Marwnad Siôn y Glyn

Oddi ar Wicitestun

Neidio i: llywio, chwilio

gan Lewis Glyn Cothi

Un mab oedd degan i mi,
Dwynwen, gwae’i dad o’i eni!
Gwae a edid a gudab
i boeni mwy heb un mab,
Fy nwy ais, farw fy nisyn,
y sy’n glaf am Siôn y Glyn.
Udo fyth yr ydwfyi
am benaig Mabinogi.
Afal pêr ac aderyn
a garai’r gwas, a gro gwyn;
bwa o flaen y ddraenen,
cleddau digon brau o bren;
ofni’r bib, ofni’r bwbach,
ymbil â i fam am y bêl fach;
canu i bawb acen o’i ben,
canu io-o er cneuen;
gwneuthur moethau, gwenieitho,
sorri wrthyf I wnai fo
a chymod er ysglodyn
ac er dis a garai’r dyn.
Och, nad Siôn, fab gwirion gwâr,
sy’n ail oesi Sain Lasar!
Beuno a droes iddo saith
Nefolion yn fyw eilwaith;
Gwae eilwaith fy ngwir galon
Nad oes wyth, rhwng enaid Siôn.
O Fair, gwae fi o’i orwedd,
A gwae fy ais gan ei fedd!
Yngo y saif angau Siôn
yn ddeufrath yn y ddwyfron.
Fy mab, fy muarth baban,
fy mron, fy nghalon, fy nghân,
fy mryd cyn fy marw ydoedd,
fy mardd doeth, fy moeth im oedd;
fy nhegan oedd, fy nghannwyll,
fy enaid teg, fy un twyll;
fy nghyw yn dysgu fy nghân,
fy nghae Esyllt, fy nghussan;
fy nyth, gwae fi yn ei ôl,
fy ehedydd, fy hudol;
fy Siôn, fy mwa, fy saeth,
f’ymbiliwr, fy mabolaeth;
Siôn y sy’n danfon i’w dad
Awch o hiraeth a chariad.
Ym iach wên ar fy ngenau,
yn iach chwerthin o’r min mau;
yn iach mwy ddiddanwch mwyn,
ac yn iach i gnau echwyn
ac yn iach bellach i’r bêl
ac yn iach ganu uchel;
ac yn fy nghâr arab
iso’n fy myw, Siôn fy mab.
Offer personol