Cyfri'r Geifr

Oddi ar Wicidestun
Oes gafr eto?
Oes heb ei godro?
Ar y creigiau geirwon
Mae’r hen afr yn crwydro.
Gafr wen, wen, wen.
Ie fin wen, finwen, finwen.
Foel gynffon wen, foel gynffon wen,
Ystlys wen a chynffon.
Wen, wen, wen.
Gafr ddu, ddu, ddu.
Ie finddu, finddu, finddu.
Foel gynffon ddu, foel gynffon ddu,
Ystlys ddu a chynffon.
Ddu, ddu, ddu.
Gafr goch, goch, goch.
Ie fin goch, fin goch, fin goch.
Foel gynffon goch, foel gynffon goch,
Ystlys goch a chynffon.
Goch, goch, goch.
Gafr las, las, las.
Ie fin las, fin las, fin las.
Foel gynffonlas, foel gynffonlas,
Ystlys las a chynffon.
Las, las, las.