Neidio i'r cynnwys

Addoli (Y Ddarlith Davies 1935)/Y Ddwy Ffrwd: Rhoddi a Derbyn

Oddi ar Wicidestun
Crist yn Addoli Addoli (Y Ddarlith Davies 1935)

gan John Gruffydd Moelwyn Hughes (Moelwyn)

Distawrwydd

PENNOD V
Y DDWY FFRWD: RHODDI A DERBYN

Y MAE addoli yn gyfystyr â llif cyfamserol dwy ffrwd a red i ddau gyfeiriad gwahanol, neu, yn fwy cywir efallai, ffrwd a lif i gyfeiriad neilltuol ond a gynnwys ynddi'i hun is-lif yn rhedeg i gyfeiriad arall. I Dduw yr â un; o Dduw y treigla'r llall.

Galwn un y dylifiad aberthol yn rhedeg oddi wrth ddyn ac yn cynnwys popeth y dichon dyn ei roddi i Dduw mewn meddwl, gair a gweithred. Galwn y llall y llif sacramentaidd a red drwy Grist i ddyn, ac a gynnwys Ei ras amlweddog, anchwiliadwy.

I

A dderbyn Duw rywbeth gan ddyn pan addolo? Gwna. "Fy enaid bendithia yr Arglwydd." Yr ydym yn rhoddi i'r Arglwydd ogoniant a nerth. O ufuddhau i'w ewyllys pan allem beidio yr ydym yn rhoddi iddo Ei hawliau. Gallwn hyrwyddo neu lesteirio Ei fwriadau. Wrth ymddiried inni ewyllys rydd fe ddewisodd yn ei berthynas â ni—beidio â bod yn holl-alluog; a bellach, pe gorfyddai inni wneuthur a fynnai Ef, yn groes i'n hewyllys, fe ddinistriai ein personoliaeth: nid dynion a fuasem mwyach ond peiriannau. Bu Duw unwaith mewn penbleth. "Pa beth a wnaf i'm gwinllan?" Gwelai fod dynion yn ei dinistrio—yn difrodi Ei gynlluniau; a'r benbleth oedd, pa fodd i achub y winllan heb ddistrywio'r gwinllanwyr, oblegid gwyddai y buasai eu gorfodi i wneuthur a ddylent yn gyfystyr â chymryd oddi arnynt eu hewyllys, ac felly yn eu trawsnewid i fod yn rhywbeth amgen na dynion.

Pan o wirfodd yr ufuddhaom a dyfod ato yr ydym yn plygu i'w ewyllys, ac felly yn rhoddi iddo. Fe ewyllysiodd Ef inni fod gydag Ef, yn dirnad Ei feddwl, yn cydymdeimlo â'i bwrpas, yn cyfranogi o'i ysbryd. Plannodd ynom y reddf addoli fel y delem ato, y dymunem Ei gymdeithas ac y llawenychem o fod yn agos ato. Lladrata gogoniant Duw, a chyfodi gwrthgloddiau ar lwybr Ei ewyllys ydyw peidio ag addoli. Pan addolom y mae popeth a'r a dderbyniwyd gennym ganddo yn dychwelyd ato—hanfod y trugareddau tymhorol, hyd yn oed, yn cael ei droi i fod yn drugareddau ysbrydol, ac yna, yn y diolch a'r mawl, yn esgyn drwy'n calon at yr Hwn a'i rhoes.

II

Beth a dderbyn dyn drwy addoli? Llawer ymhob rhyw fodd. Er y derbyn Duw lawer, barnwn mai ffurf ar Ei gariad di-hunan yw greddf addoli: Duw yn trefnu ffordd i ddyn dderbyn y gorau trwy ei ddwyn yn agos ato Ef Ei hun, a'i gadw yn Ei ymyl. Y m bendithion addoli yn aneirif. Y mae addoli fel haul pan ddisgynno'i lewyrch ar donnau'r môr—yn ymddryllio'n fyrdd o sêr.

1. Cyfarfod â Duw y mae'r addolwr—y Duw a nesaodd, a cherdded y daith bell bron i gyd, fel nad oes angen mwyach i ddyn agosâu rhyw lawer. Gwnaeth yr Arglwydd oed â'i anwylyd i'w gwrdd yn y Gwaed; ac y mae yno'n disgwyl. Y mae "dyfod at Dduw" yn fwy na dyfod ato. "Pwy bynnag a ddêl ataf fi nis bwriaf ef allan ddim." I mewn y mae Ef; a chaiff y neb a nesao ato, yntau hefyd fod i mewn. A chan mai i mewn y trig Ef, Ef ydyw calon bywyd, gwybod a gwynfyd. Ein diffyg a'n hynfydrwydd ni ydyw oedi ar yr hiniog—aros y tu allan, ar drothwy'r pethau mwyaf; yn wir, ofnwn fod llawer ohonom yn bodloni i loetran yng nghynteddoedd y bywyd tragwyddol heb fynd i'w gysegroedd. Wrth addoli â dyn i mewn i nefoedd credu, nefoedd gwybod, nefoedd caru, nefoedd medru, nefoedd meddu, nefoedd tyfu.

Cyfyng yw'r porth i Dŷ ein Tad,
Y drws mor fychan yw;
Rhai bach yn unig â i mewn
I'r lle mae'r plant yn byw.

Mae clicied gloyw'r ddôr wrth law,
Yn isel ger y llawr;
'R ochr i mewn i ddrws y Tŷ
Mae'r plant yn tyfu'n fawr.

2. Sonia'r Arglwydd Iesu am dri gweddïwr,—un yn gofyn, un yn ceisio, un yn curo. Am bethau y gofyn y cyntaf, am ddarganfod a gwybod y cais yr ail, am ddrws agored yr ymdrech y trydydd hynny yw, fe ymawydda ac fe ymegnïa am fod gyda Duw: teimlo a wna fod rhywbeth yn cau amdano a'i gaethiwo, bod Duw am y pared ag ef; a hiraetha am gymundeb diwarafun â'i Dad—Duw y tragwyddoldeb di-ddrysau.

3. Y mae'r dawn creu ym meddiant addoli. "Pan ollyngych dy ysbryd y creir hwynt (y creaduriaid distadl ac arall) ac yr adnewyddi wyneb y ddaear." Math o ollyngdod a ddyry Duw iddo'i hun yw creadigaeth ac adnewyddiad; ac yn ysbryd yr addolydd y caiff fwyaf o ryddid o unman. Ac wrth ei greu o newydd a'i geinio â gras y mae'r Crewr yn ei wneuthur yntau hefyd yn grewr—nid yn unig yn greadigaeth newydd, eithr yn grewr. "Y nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw a'r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith Ei ddwylaw Ef." Sylwer mai'r salmydd mewn addoliad a lefarai fel yna; ac unwaith y cenfydd ef y gogoniant fe symud y gogoniant o'r ffurfafen nes bod yn ogoniant yn enaid y gweledydd. Nid yr un ydyw'r sêr yn y glesni â'r sêr yn yr enaid. Bellach dyma odidogrwydd natur wedi'i droi yn odidogrwydd ysbryd—"gogoniant Duw" yn y ffurfafen wedi nofio drwy enaid dyn i fyd cysefin Duw, byd ysbryd; a'r addolwr wedi creu sêr newydd nas meddai Duw mohonynt o'r blaen. Nid nyni'n hunain a ad—greir eithr popeth a'r a berthyn inni, a phob gwrthrych y disgyn ein llygaid arno: y mae popeth yn mynd yn newydd, oblegid nid yw'n bosibl inni ddyfod at Dduw heb ddwyn ein holl fywyd a'n holl fyd i'n canlyn. Y mae Duw a ninnau'n creu. A dyna'r pryd y gwelwn nad oes dim na chyffredin nac aflan, a bod pethau distadlaf bywyd yn cael eu harwisgo â hud—lewyrch tragwyddoldeb. Y mae llusern werdd magïen bôn y clawdd mor rhyfeddol â phlaned, a'r gwybedyn yn ogymaint gwyrth â'r seraff.

4. Wrth addoli, fe gefnwn ar yr arwynebol, a soddi i ddwfn syml y Sylwedd oddi wrth Animus neu wybodaeth rheswm at Anima neu'r gwybod cyfrin, o gylch meddwl i gylch teimlad, oddi wrth wirioneddau am Dduw i gyffyrddiad personol â Duw. Ac y mae'r profiad hwn, ebr A. L. Lilley yn diriaethol (concrete), yn gorfforiad o'n ffydd—y ffydd honno yn y ffurf o gredo noeth sy mor chwannog i lithro rhwng ein dwylaw a dianc. Y cymundeb personol drwy addoli sydd yn abl i'w gwarchod a'i diogelu.

5. Tystia Söderblom "mai'r gwir atebiad i weddi yw hyn: y profir presenoldeb Duw, nid gan deimladau brwd, ond gan y nerth newydd a dderbynnir i orchfygu pechod ac anawsterau." Fe ŵyr yr addolydd mai uniawn ei dystiolaeth. Bu addoli i filoedd yn berffeithiad nerth mewn gwendid, yn orffwys yng nghanol lludded, yn gysgod yn y ddrycin, ac yn foddion i sefydlogi'r meddwl gwamal, gwyllt a grwydrai hwnt ac yma. Beth bynnag fo'r demtasiwn, pa mor gryf bynnag y cymhelliad, ni fedr y sawl a wir addolo Dduw gasáu, cenfigenu a llofruddio'i frawd—â bidog nac â chelwydd.

6. Rhan neu rannau o ddyn a weithreda oddieithr pan addolo. Nid oes digon o le i ddyn yn ei gyfanrwydd droi mewn unrhyw act arall, ac ofer a fai iddo erchi i'r "cwbl sydd ynddo" gyflawni dim ond addoli. Addoli ydyw'r unig weithred sydd yn hawlio pob ymadferth sy ar ei elw, ac yn eu hawlio mewn undeb â'i gilydd. Person yn ei gyfanrwydd sydd yn addoli.

Teimlai un o'r Salmyddion fod dirgel ddyn y galon yn ddrylliau ysgaredig: "una fy nghalon i ofni Dy enw." Y mae addoli yn uno'r darnau. Effaith tynfaen ar fân ronynnau mater ydyw dwyn trefn lle o'r blaen yr oedd anhrefn, a thrwy hyn caiff y tameidiau bychain digyswllt eu hunoli. Gwneir o'r temigion gwasgaredig system, a thrwy hyn deuant i undeb â'i gilydd: fe'u cyfennir ac fe'u cyfunir, fel nad tameidiau disperod monynt mwy. Tebyg yw addoli. Nid yn unig fe adfer gyd-berthynas ac undeb rhwng gwahanol rannau ein personoliaeth, eithr fe unir yr addolwr ei hunan â Gwrthrych ei addoliad.

Y mae gan Dduw dri gafaeliad mewn dyn. Y cyntaf yw'r afael sy ganddo arno fel Crewr. "Ef a'i gwnaeth;" ac ni ollyngodd Ef erioed ddim o'i Law wedi ei greu. "Gwyllt anifeiliad y maes ydynt eiddo Fi" '—neu fel y gellir darllen, "ydynt yn fy meddwl I" neu "ydynt gyda Myfi." Y mae pob creadur gwyllt a gwâr, bach a mawr yn eiddo Ef. Deil afael yn Ei berchenogaeth drwy eu cadw yn Ei feddwl; ac am eu bod yn Ei feddwl y maent yn gyson gydag Ef. Y ffaith Ei fod Ef yn dal Ei afael mewn creadur sydd yn peri iddo bara mewn bod. Er ysgafned yr atom lleiaf fe soddai i ddifodiant yn ei bwysau onibai ei fod wedi'i wregysu ag anfeidroldeb.

Y gafaeliad nesaf ydyw yr un perthnasol: rhagor na bod yn Ei law yr ydym ni yn perthyn iddo yn blant ein Tad o'r Nef. Ond y mae yna un gafaeliad arall, tynnach, sicrach na dim a geir drwy'r cysylltiad creadigol, na hyd yn oed drwy berthynas. Undeb yw hwnnw. Y mae dyn yng Nghrist wedi ei uno â Duw. "Dy Briod yw yr Hwn a'th wnaeth": rhywbeth mwy a rhagorach na'i fod yn greadur o waith Duw ac na'i fod yn fab a genhedlwyd ganddo. Priod yr Anfeidrol ydyw. Priodfab yw Duw yng Nghrist, a dynion sanctaidd mewn undeb â'i gilydd, am eu bod mewn undeb â Christ, ydyw priodasferch, Gwraig yr Oen." Dy briod yw yr Hwn a'th wnaeth"—Ef a'th wnaeth yn briod, yn hardd, yn urddasol, yn gryf, yn gyfoethog. Fe eill y sawl nid addolo wybod rhywbeth am y gafaeliad cyntaf y soniasom amdano; ond hawlfraint addolwr yn unig yw profiad o fendithion y berthynas a'r undeb.

7. Y mae mewn addoli lawenydd. "Saith niwrnod y cedwi ŵyl i'r Arglwydd dy Dduw yn y lle a ddewiso yr Arglwydd . . . am hynny bydd dithau lawen. Deut. 16, 5. "Na thristewch, canys llawenydd yr Arglwydd yw eich nerth chwi." Neh. 8, 10. Dywedir am yr Addolwr perffaith ddarfod iddo lawenychu yn yr ysbryd. Dangos bod y llawenydd hwn yn gyrhaeddadwy ar y ddaear a wna damhegion y trysor cudd yn y maes, a'r perl o uchel bris—y llawenydd o gael gafael ar Dduw yng Nghrist. Pa fodd y dichon i'r neb a erlidir o achos cyfiawnder fod yn "llawen a hyfryd" ond drwy wybod yng nghymun addoli bod eu gwobr yn fawr yn y Nefoedd?

Y mae i'r llawenydd, yn ôl dysgeidiaeth yr Athro Mawr, berthynas arbennig ag ufudd-dod, â dyrchafiad Crist i'r ddeheulaw ac â gweddi. (1) "Os cedwch fy ngorchmynion chwi a arhoswch yn fy nghariad i . . . Hyn a ddywedais wrthych fel yr arhosai fy llawenydd ynoch, ac y byddai eich llawenydd yn gyflawn;" (2) "A'r awr hon yr wyf yn dyfod atat . . . fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain;" (3) "Gofynnwch a chwi a gewch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn." Gwelir mai ufudd-dod i Grist yw llwybr y llawenydd gwir, ac mai dyrchafiad Crist at y Tad sydd yn gwystlo ei barhad: er ein mwyn ni y disgynnodd; er ein mwyn ni yr esgynnodd hefyd, ac yn ôl Ei eiriau Ef Ei hun, diogelu ein llawenydd oedd Ei reswm dros fyned Adref. Ond drwy "ofyn" mewn gweddi, hynny yw, drwy addoli yn unig y dygir inni brofiad o'r llawenydd yn ei gyflawnder dwyfol. Llawenydd i'r rhai sydd yn Ei gymdeithas Ef ydyw. Bod yn agos ato yw addoli. Yr addolydd yn unig a â i mewn i lawenydd Ei Arglwydd llawenydd myfyr, llawenydd llafur, llawenydd ymgysegriad, llawenydd y bywyd glân, llawenydd aberth, llawenydd buddugoliaeth; ac nid drwy borth marwolaeth yr â ef i mewn iddo eithr drwy byrth diolch a mawl. Dianrhydeddu Duw a dychrynu plant y mae'r sawl a anffurfio'u hwynebau yn y cysegr; nid arwydd o dduwioldeb yw ocheneidiau hirllaes; ac nid prawf o'n hysbrydolrwydd a'n ffydd ydyw rhodio'n alarus drwy orthrymder y gelyn. Haws hedfan i'r Nefoedd ar adain gwên na nofio yno mewn deigryn. "Llawen ydwyf oblegid Dy air;" "Byddwch lawen yn wastadol;" "llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol, a thrachefn meddaf, llawenhewch;" "llawenychwch yn yr Arglwydd, a gorfoleddwch wrth goffadwriaeth Ei sancteiddrwydd Ef;" "cyfarfyddi â'r hwn sydd lawen;" "mewn llawenydd yr ewch allan."

8. Oherwydd yr anian greu sydd ynddynt medr beirdd mawr gynhyrchu o brofiadau'u bywyd gampweithiau anfarwol, eithr nid yw'r profiadau yn gyfyngedig iddynt hwy yn unig: profiadau sy eiddo pawb dynion ydynt; ysbrydoliaeth awen a wna'r gwahaniaeth rhyngddynt hwy ag eraill. Felly gydag addoli. Gall pob dyn ymarferyd â phresenoldeb Duw, a chael profiad ohono; a'r gildio hwn yn Ei bresenoldeb a rydd i Dduw Ei gyfle i wneuthur saint ohonom. Yn wir, dwg y gildio ei wobrwy uniongyrchol. Dyma'r pryd y sylweddolwn pwy a pha fath ydym, y disgyn llewyrch y tragwyddol ar broblemau bywyd, ac y'n cynysgaeddir â nerth i ymateb i bob gofyn. Ni ellir dim ymdaflu ar Dduw heb addoli. Abandon y Ffrancwr, gelassenheit yr Almaenwr, let go y Sais, ymollwng y Cymro—dyna ystyr y gildio. Eithr nid ein colli ein hunain yr ydym drwy hyn, ond ein caffael ein hunain: 'ac y'm ceir ynddo Ef"—wrth iddo Ef ein derbyn, fe fyddwn ninnau yn ein derbyn ein hunain. Myned allan, rhagom ac i fyny y byddwn; o'r hyn ydym at y gwell a'r gorau—at Dduw.

9. "Ymarfer dy hun i dduwioldeb"—exercise thyself. Gair ag iddo lawer o feddwl yw'r gair practice. Drwy'r practice y dysg côr yr anthem ac ymberffeithio yn y datganiad, a thrwy'r practice y caiff meddyg feistrolaeth ar ei alwedigaeth. Ymarferyd modd y gwypont a wna'r naill fel y llall; ond y mae Chrysler, crythor enwoca'r byd, yn canu'i grwth am bedair awr yn feunyddiol, nid er mwyn dysgu ond am ei fod eisoes yn gwybod—ofn colli'r cyffyrddiad â llinynnau'r offeryn sydd ganddo, a thrwy hynny dorri'r cyswllt ag ysbryd y gerdd. Y mae'r ddau yn wir am yr addolwr: drwy addoli y dysg y grefft ddwyfol ac y ceidw in touch â Duw.

10. "Y mae mewn dyn," medd Pirandello, "du hwnt (un oltre), rywbeth dros ben (un di piu), a rhywbeth di-raid (superfluo)—neu, yn gyfryw nad oes mo'i eisiau arno ar gyfer y byd hwn, ond sydd, er hynny, yn ei aflonyddu a'i gythryblu, ac a wrthyd iddo fod yn fodlon ar y pethau sydd. Rhoddes natur i anifeiliaid y peth a'u digona; ond mae mewn dyn rywbeth dianghenraid ar gyfer y bywyd presennol, na ad iddo fod yn fodlon—h.y., y mae ynddo fwy nag sy ofynnol i gyflenwi ei reidiau. A'r gwir yw, mai y peth hwn sy 'dros ben'—cyn belled ag y mae a fynno'r byd hwn ag ef a'i gwna yn ddyn ac nid yn anifail. Ni orffwys ac ni ddigonir y peth hwn sy 'dros ben' gan ddim sy ar y ddaear." Dyma yr hyn sydd â'i lygaid yn tremio tuhwnt i'r gweledig a'r amserol ac yn dyheu am ei fyd ei hun—byd ysbryd a thragwyddoldeb. Mewn addoli y mae yr elfen hon yn cael meithriniad a rhyddid diwahardd.


11. Heb addoli, cyll serchiadau naturiol eu purdeb, eu symlrwydd a'u nerth: perthynas â Duw yn unig a'n gweryd; dirywia onestrwydd fel nad yw onid caledrwydd hunan-gyfiawn; ac ni wna cymwynasu i drueiniaid ddim rhagor na phorthi ein balchder. Cyn caru Duw a'i addoli, ymgynnal arno'i hun y mae cariad dyn, a'i addoli ei hunan; ac yn y man daw tranc i'w ddibennu ef, a'i gariad a'i "dduw" bach. Ond pan addolom Dduw fe gynhydda, fe sancteiddir, fe gryfheir, fe dragwyddolir ein cariad.

12. Ymadrodd sydd yn pruddhau dyn yn ddirfawr ac yn peri arswyd aruthr yw y geiriau, "y mae yr holl fyd yn gorwedd mewn drygioni." Cynhwysa ragor na bod y byd yn ddrwg. Y mae yn fodlon ar ei gyflwr, heb wybod druaned yw, yn clertian ar fynydd llosg mewn trymgwsg, heb ymdrech i symud o'r fan. Buasai'r weledigaeth yna—a nyni'n gwybod ein bod yn rhan o'r byd a ddisgrifir—wedi'n llwyr ddigalonni onid ein gwallgofi onibai i Dduw yn ei ras, pan addolem, agoryd ein llygaid a dangos inni nad yw hwnyna onid rhan o'r gwir. O drugaredd, y mae'r "byd" yn rhywle arall hefyd. "Felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd Ef Ei unig—anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo Ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol." Cymryd gwrthrych i'r fynwes ydyw caru. Y mae'r byd felly ym mynwes Duw, a hyd y gwyddom nid oes onid dau wrthrych yn y fynwes honno—y Mab a'r byd. Dyna sail ein gobaith am Iachawdwriaeth byd coll—gwybod ei fod yn yr un fynwes ag Iesu Grist, a bod y Gwaredwr yn caru'r byd â'r un cariad ag y câr Ei Dad yntau.

13. Tybed a ŵyr y darllenydd, fel y gŵyr rhai ohonom, beth yw colli ffydd mewn dynion a hyder ynddo ei hun? Ni ddisgwyliem ac ni chwenychem barhad ein hoedl: yr oedd ein gafael ym mhawb a phopeth a hyd yn oed ynom ein hunain, wedi llacio. Diffoddasai pob gobaith y dwthwn hwnnw, onibai nesâu ohonom at Dduw, ymorffwys arno, a'i glywed yn dywedyd, "Yr wyf Fi gyda thi."

14. Mewn addoliad fe eill Duw Ei roddi Ei hunan i gyd i bob un, heb i hynny dlodi undyn. Y plentyn piau'i fam, ond "fy mam" yw cyfarchiad ei frodyr a'i chwiorydd hefyd fel yntau. Duw yw y dawn nis rhennir: y mae'n rhy fawr i'w rannu, ac fe'i ceffir yn gyfangwbl neu ddim. "Dedwydd y galon," ebr Erskine, "a ddysgodd ddywedyd 'Fy Nuw.' Cynhwysa'r ymadrodd byr yna grefydd i gyd, a phob gwynfyd sy ddichon i ddyn. Y mae crefydd y cwbl ohoni—mewn newid 'Ef' am "Ti.' Haniaeth (abstraction) yw crefydd cyd ag y bo yn 'Ef.' Gyda'r Ti yn unig yr adwaenom Dduw."

Pe na roesai Duw i ddyn ond yn ôl ei eisiau fe gâi lawer; o roddi iddo yn ôl mesur ei angen câi anhraethol fwy; eithr nid felly y rhydd Ef, ond "yn ôl Ei olud mewn gogoniant yng Nghrist Iesu"—rhoddi gyda mawrfrydigrwydd a haelfrydedd teilwng ohono'i hun a'i gyfoeth. Ac mae Iesu Grist yn rhoddi hawl inni berchenogi Duw: "Fy Nuw i a'ch Duw chwithau; fy Nhad i a'ch Tad chwithau." "Yr Arglwydd yw fy Mugail," ebe'r Salmydd. Fel gofalydd a gwarchodydd y cawn yr olwg gyntaf ar yr Arglwydd yn yr Ysgrythurau —yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd, yn bugeilio'r dyfnderoedd; ac nid yw'r creadigaethau oll, distadl ac arall, yn ddim llai na Duw yn corlannu Ei feddyliau Ei hun. Daw'r sawl a allo ddywedyd "Fy mugail," a hyn fel profiad o'i ymwneuthur â Duw, i feddiannu Duw a'r cyfan sy eiddo, canys nid oes un wedd ar fywyd yr Anfeidrol na all dyn ymestyn ati a'i pherchenogi. Y mae dyn, eisoes, o ran ei ysbryd, yn ddiddechreuad fel Duw Ei hun.

15. Fe ymdraidd drwy fywyd dyn elfen athrawaidd y daw ef, yng nghymundeb â Duw, i wybod amdani. "A'r athrawon a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen." Paham y'n dysgir mai oddi wrth "Dad y goleuadau" (y bydoedd) y disgyn holl drugareddau yr Arglwydd i ddyn? Dyfod a wnânt o Ffynnon y Goleuni, a dwg pob rhodd, ynddi hi ei hun, nodau eglur ei thras a'i haniad—hynny yw, y mae pob rhoddiad daionus a phob rhodd berffaith yn llewyrchu. Ond ni welir y pelydr dwyfol sydd yn amwisg i'w holl roddion—fach a mawr—oddieithr gan y sawl a drigo yng nghymdeithas y Rhoddwr. Y mae'n rhaid addoli os am weled tarddiad, ystyr, pwrpas a gogoniant llachar Ei ddaioni Ef. Ac fel y tosturiaethau a dywynna gan ddisgleirdeb y wlad y daethant ohoni, nes bod Duw yn ganfyddadwy ynddynt, felly hefyd y mae'r addolydd a'i derbyn, yntau, yn mynegi rhinweddau yr Hwn a'i galwodd allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni Ef.

16. Dyfod at y Ffynnon yw addoli. Y mae'r Salmyddion a'r Proffwydi wedi achub y blaen ar Bergson a'i athroniaeth sydd yn disgrifio Duw fel "bywyd di-dor, gweithredol, rhydd." "Ti wyt Ffynnon bywyd;" "fy holl ffynhonnau sydd ynot Ti;" "Ffynnon y dyfroedd byw." Nid rhyfeddu'n unig at loywder y dŵr na gwrando ar furmuron y gofer a lif heb ball o'r Ffynnon a wna'r addolydd, eithr yfed. Ar ei ddeulin yn unig y gall dyn dorri ei syched: y mae'n rhaid plygu at y Ffynnon.

Y mae'r addolydd yn dalach ar ei liniau na phan safo'n syth, ac yn tyfu wrth ymostwng. Ein crebachu a wna dynion mawr pan elom yn agos atynt—eu mawredd yn ein bychanu; ond y mae Duw mawr yn ein gwneuthur ninnau'n fawr, a pho agosaf ato y bôm mwyaf oll fyddwn. Y mae mewn dyn fawredd cynhenid (a dyna, nid ei bechod a'i gwna y fath ddirgelwch a'r fath addewid); ond fe dyf fwyfwy wrth addoli.

17. Meddwn atgof pêr am y cathlau a genid gynt, a gobaith y cawn ganu eto yfory a thrennydd a thradwy, ac y bydd inni ran ym mawl y gainc anorffen. Ond nid yn ddoe ac yfory yr ydym yn byw. Bellach nid yw'r gorffennol yn bod inni mwy ond mewn syniad, a hyd yma nid yw'r dyfodol yn ddim amgen na syniad. Yn awr yr ydym yn byw, yn yr eiliad—yn aros yng nghysgod yr Hollalluog ac yng nghanol peroriaeth ddwyfol. "Amgylchynaist fi â chaniadau ymwared." Ni allwn symud yr un fer heb glywed, ped ymwrandawem, Ei fiwsig Ef—melodi'r gwaredigaethau. Y mae Ef yn ein gwaredu a'n hachub yn awr.

18. Fe lefair Duw wrth y gwir weddïwr pan weddio. Efallai mai dyma fendith fwya'r weddi ac nid yr atebiad a ddisgwyliem ni. Dichon na ddaw hwnnw, ond daw rhywbeth gwell; ac nid oes well yn bod na derbyn ar y pryd o'i feddwl a'i gariad, Ei rym a'i nwyd.

Bydd ein cynnydd mewn gras yn dibynnu nid ar ein bod yn siarad llawer wrtho ond ar ein bod yn wrandawyr da arno. Y mae geiriau lago yr un mor gymwysiadwy at ein hymwneuthur â Duw ag ydynt at ein hymwneud â'n gilydd yn wir, yn fwy felly. "Bydded pob dyn esgud i wrando, diog i lefaru." Yr ydym yn llefaru gormod wrth Dduw. Ni bu'r un weddi fawr erioed yn weddi hir. Fe all y llef o'r dwfn fynegi ei neges ar fyr eiriau: yn wir, ymwrthyd ag iaith yn llwyr weithiau, ac ymwthio i ochenaid ddrylliog neu ddeigryn mud. Dylem wrando mwy ar Dduw pan weddïom. "Gwrandawaf beth a ddywaid yr Arglwydd Dduw, canys Ef a draetha heddwch i'w bobl ac i'w saint." Os ydym am i'n gweddïo fod yn gymundeb ag Ef, gorfydd inni mewn cariad a ffydd ymostwng o'i flaen, a gosod ein llaw ar ein genau yn hytrach na pharablu llawer. A'r hyn sy bwysicaf o bopeth ydyw ein bod yn ein cyflwyno ein hunain iddo mewn brawddeg neu ddwy, megis

"Cymer fi Iesu fel yr wyf,
A chudd fi yn Dy farwol glwy",
neu
"O Iesu cymer fi i gyd,
Fel mynni gad im' fod."

Ac fe lefair Duw wrth ein calonnau. Weithiau, yr hyn a brofwn ar y pryd fydd ymdeimlad o lawenydd; weithiau, ymdeimlad o nerth newydd yn llifo i'n bywyd a fydd yn ein cymhwyso i orchfygu temtasiynau a phryderon; weithiau, fe deimlwn ein bod yn gallu credu'n well a gafaelyd yn dynnach yng ngwirioneddau hanfodol ein crefydd; weithiau, fe glywn yr Arglwydd yn gorchymyn inni gyflawni rhyw orchwyl arbennig. Mae yn sicr na feddyliasai Ananias am ymweled â Saul yn Namascus, ac na ddaethai i feddwl Phillip lynu wrth gerbyd yr eunuch onibai clywed ohonynt lais yr Arglwydd yn erchi. Nid yw Duw wedi newid dim: y mae yn llefaru a gorchymyn heddiw megis cynt. A'r gwahaniaeth rhyngddynt hwy a ni yw hyn nid ddarfod i'r Arglwydd siarad â hwy ac nad yw yn siarad â ni, eithr yn hytrach eu bod hwy yn gwrando, yn disgwyl, a chanddynt feddyliau a chalonnau agored, parod i dderbyn, a'n bod ni yn esgeulus o wrando a disgwyl, a bod ein meddyliau a'n calonnau yn gaëedig ac amharod. Fe eilw Duw o hyd ond nid ydym yn clywed—am nad ydym yn gwrando; ni phaid ef â llefaru a gorchymyn; nyni sydd yn glust—fyddar.

19. Hawdd, meddir, yw gwybod yn y Dwyrain ffordd y teithiodd dynion wrth y blodau a dyf yn y mannau lle gwersyllent. Wrth roddi porthiant i'r camelod bydd hadau yn disgyn i'r ddaear, ac os digwydd i'r teithwyr fod yn pebyllu mewn bwlch cysgodol yn y mynyddoedd fe wreiddia'r hadau. Yn y man blagurant, wedi cefnu ar y gwastadeddau cynefin, gan brydferthu'r bryniau fry a'u perarogli, yn ddrych o'r pererinion ysbrydol sydd yn marcio'u llwybr â daioni a thrwy hynny'n bendithio'u dilynwyr.

Y mae addoli yn deffroi dyn drwyddo. Dwg pawb ohonom yn ddirgelaidd ddôs go dda o opium yn ei gyfansoddiad, ac adnewyddir hi'n llechwraidd gennym yn awr ac yn y man. Pa sawl awr o fwynhad trwyadl ddigymysg, ymwybodol, a gawsom drwy gydol oes, a pha nifer o actau llwyr weithredol a gyflawnwyd gennym? Nid yw dyn byth yn hollol effro, ymwybodol, rhydd ond pan addolo. Mynych y bydd amser a ninnau yn ymbalfalu fel deillion ar bared tragwyddoldeb; ond y mae dôr yn agoryd pan addolom, a gwneir Dyffryn Achor (glyn trallod) hyd yn oed, yn ddrws gobaithyn fynedfa i fyd ehangach, purach, gwell. Pwysa amgylchiadau arnom, weithiau, a'n gwasgu'n dyn, nes bod bywyd yn gwm caead.

"Anffyddlon imi trodd y byd,
Anffyddlon dynolryw,
Ond 'r wyf fi'n rhedeg drwyddynt oll
I fynwes bur fy Nuw."

Y mae dyn ysbrydol fel gair Duw—"nis rhwymir." Cylymer ef â rheffynnau adfyd fe lysg y rheffynnau oll: "Un wreichionen fach o'th gariad

Wna fy rhwymau oll yn rhydd."

Teflwch ef i'r môr, fe fydd yntau yn y man yn byrlymu'n ffynnon loyw, groyw ar lechwedd y mynydd. Cleddwch ef, ac fe dyf o ddaear mynwent yn bren praff, digon cadarn i fedru herio cynddaredd tymestloedd, rhoi nythod i adar yr awyr, a chysgod i bererin y ddrycin.

Cornant yn rhwym gan y rhew a'i chân ynghlo ydyw enaid diaddoli. Duw â thes Ei gariad yn unig a fedr ein dadlaith. O Arglwydd meiriol ni.

Er yn plygu, esgyn mewn gwirionedd y mae'r addolydd.

Wedi dringo'r Alpau uchel, ni chofiem ddim am ogledd a de, dwyrain a gorllewin: edrych i'r ehangder ac i dragwyddoldeb a wnaem; ac nid yw'r neb a gollo'i ffordd yno yn gofyn, "Faint yw hi o'r gloch": chwilio am ei lwybr y mae. Ar yr uchelderau fe baid amser a lle. A dyna un ffordd i orchymyn i'r haul aros—dianc o afaelion amser i ryddid y tragwyddol.

Ar fynyddoedd natur, heb sôn dim am Fynydd Seion, fe ymdawdd y golygfeydd lawer i'w gilydd a ffurfio un olygfa—y gwrthrychau oll, yn eu prydferthwch, eu harddunedd, eu hamrywiaeth a'u hunoliaeth yn awgrymu'r tragwyddol ac yn rhan ohono. Dyrchafael, gweledigaeth a rhyddid yw addoli.

20. Pan ddêl meddyliau Duw atom ni a geisiwn eu dilladu mewn iaith, oblegid dyna'r unig ffordd inni fedru eu cadw. Ond pa mor ddistaw bynnag y bôm gyda'r gorchwyl hwnnw y mae'n dra sicr y deffroir meddyliau cwsg o'n mewn yn sŵn y gwisgo.

21. Yr Ysbryd Glân sydd yn creu pob meddwl pur, pob dymuniad glân. Nid oes weddi a ŵyr y ffordd i'r Nefoedd ond a ddaeth oddi yno. "Curwch ac agorir ichwi." Ac eto nid yw ein curiadau ni, mev gwirionedd, yn ddim ond atsain o guriadau yr.hwn sydd "yn sefyll wrth y drws ac yn curo".

22. Y mae rhywbeth anniffiniol o gwmpas y gwir addolwyr—"y bobl briodol," y peculiar people, ac fe'n hadweinir fel y disgyblion gynt oddi wrth ein lleferydd. Y mae stori gan Chaucer yn y Second Nun's Tale am yr angylion yn coroni'r Santes Cecile â lili a rhosynnau, a dywaid yr aroglai pawb y persawr dieithr, eithr na welid mo'r blodau gan neb ond a oedd mor dduwiol â'r Santes ei hun.

23. Tebyg yw credo llawer ohonom i eiddo'r Atheniaid yn amser Pericles, a ddisgwyliai Palas Athene, gwaredwr gwladol, tymhorol. Edrychwn am waredigaeth rhag anghyflogaeth, anfoes, gormes cyfalaf, trachwant cenhedloedd, rhyfeloedd, ac ymlaen, o bob cyfeiriad ond y deml. Nid felly gobaith Israel gynt yn amser Eseciel. Gwelai ef yr esgyrn sychion a chyflwr adfydus y genedl, eithr gwelai hefyd Dduw yn ailadeiladu'r genedl pan fyddai hithau yn Ail-adeiladu'r deml, hynny yw, pan ddôi'r bobl yn addolwyr.

24. Yn Israel gynt fe geisid gwarchod dyn drwy gau amdano—cyfodi gwrthgloddiau deddf o'i amgylch; ond yn yr Efengyl fe'i gwarchodir drwy ei gysylltu â'r Canolbwnc sefydlog a gadael iddo ryddid di-wahardd, diffiniau. Wrth addoli deuwn wyneb yn wyneb â'r Bod sydd tu hwnt i dywyllwch a goleuni, ac uwchlaw i ddirgelwch a datguddiad. Cawn groesi'r terfyn cyfrin sy rhwng nos a dydd, ymlwybro drwy'r llannerch ddirgel sydd yn gyffin sŵn a distawrwydd, a cherdded drwy'r bwlch cyfyng sy rhwng bwriad ac act.

25. Trasiedi ofnadwy yw'r ffaith mai Duw, nid y dyn ei hunan, a ymofidia fwyaf ynghylch ei bechod; ac eto ar y ffaith rasol hon y seilir ein gobaith am faddeuant. Y mae Duw yn ein caru, ac oblegid hyn ni fyn ollwng Ei afael ynom am y gŵyr y buasai hynny'n ddinistr inni. Pan addolom down i wybod bod ffynhonnau'n torri allan yn anialwch ein hysbryd—yn brawf nad yw'r cyswllt rhyngom a'r Môr ddim wedi peidio â bod, er ein pechod. Ond ni ddichon dyn ei adnabod ei hunan yng nghysgodion tywyll adfyd nac yng ngoleuni llachar llwydd; y mae'r naill a'r llall yn ei guddio rhagddo'i hun—un ffunud yw goleuni a thywyllwch iddo, onis cenfydd ei hunan yn y goleuni a lewyrcha arno mewn cymundeb â Duw. Afon wedi cwbl sychu a'r pontydd yn aros—dyna yw bywyd heb addoli.

26. Yn La Belle sans Merci disgrifir yr agwedd honno ar fywyd—hanner y ffordd rhwng ysbryd a mater—lle mae da a drwg a dim ond un wyneb rhyngddynt: cuwch y cythraul a gwên yr angel yn toddi i'w gilydd mewn un drem. Ac yn rhai o ddarluniau Da Vinci chwi gewch yr un peth—cnawd ac ysbryd yn yr un a'r unrhyw edrychiad: gwefusau'n dywedyd "tyred," llygaid yn dywedyd "dos"—gwefusau gwridog, hudolus ond llygaid treiddlym, picellog yn melltennu digofaint. Pan addolom y mae'r da yn cael goruchafiaeth ar y drwg, daw'r gorau i'r wyneb, graddol ddifodir y gwaethaf ac yn y man llwyr ysir pob elfen wrthnaws.

Dwg dau o'r beirdd Rhufeinig, Horas ac Ofydd, dystiolaeth i ddeuolaeth bywyd a'r frwydr gyson sydd rhwng da a drwg. Ebr y cyntaf: "Dilynaf yr hyn a'm niweidia, a chefnaf ar y pethau a gredaf sydd er fy lles;" ac ebe'r ail: "Mi welaf ac mi gymeradwyaf y llwybr gorau, eto mi a ddilynaf y gwaethaf." Ymhen dwy oes wedyn fe dystiolaetha Paul i'r un gwirionedd: "Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid yw fodlon gennyf; canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur; eithr y peth sydd gas gennyf, hyn yr ydwyf yn ei wneuthur. Canys mi a wn nad oes ynof fi (hynny yw yn fy nghnawd i) ddim da yn trigo; oblegid yr ewyllysio sydd barod gennyf; eithr cwblhau yr hyn sydd dda, nid wyf yn meddu arno. Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio, ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur. Ys truan o ddyn wyf fi. Pwy a'm gwared i oddi wrth gorff y farwolaeth hon." Rhuf. vii, 15, 18, 19, 24. Ac y mae colli'r maes yn y frwydr hon yn dinerthu'r cynheddfau eneidiol, yn gwarthnodi a chythruddo'r gydwybod, yn peri anghytsain yn yr ysbryd ac yn difuddio'n bywyd. Ond fel y mae turbine neu lwyau olwyn ddŵr yn ymgydio yn ynni'r afon, ac esgyll melin wynt yn ymfachu wrth bwerau'r awyr, felly y mae'r addolwr yn ymafaelyd yn

"Nerthoedd y tragwyddol Ysbryd
Yn haeddiannau'r dwyfol Iawn,"

nes bod yn eu grym hwy—yn drech na phob gelyn.

27. Dywaid Tagore mai fel Gwyddon y gweithreda Duw gyntaf yn y greadigaeth—ymwneuthur ag egnion ac elfennau; yna fel Pensaer—yn adeiladu bydoedd mawr a bach; ac wedyn fel Bardd—yn prydferthu Ei waith ac addurno y nefoedd â'i ysbryd. A dyna Ei drefn, y mae'n amlwg, gydag eneidiau. Dwg hwy yn gyntaf o dan ddylanwad uniongyrchol yr Ysbryd sydd yn cenhedlu bywyd newydd—"wedi eu geni oddi uchod;" yna eu "seilio mewn cariad" a'u "hadeiladu ar y sancteiddiaf ffydd;" ac wedyn eu "prydferthu ag Iachawdwriaeth." "Gwisgodd fi â gwisgoedd Iachawdwriaeth, gwisgodd fi â mantell cyfiawnder, megis y mae priodfab yn ymwisgo â harddwisg, ac fel yr ymdrwsia priodferch â'i thlysau." Uchelfraint addolwr yn unig yw hyn.

28. Os am ymburo gorfydd inni gerdded llwybrau'r fendith ac oedi'n hir yn y Gwyddfod sanctaidd. Pan deithiem drwy yr Eidal cofiwn inni yn Genoa fynd i mewn i wneuthurfa cerfddelwau, lle gweithiai cannoedd o ddynion ar farmor Carara, mynor gwynna'r byd. Cawodai'r llwch gwyn drwy y lle, a disgyn arnom, onid oeddym yn y man cyn wynned â'r un cerflun; ac ni buasai rhaid inni ond aros yn ddigon hir yn yr unfan na fuasem yn gerflddelwau perffaith ohonom ein hunain! Myned i ganol y gwynder a wneuthom. A dyna y mae'r addolwr yn ei wneuthur —oedi yn y Gwyddfod, yn henfro sancteiddrwydd.

Byw yn yr Haul y mae'r addolwr. Gwelsom yrr o gymylau llwyd-ddu a fugeilid gan y gwynt, ac un ohonynt yn torri'n rhydd oddi wrth y lleill a myned i lwybr yr ymachlud. Ni bu'r haul fawr o dro cyn taflu ei fantell drosto, a pheri iddo adlewyrchu ei ogoniant lliwiog ef ei hun. "Cymdeithas Ei ddioddefiadau Ef" sydd yn sancteiddio dynion; y Machlud mawr a'n gweddnewid.

29. O'i gymharu a'r hynt anorffen sydd o'n blaen, nid yw'r holl symud rhagom a fu yn ein hanes onid cam byr. Y mae gwir nesáu at Dduw, pe ond am un munud, yn cynnwys ynddo'i hunan fwy o gynnydd a pherffeithrwydd nag a wnâi oes o addysg a diwylliant. Llen denau anadl sy rhyngom a'r byd a ddaw, ac nid oes onid trwch anghred rhyngom a Duw.

30. Pwy na châr weled allor yr arogldarth mewn Natur? Fe oeda'r persawr er gwywo o'r blodeuyn, ac erys drachefn yn y cof ar ôl diflannu o'r awyr. Cofiwn fod am oriau mewn gwneuthurfa peraroglau yn Nice, Deheudir Ffrainc, lle y distyllid hanfod rhosynnau a'i gostrelu. Glynai'r persawr hyfryd wrth ein dillad am ddyddiau lawer. "Perarogl Crist" yw addoli, a gŵyr y sawl a ddêl yn agos atom ddarfod inni fod gyda Duw.

31. Er mai ymlusgo weithiau a wna'r oriau, o dan faich trwm o ofid, y mae ynddynt i'r addolwr—fwy o feddwl ac o sylwedd nag sydd yn yr oriau chwim, diofalon. Y mae rhuthrwynt Tachwedd wedi llwyr ddi-ddeilio'r coed sydd yn ffrynt y tŷ, ond er eu diosg o'u gwisg nis dihatrwyd o'u tegwch, canys gwelwn yn y noethni—ac oblegid y noethni—frodwaith cywraint cainc a brigyn, a guddid gan y dail. Datguddio prydferthion newydd a wna'r dymestl i'r sawl sy yng nghymdeithas Crewr y gwynt, a Saer y ddrycin. Gŵyr fod ganddo feddiannau rhy fawr i'w colli byth, a rhy drymion i neb fedru eu dwyn oddi arno. O dan fondo'r deml y câi aderyn y to dŷ a'r wennol nyth iddi; yng nghysgod yr Allor y caiff enaid gweddw hefyd loches glyd.

32. Ped addolem fwy ni'n bydderid gan atgof dadwrdd ddoe ac ni ferwinid ein clustiau gan gythrwfl heddiw; fe ymlifai murmuron melysber y tragwyddol i'n bywyd. "Trwy obaith y'n hiacheir;" a'r dyfodol yw dewis randir ei etifeddiaeth ef. Dyfod ydyw hanes Duw erioed. Fe ddaeth er mwyn dyfod; fe ddaw er mwyn dyfod drachefn. "Er dyddiau tragwyddoldeb y mae Ei fynediad Ef allan;" "Wele Fi yn dyfod;" "Myfi a ddeuaf atoch;" "Myfi a ymwelaf â chwi drachefn;" a dywaid yr Arglwydd Iesu Grist amdano'i hunan wedi Ei ogoneddu, "ac Efe a ddaw ac a wasanaetha arnynt hwy": y mae yr anian "dyfod" yn peri dwyfol aflonyddwch hyd yn oed ar yr Orseddfainc, ac fe edy Ei deyrnwialen ar ôl rywbryd eto er mwyn "dyfod" a "gwasanaethu."

33. Peth tra chyffredin yn ein hanes ydyw i gyfarfyddiad awyddfryd a mwynhad, hiraeth a sylweddoliad droi yn siom: nid a ddisgwyliem a ddigwydd. Eithr nid byth felly ynglŷn â'r awydd am Dduw a'r hiraeth am sancteiddrwydd: y mae'r awydd a'r hiraeth yma yn broffwydol yn wir, yn rhagor na hynny yn rhan o'r mwynhau a'r sylweddoli. Ni'n siomir byth ond gyda'r pethau lleiaf. Diau ddarfod i Dduw drefnu i beidio â chysylltu sicrwydd di-siom wrth y pethau bychain am y gwyddai na allai eu hysgwyddau egwan hwy ddim cynnal baich mor drwm—yr ysigid hwy gan y pwn a'u llethu i'r llawr. Dieithr byth i gri'r dwfn fydd siomedigaeth; y mae gwarant cyflawniad yn nyheadau addolwr.

"A hwy a aethant i fyned allan i Ganan, ac i Ganan y daethant." Aethant . . . daethant. A Duw Ei hunan yw ein Canan ni.

34. Parhawn yn ddigon o blant i ymddiddori mewn nythod adar: yn wir, i chwilio amdanynt fel y gwnaem gynt; ac ni fynnem er dim golli ysfa "hel nythod." Daethom o hyd i un ohonynt y dydd o'r blaen. Mewn twmpath bychan ar y llawr yr oedd y nyth—nyth ehedydd. Efallai mai oherwydd nythu ohono mewn lle mor isel y gall ehedydd esgyn cyfuwch ar ei adain, a chyrraedd nodau mor uchel yn ei gân. Pedwar ŵy oedd yn y nyth. Pan alwasom heibio ym mhen ychydig ddyddiau, nid oedd yno un; ac yn eu lle yr oedd pedwar o gywion bach. Nid oedd argoel plu. Y cwbl a welem oedd croen ac esgyrn, a phigau bychain agored yn estyngedig atom yn disgwyl yn eiddgar am fwyd. Yn lled fuan, aem heibio i'r llecyn wedyn; ac yr oedd y nyth yn wag. Ond gwelem un cyw bach gerllaw imi yn crafu'r ddaear am ei damaid; a'r lleill —bron yn ei ymyl—yn ystwytho'u hesgyll wrth geisio hedfan. Aeth rhai wythnosau heibio heb inni gael cyfle i ymweled â'r llannerch drachefn. Teimlem yn chwith o weld nad oedd aderyn yn y golwg yn unman; eithr ni buom fawr o dro cyn gwybod pa le yr oeddynt, canys clywem nodau perorus yn disgyn o'r awyr las uwch ein pen.

Pa beth yw bywyd?
Posibilrwydd, angen, ymdrech, sylweddoliad.
Posibilrwydd—dyna'r aderyn yn yr ŵy. Angen—dyna'r aderyn yn agoryd ei big.
Ymdrech—dyna'r aderyn yn hel ei fwyd ac yn dysgu ehedeg.
Sylweddoliad—dyna'r aderyn yn yr awyr, wedi dyfod o hyd i'w adenydd, ei fyd a'i gân.

Fe orwedd haen ar haen o bosibilrwydd yn ein natur. Y mae'n bosibl inni hyd yn oed adnabod Duw, ymdebygu Iddo, a byw byth. Cyll pob posibilrwydd arall yn ei amcan eithaf oni thywys ni'n ddigyfeiliorn at Dduw. A deimlwn ni angen y dwfn? A glywn ni islais y dyfnderoedd? Ni wnâ cyflenwi pob angen arall onid cenhedlu anghenion newyddion; canys y mae pob caffael yn gri a phob meddiant gri a phob meddiant yn hiraeth.

Unwaith y daw ymdeimlad fod arnom angen Duw, fe ufuddhawn yn ewyllysgar i alwadau deddf ddiwrthdro "ymdrech"—y ddeddf na pherchenogir dim y bo gwiw ei feddiannu heb blygu ohonom i'w hawdurdod freiniol hi. Er ein bod yn Nhir Imaniwel, neu, efallai, am mai yno yr ydym, y mae'n rhaid inni ymorol am ein cynhaliaeth; a dyfal ymegnïo i esgyn

"Uwchlaw y byd a'i bethau."

O byddwn ymwybodol o'n posibilrwydd gogoneddus drwy ras, o theimlwn angen am Dduw, fe dry'r ymdrech yn hyfrydwch nefol, ac yn wystl a phroffwydoliaeth y cawn—yng nghyflawnder yr amser—sylweddoli'n llawn y bywyd sy fywyd yn wir.

Nid breuddwyd, namyn sylweddoliad yw bywyd yn yr Arglwydd Iesu Grist.

"F'enaid innau yn cael myned
Fel aderyn bach o'r llawr
Ar adenydd cariad cynnes,
Fry i'th fynwes, Iesu mawr."


Nodiadau

[golygu]