Beibl (1620)/Colosiaid

Oddi ar Wicidestun
Philipiaid Beibl (1620)
Colosiaid
Colosiaid
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
1 Thesaloniaid

Epistol Paul yr Apostol at y

Colossiaid.

PENNOD 1

1:1 Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a Thimotheus ein brawd,

1:2 At y saint a'r ffyddlon frodyr yng Nghrist y rhai sydd yng Ngholosa: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.

1:3 Yr ydym yn diolch i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, gan weddio drosoch chwi yn wastadol,

1:4 Er pan glywsom am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint;

1:5 Er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch o'r blaen yng ngair gwirionedd yr efengyl:

1:6 Yr hon sydd wedi dyfod atoch chwi, megis ag y mae yn yr holl fyd; ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ag yn eich plith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd:

1:7 Megis ag y dysgasoch gan Epaffras ein hannwyl gyd-was, yr hwn sydd drosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Grist;

1:8 Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Ysbryd.

1:9 Oherwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch, a deisyf eich cyflawni chwi a gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol;

1:10 Fel y rhodioch yn addas i'r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw;

1:11 Wedi eich nerthu â phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd;

1:12 Gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni:

1:13 Yr hwn a'n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a'n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab:

1:14 Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau:

1:15 Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf-anedig pob creadur:

1:16 Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a'r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef.

1:17 Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll.

1:18 Ac efe yw pen corff yr eglwys; efe, yr hwn yw'r dechreuad, y cyntaf-anedig oddi wrth y meirw; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth.

1:19 Oblegid rhyngodd bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef;

1:20 Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd.

1:21 A chwithau, y rhai oeddech ddieithriaid, a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, yr awr hon hefyd a gymododd efe,

1:22 Yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth, i'ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron ef:

1:23 Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a'ch sicrhau, ac heb eich symud oddi wrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd ymysg pob creadur a'r sydd dan y nef; i'r hon y'm gwnaethpwyd i Paul yn weinidog:

1:24 Yr hwn ydwyf yn awr yn llawenychu yn fy nioddefiadau drosoch, ac yn cyflawni'r hyn sydd yn ôl o gystuddiau Crist yn fy nghnawd i, er mwyn ei gorff ef, yr hwn yw'r eglwys:

1:25 I'r hon y'm gwnaethpwyd i yn weinidog, yn ôl goruchwyliaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi, i gyflawni gair Duw;

1:26 Sef y dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd ac er cenedlaethau, ond yr awr hon a eglurwyd i'w saint ef:

1:27 I'r rhai yr ewyllysiodd Duw hysbysu beth yw golud gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd; yr hwn yw Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant:

1:28 Yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu, gan rybuddio pob dyn, a dysgu pob dyn ym mhob doethineb; fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist Iesu:

1:29 Am yr hyn yr ydwyf hefyd yn llafurio, gan ymdrechu yn ôl ei weithrediad ef, yr hwn sydd yn gweithio ynof fi yn nerthol.


PENNOD 2

2:1 Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a'r rhai yn Laodicea, a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd;

2:2 Fel y cysurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgysylitu mewn cariad, ac i bob golud sicrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a'r Tad, a Christ;

2:3 Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig.

2:4 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel.

2:5 Canys er fy mod i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yng Nghrist.

2:6 Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodioch ynddo;

2:7 Wedi eich gwreiddio a'ch adeiladu ynddo ef, a'ch cadarnhau yn y ffydd, megis y'ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch.

2:8 Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ôl traddodiad dynion, yn ôl egwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist.

2:9 Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol.

2:10 Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod:

2:11 Yn yr hwn hefyd y'ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosg corff pechodau'r cnawd, yn enwaediad Crist:

2:12 Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn hefyd y'ch cydgyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw yr hwn a'i cyfododd ef o feirw.

2:13 A chwithau, pan oeddech yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gydfywhaodd efe gydag ef, gan faddau i chwi yr holl gamweddau;

2:14 Gan ddileu ysgrifen-law yr ordeiniadau, yr hon oedd i'n herbyn ni, yr hon oedd yng ngwrthwyneb i ni, ac a'i cymerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes;

2:15 Gan ysbeilio'r tywysogaethau a'r awdurdodau, efe a'u harddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi.

2:16 Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gwyl, neu newyddloer, neu Sabothau:

2:17 Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod; ond y corff sydd o Grist.

2:18 Na thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, ac addoliad angylion, gan ruthro i bethau nis gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun;

2:19 Ac heb gyfatal y Pen, o'r hwn y mae'r holl gorff, trwy'r cymalau a'r cysylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgysylitu, yn cynyddu gan gynnydd Duw,

2:20 Am hynny, os ydych wedi marw gyda Christ oddi wrth egwyddorion y byd, paham yr ydych, megis petech yn byw yn y byd, yn ymroi i ordeiniadau,

2:21 (Na chyffwrdd; ac nac archwaetha, ac na theimla;

2:22 Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer;) yn ôl gorchmynion ac athrawiaethau dynion?

2:23 Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllys-grefydd, a gostyngeiddrwydd, a bod heb arbed y corff, nid mewn bri i ddigoni'r cnawd.


PENNOD 3

3:1 Am hynny os cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw.

3:2 Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaear.

3:3 Canys meirw ydych, a'ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw.

3:4 Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant.

3:5 Marwhewch gan hynny eich aelodau, y rhai sydd ar y ddaear; godineb, aflendid, gwyn, drygchwant, a chybydd-dod, yr hon sydd eilun-addoliaeth:

3:6 O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd-dod:

3:7 Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddech yn byw ynddynt.

3:8 Ond yr awron rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn; dicter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o'ch genau.

3:9 Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd a'i weithredoedd;

3:10 A gwisgo'r newydd, yr hwn a adnewyddir mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a'i creodd ef:

3:11 Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth.

3:12 Am hynny, (megis etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl,) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros;

3:13 Gan gyd-ddwyn â'ch gilydd, a maddau i'ch gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau.

3:14 Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd.

3:15 A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i'r hwn hefyd y'ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar.

3:16 Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i'r Arglwydd.

3:17 A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bob peth yn enw'r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a'r Tad trwyddo ef.

3:18 Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd.

3:19 Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt.

3:20 Y plant, ufuddhewch i'ch rhieni ym mhob peth: canys hyn sydd yn rhyngu bodd i'r Arglwydd yn dda.

3:21 Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont.

3:22 Y gweision, ufuddhewch ym mhob peth i'ch meistriaid yn ôl y cnawd; nid â llygad-wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw:

3:23 A pha beth bynnag a wneloch, gwnewch o'r galon, megis i'r Arglwydd, ac nid i ddynion;

3:24 Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: canys yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu.

3:25 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth: ac nid oes derbyn wyneb.


PENNOD 4

4:1 Y Meistriaid, gwnewch i'ch gweision yr hyn sydd gyfiawn ac union; gan wybod fod i chwithau Feistr yn y nefoedd.

4:2 Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch;

4:3 Gan weddio hefyd drosom ninnau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau:

4:4 Fel yr eglurhawyf ef, megis y mae yn rhaid i mi ei draethu.

4:5 Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai sydd allan, gan brynu'r amser.

4:6 Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y mae yn rhaid i chwi ateb i bob dyn.

4:7 Fy holl helynt i a fynega Tychicus i chwi, y brawd annwyl, a'r gweinidog ffyddlon, a'r cyd-was yn yr Arglwydd:

4:8 Yr hwn a ddanfonais atoch er mwyn hyn, fel y gwybyddai eich helynt chwi, ac y diddanai eich calonnau chwi;

4:9 Gydag Onesimus, y ffyddlon a'r annwyl frawd, yr hwn sydd ohonoch chwi. Hwy a hysbysant i chwi bob peth a wneir yma.

4:10 Y mae Aristarchus, fy nghyd-garcharor, yn eich annerch; a Marc, nai Barnabas fab ei chwaer, (am yr hwn y derbyniasoch orchmynion: os daw efe atoch, derbyniwch ef;)

4:11 A Jesus, yr hwn a elwir Jwstus, y rhai ydynt o'r enwaediad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd-weithwyr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gysur i mi.

4:12 Y mae Epaffras, yr hwn sydd ohonoch, gwas Crist, yn eich annerch, gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddiau, ar i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn yng nghwbl o ewyllys Duw.

4:13 Canys yr ydwyf yn dyst iddo, fod ganddo sêl mawr trosoch chwi, a'r rhai o Laodicea, a'r rhai o Hierapolis.

4:14 Y mae Luc y ffisigwr annwyl, a Demas, yn eich annerch.

4:15 Anerchwch y brodyr sydd yn Laodicea, a Nymffas, a'r eglwys sydd yn ei dŷ ef.

4:16 Ac wedi darllen yr epistol hwn gyda chwi, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid: a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea.

4:17 A dywedwch wrth Archipus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawni hi. ;

4:18 Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun. Cofiwch fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi. Amen.

At y Colosiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus ac Onesimus.