaeth: canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb, i hwnnw hefyd yr aeth efe yn gaeth.

2:20 Canys os, wedi iddynt ddianc oddi wrth halogedigaeth y byd, trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd a’r Achubwr Iesu Grist, y rhwystrir hwy drachefn â’r pethau hyn, a’u gorchfygu; aeth diwedd y rhai hynny yn waeth na’u dechreuad.

2:21 Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag, wedi ei hadnabod, troi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd yr hwn a draddodwyd iddynt.

2:22 Eithr digwyddodd iddynt yn ôl y wir ddihareb, y ci a ymchwelodd at ei chwydiad ei hun, a’r hwch wedi ei golchi, i’w hymdreiglfa yn y dom.


PENNOD 3

3:1 Yr ail epistol hwn, anwylyd, yr ydwyf yn awr yn ei ysgrifennu atoch, yn yr hwn yr ydwyf yn cyffroi eich meddwl puraidd, trwy ddwyn ar gof i chwi:

3:2 Fel y byddo cofus gennych y geiriau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a’n gorchymyn ninnau, apostolion yr Arglwydd a’r lachawdwr:

3:3 Gan wybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr, yn rhodio yn ôl eu chwantau eu hunain.

3:4 Ac yn dywedyd. Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys er pan hunodd y tadau, y mae pob peth yn parhau fel yr oeddynt o ddechreuad y creadigaeth.

3:5 Canys y mae hyn yn ddiarwybod iddynt o’u gwirfodd, mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ys talm, a’r ddaear yn cydsefyll o’r dwfr a thrwy’r dwfr.

3:6 Oherwydd paham y byd a oedd y pryd hwnnw, wedi ei orchuddio â dwfr, a ddifethwyd.

3:7 Eithr y nefoedd a’r ddaear sydd yr awr hon, ydynt trwy’r un gair wedi eu rhoddi i gadw i dân, erbyn dydd y farn, a distryw yr anwir ddynion.

3:8 Eithr yr un peth hwn na fydded yn ddiarwybod i chwi, anwylyd, fod un dydd gyda’r Arglwydd megis mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megis un dydd.

3:9 Nid ydyw’r Arglwydd yn oedi ei addewid, fel y mae rhai yn cyfrif oed;ond hirymarhous yw efe tuag atom m, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch.

3:10 Eithr dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nos; yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gyda thwrf, a’r defnyddiau gan wir wres a doddant, a’r ddaear a’r gwaith a fyddo ynddi a losgir.

3:11 A chan fod yn rhaid i hyn i gyd ymollwng, pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb,

3:12 Yn disgwyl ac yn brysio at ddyfodiad dydd Duw, yn yr hwn y nefoedd gan losgi a ymollyngant, a’r defnyddiau gan wir wres a doddant?

3:13 Eithr nefoedd newydd, a daear newydd, yr ydym ni, yn ôl ei addewid ef, yn eu disgwyl, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu.

3:14 Oherwydd paham, anwylyd, gan eich bod yn disgwyl y pethau hyn, gwnewch eich gorau ar eich cael ganddo ef mewn tangnefedd, yn ddifrycheulyd, ac yn ddiargyhoedd.

3:15 A chyfrifwch hir amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth; megis ag yrysgrifennodd ein hannwyl frawd Paul atoch chwi, yn ôl y doethineb a rodded iddo ef;

3:16 Megis yn ei holl epistolau hefyd, yn llefaru ynddynt am y pethau hyn: yn y rhai y mae rhyw bethau anodd eu deall, y rhai y mae’r annysgedig a’r anwastad yn eu gwyrdroi, megis yr ysgrythurau eraill, i’w dinistr eu hunain.

3:17 Chwychwi gan hynny, anwylyd, a chwi yn gwybod y pethau hyn o’r blaen, ymgedwch rhag eich arwain ymaith trwy amryfusedd yr annuwiol, a chwympo ohonoch oddi wrth eich sicrwydd eich hun.

3:18 Eithr cynyddwch mewn gras a gwybodaeth ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist. Iddo ef y byddo gogoniant yr awr hon ac yn dragwyddol. Amen.