Addoli (Y Ddarlith Davies 1935)/Cronglwyd y Nef
| ← Cyfriniaeth | Addoli (Y Ddarlith Davies 1935) gan John Gruffydd Moelwyn Hughes (Moelwyn) |
Datguddiad Arbennig Crist ar Addoli → |
PENNOD XII
CRONGLWYD Y NEF
FFYDD, Gobaith, Cariad—dyna'r tri gras pennaf. Nid addurniadau mohonynt, ond anhepgorion; ni ellir dim byw hebddynt; ac y mae meddu'r doniau hyn yn gwarantu cynnydd, perffeithiad a pharhad pob da arall.
Y mae'n rhaid wrth Ffydd yr Efengyl cyn y medr dyn gael gafael arno'i hun, ei feddiannu ei hun, a'i ddefnyddio ei hun: caffael, perchenogi, llafurio. Cleddau di-garn, na bydd dim dichon cydio ynddo heb eich hacio'ch hun yn yr ymdrech—dyna ydyw bywyd diffydd. Credwch.
Y mae'n rhaid wrth Obaith yr Efengyl i dynnu'r Sylwedd i'n hymyl, i wneuthur gwirioneddau pell, dynion pell, bydoedd pell, amseroedd pell a gwynfydau pell yn agos. Dwyn dyn ato'i hun a wna Ffydd; dwyn dynion a phopeth sydd sylweddol yn y byd hwn a'r byd a ddaw ato—dyna orchest Gobaith. Heb y dynesu hwn, a theimlo ohonom wres yr agosrwydd, ni phrysurwn mo ddyfodiad dydd Duw; ac ni chlywir gennym beroriaeth nefol yn y byd sydd yr awr hon— byd y pethau agos pell a'r pethau pell agos. Telyn ddi-dant, a'r gerdd ysbrydol yn fythol fud fydd bywyd heb obaith. Gobeithiwch.
Y mae'n rhaid wrth Gariad yr Efengyl neu fod yn brin o luniaeth, o lawnder, o lawenydd. Cariad ydyw "gwenith gwyn" Anfarwoldeb, a hebddo ni ellir ymgynnal. Cariad yw'r anchwiliadwy olud a'ch gwna yn gyfoethog. Drwy Gariad y cefna dyn arno'i hun—y gedy "hunan" ac yr ymgyll mewn gwasanaeth ac aberth. Cariad yw gwin y Winwydden orau; a dieithr i chwi a fydd gwir felyster onid yfwch ef. Ffiol gwag yn gwatwar eich min sychedig ydyw bywyd heb Gariad. Cerwch.
Dyna'r grasau a'th ddwg di, ddarllenydd hynaws, i awyr agored gwirionedd, a pheri iti wybod mai dy Gartref ydyw
Cronglwyd y Nef
Gad dy ystafell a'i myllni cas
A thyrd allan, fy mrawd, dan yr awyr las;
Mae'r haul yn fywyd, mae'r awel yn ras.
Tyrd allan fy mrawd, gad dy gyfyng gell
Am awyr agored y pethau gwell,
Ac eangderau'r gorwelion pell.
Magwyrydd caead a di-lesâd
Yw rhagfarn enwad a phlaid a gwlad;
Tyrd allan. Dianc. Myn dy ryddhad.
Gwybydd nad carchar yw "credo" i fod;
Ond seren arweiniol, arwyddol nod,
A mynag hyffordd y bythol ddod.
Ystyr ar drothwy gwirionedd drud
Fod yr Iesu'n fwy na'i hanes i gyd,
A bod Duw'n fwy na chredo lleta'r byd.
'R oedd y Crist heb le i roi'i ben i lawr
Am mai'i eiddo Ef oedd y Cread mawr,
A bod Duw yn gartref iddo, bob awr.
Gad ogof y nos a'i dolefus gri,
Ei chulni afiachus, heintus hi;
O dan Gronglwyd y Nef mae dy Gartref di.
Anghred, gwladeiddia. Amheuaeth, taw.
Mae Nef goruwch Nef yn y byd a ddaw,
A dwyrain hwnt dwyrain yn agor, draw.
Tyrd allan, fy mrawd, dring rhagot yn rhydd
Wyrdd lethrau Cariad, Gobaith a Ffydd—
Mynyddoedd tragwyddol Gwlad y dydd.
Allan o hunan cei fythol fyw;
Allan mae tangnef o ddwyfol ryw;
Allan mae Rhyddid a Dydd a Duw.