Branwen uerch Lyr
Oddi ar Wicitestun
- Yn flaenorol: Pwyll Pendeuic Dyuet
- Yn nesaf: Manawydan uab Llyr
Bendigeiduran uab Llyr a oed urenhin coronawc ar yr ynys hon, ac ardyrchawc o goron Lundein. A frynhawngueith yd oed yn Hardlech yn Ardudwy, yn llys idaw. Ac yn eisted yd oedynt ar garrec Hardlech, uch penn y weilgi, a Manawydan uab Llyr y urawt y gyt ac ef, a deu uroder un uam ac ef, Nissyen ac Efnyssen, a guyrda y am hynny, mal y gwedei ynghylch brenhin. Y deu uroder un uam ac ef, meibon oedynt y Eurosswyd o'e uam ynteu Penardun, uerch Ueli uab Mynogan. A'r neill o'r gueisson hynny, gwas da oed: ef a barei tangneued y rwg y deu lu, ban uydynt lidyawcaf: sef oed hwnnw Nissyen. Y llal a barei ymlad y rwng y deu uroder, ban uei uwyaf yd ymgerynt.
Ac ual yd oedynt yn eisted yuelly, wynt a welynt teir llong ar dec, yn dyuot o deheu Iwerdon, ac yn kyrchu parth ac attunt, a cherdet rugyl ebrwyd ganthunt, y gwynt yn eu hol, ac yn nessau yn ebrwyd attunt. 'Mi a welaf longeu racco,' heb y brenhin, 'ac yn dyuot yn hy parth a'r tir. Ac erchwch y wyr y llys wiscaw amdanunt, a mynet y edrych pa uedwl yw yr eidunt.' Y gwyr a wiscawd amdanunt ac a nessayssant attunt y wayret. Gwedy guelet y llongeu o agos, diheu oed ganthunt na welsynt eiryoet llongeu gyweirach eu hansawd noc wy. Arwydon tec, guedus, arwreid o bali oed arnunt.
Ac ar hynny, nachaf un o'r llongeu yn raculaenu rac y rei ereill, ac y guelynt dyrchauael taryan yn uch no bwrd y llong, a swch y taryan y uynyd yn arwyd tangneued. Ac y nessawys y gwyr attunt, ual yd ymglywynt ymdidan. Bwrw badeu allan a wnaethont wynteu, a nessau parth a'r tir, a chyuarch guell y'r brenhin. E brenhin a'e clywei wynteu o'r lle yd oed ar garrec uchel uch eu penn. 'Duw a rodo da ywch,' heb ef, 'a grayssaw wrthywch. Pieu yniuer y llongeu hynn, a phwy yssyd pennaf arnunt wy?' 'Arglwyd,' heb wynt, 'mae ymma Matholwch brenhin Iwerdon, ac ef bieu y llongeu.' 'Beth,' heb y brenhin, 'a uynnhei ef? A uyn ef dyuot y'r tir?' 'Na uynn, Arglwyd,' heb wynt, 'negessawl yw wrthyt ti, onyt y neges a geif.' 'By ryw neges yw yr eidaw ef?' heb y brenhin. 'Mynnu ymgyuathrachu a thidy, Arglwyd,' heb wynt. 'Y erchi Branwen uerch Lyr y doeth, ac os da genhyt ti, ef a uyn ymrwymaw Ynys y Kedeirn ac Iwerdon y gyt, ual y bydynt gadarnach.' 'Ie,' heb ynteu, 'doet y'r tir, a chynghor a gymerwn ninheu am hynny.' Yr atteb hwnnw a aeth ataw ef. 'Minheu a af yn llawen,' heb ef. Ef a doeth y'r tir, a llawen uuwyt wrthaw; a dygyuor mawr uu yn y llys y nos honno, y rwng e yniuer ef ac yniuer y llys.
Yn y lle trannoeth, kymryt kynghor. Sef a gahat yn y kynghor, rodi Branwen y Uatholwch. A honno oed tryded prif rieni yn yr ynys hon; teccaf morwyn yn y byt oed. A gwneuthur oed yn Aberfraw y gyscu genti, ac odyno y kychwyn. Ac y kychwynassant yr yniueroed hynny parth ac Aberfraw, Matholwch a'y yniueroed yn y llongheu, Bendigeituran a'y niuer ynteu ar tir, yny doethant hyt yn Aberfraw.
Yn Aberfraw dechreu y wled, ac eisted. Sef ual yd eistedyssant: brenhin Ynys y Kedeirn a Manawydan uab Llyr o'r neill parth idaw, a Matholwch o'r parth arall, a Branwen uerch Lyr gyt ac ynteu.
Nyt ymywn ty yd oydynt, namyn ymywn palleu. Ny angassei Uendigeituran eiryoet ymywn ty.
A'r gyuedach a dechreussant. Dilit y gyuedach a wnaethant ac ymdidan. A phan welsant uot yn well udunt kymryt hun no dilyt kyuedach, y gyscu yd aethant. A'r nos honno y kyscwys Matholwch gan Uranwen. A thrannoeth, kyuodi a orugant pawb o niuer y llys; a'r swydwyr a dechreusant ymaruar am rannyat y meirych a'r gweisson. Ac eu rannu a wnaethant ym pob kyueir hyt y mor. Ac ar hynny dydgueith, nachaf Efnyssen [y] gwr anagneuedus a dywedassam uchot, yn dywanu y lety meirch Matholwch, a gouyn a wnaeth, pioed y meirch. 'Meirych Matholwch brenhin Iwerdon yw y rei hyn,' heb wy. 'Beth a wnant wy yna?' heb ef. 'Yma y mae brenhin Iwerdon, ac yr gyscwys gan Uranwen dy chwaer, a'y ueirych yw y rei hynn.' 'Ay yuelly y gwnaethant wy am uorwyn kystal a honno, ac yn chwaer y minheu, y rodi heb uyghanyat i? Ny ellynt wy tremic uwy arnaf i,' heb ef. Ac yn hynny guan y dan y meirych, a thorri y guefleu wrth y danned udunt, a'r clusteu wrth y penneu, a'r rawn wrth y keuyn; ac ny caei graf ar yr amranneu, eu llad wrth yr ascwrn. A gwneuthur anfuryf ar y meirych yuelly, hyd nat oed rym a ellit a'r meirych.
E chwedyl a doeth at Uatholwch. Sef ual y doeth: dywedut anfuruaw y ueirych ac eu llygru, hyt nat oed un mwynyant a ellit ohonunt. 'Ie, Arglwyd,' heb un, 'dy waradwydaw yr a wnaethpwyt, a hynny a uynhir y wneuthur a thi.' 'Dioer, eres genhyf, os uy gwaradwydaw a uynhynt, rodi morwyn gystal, kyuurd, gyn anwylet gan y chenedyl, ac a rodyssant ym.' 'Arglwyd,' heb un arall, 'ti a wely dangos ef. Ac nyt oes it a wnelych namyn kyrchu dy longeu.' Ac ar hynny arouun y longeu a wnaeth ef.
E chwedyl a doeth at Uendigeituran, bot Matholwch yn adaw y llys, heb ouyn, heb ganhyat. A chenadeu a aeth y ouyn idaw, paham oed hynny. Sef kennadeu a aeth, Idic uab Anarawc, ac Eueyd Hir. Y guyr hynny a'y godiwawd, ac a ouynyssant idaw, pa darpar oed yr eidaw, a pha achaws yd oed yn mynet e ymdeith. ‘Dioer,’ heb ynteu, ‘pei ys gwypwn, ny down yma. Cwbyl waradwyd a geueis. Ac ny duc neb kyrch waeth no'r dugum ymma. A reuedawt rygyueryw a mi.’ ‘Beth yw hynny?’ heb wynt. ‘Rodi Bronwen uerch Lyr ym, yn tryded prif rieni yr ynys honn, ac yn uerch y urenhin Ynys y Kedeyrn, a chyscu genthi, a gwedy hynny uy gwaradwydaw. A ryued oed genhyf, nat kyn rodi morwyn gystal a honno ym, y gwneit y gwaradwyd a wnelit ym.’ ‘Dioer, Arglwyd, nyt o uod y neb a uedei y llys,’ heb wynt, ‘na neb o'e kynghor y gwnaet[h]pwyt y gwaradwyd hwnnw yt. A chyt bo gwaradwyd gennyt ti hynny, mwy yw gan Uendigeituran no chenyt ti, y tremic hwnnw a'r guare,’ ‘Ie,’ heb ef, ‘mi a tebygaf. Ac eissoes ni eill ef uy niwaradwydaw i o hynny.’
E gwyr hynny a ymchwelwys a'r atteb hwnnw, parth a'r lle yd oed Uendigeituran, a menegi idaw yr atteb a diwedyssei Uatholwch. ‘Ie,’ heb ynteu, ‘nyt oes ymwaret e uynet ef yn anygneuedus, ac nys gadwn.’ ‘Ie, Arglwyd,’ heb wy, ‘anuon etwa genhadeu yn y ol.’ ‘Anuonaf,’ heb ef. ‘Kyuodwch, Uanawydan uab Llyr, ac Eueyd Hir, ac Unic Glew Yscwyd, ac ewch yn y ol,’ heb ef, ‘a menegwch idaw, ef a geif march iach am pob un o'r a lygrwyt; ac y gyt a hynny, ef a geif yn wynepwerth idaw llathen aryant a uo kyuref [a'e uys bychan] a chyhyt ac ef e hun, a chlawr eur kyflet a'y wyneb , a menegwch ydaw pa ryw wr a wnaeth hynny, a phan yw o'm anuod inheu y gwnaethpwyt hynny; ac y may brawt un uam a mi a wnaeth hynny, ac nat hawd genhyf i na'e lad na'e diuetha; a doet y ymwelet a mi,’ heb ef, ‘a mi a wnaf y dangneued ar y llun y mynho e hun.’
E kennadeu a aethant ar ol Matholwch, ac a uanagyssant idaw yr ymadrawd hwnnw yn garedic, ac ef a'e guerendewis. 'A wyr,' heb ef, 'ni a gymerwn gynghor.' Ef a aeth yn y gynghor. Sef kynghor a uedylyssant: os gwrthot hynny a wnelynt, bot yn tebygach ganthunt cael kywilid a uei uwy no chael iawn a uei uwy. A disgynnu a wnaeth ar gymryt hynny. Ac y'r llys y deuthant yn dangneuedus. A chyweiraw y pebylleu a'r palleu a wnaethant udunt ar ureint kyweirdeb yneuad, a mynet y uwyta. Ac ual y dechreuyssant eisted ar dechreu y wled, yd eistedyssant yna.
A dechreu ymdidan a wnaeth Matholwch a Bendigeituran. Ac nachaf yn ardiawc gan Uendigeituran y[r] ymdidan, ac yn drist, a gaei gan Uatholwch, a'y lywenyt yn wastat kyn no hynny. A medylyaw a wnaeth bot yn athrist gan yr unben uychanet a gawssei o iawn am y gam. 'A wr,' heb y Bendigeiduran, 'nit wyt gystal ymdidanwr heno ac un nos. Ac os yr bychanet genhyt ti dy iawn, ti a gehy ychwanegu yt wrth dy uynnu, ac auory talu dy ueirch yt.' 'Arglwyd,' heb ef, 'Duw a dalo yt.' 'Mi a delediwaf dy iawn heuyt yt,' heb y Bendigeituran. 'Mi a rodaf yt peir, a chynnedyf y peir yw, y gwr a lader hediw yt, y uwrw yn y peir, ac erbyn auory y uot yn gystal ac y bu oreu, eithyr na byd llyueryd ganthaw.' A diolwch a wnaeth ynteu hynny, a diruawr lywenyd a gymerth ynteu o'r achaws hwnnw. A thrannoeth y talwyt y ueirych idaw, tra barhawd meirych dof. Ac odyna y kyrchwyt ac ef kymwt arall, ac y talwyt ebolyon ydaw, yny uu gwbyl idaw y dal. Ac wrth hynny y dodet ar y kymwt hwnnw, o hynny allan, Tal Ebolyon.
A'r eil nos, eisted y gyt a wnaethant. 'Arglwyd,' heb y Matholwch, 'pan doeth yti y peir a rodeist ymi?' 'E doeth im,' heb ef, 'y gan wr a uu y'th wlat ti. Ac ni wn na bo yno y caffo.' 'Pwy oed hwnnw?' heb ef. 'Llassar Llaes Gyfnewit,' heb ef. 'A hwnnw a doeth yma o Iwerdon, a Chymidei Kymeinuoll, y wreic, y gyt ac ef, ac a dianghyssant o'r ty hayarn yn Iwerdon pan wnaethpwyt yn wenn yn eu kylch, ac y dianghyssant odyno. Ac eres gynhyf i ony wdosti dim y wrth hynny.'
'Gwn, Arglwyd,' heb ef, 'a chymeint ac a wnn, mi a'e managaf yti. Yn hela yd oedwn yn Iwerdon dydgueith ar benn go[r]ssed uch penn llyn oed yn Iwerdon, a Llyn y Peir y gelwit. A mi a welwn gwr melyngoch mawr, yn dyuot o'r llyn, a pheir ar y geuyn. A gwr heuyt athrugar mawr, a drygweith anorles arnaw oed; a gwreic yn y ol; ac ot oed uawr ef, mwy dwyweith oed y wreic noc ef. A chyrchu ataf a wnaethant, a chyuarch uell im.' 'Ie,' heb y mi, 'pa gerdet yssyd arnawch chwi?' 'Llyna gerdet yssyd arnam ni, Arglwyd,' heb ef: 'y wreic honn,' heb ef, 'ym penn pethewnos a mis, y byd beichogi idi, a'r mab a aner yna o'r torllwyth hwnnw, ar benn y pethewnos a'r mi, y byd gwr ymlad llawn aruawc.'
'Y kymereis inheu wyntwy arnaf, yu gossymdeithaw: y buant ulwydyn gyt a mi. Yn y ulwydyn y keueis yn diwarauun wynt; o hynny allann y guarauunwyt im. A chyn penn y pedwyryd [mis] wynt eu hun yn peri eu hatcassu, ac anghynwys yn y wlat, yn gwneuthur sarahedeu, ac yn eighaw ac yn gouudyaw guyrda a gwragedda. O hynny allan y dygyuores uyg kyuoeth am ym pen y erchi im ymuadeu ac wynt, a rodi dewis im, ae uyg kyuoeth ae wynt.
'E dodeis inheu ar gynghor uy gwlat beth a wneit amdanunt. Nyd eynt wy o'y bod; nit oed reit udunt wynteu oc eu hanuod, herwyd ymlad, uynet. Ac yna yn y kyuyng gynghor, y causant gwneuthur ystauell haearn oll; a gwedy bot y barawt yr ystauell, dyuyn a oed o of yn Iwerdon yno, o'r a oed o perchen geuel a mwrthwl, a pheri gossot kyuuch a chrib yr ystauell o lo, a pheri guassaneuthu yn diwall o uwyt a llyn arnunt, ar y wreic, a'y gwr, a'y phlant. A phan wybuwyt eu medwi wynteu, y dechreuwyt kymyscu y tan a'r glo am ben yr ystauell, a chwythu y megineu a oed wedy eu gossot yg kylch y ty, a gwr a pob dwy uegin, a dechreu chwythu y megineu yny uyd y ty yn burwen am eu penn. Ac yna y bu y kynghor ganthunt hwy ymherued llawr yr ystauell; ac yd arhoes ef yny uyd y pleit haearn yn wenn. Ac rac diruawr wres, y kyrchwys y bleit a'e yscwyd a'y tharaw gantaw allan, ac yn y ol ynteu y wreic. A neb ni dieghis odyna namyn ef a'e wreic. Ac yna o'm tebygu i, Arglwyd,' heb y Matholwch wrth Uendigeiduran, 'y doeth ef drwod attat ti.' 'Yna dioer,' heb ynteu, 'y doeth yma, ac y roes y peir y minheu.' 'Pa delw, Arglwyd, yd erbynneisti wynteu?' 'Eu rannu ym pob lle yn y kyuoeth, ac y maent yn lluossauc, ac yn dyrchauael ym pob lle, ac yn cadarnhau y uann y bythont, o wyr ac arueu goreu a welas neb.'
Dilit ymdidan a wnaethant y nos honno, tra uu da ganthunt, a cherd a chyuedach. A phan welsant uot yn llessach udunt uynet y gyscu noc eisted a wei hwy, y gyscu yd aethant. Ac yuelly y treulyssant y wled honno drwy digriuwch. Ac yn niwed hynny, y kychwynnwys Matholwch, a Branuen y gyt ac ef, parth ac Iwerdon. A hynny o Abermenei y kychwynnyssant teir llong ar dec, ac y doethant hyt yn Iwerdon.
Yn Iwerdon, dirwawr lywenyd a uu wrthunt. Ny doey wr mawr, na gwreic da yn Iwerdon, e ymw[e]let a Branwen, ni rodei hi ae cae ae modrwy ae teyrndlws cadwedic ydaw, a uei arbennic y welet yn mynet e ymdeith. Ac ymysc hynny, y ulwydyn honno a duc hi yn glotuawr, a hwyl delediw a duc hi o glot a chedymdeithon. Ac yn hynny, beichogi a damweinwys idi y gael. A guedy treulaw yr amseroyd dylyedus, mab a anet idi. Sef enw a dodet ar y mab, Guern ab Matholwch. Rodi y mab ar uaeth a wnaethpwyt ar un lle goreu y wyr yn Iwerdon.
A hynny yn yr eil ulwydyn, llyma ymodwrd yn Iwerdon am y guaradwyd a gawssei Matholwch yg Kymry, a'r somm a wnathoedit idaw am y ueirch. A hynny y urodyr maeth, a'r gwyr nessaf gantaw, yn lliwaw idaw hynny, a heb y gelu. A nachaf y dygyuor yn Iwerdon hyt nat oed lonyd idaw ony chaei dial y sarahet. Sef dial a wnaethant, gyrru Branwen o un ystauell ac ef, a'y chymell y bobi yn y llys, a pheri y'r kygyd, gwedy bei yn dryllyaw kic, dyuot idi a tharaw bonclust arnei beunyd. Ac yuelly y gwnaethpwyt y foen. 'Ie, Arglwyd,' heb y wyr wrth Uatholwch, 'par weithon wahard y llongeu, a'r yscraffeu, a'r corygeu, ual nat el neb y Gymry; ac a del yma o Gymry, carchara wynt [ac] na at trachefyn, rac gwybot hynn.' Ac ar hynny y diskynyssant.
Blwynyded nit llei no their y buant yuelly. Ac yn hynny, meithryn ederyn drydwen a wnaeth hitheu ar dal y noe gyt a hi, a dyscu ieith idi, a menegi y'r ederyn y ryw wr oed y brawt. A dwyn llythyr y poeneu a'r amharch a oed arnei hitheu. A'r llythyr a rwymwyt am uon eskyll yr ederyn, a'y anuon parth a Chymry, a'r ederyn a doeth y'r ynys honn. Sef lle y cauas Uendigeiduran, yg Kaer Seint yn Aruon, yn dadleu idaw dydgweith. A diskynnu ar e yscwyd, a garwhau y phluf, yny arganuuwyt y llythyr, ac adnabot meithryn yr ederyn yg kyuanned. Ac yna kymryt y llythyr a'y edrych. A phan darllewyt y llythyr, doluryaw a wnaeth o glybot y poen oed ar Uranwen, a dechreu o'r lle hwnnw peri anuon kennadeu y dygyuoryaw yr ynys honn y gyt. Ac yna y peris ef dyuot llwyr wys pedeir degwlat a seithugeint hyt attaw, ac e hun cwynaw wrth hynny, bot y poen a oed ar y chwaer. Ac yna kymryt kynghor. Sef kynghor a gahat, kyrchu Iwerdon, ac adaw seithwyr y dywyssogyon yma, a Chradawc uab Bran y benhaf, ac eu seith marchawc. Yn Edeirnon yd edewit y gwyr hynny, ac o achaws hynny y dodet Seith Marchawc ar y dref. Sef seithwyr oedynt, Cradawc uab Bran, ac Euehyd Hir, ac Unic Glew Yscwyd, ac Idic uab Anarawc Walltgrwn, a Fodor uab Eruyll, ac Wlch Minasgwrn, a Llashar uab Llayssar Llaesgygwyt, a Phendaran Dyuet yn was ieuanc gyt ac wy. Y seith hynny a drigwys yn seith kynueissat y synyaw ar yr ynys honn, a Chradawc uab Bran yn benhaf kynweisyat arnunt.
Bendigeiduran, a'r yniuer a dywedyssam ni, a hwylyssant parth ac Iwerdon, ac nyt oed uawr y weilgi yna: y ueis yd aeth ef. Nyt oed namyn dwy auon: Lli ac Archan y gelwit. A guedy hynny yd amlawys y weilgi, pan oreskynwys y weilgi y tyrnassoed. Ac yna y kerdwys ef ac a oed o gerd arwest ar y geuyn e hun, a chyrchu tir Iwerdon.
A meicheit Matholwch a oedynt ar lan y weilgi dydgueith, yn troi yg kylch eu moch. Ac o achaws e dremynt a welsant ar y weilgi, wy a doethant at Matholwch. 'Arglwyd,' heb vy, 'henpych guell.' 'Duw a rodo da ywch,' heb ef, 'a chwedleu genhwch.' 'Arglwyd,' heb wy, 'mae genhym ni chwedleu ryued: coet rywelsom ar y weilgi, yn y lle ny welsam eiryoet un prenn.' 'Llyna beth eres,' heb ef. 'A welewch wchi dim namyn hynny?' 'Gwelem, Arglwyd,' heb wy, 'mynyd mawr gyr llaw y coet, a hwnnw ar gerdet; ac eskeir aruchel ar y mynyd, a llynn o pop parth y'r eskeir; a'r coet, a'r mynyd, a phob peth oll o hynny ar gerdet.' 'Ie,' heb ynteu, 'nyt oes neb yma a wypo dim y wrth hynny, onys gwyr Branwen. Gouynnwch idi.' Kennadeu a aeth at Uranwen. 'Arglwydes,' heb wy, 'beth dybygy di yw hynny?' 'Kyn ny bwyf arglwydes,' heb hi, 'mi a wnn beth yw hynny: gwyr Ynys y Kedyrn yn dyuot drwod o glybot uym poen a'm amharch.' 'Beth yw y coet a welat ar y mor?' heb wy. 'Gwernenni llongeu a hwylbrenni,' heb hi. 'Och,' heb wy, 'beth oed y mynyd a welit gan ystlys y llongeu?' 'Bendigeiduran uym brawt,' heb hi, 'oed hwnnw, yn dyuot y ueis. Nyd oed long y kynghanei ef yndi.' 'Beth oed yr eskeir aruchel a'r llynn o bop parth y'r eskeir?' 'Ef,' heb hi, 'yn edrych ar yr ynys honn, llidyawc yw. Y deu lygat ef o pop parth y drwyn yw y dwy lynn o bop parth y'r eskeir.'
Ac yna dygyuor holl wyr ymlad Iwerdon a wnaethpwyt y gyt, a'r holl uorbennyd yn gyflym, a chynghor a gymerwyt. 'Arglwyd,' heb y wyrda wrth Uatholwch, 'nyt oes gynghor namyn kilyaw drwy Linon {auon oed yn Iwerdon}, a gadu Llinon y rot ac ef, a thorri y bont yssyd ar yr auon. A mein sugyn yssyd ygwaelawt yr auon, ny eill na llong na llestyr arnei.' Wynt a gylyssant drwy yr auon, ac a torryssant y bont.
Bendigeiduran a doeth y'r tir, a llynges y gyt ac ef, parth a glann yr auon. 'Arglwyd,' heb y wyrda, 'ti a wdost kynnedyf yr auon, ny eill neb uynet drwydi, nyt oes bont arnei hitheu. Mae dy gynghor am bont?' heb wy. 'Nit oes,' heb ynteu, 'namyn a uo penn bit pont. Mi a uydaf pont', heb ef. Ac yna gyntaf y dywetpwyt y geir hwnnw, ac y diharebir etwa ohonaw.
Ac yna guedy gorwed ohonaw ef ar traws yr auon, y byrwyt clwydeu arnaw ef, ac yd aeth y luoed ef ar y draws ef drwod. Ar hynny, gyt ac y kyuodes ef, llyma gennadeu Matholwch yn dyuot attaw ef, ac yn kyuarch guell idaw, ac yn y annerch y gan Uatholwch y gyuathrachwr, ac yn menegi o'e uod ef na haedei arnaw ef namyn da. 'Ac y mae Matholwch yn rodi brenhinaeth Iwerdon y Wern uab Matholwch, dy nei ditheu, uab dy chwaer, ac yn y ystynnu y'th wyd di, yn lle y cam a'r codyant a wnaethpwyt y Uranwen. Ac yn y lle y mynnych ditheu, ay yma ay yn Ynys y Kedyrn, gossymdeitha Uatholwch.' 'Ie,' heb ynteu Uendigeiduran, 'ony allaf i ue hun cael y urenhinaeth, ac aduyd ys kymeraf gynghor am ych kennadwri chwi. O hyn hyt ban del amgen, ny cheffwch y genhyf i attep.' 'Ie,' heb wynteu, 'yr atteb goreu a gaffom ninheu, atat ti y down ac ef, ac aro ditheu yn kennadwri ninheu.' 'Arhoaf,' heb ef, 'o dowch yn ehegyr.'
Y kennadeu a gyrchyssant racdu, ac at Uatholwch y doethant. 'Arglwyd,' heb wy, 'kyweira attep a uo gwell at Uendigeidwran. Ny warandawei dim o'r attep a aeth y genhym ni attaw ef.' 'A wyr,' heb y Matholwch, 'mae ych kynghor chwi?' 'Arglwyd', heb wy, 'nyt oes it gynghor namyn un. Ni enghis ef ymywn ty eiryoet,' heb wy. 'Gwna ty,' heb wy, 'o'y anryded ef, y ganho ef a gwyr Ynys y Kedyrn yn y neill parth y'r ty, a thitheu a'th lu yn y parth arall. A doro dy urenhinaeth yn y ewyllus, a gwra idaw. Ac o enryded gwneuthur y ty,' heb wy, 'peth ny chauas eiryoet ty y ganhei yndaw, ef a tangnoueda a thi.' A'r kennadeu a doethant a'r gennadwri honno gantunt at Uendigeiduran; ac ynteu a gymerth gynghor. Sef a gauas yn y gynghor, kymryt hynny; a thrwy gynghor Branuen uu hynny oll, ac rac llygru y wlat oed genti hitheu hynny.
E tangneued a gyweirwyt, a'r ty a adeilwyt yn uawr ac yn braf. Ac ystryw a wnaeth y Gwydyl. Sef ystryw a wnaethant, dodi guanas o bop parth y bop colouyn o cant colouyn oed yn y ty, a dodi boly croyn ar bop guanas, a gwr aruawc ym pob vn ohonunt. Sef a wnaeth Efnyssyen dyuot ymlaen llu Ynys y Kedyrn ymywn, ac edrych golygon orwyllt antrugarawc ar hyt y ty. Ac arganuot y bolyeu crwyn a wnaeth ar hyt y pyst. 'Beth yssyd yn y boly hwnn?' heb ef, wrth un o'r Gwydyl. 'Blawt, eneit,' heb ef. Sef a wnaeth ynteu, y deimlaw hyt ban gauas y benn, a guascu y benn, yny glyw y uyssed yn ymanodi yn y ureichell drwy yr ascwrn. Ac adaw hwnnw, a dodi y law ar un arall a gouyn, 'Beth yssyd yma?' 'Blawt,' medei y Gwydel. Sef a wnai ynteu yr un guare a fawb ohonunt, hyt nat edewis ef wr byw o'r hollwyr o'r deu cannwr eithyr un. A dyuot at hwnnw, a gouyn, 'Beth yssyd yma?' 'Blawt, eneit,' heb y Gwydel. Sef a wnaeth ynteu, y deimlaw ef yny gauas y benn, ac ual y guascassei benneu y rei ereill, guascu penn hwnnw. Sef y clywei arueu am benn hwnnw. Nyt ymedewis ef a hwnnw, yny ladawd. Ac yna canu englyn:-
Yssit yn y boly hwnn amryw ulawt,
Keimeit, kynniuyeit, diskynneit yn trin,
Rac kydwyr cadbarawt.
Ac ar hynny y dothyw y niueroed y'r ty. Ac y doeth gwyr Ynys Iwerdon y'r ty o'r neill parth, a gwyr Ynys y Kedyrn o'r parth arall. Ac yn gyn ebrwydet ac yd eistedyssant y bu duundeb y rydunt, ac yd ystynnwyt y urenhinaeth y'r mab.
Ac yna, guedy daruot y tangneued, galw o Uendigeiduran y mab attaw. Y gan Uendigeiduran y kyrchawd y mab at Uanawydan, a phawb o'r a'e guelei yn y garu. E gan Uanawydan y gelwis Nyssyen uab Eurosswyd y mab attaw. Y mab a aeth attaw yn diryon. 'Paham,' heb yr Efnissyen, 'na daw uy nei, uab uy chwaer, attaf i? Kyn ny bei urenhin ar Iwerdon, da oed genhyf i ymtiryoni a'r mab.' 'Aet yn llawen.' heb y Bendigeiduran. Y mab a aeth attaw yn llawen. 'Y Duw y dygaf uyg kyffes,' heb ynteu yn y uedwl, 'ys anhebic a gyflauan gan y tylwyth y wneuthur, a wnaf i yr awr honn.' A chyuodi y uynyd, a chymryt y mab erwyd y traet, a heb ohir, na chael o dyn yn y ty gauael arnaw, yny want y mab yn wysc y benn yn y gynneu. A fan welas Uranwen y mab yn boeth yn y tan, hi a gynsynwys uwrw neit yn y tan, o'r lle yd oed yn eisted rwng y deu uroder. A chael o Uendigeiduran hi yn y neill law, a'y tarean yn y llaw arall. Ac yna, ymgyuot o bawb ar hyt y ty. A llyna y godwrw mwyhaf a uu gan yniuer un ty, pawb yn kymryt y arueu. Ac yna y dywot Mordwyd Tyllyon, 'Guern gwn, gwchuiwch Uordwyt Tyllyon,' Ac yn yd aeth pawb ym pen yr arueu, y kynhelis Bendigeiduran Uranwen y rwng y taryan a'y yscwyd.
Ac yna y dechrewis y Gwydyl kynneu tan dan y peir dadeni. Ac yna y byrywyt y kalaned yn y peir, yny uei yn llawn, ac y kyuodyn tranoeth y bore yn wyr ymlad kystal a chynt, eithyr na ellynt dywedut. Ac yna pan welas Efnissyen y calaned heb enni yn un lle o wyr Ynys y Kedyrn, y dywot yn y uedwl, 'Oy a Duw,' heb ef, 'guae ui uy mot yn achaws y'r wydwic honn o wyr Ynys y Kedyrn; a meuyl ymi,' heb ef, 'ony cheissaf i waret rac hynn.' Ac ymedyryaw ymlith calaned y Gwydyl, a dyuot deu Wydel uonllwm idaw, a'y uwrw yn y peir yn rith Gwydel. Emystynnu idaw ynteu yn y peir, yny dyrr y peir yn pedwar dryll, ac yny dyrr y galon ynteu.
Ac o hynny y bu y meint goruot a uu y wyr Ynys y Kedyrn. Ny bu oruot o hynny eithyr diang seithwyr, a brathu Bendigeiduran yn y troet a guenwynwaew. Sef seithwyr a dienghis, Pryderi, Manawydan, Gliuieu Eil Taran, Talyessin, ac Ynawc, Grudyeu uab Muryel, Heilyn uab Gwyn Hen.
Ac yna y peris Bendigeiduran llad y benn. 'A chymerwch chwi y penn,' heb ef, 'a dygwch hyt y Gwynuryn yn Llundein, a chledwch a'y wyneb ar Freinc ef. A chwi a uydwch ar y ford yn hir; yn Hardlech y bydwch seith mlyned ar ginyaw, ac Adar Riannon y canu ywch. A'r penn a uyd kystal gennwch y gedymdeithas ac y bu oreu gennwch, ban uu arnaf i eiryoet. Ac y Guales ym Penuro y bydwch pedwarugeint mlyned. Ac yny agoroch y drws parth ac Aber Henueleu, y tu ar Gernyw, y gellwch uot yno a'r penn yn dilwgyr genhwch. Ac o'r pan agoroch y drws hwnnw, ny ellwch uot yno. Kyrchwch Lundein y gladu y penn. A chyrchwch chwi racoch drwod.' Ac yna y llas y benn ef, ac y kychwynassant a'r penn gantu drwod, y seithwyr hynn, a Branwen yn wythuet. Ac y Aber Alau yn Tal Ebolyon y doethant y'r tir. Ac yna eisted a wnaethant, a gorfowys. Edrych oheni hitheu ar Iwerdon, ac ar Ynys y Kedyrn, a welei ohonunt. 'Oy a uab Duw,' heb hi, 'guae ui o'm ganedigaeth. Da a dwy ynys a diffeithwyt o'm achaws i.' A dodi ucheneit uawr, a thorri y chalon ar hynny. A gwneuthur bed petrual idi, a'e chladu yno yGlan Alaw.
Ac ar hynny, kerdet a wnaeth y seithwyr parth a Hardlech, a'r penn ganthunt. Val y bydant y kerdet, llyma gyweithyd yn kyuaruot ac wynt, o wyr a gwraged. 'A oes gennwch chwi chwedleu?' heb y Manawydan. 'Nac oes', heb wynt, 'onyt goresgyn o Gaswallawn uab Beli Ynys y Kedyrn, a'y uot yn urenhin coronawc yn Llundein.' 'Pa daruu,' heb wynteu, 'y Gradawc uab Bran, a'r seithwyr a edewit y gyt ac ef yn yr ynys honn?' 'Dyuot Caswallawn am eu penn, a llad y chwegwyr, a thorri ohonaw ynteu Gradawc y galon o aniuyget, am welet y cledyf yn llad y wyr, ac na wydat pwy a'e lladei. Caswallawn a daroed idaw wiscaw llen hut amdanaw, ac ny welei neb ef yn llad y gwyr, namyn y cledyf. Ny uynhei Gaswallawn y lad ynteu: y nei, uab y geuynderw, oed. A hwnnw uu y trydyd dyn a torres y gallon o aniuyget. Pendarar Dyuet, a oed yn was ieuang gyt a'r seithwyr, a dienghis y'r coet,' heb wynt.
Ac yna y kyrchyssant wynteu Hardlech, ac y dechreussant eisted, ac y dechreuwyt ymdiwallu o uwyt a llynn. Ac y [gyt ac y] dechreuyssant wynteu uwyta ac yuet, dyuot tri ederyn, a dechreu canu udunt ryw gerd, ac oc a glywssynt o gerd, diuwyn oed pob un iwrthi hi. A fell dremynt oed udunt y guelet uch benn y weilgi allan. A chyn amlyket oed udunt wy a chyn bydynt gyt ac wy. Ac ar hynny o ginyaw y buant seith mlyned.
Ac ym penn y seithuet ulwydyn, y kychwynyssant parth a Gualas ym Penuro. Ac yno yd oed udunt lle teg brenhineid uch benn y weilgi, ac yneuad uawr oed, ac y'r neuad y kyrchyssant. A deu drws a welynt yn agoret; y trydyd drws oed y gayat, yr hwnn y tu a Chernyw. 'Weldy racco,' heb y Manawydan, 'y drws ny dylywn ni y agori.' A'r nos honno y buant yno yn diwall, ac yn digrif ganthunt. Ac yr a welsynt o ouut yn y gwyd, ac yr a gewssynt e hun, ny doy gof udunt wy dim, nac o hynny nac o alar yn y byt. Ac yno y treulyssant y pedwarugeint mlyned hyt na wybuant wy eiryoet dwyn yspeit digriuach na hyurydach no honno. Nyt oed anesmwythach, nac adnabot o un ar y gilyd y uot yn hynny o amser, no fan doethan yno. Nit oed anesmwythach ganthunt wynte gyduot y penn yna, no phan uuassei Uendigeiduran yn uyw gyd ac wynt. Ac o achaws y pedwarugeint mlyned hynny y gelwit Yspydawt Urdaul Benn. {Yspydawt Uranwen a Matholwch oed yr honn yd aethpwyt e Iwerdon}.
Sef a wnaeth Heilyn uab Guyn dydgueith: 'Meuyl ar uy maryf i,' heb ef, 'onyt agoraf y drws, e wybot ay gwir a dywedir am hynny.' Agori y drws a wnaeth, ac edrych ar Gernyw, ac ar Aber Henueleu. A phan edrychwys, yd oed yn gyn hyspysset ganthunt y gyniuer collet a gollyssynt eiryoet, a'r gyniuer car a chedymdeith a gollyssynt, a'r gyniuer drwc a dothoed udunt, a chyt bei yno y kyuarffei ac wynt; ac yn benhaf oll am eu harglwyd. Ac o'r gyuawr honno, ny allyssant wy orfowys namyn ky[r]chu a'r penn parth a Llundein. Pa hyt bynnac y bydynt ar y ford, wynt a doethant hyt yn Llundein, ac a gladyssant y penn yn y Gwynuryn.
A hwnnw [uu y] trydyd matcud ban gudywyt, a'r trydyd anuat datcud pann datcudywyt; cany doey ormes byth drwy uor y'r ynys honn, tra uei y penn yn y cud hwnnw. A hynny a dyweit y kyuarwydyd hwnn. Eu kyfranc wy, 'Y gwyr a gychwynwys o Iwerdon' yw hwnnw.
En Iwerdon nyt edewit dyn byw, namyn pump gwraged beichawc ymywn gogof yn diffeithwch Iwerdon. A'r pump wraged hynny, yn yr un kyfnot, a anet udunt pum meib. A'r pym meib hynny a uagyssant hyt ban uuant weisson mawr, ac yny uedylyssant am wraged, ac yny uu damunet gantunt eu cafael. Ac yna, kyscu pob un lau heb lau gan uam y gilid, a gwledychu y wlat a'y chyuanhedu, a'y rannu y rydunt yll pymp. Ac o achaws y ranyat hwnnw y gelwir etwan pymp rann Ywerdon. Ac edrych y wlat a wnaethant ford y buassei yr aeruaeu, a chael eur, ac aryant, yny ytoedynt yn gyuoethawc.
A llyna ual y teruyna y geing honn o'r Mabinyogi, o achaws Paluawt Branwen, yr honn a uu tryded anuat paluawt yn yr ynys honn; ac o achaws Yspadawt Uran, pan aeth yniuer pedeir decwlat a seithugeint e Iwerdon, y dial Paluawt Branwen; ac am y ginyaw yn Hardlech seith mlyned; ac am Ganyat Adar Riannon; ac a[m] Yspydaut Benn pedwarugeint mlyned.