Addoli (Y Ddarlith Davies 1935)/Distawrwydd
| ← Y Ddwy Ffrwd: Rhoddi a Derbyn | Addoli (Y Ddarlith Davies 1935) gan John Gruffydd Moelwyn Hughes (Moelwyn) |
Y Cymun Bendigaid → |
PENNOD VI
DISTAWRWYDD
Y FATH yw gorthrwm traddodiad ac arferiad fel na fynnwn ni Brotestaniaid—yn enwedig yr Eglwysi Rhyddion—mo'n dysgu am ystyr, gwerth a phwysigrwydd distawrwydd yn yr addoliad personol na chyhoedd. Y mae hyd yn oed munud distaw yn ormod o dreth arnom, barablwyr rhugl. Rhoddwn eu lle priod i'r weddi a'r darllen, y canu a'r bregeth, ond ni ddeallasom fod distawrwydd ystyriol nid yn unig yn hyrwyddo addoli eithr hefyd yn rhan ohono.
Y mae saib yr areithydd yn rhan o'i arawd, yr atalnod yn rhan o'r frawddeg, rest y cerddor yn rhan o'r anthem. Dywedai Mozart mai'r bar effeithiolaf o fiwsig a glybu ef erioed oedd bar y gorffwys cyn yr Haleliwia terfynol yng nghytgan anfarwol Handel. Ac yng ngolwg yr Arglwydd y mae dymuniad y galon addolgar wedi ei gragennu mewn distawrwydd yn berl o uchel bris. Am y gwyddom trwy brofiad na ellir edfryd enaid na sefydlogi ysbryd gwamal onid drwy osteg llwyr, byddwn ar amserau yn disgwyl yn ddistaw —nid gweddïo, namyn ymlonyddu—heb gymaint â sŵn ochenaid i atal yr hedd, na hyd yn oed anadl deisyfiad mud i rychu wyneb llyfn y distawrwydd.
"Peidiwch a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw." Y mae yna wybodaeth am Dduw ac adnabyddiaeth ohono nad yw'n bosibl oddieithr drwy ddistawrwydd a llonyddwch. A thrachefn, ceir gwybodaeth amdano ac adnabyddiaeth ohono sydd yn cenhedlu distawrwydd a pheri i enaid ymlonyddu. "Da yw i ŵr," ebe Jeremeia, "ddisgwyl yn ddistaw wrth yr Arglwydd." "Eistedd yn ddistaw," ebr Esay. Ac ebr un o'r Salmyddion, "Ymddistewi yn yr Arglwydd"—yn ôl y Saesneg, "gorffwys yn yr Arglwydd," neu yn ôl cyfieithiad Luther, "bwrw angor yn yr Arglwydd." Dyma ddistawrwydd addolgar a bair i enaid lluddedig fwrw'i flinder, oblegid gwybod ohono fod cyswllt annatod rhyngddo a'r dyfnderoedd mud lle'r ymlonydda'r Arglwydd yn Ei gariad.
Od ydym chwannog i glywed y Llais, gorfydd inni fel y Crynwyr ymarfer â distawrwydd. Hwyrdrwm ein clyw ydym ar y gorau; ac y mae'r sŵn oddi mewn ac oddi allan—ac weithiau sŵn ein hanadl ni ein hunain yn ein rhwystro i glywed y llef ddistaw fain, "sŵn distawrwydd mwyn" (the sweet sound of stillness). Ni waedda Duw mewn natur, gras nac enaid; ac ni chlywir mo'i gyfrinachau onid gan y sawl a glustfeinio.
Distawrwydd yn ddiamau oedd ffurf gyntaf addoli. Os felly, doeth ynom yng nghanol pob gwybod a phob cynnydd ydyw dal gafael ddiollwng yn y pethau cyntefig: y mae'r cyfryw yn sicr o fod yn cynnwys rhywbeth sy o werth parhaol. Pethau ieuenctid addoli ydynt mebyd pur y bywyd ysbrydol. Bid siwr, fe gydnabyddwn fod Creadigaeth a Hanes yn llwybrau agoshad at Dduw; ac ni ddylid gollwng dros gof ein bod yn rhywbeth amgen nag edrychwyr: yr ydym yn rhan o'r Cread ac o Hanes. Ond ynfyted ydym fel y gwnawn o'r naill a'r llall lyffetheiriau a'n hetyl rhag myned ohonom tu draw ac uwchlaw iddynt. Ni welsom y Cread yn ei lawn ystyr oni welsom y Crewr; ni buom erioed ar lan y môr onid aethom ymhellach na'r môr; ni ddringasom i gopa'r Wyddfa onid esgynasom yn uwch na hi; ni ddeallasom bwrpas ffeithiau Hanes na'u harwyddocâd os heb ganfod Duw ynddynt a thrwyddynt yn dwyn Ei arfaethau i ben.
Dwg distawrwydd ni y tu ôl i'r Cread a thu hwnt i Hanes ymhell bell i dawelwch y Tragwyddol, lle y trigai Duw yn Ei feddyliau ac yr ymlonyddai yn Ei gariad. Rhyddheir ni am ennyd o hualau'r creedig a'r amserol, a dygir ni i wyddfod y Crewr cyn iddo erioed ddechrau creu. Fel y canodd un:
Cyn i geriwb gael ei lunio,
Cyn i seraff ddechrau byw,
Cyn i angel ysgwyd adain
Gyntaf yn nistawrwydd Duw;
Pan oedd tawelwch dwfn
Huodledd mud
Yn galw ar lonyddwch
Duw i gyd
Heb anadl awel ysgafn,
Heb adain angel byw
I hollti y distawrwydd
Dim ond sŵn distawrwydd Duw.