Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo ef y’ngwastadedd Mamre, ac efe yn eistedd wrth ddrws y babell, y’ngwres y dydd.

2 Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele driwŷr yn sefyll ger ei fron: a phan eu gwelodd, efe a redodd o ddrws y babell i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymmodd tu a’r ddaear,

3 Ac a ddywedodd, Fy Arglwydd, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg di, na ddos heibio, attolwg, oddi wrth dy was.

4 Cymmerer, attolwg, ychydig ddwfr, a golchwch eich traed, a gorphwyswch dan y pren;

5 Ac mi a ddygaf dammaid o fara, a chryfhêwch eich calon; wedi hynny y cewch fyned ymaith: o herwydd i hynny y daethoch at eich gwas. A hwy a ddywedasant, Gwna felly, fel y dywedaist.

6 Ac Abraham a frysiodd i’r babell at Sarah, ac a ddywedodd, Parottoa ar frys dair phïolaid o flawd peilliaid, tylina, a gwna yn deisennau.

7 Ac Abraham a redodd at y gwartheg, ac a gymmerodd lo tyner a da, ac a’i rhoddodd at y llangc, yr hwn a frysiodd i’w barattôi ef.

8 Ac efe a gymmerodd ymenyn, a llaeth, a’r llo a barattoisai efe, ac a’i rhoddes o’u blaen hwynt: ac efe a safodd gyd â hwynt tan y pren; a hwy a fwyttasant.

9 ¶ A hwy a ddywedasant wrtho ef, Mae Sarah dy wraig? Ac efe a ddywedodd, Wele hi yn y babell.

10 Ac un a ddywedodd, Gan ddychwelyd y dychwelaf attat ynghylch amser bywiolaeth; ac wele fab i Sarah dy wraig. A Sarah oedd yn clywed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd o’i ol ef.

11 Abraham hefyd a Sarah oedd hen, wedi myned mewn oedran; a pheidiasai fod i Sarah yn ol arfer gwragedd.

12 Am hynny y chwarddodd Sarah rhyngddi a hi ei hun, gan ddywedyd, Ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch, a’m harglwydd yn hen hefyd?

13 A dywedodd yr Arglwydd wrth Abraham, Paham y chwarddodd Sarah fel hyn, gan ddywedyd, A blantaf finnau yn wir, wedi fy heneiddio?

14 A fydd dim yn anhawdd i’r Arglwydd? Ar yr amser nodedig y dychwelaf attat, ynghylch amser bywiolaeth, a mab fydd i Sarah.

15 A Sarah a wadodd, gan ddywedyd, Ni chwerddais i: oherwydd hi a ofnodd. Yntau a ddywedodd, Nag ê, oblegid ti a chwerddaist.

16 ¶ A’r gwŷr a godasant oddi yno, ac a edrychasant tu a Sodom: ac Abraham a aeth gyd â hwynt, i’w hanfon hwynt.

17 A’r Arglwydd a ddywedodd, A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf?

18 Canys Abraham yn ddïau a fydd yn genhedlaeth fawr a chref, ac ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaear.

19 Canys mi a’i hadwaen ef, y gorchymyn efe i’w blant, ac i’w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo yr Arglwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe am dano.

20 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, Am fod gwaedd Sodom a Gomorrah yn ddirfawr, a’u pechod hwynt yn drwm iawn;

21 Disgynaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ol eu gwaedd a ddaeth attaf fi, y gwnaethant yn hollol: ac onid ê, mynnaf wybod.

22 A’r gwŷr a droisant oddi yno, ac a aethant tu a Sodom: ac Abraham yn sefyll etto ger bron yr Arglwydd.

23 ¶ Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywedodd, A ddifethi di y cyfiawn hefyd ynghyd â’r annuwiol?

24 Ond odid y mae deg a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas: a ddifethi di hwynt hefyd, ac nid arbedi y lle er mwyn y deg a deugain cyfiawn sydd o’i mewn hi?

25 Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyd â’r annuwiol, fel y byddo y cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo hynny i ti: oni wna Barnydd yr holl ddaear farn?

26 A dywedodd yr Arglwydd, Os caf fi yn Sodom ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas, mi a arbedaf yr holl fangre er eu mwyn hwynt.

27 Ac Abraham a attebodd, ac a ddywedodd, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd, a mi yn llwch ac yn lludw.

28 Ond odid bydd pump yn eisieu o’r deg a deugain cyfiawn: a ddifethi di yr holl ddinas er pump?