Cywydd y Cedor

Oddi ar Wicidestun

gan Gwerful Mechain

Pob rhyw brydydd, dydd dioed,
mul frwysg, wladaidd rwysg erioed,
noethi moliant, nis gwrantwyf,
anfeidrol reiol yr wyf,
am gerdd merched y gwledydd
a wnaethant heb ffyniant ffydd
yn anghwbl iawn, ddawn ddiwad,
ar hyd y dydd, rho Duw Dad:
moli gwallt, cwnsallt ceinserch,
a phob cyfryw sy fyw o ferch,
ac obry moli heb wg
yr aeliau uwchlaw'r olwg;
moli hefyd, hyfryd dwf,
foelder dwyfron feddaldwf,
a breichiau gwen, len loywlun,
dylai barch, a dwylaw bun.
Yno o'i brif ddewiniaeth
cyn y nos canu a wnaeth,
Duw er ei radd a'i addef,
diffrwyth wawd o'i dafawd ef:
gadu'r canol heb foliant
a'r plas lle'r enillir plant,
a'r cedor clyd, rhagor claer,
tynerdew, cylch twn eurdaer,
lle carwn i, cywrain iach,
y cedor dan y cadach.
Corff wyd diball ei allu,
cwrt difreg o'r bloneg blu.
Llyma 'ynghred, teg y cedawr,
cylch gweflau ymylau mawr,
pant yw hwy na llwy na llaw,
clawdd i ddal cal ddwy ddwylaw;
cont yno wrth din finffloch,
dabl y gerdd â'i dwbl o goch.
Ac nid arbed, freisged frig,
y gloywsaint, gwyr eglwysig
mewn cyfle iawn, ddawn ddifreg,
myn Beuno, ei deimlo'n deg.
Am hyn o chwaen, gaen gerydd,
y prydyddion sythion sydd,
gadewch heb ffael er cael ced
gerddau cedor i gerdded.
Sawden awdl, sidan ydiw,
sêm fach, len ar gont wen wiw,
lleiniau mewn man ymannerch,
y llwyn sur, llawn yw o serch,
fforest falch iawn, ddawn ddifreg,
ffris ffraill, ffwrwr dwygaill deg,
breisglwyn merch, drud annerch dro,
berth addwyn, Duw'n borth iddo.