Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

goreu yn y wlad; trigant yn nhir Gosen: ac os gwyddost fod yn eu mysg wŷr grymmus, gosod hwynt yn ben-bugeiliaid ar yr eiddof fi.

7 A dug Joseph Jacob ei dad, ac a’i gosododd ger bron Pharaoh: a Jacob a fendithiodd Pharaoh.

8 A dywedodd Pharaoh wrth Jacob, Pa faint yw dyddiau blynyddoedd dy einioes di?

9 A Jacob a ddywedodd wrth Pharaoh, Dyddiau blynyddoedd fy ymdaith ydynt ddeg ar hugain a chàn mlynedd: ychydig a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy einioes, ac ni chyrhaeddasant ddyddiau blynyddoedd einioes fy nhadau yn nyddiau eu hymdaith hwynt.

10 A bendithiodd Jacob Pharaoh, ac a aeth allan o ŵydd Pharaoh.

11 ¶ A Joseph a gyfleodd ei dad a’i frodyr, ac a roddes iddynt feddiant y’ngwlad yr Aipht, y’nghwrr goreu y wlad, yn nhir Rameses, fel y gorchmynasai Pharaoh.

12 Joseph hefyd a gynhaliodd ei dad, a’i frodyr, a holl dylwyth ei dad, â bara, yn ol eu teuluoedd.

13 ¶ Ac nid oedd bara yn yr holl wlad: canys y newyn oedd drwm iawn; fel yr oedd gwlad yr Aipht, a gwlad Canaan, yn dyddfu gan y newyn.

14 Joseph hefyd a gasglodd yr holl arian a gawsid yn nhir yr Aipht, ac yn nhir Canaan, am yr ymborth a brynasent hwy: a Joseph a ddug yr arian i dŷ Pharaoh.

15 Pan ddarfu yr arian yn nhir yr Aipht, ac y’ngwlad Canaan, yr holl Aiphtiaid a ddaethant at Joseph, gan ddywedyd, Moes i ni fara: canys paham y byddem ni feirw ger dy fron? o herwydd darfu yr arian.

16 A dywedodd Joseph, Moeswch eich anifeiliaid; a rhoddaf i chwi am eich anifeiliaid, os darfu yr arian.

17 A hwy a ddygasant eu hanifeiliaid at Joseph: a rhoddes Joseph iddynt fara am y meirch, ac am y dïadelloedd defaid, ac am y gyrroedd gwartheg, ac am yr asynod; ac a’u cynhaliodd hwynt â bara, am eu holl anifeiliaid, dros y flwyddyn honno.

18 A phan ddarfu y flwyddyn honno, y daethant atto ef yr ail flwyddyn, ac a ddywedasant wrtho, Ni chelwn oddi wrth fy arglwydd ddarfod yr arian, a myned ein hysgrubliaid a’n hanifeiliaid at fy arglwydd; ni adawyd i ni ger bron fy arglwydd onid ein cyrff a’n tir.

19 Paham y byddwn feirw o flaen dy lygaid, nyni a’n tir? pryn ni a’n tir am fara; a nyni a’n tir a fyddwn gaethion i Pharaoh: dod dithau i ni had, fel y byddom fyw, ac na fyddom feirw, ac na byddo y tir yn anghyfannedd.

20 A Joseph a brynodd holl dir yr Aipht i Pharaoh: canys yr Aiphtiaid a werthasant bob un ei faes; oblegid y newyn a gryfhasai arnynt: felly yr aeth y tir i Pharaoh.

21 Y bobl hefyd, efe a’u symmudodd hwynt i ddinasoedd, o’r naill gwrr i derfyn yr Aipht hyd ei chwrr arall.

22 Yn unig tir yr offeiriaid ni phrynodd efe: canys rhan oedd i’r offeiriaid wedi ei phennu iddynt gan Pharaoh, a’u rhan a roddasai Pharaoh iddynt a fwyttasant hwy; am hynny ni werthasant hwy eu tir.

23 Dywedodd Joseph hefyd wrth y bobl, Wele, prynais chwi heddiw, a’ch tir, i Pharaoh: wele i chwi had, heuwch chwithau y tir.

24 A bydded i chwi roddi i Pharaoh y bummed ran o’r cnwd; a bydd y pedair rhan i chwi, yn had i’r maes, ac yn ymborth i chwi, ac i’r rhai sydd yn eich tai, ac yn fwyd i’ch rhai bach.

25 A dywedasant, Cedwaist ni yn fyw: gâd i ni gael ffafr y’ngolwg fy arglwydd, a byddwn weision i Pharaoh.

26 A Joseph a osododd hynny yn ddeddf hyd heddiw ar dir yr Aipht, gael o Pharaoh y bummed ran; ond o dir yr offeiriaid yn unig, yr hwn nid oedd eiddo Pharaoh.

27 ¶ Trigodd Israel hefyd y’ngwlad yr Aipht o fewn tir Gosen, ac a gawsant feddiannau ynddi; cynyddasant hefyd, ac amlhasant yn ddirfawr.

28 Jacob hefyd a fu fyw yn nhir yr Aipht ddwy flynedd ar bymtheg; felly yr oedd dyddiau Jacob, sef blynyddoedd ei einioes ef, yn saith mlynedd a deugain a chàn mlynedd.

29 A dyddiau Israel a nesasant i farw: ac efe a alwodd am ei fab Joseph, ac a ddywedodd wrtho, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg, gosod, attolwg, dy law dan fy morddwyd, a gwna â mi drugaredd a gwirionedd; na chladd fi, attolwg, yn yr Aipht: