Siroedd Cymru: IX. Meirionnydd

Oddi ar Wicidestun

gan Tryfanwy

Saf ar dy rwyfau!—wele Feirionnydd
Fry yn ymgodi o fin y lli!
Hawdd yw ei charu a chanu'i chlodydd—
Gwel yn mynd drosti gerbydau'r hafddydd
Hithau mor dawel er maint ei bri!
Fedri di rwyfo drwy lif ei glannau?
Fedri di ganu yn Awst ei bannau?—
Aros—a meddwl mor fawr yw hi.

Fro'r Gader Idris a'r Berwyn cribog—
Ofna'i mawrhydri os nad wyt gryf;
Hi biau'r Ganllwyd a'i derwen geinciog,
Hi ydyw cartref Gŵyr Harlech enwog;—
Ofer ei dringo yn ysgafn-hyf
I'r gwrol-galon y rhydd ei chnydau,
Ei hawen loewaf, ei haur a'u llechau;—
Ofna'i mawrhydri os nad wyt gryf.

Glân yw'r dyffrynnoedd yn Sir Feirionnydd,
Hoffwlad y mwyeilch a'r helyg yw;
Hardded ei llannau dan wyrddliw'r coedydd,
Fwyned ei chaeau gerllaw'r afonydd—
Gwylia'i hwynebau a'th dant yn wyw!
Cofia Faentwrog ar hafddydd gloew,
Cofia Edeyrnion a'r Ddyfrdwy groew,—
Cofia—a meddwl am dlysni byw!

Pur yw rhianedd hawddgar Meirionnydd—
Ferched canrifoedd o serch a swyn;
Gwyddant am folawd hoewaf awenydd,
Wylant a chanant odlau'r emynydd,
A gwenant finfyd yn wynfyd mwyn;
Rhodiant ar lanau Llyn y Morwynion,
Carant Lyn Tegid a'i glychau dyfnion—
Ferched canrifoedd o serch a swyn.

Sir y gwerinwr yw Sir Feirionydd,
Cryfder y gweithiwr yw teyrn y wlad;
Hen anibyniaeth ysbryd y mynydd,
Ac egni ieuanc rhaeadrau'r nentydd
Yw'r etifeddiaeth o dad i dad.
Heddyw dan heulwen fachaf y blwyddi,
Brined ei phlasau a'i segur-swyddi—
Cryfder y gweithiwr yw teyrn y wlad!

Saf ar dy rwyfau!—wele Feirionnydd
Fry yn ymgodi o fin y lli
Bro'r hen Lasynys a'r Bala lonydd,
Bro'r Gerddi Bluog a'r Marian dedwydd,
A bro'n Cefnddwysarn ddi ail yw hi!
Fedri di rwyfo drwy lif ei glannau?—
Fedri di ganu yn Awst ei bannau?—
Rhwyfa dan gofio ei swyn a'i bri.