Y Fedwen

Oddi ar Wicidestun

gan Dafydd Llwyd

Y fedwen fonwen fanwallt
Eglur wyd – o gil yr allt,
Llaw Duw a’th planodd lle’dd wyd:
Llety gwâr adar ydwyd.
Mynaches wyd mewn achudd:
Eglur wyd dan dy gŵl rhudd.
Preiffion sidan uwch priffyrdd
O dair ban dy gapan gwyrdd.
Merddin fardd, mawrddawn ei fodd, -
wyd deg iawn – yt a ganodd:
Dan dy do efô a fu,
Pur wiw adail, yn prydu.
A’i afallen beren bell
Bu orchudd gynt i’w barchell.
Cefaist draw – cofus y drin –
Mawrddysg gyf’rwyddyd Merddin.
Mynag, fedwen is mynydd
Pumlumon, pa sôn y sydd,
Gair aur rhudd, a gair yrhawg.
‘Byd mawr aflwydd a chwydd chwyrn,
Orig adwyth ar gedyrn;
A’r byd a ostwng ei ben,
A rhieni ŵyr Rhonwen.
Merddin ddewin a ddywod
Cyn treio hyn y try’r rhod.
Yn gynnar iawn gwn yr ân,
Ffiaidd ddull, o’r fydd allan:
Ni pharchan – ddiffoddan ffydd -
Gwir anach na’r gerennydd,
Na chyfathrach nac achwedd
Na gosibiaeth, waethwaeth wedd.
Ni folan Duw heb falais,
Na thro heb ffalsedd a thrais.
O falchder yr arferir,
A’r gau yn amlach no’r gwir.
Mwy fydd clod am bechode
Yn ôl nog am ennill ne.
Eu gwenwyn hwy eginawdd,
A’u twyll eu hunain a’u tawdd.
Mae’r saint – hardd eu braint i’w bro –
A Duw agos yn digio:
Dialled Duw a welir
Arnun, a newyn yn wir.
Rhyfel, heb gêl, a welan,
A thwyll Ysgotiaid a thân.
Ni does ran na llan na lle
Na fan hyd Fynydd Mynne
Na bo eu hamcan o’u bodd
a’u tro ar ddywod drwodd.
Tirio wnân cyn tri Ionor
pum llynges ym mynwes môr.
Sain i Ddofr y daw yn ddifreg
o longau stâl lynges deg;
a llynges a ollyngir,
o Lydaw y daw i dir.
Gwŷr Llychlyn a dynn i’r dŵr
Drwy gennad y d’roganwr;
a gwŷr ’r ynysoedd i gyd
i ddwyn haf, a ddôn hefyd;
a naw nasiwn – gwn gyfri –
a leddir, meddir i mi.
Rhin fywyd y rhan fwyaf
A’u treia hwy cyn tri haf.
Dewi, ddifri ei dwyffron,
Wyrth nef, a ddywod wrth Non,
“yr ynys o rieni
O rad nef a roed i ni.”
A hanffo, heb gyffro gwyllt,
Hael oesael, o hil Esyllt,
Gŵr a wna goron Owain
Uwch y rhod a ddyrcha’r rhain;
Gwiw Iesu hael, ac oes hir;
Ac ynys Brutus heb ran
Hi’n wellwell o hyn allan.’