Beibl (1620)/Habacuc

Oddi ar Wicidestun
Nahum Beibl (1620)
Habacuc
Habacuc
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Seffaneia

LLYFR HABACUC.

PENNOD 1

1:1 Y baich a welodd y proffwyd Habacuc.

1:2 Pa hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf, ac nis gwrandewi! y bloeddiaf arnat rhag trais, ac nid achubi!

1:3 Paham y gwnei i mi weled anwiredd, ac y peri i mi edrych ar flinder? anrhaith a thrais sydd o'm blaen i, ac y mae a gyfyd ddadl ac ymryson.

1:4 Am hynny yr oedir cyfraith, ac nid â barn allan byth: am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn; am hynny cam farn a â allan.

1:5 Gwelwch ymysg y cenhedloedd, ac edrychwch, rhyfeddwch yn aruthrol: canys gweithredaf weithred yn eich dyddiau, ni choeliwch er ei mynegi i chwi.

1:6 Canys wele fi yn codi y Caldeaid, cenedl chwerw a phrysur, yr hon a rodia ar hyd lled y tir, i feddiannu cyfanheddoedd nid yw eiddynt.

1:7 Y maent i'w hofni ac i'w harswydo: ohonynt eu hun y daw allan eu barn a’u rhagoriaeth.

1:8 A'u meirch sydd fuanach na'r llewpardiaid, a llymach ydynt na bleiddian yr hwyr: eu marchogion hefyd a ymdaenant, a'u marchogion a ddeuant o bell, ehedant fel eryr yn prysuro at fwyd.

1:9 Hwy a ddeuant oll i dreisio; ar gyfer eu hwyneb y bydd gwynt y dwyrain, a hwy a gasglant gaethion fel y tywod.

1:10 A hwy a watwarant frenhinoedd, a thywysogion a fyddant watwargerdd iddynt: hwy a watwarant yr holl gestyll, ac a gasglant lwch, ac a'i goresgynnant.

1:11 Yna y newidia ei feddwl, ac yr â trosodd, ac a drosedda, gan ddiolch am ei rym yma i'w dduw ei hun.

1:12 Onid wyt ti er tragwyddoldeb, O ARGLWYDD fy NUW, fy Sanctaidd? ni byddwn feirw. O ARGLWYDD, ti a'u gosodaist hwy i farn, ac a'u sicrheaist, O DDUW, i gosbedigaeth.

1:13 Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar anwiredd: paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid, ac y tewi pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei hun?

1:14 Ac y gwnei ddynion fel pysgod y môr, fel yr ymlusgiaid heb lywydd arnynt?

1:15 Cyfodant hwynt oll â'r bach; casglant hwynt yn eu rhwyd, a chynullant hwynt yn eu ballegrwyd: am hynny hwy a lawenychant ac a ymddigrifant.

1:16 Am hynny yr aberthant i'w rhwyd, ac y llosgant arogl-darth i'w ballegrwyd: Canys trwyddynt hwy y mae eu rhan yn dew, a'u bwyd yn fras.

1:17 A gânt hwy gan hynny dywallt eu rhwyd, ac nad arbedont ladd y cenhedloedd yn wastadol?


PENNOD 2

2:1 Safaf ar fy nisgwylfa, ac ymsefydlaf ar y tw^r, a gwyliaf, i edrych beth a ddywed efe wrthyf, a pha beth a atebaf pan y'm cerydder.

2:2 A'r ARGLWYDD a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifenna y weledigaeth, a gwna hi yn eglur ar lechau, fel y rhedo yr hwn a'i darlleno.

2:3 Canys y weledigaeth sydd eto dros amser gosodedig, ond hi a ddywed o'r diwedd, ac ni thwylla: os erys, disgwyl amdani; canys gan ddyfod y daw, nid oeda.

2:4 Wele, yr hwn a ymchwydda, nid yw uniawn ei enaid ynddo: ond y cyfiawn a fydd byw trwy ei ffydd.

2:5 A hefyd gan ei fod yn troseddu trwy win, gw^r balch yw efe, ac heb aros gartref, yr hwn a helaetha ei feddwi fel uffern, ac y mae fel angau, ac nis digonir; ond efe a gasgl ato yr holl genhedloedd, ac a gynnull ato yr holl bobloedd.

2:6 Oni chyfyd y rhai hyn oll yn ei erbyn ddihareb, a gair du yn ei erbyn, a dywedyd, Gwae a helaetho y peth nid yw eiddo! pa hyd? a'r neb a lwytho arno ei hun y clai tew!

2:7 Oni chyfyd yn ddisymwth y rhai a'th frathant, ac oni ddeffry y rhai a'th gystuddiant, a thi a fyddi yn wasarn iddynt?

2:8 Am i ti ysbeilio cenhedloedd lawer, holl weddill y bobloedd a'th ysbeilia dithau: am waed dynion, ac am y trais ar y tir, ar y ddinas, ac ar oll a drigant ynddi.

2:9 Gwae a elwo elw drwg i'w dŷ , i osod ei nyth yn uchel, i ddianc o law y drwg!

2:10 Cymeraist gyngor gwarthus i'th dŷ , wrth ddistrywio pobloedd lawer; pechaist yn erbyn dy enaid.

2:11 Oherwydd y garreg a lefa o'r mur, a'r trawst a'i hetyb o'r gwaith coed.

2:12 Gwae a adeilado dref trwy waed, ac a gadarnhao ddinas mewn anwiredd!

2:13 Wele, onid oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd y mae, bod i'r bobl ymflino yn y tân, ac i'r cenhedloedd ymddiffygio am wir wagedd?

2:14 Canys y ddaear a lenwir o wybodaeth gogoniant yr ARGLWYDD, fel y toa y dyfroedd y môr.

2:15 Gwae a roddo ddiod i'w gymydog: yr hwn ydwyt yn rhoddi iddo dy gostrel, ac yn ei feddwi hefyd, er cael gweled eu noethni hwynt!

2:16 Llanwyddi o warth yn lle gogoniant; yf dithau hefyd, a noether dy flaengroen: ymchwel cwpan deheulaw yr ARGLWYDD atat ti, a chwydiad gwarthus fydd ar dy ogoniant.

2:17 Canys trais Libanus a'th orchuddia, ac anrhaith yr anifeiliaid, yr hwn a'u dychrynodd hwynt, o achos gwaed dynion, a thrais y tir, y ddinas ac oll a drigant ynddi.

2:18 Pa les a wna i'r ddelw gerfiedig, ddarfod i'w lluniwr el cherfio; i'r ddelw dawdd, ac athro celwydd, fod lluniwr ei waith yn ymddiried ynddo, i wneuthur eilunod mudion?

2:19 Gwae a ddywedo wrth bren, Deffro; wrth garreg fud, Cyfod, efe a rydd addysg: wele, gwisgwyd ef ag aur ac arian, a dim anadl nid oes o'i fewn.

2:20 Ond yr ARGLWYDD sydd yn ei deml sanctaidd: y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef.


PENNOD 3

3:1 Gweddi Habacuc y proffwyd, ar Sigionoth.

3:2 Clywais, O ARGLWYDD, dy air, ac ofnais: O ARGLWYDD, bywha dy waith yng nghanol y blynyddoedd, pâr wybod yng nghanol y blynyddoedd; yn dy lid cofia drugaredd.

3:3 DUW a ddaeth o Teman, a'r Sanctaidd o fynydd Paran. Sela. Ei ogoniant a dodd y nefoedd, a'r ddaear a lanwyd o'i fawl.

3:4 A'i lewyrch oedd fel goleuni: yr oedd cyrn iddo yn dyfod allan o'i law, ac yno yr oedd cuddiad ei gryfder.

3:5 Aeth yr haint o'i flaen ef, ac aeth marwor tanllyd allan wrth ei draed ef.

3:6 Safodd, a mesurodd y ddaear; edrychodd, a gwasgarodd y cenhedloedd: y mynyddoedd tragwyddol hefyd a ddrylliwyd, a'r bryniau oesol a grymasant: llwybrau tragwyddol sydd iddo.

3:7 Dan gystudd y gwelais wersyllau Cuwsan; crynodd llenni tir Midian.

3:8 A sorrodd yr ARGLWYDD wrth yr afonydd? ai wrth yr afonydd y mae dy ddig? ai wrth y môr y mae dy ddigofaint, gan i ti farchogaeth ar dy feirch, ac ar gerbydau dy iachawdwriaeth?

3:9 Llwyr noethwyd dy fwa, yn ôl llwon y llwythau, sef dy air di. Sela. Holltaist y ddaear ag afonydd.

3:10 Y mynyddoedd a'th welsant, ac a grynasant; y llifeiriant dwfr a aeth heibio; y dyfnder a wnaeth dwrf; cyfododd hefyd ei ddwylo yn uchel.

3:11 Yr haul a'r lleuad a safodd yn eu preswylfa; wrth oleuad dy saethau yr aethant, ac wrth lewyrch dy waywffon ddisglair.

3:12 Mewn llid y cerddaist y ddaear, a dyrnaist y cenhedloedd mewn dicter.

3:13 Aethost allan er iachawdwriaeth i'th bobl, er iachawdwriaeth ynghyd â’th eneiniog: torraist y pen allan o dŷ yr anwir, gan ddinoethi y sylfaen hyd y gwddf. Sela.

3:14 Trywenaist ben ei faestrefydd â'i ffyn ei hun; rhyferthwyasant i'm gwasgaru; ymlawenhasant, megis i fwyta y tlawd mewn dirgelwch. .

3:15 Rhodiaist â'th feirch trwy y môr, trwy bentwr o ddyfroedd mawrion.

3:16 Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i'm hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod: pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a’u difetha hwynt â'i fyddinoedd.

3:17 Er i'r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olewydd a balla, a'r meysydd ni roddant fwyd; torrir ymaith y praidd o'r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai:

3:18 Eto mi a lawenychaf yn yr ARGLWYDD; byddaf hyfryd yn NUW fy iachawdwriaeth.

3:19 Yr ARGLWYDD DDUW yw fy nerth a'm traed a wna efe fel traed ewigod; efe a wna i mi rodio ar fy uchel leoedd. I'r pencerdd ar fy offer tannau.