Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

myned i fynu i Timnath, i gneifio ei ddefaid.

14 Hithau a ddïosgodd ddillad ei gweddwdod oddi am dani, ac a’i cuddiodd ei hun â gorchudd, ac a ymwisgodd, ac a eisteddodd yn nrws Enaim, yr hwn sydd ar y ffordd i Timnath: oblegid gweled yr oedd hi fyned Selah yn fawr, ac na roddasid hi yn wraig iddo ef.

15 A Judah a’i canfu hi, ac a dybiodd mai puttain ydoedd hi; oblegid gorchuddio ohoni ei hwyneb.

16 Ac efe a drodd ati hi i’r ffordd, ac a ddywedodd, Tyred, attolwg, gâd i mi ddyfod attat: (oblegid nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef ydoedd hi.) Hithau a ddywedodd, Beth a roddi i mi, os cai ddyfod attaf?

17 Yntau a ddywedodd, Mi a hebryngaf fỳn gafr o blith y praidd. Hithau a ddywedodd, A roddi di wystl hyd oni hebryngech?

18 Yntau a ddywedodd, Pa wystl a roddaf i ti? Hithau a ddywedodd, Dy sêl, a’th freichledau, a’th ffon sydd yn dy law. Ac efe a’u rhoddes iddi, ac a aeth atti; a hi a feichiogodd o hono ef.

19 Yna y cyfododd hi, ac a aeth ymaith ac a ddïosgodd ei gorchudd oddi am dani, ac a wisgodd ddillad ei gweddwdod.

20 A Judah a hebryngodd fỳn gafr yn llaw yr Adùlamiad ei gyfaill, i gymmeryd y gwystl o law y wraig: ond ni chafodd hwnnw hi.

21 Ac efe a ymofynnodd â gwŷr y fro honno, gan ddywedyd, Pa le y mae y buttain honno a ydoedd yn Enaim wrth y ffordd? A hwythau a ddywedasant, Nid oedd yma un buttain.

22 Ac efe a ddychwelodd at Judah ac a ddywedodd, Ni chefais hi; a gwŷr y fro honno hefyd a ddywedasant, Nid oedd yma un buttain.

23 A Judah a ddywedodd, Cymmered iddi hi, rhag i ni gael cywilydd: wele, mi a hebryngais y mỳn hwn, a thithau ni chefaist hi.

24 ¶ Ac ynghylch pen tri mis y mynegwyd i Judah, gan ddywedyd, Tamar dy waudd di a butteiniodd; ac wele, hi a feichiogodd hefyd mewn godineb. A dywedodd Judah, Dygwch hi allan, a llosger hi.

25 Yna hi, pan ddygwyd hi allan, a anfonodd at ei chwegrwn, gan ddywedyd, O’r gwr bïau’r rhai hyn yr ydwyf fi yn feichiog: hefyd hi a ddywedodd, Adnebydd, attolwg, eiddo pwy yw y sêl, a’r breichledau, a’r ffon yma.

26 A Judah a adnabu y pethau hynny, ac a ddywedodd, Cyfiawnach yw hi na myfi, o herwydd na roddais hi i’m mab Selah: ac ni bu iddo ef a wnaeth â hi mwy.

27 ¶ Ac yn amser ei hesgoredigaeth hi, wele efeilliaid yn ei chroth hi.

28 Bu hefyd pan esgorodd hi, i un roddi allan ei law: a’r fydwraig a gymmerth ac a rwymodd am ei law ef edau goch, gan ddywedyd, Hwn a ddaeth yn gyntaf allan.

29 A phan dynnodd efe ei law yn ei hol, yna wele, ei frawd ef a ddaeth allan: a hithau a ddywedodd, Pa fodd y torraist allan? bid y torriad hwn arnat ti, am hynny y galwyd ei enw ef Phares.

30 Ac wedi hynny ei frawd ef a ddaeth allan, yr hwn yr oedd yr edau goch am ei law: a galwyd ei enw ef Zarah.

Pennod XXXIX.

1 Codiad Joseph yn nhŷ Putiphar. 7 Ei festres yn ei demtio ef, ac yntau yn ei gwrthwynebu hi. 13 Achwyn arno ef ar gam. 19 Ei fwrw ef y’ngharchar; 21 a Duw gyd âg ef yno.

A Joseph a ddygwyd i waered i’r Aipht: a Putiphar yr Aiphtwr, tywysog Pharaoh a’i ddistain, a’i prynodd ef o law yr Ismaeliaid, y rhai a’i dygasant ef i waered yno.

2 Ac yr oedd yr Arglwydd gyd â Joseph, ac efe oedd wr llwyddiannus: ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Aiphtiad.

3 A’i feistr a welodd fod yr Arglwydd gyd âg ef, a bod yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelai efe.

4 A Joseph a gafodd ffafr yn ei olwg ef, ac a’i gwasanaethodd ef: yntau a’i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ, ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef.

5 Ac er pan wnaethai efe ef yn olygwr ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll oedd eiddo, bu i’r Arglwydd fendithio tŷ yr Aiphtiad, er mwyn Joseph: ac yr oedd bendith yr Arglwydd ar yr hyn oll oedd eiddo ef, yn y tŷ, ac yn y maes.

6 Ac efe a adawodd yr hyn oll oedd ganddo dan law Joseph; ac ni wyddai oddi wrth ddim a’r a oedd gyd âg ef, oddi eithr y bwyd yr oedd