Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

31 Yno y claddasant Abraham a Sarah ei wraig; yno y claddasant Isaac a Rebeccah ei wraig; ac yno y cleddais i Leah.

32 Meddiant y maes, a’r ogof sydd ynddo, a gaed gan feibion Heth.

33 Pan orphenodd Jacob orchymyn i’w feibion, efe a dynnodd ei draed i’r gwely, ac a fu farw; a chasglwyd ef at ei bobl.

Pennod L.

1 Arwyl Jacob. 4 Joseph yn cael cennad gan Pharaoh i fyned i’w gladdu ef. 7 Y claddedigaeth. 15 Joseph yn cysuro ei frodyr, y rhai oedd yn gofyn ei nawdd ef. 22 Ei oedran. 23 Mae efe yn gweled y drydedd genhedlaeth o’i feibion: 24 yn darogan i’w frodyr eu dynchweliad: 25 yn cymmeryd llw ganddynt am ei esgyrn: 26 yn marw, ac yn cael ei roddi mewn arch.

Yna y syrthiodd Joseph ar wyneb ei dad, ac a wylodd arno ef, ac a’i cusanodd ef.

2 Gorchymynodd Joseph hefyd i’w weision, y meddygon, bêr-arogli ei dad ef: felly y meddygon a bêr-aroglasant Israel.

3 Pan gyflawnwyd iddo ddeugain niwrnod, (canys felly y cyflawnir dyddiau y rhai a bêr-aroglir,) yna yr Aiphtiaid a’i harwylasant ef ddeng niwrnod a thri ugain.

4 Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio, yna y llefarodd Joseph wrth deulu Pharaoh, gan ddywedyd, Os cefais yr awr hon ffafr yn eich golwg, lleferwch wrth Pharaoh, attolwg, gan ddywedyd,

5 Fy nhad a’m tyngodd, gan ddywedyd, Wele fi yn marw: yn fy medd yr hwn a gloddiais i mi yng ngwlad Canaan, yno y’m cleddi. Ac yr awr hon caffwyf fyned i fynu, attolwg, fel y claddwyf fy nhad; yna mi a ddychwelaf.

6 A dywedodd Pharaoh, Dos i fynu, a chladd dy dad, fel y’th dyngodd.

7 ¶ A Joseph a aeth i fynu i gladdu ei dad: a holl weision Pharaoh, sef henuriaid ei dŷ ef, a holl henuriaid gwlad yr Aipht, a aethant i fynu gyd âg ef,

8 A holl dŷ Joseph, a’i frodyr, a thŷ ei dad: eu rhai bach yn unig, a’u defaid a’u gwartheg, a adawsant yn nhir Gosen.

9 Ac aeth i fynu gyd âg ef gerbydau, a gwŷr meirch hefyd: ac yr oedd yn llu mawr iawn.

10 A hwy a ddaethant hyd lawr-dyrnu Atad, yr hwn sydd dros yr Iorddonen; ac a alarasant yno alar mawr, a thrwm iawn: canys gwnaeth alar dros ei dad saith niwrnod.

11 Pan welodd y Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad, y galar yn llawr-dyrnu Atad, yna y dywedasant, Dyma alar trwm gan yr Aiphtiaid: am hynny y galwasant ei enw Abel-Misraim, yr hwn sydd dros yr Iorddonen.

12 A’i feibion a wnaethant iddo megis y gorchmynasai efe iddynt.

13 Canys ei feibion a’i dygasant ef i wlad Canaan, ac a’i claddasant ef yn ogof maes Machpelah: yr hon a brynasai Abraham gyd â’r maes, yn feddiant beddrod, gan Ephron yr Hethiad, o flaen Mamre.

14 ¶ A dychwelodd Joseph i’r Aipht, efe, a’i frodyr, a’r rhai oll a aethant i fynu gyd âg ef i gladdu ei dad, wedi iddo gladdu ei dad.

15 ¶ Pan welodd brodyr Joseph farw o’u tad, hwy a ddywedasant, Joseph ond odid a’n casâ ni, a chan dalu a dâl i ni yr holl ddrwg a wnaethom ni iddo ef.

16 A hwy a anfonasant at Joseph i ddywedyd, Dy dad a orchymynodd o flaen ei farw, gan ddywedyd,

17 Fel hyn y dywedwch wrth Joseph; Attolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a’u pechod hwynt, canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, attolwg, gamwedd gweision Duw dy dad. Ac wylodd Joseph pan lefarasant wrtho.

18 A’i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef, ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti.

19 A dywedodd Joseph wrthynt, Nac ofnwch, canys a ydwyf fi yn lle Duw?

20 Chwi a fwriadasoch ddrwg i’m herbyn; ond Duw a’i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddyw, i gadw yn fyw bobl lawer.

21 Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a’ch cynhaliaf chwi, a’ch rhai bach. Ac efe a’u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.

22 ¶ A Joseph a drigodd yn yr Aipht, efe, a theulu ei dad: a bu Joseph fyw gàn mlynedd a deg.

23 Gwelodd Joseph hefyd, o Ephraim, orwyrion: maethwyd hefyd blant Machir, fab Manasseh, ar liniau Joseph.