Y Grawys

Oddi ar Wicidestun

gan Bedo Aeddren

Y dydd o wynfyd Eiddig
er doe a ddaeth, yr ydwy’n ddig;
dydd a’i bwys fal diwedd byd
ar awenydd tw’r Ynd;
dechreyand ffordd Paradwys,
Duw yn dwyn pawb dan eu pwys.
Deugain nieu maddeuains
y sydd i weddiau saint;
f’Arglwydd, yn gyd â blwyddyn
y rhoed pob diwrnod o hyn.
Hir oedd ym’, herwa ydd wyf,
dridiau’n y byd yr ydwyf.
Crefydd yr ancr o Rufain
Ydyw’r mau fal awdur main;
Cywir wyf yn eu crefydd,
Vywir yw bun, caru bydd
Gan roi fal Gwenerau yn’
Grawysgwaith i’n goresgyn.
Yn iach fy rhiein feinwasg,
dilin pawb hyd Dduw Llun Pasg.
Nis gwelaf, nid af o dŷ
ati un nos hyd hynny.
Nid archaf gusan, f’annwyl,
mwy na dim i’m enaid ŵyl.
Pan ddel y Pasg ar glasgoed,
Bun a ddaw beunydd i oed;
Nid amod wisgo damasg
dalu’r pwyth hyd wyliau’r Pasg.
Yno daw in’ y dydd
a’i lonaid o lawenydd;
a Mai a haflle mae hon
a chogau fel merch Wgon;
a phob bedwlwyn mewn manwallt
a phais wyrdd a phwys o wallt
ac ar ystryd a gurs drain
aiopeu lawnd fal Sieb Lundain;
llysiau mewn garddau a gwlith,
grawn gwin a grynau gwenith,
wybr eglur a môr briflas
a llen glud yn y llwyn glas
a lle ynial a llanerch
a changen feinwen o ferch
a gorffen cwbl o’n penyd
a threio’r bâr a throi’r byd
a rhoi ein melltith yrhawg
ar y Gwanwyn oer bwynnawg.