Beibl (1620)/Galarnad Jeremeia

Oddi ar Wicidestun
Jeremeia Beibl (1620)
Galarnad Jeremeia
Galarnad Jeremeia
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Eseciel

GALARNAD JEREMIAH.

PENNOD 1

1:1 Pa fodd y mae y ddinas aml ei phobl yn eistedd ei hunan! pa fodd y mae y luosog ymhlith y cenhedloedd megis yn weddw! pa fodd y mae tywysoges y taleithiau dan deyrnged?

1:2 Y mae hi yn wylo yn hidl liw nos, ac y mae ei dagrau ar ei gruddiau, heb neb o'i holl gariadau yn ei chysuro: ei holl gyfeillion a fuant anghywir iddi, ac a aethant yn elynion iddi.

1:3 Jwda a fudodd ymaith gan flinder, a chan faint caethiwed; y mae hi yn aros ymysg y cenhedloedd, heb gael gorffwystra: ei holl erlidwyr a'i goddiweddasant hi mewn lleoedd cyfyng.

1:4 Y mae ffyrdd Seion yn galaru, o eisiau rhai yn dyfod i'r ŵyl arbennig: i holl byrth hi sydd anghyfannedd, ei hoffeiriaid yn ucheneidio, ei morynion yn ofidus, a hithau yn flin arni.

1:5 Ei gwrthwynebwyr ydynt bennaf, y mae ei gelynion yn ffynnu: canys yr ARGLWYDD a'i gofidiodd hi am amlder ei chamweddau: ei phlant a aethant i gaethiwed o flaen y gelyn.

1:6 A holl harddwch merch Seion a ymadawodd â hi; y mae ei thywysogion hi fel hyddod heb gael porfa, ac yn myned yn ddi-nerth o flaen yr ymlidiwr.

1:7 Y mae Jerwsalem, yn nyddiau ei blinder a'i chaledi, yn cofio ei holl hyfrydwch oedd iddi yn y dyddiau gynt, pan syrthiodd ei phobl hi yn llaw y gelyn, heb neb yn ei chynorthwyo hi: y gelynion a'i gwelsant hi, ac a chwarddasant am ben ei sabothau.

1:8 Jerwsalem a bechodd bechod, am hynny y symudwyd hi: yr holl rai a'i hanrhydeddent sydd yn ei diystyru hi, oherwydd iddynt weled ei noethni hi: ie, y mae hi yn ucheneidio, ac yn troi yn ei hôl.

1:9 Ei haflendid sydd yn ei godre, nid yw hi yn meddwl am ei diwedd; am hynny y syrthiodd hi yn rhyfedd, heb neb yn ei chysuro. Edrych, ARGLWYDD, ar fy mlinder; canys ymfawrygodd y gelyn.

1:10 Y gwrthwynebwr a estynnodd ei law ar ei holl hoffbethau hi: hi a welodd y cenhedloedd yn dyfod i mewn i'w chysegr, i'r rhai y gorchmynasit ti na ddelent i'th gynulleidfa.

1:11 Y mae ei holl bobl hi yn ucheneidio, yn ceisio bwyd: hwy a roddasant eu hoffbethau am fwyd i ddadebru yr enaid: edrych, ARGLWYDD, a gwêl; canys dirmygus ydwyf fi.

1:12 Onid gwaeth gennych chwi, y fforddolion oil? gwelwch ac edrychwch, a oes y fath ofid â'm gofid i, yr hwn a wnaethpwyd i mi, a'r hwn y gofidiodd yr ARGLWYDD fi yn nydd angerdd ei ddicter.

1:13 O'r uchelder yr anfonodd efe dân i’m hesgyrn i, yr hwn a aeth yn drech na hwynt: efe a ledodd rwyd o flaen fy nhraed, ac a'm dychwelodd yn fy ôl; efe a'm gwnaeth yn anrheithiedig, ac yn ofidus ar hyd y dydd.

1:14 Rhwymwyd iau fy nghamweddau â’i law ef: hwy a blethwyd, ac a ddaethant i fyny am fy ngwddf: efe a wnaeth i'm - nerth syrthio; yr ARGLWYDD a'm rhoddodd mewn dwylo, oddi tan y rhai ni allaf gyfodi.

1:15 Yr ARGLWYDD a fathrodd fy holl rai grymus o'm mewn; efe a gyhoeddodd i'm herbyn gymanfa, i ddifetha fy ngwŷr ieuainc: fel gwinwryf y sathrodd yr ARGLWYDD y forwyn, merch Jwda.

1:16 Am hyn yr ydwyf yn wylo; y mae fy llygad, fy llygad, yn rhedeg gan ddwfr, oherwydd pellhau oddi wrthyf ddiddanwr a ddadebrai fy enaid: fy meibion sydd anrheithiedig, am i'r gelyn orchfygu.

1:17 Seion a ledodd ei dwylo, heb neb yn ei diddanu: yr ARGLWYDD a orchmynnodd am Jacob, fod ei elynion yn ei gylch: Jerwsalem sydd fel gwraig fisglwyfus yn eu mysg hwynt.

1:18 Cyfiawn yw yr ARGLWYDD; oblegid myfi a fûm anufudd i'w air ef: gwrandewch, atolwg, bobloedd oll, a gwelwch fy ngofid: fy morynion a'm gwŷr ieuainc a aethant i gaethiwed.

1:19 Gelwais am fy nghariadau, a hwy a'm twyllasant; fy offeiriaid a'm hynafgwyr a drengasant yn y ddinas, tra oeddynt yn ceisio iddynt fwyd i ddadebru eu henaid.

1:20 Gwêl, O ARGLWYDD; canys y mae yn gyfyng arnaf: fy ymysgaroedd a gyffroesant, fy nghalon a drodd ynof; oherwydd fy mod yn rhy anufudd: y mae y cleddyf yn difetha oddi allan, megis marwolaeth sydd gartref.

1:21 Clywsant fy mod i yn ucheneidio: nid oes a'm diddano: fy holl elynion, pan glywsant fy nrygfyd, a lawenychasant am i ti wneuthur hynny: ond ti a ddygi i ben y dydd a gyhoeddaist, a hwy a fyddant fel finnau.

1:22 Deued eu holl ddrygioni hwynt i ni o'th flaen di; a gwna iddynt hwy fel y gwnaethost i minnau, am fy holl gamweddau: oblegid y mae fy ucheneidiau yn aml, a'm calon yn ofidus.


PENNOD 2

2:1 Pa fodd y dug yr ARGLWYDD gwmwl ar ferch Seion yn ei soriant, ac y bwriodd degwch Israel i lawr o'r nefoedd, ac na chofiodd leithig ei draed yn nydd ei ddigofaint!

2:2 Yr Arglwydd a lyncodd, heb arbed, holl anheddau Jacob; efe a ddifrododd yn ei ddicter amddiffynfeydd merch Jwda; efe a'u tynnodd hwynt i lawr, ac a ddifwynodd y deyrnas a'i thywysogion.

2:3 Mewn soriant dicllon y torrodd efe holl gorn Israel: efe a dynnodd ei ddeheulaw yn ei hôl oddi wrth y gelyn; ac yn erbyn Jacob y cyneuodd megis fflam danllyd, yr hon a ddifa o amgylch.

2:4 Efe a anelodd ei fwa fel gelyn; safodd â'i ddeheulaw fel gwrthwynebwr, ac a laddodd bob dim hyfryd i'r golwg ym mhabell merch Seion: fel tân y tywalltodd efe ei ddigofaint.

2:5 Yr Arglwydd sydd megis gelyn: efe a lyncodd Israel, efe a lyncodd ei holl balasau hi: efe a ddifwynodd ei hamddiffynfeydd, ac a wnaeth gwynfan a galar yn aml ym merch Jwda.

2:6 Efe a anrheithiodd ei babell fel gardd; efe a ddinistriodd leoedd ei gymanfa: yr ARGLWYDD a wnaeth anghofio yn Seion yr uchel ŵyl a'r Saboth, ac yn llidiowgrwydd ei soriant y dirmygodd efe y brenin a'r offeiriad.

2:7 Yr ARGLWYDD a wrthododd ei allor, a ffieiddiodd ei gysegr; rhoddodd gaerau ei phalasau hi yn llaw y gelyn: rhoddasant floedd yn nhŷ yr ARGLWYDD, megis ar ddydd uchel ŵyl.

2:8 Yr ARGLWYDD a fwriadodd ddifwyno mur merch Seion; efe a estynnodd linyn, ac nid ataliodd ei law rhag difetha: am hynny y gwnaeth efe i'r rhagfur ac i'r mur alaru; cydlesgasant.

2:9 Ei phyrth a soddasant i'r ddaear; efe a ddifethodd ac a ddrylliodd ei barrau hi: ei brenin a'i thywysogion ydynt ymysg y cenhedloedd: heb gyfraith y mae; a'i phroffwydi heb gael gweledigaeth gan yr ARGLWYDD.

2:10 Henuriaid merch Seion a eisteddant ar lawr, a dawant â son; gosodasant uwch ar eu pennau; ymwregysasant â sachliain: gwyryfon Jerwsalem a ostyngasant eu pennau i lawr.

2:11 Fy llygaid sydd yn pallu gan ddagrau, fy ymysgaroedd a gyffroesant, fy afu a dywalltwyd ar y ddaear, oherwydd dinistr merch fy mhobl, pan lewygodd y plant a'r rhai yn sugno yn heolydd y ddinas.

2:12 Hwy a ddywedant wrth eu mamau, Pa le y mae ŷd a gwin? pan lewygent fel yr archolledig yn heolydd y ddinas, pan dywalltent eu heneidiau ym mynwes eu mamau.

2:13 Pa beth a gymeraf yn dyst i ti? beth a gyffelybaf i ti, O ferch Jerwsalem? beth a gystadlaf â thi, fel y'th ddiddanwyf, O forwyn, merch Seion? canys y mae dy ddinistr yn fawr fel y môr; pwy a'th iachâ di?

2:14 Dy broffwydi a welsant i ti gelwydd a diflasrwydd, ac ni ddatguddiasant dy anwiredd, i droi ymaith dy gaethiwed: eithr hwy a welsant i ti feichiau celwyddog, achosion deol.

2:15 Y rhai oil a dramwyent y ffordd, a gurent eu dwylo arnat ti, chwibanent, ac ysgydwent eu pennau ar ferch Jerwsalem, gan ddywedyd, Ai dyma y ddinas a alwent yn berffeithrwydd tegwch, yn llawenydd yr holl ddaear?

2:16 Dy holl elynion a ledasant eu safnau arnat ti; a chwibanasant, ac a ysgyrnygasant ddannedd, ac a ddywedasant, Llyncasom hi: yn ddiau dyma y dydd a ddisgwyliasom ni; ni a'i cawsom, ni â’i gwelsom.

2:17 Yr ARGLWYDD a wnaeth yr hyn a ddychmygodd; ac a gyflawnodd ei air yr hwn a orchmynnodd efe er y dyddiau gynt: efe a ddifrododd, ac nid arbedodd; efe a wnaeth i'r gelyn lawenychu yn dy erbyn di; efe a ddyrchafodd gorn dy wrthwynebwyr di.

2:18 Eu calon hwynt a waeddodd ar yr ARGLWYDD, O fur merch Seion, tywallt ddagrau ddydd a nos fel afon; na orffwys, ac na pheidied cannwyll dy lygad.

2:19 Cyfod, cyhoedda liw nos; yn nechrau yr wyliadwriaeth tywallt dy galon fel dwfr gerbron yr ARGLWYDD: dyrchafa dy ddwylo ato ef am einioes dy blant, y rhai sydd yn llewygu o newyn ym mhen pob heol.

2:20 Edrych, ARGLWYDD, a gwêl i bwy y gwnaethost fel hyn: a fwyty y gwragedd eu ffrwyth eu hun, plant o rychwant o hyd? a leddir yr offeiriad a'r proffwyd yng nghysegr yr ARGLWYDD?

2:21 Ieuanc a hen sydd yn gorwedd ar lawr yn yr heolydd; fy morynion a'm gwŷr ieuainc a syrthiasant trwy y cleddyf; ti a'u lleddaist hwynt yn nydd dy soriant, lleddaist hwy heb arbed.

2:22 Gelwaist, megis ar ddydd uchel ŵyl, fy nychryn o amgylch, fel na ddihangodd ac na adawyd neb yn nydd soriant yr ARGLWYDD: y gelyn a ddifethodd y rhai a faethais ac a fegais i.


PENNOD 3

3:2 Myfi yw y gŵr a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef.

3:2 I dywyllwch, ac nid i oleuni, yr arweiniodd ac y tywysodd efe fi.

3:3 Yn fy erbyn i yn ddiau y trodd efe, ac y mae efe yn troi ei law ar hyd y dydd.

3:4 Efe a wnaeth fy nghnawd a'm croen yn hen; efe a ddrylliodd fy esgyrn.

3:5 Efe a adeiladodd i'm herbyn, ac a'm hamgylchodd â bustl ac â blinder.

3:6 Efe a'm gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm.

3:7 Efe a gaeodd o'm hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom.

3:8 Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi.

3:9 Efe a gaeodd fy ffyrdd a cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau.

3:10 Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau.

3:11 Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a'm drylliodd; yn anrheithiedig y gwnaeth fi.

3:12 Efe a anelodd ei fwa, ac a'm gosododd fel nod i saeth.

3:13 Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i'm harennau.

3:14 Gwatwargerdd oeddwn i'm holl bobl, a'u cân ar hyd y dydd.

3:15 Efe a'm llanwodd â chwerwder; efe a'm meddwodd i â'r wermod.

3:16 Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a'm trybaeddodd yn y llwch.

3:17 A phellheaist fy enaid oddi wrth heddwch; anghofiais ddaioni.

3:18 A mi a ddywedais, Darfu am fy nerth a'm gobaith oddi wrth yr ARGLWYDD.

3:19 Cofia fy mlinder a'm gofid, y wermod a'r bustl.

3:20 Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi.

3:21 Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf.

3:22 Trugareddau yr ARGLWYDD yw na ddarfu amdanom ni: o herwydd ni phalla ei dosturiaethau ef.

3:23 Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb.

3:24 Yr ARGLWYDD yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo.

3:25 Daionus yw yr ARGLWYDD i'r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i'r enaid a'i ceisio.

3:26 Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD.

3:27 Da yw i ŵr ddwyn yr iau yn eu ieuenctid.

3:28 Efe a eistedd ei hunan, ac a dau â sôn; am iddo ei dwyn hi arno.

3:29 Efe a ddyry ei enau yn y llwch, i edrych a oes obaith.

3:30 Efe a ddyry ei gern i'r hwn a'i trawo: efe a lenwir â gwaradwydd.

3:31 Oblegid nid yn dragywydd y gwrthyd yr ARGLWYDD:

3:32 Ond er iddo gystuddio, eto efe a dosturia, yn ôl amlder ei drugareddau.

3:33 Canys nid o'i fodd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion.

3:34 I fathru holl garcharorion y ddaear dan ei draed,

3:35 I wyro barn gŵr o flaen wyneb y Goruchaf,

3:36 Nid yw yr ARGLWYDD yn gweled yn dda wneuthur cam a gŵr yn ei fater.

3:37 Pwy a ddywed y bydd dim, heb i'r ARGLWYDD ei orchymyn?

3:38 Oni ddaw o enau y Goruchaf ddrwg a da?

3:39 Paham y grwgnach dyn byw, gŵr am gosbedigaeth ei bechod?

3:40 Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr ARGLWYDD.

3:41 Dyrchafwn ein calonnau â'n dwylo at DDUW yn y nefoedd.

3:42 Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufudd; tithau nid arbedaist.

3:43 Gorchuddiaist ni â soriant, ac erlidiaist ni: lleddaist, nid arbedaist.

3:44 Ti a'th guddiaist dy hun a chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd.

3:45 Ti a'n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl.

3:46 Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn.

3:47 Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr.

3:48 Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr, oherwydd dinistr merch fy mhobl.

3:49 Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorffwystra;

3:50 Hyd oni edrycho, ac oni ystyrio yr ARGLWYDD o'r nefoedd.

3:51 Y mae fy llygad yn blino fy enaid, oherwydd holl ferched fy ninas.

3:52 Fy ngelynion gan hela a'm heliasant yn ddiachos, fel aderyn.

3:53 Torasant ymaith fy einioes yn y pwll, a bwriasant gerrig arnaf.

3:54 Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen; dywedais, Torrwyd fi ymaith.

3:55 Gelwais ar dy enw di, O ARGLWYDD, o'r pwll isaf.

3:56 Ti a glywaist fy llef: na chudd dy glust rhag fy uchenaid a'm gwaedd.

3:57 Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat: dywedaist, Nac ofna.

3:58 Ti, O ARGLWYDD, a ddadleuaist gyda'm henaid: gwaredaist fy einioes.

3:59 Ti, O ARGLWYDD, a welaist fy ngham: barn di fy marn i.

3:60 Ti a welaist eu holl ddial hwynt, a'u holl amcanion i'm herbyn i.

3:61 Clywaist eu gwaradwydd, O ARGLWYDD, a'u holl fwriadau i'm herbyn;

3:62 Gwefusau y rhai a godant i'm herbyn, a'u myfyrdod i'm herbyn ar hyd y dydd.

3:63 Edrych ar eu heisteddiad a'u cyfodiad; myfi yw eu cân hwynt.

3:64 Tâl y pwyth iddynt, O ARGLWYDD, yn ôl gweithred eu dwylo.

3:65 Dod iddynt ofid calon, dy felltith iddynt.

3:66 Erlid hwynt a digofaint, a difetha hwy oddi tan nefoedd yr ARGLWYDD.


PENNOD 4

4:1 Pa fodd y tywyllodd yr aur! y newidiodd yr aur coeth da! taflwyd cerrig y cysegr ym mhen pob heol.

4:2 Gwerthfawr feibion Seion, a chystal ag aur pur, pa fodd y cyfrifwyd hwynt fel ystenau pridd, gwaith dwylo'r crochenydd!

4:3 Y dreigiau a dynnant allan eu bronnau, a roddant sugn i'w cenawon: merch fy mhobl a aeth yn greulon, fel yr estrysiaid yn yr anialwch.

4:4 Tafod y plentyn sugno sydd yn glynu wrth daflod ei enau gan syched: y plant a ofynnant fara, ond nid oedd a dorrai iddynt.

4:5 Y rhai a ymborthent yn foethus, a ddifethwyd yn yr heolydd: y rhai a feithrinwyd mewn ysgarlad, a gofleidiant y tomennydd.

4:6 Canys mwy yw anwiredd merch fy mhobl na phechod Sodom, yr hon a ddinistriwyd megis yn ddisymwth, ni safodd llaw arni.

4:7 Purach oedd ei Nasareaid hi na'r eira, gwynnach oeddynt na'r llaeth, gwridocach oeddynt o gorff na'r cwrel, a'u trwsiad oedd o saffir.

4:8 Duach yw yr olwg arnynt na'r glöyn; nid adwaenir hwynt yn yr heolydd; eu croen a lŷn wrth eu hesgyrn, gwywodd, aeth yn debyg i bren.

4:9 Gwell yw y rhai a laddwyd â chleddyf, na'r rhai a laddwyd â newyn; oblegid y rhai hyn a ddihoenant, wedi eu trywanu o eisiau cnwd y maes.

4:10 Dwylo gwragedd tosturiol a ferwasant eu plant eu hun: eu hymborth oeddynt yn ninistr merch fy mhobl.

4:11 Yr ARGLWYDD a gyflawnodd ei ddicter, a dywalltodd lidiowgrwydd ei soriant, ac a gyneuodd dân yn Seion, yr hwn a ddifaodd ei seiliau hi.

4:12 Ni choeliasai brenhinoedd y ddaear, na holl drigolion y byd, y deuai y gwrthwynebwr a'r gelyn i mewn i byrth Jerwsalem.

4:13 Am bechodau ei phroffwydi, ac anwiredd ei hoffeiriaid, y rhai a ollyngasant waed y rhai cyfiawn o'i mewn hi;

4:14 Gwibiasant fel deillion yn yr heolydd, ac ymddifwynasant gan waed, fel na ellid cyffwrdd â'u dillad hwynt.

4:15 Gwaeddasant arnynt, Ciliwch; aflan yw; ciliwch, ciliwch, na chyffyrddwch; pan ffoesant, ac yr aethant ymaith. Dywedent ymysg y cenhedloedd, Ni thrigant hwy yma mwyach.

4:16 Soriant yr ARGLWYDD a'u gwasgarodd hwynt; nid edrych efe arnynt mwy: ni pharchent hwy yr offeiriaid, ni thosturient wrth yr hynafgwyr.

4:17 Ninnau hefyd, ein llygaid a ballasant am ein cynhorthwy ofer: gan ddisgwyl disgwyl yr oeddem ni wrth genhedlaeth ni allai ein hachub.

4:18 Hwy a olrheiniant ein cerddediad, fel na allwn fyned ar hyd ein heolydd: y mae ein diwedd ni yn agos, ein dyddiau ni a gyflawnwyd; canys daeth ein diwedd ni.

4:19 Buanach yw ein herlidwyr nag eryrod yr awyr; y maent yn ein herlid ni ar y mynyddoedd, yn ein cynllwyn yn yr anialwch.

4:20 Anadl ein ffroenau, eneiniog yr ARGLWYDD, a ddaliwyd yn eu rhwydau hwynt, am yr hwn y dywedasem, Dan ei gysgod ef y byddwn ni byw ymysg y cenhedloedd.

4:21 Bydd lawen a hyfryd, merch Edom, yr hon wyt yn trigo yn nhir Us: daw y cwpan atat tithau hefyd; ti a feddwi, ac a ymnoethi.

4:22 Gorffennwyd dy gosbedigaeth di, merch Seion; ni chaethgluda efe di mwy: efe a ymwêl â'th anwiredd di, merch Edom; efe a ddatguddia dy bechodau.


PENNOD 5

5:1 Cofia, O ARGLWYDD, beth a ddaeth i ni: edrych a gwêl ein gwaradwydd.

5:2 Ein hetifeddiaeth ni a drowyd i estroniaid, a'n tai i ddieithriaid.

5:3 Amddifaid ydym heb dadau; ein mamau sydd megis gweddwon.

5:4 Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian; ein coed sydd yn dyfod am werth.

5:5 Ein gwarrau sydd dan erlid; llafurio yr ydym, nid oes gorffwystra i ni.

5:6 Rhoesom ein llaw i'r Eifftiaid, i'r Asyriaid, i gael digon o fara.

5:7 Ein tadau a bechasant, ac nid ydynt: ninnau sydd yn dwyn eu cosb hwynt.

5:8 Gweision sydd yn llywodraethu arnom ni, heb fod a'n gwaredo o'u llaw hwynt.

5:9 Mewn enbydrwydd am ein heinioes y dygasom ein bara i mewn, oherwydd cleddyf yr anialwch.

5:10 Ein croen a dduodd fel ffwrn, gan y newyn tost.

5:11 Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Seion, a'r morynion yn ninasoedd Jwda.

5:12 Crogasant dywysogion â'u dwylo; ni pherchid wynebau yr hynafgwyr.

5:13 Hwy a gymerasant y gwŷr ieuainc i falu; a'r plant a syrthiasant dan y coed.

5:14 Yr hynafgwyr a beidiasant â'r porth; y gwŷr ieuainc â'u cerdd.

5:15 Darfu llawenydd ein calon: ein dawns a drodd yn alar.

5:16 Syrthiodd y goron oddi am ein pen: gwae ni yn awr bechu ohonom!

5:17 Am hyn y mae ein calon yn ofidus; am hyn y tywyllodd ein llygaid.

5:18 Oherwydd mynydd Seion, yr hwn a anrheithiwyd, y mae y llwynogod yn rhodio ynddo.

5:19 Ti, ARGLWYDD, a barhei byth; dy orseddfainc yn oes oesoedd.

5:20 Paham yr anghofi ni byth, ac y gadewi ni dros hir ddyddiau ?

5:21 Dychwel ni, O ARGLWYDD, atat ti, a ni a ddychwelir: adnewydda ein dyddiau megis cynt.

5:22 Eithr ti a'n llwyr wrthodaist ni: ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr.