Disgwyl yr Arglwydd

Oddi ar Wicidestun
gan Ann Griffiths
Am fy mod i mor llygredig
Ac ymadel ynddwy' i'n llawn,
Mae bod yn dy fynydd sanctaidd
Imi'n fraint oruchel iawn;
Lle mae'r llenni yn cael eu rhwygo,
Mae difa'r gorchudd yno o hyd,
A rhagoroldeb dy ogoniant
Ar ddarfodedig bethau'r byd.
O am bara i uchel yfed
O ffrydiau'r iechydwriaeth fawr
Nes fy nghwbwl ddisychedu
Am ddarfodedig bethau'r llawr;
Byw dan ddisgwyl am fy Arglwydd,
Bod, pan ddêl, yn effro iawn,
I agoryd iddo'n ebrwydd
A mwynhau ei ddelw'n llawn.

Tarddiadau[golygu]