Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

39 A bu Baalhanan, mab Achbor, farw; a Hadar a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Pau; ac enw ei wraig Mehetabel, merch Matred, merch Mezahab.

40 A dyma enwau y duciaid o Esau, yn ol eu teuluoedd, wrth eu trigleoedd, erbyn eu henwau, duc Timna, duc Alfah, dug Jetheth,

41 Duc Aholibama, duc Ela, duc Pinon,

42 Duc Cenaz, duc Teman, duc Mibsar,

43 Duc Magdiel, duc Iram. Dyma y duciaid o Edom, yn ol eu preswylfeydd, y’ngwlad eu perchenogaeth: dyma Esau, tad yr Edomiaid.

Pennod XXXVII.

2 Joseph yn cael ei gasâu gan ei frodyr. 5 Ei ddau freuddwyd ef. 13 Jacob yn ei anfon ef i ymweled â’i frodyr. 18 Hwythau yn cydfwriadu ei ladd ef. 21 Reuben yn ei achub ef. 26 Hwynt yn ei werthu ef i’r Ismaeliaid. 31 Ei dad, wedi ei siommi trwy y siacced waedlyd, yn galaru am dano ef. 36 Ei werthu ef i Putiphar yn yr Aipht.

A thrigodd Jacob y’ngwlad ymdaith ei dad, y’ngwlad Canaan.

2 Dyma genhedlaethau Jacob. Joseph, yn fab dwy flwydd ar bymtheg, oedd fugail gyd â’i frodyr ar y praidd: a’r llangc oedd gyd â meibion Bilha, a chyd â meibion Zilpah, gwragedd ei dad; a Joseph a ddygodd eu drygair hwynt at eu tad.

3 Ac Israel oedd hoffach ganddo Joseph na’i holl feibion: oblegid efe oedd fab ei henaint ef: ac efe a wnaeth siacced fraith iddo ef.

4 A phan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu ef yn fwy na’i holl frodyr, hwy a’i casasant ef, ac ni fedrent ymddiddan âg ef yn heddychol.

5 ¶ A Joseph a freuddwydiodd freuddwyd, ac a’i mynegodd i’w frodyr: a hwy a’i casasant ef etto yn ychwaneg.

6 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandêwch, attolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i.

7 Ac wele, rhwymo ysgubau yr oeddym ni y’nghanol y maes; ac wele; fy ysgub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele, eich ysgubau chwi a safasant o amgylch, ac a ymgrymmasant i’m hysgub i.

8 A’i frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni? A hwy a chwanegasant etto ei gasâu ef, oblegid ei freuddwydion, ac oblegid ei eiriau.

9 ¶ Hefyd efe a freuddwydiodd etto freuddwyd arall, ac a’i mynegodd i’w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd eto; ac wele, yr haul, a’r lleuad, a’r un seren ar ddeg, yn ymgrymmu i mi.

10 Ac efe a’i mynegodd i’w dad, ac i’w frodyr. A’i dad a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a’th fam, a’th frodyr, i ymgrymmu i lawr i ti?

11 A’i frodyr a genfigennasant wrtho ef; ond ei dad a ddaliodd ar y peth.

12 ¶ A’i frodyr a aethant i fugeilia praidd eu tad, yn Sichem.

13 Ac Israel a ddywedodd wrth Joseph, Onid yw dy frodyr yn bugeilio yn Sichem? Tyred, a mi a’th anfonaf attynt. Yntau a ddywedodd wrtho, Wele fi.

14 A dywedodd wrtho, Dos weithian, edrych pa lwyddiant sydd i’th frodyr, a pha lwyddiant sydd i’r praidd: a dwg eilchwyl air i mi. Felly efe a’i hanfonodd ef o ddyffryn Hebron; ac efe a ddaeth i Sichem.

15 ¶ A chyfarfu gwr âg ef; ac wele efe yn crwydro yn y maes: a’r gwr a ymofynnodd âg ef, gan ddywedyd, Pa beth yr wyt ti yn ei geisio?

16 Yntau a ddywedodd, Ceisio fy mrodyr yr ydwyf fi; mynega, attolwg, i mi, pa le y maent hwy yn bugeilio?

17 A’r gwr a ddywedodd, Hwy a aethant oddi yma; oblegid mi a’u clywais hwy yn dywedyd, Awn i Dothan. A Joseph a aeth ar ol ei frodyr, ac a’u cafodd hwynt yn Dothan.

18 Hwythau a’i canfuant ef o bell; a chyn ei ddynesu ef attynt, hwy a gyd-fwriadasant yn ei erbyn ef, i’w ladd ef.

19 A dywedasant wrth ei gilydd, Wele y breuddwydiwr yn dyfod.

20 Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o’r pydewau; a dywedwn, Bwystfil drwg a’i bwyttaodd ef: yna y cawn weled beth a ddaw o’i freuddwydion ef.

21 A Reuben a glybu, ac a’i