Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a’r bachgen hefyd, ac efe a’i gollyngodd hi ymaith: a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beer-seba.

15 A darfu y dwfr yn y gostrel; a hi a fwriodd y bachgen dan un o’r gwŷdd.

16 A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ym mhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd.

17 A Duw a wrandawodd ar lais y llangc; ac angel Duw a alwodd ar Agar o’r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, Beth a ddarfu i ti, Agar? nac ofna, oherwydd Duw a wrandawodd ar lais y llangc lle y mae efe.

18 Cyfod, cymmer y llangc, ac ymafael ynddo â’th law, oblegid myfi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.

19 A Duw a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr; a hi a aeth, ac a lanwodd y gostrel o’r dwfr, ac a ddïododd y llangc.

20 Ac yr oedd Duw gyd â’r llangc; ac efe a gynyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac a aeth yn berchen bwa.

21 Ac yn anialwch Paran y trigodd efe; a’i fam a gymmerodd iddo ef wraig o wlad yr Aipht.

22 ¶ Ac yn yr amser hwnnw, Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant âg Abraham, gan ddywedyd, Duw sydd gyd â thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur.

23 Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i Dduw, na fyddi anffyddlawn i mi, nac i’m mab, nac i’m hŵyr: yn ol y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau, ac â’r wlad yr ymdeithiaist ynddi.

24 Ac Abraham a ddywedodd, Mi a dyngaf.

25 Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais.

26 Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybum i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais hynny hyd heddyw.

27 Yna y cymmerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a’u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau.

28 Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o’r praidd wrthynt eu hunain.

29 Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain?

30 Ac yntau a ddywedodd, Canys ti a gymmeri y saith hesbin o’m llaw, i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn.

31 Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer-seba: oblegid yno y tyngasant ill dau.

32 Felly y gwnaethant gynghrair yn Beer-seba: a chyfododd Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, ac a ddychwelasant i dir y Philistiaid.

33 ¶ Ac yntau a blannodd goed yn Beer-seba, ac a alwodd yno ar enw yr Arglwydd Dduw tragwyddol.

34 Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid.

Pennod XXII.

1 Profi Abraham i aberthu ei fab. 3 Yntau yn dangos ei ffydd a’i ufudd-dod. 11 Yr angel yn ei rwystro ef. 13 Newid Isaac am hwrdd. 14 Galw y lle Jehofah-jire. 15 Bendithio Abraham drachefn. 20 Cenhedlaeth Nachor hyd Rebeccah.

Ac wedi’r pethau hyn y bu i Dduw brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.

2 Yna y dywedodd Duw, Cymmer yr awr hon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Morïah, ac offrymma ef yno yn boeth-offrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt.

3 ¶ Ac Abraham a fore-gododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymmerodd ei ddau langc gyd âg ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poeth-offrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i’r lle a ddywedasai Duw wrtho.

4 Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a welai y lle o hirbell.

5 Ac Abraham a ddywedodd wrth ei langciau, Arhoswch chwi yma gyd â’r asyn; a mi a’r llangc a awn hyd accw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn attoch.

6 Yna y cymmerth Abraham goed y poeth-offrwm, ac a’i gosododd ar Isaac ei fab; ac a gymmerodd y tân, a’r gyllell yn ei law ei hun: a hwy a aethant ill dau ynghyd.

7 A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad.