Yr Ywen Uwchbwn Bedd Dafydd

Oddi ar Wicidestun

gan Gruffudd Gryg

Yr Ywen i oreuwas
Ger mur Ystrad Fflur a’i phlas,
Da Duw wrthyd, gwynfyd gwŷdd
Dy dyfu yn dŷ Dafydd.
Dafydd llwyd a’th broffwydawdd
Er cyn dy dyfu rhag cawdd,
Dafydd, gwedy dy dyfu.
A’th wnaeth o’I fabolaeth fu,
Dy urddo yn dŷ irddail,
Tŷ a phob llwyn yn dwyn dail,
Castell cudd meirw rhag eirwynt
Cystal â’r pren gwail gynt.
Mae danad ym mudainaeth,
Bedd rwym, nod o’r bodd yr aeth,
Bydaf anglion bydoed,
Bu ddew ef, mewn bedd yr oedd,
A synnwyr cerdd, naws unyd,
A gwse Ddyddgu pan fu fud.
Gwnaeth ei theuluwas lasryw
I’w hael dyfu tra fo fyw,
Gwna dithau, geinciau dethol,
Gywirder i nêr yn ôl.
Addfwyn warchadw ei wyddfa,
Drybedd yw fodrabaidd dda.
Na ddos gam, na ddysg omedd,
Ywen, odduwch ben y bedd.
Geifre ni’th lwgr, nac afrad,
Dy dwf yng ngwedre dy dad.
Ni'th lysg tânanian annerch,
Ni’th dyr saer ni’th dyfriw serch,
Ni’th bilia crydd, mewn dydd dyn,
Dy duded yn dy dyddyn
Ni’th dyr hefyd, rhag bryd braw,
A bwyall, rhag eu beiaw,
Ir dy faich, i ar dy fôn,
Taeog na chynuteion
Dail yw’r to, da le yw’r tau,
Diwartho Duw dy wyrthiau.