Addoli (Y Ddarlith Davies 1935)/Rhagair
| ← Y Ddarlith Davies | Addoli (Y Ddarlith Davies 1935) gan John Gruffydd Moelwyn Hughes (Moelwyn) |
Cynnwys → |
RHAGAIR.
Wrth ymaflyd mewn pwnc mawr fel hwn—testun amser a thragwyddoldeb—naturiol a gweddaidd ydyw i ddyn deimlo'i annigonedd a bod yn ymwybodol o amherffeithrwydd ei gyflawniad. Ymgais yw hwn i fwrw bras-olwg ar y maes goludog, a cherdded drwy rai llanerchau y digwydd imi wybod mwyaf amdanynt. Gwelir mai'r safbwynt Cyfriniol yw yr un a ddewisir gennyf; a hyderaf y llwyddir i ddatgan rhywbeth am a welwyd ac a brofwyd a fyddo'n goleuo peth, a thrwy hynny feithrin ysbryd addoli. Dyna fy amcan yn ysgrifennu ac a'm ceidw'n gaeth i fuddioldeb.
Rhag chwyddo maint y llyfr ac i'r pris drwy hynny fynd o gyrraedd y werin y byd drwg sy ohoni, bu'n rhaid imi adael allan dair pennod—Addoli Cyntefig, Addoli'r Byd Paganaidd (Groeg yn bennaf) ac Addoli'r Eglwys Fore. Daw cyfle eto feallai.
Y mae amryw o'r meddyliau wedi ymddangos eisoes yn rhai o'm llyfrau eraill, ac yn y Goleuad a'r Drysorfa; ond diau y bydd lliw newydd arnynt, a rhyw gymaint o ystyr newydd ynddynt hefyd fe ddichon, o'u caffael fel hyn mewn cyflead gwahanol.
Nid hwyrach y gofynnir, Paham y dewisaf y testun hwn yn hytrach nag un o bynciau mawr y dydd megis anghyflogaeth, gorthrwm cyfalaf, heddwch rhyngwladol, ac ymlaen? Onid gwrthdystio'n ymarferol yn erbyn anghyfiawnder, a gwrthryfela yn erbyn gormes ydyw ein prif rwymedigaeth os ydym â'n bryd ar wella cymdeithas? A dyma f'atebiad: Gorfydd i Eglwys Crist, os myn gyflawni unrhyw orchwyl, fod yn fyw ac ar ddihun; a dibynna'i bywyd yn llwyr ar ei bod mewn cyswllt agos a chyson â Duw. Onis adfeddiennir yr ysbryd addoli sydd yngholl yn ein bywyd personol a chymdeithasol ofer fydd ein hymdrechion ymhlaid unrhyw ddiwygiad ynglŷn â'r cysegr neu'r digysegr; ac yn raddol tywyllir ein deall fel na welwn beth yw anghenion eglwys a byd, a dirymusir ein braich fel na allwn ymegnïo i bwrpas ymhlaid y da.
I wynebu "pynciau'r dydd" a'u dadrys y mae'n rhaid inni wrth fwy o Dduw a thragwyddoldeb yn ein bywyd; a chan mai problemau moesol, ysbrydol yn y bôn ydyw pob problem yr wyf yn bwrw bod yn rhaid ein dwyn i iawn berthynas â Duw mewn addoliad cyn y digwydd dim gwellhad a fo o werth parhaol. Y peth pwysicaf yw edfryd y goruwchnaturiol i'n bywyd. Mynnai Spengler, yn union wedi'r Rhyfel Mawr, i'r Almaenwyr gyfnewid y celfyddydau cain am forwriaeth, y crefftau am filitariaeth, a chrefydd am wleidyddiaeth. Bu'r genedl yn ddigon ynfyd i wrando arno ef a gau broffwydi eraill, a gwyddom beth fu'r canlyniad. Er bod gan yr Almaen ei hawliau cyfiawn ar genhedloedd eraill, wedi gwadiad ymarferol o Gristnogaeth, a gosod cenedlgarwch cul a gwleidyddiaeth ar yr orsedd yn lle addoli nid oedd dim i'w ddisgwyl amgen na Hitleriaeth wallgof; ac ni bydd y gyfundrefn fawr o dro cyn myned â'i phen iddi gan nad oes dim a saif ond a fo wedi i adeiladu ar y Sylfaen a osodwyd gan y Tad. Cyfiawnder yn unig a ddiogela ac a ddyrchaif genedl.
Dyledwr ydwyf i laweroedd—yn wir, i fwy nag a allaf gofìo, chwaethach enwi, canys yr wyf wedi bod yn derbyn yn gyson drwy gydol oes. Pa beth sy gennyf a'r nas derbyniais? Yn niwedd y llyfr nodaf y rhai yr wyf drymaf yn eu dyled. Gan gydnabod fy rhwymedigaeth iddynt oll dymunaf yn arbennig ddiolch yn wresog i gyfeillion am lawer o oleuni a gafwyd mewn awgrym a chyngor.
- 10 Reedville,
- Birkenhead,
- Mawrth 20, 1937.
- Birkenhead,