Clywch lu'r nef yn seinio'n un

Oddi ar Wicidestun
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn:
heddwch sydd rhwng nef a llawr,
Duw a dyn sy'n un yn awr.
Dewch, bob cenedl is y rhod,
unwch â'r angylaidd glod,
bloeddiwch oll â llawen drem,
ganwyd Crist ym Methlehem:
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn!
Crist, Tad tragwyddoldeb yw,
a disgleirdeb wyneb Duw:
cadarn Iôr a ddaeth ei hun,
gwnaeth ei babell gyda dyn:
wele Dduwdod yn y cnawd,
dwyfol Fab i ddyn yn Frawd;
Duw yn ddyn, fy enaid, gwêl
Iesu, ein Emanwel!
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn!
Henffych, T'wysog heddwch yw;
henffych, Haul Cyfiawnder gwiw:
bywyd ddwg, a golau ddydd,
iechyd yn ei esgyll sydd.
Rhoes i lawr ogoniant nef;
fel na threngom ganwyd ef;
ganwyd ef, O ryfedd drefn,
fel y genid ni drachefn!
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn!
Cyfieithwyd o Saesneg wreiddiol Charles Wesley
cyfieithwyr:
1. Peter Jones (Pedr Fardd) 1775-1845
2. anadnabyddus
3. Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) 1827-1895