Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

11 Ac yno y’th borthaf; (oblegid pùm mlynedd o’r newyn a fydd etto;) rhag dy fyned mewn tlodi, ti, a’th deulu, a’r hyn oll sydd gennyt.

12 Ac wele eich llygaid chwi, a llygaid fy mrawd Benjamin yn gweled, mai fy ngenau i sydd yn ymadrodd wrthych.

13 Mynegwch hefyd i’m tad fy holl anrhydedd i yn yr Aipht, a’r hyn oll a welsoch; brysiwch hefyd, a dygwch fy nhad i waered yma.

14 Ac efe a syrthiodd ar wddf ei frawd Benjamin, ac a wylodd; Benjamin hefyd a wylodd ar ei wddf yntau.

15 Ac efe a gusanodd ei holl frodyr, ac a wylodd arnynt: ac ar ol hynny ei frodyr a ymddiddanasant âg ef.

16 ¶ A’r gair a ddaeth i dŷ Pharaoh, gan ddywedyd, Brodyr Joseph a ddaethant: a da oedd hyn y’ngolwg Pharaoh, ac y’ngolwg ei weision.

17 A Pharaoh a ddywedodd wrth Joseph, Dywed wrth dy frodyr, Gwnewch hyn; Llwythwch eich ysgrubliaid, a cherddwch, ac ewch i wlad Canaan;

18 A chymmerwch eich tad, a’ch teuluoedd, a deuwch attaf fi: a rhoddaf i chwi ddaioni gwlad yr Aipht, a chewch fwytta brasder y wlad.

19 Gorchymyn yn awr a gefaist, gwnewch hyn: cymmerwch i chwi o wlad yr Aipht gerbydau i’ch rhai bach, ac i’ch gwragedd; a chymmerwch eich tad, a deuwch.

20 Ac nac arbeded eich llygaid chwi ddim dodrefn; oblegid dâ holl wlad yr Aipht sydd eiddo chwi.

21 A meibion Israel a wnaethant felly: a rhoddodd Joseph iddynt hwy gerbydau, yn ol gorchymyn Pharaoh, a rhoddodd iddynt fwyd ar hyd y ffordd.

22 I bob un ohonynt oll y rhoddes bâr o ddillad: ond i Benjamin y rhoddes dri chant o ddarnau arian, a phùm pâr o ddillad.

23 Hefyd i’w dad yr anfonodd fel hyn; deg o asynnod yn llwythog o ddâ yr Aipht, a deg o asenod yn dwyn ŷd, bara, a bwyd i’w dad ar hyd y ffordd.

24 Yna y gollyngodd ymaith ei frodyr: a hwy a aethant ymaith: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Nac ymrysonwch ar y ffordd.

25 ¶ Felly yr aethant i fynu o’r Aipht, ac a ddaethant i wlad Canaan, at eu tad Jacob;

26 Ac a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Y mae Joseph etto yn fyw, ac y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aipht. Yna y llesgaodd ei galon yntau; oblegid nid oedd yn eu credu.

27 Traethasant hefyd iddo ef holl eiriau Joseph, y rhai a ddywedasai efe wrthynt hwy. A phan ganfu efe y cerbydau a anfonasai Joseph i’w ddwyn ef, yna y bywiogodd yspryd Jacob eu tad hwynt.

28 A dywedodd Israel, Digon ydyw; y mae Joseph fy mab etto yn fyw: âf, fel y gwelwyf ef cyn fy marw.

Pennod XLVI.

1 Duw yn cysuro Jacob yn Beer-seba. 5 Efe a’i deulu yn myned oddi yno i’r Aipht. 8 Rhifedi ei deulu ef y rhai a aeth i’r Aipht. 28 Joseph yn cyfarfod Jacob. 31 Mae efe yn dysgu i’w frodyr pa fodd yr attebent Pharaoh.

Yna y cychwynnodd Israel, a’r hyn oll oedd ganddo, ac a ddaeth i Beerseba, ac a aberthodd ebyrth i DDuw ei dad Isaac.

2 A llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaethau nos, ac a ddywedodd, Jacob, Jacob. Yntau a ddywedodd, Wele fi.

3 Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw, Duw dy dad: nac ofna fyned i waered i’r Aipht; canys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr.

4 Myfi a âf i waered gyd â thi i’r Aipht; a myfi gan ddwyn a’th ddygaf di i fynu drachefn: Joseph hefyd a esyd ei law ar dy lygaid di.

5 A chyfododd Jacob o Beer-seba: a meibion Israel a ddygasant Jacob eu tad, a’u rhai bach, a’u gwragedd, yn y cerbydau a anfonasai Pharaoh i’w ddwyn ef.

6 Cymmerasant hefyd eu hanifeiliaid, a’u golud a gasglasent yn nhir Canaan, ac a ddaethant i’r Aipht, Jacob, a’i holl had gyd âg ef:

7 Ei feibion, a meibion ei feibion gyd âg ef, ei ferched, a merched ei feibion, a’i holl had, a ddug efe gyd âg ef i’r Aipht.

8 ¶ A dyma enwau plant Israel, y rhai a ddaethant i’r Aipht, Jacob a’i feibion Reuben, cynfab Jacob.

9 A meibion Reuben; Hanoch, a Phàlu, Hesron hefyd, a Charmi.

10 ¶ A meibion Simeon, Jemuel, a Jamin, ac Ohad, a Jachin, a Sohar, a Saul mab Canaanees.

11 ¶ Meibion Lefi hefyd; Gerson, Cohath, a Merari.

12 ¶ A meibion Judah; Er, ac