Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A Jacob a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele Esau yn dyfod, a phedwar cant o wŷr gyd âg ef: ac efe a rannodd y plant at Lea, ac at Rahel, ac at y ddwy law-forwyn.

2 Ac ym mlaen y gosododd efe y ddwy law-forwyn, a’u plant hwy, a Leah a’i phlant hithau yn ol y rhai hynny, a Rahel a Joseph yn olaf.

3 Ac yntau a gerddodd o’u blaen hwynt, ac a ymostyngodd i lawr seithwaith, oni ddaeth efe yn agos at ei frawd.

4 Ac Esau a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a’i cusanodd ef: a hwy a wylasant.

5 Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu y gwragedd, a’r plant; ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn gennyt ti? Yntau a ddywedodd, Y plant a roddes Duw o’i ras i’th was di.

6 Yna y llaw-forwynion a nesasant, hwynt-hwy a’u plant, ac a ymgrymmasant.

7 A Leah a nesaodd a’i phlant hithau, ac a ymgrymamsant: ac wedi hynny y nesaodd Joseff a Rahel, ac a ymgrymmasant.

8 Ac efe a ddywedodd, Pa beth yw gennyt yr holl fintai accw a gyfarfum i? Yntau a ddywedodd, Anfonais hwynt i gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd.

9 Ac Esau a ddywedodd, Y mae gennyf fi ddigon, fy mrawd; bydded i ti yr hyn sydd gennyt.

10 A Jacob a ddywedodd, Nag ê; attolwg, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, cymmer fy anrheg o’m llaw i: canys am hynny y gwelais dy wyneb, fel pe gwelswn wyneb Duw, a thi yn foddlawn i mi.

11 Cymmer, attolwg, fy mendith, yr hon a ddygpwyd i ti; oblegid Duw a fu raslawn i mi, ac am fod gennyf fi bob peth. Ac efe a fu daer arno: ac yntau a gymmerodd;

12 Ac a ddywedodd, Cychwynwn, ac awn: a mi a âf o’th flaen di.

13 Yntau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd a ŵyr mai tyner yw y plant, a bod y praidd a’r gwartheg blithion gyd â myfi; os gyrrir hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn, marw a wna yr holl braidd.

14 Aed, attolwg, fy arglwydd o flaen ei was; a minnau a ddeuaf yn araf, fel y gallo yr anifeiliaid sydd o’m blaen i, ac y gallo y plant, hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir.

15 Ac Esau a ddywedodd, Gadawaf yn awr gyd â thi rai o’r bobl sydd gyd â mi. Yntau a ddywedodd, I ba beth y gwnei hynny? Cafwyf ffafr y’ngolwg fy arglwydd.

16 ¶ Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir.

17 A Jacob a gerddodd i Succoth, ac a adeiladodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod i’w anifeiliaid: am hynny efe a alwodd enw y lle Succoth.

18 ¶ Hefyd Jacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon sydd y’ngwlad Canaan, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a wersyllodd o flaen y ddinas.

19 Ac a brynodd ran o’r maes y lledasai ei babell ynddo, o law meibion Hemor tad Sichem, am gàn darn o arian:

20 Ac a osododd yno allor, ac a’i henwodd El-Elohe-Israel.

Pennod XXXIV.

1 Sichem yn treisio Dinah: 4 yn ei gofyn hi yn brïod. 13 Meibion Jacob yn cynnyg i’r Sichemiaid ammod yr enwaediad. 20 Hemor a Sichem yn eiriol arnynt am ei dderbyn. 25 Meibion Jacob ar y fantais honno yn eu lladd hwynt, 27 ac yn yspeilio eu dinas. 30 Jacob yn ceryddu Simeon a Lefi.

A Dinah merch Leah, yr hon a ymddygasai hi i Jacob, a aeth allan i weled merched y wlad.

2 A Sichem mab Hemor yr Hefiad, tywysog y wlad, a’i canfu hi, ac a’i cymmerth hi, ac a orweddodd gyd â hi, ac a’i treisiodd.

3 A’i enaid ef a lynodd wrth Dinah merch Jacob, ïe, efe a hoffodd y llangces, ac a ddywedodd wrth fodd calon y llangces.

4 Sichem hefyd a lefarodd wrth Hemor ei dad, gan ddywedyd, Cymmer y llangces hon yn wraig i mi.

5 A Jacob a glybu i Sichem halogi Dinah ei ferch: (a’i feibion ef oedd gyd â’i anifeiliaid ef yn y maes); a Jacob a dawodd â sôn hyd oni ddaethant hwy adref.

6 ¶ A Hemor tad Sichem a aeth allan at Jacob, i ymddiddan âg ef.

7 A meibion Jacob a ddaethant o’r maes, wedi clywed o honynt; a’r gwŷr a ymofidiasant, a digiasant yn ddirfawr, oblegid gwneuthur o Sichem ffolineb yn Israel, gan orwedd gyd â merch Jacob, canys ni ddylesid gwneuthur felly.

8 A Hemor a ymddiddanodd â