I Merch Lân

Oddi ar Wicidestun

gan Tomos Prys

Cerais wiwferch, cwrs ufudd,
a’r dagrau oll ‘rhyd y grudd.
Os tlws oedd Fenws feinwedd
a gloyw’n wir â glân wedd,
tlysach a gloywach mewn gwlad,
er fy nghur, yw fy nghariad.
Os glân ydoedd ychwaneg
Minerfa, Deinna deg,
dau lanach ydyw ‘leni
yng nghwr dail fy nghariad i.
Os hardd oedd Balas hirddoeth
a Dsuwno neu Ddeido ddoeth,
harddach, pereiddiach yw pryf
y fun olau, f’anwylyd.
Os iriadd fynwes arian
Medea, Luwcresia Lân,
ireiddiach, hoywach yw hon,
gwawr gulael a’m gwir galon.
Os gwen fu Elen ennyd
a glân o beth glain y byd,
dau wynnach ydyw wyneb
fy nghariad, yn anad neb.
Diolched gwen feinwen fau
Ei glaned ar ei gliniau.