Addoli (Y Ddarlith Davies 1935)/Profiad Personol
| ← Rhwygo'r Nefoedd | Addoli (Y Ddarlith Davies 1935) gan John Gruffydd Moelwyn Hughes (Moelwyn) |
Cyfriniaeth → |
PENNOD X
PROFIAD PERSONOL
I
NID yw profiadau a chyflyrau saint Duw mor hawdd eu helfennu, eu diffinio a'u dosbarthu ag y barna rhai. Peth cymhleth ryfeddol ydyw profiad ysbrydol. Y mae profiad o oleuni gras yn rhagdybied profiad o dywyllwch blaenorol a thywyllwch cyfamserol, gan fod y goleuni yn ein datguddio i ni ein hunain. Yng nghymdeithas Duw y teimla dyn ei fod nesaf ato a phellaf oddi wrtho; canys wrth rodio gydag Ef y teimlwn ein bod yn methu â rhodio; er iddo Ef fyrhau Ei gam, o dosturi, a rhoi camau anfeidrol fyr, gwyddom er ein gofid Ei fod Ef yn anfesurol bell oddi wrthym mewn perffeithrwydd moesol. "O ran y gwyddom . . eithr pan ddelo yr hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddileir." Heb ddyfod eto y mae'r cyflwr hwnnw. Fe ddaw; a theimlwn weithiau ernes o'r sefyllfa honno. I ni, yn awr, fodd bynnag, nid llawenydd digymysg ydyw rhodio gyda Duw, canys fe'n hatgofir hyd yn oed yn addewid rasol ein Gwaredwr—"chwi a fyddwch berffaith"—o'n hamherffeithrwydd presennol; a phair sylweddoli'r diffyg ddygn boen inni. Fe gyd-drig gobaith ac ofn, llawenydd a thristwch yn ein calon.
"Y mae'n rhaid esgyn ar hyd ffordd driphlyg," ebe'r Hisbaenwr enwog Bonaventura—"ffordd y puro, ac yn honno y glanheir o bechod; ffordd y goleuo, ac yn honno y dilynir Crist; ffordd yr uno, ac yn honno y derbynnir y Priodfab." Ond nid rhywbeth i'w gyrchu a'i sylweddoli ar ddiwedd yr yrfa ydyw undeb â Christ, namyn rhywbeth sy'n ffaith heddiw yn hanes a phrofiad y sawl a gredo. "Glanhau, dilyn Crist, derbyn y Priodfab"—dyna drefn y Pabydd. Eithr nid dyna fel y dysg Protestaniaeth. Nid y sancteiddio sy'n blaenori yn Nhrefn y Cadw; ac nid un act derfynol mo sancteiddhâd, ond, yn hytrach, cwrsweithrediad cyson, parhaus.
"Fe'm golchir yn fy nghystudd trwm,
Fe'm purir yn y tân;
Ac mi ddof allan pan ddêl dydd
Wedi fy nghannu'n lân."
Nid tair ffordd sydd yma i'w hesgyn gennym, ond un. Neu, yn fwy cywir, y mae'r tair yr un a'r unrhyw —y glanhau, y dilyn a'r derbyn. Puro drwy ddilyn ydyw, a dilyn drwy gael ein puro; ac ni ellir mo'r naill na'r llall heb dderbyn Crist. Y tri hyn, un ydynt. Yng Nghrist y mae ein popeth; ac o'i dderbyn Ef drwy gredu ynddo, nyni a dderbyniwn yr Iachawdwriaeth gyflawn: "yr ydych chwi ohono Ef yng Nghrist Iesu, yr Hwn a wnaethpwyd inni gan Dduw yn ddoethineb, yn gyfiawnder, yn sancteiddrwydd ac yn brynedigaeth." A phan adawom y byd hwn ac y'n perffeithir sylweddoli yn llwyrach y byddwn ein hetifeddiaeth bresennol—cawn brofiadau newydd o ogoniant digwmwl sancteiddrwydd, o ddwyfol ramant y dilyn, o hyfrydwch anorffen y derbyn.
Camgymeriad dybryd yw tybied mai ar lwybr ac ar ddull mathematical progress y digwydd cynnydd ysbrydol. Tebycach yw ei gynnydd ef i ymweithiad deddf trai a llanw'r môr. Sefwch ar y draethell ac edrychwch ar ddynesiad y don, a chewch ynddi ddrych o gynnydd ysbrydol. Y mae'n cefnu a dynesu bob yn ail, cilio a dyfod atom, pellhau ac agosau, llithro'n ôl a symud ymlaen. Try ei chefn ar y morlan, un munud; y munud nesaf, cofleidia hi. Ac y mae llithriad y don mor anhepgor iddi â'i dyrchafiad os am gyrraedd ei chyrch.
"Try'r greadigaeth
Ôl a gwrthol, wrth Dy air."
Nid y greadigaeth faterol yn unig, eithr hefyd y greadigaeth newydd yn enaid dyn. Ie, "ôl a gwrthol" ydyw hi arnom—to and fro. A'r cwbl "wrth Ei air." Y gwrthebau yma sy'n peri mai ar ofer hynt yr ymlwybra'r eneidegydd anianol a gais—â'i lygaid ynghau —ddyfod o hyd i gyfrinachau'r bywyd ysbrydol. "Canys pwy ymhlith dynion a edwyn bethau dyn, ond ysbryd dyn, yr hwn sydd ynddo ef? Felly hefyd, pethau Duw, nid edwyn neb ond ysbryd Duw." Fe lif drwy ein henaid afonydd na bu neb ond Duw yn rhodio'u glennydd; ac ni chlyw neb ond Ef a ninnau su eu dyfroedd. Y mae ynom "bethau sydd tuag at Dduw"—llygaid a luniwyd o bwrpas i weled Duw, ac nid neb na dim arall; ac nid edrych y llygaid hyn byth ar neb llai na Duw;—clustiau a blannwyd yn un swydd i glywed Ei lais Ef: ni wrandawant ar neb arall. Ac mor wir â bod y "pethau" hyn yn edrych ar Dduw ac arno Ef yn unig; yn clustfeinio am Ei lais Ef, a'i lais Ef yn unig, y maent hefyd yn bethau nas gwelir ac nas clywir gan neb ond Duw Ei Hun.
II
DILYN yn ôl traed pechaduriaid a saint a wna dyn wrth ganu salmau, canys nid yw salm yn ddim llai na llwybr a wnaethpwyd gan ddioddefaint cenedlaethau. Gweddïau ydyw gwir lên pob oes a gwlad. Dyma'r unig binaglau sy yn y golwg wedi ymchwydd dilyw'r oesoedd. Dolef enaid a barodd iddynt esgyn hyd y Nef: artaith y galon friw oedd y "bydded" a roddes iddynt fod.
Ni cheir dim uchder ond lle bo dyfnder; ac y mae'r ddau'n cyfateb. O fesur dyfnder y môr yn ei fan isaf, ceir ei fod bron yn gymesur ag uchder y mynydd yn ei fan talaf. Y mae'n rhaid i'r llinyn a blymio i waelod Tuscorora—a dyna ddwfn eitha'r eigion—fesur deng mil ar hugain o droedfeddi. Taldra Mynydd Everest, o'i droed i'w grib,—ag ef yn fynydd mwya'r byd —ydyw naw mil ar hugain o droedfeddi. Y mae rhwng môr a mynydd, dyfnder ac uchder, gryn bellter mewn gofod; ond eto, er hynny, cymheiriaid ydynt.
Oni wybuost am gri cydwybod yn ei gwaed, a dyhead ysbryd mewn cadwyn, diystyr a diwerth iti byth a fydd profiadau'r iselderau, oblegid o ddyfnder ing y deilliodd pob emyn sydd yn fynydd y fendith. Os bas dy enaid, heb na dyfnder meddwl na dyfnder teimlad, anghyfiaith iti, ddyddiau d'oes, a fydd salmau, hymnau ac odlau ysbrydol; y mae'r iaith yn ddyfnach nag a ddeelli di. Gwir ydyw a ddywaid y bardd: "mae'n dawel ar yr uchelfannau oll"; ond tangnef a esgynnodd o'r gwaelodion ydyw. Y mae perthynas agos a chyfathrach dyner rhwng "y dyfnder sy'n gorwedd isod" a "phen mynyddoedd y dwyrain" (y wlad lle mae'r bore'n byw—dyna'r enw sy gan yr Almaenwr ar "y dwyrain"). Y mae bydoedd Duw i gyd-mater, meddwl, ysbryd—yn llawn odlau per a chynganeddion perffeith—gwbl. Rhywbeth a gaiff llinell ar bwys ei pherthynas â llinell arall ydyw odl; rhywbeth a ennill hi yn ei pherthynas â hi ei hun yw cynghanedd. Un llinell yn galw ar un arall, hithau'n ateb; un byd yn galw ar fyd arall, yntau'n dywedyd 'wele fi'—dyna odl. Ond lle bynnag y bo llinell o gynghanedd y mae'r cydweddiad yn fwy tumewnol a chymhleth: fe gyfetyb un rhan i ran arall yn hollol annibynnol ar y llinellau perthnasol. Tebyg yw cynghanedd i Gaersalem—a adeiladwyd fel dinas wedi ei chyd—gysylltu ynddi'i hun.
Llawenychwn o wybod y'n dygir yng nghyflawnder yr amser i odli â bydoedd Duw i gyd-y bychan a'r mawr, ei greaduriaid distadl ac arddunol. A gorfoleddwn ambell dro yn ddistaw iawn—mor ddistaw nad gwybyddus mo'r gorfoledd i gyrion pella'r ysbryd—wrth feddwl y dichon inni rywbryd wneuthur rhagor nag odli â llinellau eraill y Meddyliwr Cyntaf. Cynganeddu y mae Gras. Bydd holl rannau amryw ein bywyd wedi eu cymwys gyd-gysylltu—cyfatebiaeth gytseiniol wedi edfryd i ddirgel ddyn y galon, drefn a dosbarth, am mai gwraidd ein bywyd yw yr Hwn sy'n achos pob cynghanedd: "canys nid yw Duw awdur anghydfod, ond tangnefedd."
Un yn Dri—dyna ddwyfol odliad.
Tri yn Un—dyna ddwyfol gynghanedd.
Y mae rhyw gymaint ohono Ef Ei Hun ym mhopeth a'r a wnaethpwyd ganddo; ac fe'n creodd ni ar Ei lun a'i ddelw. Onid oes cynghanedd yn holl rannau Ei ffyrdd Ef? Ac onid "croes-gynghanedd" yw, ac yn ordeiniedig i fod, ddydd a ddaw, yn "groes rywiog"? "Oni ddaw allan o enau'r Arglwydd ddrwg a da?" "Gwna Ef dywyllwch a nos fydd"; a phair "i oleuni lewyrchu allan o dywyllwch." "Am hynny y bydd nos i chwi fel na chaffoch ddewiniaeth; yr haul hefyd a fachluda ar y proffwydi a'r dydd a ddua arnynt." Eto, "i'r rhai sydd yn eistedd ym mro a chysgod angau y llewyrchodd goleuni mawr." Ydyw, y mae Ef yn cynganeddu tywyllwch a goleuni, gaeaf a haf, aflwydd a llwydd, dyfnder ac uchder.
Cyn y dichon inni ymddedwyddu a chanu yn ein calonnau i'r Arglwydd, gorfydd inni wybod y terfynau. Poen, yn anad dim, a ŵyr lle mae'r ffin. A phrofiadau y mesurir ymdaith bywyd: dyna'r tirnodau. Wele ennill a droes yn golled; wele golled a droes yn elw. Dacw siom yn garreg filltir; dacw garreg filltir arall, a honno'n garreg dân. "Meini tywyllwch" sy'n llewyrchu'n fwyaf tanbaid. Distaw'r gornant heb y meini a saif yn hy ar ei llwybr tua'r môr; y rhwystrau a rydd iddi barabl ac a'i dysg i ganu. Llumanau gwynion ei buddugoliaeth ydyw blodau'r ewyn y sydd ar ei bron. Mud a fai'r awel heb y goedlan. Cerddorfa ydyw bywyd; a hi a fydd ryw ddydd yn gerddorfa lawn: y cantorion a'r cerddorion a fyddant yno. Y mae llawer ohonynt eisoes wedi dyfod ynghyd. Mwynderau ydyw'r flute notes; adfyd yw'r islais.
Y mae'n rhaid i'r enaid daro, filwaith a mwy, yn erbyn gofid fel y callestr yn erbyn dur, cyn byth y deffroir ynddo y wreichionen a ddengys gyfrinach bywyd. Od yw'r hin yn gerwino, na rwgnach. Os dysgaist wers drwy'r brofedigaeth, gelli fod yn sicr nad damwain ydoedd, a bod ei hangen arnat. Galwad at Dduw ydyw. Plyg.
III
Y MAE'R mynydd cyfagos, llidiart yr ardd, y coed yn ffrynt y tŷ, y llwybr troed, a'r fforddolion a êl heibio yn ymddangos yn dra gwahanol yn y cyfnos—pan fo hi'n dechrau hwyrhau—i'r olwg a oedd arnynt yn y dydd; a hynny am fod y cysgodion yn taflu hugan denau drostynt. Nid yw gwead y fantell yn ddigon clos i'w cuddio'n llwyr, ond y mae'n ddigon trwchus i'w darn—guddio. Nid gorchudd yn celu mohono, ond llen yn peri gweddnewidiad.
Erbyn hyn, y mae'r gwrthrychau a welid gennym yn y dydd llachar—heb drafferthu ohonom i syllu arnynt; neu heb graffu odid ddim—wedi dyfod yn fwy gweledig, yn nes atom, yn fwy pendant. Gwyddom mai yr un a'r unrhyw ydynt, ond bod eu gwedd yn ddieithrach a mwy cyfrin.
Daw'r gwrthrychau'n agosach atom—yn nesnes o hyd—pan yw'r nos yn dechrau mynd rhyngom a hwy; a mynnant bwyso'n drwm arnom cyn canu'n iach ac ymgolli yn y gwyll, fel pe baent yn anfodlon i ddim fynd rhyngom a'n gilydd. Po agosaf atom, nesaf oll ydynt i gilio. Y gwasgiad olaf ydyw'r un a mwyaf o angerdd serch ynddo.
Yn y cysgodion, nid gweld y gwrthrychau, y pethau, y bendithion a wna dyn, eithr canfod eu hystyr, eu pwrpas, eu neges a'u henaid. Ni chanfuwyd dim gennym oni ddeallasom yr hyn sydd ynddo. Llwybrau i galon gwrthrych, i galon bendith ydyw'r hyn sydd yn y golwg—dim rhagor na hynny; canys ynddo'i hun y mae trigfa pob peth.
Gorfydd inni wrth dywysiad cysgodion os ydym chwannog i groesi hiniog y gweledig a mynd yn syth i mewn. A dyma gyfarchiad Sylwedd bob amser i'r sawl a ddêl i mewn i galon ei gyfrinach: "Pwy bynnag a ddêl ataf i nis bwriaf ef allan ddim." Caiff aros i mewn. Gartref—nid ar y ffordd yno y mae pob creadur yn ei ddatguddio'i hun: yno y'i gwelir yn ei elfen a'i fyd a'i gyswllt priod—yr aderyn yn yr awyr, y pictiwr yn y ffrâm, y cwch ar yr afon, y planhigyn yn y pridd, y plentyn ar yr aelwyd, y gwaredig yng Nghrist a thragwyddoldeb yn Nuw.
Megis na ellir cwsg heb fywyd ac na cheir breuddwyd oni bydd rhyw ran o'r enaid ar ddi-hun, felly annichon yw cysgod ar wahân i oleuni. Un o blant y dydd ydyw ef ond bod lliw'r nos arno.
Ni chydnebydd y deial onid yr oriau heulog yn unig. Iddo ef, nid yw oriau'r gwyll yn bod o gwbl. Gan mai wrth symudiadau'r cysgodion y mesur ef symudiadau amser ni ddaw'r nos i'w gyfrif.
Cysgod cyfnos yw cwlwm goleuni a thywyllwch; cysgod cyfddydd sy'n cydio nos a dydd. "Ef a wna i derfyn bore a hwyr lawenychu."
Llithrodd yr haul dan ei geyrydd ers tro; a'r cysgodion oll a ddarfuant. Y mae hi bellach yn gefn trymedd y nos—y tywyllwch yn hirllaes a'r düwch yn ddwfn; ond maint aruthr y ddaear ei hun a bair i'r nos bara cyhyd, ac oedi'r wawr. Petai'r ddaear yn llai ac yn cylchdroi'n gyflymach, fe ddôi'r bore'n gynharach a chwtogid y nos.
"Ond Haul Cyfiawnder a gyfyd i chwi." Fy enaid, nac atal dywyniadau'r Haul, eithr "prysura ddyfodiad dydd Duw"—y dydd y mae i'w holl belydr eu llewyrch a'u cysgod.
"Fel y dyhea gwas am gysgod." Gweithiwr Dwyreiniol sydd yma yn llafurio yn y maes, wedi lluddedu gan galedwaith, yn dyddfu gan wres y dydd, a'i gylla'n ddigon gwag. Ond gŵyr fod awr benodol gollyngdod llafur wedi'i threfnu, y dôi'r cysgod ar y deial i ddynodi'r amser terfynedig, a hiraetha am ddyfod o'r awr honno. Dyma gysgod yn troi'n wybod—y gwybod a gynnwys ryddid, lluniaeth a gorffwystra. Gwyn ei fyd y gŵr blinderog, hiraethus, a fedr ddatod seliau'r cysgodau; datgloi pyrth y dirgeledig; a mynd i mewn i galon cyfrinach—y gwybod sy â'i ddirgelwch yn oleuni, a'i oleuni'n ddirgelwch. Gwisg y pelydryn ei fantell. Ac fel Nicodemus fe gerdd lwybrau'r Waredigaeth liw nos.
IV
FE gerdd drwy'n henaid ambell foregwaith fintai o feddyliau dieithr. Gwyddom nad yn ein bron y ganed
hwynt; ac fel y dywedir am y sawl sy anedig o Dduw, ni wyddom o ba le y daethant nac i ba le yr ânt. Nid ydynt oll yn ogymaint, yn unffurf nac o'r un taldra, eithr cyd-symudant yn dawel, heb sŵn yn y byd; a dwg hoywder eu sang ar gof inni ddawns y llawenydd cynnar, a hyfrydwch y gân a gollwyd cyn clywed ohonom onid nodyn neu ddau.
Er mai sionc eu cerddediad, nid yw'r ysgogiadau'n ddigon chwim na'u camau mor gyflym ag i andwyo na hyd yn oed amharu dim ar eu hurddas. Er bod ohonynt yn orchuddedig â llwch-olion rhyw hynt hirfaith—a bod clais a chraith yr antur a'r ymdrech yn amlwg ar eu gruddiau, nis difwynwyd ac ni wanychwyd eu nerth.
Cil-edrych arnom a wnânt wrth fyned heibio, a nyni'n sefyll yn syn ar yr ochr dde-eu trem yn gwahodd a gwahardd, yn ein galw a'n cadw draw, yn ein denu a'n hatal, yn peri hyder a pharchedig ofn.
Gwead yw eu gwên o ffresni bore ac aeddfedrwydd prynhawn, o doriad gwawr ac ymachlud, o ynni boreddydd a thangnef yr hwyr. Yng ngoleuni eu llygaid hwy eu hunain-fflach y disgleirdeb nefol-gwelwn mai meddyliau Duw ydynt, ar eu hymdaith o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb ac yn pererinio drwy'n henaid ni ar y ffordd adref. Rhyfeddwn, arswydwn, diolchwn o sylweddoli'r bri a ddodant arnom drwy gydnabod ein bod ac ymweled â ni, a ninnau onid distadl ymysg ei greaduriaid afrifed Ef. Gallasent ddychwelyd i'w Gwlad ar hyd ffordd arall; ond fel yna o'i ras y bu wiw gan yr Arglwydd drefnu.
Cyffyrddiadau personol Duw ei Hun ydyw Ei feddyliau. Yr hyn yw'r pelydr a'r gwlith, y gawod a'r awel, y tir a'r wybr i'r planhigyn-dyna ydyw meddyliau Duw i enaid. Heb Ei feddwl Ef nis plennir, ni wreiddia, ni thyf, ni flagura, ni ddwg ffrwyth. Bu'n rhaid i'r meddyliau gosgeiddig, ucheldras oblygu eu pennau'n isel iawn cyn medru dynesu atom drwy borth mor gul. "Nid fy meddyliau I yw eich meddyliau chwi." Pur, uniawn, gwir ydyw yr eiddo Ef; halog, gwyrgam, gau yw yr eiddom ni.
Yr Arglwydd a ddysgodd ddyn i feddwl: "yr Hwn a ddywaid i ddyn beth yw ei feddwl"-nid Ei feddwl Ef yn unig, eithr meddwl y dyn ei hun hefyd. Beth tybed oedd rhag-flaenor y meddyliau fyrdd a dramwyodd drwy enaid dyn-Alpha pob syniad-meddwl cynta'r oesoedd? Er y bore hwnnw (ie bore ydoedd, oblegid gwawr yw pob datguddiad) fe genhedlwyd myrddiynau o feddyliau gan feibion dynion. I ba le yr aeth meddyliau coll y canrifoedd? A fugeilir hwy'n ôl o'u disberod? A yw'r Bugail Da yn corlannu meddyliau? Ymhlith y torfeydd dirif o feddyliau, nid oes un gwir na phrydferth na da o ewyllys y cnawd nac o ewyllys gŵr. Nid rhoddi bod i feddyliau ysbrydol a wneir. Dyfod a wnânt hwy: ymwelyddion o fyd arall ydynt. Hanu o Dduw a wna pob rialiti. Ef ydyw'r Sylwedd di-gysgod. Ef ydyw'r Tegwch gwir. Ac nid oes neb Da ond Duw, na dim da onid a lif allan ohono Ef.
Peidiem â sôn dim am wreiddiolder pe baem yn byw'n nes at y Gwreiddiol, yn Ei adnabod yn well, yn Ei garu'n fwy. "Pa beth sydd gennyf a'r nas derbyniais?"
Beth fydd ysbail rhyfel enaid pan ddychwelo wedi'r frwydr olaf a'r fuddugoliaeth fawr, derfynol? Tybed a fydd ganddo rywbeth gwell nag ef ei hun wedi'i oleuo, ei hyfforddi, ei dywys a'i dariannu gan "fedd- yliau Ei galon Ef;" ei rymuso drwy'r trinoedd a'i olchi drwy'r Gwaed?
V
Y MAE pob meddwl dwfn yn feddwl ar ei ddeulin; dyna anian briod y meddwl dwys. Beth bynnag fo testun ein hefryd a'n myfyr-bydded ef unrhyw gainc o'r gwybodau-ni allwn byth feddwl o ddifri heb ein bod trwy hynny yn cyfwrdd a chyffwrdd Duw, oblegid Ef ydyw gwaelod a gwraidd popeth. Gŵyr y serydd effro a gerdd lwybrau'r ffurfafen liw nos nad yw'r ysbaid tawel hwnnw ddim yn nos i neb namyn i enaid cwsg; ac mai rhai o gyfrinachau Duw yn dechrau blaguro ydyw'r sêr.
Traidd yr anianydd i galon llychyn, a chenfydd yno fydoedd aneirif yn chwyrnellu drwy'i gilydd, ac eto'n cylchdroi ogylch haul eu cyfundrefn; ac ymgryma'n addolgar a dywedyd, "dyma rannau Ei ffyrdd Ef."
Pan yfo'r cerddor yn ddwfn o ysbryd y Gân fe nawf ar donnau seiniau nes glanio ohono ar draethell bell, bell, lle y mae pob ton yn dôn, pob symudiad yn beroriaeth, pob bywyd yn gynghanedd.
Arwynebolrwydd yn anad dim sydd yn peri anghred a rhyfyg. Plentyn y feisdon ydyw anffyddiaeth, nid plentyn yr eigion; ac nid yn y dwfn y clywir cableddau. Y mae calon gwirionedd—fel calon y blaned y preswyliwn arni—yn dân; ac ond ymwthio i mewn cyn agosed ag y gallom i'r canolbwnc fe dawdd ein hanghred yng ngwres yr oddaith anniffodd; a nyni a addolwn.