Ein Tad
Oddi ar Wicitestun
[golygu] Gweddi'r Arglwydd yn Gymraeg
[golygu] Cyfieithiad 1588
- Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
- Sancteiddier dy enw.
- Deled dy deyrnas.
- Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
- Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
- A maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.
- Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg.
- Canys eiddot ti yw'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.
[golygu] Cyfieithiad 1988
- Ein Tad yn y nefoedd,
- sancteiddier dy enw;
- deled dy deyrnas;
- gwneler dy ewyllys,
- ar y ddaear fel yn y nef.
- Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol;
- a maddau inni ein troseddau,
- fel yr ŷm ni wedi maddau i'r rhai a droseddodd yn ein herbyn;
- a phaid â'n dwyn i brawf,
- ond gwared ni rhag yr Un drwg.
- [Oherwydd eiddot ti yw'r deyrnas a'r gallu a'r gogoniant am byth. Amen.]