I Dewi Sant

Oddi ar Wicidestun

gan Lewis Glyn Cothi

(detholiad)

Bara a gymerth, a berwr,
neu ddwr afonydd oerion,
Ac o'r rhawn, gwisg ar ei hyd,
a phenyd ar lan ffynnon.
Dyn heno, rhag dwyn hynny,
i'w dy a ffy wrth bwys ffon.
Dewi agos, bendigodd,
O'n bodd, yr ennain baddon.
Ei unllais aeth i Enlli
O Landdewi Frefi fron.
I bawb, ffordd y bo aberth,
y bo nerth Dewi ab Non.