Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gynghrair rhyngom ni, sef rhyngom ni a thi; a gwnawn gyfammod â thi;

29 Na wnei i ni ddrwg, megis na chyffyrddasom ninnau â thi, a megis y gwnaethom ddaioni yn unig â thi, ac y’th anfonasom mewn heddwch; ti yn awr wyt fendigedig yr Arglwydd.

30 Ac efe a wnaeth iddynt wledd; a hwy a fwyttasant ac a yfasant.

31 Yna y codasant yn fore, a hwy a dyngasant bob un i’w gilydd: ac Isaac a’u gollyngodd hwynt ymaith, a hwy a aethant oddi wrtho ef mewn heddwch.

32 A’r dydd hwnnw y bu i weision Isaac ddyfod, a mynegi iddo ef o achos y pydew a gloddiasent; a dywedasant wrtho, Cawsom ddwfr.

33 Ac efe a’i galwodd ef Seba: am hynny enw y ddinas yw Beer-seba hyd y dydd hwn.

34 ¶ Ac yr oedd Esau yn fab deugain mlwydd, ac efe a gymmerodd yn wraig, Judith ferch Beeri yr Hethiad, a Basemath ferch Elon yr Hethiad.

35 A hwy oeddynt chwerwder yspryd i Isaac ac i Rebeccah.

Pennod XXVII.

1 Isaac yn anfon Esau am helwriaeth. 6 Rebeccah yn dysgu Jacob i gael y fendith. 15 Jacob yn rhith Esau yn ei chaffael. 30 Esau yn dwyn ei saig. 33 Isaac yn dychrynu. 34 Esau yn cwynofain, a thrwy daerni yn caffael bendith. 41 Yn bygwth Jacob. 42 Rebeccah yn ei siommi ef.

A bu, wedi heneiddio o Isaac, a thywyllu ei lygaid fel na welai, alw o hono ef Esau ei fab hynaf, a dywedyd wrtho, Fy mab. Yntau a ddywedodd wrtho ef, Wele fi.

2 Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a heneiddiais yn awr, ac nis gwn ddydd fy marwolaeth.

3 Ac yn awr cymmer, attolwg, dy offer, dy gawell saethau, a’th fwa, a dos allan i’r maes, a hela i mi helfa.

4 A gwna i mi flasus-fwyd o’r fath a garaf, a dwg i mi, fel y bwyttâwyf; fel y’th fendithio fy enaid cyn fy marw.

5 A Rebeccah a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fab: ac Esau a aeth i’r maes, i hela helfa i’w dwyn.

6 ¶ A Rebeca a lefarodd wrth Jacob ei mab, gan ddywedyd, Wele, clywais dy dad yn llefaru wrth Esau dy frawd, gan ddywedyd,

7 Dwg i mi helfa, a gwna i mi flasus-fwyd, fel y bwyttâwyf, ac y’th fendithiwyf ger bron yr Arglwydd cyn fy marw.

8 Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais i, am yr hyn a orchymynnaf i ti.

9 Dos yn awr i’r praidd, a chymmer i mi oddi yno ddau fỳn gafr da; a mi a’u gwnaf hwynt yn fwyd blasus i’th dad, o’r fath a gâr efe.

10 A thi a’u dygi i’th dad, fel y bwyttao, ac y’th fendithio cyn ei farw.

11 A dywedodd Jacob wrth Rebeccah ei fam, Wele, Esau fy mrawd yn wr blewog, a minnau yn wr llyfn:

12 Fy nhad, ond odid, a’m teimla; yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyllwr; ac a ddygaf arnaf felldith, ac nid bendith.

13 A’i fam a ddywedodd wrtho, Arnaf fi y byddo dy felldith, fy mab, yn unig gwrando ar fy llais; dos a dwg i mi.

14 Ac efe a aeth, ac a gymmerth y mynnod, ac a’u dygodd at ei fam: a’i fam a wnaeth fwyd blasus o’r fath a garai ei dad ef.

15 Rebeccah hefyd a gymmerodd hoff-wisgoedd Esau ei mab hynaf, y rhai oedd gyd â hi yn tŷ, ac a wisgodd Jacob ei mab ieuangaf.

16 A gwisgodd hefyd grwyn y mynnod geifr am ei ddwylaw ef, ac am lyfndra ei wddf ef:

17 Ac a roddes y bwyd blasus, a’r bara a arlwyasai hi, yn llaw Jacob ei mab.

18 ¶ Ac efe a ddaeth at ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi: pwy wyt ti, fy mab?

19 A dywedodd Jacob wrth ei dad, Myfi yw Esau dy gyntaf-anedig: gwneuthum fel y dywedaist wrthyf: cyfod, attolwg, eistedd, a bwyta o’m helfa, fel y’m bendithio dy enaid.

20 Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fab, Pa fodd, fy mab, y cefaist mor fuan a hyn? Yntau a ddywedodd, Am i’r Arglwydd dy Dduw beri iddo ddigwyddo o’m blaen.

21 A dywedodd Isaac wrth Jacob, Tyred yn nês yn awr, fel y’th deimlwyf, fy mab; ai tydi yw fy mab Esau, ai nad ê.

22 A nesaodd Jacob at Isaac ei dad: yntau a’i teimlodd; ac a ddywedodd, Y llais yw llais Jacob; a’r dwylaw, dwylaw Esau ydynt.

23 Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylaw fel dwylaw ei frawd