A oes gobaith am achubiaeth
Gwedd
| ← Golchwyd Magdalen yn ddisglair | A oes gobaith am achubiaeth gan Thomas Jones, Dinbych |
Beth yw'r utgorn glywa'i'n seinio → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
309[1] Drws Gobaith.
87. 87. D.
1 A OES gobaith am achubiaeth?
Oes maddeuant am bob bai?
A oes hedd a meddyginiaeth,
A oes Ceidwad i'r fath rai?
"Oes," medd Duw o'r nef yn eglur,
"Mi ddarperais aberth llawn;
Y mae hedd, a gras, a chysur
Genny'n rhoddion parod iawn."
Thomas Jones, Dinbych
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 309, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930