Addoli (Y Ddarlith Davies 1935 testun cyfansawdd)
| ← | Addoli (Y Ddarlith Davies 1935 testun cyfansawdd) gan John Gruffydd Moelwyn Hughes (Moelwyn) |
→ |
| I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Addoli (Y Ddarlith Davies 1935) |

Y DDARLITH DAVIES, 1935.
ADDOLI
GAN
J. G. MOELWYN HUGHES.
LIVERPOOL:
YNG NGWASG Y BRYTHON
Hugh Evans a'i Feibion, Cyf., 356-60 Stanley Road
1937
CYFLWYNEDIG
I'M PRIOD A'M PLANT
YN ARWYDD DIOLCH
AM
EU SERCH, EU CYMDEITHAS A'U CYNORTHWY
EXTRACT FROM THE TRUST DEED OF THE "DAVIES LECTURE"
Thomas Davies, of Bootle near Liverpool, being interested in the success and prosperity of the religious denomination known as the
Welsh Calvinistic Methodists,
and being actuated by a desire to perpetuate the memory of his late father
David Davies,
who was for many years a faithful and consistent member of the said denomination, lately resolved to found and endow a Lectureship, to be called
The Davies Lecture,
in connection with the said denomination; and for that purpose, in June, 1893, paid to Trustees, appointed by the General Assembly, the sum of £2,000, to produce annually the sum of £50.
The Lecturer shall be a fully ordained Minister of the Welsh Calvinistic Methodists.
The subject of the Lecture shall be Religion.
The Lecturer shall be allowed considerable latitude in the treatment of his subject. While special attention should be given to the Christian Religion, it is not intended to exclude the subject of other religions.
Such topics as the following may be taken up by the successive Lecturers:
The Definition of Religion.
The Origin, Growth, and Development, together with the Universality of Religion.
The Philosophy of Religion.
The Science of Comparative Religion.
The Jewish Religion in its various Stages.
The Christian Religion in its Developments and Corruptions, in its Doctrines and Practices.
The Relation of Science to Religion.
The Relation of Morality to Religion.
All topics fairly connected with Religion in any of its aspects, whether Theological, Philosophical, or Historical.
The Lecture shall be delivered in each year during the sittings of the General Assembly of the Welsh Calvinistic Methodists, at one of their chapels in the place or town where such sittings shall be held, and on some evenings before the day devoted by the said Assembly to preaching; and the Moderator of the Assembly, or, in his absence, the Acting Moderator, shall preside at the meeting at which the Lecture shall be delivered.
Each Lecturer must, within twelve calendar months after delivering his Lecture, publish at his own expense, in crown 8vo., the Lecture, to take not less than 150 pages, and to be preceded by extracts from this Deed, explaining the foundation and purpose of the Lecture.
RHAGAIR.
Wrth ymaflyd mewn pwnc mawr fel hwn—testun amser a thragwyddoldeb—naturiol a gweddaidd ydyw i ddyn deimlo'i annigonedd a bod yn ymwybodol o amherffeithrwydd ei gyflawniad. Ymgais yw hwn i fwrw bras-olwg ar y maes goludog, a cherdded drwy rai llanerchau y digwydd imi wybod mwyaf amdanynt. Gwelir mai'r safbwynt Cyfriniol yw yr un a ddewisir gennyf; a hyderaf y llwyddir i ddatgan rhywbeth am a welwyd ac a brofwyd a fyddo'n goleuo peth, a thrwy hynny feithrin ysbryd addoli. Dyna fy amcan yn ysgrifennu ac a'm ceidw'n gaeth i fuddioldeb.
Rhag chwyddo maint y llyfr ac i'r pris drwy hynny fynd o gyrraedd y werin y byd drwg sy ohoni, bu'n rhaid imi adael allan dair pennod—Addoli Cyntefig, Addoli'r Byd Paganaidd (Groeg yn bennaf) ac Addoli'r Eglwys Fore. Daw cyfle eto feallai.
Y mae amryw o'r meddyliau wedi ymddangos eisoes yn rhai o'm llyfrau eraill, ac yn y Goleuad a'r Drysorfa; ond diau y bydd lliw newydd arnynt, a rhyw gymaint o ystyr newydd ynddynt hefyd fe ddichon, o'u caffael fel hyn mewn cyflead gwahanol.
Nid hwyrach y gofynnir, Paham y dewisaf y testun hwn yn hytrach nag un o bynciau mawr y dydd megis anghyflogaeth, gorthrwm cyfalaf, heddwch rhyngwladol, ac ymlaen? Onid gwrthdystio'n ymarferol yn erbyn anghyfiawnder, a gwrthryfela yn erbyn gormes ydyw ein prif rwymedigaeth os ydym â'n bryd ar wella cymdeithas? A dyma f'atebiad: Gorfydd i Eglwys Crist, os myn gyflawni unrhyw orchwyl, fod yn fyw ac ar ddihun; a dibynna'i bywyd yn llwyr ar ei bod mewn cyswllt agos a chyson â Duw. Onis adfeddiennir yr ysbryd addoli sydd yngholl yn ein bywyd personol a chymdeithasol ofer fydd ein hymdrechion ymhlaid unrhyw ddiwygiad ynglŷn â'r cysegr neu'r digysegr; ac yn raddol tywyllir ein deall fel na welwn beth yw anghenion eglwys a byd, a dirymusir ein braich fel na allwn ymegnïo i bwrpas ymhlaid y da.
I wynebu "pynciau'r dydd" a'u dadrys y mae'n rhaid inni wrth fwy o Dduw a thragwyddoldeb yn ein bywyd; a chan mai problemau moesol, ysbrydol yn y bôn ydyw pob problem yr wyf yn bwrw bod yn rhaid ein dwyn i iawn berthynas â Duw mewn addoliad cyn y digwydd dim gwellhad a fo o werth parhaol. Y peth pwysicaf yw edfryd y goruwchnaturiol i'n bywyd. Mynnai Spengler, yn union wedi'r Rhyfel Mawr, i'r Almaenwyr gyfnewid y celfyddydau cain am forwriaeth, y crefftau am filitariaeth, a chrefydd am wleidyddiaeth. Bu'r genedl yn ddigon ynfyd i wrando arno ef a gau broffwydi eraill, a gwyddom beth fu'r canlyniad. Er bod gan yr Almaen ei hawliau cyfiawn ar genhedloedd eraill, wedi gwadiad ymarferol o Gristnogaeth, a gosod cenedlgarwch cul a gwleidyddiaeth ar yr orsedd yn lle addoli nid oedd dim i'w ddisgwyl amgen na Hitleriaeth wallgof; ac ni bydd y gyfundrefn fawr o dro cyn myned â'i phen iddi gan nad oes dim a saif ond a fo wedi i adeiladu ar y Sylfaen a osodwyd gan y Tad. Cyfiawnder yn unig a ddiogela ac a ddyrchaif genedl.
Dyledwr ydwyf i laweroedd—yn wir, i fwy nag a allaf gofìo, chwaethach enwi, canys yr wyf wedi bod yn derbyn yn gyson drwy gydol oes. Pa beth sy gennyf a'r nas derbyniais? Yn niwedd y llyfr nodaf y rhai yr wyf drymaf yn eu dyled. Gan gydnabod fy rhwymedigaeth iddynt oll dymunaf yn arbennig ddiolch yn wresog i gyfeillion am lawer o oleuni a gafwyd mewn awgrym a chyngor.
- 10 Reedville,
- Birkenhead,
- Mawrth 20, 1937.
- Birkenhead,
CYNNWYS
Y Ddarlith Davies
Rhagair
Cynnwys
I. Beth yw Addoli?
II. Cyd Addoli
III. Addoli'r Crist
IV. Crist yn Addoli
V. Y Ddwy Ffrwd: Rhoddi a Derbyn
VI. Distawrwydd
VII. Y Cymun Bendigaid
VIII. Yr Anffyddiwr
IX. Rhwygo'r Nefoedd
X. Profiad Personol
XI. Cyfriniaeth
XII. Cronglwyd y Nef
XIII. Datguddiad Arbennig Crist ar Addoli
XIV. Awgrymiadau Ymarferol
XV. Yr Addolwr yn Deml
Rhestr o Awduriaid
PENNOD I
BETH YW ADDOLI?
i
Yn yr amrywiaeth geiriau am addoli a welir mewn gwananol ieithoedd cawn brawf o'r anhawster a deimlid yn yr ymdrech i geisio diffinio rialiti ysbrydol yn nhermau iaith.
[1] Y gair yn Hebraeg a gyfieithir gennym ni yn addoli yw Hishtahaüah, yn golygu "syrthio i lawr," "ymostwng," "ymgreinio.' Defnyddir ef am wrogaeth deiliaid i bennaeth neu benadur, a hefyd am addolwyr Iafe, a ymostyngent â'u hwynebau ar y llawr yng nghynteddoedd y deml. "Deuwch, addolwn ac ymgrymwn, gostyngwn ar ein gliniau ger bron yr Arglwydd, ein Gwneuthurwr," Salm 95, 6. Yn Salm 99, 5, cawn yr ymadrodd "ymgrymwch o flaen ei ystôl droed Ef,' sef cyfeiriad at dduil deiliaid o ddangos parch i frenin a eisteddai ar orsedd uchel ond â'i draed yn gorffwys ar ystôl. Addoli yw gwladeiddio mewn gwrogaeth.
Ceir hefyd abad—"gwasanaethu" ac ebed—"gwas": y rhai hyn eto yn cael eu defnyddio am berthynas dyn â'i frenin a'i ymddygiad ato, yn ogystal ag am addoli Iafe. Defnyddir y gair "gwas" weithiau ynglŷn ag addolwyr yn gyffredin, a phryd arall am un neu ragor yr ymddiriedir iddynt neges neu waith arbennig, er enghraifft, "fy ngweision, y proffwydi."
Gwelwn eto y syniad o addoli mewn geiriau tarddedig o'r gwreiddair yārē, sef "ofni"—hynny yw, yn yr ystyr o barchedigaeth. "Ofn yr Arglwydd" yw gair yr Hebrewr am grefydd; ac addolwyr yw y sawl "a'u hofnant Ef."
Y mae mewn Groeg clasurol a Groeg y Testament Newydd liaws o eiriau am addoli:
ara: "gweddi," "adduned," "melltith;" ond yn y Testament Newydd ei unig ystyr yw "melltith," Rhuf. 3, 14; euchesthai, prosenchesthai: "gweddio," "dymuno," "addunedu," "ymffrostio." Yn y Testament Newydd "gweddio," Math. 6, 9. Ceir yn y Testament Newydd amryw eiriau eraill yn dynodi "gweddio," "ymbilio," "gofyn mewn gweddi," megis aiteisthai, deisthai, erotan; latreuein: "gwneud gwaith gwas cyflog," "bod yn ddarostyngedig i feistr," "bod yn gaethwas," "ufuddhau," "addoli'r duwiau â gweddïau ac offrymau." Y mae yn y gair awgrym o addoliad gwaith, fel yn y Lladin laborare est orare. Yn y Testament Newydd "gwasanaethu," "addoli." Gweler Act. 24, 14; neocoros: "ysgubwr teml," "ceidwad man neu beth cysegredig." Rhoddid ystyr anrhydeddus i'r swydd yng nghrefydd y Groegiaid. Yn Act. 19, 35, sonnir am "ddinas yr Effesiaid yn addoli y dduwies fawr Diana"—yn llythrennol "yn geidwad teml Artemis fawr;" proscunein: "gosod y llaw ar y genau i ddangos parch" (cunein—cusanu), ac ymhlith cenhedloedd y Dwyrain, "penlinio," "ymgrymu." Yn y Testament Newydd "ymgrymu," "penlinio," "addoli." "Addolodd Comelius Pedr," Act. 10, 25; "addolasant yn y mynydd hwn," Ioan 4, 20; seb: "parchu," ofni," arfer duwioldeb;" a gair cyfansawdd eu yn dda + seb—sebazesthai, sebesthai, sef "parchu," addoli;" eusebein: "dangos dyledus barch i dduw a dyn;" eusebeia: "parchedigaeth," "duwioldeb." Felly hefyd yn y Testament Newydd, e.e., 2 Tim. 3, 5, ac Act. 13, 43; thresceia: "addoliad," "ffurf-wasanaeth." Yn y Testament Newydd "gwasanaeth i Dduw;" "crefydd," Act. 26, 5.
Ceir yn y geiriau Lladin olud o awgrymiadau. Orare: "llefaru," "cyfarch," "gofyn," "ymbilio," "gweddïo;" multo deos orans—Fersil; orator: "llefarwr cyhoeddus;" oratio: "araith," "huodledd," ac mewn Lladin Eglwysig "gweddi;" ad-orare: "cyfarch rhywun â chais," ac yn fynych addoli; venerari: "parchu," "addoli;" precari: "gofyn," "gweddïo;" prex: "arch," "gweddi;" religio: "cydwybodolrwydd," "parchedig ofn," "parch i'r duwiau," "gofal am ddyletswyddau a ffurfiau crefydd" (nid rhwymo, fel y barna rhai, ydyw ystyr gyntefig y gair); cultus: "meithrin y tir," "triniaeth y meysydd ŷd, etc.;" yna "addysg," "disgyblaeth," dull o fyw," "addurn," "addoliad;" cultor: "garddwr," "addolwr;" "cultor deorum"—"addolwr y duwiau" (Horas); Denerari: "parchu," "addoli," "gweddïo;" pius (ansoddair): "cyfiawn," "rhinweddol," sef am un sydd yn gwneud ei ddyletswydd tuag at y duwiau a thuag at ddyn; y duwiol. Felly'r enw pietas: "cyfiawnder," "ffyddlondeb i ddyletswydd;" "Deos placatos pietas efficiet"—"gwna duwioldeb y duwiau yn fodlon"—Cicero.
Prif air Almaeneg am addoli ydyw Gottesdienst—gwasanaeth i Dduw; a chaiff y Sais y gair worship o worth-ship, a'r pwyslais eglur ar werth, teilyngdod ac arbenigrwydd y gwrthrych a addolir.
O ba le y daeth y gair Cymraeg "addoli"? Barna T. Gwynn Jones, Ifor Williams a J. Lloyd Jones nad o'r Lladin adoles y deilliodd, am fod y ffurf Lydaweg azeuli yn erbyn hyn yn bendant ac yn profì bod â hir ynddo ar un tro. Eu barn hwy, ill tri, ydyw mai o'r Lladin adoro y tarddodd—adoro wedi mynd dan ddylanwad ioli Geltig, sef berf sydd yn golygu "canmol," "parchu," "addoli;" a chadarnheir eu barn unfryd hwy gan Pedersen a Loth. Trydydd person unigol ioli yw iawl, a'r trydydd lluosog iolant. Ceir iawl yn eiriawl, a roes eiriol, a hefyd yng Nghymraeg Canol a roes ymioli ac ymeiriawl. Pe bai addoli, yn Geltig ei hanfod ac o wreiddyn ioli, eiddiawl ac eiddioli fyddai ei ffurf. Nid yw'n anodd gwybod sut y troes r yn adoro yn l yn y gair gan fod y cyfnewid yma yn beth digon cyffredin, er enghraifft—fesur, fesul; Chwefrol, Chwefror; ac yngenir colonel yn cyrnel. Ni cheir mo'r gair addoli yn Llyfr Taliesin, ond ceir ef mewn gwahanol ffurfiau laweroedd o weithiau yn y Llyfr Coch a'r Myfyrian Archaeology—yr enghreifftiau i gyd o waith Beirdd y Tywysogion, ac fe roddir i'r gair bob tro syniadau Eglwys Gatholig y cyfnod—plesio Duw. Hyd y gwyddom, nid yw y gair ymysg y pethau cynaraf oll a gadwyd. Yn yr englymon yn y Juvenius Codex (y nawfed ganrif) ceir y gair Celtig molina (Cymraeg, moli) ddwy waith. Bid siwr, ni phrawf hyn ddim na allai'r gair addoli fod ar lafar ymhell cyn bod mewn ysgrif, ac mae yn lled sicr mai felly yr oedd. Yn y Gododdin cyfeirir at "lanneu a phenydyaw" ochr yn ochr â hen eiriau yn sôn am "folud Nyfed" ac am ddwyn tân at aberth pan oedd y gelyn wedi trechu'r Brythoniaid. Lladin wedi ei Geltigo yw'r gair "addoli."
II
Y mae geirofyddiaeth yn ddiddorol ac awgrymog, ond ni ellir adeiladu dim ar ei thywod hi—yr iengaf o r gwyddorau. Cais meddyleg ein dysgu pa fodd y daeth dyn o hyd i'r syniad am addoli, ond y mae ei dysg yn gwbl annigonol fel esboniad ar y modd y tarddodd: nid oes cytsain yn nhystiolaeth meddylegwyr. Dengys hanes, yn arbennig hanes Eglwys Crist, pa fodd y daeth y syniad i olygu yr hyn a gynhwysir yn y gair heddiw; ac yma y gwelwn y symbolau drwy y rhai y daeth dynion i fynegi i'w gilydd eu profiad o'r dwyfol. Cyfreithlonir ni gan hanes i ddatgan heb un amheuaeth fod addoli yn cynnwys yr elfennau o ymostyngiad, parchedig ofn, ymddiried, diolch, mawl, llawenydd, erfyniad, myfyrdod, distawrwydd, canoli'r meddwl ar Dduw, ymorffwysiad, dyhead, cymundeb, eiriolaeth, gwasanaeth, aberth a hunan-aberth.
III
Drwy brofiad personol yn unig yr enillwn sicrwydd o rialiti y Gwrthrych a addolir gennym. I wybod beth yw addoliad y mae'n rhaid addoli. Gall dyn fod yn gyfarwydd ar dir hanes, rhesymeg ac athroniaeth â'r syniad o atyniad, ond yr unig ffordd i gael argyhoeddiad personol o wirionedd deddf atyniad ydyw symud ohonom gan ddylanwad ei grym. Felly gydag addoliad. Nid oes a ŵyr beth ydyw ond a addolo. Rhydd Otto bwys neilltuol ar yr elfen uwchfodol mewn crefydd. Gwrthdystia yn erbyn y duedd i resymoli bywyd. "Crefydd," ebr ef, "ydyw ymateb dyn i'r Dirgelwch Eithaf, Cyfangwbl—y Rialiti Mawr. . . . Heb y syniad o'r goruwchnaturiol ni ddichon iddi barhau." Y mae addoli felly yn hanfodol i fywyd crefydd. Heb yr ymwybod o.Dduw nid yw yn bod inni.
Er yn cydnabod bod addoli'n rhwymedigaeth, myn Adams Brown mai braint ydyw'n bennaf, nid dyletswydd, a thrwy hyn caiff afael ar egwyddor bwysig —y mae addoli'n rhywbeth rhydd, naturiol, gwirfoddol: nid dwfr pwmp mono ond bwrlwm ffynnon. Y mae cyflwyno rhodd yn un o anhepgorion y weithred o addoli; ac yn ôl Paul drwy aberth y cyflwynir yr addoliad perffaith: "yr wyf yn atolwg arnoch, frodyr, er trugareddau Duw roddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw, santaidd, cymeradwy, yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi"—neu yn well, "eich addoliad ysbrydol." "Aberthau Duw ydynt ysbryd cystuddiedig; calon ddrylliog gystuddiedig o Dduw ni ddirmygi." Nid aberthau er hynny sydd yn cyfansoddi addoliad: actau o addoliad ydynt. Y mae addoli yn rhywbeth amgen.
"Addoli," ebe Grensted, "yw'r unig ddiffiniad ymarferol o Dduw." Drwy brofiad personol ohono yn unig y dygir dyn i'w adnabod, a thrwy'r addoli y dyfnheir yr adnabod. Yr addolwr felly yw yr unig un a fedd hawl a chymhwyster i'w ddisgrifio. "Trwy gymundeb ag Ef caiff brofiad o ddibyniad a ddatgudd iddo yr Un mwy nag ef; profiad o ryddid a'i gwna yn fod personol; profiad o gyfrifoldeb a'i gwna'n ymwybodol o ddeddf cyfiawnder, a'i fod yntau'n ddarostyngedig iddi, ac o Farnwr y gorfydd iddo sefyll ger Ei fron i roddi cyfrif; y profiad o ryfeddod wyneb yn wyneb â dirgelwch anhydraidd bod a bywyd; y profiad fod yna Un yn cydymdeimlo ag ef ac yn ateb ei holl raid."
Yn ôl yr athronydd, Duw yw y Rialiti Eithaf, Cyfangwbl i feddwl. Y Rialiti i Plato yw yr idea, i Spinoza sylwedd ydyw, i Schopenhauer yr ewyllys anymwybodol, i Herbert Spencer yr anwybyddadwy, i Bergson y bywyd creadigol, di-dor. Ond i'r dyn crefyddol, Gwrthrych i'w addoli ydyw Duw; ac o ymarfer ag addoli fe ymdawdd syniad yr athronydd am Dduw fel Rialiti a syniad y dyn crefyddol amdano fel Gwrthrych addoliadi'w'gilydd, nes bod yn un: y Duw a addolir yw y Rialiti.
PENNOD II CYD-ADDOLI
ER bod dyn yn unigolyn y mae o'r cychwyn yn cael ei amodi gan gymdeithas. Mewn teulu ac i deulu y'i genir yn naturiol ac ysbrydol.
Y mae i grefydd ei hochr bersonol a'i hochr gymdeithasol. Er y gwahaniaeth hanfodol rhwng y ddwy elfen perthynant i'w gilydd yn anwahanadwy, a ffurfio rhannau o'r un a'r unrhyw brofiad. Nid yw dyn i addoli hyd yn oed ar ei ben ei hun heb ddwyn ei frodyr gydag ef yn ei feddwl a'i galon. "Ein Tad," nid fy Nhad yw'r cyfarchiad yn y weddi berffaith y rhydd yr Arglwydd Iesu inni batrwm ohoni.
Drwy addoli cyhoedd yr Eglwys y mynega Crist Ef Ei hun. Nid digon inni yw credoau, na gwybod hanes eu ffurfiad, na bod yn abl i'w helfennu; gorfydd inni gyd-addoli, oblegid dyma'r prif gyfrwng i ddal gafael yn y gwirionedd, a myned i mewn i'w gynnwys. Unwaith y dechreuo'r Ysbryd Glân weithredu'n gadwedigol mewn dyn, y mae yn cynhyrchu ynddo ysbryd gwaith er mwyn arall; a dodir ar ei ysbryd ddelw y Cariad di-hunan o'r hwn y tardd ein Hiachawdwriaeth bersonol—mewn gair, rhoddir bod yn ei enaid i egnïon cymdeithasol. Drwy gydymwneuthur â'r Gair sanctaidd sydd yn cynnwys y datguddiad, drwy'r Cymun Bendigaid sydd yn arwydd-lunio'r Crist a'i dug inni a dull Ei ddyfod, a thrwy gydweddïo, fe lif dylanwadau meddyliol, ysbrydol i'n bywyd a fydd yn ei ddyrchafu, ei ehangu a'i ddyfnhau, ac yn ein huno a'n gilydd, fel y gallom ddywedyd, "a'n cymdeithas ni yn wir sydd gyda'r Tad a chyda'i Fab Ef, Iesu Grist."
Y mae'r argraffiadau a wneir gan Dduw ar ddyn yn y gymdeithas, a'r mynegiad a rydd yntau iddynt, yn rhywbeth tra gwahanol i'r argraffiadau a wneir arno ar ei ben ei hun a'i fynegiadau yntau. Er yr addawa Crist fod gyda'i ddisgyblion bob amser, ar ddau amgylchiad yn unig y dywaid: "yno yr ydwyf" ac "yr wyf Fi gyda chwi," sef pan ufuddhao dynion i'r comisiwn mawr i bregethu'r Efengyl, a phan ymgynhullo dau neu dri yn Ei enw. Y mae'n rhaid bod rhywbeth arbennig yn Ei bresenoldeb yr adegau hyn neu nid oes ystyr i'w eiriau. Amlwg yw fod i'w bresenoldeb wedd neilltuol pan fo dyn ar lwybr ufudd-dod yn "gwneuthur disgyblion o'r holl genhedloedd," a phan fo yng nghymdeithas ei gyd-ddisgyblion yn cyd-addoli. Mewn un ystyr y mae Ef yn bresennol ymhob dyn, duwiol ac annuwiol fel ei gilydd,—Ef yw ei hanfod ac a'i cynnal. Ond y mae'n bresennol mewn ystyr wahanol yng nghalon y credadun—yn bresennol drwy ras; ac yn ôl Ei eiriau Ef Ei hun, y mae yma rhyw bresenoldeb gwahanol a mwy neilltuol eto pan fo'r disgyblion wedi dyfod ynghyd yn Ei enw. Feallai mai yr ystyr yw mai o dan yr amodau hyn y deuant i brofiad o'r presenoldeb, a bod rhyw ymwybod o'i agosrwydd yn dyfod yn eiddo iddynt pan fo eraill hefyd yn cyd-wybod—gwybodaeth a phrofiad nas ceffir pan fyddont ar wahan. Y mae un peth yn sicr—nid yr un peth yw credu bod Crist yn bresennol gyda ni a gwybod ei fod. Y mae cyffyrddiadau dwyfol ar ddynion a fo yn y gymdeithas, a'u hymateb hwythau i'r cyfryw gyffyrddiadau, am ryw reswm sy ddirgelwch i ni, yn troi yn gyfrwng trosglwyddiad grasusau ysbrydol oddi wrth Dduw i ddyn, ac oddi wrth ddynion i'w gilydd.
Gwahaniaetha'r addoliad a gaiff yr Arglwydd yn y gymdeithas oddi wrth yr addoliad a rydd person unigol iddo. Y mae i bob personoliaeth ei lliw ei hun, sydd yn brydferth a gwerthfawr, ond y mae rhywbeth sy harddach a gwerthfawrocach—y lliwiau'n toddi i'w gilydd mewn undeb; ac ni welir byth mo'r tegwch hwn yn ei geinder llawn oddieithr pan gyd-addoler. Dyma'r pryd y mae'r seithliw yn ffurfio'r pelydryn gwyn perffaith. A diau mai gwell gan Awdur pob cynghanedd y cord na'r nodyn sengl. "Fel y byddont oll yn un."
Drwy "gyd-addoli," medd Harnack, "y mynegir, y meithrinir ac y diogelir y gydwybod gymdeithasol"—y grym mwyaf nerthol o bob grym yn y byd, a'r unig un anorthrech.
Dengys L. S. Thornton mor briodol y gellir defnyddio damcaniaethau diweddar datblygiad i egluro yr Ymgnawdoliad a'r Eglwys. Yng Nghrist ac yn yr Eglwys yr hon yw Ei gorff Ef—fe ddaeth y peth hwnnw i mewn i fywyd dynoliaeth drwy yr hwn y gall Duw Ei fynegi Ei hun ar wastad newydd a gwell. Drwy Ei "gorff" y gwelir Ef, y clywn Ei lais, y teimlwn gyffyrddiad Ei law ac y symuda'n weithredol atom.
Fe berthyn i ddyn arallrwydd—ef ei hun yw ac nid arall. Eto fe gais arall yn ddyn a Duw. Dyna'i reddf. Yr ydym i garu'n cymydog fel ni ein hunain —nid yn ogystal ag y carwn ein hunain eithr fel rhan ohonom. Nid yw dyn yn bod yn gyflawn (os o gwbl) ar wahan i'w gyd-ddynion. Mewn cymdeithas yr ydym yn byw ein bywyd personol. Fe ddechreua rhwng plentyn a'i fam a theulu'r tŷ, ac yna fe ymuna â rhai y tu allan i'r aelwyd. Yn lle dywedyd gyda Descartes, "Meddyliaf, felly yr wyf yn bod," buasem yn nes i'n lle wrth ddywedyd "Yr wyf yn ymateb (respond), felly yr wyf yn bod."
Yng nghymdeithas ei gilydd y dysgwyd y deuddeg; ar bobl a oedd yn gytûn yn yr un lle yn cyd-addoli y disgynnodd yr Ysbryd Glân; mewn cyfarfod gweddi y cychwynnodd y genhadaeth gyntaf at y cenhedloedd. Wrth gyd-addoli y cawn y cyfle pennaf i dystio i Grist, i gyfnewid meddyliau â'n gilydd, i gydymddŵyn a chydymdeimlo, i ddryllio rhagfarnau personol, ac i soddi'r budd personol yn lles y lliaws.
Cais rhai ddibrisio cyd-addoli trwy edliw, ac nid heb achos, fod llawer o'r sawl a gyd-gynnull yn fwy nodedig am eu presenoldeb yn y Tŷ nag am eu hymarweddiad diargyhoedd, eu haelioni, eu cymwynasgarwch a'u tosturi; eithr nid profi anfuddioldeb cydaddoli a wna hyn ond yn hytrach profi'r diffyg didwylledd a berthyn i rai, a dangos bod morynion ffôl yng nghymdeithas y morynion call, efrau ymhlith y gwenith, a rhagrithwyr ym mysg addolwyr.
PENNOD III ADDOLI'R CRIST
FEL Gwrthrych addoliad y dygir yr Arglwydd Iesu Grist gyntaf ger ein bron gan yr Efengylwyr: "Duw gyda ni," "dechrau Efengyl Iesu Grist, Fab Duw," "Tydi yw Fy annwyl Fab yn yr hwn y'm bodlonwyd," "Hwn fydd mawr ac a elwir yn Fab y Goruchaf," "yn y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair."
Beth bynnag oedd y cyrch yr anelent ato wrth ysgrifennu, a'r pwrpas gwahanol a oedd ganddynt pan groniclid peth o'i hanes, cytunent, ill pedwar, yn hyn—Ei fod yn Fab Duw, ac mai'r ffaith honno a hawliai y lle blaenaf yn Ei hanes. Dyma paham yr oedant cyhyd yng nghwmni'r ffaith, ac y manylant.
Gwelwn Simeon, angylion, doethion a bugeiliaid yn talu gwrogaeth iddo na weddai onid i Berson anfeidrol; ac fe'i haddolent oblegid yr hyn ydoedd ynddo Ei hun, canys nid oedd eto wedi athrawiaethu, ni ddiferasai gras dros Ei wefusau, ni chyflawnasai wyrthiau o arwyddion a rhyfeddodau, ni chymwynasasai i drueiniaid, na'i gyfenwi Ei hunan yn awdur Iachawdwriaeth. Cawsant hwy—yr angylion, Simeon, y doethion a'r bugeiliaid—ryw gipolwg arno ar gychwyn Ei hynt ddaearol, drwy fflach o oleuni oddi uchod, na ddaeth i ran y disgyblion ond yn raddol, araf—rhyw flaenbrawf megis, o'r adnabyddiaeth a gafodd Pedr ohono'n ddiweddarach pan dystiai mai Ef oedd y Crist, Mab y Duw byw, ac y dywedai'r Iesu nad drwy gig a gwaed y gwybu ef hynny, eithr drwy ddatguddiad uniongyrchol oddi wrth Ei Dad.
Gwir mai "dyn bach" yn y preseb oedd Ef y pryd hwn, eithr gwybuwyd ganddynt mai Mab Duw ydoedd. Lle garw, oer oedd llety'r anifail, ond yr oedd tynerwch a gwres mynwes mam rhyngddo a'r gerwindeb a'r oerni—yn ddrych o'r fynwes arall y dywedai Crist yn ddiweddarach Ei fod Ef ynddi hyd yn oed yn nyddiau Ei gnawd: "Yr unig-anedig Fab yr hwn sydd ym mynwes y Tad."
Nid yn lle Duw yr addolid Crist gan y disgyblion. Gweled Duw ynddo a wnaent; ac addolent Ef am y gwyddent Ei fod yn Fab Duw ac oblegid hynny yn Waredwr.
I ddechrau, cyfareddwyd y disgyblion gan Ei onestrwydd a'i dynerwch yn wir meistrolwyd hwy ganddo. Ni welsent cyn hyn y fath symledd dihoced, di-dderbyn-wyneb, na'r fath dirionwch twym-galon; ond o fyw yn Ei gymdeithas daethant i wybod bod yr onestrwydd yn fwy nag onestrwydd ei fod yn wirionedd; a bod y mwynder yn rhagor na mwynder—ei fod yn ras; onid aeth meistrolaeth onestrwydd yn awdurdod gwirionedd, a meistrolaeth tiriondeb yn awdurdod gras. Arweiniwyd hwy trwy ffyddlondeb i'r hyn a wyddent nes dyfod ohonynt i'w adnabod yn Fab Duw, a throes eu hymlyniad wrtho yn addoliad. Tyfodd yn eu golwg o fod yn ddyn da i fod yn "broffwyd," yn "Feseia," "yn Arglwydd Iesu," yn "Un a wnaeth Duw yn Arglwydd ac yn Grist," yn "Arglwydd a Duw;" a phan welai Ioan Ef yn y Nef, fe'i gwelai yn cael Ei addoli gan bawb fel Oen Duw: "Teilwng yw yr Oen sydd wedi Ei ladd, i dderbyn gallu, a chyfoeth, a doethineb, a chadernid, ac anrhydedd, a gogoniant, a bendith. A phob peth creedig sydd yn y Nef, ac ar y ddaear, a than y ddaear, ac ar y môr, a glywais i yn dywedyd, I'r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc ac i'r Oen y byddo y fendith, a'r anrhydedd, a'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. A dywedodd y pedwar creadur byw, Amen. A syrthiodd yr henuriaid i lawr ac a addolasant."
Disgwyliai a hawliai Crist addoliad Ei ddisgyblion, ac fe'i swcrai, fel y dengys Ei ymddiddanion â hwy ac â'r dall a'r newynog, y Wraig o Samaria, Mair a Martha, Nicodemus, Nathanael ac eraill. Cymerth le a swyddogaeth Duw fel Maddeuwr ddwywaith o leiaf, sef wrth faddau i'r claf o'r parlys a'r wraig a oedd bechadures.
Tystiai mai amdano Ef y llefarasai Moses, a'i fod cyn Abraham. Wrth esbonio Moses a'r proffwydi i'r ddau ddisgybl ar y ffordd tuag Emaus, Ef Ei hun a welai yn yr holl Ysgrythurau. Yn yr wythfed Salm (o'r hon y dyfynna) datgenid molawd godidog i Dduw Israel y Duw oedd yn preswylio tragwyddoldeb a'i ogoniant uwch y nefoedd; eithr Ef Ei hun a welai'r Arglwydd Iesu ynddi. "O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth o achos Dy elynion, i ostegu y gelyn a'r ymddialydd." Pan lefai'r plant yn y deml, a'r archoffeiriaid yn grwgnach a gwarafun, dyma eiriau'r lesu: "Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?" Hawliai yr un a'r unrhyw addoliad â Duw; gwelai addaster addoliad Duw Israel iddo Ef Ei hun; cydnabyddai fod addoliad y plant iddo Ef yn berffeithrwydd moliant; a bod y cyfryw foliant yn cyfrannu nerth iddo.
PENNOD IV CRIST YN ADDOLI
MYN rhai nad oes ystyr mewn sôn am Berson dwyfol yn addoli Person dwyfol arall, ac felly nad addolai Iesu Grist. Ond y gwir yw nad oes neb ond y Mab a ddichon addoli'r Tad yn llawn ystyr y gair. "Ni edwyn neb y Tad ond y Mab a'r hwn yr ewyllysio y Mab Ei ddatguddio iddo;" eithr nid yw dywedyd bod dyn yn cael "datguddiad" yn golygu ei fod drwy hynny yn cael yr un adnabyddiaeth o Dduw ag a fedd Crist: rhannol o raid fydd ein hadnabyddiaeth ni, a bychan, terfynedig yn ymyl Ei adnabyddiaeth gyflawn Ef. Meidrol ydym ac a fyddwn. Nid oes onid anfeidroldeb a fedr ddirnad ac amgyffred anfeidroldeb. Gan mai Duw yn unig a ddichon weled Duw yn llawn, Ef yn unig a fedr addoli yn berffaith. Ac ni allwn ni, ddynion, roddi iddo hyd yn oed ein haddoliad amherffaith ar wahan i'r dwyfol sydd ynom. Y dwyfol yn unig sydd yn addoli: un o ddoniau Duw ydyw, a gweithrediad Ei ysbryd Ef ydyw addoliad lle bynnag y'i caffer.
Y mae'r Personau dwyfol yn addoli Ei gilydd. Dyna un ystyr, onid y pennaf, i'r ymadroddion: "Hwn yw Fy annwyl Fab yn yr Hwn y'm bodlonwyd;" "Mi a'th ogoneddais ac a'th ogoneddaf drachefn;" "Efe a gymer o'r eiddof ac a'i mynega i chwi."
Yr Arglwydd Iesu Grist oedd yr unig addolwr perffaith a fu yn y byd erioed, nid yn unig oblegid Ei fod yn Fab ond oblegid fod Ei addoliad Ef y math uchaf o addoli—addoli aberthol ydoedd: yr oedd Ei fywyd a'i farw yn addoliad.
Pan addolai trwy weddïo, yr oedd Ei weddi yn rhagor na chymundeb â'i Dad ac yn fwy na chyfranogiad ohono. Mynegiad o'i gariad at Ei Dad ac at fyd colledig, a ffurf ar y cariad hwnnw oedd Ei ddeisyfiadau a'i erfyniadau oll. Gafaelai yn Ei Dad ag angerdd anfeidrol ddiollwng, a chydiai mewn dynion gyda'r un angerdd: "megis y carodd y Tad Fi, felly y cerais innau chwithau"—yr un grym oedd yng Nghariad y Tad at y Mab ag a oedd yng Nghariad y Mab at bechadur. Curai Ei galon mewn cydymdeimlad â Duw sanctaidd, a'r un pryd mewn cydymdeimlad â dyn halog. Cariad oedd Ei weddïau. Fe ddiolchai i'w Dad, ac fe'i moliannai am Ei fod yn Ei garu. Os byddwn yn caru gwrthrych yr ydym yn sicr o'i ganmol. Gofer cariad ydyw mawl—serch yn llifo drosodd; a dyna paham y molai Crist Ei Dad—Ei garu a wnâi. Rhosyn gwyn ydyw cariad ac iddo beraroglau. Enw'r persawr yw mawl. A chariad at ddynion oedd Ei weddïau drostynt—dros Pedr, dros Ei elynion, dros Ei lofruddion, ac yn arbennig yn y Weddi fawr archoffeiriadol.
Heblaw hyn, yr oedd Ei weddïau yn fynegiad o'i addoli aberthol, ac yn ffurf arno, oblegid dros eraill y gweddïai. Gydag eithriad o ryw dro neu ddau, ni cheisiai odid ddim iddo'i hun: gogoniant Ei Dad a sancteiddiad Ei bobl a âi a'i fryd yn llwyr. Rhoddai Ei Ewyllys i fyny i Ewyllys Ei Dad ar hyd y daith, nes bod yn briodol dywedyd ddarfod iddo farw laweroedd o weithiau cyn cyrraedd y Groes, a chyfiawnhau gwirionedd Ei dystiolaeth pan ddywedai—cyn marw ohono ar Galfaria—"Mi a gwblheais y gwaith a roddaist i Mi i'w wneuthur." Aberth, hunan—aberth oedd pob un o'i weddïau.
Hyfforddiesid Ef yn y synagog yn hanes Abraham yn aberthu Isac, hanes oen y Pasg, hanes Moses, Dafydd, Solomon, Samuel, Elias, Eseia, Jeremeia, Eseciel ac eraill a'u hanes yn troi o gwmpas addoli: dyna a'i gwnâi yr hyn oeddynt eu perthynas â'r tabernacl neu y deml. A derbyniodd Crist eu hesiampl. Yn y synagog y'i dysgid, eithr gwybu yn gynnar fod yn rhaid wrth deml i gyflwyno'n gyson i'r genedl a chadw ger bron ei llygad y syniad sylfaenol, llywodraethol o wasanaeth aberthol—rhag—gysgod Ei aberth iawnol Ef Ei hun. Yn ddeuddeng mlwydd oed fe'i gwelwn yn y deml—calon addoliad y genedl—yn cydymffurfio ag addoliad arbennig yr wyl, ac yn addoli hefyd drwy wrando ac ymofyn. Gwyliau o addoliad oedd y gwyliau Iddewig, a'u sail mewn hanes—gwyliau i atgoffa'n ddiolchus am waredigaethau cenedlaethol, a bendigo'r Arglwydd oblegid y bendithion a ddaethai i ran y genedl. Dyna fuont i Israel gynt, dyna oeddynt yn amser Crist ac iddo Ef Ei hun.
Fe fawrygai'r deml. Cydnabyddai safle, cyfrifoldeb ac awdurdod yr offeiriaid drwy orchymyn i'r gwahangleifion a iachesid eu dangos eu hunain iddynt; ac nid condemnio'r offeiriaid a wnâi, oblegid mai offeiriaid oeddynt, eithr yn hytrach am nad oeddynt yn ddigon o offeiriaid. Tŷ Ei Dad oedd y deml iddo, a phethau a berthynai i'w Dad oedd ei gwasanaeth a'i defodau—Tŷ Ei Dad a Thŷ gweddi i'r holl genhedloedd. Nid condemnio addoliad y deml a wnâi, ond condemnio'r addolwyr am iddynt eu colli eu hunain yn y gwerthwyr a'r prynwyr. Aethai'r deml yn ogof lladron; lladratawyd gogoniant Duw. Ysid Ef gan sêl y Tŷ; a phan edy'r deml am y tro olaf, fe gefna arni oblegid y camddefnydd a wneid ohoni. Rhagfynega ei dinistr agoshaol. A mwyach fe'i geilw "eich tŷ" —nid Fy nhŷ i na Thŷ Fy Nhad.
Cam â'r Arglwydd Iesu yw dywedyd Ei fod yn ddibris o seremonïau, defodau a thraddodiadau, oblegid fe eilw Jerwsalem yn ddinas y Brenin mawr, sonia am yr allor yn sancteiddio y rhodd, ac am y deml fel preswylfod Duw." Ni ellir," ebr Oman, "ddigorffori'r ysbrydol yn llwyr oddi wrth fater; ond y mae yn brawf o'n cynnydd ysbrydol o thry'r materol yn ein golwg i fod yn symbol ac nid yn gyfrwng." Y mae'n rhaid wrth gorff ac enaid mewn addoli. Ysbryd addoli, bid sicr, yn gyntaf, eithr hefyd yn ychwanegol a chyfamserol, act, ystum, defod, agwedd, gweithrediad. Y mae enaid gwir addoli yn cymwyso iddo'i hun gorff addas drwy yr hwn y'i mynega ei hunan.
Eto, er yn parchu a chymeradwyo lle a gwerth seremonïau, fe'u condemnia oni chynwysant feddwl a chalon. Fel y proffwydi gynt, rhydd y pwyslais ar yr elfen foesol, ysbrydol, a gwad grefyddolder y sawl a ymgyll mewn seremoni ac a rydd fwy bri ar draddodiad nag ar ddefosiwn ysbryd—ar ddefod nag ar fywyd glân.
Clywir yn hyglyw yn Ei eiriau atsain o eiriau'r proffwyd Amos: "Symud oddi wrthyf drwst dy ganiadau, canys ni wrandawaf beroriaeth dy nablau, ond rheded barn fel afon a chyfiawnder fel ffrwd gref."
Yn Ei olwg y mae ystyr a gwerth yn y pethau ysgafn —y mintys a'r cwmin—ond collant eu pwrpas a'u priod le pan dres bas ont ar diriogaethau pethau trymaf y gyfraith—barn, trugaredd, a ffydd. Gweled llwch y mintys a'r cwmin yn mynd i lygaid addolwyr seremoniol a'u dallu a barai iddo lefaru'r geiriau "Os dygi dy rodd i'r allor, ac yno dyfod i'th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn, gâd yno dy rodd ger bron yr allor a dos ymaith; yn gyntaf cymoder di â'th frawd, ac yna tyred ag offrwm dy rodd." Rhagrith ysgymun yn Ei olwg oedd ymwneuthur dim â phethau'r cysegr heb fod cytgord heddwch yn yr ysbryd, a sancteiddrwydd yn yr ymarweddiad. Ategai ddysgeidiaeth Eseia: "Na chwanegwch ddwyn offrwm ofer; arogldarth sy ffiaidd gennyf; ni allaf oddef y newydd-loerau na'r Sabothau; cyhoeddi cymanfa, anwiredd ydyw, sef uchel-wyl gyfarfod; eich lleuadau newydd a'ch gwyliau gosodedig a gasaodd fy enaid; y maent yn faich arnaf; blinais yn eu dwyn; a phan estynnoch eich dwylaw, mi a guddiaf fy llygaid rhagoch; hefyd pan weddïoch lawer ni wrandawaf; eich dwylaw sydd lawn o waed. Ymolchwch, ymlanhewch; bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid; peidiwch â gwneuthur drwg; dysgwch wneuthur daioni; ceisiwch farn; gwnewch uniondeb i'r gorthrymedig; gwnewch farn i'r amddifad; dadleuwch dros y weddw."
Ar ddyfodiad teyrnas nefoedd fe glywn waedd rymus proffwyd garw'r anialwch—"Edifarhewch;" ac y mae sŵn croch y wŷs honno wedi boddi seiniau geiriau anhraethol bwysicach a lefarwyd ganddo. "Wele Oen Duw yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechod y byd." Un o fendithion y trothwy yw edifeirwch, a'r flaenaf un. Oni dderbynnir y gras hwn ni cheir yr un fendith arall, oblegid y mae hi yn cau'r fynedfa fel nad oes dramwyfa. "Edifarhewch," ebr Ioan. Fel pe dywedai: "Y mae'n rhaid ichwi newid eich meddwl a'ch cyfeiriad. Gwyrgam yw eich syniad am fywyd ac addoli; y mae eich bywyd yn gaethwas deddf a thraddodiad, a'ch addoli yn rhy beiriannol. Dallwyd chwi gan eich ymlyniad wrth seremonïau fel na welwch mo'r gwirionedd mawr o hunan—aberth sydd yn galon ac enaid i wasanaeth y deml. Rhaggysgodi Oen Duw a wna'r holl aberthau. Edrychwch arno. Y mae wedi dyfod—yr Oen o wlân gwyn yr hwn y nyddir mantell cyfiawnder—
'Y wisg sy wedi'i lliwio â gwaed.'"
Er nad oedd a fynnai Ioan ddim mwyach â'r deml ac mai protestant ydoedd a roesai ei fryd ar bregethu cyfiawnder, condemnio arwynebolrwydd a diffyg meddwl, a chollfarnu rhagrith, eto fe ganfu Grist yn Ei berthynas â'r deml ac fel y sylweddoliad a roddai ystyr a phwrpas i'w holl gysgodau. "Wele Oen Duw": Crist yr Aberth a'r Aberthwr a welai ynddo, a phechod drwy Ei lawn yn cael ei ddileu—"yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechod y byd."
"Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear a marw hwnnw a erys yn unig; eithr os bydd efe marw efe a ddwg ffrwyth lawer." Cosb hunan ydyw bod yn dragwyddol unig; gwobr hunan-aberth yw ffrwythlonder anfeidrol.
Ym munudau tristaf bywyd pan oddiweddid Ef gan siom y llefarai'r Arglwydd Iesu Ei eiriau cyfoethocaf. Ceir lliaws o enghreifftiau o hyn, a'r fwyaf nodedig ohonynt oll ydyw'r ymadrodd: "A minnau os dyrchefir Fi oddi ar y ddaear a dynnaf bawb ataf Fy hun." Teimlai nad oedd ffrwyth dyladwy i'w bregethau a'i wyrthiau, a gofidiai o'r herwydd. Ac meddai (yn ymarferol): "Methiant fûm hyd yma, ond arhoswch chwi ennyd hyd oni chaffwyf farw a chwi a welwch y gwahaniaeth. Daw llwydd yn lle aflwydd, oblegid bydd Fy addoliad aberthol ar Galfaria yn tynnu pawb ataf Fy hun." Ei aberth ar y groes oedd perffeithrwydd Ei addoli.
Addoli trwy aberth ydyw un o'r prif wirioneddau a ddysgir gan yr ail Eseia. Bywyd yr aberthwr yn y cwbl ohono oedd yr addoliad, a'r addolwr ei hun oedd yr aberth. Fe genfydd Iesu Grist Ef Ei hun mewn dau o leiaf o ymadroddion y proffwyd, ac ar y rheini y seilia'r geiriau: "gosod Ei einioes yn bridwerth dros lawer, 'a chyfrifwyd Ef gyda'r troseddwyr."
"Mi a ddeuthum," ebr Iesu Grist, "fel y dygwn dystiolaeth i'r gwirionedd"—nid i ddysgu gwirionedd eithr i ddatguddio cymeriad Ei Dad. Gresyn ein bod mor chwannog i grebachu ystyr y gair gwirionedd, a'i wneuthur i feddwl dim amgen na chywirdeb gwybod. Yn ôl Hoskyns a Davey, fe olyga gwirionedd "uniondeb pwrpas, uniondeb lleferydd ac uniondeb gweithred—nid gwirionedd seiliedig ar na syniad na defod ond ar ddatguddiad hanesyddol." "Ac ni ddylid," medd Herrmann, "alw dim mewn crefydd yn ddatguddiad ond yr hyn a'n dwg wyneb yn wyneb â Duw." Byw bywyd Duw a wnaeth yr Iesu: Ef Ei hun ydyw'r datguddiad; ac nid oes dim amlycach yn Ei hanes na'i fod yn addoli Duw ym mhopeth a wnâi ac ym mhopeth y peidiai â'i wneuthur. Addoliad aberthol oedd Ei holl fywyd—Ei actau a'i ddistawrwydd, Ei gyflawniadau a'i oddefolrwydd. Ei bersonoliaeth oedd yr eiriolaeth. Yr oedd yn fwy na gweddïwr—yn weddi. Wrth ddatguddio Ei Dad, sef byw y gwirionedd, try Ei eiriau yn weithredoedd, Ei fudandod yn dystiolaeth, ac Ef Ei hun yn eiriolaeth. Ac yn Ei aberth y mae ystyr a grym yr eiriol.
Cyfyngwn ormod lawer ar ystyr y Bregeth ar y Mynydd drwy synio amdani fel dim amgen na dysgeidiaeth foesol. Y mae ynddi, bid siwr, foeseg ddihafal sydd â'i thrumau uchel yn corachu holl ddysg y byd ar foesoldeb. Cyfuwch yw ei mynyddoedd talgrib fel nad oes llawer hyd heddiw hyd yn oed yn Eglwys Crist a welodd eu godre erioed, chwaethach esgyn dim ar eu llethrau. Dyma ichwi fynyddoedd i'w dringo: "Cerwch eich gelynion, gwnewch dda i'r rhai a'ch casânt, bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, a gweddïwch dros y rhai a'ch drygant." Ond y mae mwy o addoliad nag o foeseg yn y Bregeth. Ofer yw ceisio ein dwyn ein hunain i iawn gyswllt â'n cydddynion heb yn gyntaf gael ein dwyn i berthynas briodol â Duw—hynny ydyw, heb inni fod yn addolwyr. Achubiaeth drwy ras yw y peth blaenaf a'r pennaf oll; a heb inni, ar lwybr addoli, ddyfod o hyd i Iachawdwriaeth, nid yw'r ymdrech i'n moesoli ein hunain a moesoli eraill, heb gael ein hachub, yn ddim amgen na spring cleaning â'r tŷ ar dân. Yr anodd, yr anhawsaf, aberth, hunan-aberth, hunan-aberth croes—dyna anfeidrol fwy na moeseg; a dyna ogoniant y Bregeth ar y mynydd: dyn yn addoli drwy ei aberthu ei hun. Ymgysegriad addolgar, gwasanaeth, caledwaith a dioddefaint a marw ydyw llwybr, unig lwybr pob gwybod gwir, pob meddiant sicr, pob goruchafiaeth deg, pob twf diwywiant, a phob gwynfyd didrai. Ac y mae'n eglur fod Iesu Grist â'i lygaid ar Ei addoliad aberthol wrth lefaru'r Gwynfydau a'r Bregeth ar y mynydd oll. Nid moeseg yn unig nac yn bennaf sydd yma, namyn cyffes ffydd Addolwr.
Addolai Crist wrth fyw a thrwy fyw; addolai wrth farw a thrwy farw. Ei fywyd oedd yr Allor, yr Aberth, a'r Aberthwr. A grym Ei anadl olaf fe ddywedai: "I'th ddwylaw Di, O Dad, y gorchmynnaf fy ysbryd," gan ddefnyddio ymadrodd a ddisgynasai dros wefusau llu o saint Ei genedl Ei hun ar hyd yr oesoedd, ond ei fod yn newid un gair (annibyniaeth Duw) drwy roddi "Tad" yn lle "Arglwydd" (Iafe) fel y ceir yn y Salm. Aeth Mab Duw ein Rhag—flaenor i mewn i'r gwir gysegr gan gael i ni dragwyddol ryddhad, yn y cymeriad o Archoffeiriad. Yr archoffeiriad ydoedd prif addolydd y genedl; ac fel Addolydd yr esgynnodd yr Arglwydd Iesu Grist i'r ddeheulaw. "Yng nghanol yr eglwys y'th folaf Di."
PENNOD V
Y DDWY FFRWD: RHODDI A DERBYN
Y MAE addoli yn gyfystyr â llif cyfamserol dwy ffrwd a red i ddau gyfeiriad gwahanol, neu, yn fwy cywir efallai, ffrwd a lif i gyfeiriad neilltuol ond a gynnwys ynddi'i hun is-lif yn rhedeg i gyfeiriad arall. I Dduw yr â un; o Dduw y treigla'r llall.
Galwn un y dylifiad aberthol yn rhedeg oddi wrth ddyn ac yn cynnwys popeth y dichon dyn ei roddi i Dduw mewn meddwl, gair a gweithred. Galwn y llall y llif sacramentaidd a red drwy Grist i ddyn, ac a gynnwys Ei ras amlweddog, anchwiliadwy.
I
A dderbyn Duw rywbeth gan ddyn pan addolo? Gwna. "Fy enaid bendithia yr Arglwydd." Yr ydym yn rhoddi i'r Arglwydd ogoniant a nerth. O ufuddhau i'w ewyllys pan allem beidio yr ydym yn rhoddi iddo Ei hawliau. Gallwn hyrwyddo neu lesteirio Ei fwriadau. Wrth ymddiried inni ewyllys rydd fe ddewisodd yn ei berthynas â ni—beidio â bod yn holl-alluog; a bellach, pe gorfyddai inni wneuthur a fynnai Ef, yn groes i'n hewyllys, fe ddinistriai ein personoliaeth: nid dynion a fuasem mwyach ond peiriannau. Bu Duw unwaith mewn penbleth. "Pa beth a wnaf i'm gwinllan?" Gwelai fod dynion yn ei dinistrio—yn difrodi Ei gynlluniau; a'r benbleth oedd, pa fodd i achub y winllan heb ddistrywio'r gwinllanwyr, oblegid gwyddai y buasai eu gorfodi i wneuthur a ddylent yn gyfystyr â chymryd oddi arnynt eu hewyllys, ac felly yn eu trawsnewid i fod yn rhywbeth amgen na dynion.
Pan o wirfodd yr ufuddhaom a dyfod ato yr ydym yn plygu i'w ewyllys, ac felly yn rhoddi iddo. Fe ewyllysiodd Ef inni fod gydag Ef, yn dirnad Ei feddwl, yn cydymdeimlo â'i bwrpas, yn cyfranogi o'i ysbryd. Plannodd ynom y reddf addoli fel y delem ato, y dymunem Ei gymdeithas ac y llawenychem o fod yn agos ato. Lladrata gogoniant Duw, a chyfodi gwrthgloddiau ar lwybr Ei ewyllys ydyw peidio ag addoli. Pan addolom y mae popeth a'r a dderbyniwyd gennym ganddo yn dychwelyd ato—hanfod y trugareddau tymhorol, hyd yn oed, yn cael ei droi i fod yn drugareddau ysbrydol, ac yna, yn y diolch a'r mawl, yn esgyn drwy'n calon at yr Hwn a'i rhoes.
II
Beth a dderbyn dyn drwy addoli? Llawer ymhob rhyw fodd. Er y derbyn Duw lawer, barnwn mai ffurf ar Ei gariad di-hunan yw greddf addoli: Duw yn trefnu ffordd i ddyn dderbyn y gorau trwy ei ddwyn yn agos ato Ef Ei hun, a'i gadw yn Ei ymyl. Y m bendithion addoli yn aneirif. Y mae addoli fel haul pan ddisgynno'i lewyrch ar donnau'r môr—yn ymddryllio'n fyrdd o sêr.
1. Cyfarfod â Duw y mae'r addolwr—y Duw a nesaodd, a cherdded y daith bell bron i gyd, fel nad oes angen mwyach i ddyn agosâu rhyw lawer. Gwnaeth yr Arglwydd oed â'i anwylyd i'w gwrdd yn y Gwaed; ac y mae yno'n disgwyl. Y mae "dyfod at Dduw" yn fwy na dyfod ato. "Pwy bynnag a ddêl ataf fi nis bwriaf ef allan ddim." I mewn y mae Ef; a chaiff y neb a nesao ato, yntau hefyd fod i mewn. A chan mai i mewn y trig Ef, Ef ydyw calon bywyd, gwybod a gwynfyd. Ein diffyg a'n hynfydrwydd ni ydyw oedi ar yr hiniog—aros y tu allan, ar drothwy'r pethau mwyaf; yn wir, ofnwn fod llawer ohonom yn bodloni i loetran yng nghynteddoedd y bywyd tragwyddol heb fynd i'w gysegroedd. Wrth addoli â dyn i mewn i nefoedd credu, nefoedd gwybod, nefoedd caru, nefoedd medru, nefoedd meddu, nefoedd tyfu.
Cyfyng yw'r porth i Dŷ ein Tad,
Y drws mor fychan yw;
Rhai bach yn unig â i mewn
I'r lle mae'r plant yn byw.
Mae clicied gloyw'r ddôr wrth law,
Yn isel ger y llawr;
'R ochr i mewn i ddrws y Tŷ
Mae'r plant yn tyfu'n fawr.
2. Sonia'r Arglwydd Iesu am dri gweddïwr,—un yn gofyn, un yn ceisio, un yn curo. Am bethau y gofyn y cyntaf, am ddarganfod a gwybod y cais yr ail, am ddrws agored yr ymdrech y trydydd hynny yw, fe ymawydda ac fe ymegnïa am fod gyda Duw: teimlo a wna fod rhywbeth yn cau amdano a'i gaethiwo, bod Duw am y pared ag ef; a hiraetha am gymundeb diwarafun â'i Dad—Duw y tragwyddoldeb di-ddrysau.
3. Y mae'r dawn creu ym meddiant addoli. "Pan ollyngych dy ysbryd y creir hwynt (y creaduriaid distadl ac arall) ac yr adnewyddi wyneb y ddaear." Math o ollyngdod a ddyry Duw iddo'i hun yw creadigaeth ac adnewyddiad; ac yn ysbryd yr addolydd y caiff fwyaf o ryddid o unman. Ac wrth ei greu o newydd a'i geinio â gras y mae'r Crewr yn ei wneuthur yntau hefyd yn grewr—nid yn unig yn greadigaeth newydd, eithr yn grewr. "Y nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw a'r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith Ei ddwylaw Ef." Sylwer mai'r salmydd mewn addoliad a lefarai fel yna; ac unwaith y cenfydd ef y gogoniant fe symud y gogoniant o'r ffurfafen nes bod yn ogoniant yn enaid y gweledydd. Nid yr un ydyw'r sêr yn y glesni â'r sêr yn yr enaid. Bellach dyma odidogrwydd natur wedi'i droi yn odidogrwydd ysbryd—"gogoniant Duw" yn y ffurfafen wedi nofio drwy enaid dyn i fyd cysefin Duw, byd ysbryd; a'r addolwr wedi creu sêr newydd nas meddai Duw mohonynt o'r blaen. Nid nyni'n hunain a ad—greir eithr popeth a'r a berthyn inni, a phob gwrthrych y disgyn ein llygaid arno: y mae popeth yn mynd yn newydd, oblegid nid yw'n bosibl inni ddyfod at Dduw heb ddwyn ein holl fywyd a'n holl fyd i'n canlyn. Y mae Duw a ninnau'n creu. A dyna'r pryd y gwelwn nad oes dim na chyffredin nac aflan, a bod pethau distadlaf bywyd yn cael eu harwisgo â hud—lewyrch tragwyddoldeb. Y mae llusern werdd magïen bôn y clawdd mor rhyfeddol â phlaned, a'r gwybedyn yn ogymaint gwyrth â'r seraff.
4. Wrth addoli, fe gefnwn ar yr arwynebol, a soddi i ddwfn syml y Sylwedd oddi wrth Animus neu wybodaeth rheswm at Anima neu'r gwybod cyfrin, o gylch meddwl i gylch teimlad, oddi wrth wirioneddau am Dduw i gyffyrddiad personol â Duw. Ac y mae'r profiad hwn, ebr A. L. Lilley yn diriaethol (concrete), yn gorfforiad o'n ffydd—y ffydd honno yn y ffurf o gredo noeth sy mor chwannog i lithro rhwng ein dwylaw a dianc. Y cymundeb personol drwy addoli sydd yn abl i'w gwarchod a'i diogelu.
5. Tystia Söderblom "mai'r gwir atebiad i weddi yw hyn: y profir presenoldeb Duw, nid gan deimladau brwd, ond gan y nerth newydd a dderbynnir i orchfygu pechod ac anawsterau." Fe ŵyr yr addolydd mai uniawn ei dystiolaeth. Bu addoli i filoedd yn berffeithiad nerth mewn gwendid, yn orffwys yng nghanol lludded, yn gysgod yn y ddrycin, ac yn foddion i sefydlogi'r meddwl gwamal, gwyllt a grwydrai hwnt ac yma. Beth bynnag fo'r demtasiwn, pa mor gryf bynnag y cymhelliad, ni fedr y sawl a wir addolo Dduw gasáu, cenfigenu a llofruddio'i frawd—â bidog nac â chelwydd.
6. Rhan neu rannau o ddyn a weithreda oddieithr pan addolo. Nid oes digon o le i ddyn yn ei gyfanrwydd droi mewn unrhyw act arall, ac ofer a fai iddo erchi i'r "cwbl sydd ynddo" gyflawni dim ond addoli. Addoli ydyw'r unig weithred sydd yn hawlio pob ymadferth sy ar ei elw, ac yn eu hawlio mewn undeb â'i gilydd. Person yn ei gyfanrwydd sydd yn addoli.
Teimlai un o'r Salmyddion fod dirgel ddyn y galon yn ddrylliau ysgaredig: "una fy nghalon i ofni Dy enw." Y mae addoli yn uno'r darnau. Effaith tynfaen ar fân ronynnau mater ydyw dwyn trefn lle o'r blaen yr oedd anhrefn, a thrwy hyn caiff y tameidiau bychain digyswllt eu hunoli. Gwneir o'r temigion gwasgaredig system, a thrwy hyn deuant i undeb â'i gilydd: fe'u cyfennir ac fe'u cyfunir, fel nad tameidiau disperod monynt mwy. Tebyg yw addoli. Nid yn unig fe adfer gyd-berthynas ac undeb rhwng gwahanol rannau ein personoliaeth, eithr fe unir yr addolwr ei hunan â Gwrthrych ei addoliad.
Y mae gan Dduw dri gafaeliad mewn dyn. Y cyntaf yw'r afael sy ganddo arno fel Crewr. "Ef a'i gwnaeth;" ac ni ollyngodd Ef erioed ddim o'i Law wedi ei greu. "Gwyllt anifeiliad y maes ydynt eiddo Fi" '—neu fel y gellir darllen, "ydynt yn fy meddwl I" neu "ydynt gyda Myfi." Y mae pob creadur gwyllt a gwâr, bach a mawr yn eiddo Ef. Deil afael yn Ei berchenogaeth drwy eu cadw yn Ei feddwl; ac am eu bod yn Ei feddwl y maent yn gyson gydag Ef. Y ffaith Ei fod Ef yn dal Ei afael mewn creadur sydd yn peri iddo bara mewn bod. Er ysgafned yr atom lleiaf fe soddai i ddifodiant yn ei bwysau onibai ei fod wedi'i wregysu ag anfeidroldeb.
Y gafaeliad nesaf ydyw yr un perthnasol: rhagor na bod yn Ei law yr ydym ni yn perthyn iddo yn blant ein Tad o'r Nef. Ond y mae yna un gafaeliad arall, tynnach, sicrach na dim a geir drwy'r cysylltiad creadigol, na hyd yn oed drwy berthynas. Undeb yw hwnnw. Y mae dyn yng Nghrist wedi ei uno â Duw. "Dy Briod yw yr Hwn a'th wnaeth": rhywbeth mwy a rhagorach na'i fod yn greadur o waith Duw ac na'i fod yn fab a genhedlwyd ganddo. Priod yr Anfeidrol ydyw. Priodfab yw Duw yng Nghrist, a dynion sanctaidd mewn undeb â'i gilydd, am eu bod mewn undeb â Christ, ydyw priodasferch, Gwraig yr Oen." Dy briod yw yr Hwn a'th wnaeth"—Ef a'th wnaeth yn briod, yn hardd, yn urddasol, yn gryf, yn gyfoethog. Fe eill y sawl nid addolo wybod rhywbeth am y gafaeliad cyntaf y soniasom amdano; ond hawlfraint addolwr yn unig yw profiad o fendithion y berthynas a'r undeb.
7. Y mae mewn addoli lawenydd. "Saith niwrnod y cedwi ŵyl i'r Arglwydd dy Dduw yn y lle a ddewiso yr Arglwydd . . . am hynny bydd dithau lawen. Deut. 16, 5. "Na thristewch, canys llawenydd yr Arglwydd yw eich nerth chwi." Neh. 8, 10. Dywedir am yr Addolwr perffaith ddarfod iddo lawenychu yn yr ysbryd. Dangos bod y llawenydd hwn yn gyrhaeddadwy ar y ddaear a wna damhegion y trysor cudd yn y maes, a'r perl o uchel bris—y llawenydd o gael gafael ar Dduw yng Nghrist. Pa fodd y dichon i'r neb a erlidir o achos cyfiawnder fod yn "llawen a hyfryd" ond drwy wybod yng nghymun addoli bod eu gwobr yn fawr yn y Nefoedd?
Y mae i'r llawenydd, yn ôl dysgeidiaeth yr Athro Mawr, berthynas arbennig ag ufudd-dod, â dyrchafiad Crist i'r ddeheulaw ac â gweddi. (1) "Os cedwch fy ngorchmynion chwi a arhoswch yn fy nghariad i . . . Hyn a ddywedais wrthych fel yr arhosai fy llawenydd ynoch, ac y byddai eich llawenydd yn gyflawn;" (2) "A'r awr hon yr wyf yn dyfod atat . . . fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain;" (3) "Gofynnwch a chwi a gewch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn." Gwelir mai ufudd-dod i Grist yw llwybr y llawenydd gwir, ac mai dyrchafiad Crist at y Tad sydd yn gwystlo ei barhad: er ein mwyn ni y disgynnodd; er ein mwyn ni yr esgynnodd hefyd, ac yn ôl Ei eiriau Ef Ei hun, diogelu ein llawenydd oedd Ei reswm dros fyned Adref. Ond drwy "ofyn" mewn gweddi, hynny yw, drwy addoli yn unig y dygir inni brofiad o'r llawenydd yn ei gyflawnder dwyfol. Llawenydd i'r rhai sydd yn Ei gymdeithas Ef ydyw. Bod yn agos ato yw addoli. Yr addolydd yn unig a â i mewn i lawenydd Ei Arglwydd llawenydd myfyr, llawenydd llafur, llawenydd ymgysegriad, llawenydd y bywyd glân, llawenydd aberth, llawenydd buddugoliaeth; ac nid drwy borth marwolaeth yr â ef i mewn iddo eithr drwy byrth diolch a mawl. Dianrhydeddu Duw a dychrynu plant y mae'r sawl a anffurfio'u hwynebau yn y cysegr; nid arwydd o dduwioldeb yw ocheneidiau hirllaes; ac nid prawf o'n hysbrydolrwydd a'n ffydd ydyw rhodio'n alarus drwy orthrymder y gelyn. Haws hedfan i'r Nefoedd ar adain gwên na nofio yno mewn deigryn. "Llawen ydwyf oblegid Dy air;" "Byddwch lawen yn wastadol;" "llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol, a thrachefn meddaf, llawenhewch;" "llawenychwch yn yr Arglwydd, a gorfoleddwch wrth goffadwriaeth Ei sancteiddrwydd Ef;" "cyfarfyddi â'r hwn sydd lawen;" "mewn llawenydd yr ewch allan."
8. Oherwydd yr anian greu sydd ynddynt medr beirdd mawr gynhyrchu o brofiadau'u bywyd gampweithiau anfarwol, eithr nid yw'r profiadau yn gyfyngedig iddynt hwy yn unig: profiadau sy eiddo pawb dynion ydynt; ysbrydoliaeth awen a wna'r gwahaniaeth rhyngddynt hwy ag eraill. Felly gydag addoli. Gall pob dyn ymarferyd â phresenoldeb Duw, a chael profiad ohono; a'r gildio hwn yn Ei bresenoldeb a rydd i Dduw Ei gyfle i wneuthur saint ohonom. Yn wir, dwg y gildio ei wobrwy uniongyrchol. Dyma'r pryd y sylweddolwn pwy a pha fath ydym, y disgyn llewyrch y tragwyddol ar broblemau bywyd, ac y'n cynysgaeddir â nerth i ymateb i bob gofyn. Ni ellir dim ymdaflu ar Dduw heb addoli. Abandon y Ffrancwr, gelassenheit yr Almaenwr, let go y Sais, ymollwng y Cymro—dyna ystyr y gildio. Eithr nid ein colli ein hunain yr ydym drwy hyn, ond ein caffael ein hunain: 'ac y'm ceir ynddo Ef"—wrth iddo Ef ein derbyn, fe fyddwn ninnau yn ein derbyn ein hunain. Myned allan, rhagom ac i fyny y byddwn; o'r hyn ydym at y gwell a'r gorau—at Dduw.
9. "Ymarfer dy hun i dduwioldeb"—exercise thyself. Gair ag iddo lawer o feddwl yw'r gair practice. Drwy'r practice y dysg côr yr anthem ac ymberffeithio yn y datganiad, a thrwy'r practice y caiff meddyg feistrolaeth ar ei alwedigaeth. Ymarferyd modd y gwypont a wna'r naill fel y llall; ond y mae Chrysler, crythor enwoca'r byd, yn canu'i grwth am bedair awr yn feunyddiol, nid er mwyn dysgu ond am ei fod eisoes yn gwybod—ofn colli'r cyffyrddiad â llinynnau'r offeryn sydd ganddo, a thrwy hynny dorri'r cyswllt ag ysbryd y gerdd. Y mae'r ddau yn wir am yr addolwr: drwy addoli y dysg y grefft ddwyfol ac y ceidw in touch â Duw.
10. "Y mae mewn dyn," medd Pirandello, "du hwnt (un oltre), rywbeth dros ben (un di piu), a rhywbeth di-raid (superfluo)—neu, yn gyfryw nad oes mo'i eisiau arno ar gyfer y byd hwn, ond sydd, er hynny, yn ei aflonyddu a'i gythryblu, ac a wrthyd iddo fod yn fodlon ar y pethau sydd. Rhoddes natur i anifeiliaid y peth a'u digona; ond mae mewn dyn rywbeth dianghenraid ar gyfer y bywyd presennol, na ad iddo fod yn fodlon—h.y., y mae ynddo fwy nag sy ofynnol i gyflenwi ei reidiau. A'r gwir yw, mai y peth hwn sy 'dros ben'—cyn belled ag y mae a fynno'r byd hwn ag ef a'i gwna yn ddyn ac nid yn anifail. Ni orffwys ac ni ddigonir y peth hwn sy 'dros ben' gan ddim sy ar y ddaear." Dyma yr hyn sydd â'i lygaid yn tremio tuhwnt i'r gweledig a'r amserol ac yn dyheu am ei fyd ei hun—byd ysbryd a thragwyddoldeb. Mewn addoli y mae yr elfen hon yn cael meithriniad a rhyddid diwahardd.
11. Heb addoli, cyll serchiadau naturiol eu purdeb, eu symlrwydd a'u nerth: perthynas â Duw yn unig a'n gweryd; dirywia onestrwydd fel nad yw onid caledrwydd hunan-gyfiawn; ac ni wna cymwynasu i drueiniaid ddim rhagor na phorthi ein balchder. Cyn caru Duw a'i addoli, ymgynnal arno'i hun y mae cariad dyn, a'i addoli ei hunan; ac yn y man daw tranc i'w ddibennu ef, a'i gariad a'i "dduw" bach. Ond pan addolom Dduw fe gynhydda, fe sancteiddir, fe gryfheir, fe dragwyddolir ein cariad.
12. Ymadrodd sydd yn pruddhau dyn yn ddirfawr ac yn peri arswyd aruthr yw y geiriau, "y mae yr holl fyd yn gorwedd mewn drygioni." Cynhwysa ragor na bod y byd yn ddrwg. Y mae yn fodlon ar ei gyflwr, heb wybod druaned yw, yn clertian ar fynydd llosg mewn trymgwsg, heb ymdrech i symud o'r fan. Buasai'r weledigaeth yna—a nyni'n gwybod ein bod yn rhan o'r byd a ddisgrifir—wedi'n llwyr ddigalonni onid ein gwallgofi onibai i Dduw yn ei ras, pan addolem, agoryd ein llygaid a dangos inni nad yw hwnyna onid rhan o'r gwir. O drugaredd, y mae'r "byd" yn rhywle arall hefyd. "Felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd Ef Ei unig—anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo Ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol." Cymryd gwrthrych i'r fynwes ydyw caru. Y mae'r byd felly ym mynwes Duw, a hyd y gwyddom nid oes onid dau wrthrych yn y fynwes honno—y Mab a'r byd. Dyna sail ein gobaith am Iachawdwriaeth byd coll—gwybod ei fod yn yr un fynwes ag Iesu Grist, a bod y Gwaredwr yn caru'r byd â'r un cariad ag y câr Ei Dad yntau.
13. Tybed a ŵyr y darllenydd, fel y gŵyr rhai ohonom, beth yw colli ffydd mewn dynion a hyder ynddo ei hun? Ni ddisgwyliem ac ni chwenychem barhad ein hoedl: yr oedd ein gafael ym mhawb a phopeth a hyd yn oed ynom ein hunain, wedi llacio. Diffoddasai pob gobaith y dwthwn hwnnw, onibai nesâu ohonom at Dduw, ymorffwys arno, a'i glywed yn dywedyd, "Yr wyf Fi gyda thi."
14. Mewn addoliad fe eill Duw Ei roddi Ei hunan i gyd i bob un, heb i hynny dlodi undyn. Y plentyn piau'i fam, ond "fy mam" yw cyfarchiad ei frodyr a'i chwiorydd hefyd fel yntau. Duw yw y dawn nis rhennir: y mae'n rhy fawr i'w rannu, ac fe'i ceffir yn gyfangwbl neu ddim. "Dedwydd y galon," ebr Erskine, "a ddysgodd ddywedyd 'Fy Nuw.' Cynhwysa'r ymadrodd byr yna grefydd i gyd, a phob gwynfyd sy ddichon i ddyn. Y mae crefydd y cwbl ohoni—mewn newid 'Ef' am "Ti.' Haniaeth (abstraction) yw crefydd cyd ag y bo yn 'Ef.' Gyda'r Ti yn unig yr adwaenom Dduw."
Pe na roesai Duw i ddyn ond yn ôl ei eisiau fe gâi lawer; o roddi iddo yn ôl mesur ei angen câi anhraethol fwy; eithr nid felly y rhydd Ef, ond "yn ôl Ei olud mewn gogoniant yng Nghrist Iesu"—rhoddi gyda mawrfrydigrwydd a haelfrydedd teilwng ohono'i hun a'i gyfoeth. Ac mae Iesu Grist yn rhoddi hawl inni berchenogi Duw: "Fy Nuw i a'ch Duw chwithau; fy Nhad i a'ch Tad chwithau." "Yr Arglwydd yw fy Mugail," ebe'r Salmydd. Fel gofalydd a gwarchodydd y cawn yr olwg gyntaf ar yr Arglwydd yn yr Ysgrythurau —yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd, yn bugeilio'r dyfnderoedd; ac nid yw'r creadigaethau oll, distadl ac arall, yn ddim llai na Duw yn corlannu Ei feddyliau Ei hun. Daw'r sawl a allo ddywedyd "Fy mugail," a hyn fel profiad o'i ymwneuthur â Duw, i feddiannu Duw a'r cyfan sy eiddo, canys nid oes un wedd ar fywyd yr Anfeidrol na all dyn ymestyn ati a'i pherchenogi. Y mae dyn, eisoes, o ran ei ysbryd, yn ddiddechreuad fel Duw Ei hun.
15. Fe ymdraidd drwy fywyd dyn elfen athrawaidd y daw ef, yng nghymundeb â Duw, i wybod amdani. "A'r athrawon a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen." Paham y'n dysgir mai oddi wrth "Dad y goleuadau" (y bydoedd) y disgyn holl drugareddau yr Arglwydd i ddyn? Dyfod a wnânt o Ffynnon y Goleuni, a dwg pob rhodd, ynddi hi ei hun, nodau eglur ei thras a'i haniad—hynny yw, y mae pob rhoddiad daionus a phob rhodd berffaith yn llewyrchu. Ond ni welir y pelydr dwyfol sydd yn amwisg i'w holl roddion—fach a mawr—oddieithr gan y sawl a drigo yng nghymdeithas y Rhoddwr. Y mae'n rhaid addoli os am weled tarddiad, ystyr, pwrpas a gogoniant llachar Ei ddaioni Ef. Ac fel y tosturiaethau a dywynna gan ddisgleirdeb y wlad y daethant ohoni, nes bod Duw yn ganfyddadwy ynddynt, felly hefyd y mae'r addolydd a'i derbyn, yntau, yn mynegi rhinweddau yr Hwn a'i galwodd allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni Ef.
16. Dyfod at y Ffynnon yw addoli. Y mae'r Salmyddion a'r Proffwydi wedi achub y blaen ar Bergson a'i athroniaeth sydd yn disgrifio Duw fel "bywyd di-dor, gweithredol, rhydd." "Ti wyt Ffynnon bywyd;" "fy holl ffynhonnau sydd ynot Ti;" "Ffynnon y dyfroedd byw." Nid rhyfeddu'n unig at loywder y dŵr na gwrando ar furmuron y gofer a lif heb ball o'r Ffynnon a wna'r addolydd, eithr yfed. Ar ei ddeulin yn unig y gall dyn dorri ei syched: y mae'n rhaid plygu at y Ffynnon.
Y mae'r addolydd yn dalach ar ei liniau na phan safo'n syth, ac yn tyfu wrth ymostwng. Ein crebachu a wna dynion mawr pan elom yn agos atynt—eu mawredd yn ein bychanu; ond y mae Duw mawr yn ein gwneuthur ninnau'n fawr, a pho agosaf ato y bôm mwyaf oll fyddwn. Y mae mewn dyn fawredd cynhenid (a dyna, nid ei bechod a'i gwna y fath ddirgelwch a'r fath addewid); ond fe dyf fwyfwy wrth addoli.
17. Meddwn atgof pêr am y cathlau a genid gynt, a gobaith y cawn ganu eto yfory a thrennydd a thradwy, ac y bydd inni ran ym mawl y gainc anorffen. Ond nid yn ddoe ac yfory yr ydym yn byw. Bellach nid yw'r gorffennol yn bod inni mwy ond mewn syniad, a hyd yma nid yw'r dyfodol yn ddim amgen na syniad. Yn awr yr ydym yn byw, yn yr eiliad—yn aros yng nghysgod yr Hollalluog ac yng nghanol peroriaeth ddwyfol. "Amgylchynaist fi â chaniadau ymwared." Ni allwn symud yr un fer heb glywed, ped ymwrandawem, Ei fiwsig Ef—melodi'r gwaredigaethau. Y mae Ef yn ein gwaredu a'n hachub yn awr.
18. Fe lefair Duw wrth y gwir weddïwr pan weddio. Efallai mai dyma fendith fwya'r weddi ac nid yr atebiad a ddisgwyliem ni. Dichon na ddaw hwnnw, ond daw rhywbeth gwell; ac nid oes well yn bod na derbyn ar y pryd o'i feddwl a'i gariad, Ei rym a'i nwyd.
Bydd ein cynnydd mewn gras yn dibynnu nid ar ein bod yn siarad llawer wrtho ond ar ein bod yn wrandawyr da arno. Y mae geiriau lago yr un mor gymwysiadwy at ein hymwneuthur â Duw ag ydynt at ein hymwneud â'n gilydd yn wir, yn fwy felly. "Bydded pob dyn esgud i wrando, diog i lefaru." Yr ydym yn llefaru gormod wrth Dduw. Ni bu'r un weddi fawr erioed yn weddi hir. Fe all y llef o'r dwfn fynegi ei neges ar fyr eiriau: yn wir, ymwrthyd ag iaith yn llwyr weithiau, ac ymwthio i ochenaid ddrylliog neu ddeigryn mud. Dylem wrando mwy ar Dduw pan weddïom. "Gwrandawaf beth a ddywaid yr Arglwydd Dduw, canys Ef a draetha heddwch i'w bobl ac i'w saint." Os ydym am i'n gweddïo fod yn gymundeb ag Ef, gorfydd inni mewn cariad a ffydd ymostwng o'i flaen, a gosod ein llaw ar ein genau yn hytrach na pharablu llawer. A'r hyn sy bwysicaf o bopeth ydyw ein bod yn ein cyflwyno ein hunain iddo mewn brawddeg neu ddwy, megis
"Cymer fi Iesu fel yr wyf,
A chudd fi yn Dy farwol glwy",
neu
"O Iesu cymer fi i gyd,
Fel mynni gad im' fod."
Ac fe lefair Duw wrth ein calonnau. Weithiau, yr hyn a brofwn ar y pryd fydd ymdeimlad o lawenydd; weithiau, ymdeimlad o nerth newydd yn llifo i'n bywyd a fydd yn ein cymhwyso i orchfygu temtasiynau a phryderon; weithiau, fe deimlwn ein bod yn gallu credu'n well a gafaelyd yn dynnach yng ngwirioneddau hanfodol ein crefydd; weithiau, fe glywn yr Arglwydd yn gorchymyn inni gyflawni rhyw orchwyl arbennig. Mae yn sicr na feddyliasai Ananias am ymweled â Saul yn Namascus, ac na ddaethai i feddwl Phillip lynu wrth gerbyd yr eunuch onibai clywed ohonynt lais yr Arglwydd yn erchi. Nid yw Duw wedi newid dim: y mae yn llefaru a gorchymyn heddiw megis cynt. A'r gwahaniaeth rhyngddynt hwy a ni yw hyn nid ddarfod i'r Arglwydd siarad â hwy ac nad yw yn siarad â ni, eithr yn hytrach eu bod hwy yn gwrando, yn disgwyl, a chanddynt feddyliau a chalonnau agored, parod i dderbyn, a'n bod ni yn esgeulus o wrando a disgwyl, a bod ein meddyliau a'n calonnau yn gaëedig ac amharod. Fe eilw Duw o hyd ond nid ydym yn clywed—am nad ydym yn gwrando; ni phaid ef â llefaru a gorchymyn; nyni sydd yn glust—fyddar.
19. Hawdd, meddir, yw gwybod yn y Dwyrain ffordd y teithiodd dynion wrth y blodau a dyf yn y mannau lle gwersyllent. Wrth roddi porthiant i'r camelod bydd hadau yn disgyn i'r ddaear, ac os digwydd i'r teithwyr fod yn pebyllu mewn bwlch cysgodol yn y mynyddoedd fe wreiddia'r hadau. Yn y man blagurant, wedi cefnu ar y gwastadeddau cynefin, gan brydferthu'r bryniau fry a'u perarogli, yn ddrych o'r pererinion ysbrydol sydd yn marcio'u llwybr â daioni a thrwy hynny'n bendithio'u dilynwyr.
Y mae addoli yn deffroi dyn drwyddo. Dwg pawb ohonom yn ddirgelaidd ddôs go dda o opium yn ei gyfansoddiad, ac adnewyddir hi'n llechwraidd gennym yn awr ac yn y man. Pa sawl awr o fwynhad trwyadl ddigymysg, ymwybodol, a gawsom drwy gydol oes, a pha nifer o actau llwyr weithredol a gyflawnwyd gennym? Nid yw dyn byth yn hollol effro, ymwybodol, rhydd ond pan addolo. Mynych y bydd amser a ninnau yn ymbalfalu fel deillion ar bared tragwyddoldeb; ond y mae dôr yn agoryd pan addolom, a gwneir Dyffryn Achor (glyn trallod) hyd yn oed, yn ddrws gobaithyn fynedfa i fyd ehangach, purach, gwell. Pwysa amgylchiadau arnom, weithiau, a'n gwasgu'n dyn, nes bod bywyd yn gwm caead.
"Anffyddlon imi trodd y byd,
Anffyddlon dynolryw,
Ond 'r wyf fi'n rhedeg drwyddynt oll
I fynwes bur fy Nuw."
Y mae dyn ysbrydol fel gair Duw—"nis rhwymir." Cylymer ef â rheffynnau adfyd fe lysg y rheffynnau oll: "Un wreichionen fach o'th gariad
- Wna fy rhwymau oll yn rhydd."
Teflwch ef i'r môr, fe fydd yntau yn y man yn byrlymu'n ffynnon loyw, groyw ar lechwedd y mynydd. Cleddwch ef, ac fe dyf o ddaear mynwent yn bren praff, digon cadarn i fedru herio cynddaredd tymestloedd, rhoi nythod i adar yr awyr, a chysgod i bererin y ddrycin.
Cornant yn rhwym gan y rhew a'i chân ynghlo ydyw enaid diaddoli. Duw â thes Ei gariad yn unig a fedr ein dadlaith. O Arglwydd meiriol ni.
Er yn plygu, esgyn mewn gwirionedd y mae'r addolydd.
Wedi dringo'r Alpau uchel, ni chofiem ddim am ogledd a de, dwyrain a gorllewin: edrych i'r ehangder ac i dragwyddoldeb a wnaem; ac nid yw'r neb a gollo'i ffordd yno yn gofyn, "Faint yw hi o'r gloch": chwilio am ei lwybr y mae. Ar yr uchelderau fe baid amser a lle. A dyna un ffordd i orchymyn i'r haul aros—dianc o afaelion amser i ryddid y tragwyddol.
Ar fynyddoedd natur, heb sôn dim am Fynydd Seion, fe ymdawdd y golygfeydd lawer i'w gilydd a ffurfio un olygfa—y gwrthrychau oll, yn eu prydferthwch, eu harddunedd, eu hamrywiaeth a'u hunoliaeth yn awgrymu'r tragwyddol ac yn rhan ohono. Dyrchafael, gweledigaeth a rhyddid yw addoli.
20. Pan ddêl meddyliau Duw atom ni a geisiwn eu dilladu mewn iaith, oblegid dyna'r unig ffordd inni fedru eu cadw. Ond pa mor ddistaw bynnag y bôm gyda'r gorchwyl hwnnw y mae'n dra sicr y deffroir meddyliau cwsg o'n mewn yn sŵn y gwisgo.
21. Yr Ysbryd Glân sydd yn creu pob meddwl pur, pob dymuniad glân. Nid oes weddi a ŵyr y ffordd i'r Nefoedd ond a ddaeth oddi yno. "Curwch ac agorir ichwi." Ac eto nid yw ein curiadau ni, mev gwirionedd, yn ddim ond atsain o guriadau yr.hwn sydd "yn sefyll wrth y drws ac yn curo".
22. Y mae rhywbeth anniffiniol o gwmpas y gwir addolwyr—"y bobl briodol," y peculiar people, ac fe'n hadweinir fel y disgyblion gynt oddi wrth ein lleferydd. Y mae stori gan Chaucer yn y Second Nun's Tale am yr angylion yn coroni'r Santes Cecile â lili a rhosynnau, a dywaid yr aroglai pawb y persawr dieithr, eithr na welid mo'r blodau gan neb ond a oedd mor dduwiol â'r Santes ei hun.
23. Tebyg yw credo llawer ohonom i eiddo'r Atheniaid yn amser Pericles, a ddisgwyliai Palas Athene, gwaredwr gwladol, tymhorol. Edrychwn am waredigaeth rhag anghyflogaeth, anfoes, gormes cyfalaf, trachwant cenhedloedd, rhyfeloedd, ac ymlaen, o bob cyfeiriad ond y deml. Nid felly gobaith Israel gynt yn amser Eseciel. Gwelai ef yr esgyrn sychion a chyflwr adfydus y genedl, eithr gwelai hefyd Dduw yn ailadeiladu'r genedl pan fyddai hithau yn Ail-adeiladu'r deml, hynny yw, pan ddôi'r bobl yn addolwyr.
24. Yn Israel gynt fe geisid gwarchod dyn drwy gau amdano—cyfodi gwrthgloddiau deddf o'i amgylch; ond yn yr Efengyl fe'i gwarchodir drwy ei gysylltu â'r Canolbwnc sefydlog a gadael iddo ryddid di-wahardd, diffiniau. Wrth addoli deuwn wyneb yn wyneb â'r Bod sydd tu hwnt i dywyllwch a goleuni, ac uwchlaw i ddirgelwch a datguddiad. Cawn groesi'r terfyn cyfrin sy rhwng nos a dydd, ymlwybro drwy'r llannerch ddirgel sydd yn gyffin sŵn a distawrwydd, a cherdded drwy'r bwlch cyfyng sy rhwng bwriad ac act.
25. Trasiedi ofnadwy yw'r ffaith mai Duw, nid y dyn ei hunan, a ymofidia fwyaf ynghylch ei bechod; ac eto ar y ffaith rasol hon y seilir ein gobaith am faddeuant. Y mae Duw yn ein caru, ac oblegid hyn ni fyn ollwng Ei afael ynom am y gŵyr y buasai hynny'n ddinistr inni. Pan addolom down i wybod bod ffynhonnau'n torri allan yn anialwch ein hysbryd—yn brawf nad yw'r cyswllt rhyngom a'r Môr ddim wedi peidio â bod, er ein pechod. Ond ni ddichon dyn ei adnabod ei hunan yng nghysgodion tywyll adfyd nac yng ngoleuni llachar llwydd; y mae'r naill a'r llall yn ei guddio rhagddo'i hun—un ffunud yw goleuni a thywyllwch iddo, onis cenfydd ei hunan yn y goleuni a lewyrcha arno mewn cymundeb â Duw. Afon wedi cwbl sychu a'r pontydd yn aros—dyna yw bywyd heb addoli.
26. Yn La Belle sans Merci disgrifir yr agwedd honno ar fywyd—hanner y ffordd rhwng ysbryd a mater—lle mae da a drwg a dim ond un wyneb rhyngddynt: cuwch y cythraul a gwên yr angel yn toddi i'w gilydd mewn un drem. Ac yn rhai o ddarluniau Da Vinci chwi gewch yr un peth—cnawd ac ysbryd yn yr un a'r unrhyw edrychiad: gwefusau'n dywedyd "tyred," llygaid yn dywedyd "dos"—gwefusau gwridog, hudolus ond llygaid treiddlym, picellog yn melltennu digofaint. Pan addolom y mae'r da yn cael goruchafiaeth ar y drwg, daw'r gorau i'r wyneb, graddol ddifodir y gwaethaf ac yn y man llwyr ysir pob elfen wrthnaws.
Dwg dau o'r beirdd Rhufeinig, Horas ac Ofydd, dystiolaeth i ddeuolaeth bywyd a'r frwydr gyson sydd rhwng da a drwg. Ebr y cyntaf: "Dilynaf yr hyn a'm niweidia, a chefnaf ar y pethau a gredaf sydd er fy lles;" ac ebe'r ail: "Mi welaf ac mi gymeradwyaf y llwybr gorau, eto mi a ddilynaf y gwaethaf." Ymhen dwy oes wedyn fe dystiolaetha Paul i'r un gwirionedd: "Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid yw fodlon gennyf; canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur; eithr y peth sydd gas gennyf, hyn yr ydwyf yn ei wneuthur. Canys mi a wn nad oes ynof fi (hynny yw yn fy nghnawd i) ddim da yn trigo; oblegid yr ewyllysio sydd barod gennyf; eithr cwblhau yr hyn sydd dda, nid wyf yn meddu arno. Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio, ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur. Ys truan o ddyn wyf fi. Pwy a'm gwared i oddi wrth gorff y farwolaeth hon." Rhuf. vii, 15, 18, 19, 24. Ac y mae colli'r maes yn y frwydr hon yn dinerthu'r cynheddfau eneidiol, yn gwarthnodi a chythruddo'r gydwybod, yn peri anghytsain yn yr ysbryd ac yn difuddio'n bywyd. Ond fel y mae turbine neu lwyau olwyn ddŵr yn ymgydio yn ynni'r afon, ac esgyll melin wynt yn ymfachu wrth bwerau'r awyr, felly y mae'r addolwr yn ymafaelyd yn
"Nerthoedd y tragwyddol Ysbryd
Yn haeddiannau'r dwyfol Iawn,"
nes bod yn eu grym hwy—yn drech na phob gelyn.
27. Dywaid Tagore mai fel Gwyddon y gweithreda Duw gyntaf yn y greadigaeth—ymwneuthur ag egnion ac elfennau; yna fel Pensaer—yn adeiladu bydoedd mawr a bach; ac wedyn fel Bardd—yn prydferthu Ei waith ac addurno y nefoedd â'i ysbryd. A dyna Ei drefn, y mae'n amlwg, gydag eneidiau. Dwg hwy yn gyntaf o dan ddylanwad uniongyrchol yr Ysbryd sydd yn cenhedlu bywyd newydd—"wedi eu geni oddi uchod;" yna eu "seilio mewn cariad" a'u "hadeiladu ar y sancteiddiaf ffydd;" ac wedyn eu "prydferthu ag Iachawdwriaeth." "Gwisgodd fi â gwisgoedd Iachawdwriaeth, gwisgodd fi â mantell cyfiawnder, megis y mae priodfab yn ymwisgo â harddwisg, ac fel yr ymdrwsia priodferch â'i thlysau." Uchelfraint addolwr yn unig yw hyn.
28. Os am ymburo gorfydd inni gerdded llwybrau'r fendith ac oedi'n hir yn y Gwyddfod sanctaidd. Pan deithiem drwy yr Eidal cofiwn inni yn Genoa fynd i mewn i wneuthurfa cerfddelwau, lle gweithiai cannoedd o ddynion ar farmor Carara, mynor gwynna'r byd. Cawodai'r llwch gwyn drwy y lle, a disgyn arnom, onid oeddym yn y man cyn wynned â'r un cerflun; ac ni buasai rhaid inni ond aros yn ddigon hir yn yr unfan na fuasem yn gerflddelwau perffaith ohonom ein hunain! Myned i ganol y gwynder a wneuthom. A dyna y mae'r addolwr yn ei wneuthur —oedi yn y Gwyddfod, yn henfro sancteiddrwydd.
Byw yn yr Haul y mae'r addolwr. Gwelsom yrr o gymylau llwyd-ddu a fugeilid gan y gwynt, ac un ohonynt yn torri'n rhydd oddi wrth y lleill a myned i lwybr yr ymachlud. Ni bu'r haul fawr o dro cyn taflu ei fantell drosto, a pheri iddo adlewyrchu ei ogoniant lliwiog ef ei hun. "Cymdeithas Ei ddioddefiadau Ef" sydd yn sancteiddio dynion; y Machlud mawr a'n gweddnewid.
29. O'i gymharu a'r hynt anorffen sydd o'n blaen, nid yw'r holl symud rhagom a fu yn ein hanes onid cam byr. Y mae gwir nesáu at Dduw, pe ond am un munud, yn cynnwys ynddo'i hunan fwy o gynnydd a pherffeithrwydd nag a wnâi oes o addysg a diwylliant. Llen denau anadl sy rhyngom a'r byd a ddaw, ac nid oes onid trwch anghred rhyngom a Duw.
30. Pwy na châr weled allor yr arogldarth mewn Natur? Fe oeda'r persawr er gwywo o'r blodeuyn, ac erys drachefn yn y cof ar ôl diflannu o'r awyr. Cofiwn fod am oriau mewn gwneuthurfa peraroglau yn Nice, Deheudir Ffrainc, lle y distyllid hanfod rhosynnau a'i gostrelu. Glynai'r persawr hyfryd wrth ein dillad am ddyddiau lawer. "Perarogl Crist" yw addoli, a gŵyr y sawl a ddêl yn agos atom ddarfod inni fod gyda Duw.
31. Er mai ymlusgo weithiau a wna'r oriau, o dan faich trwm o ofid, y mae ynddynt i'r addolwr—fwy o feddwl ac o sylwedd nag sydd yn yr oriau chwim, diofalon. Y mae rhuthrwynt Tachwedd wedi llwyr ddi-ddeilio'r coed sydd yn ffrynt y tŷ, ond er eu diosg o'u gwisg nis dihatrwyd o'u tegwch, canys gwelwn yn y noethni—ac oblegid y noethni—frodwaith cywraint cainc a brigyn, a guddid gan y dail. Datguddio prydferthion newydd a wna'r dymestl i'r sawl sy yng nghymdeithas Crewr y gwynt, a Saer y ddrycin. Gŵyr fod ganddo feddiannau rhy fawr i'w colli byth, a rhy drymion i neb fedru eu dwyn oddi arno. O dan fondo'r deml y câi aderyn y to dŷ a'r wennol nyth iddi; yng nghysgod yr Allor y caiff enaid gweddw hefyd loches glyd.
32. Ped addolem fwy ni'n bydderid gan atgof dadwrdd ddoe ac ni ferwinid ein clustiau gan gythrwfl heddiw; fe ymlifai murmuron melysber y tragwyddol i'n bywyd. "Trwy obaith y'n hiacheir;" a'r dyfodol yw dewis randir ei etifeddiaeth ef. Dyfod ydyw hanes Duw erioed. Fe ddaeth er mwyn dyfod; fe ddaw er mwyn dyfod drachefn. "Er dyddiau tragwyddoldeb y mae Ei fynediad Ef allan;" "Wele Fi yn dyfod;" "Myfi a ddeuaf atoch;" "Myfi a ymwelaf â chwi drachefn;" a dywaid yr Arglwydd Iesu Grist amdano'i hunan wedi Ei ogoneddu, "ac Efe a ddaw ac a wasanaetha arnynt hwy": y mae yr anian "dyfod" yn peri dwyfol aflonyddwch hyd yn oed ar yr Orseddfainc, ac fe edy Ei deyrnwialen ar ôl rywbryd eto er mwyn "dyfod" a "gwasanaethu."
33. Peth tra chyffredin yn ein hanes ydyw i gyfarfyddiad awyddfryd a mwynhad, hiraeth a sylweddoliad droi yn siom: nid a ddisgwyliem a ddigwydd. Eithr nid byth felly ynglŷn â'r awydd am Dduw a'r hiraeth am sancteiddrwydd: y mae'r awydd a'r hiraeth yma yn broffwydol yn wir, yn rhagor na hynny yn rhan o'r mwynhau a'r sylweddoli. Ni'n siomir byth ond gyda'r pethau lleiaf. Diau ddarfod i Dduw drefnu i beidio â chysylltu sicrwydd di-siom wrth y pethau bychain am y gwyddai na allai eu hysgwyddau egwan hwy ddim cynnal baich mor drwm—yr ysigid hwy gan y pwn a'u llethu i'r llawr. Dieithr byth i gri'r dwfn fydd siomedigaeth; y mae gwarant cyflawniad yn nyheadau addolwr.
"A hwy a aethant i fyned allan i Ganan, ac i Ganan y daethant." Aethant . . . daethant. A Duw Ei hunan yw ein Canan ni.
34. Parhawn yn ddigon o blant i ymddiddori mewn nythod adar: yn wir, i chwilio amdanynt fel y gwnaem gynt; ac ni fynnem er dim golli ysfa "hel nythod." Daethom o hyd i un ohonynt y dydd o'r blaen. Mewn twmpath bychan ar y llawr yr oedd y nyth—nyth ehedydd. Efallai mai oherwydd nythu ohono mewn lle mor isel y gall ehedydd esgyn cyfuwch ar ei adain, a chyrraedd nodau mor uchel yn ei gân. Pedwar ŵy oedd yn y nyth. Pan alwasom heibio ym mhen ychydig ddyddiau, nid oedd yno un; ac yn eu lle yr oedd pedwar o gywion bach. Nid oedd argoel plu. Y cwbl a welem oedd croen ac esgyrn, a phigau bychain agored yn estyngedig atom yn disgwyl yn eiddgar am fwyd. Yn lled fuan, aem heibio i'r llecyn wedyn; ac yr oedd y nyth yn wag. Ond gwelem un cyw bach gerllaw imi yn crafu'r ddaear am ei damaid; a'r lleill —bron yn ei ymyl—yn ystwytho'u hesgyll wrth geisio hedfan. Aeth rhai wythnosau heibio heb inni gael cyfle i ymweled â'r llannerch drachefn. Teimlem yn chwith o weld nad oedd aderyn yn y golwg yn unman; eithr ni buom fawr o dro cyn gwybod pa le yr oeddynt, canys clywem nodau perorus yn disgyn o'r awyr las uwch ein pen.
Pa beth yw bywyd?
Posibilrwydd, angen, ymdrech, sylweddoliad.
Posibilrwydd—dyna'r aderyn yn yr ŵy. Angen—dyna'r aderyn yn agoryd ei big.
Ymdrech—dyna'r aderyn yn hel ei fwyd ac yn dysgu ehedeg.
Sylweddoliad—dyna'r aderyn yn yr awyr, wedi dyfod o hyd i'w adenydd, ei fyd a'i gân.
Fe orwedd haen ar haen o bosibilrwydd yn ein natur. Y mae'n bosibl inni hyd yn oed adnabod Duw, ymdebygu Iddo, a byw byth. Cyll pob posibilrwydd arall yn ei amcan eithaf oni thywys ni'n ddigyfeiliorn at Dduw. A deimlwn ni angen y dwfn? A glywn ni islais y dyfnderoedd? Ni wnâ cyflenwi pob angen arall onid cenhedlu anghenion newyddion; canys y mae pob caffael yn gri a phob meddiant gri a phob meddiant yn hiraeth.
Unwaith y daw ymdeimlad fod arnom angen Duw, fe ufuddhawn yn ewyllysgar i alwadau deddf ddiwrthdro "ymdrech"—y ddeddf na pherchenogir dim y bo gwiw ei feddiannu heb blygu ohonom i'w hawdurdod freiniol hi. Er ein bod yn Nhir Imaniwel, neu, efallai, am mai yno yr ydym, y mae'n rhaid inni ymorol am ein cynhaliaeth; a dyfal ymegnïo i esgyn
"Uwchlaw y byd a'i bethau."
O byddwn ymwybodol o'n posibilrwydd gogoneddus drwy ras, o theimlwn angen am Dduw, fe dry'r ymdrech yn hyfrydwch nefol, ac yn wystl a phroffwydoliaeth y cawn—yng nghyflawnder yr amser—sylweddoli'n llawn y bywyd sy fywyd yn wir.
Nid breuddwyd, namyn sylweddoliad yw bywyd yn yr Arglwydd Iesu Grist.
"F'enaid innau yn cael myned
Fel aderyn bach o'r llawr—
Ar adenydd cariad cynnes,
Fry i'th fynwes, Iesu mawr."
PENNOD VI
DISTAWRWYDD
Y FATH yw gorthrwm traddodiad ac arferiad fel na fynnwn ni Brotestaniaid—yn enwedig yr Eglwysi Rhyddion—mo'n dysgu am ystyr, gwerth a phwysigrwydd distawrwydd yn yr addoliad personol na chyhoedd. Y mae hyd yn oed munud distaw yn ormod o dreth arnom, barablwyr rhugl. Rhoddwn eu lle priod i'r weddi a'r darllen, y canu a'r bregeth, ond ni ddeallasom fod distawrwydd ystyriol nid yn unig yn hyrwyddo addoli eithr hefyd yn rhan ohono.
Y mae saib yr areithydd yn rhan o'i arawd, yr atalnod yn rhan o'r frawddeg, rest y cerddor yn rhan o'r anthem. Dywedai Mozart mai'r bar effeithiolaf o fiwsig a glybu ef erioed oedd bar y gorffwys cyn yr Haleliwia terfynol yng nghytgan anfarwol Handel. Ac yng ngolwg yr Arglwydd y mae dymuniad y galon addolgar wedi ei gragennu mewn distawrwydd yn berl o uchel bris. Am y gwyddom trwy brofiad na ellir edfryd enaid na sefydlogi ysbryd gwamal onid drwy osteg llwyr, byddwn ar amserau yn disgwyl yn ddistaw —nid gweddïo, namyn ymlonyddu—heb gymaint â sŵn ochenaid i atal yr hedd, na hyd yn oed anadl deisyfiad mud i rychu wyneb llyfn y distawrwydd.
"Peidiwch a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw." Y mae yna wybodaeth am Dduw ac adnabyddiaeth ohono nad yw'n bosibl oddieithr drwy ddistawrwydd a llonyddwch. A thrachefn, ceir gwybodaeth amdano ac adnabyddiaeth ohono sydd yn cenhedlu distawrwydd a pheri i enaid ymlonyddu. "Da yw i ŵr," ebe Jeremeia, "ddisgwyl yn ddistaw wrth yr Arglwydd." "Eistedd yn ddistaw," ebr Esay. Ac ebr un o'r Salmyddion, "Ymddistewi yn yr Arglwydd"—yn ôl y Saesneg, "gorffwys yn yr Arglwydd," neu yn ôl cyfieithiad Luther, "bwrw angor yn yr Arglwydd." Dyma ddistawrwydd addolgar a bair i enaid lluddedig fwrw'i flinder, oblegid gwybod ohono fod cyswllt annatod rhyngddo a'r dyfnderoedd mud lle'r ymlonydda'r Arglwydd yn Ei gariad.
Od ydym chwannog i glywed y Llais, gorfydd inni fel y Crynwyr ymarfer â distawrwydd. Hwyrdrwm ein clyw ydym ar y gorau; ac y mae'r sŵn oddi mewn ac oddi allan—ac weithiau sŵn ein hanadl ni ein hunain yn ein rhwystro i glywed y llef ddistaw fain, "sŵn distawrwydd mwyn" (the sweet sound of stillness). Ni waedda Duw mewn natur, gras nac enaid; ac ni chlywir mo'i gyfrinachau onid gan y sawl a glustfeinio.
Distawrwydd yn ddiamau oedd ffurf gyntaf addoli. Os felly, doeth ynom yng nghanol pob gwybod a phob cynnydd ydyw dal gafael ddiollwng yn y pethau cyntefig: y mae'r cyfryw yn sicr o fod yn cynnwys rhywbeth sy o werth parhaol. Pethau ieuenctid addoli ydynt mebyd pur y bywyd ysbrydol. Bid siwr, fe gydnabyddwn fod Creadigaeth a Hanes yn llwybrau agoshad at Dduw; ac ni ddylid gollwng dros gof ein bod yn rhywbeth amgen nag edrychwyr: yr ydym yn rhan o'r Cread ac o Hanes. Ond ynfyted ydym fel y gwnawn o'r naill a'r llall lyffetheiriau a'n hetyl rhag myned ohonom tu draw ac uwchlaw iddynt. Ni welsom y Cread yn ei lawn ystyr oni welsom y Crewr; ni buom erioed ar lan y môr onid aethom ymhellach na'r môr; ni ddringasom i gopa'r Wyddfa onid esgynasom yn uwch na hi; ni ddeallasom bwrpas ffeithiau Hanes na'u harwyddocâd os heb ganfod Duw ynddynt a thrwyddynt yn dwyn Ei arfaethau i ben.
Dwg distawrwydd ni y tu ôl i'r Cread a thu hwnt i Hanes ymhell bell i dawelwch y Tragwyddol, lle y trigai Duw yn Ei feddyliau ac yr ymlonyddai yn Ei gariad. Rhyddheir ni am ennyd o hualau'r creedig a'r amserol, a dygir ni i wyddfod y Crewr cyn iddo erioed ddechrau creu. Fel y canodd un:
Cyn i geriwb gael ei lunio,
Cyn i seraff ddechrau byw,
Cyn i angel ysgwyd adain
Gyntaf yn nistawrwydd Duw;
Pan oedd tawelwch dwfn
Huodledd mud
Yn galw ar lonyddwch
Duw i gyd
Heb anadl awel ysgafn,
Heb adain angel byw
I hollti y distawrwydd
Dim ond sŵn distawrwydd Duw.
PENNOD VII
Y CYMUN BENDIGAID
I
GAN mai marwolaeth Crist ydyw calon Cristnogaeth yr act berffeithiaf o addoli ydyw'r Cymun Bendigaid. Nid ydym ni, Ymneilltuwyr, wedi sylweddoli hyn ac felly ni roesom y lle dyladwy i'r Sacrament. Tuedda'r pulpud i guddio'r Bwrdd, ac athrawiaeth y Gair i gelu yn hytrach nag egluro ystyr y symbolau drwy y rhai y cyflwynir Crist ger ein bron yn y bara a'r gwin. Y diffyg gwelediad hwn a bair y brys diddefosiwn a'r areithiau llusg (nid llosg) yng ngweinyddiad yr ordinhad, ac a'n difuddia o'r fendith.
Mewn rhanbarthau o'r Deheudir "y Cwrdd Mawr" yw'r enw ar y Cymun; ac ef, mewn gwirionedd yw y Cwrdd mawr a'r mwyaf o'r cyfarfodydd oll. Ynddo ef fe gyferfydd hanfodion y cynulliadau eraill a rhagor. Yma, fe gyflwynir yr Arglwydd Iesu Grist inni mewn darlun gwrthrychol. A heblaw bod y llygad yn gweithredu y mae'r synwyriadau eraill hefyd ar waith. Ebr Angelus Silesius:
"I ysbryd, un yw'r synwyriadau i gyd:
A welo Dduw, archwaetha Ef 'r un pryd,
Fe'i teimla, fe'i harogla ac fe'i clyw."
O'u cymharu â chofio marwolaeth yr Arglwydd a chyfranogi drwy ffydd o rin yr Aberth, bychan a diddim yw pob cyflawniad arall.
"Mae'r gwaed a redodd ar y Groes
O oes i oes I'w GOFIO."
Y mae'r Cwpan Sanctaidd, phiol y fendith, a roddes yr Arglwydd i'w ddisgyblion cyntaf wedi dyfod o law i law, o oes i oes am ddwy fil o flynyddoedd; ac fe barheir i'w drosglwyddo ymlaen nes bod y Rhoddwr mawr yn ei dderbyn yn ôl i'w Law Ei hun. "Yr wyf yn dywedyd i chwi nad yfaf mwy o ffrwyth y winwydden hon hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas Fy Nhad."
II
Hwyrddydd Saboth drud ydyw—nos Saboth y Cymun. Dyma'r dydd a wnaeth yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo. Nid yr un yw'r Saboth wedi'i Farwolaeth a'i Atgyfodiad Ef. Dyma'r Aberth a'i gwnaeth yn fwy o ddydd ac yn fythol ddydd.
Y mae yma ddau roddi a dau gymryd.
Nid yr un peth a ddigwyddodd ar Galfaria ag a ddigwydd yn y Sacrament. Ar y Groes, Ef a'i rhoddes Ei Hun drosom. Fe ddododd Ei einioes i lawr yn bridwerth dros lawer un act fawr, derfynol, unwaith ac am byth. Wrth wneuthur hynny fe dderbyniai i'w fynwes y rhai y bu Ef farw drostynt. Trefnasai'r Arfaeth Iddo farw â'i freichiau ar led, i fod yn arwydd o'r derbyn graslawn. Cariad yn rhoddi; cariad yn derbyn.
Wrth Fwrdd yr Arglwydd, y mae pechadur yn ei roddi ei hun i Grist ac yn Ei dderbyn yn Waredwr ac yn Arglwydd. Ei efelychu Ef a wnawn yn y ddwy weithred—y derbyn a'r rhoddi. Cawn y fraint o geisio'i ddilyn Ef; ac onid hawdd yw gwneuthur hyn, ni a wyddom y ffordd y cerddodd Ef, oblegid y mae'r llwybr wedi'i ruddo gan Ei waed.
Y Groes oedd cyfle Iesu Grist; y Sacrament yw ein cyfle ni.
Heb y rhoddi a'r derbyn ar Galfaria, annichon a fai i ni Ei dderbyn Ef, na'n rhoddi ein hunain Iddo. Fe'i rhoddodd Ef Ei Hun i ni; wele ninnau'n awr yn ein rhoddi ein hunain Iddo Ef. Gwaith Iesu Grist yn cymryd pechadur a'i gwnaeth yn bosibl i bechadur Ei dderbyn Ef.
Iachawdwriaeth "a wnaethpwyd" ydyw'r iachawdwriaeth wrthrychol yn yr Arglwydd Iesu: ac y mae'n rhaid i ddelw y gwneuthuriad hwnnw fod ar ein calonnau ni cyn y gwypom ei bod yn Iachawdwriaeth bersonol inni. Rhoddi a derbyn a wnaeth Ef; rhoddi a derbyn yr ydym ninnau os yng ngafael y Drefn achubol.
Ofer gweddio:
"Cymer fi Iesu fel yr wyf,
A chudd fi yn Dy farwol glwyf,"
oddieithr ein bod hefyd yn datgan:
"Derbyniaf Iesu fel yr wyf,
A chanaf am y Gwaed."
Gwnewch hyn er coffa amdanaf. Tybed a oes yn y gorchymyn awgrym na byddai'r disgyblion y llefarai wrthynt na disgyblion holl oesoedd cred ddim yn abl ar y ddaear i'w weled Ef yn wastadol, er darfod Iddo addo bod gyda hwy bob amser hyd ddiwedd y byd? Er Ei fod yn Grist y presenoldeb cyson, ni welir mohono o hyd: teflir llen ar ôl llen dros Ei wyddfod Ef —llenni o'n gwead ni'n hunain. A phe gwelem Ef a fuasai ystyr i'r coffa? Onid cofio a wnawn am rywun sy allan o'n golwg?
Yma, gofyn a wna'r Gwaredwr am gofio ohonom Ei gariad Aberthol a'i farw lawnol. Y mae Ef Ei Hun yn gyflawn yn Ei weithredoedd; ac o chofiwn am a wnaeth—cofio meddwl a chalon—fe ddaw Ef Ei Hun i'r golwg. Try'r act o gofio yn weledigaeth o'r Crist byw.
Cofio a gweld yw hi ar y ddaear; gweld a chofio a fydd hi yn y Nef. Yma, nyni a gofiwn Ei gymwynasgarwch anfeidrol inni yng ngwyrthiau Ei drugaredd, hyd oni thywynno'i Wyneb drwyddynt. Yn y Nef, bydd y drefn wedi newid. Gweld a chofio a fydd hi yno. Canys ni a gawn Ei weled Ef megis ag y mae; a bydd yr olwg arno y fath fel nad anghofiwn ni byth bythoedd yr hyn a wnaeth Ef drosom ac erom.
Trwy'r gweithredoedd at y Person—dyna'r drefn wrth Fwrdd y Cymun; drwy y Person at y gweithredoedd ydyw'r drefn yn y goleuni, fry.
Am y gwaredigion wedi cyrraedd Gartref y canodd Eryron ei emyn cyfoethog:
"Bydd gweld gogoniant Iesu
"A chofio'r mannau bu;
"Ei weld a chofio Bethlem;
"Ei weld a chofio'r cwpan "
Yn Gethsemane Ardd;
"Ei weld a chofio'n golchi;
"Ei weld a chofio'r gofyn
Yn y fechnïaeth fawr,
Wrth fynd i'r ddeddf yn ddiwedd,
Rhoi'i fywyd glân i lawr;
Pa fodd na bydd yr olwg
Ar Brynwr euog ddyn
Yn ennyn cân a syndod
Trwy'r Nefoedd fawr ei hun?"
Gweddïwn.
III
Awydd dyn am stori a roddes fod i myth; ymdrech dyn i gael gafael ar stori wir ydyw athroniaeth. Yn yr Efengylau ni a gawn hanes, a hwnnw'n wir.
Y mae'r Arglwydd Iesu Grist yn ffaith—yn hanes Duw, yn hanes y byd, ac yng nghydwybod a phrofiad yr Eglwys. Nid ffrwyth dyfaliad dynion mohono; nid ffansi a genhedlwyd gan ddyhead; nid dychymyg o dan ddylanwad nac ofn na gobaith; nid breuddwyd hiraeth briw; nid creadigaeth cariad; eithr yn hytrach Person hanesyddol—byw, bywiol, anfarwol.
Iesu Grist ydyw Ffaith y ffeithiau. Cyfystyr â diffoddi haul yn y ffurfafen a fyddai ei symud Ef ymaith o hanes a bywyd. Y mae holl ffeithiau'r Ffaith yn bwysig; ac y mae greddf ddiwyro'r Eglwys wedi'i thywys i gofio'r prif ffeithiau, a'u mawrhau, mewn gwyliau sanctaidd a dyddiau cysegredig.
Yr ydym mewn perygl o ollwng y ffeithiau dros gof; neu, o chofir hwynt, o oedi gyda'r ffeithiau heb gymuno â'r Ffaith—anghofio mai llwybrau yn arwain ato Ef Ei hun ydyw'r ffeithiau.
Ac wedi geni yr Iesu...
Ac Efe a fu farw dros bawb...
Nid yw Efe yma, canys cyfododd...
Y geni, y marw, yr atgyfodi—dyna'r ffeithiau pennaf yn hanes y Ffaith. Gŵyl y Geni yw'r Nadolig, Gŵyl y Marw yw'r Groglith, Gwyliau'r Atgyfodi ydyw'r Pasg a'r Dydd Cyntaf o'r wythnos. Nid oes odid ffaith a aller ei deall yn ei llawn ystyr oddieithr edrych ohonom arni yn ei chyswllt â ffeithiau eraill perthnasol. Nid oes ffaith gwbl annibynnol; ac ni ddichon inni amgyffred cynnwys na phwrpas ffaith oni welwn hi yn ei chyflead priod. Yng ngoleuni ei gilydd y deellir digwyddiadau.
Nid hwyrach mai'r pwrpas mawr yng Nghymun Bendigaid Swper yr Arglwydd ydyw cyflwyno'r tair ffaith ger ein bron yn eu hundeb â'i gilydd. O leiaf, fe wneir hynny, canys fe'n dygir wyneb yn wyneb â'r Geni, y Marw a'r Atgyfodi—pennaf ffeithiau'r Ffaith.
Wrth Fwrdd yr Arglwydd, o bob lle, y gellir orau gofio'r Geni; ac yr ydym yn bwrw mai gwyriad colledus yn hanes yr Eglwysi Rhyddion a fu cefnu ar yr arfer o gymuno ar Fore'r Geni.
Heb y Geni, annichon a fuasai'r Marw; heb y Marw ni fuasai'r Atgyfodiad yn ffaith. Ar wahân i'r Marw ni fuasai ystyr i'r Geni; ar wahân i'r Atgyfodiad dibwrpas a fuasai'r Marw.
Yr eginyn dwyfol ydyw'r Geni; y gronyn gwenith yn y ddaear yw'r Marw; yr ŷd yn llawn yn y dywysen ydyw'r Atgyfodiad. Duw yn dyfod i natur, byd, amgylchiadau a phrofiad dyn yw'r Geni; Duw yn neddfle pechadur ac yn diodde'i gosb ydyw'r Marw; Duw yn edfryd dyn yw'r Atgyfodiad.
Duw yn disgyn i'r ddaear yw'r Geni; Duw yn disgyn i barthau is na'r ddaear yw'r Marw; Duw yn esgyn goruwch yr holl Nefoedd ydyw'r Atgyfodi.
"Duw ymddangosodd yn y cnawd,
Fe gafwyd Brawd yn Brynwr;
Ni chollir neb er gwaeled fo
A gredo i'r Gwaredwr."
Cymerwch, bwytewch. Yfwch bawb . . . Gwnewch hyn er coffa amdanaf.
"Duw gyda ni—y dechrau yw;
Y diwedd fydd—ni gyda Duw."
PENNOD VIII
YR ANFFYDDIWR
A GLYWSOCH chwi am yr anffyddiwr a'i ymwelwyr?
Pan ddaeth y cyntaf ato, gofynnai'r anffyddiwr:
"Pwy ydwyt ac o ba le y daethost?"
"Myfi yw Daioni," ebr yntau, "ac oddi wrth Dduw y deuthum."
"Nid oes Dduw," meddai'r anffyddiwr.
Daeth yr ail a gofynnid iddo:
"Beth yw dy enw ac o ba le y daethost?"
"Gwirionedd wyf fi ac wedi dyfod oddi wrth Dduw."
"Nid oes Dduw," ebe'r anffyddiwr.
Yna, wele ymwelydd arall yn nesáu, a'r un holion yn cael eu gofyn iddo yntau, a'i atebiad oedd:
"Myfi ydyw Prydferthwch, ac a ddeuthum oddi wrth Dduw."
"Nid oes Dduw."
Wedyn, wele'r pedwerydd yn ymddangos.
"Pwy ydwyt ti ac o ba le?"
"Fy enw yw Cariad," ebr yntau. "Ni ddeuthum i o gwbl; yr oeddwn yma o'th flaen ond na fynnit ti mo'm gweled—yma yn dy ddisgwyl. Achubais flaen y cyfddydd. Ac nid oedd ddichon imi ddyfod oddi wrth Dduw, canys Myfi yw Duw."
Duw Cariad yw.
Y mae Ef bob amser Gartref ac yn aros wrthym; a phan addolom Ef fe wybyddwn hynny.
PENNOD IX
RHWYGO'R NEFOEDD
Bu wiw gan yr Arglwydd ddatguddio Ei orucheledd i ddyn cyn mynegi iddo Ei fod yn hydreiddio popeth, oblegid gwyddai dyn fod Duw mewn lle cyn deall Ei fod ymhob lle. Gwelai Ef yn eistedd ar orsedd ddyrchafedig yn y goruchelder a'r cysegr ac yn cyfaneddu tragwyddoldeb cyn gallu gofyn ohono, "I ba le yr âf oddi wrth dy Ysbryd ac i ba le y ffoaf o'th ŵydd?"
Ond i feddu syniad cywir am Dduw y mae'n rhaid wrth y ddau wirionedd—Ei uwchfod a'i fewnfod, sef Duw goruwch oll ac ym mhopeth.
Y syniad cyntaf o'r ddau fu'n llywio a lliwio meddyliau eraill Israel am gyfnod hir. Pan gaffent waredigaeth, disgyn atynt y byddai eu Gwaredydd-dyfod i lawr o breswyl Ei sancteiddrwydd. Mewn cyfwng pwysig yn hanes y genedl, nid rhyfedd felly i Esay ddywedyd, "O na rwygit y nefoedd a disgyn." Nid nef, sylwer, ond nefoedd—heavens, nid heaven.
Er gwybod ohonom bellach am holl—bresenoldeb Duw, y mae ystyr arhosol yn y gwirionedd a roddes fod i ddyhead Eseia, a gwerth ymarferol ynddo i ni heddiw.
Y mae Duw uwchlaw Ei gread ac ar wahân iddogoruwch pob nef.
I ni, profiad yw nef, profiadau yw nefoedd; ac amrywiant yn eu cynnwys, eu llun a'u lliw, fel yr ymnewidia wyneb y ffurfafen.
Gwyddom am nef las, nef lwyd, nef niwlog, nef gymylog, nef dymhestlog, nef ddu. A nef a daear heibio, er nad bob amser gyda thwrf, oblegid tynghedwyd hwy i ddiflannu rhag iddynt guddio o'n golwg bethau gwell na hwy eu hunain;
"Heibio i barch a heibio i amarch,
Heibio i ddaear, heibio i ddyn."
Y profiad o hawddfyd, pan fo'r awel yn falmaidd, yr wybr yn glir, y llwyn yn llawn irddail a chân, y galon yn ysgafn, y corff a'r meddwl yn sionc, a bywyd yn llifo'n esmwyth fel nant y mynydd-dyna'r nef las.
Y profiad o'r aneglurder hwnnw sydd yn cenhedlu amheuon, yr agos cynefin, heb sôn am y pell, yn seliedig mewn dirgelwch; rhyw bresenoldeb oer yn ein cyffwrdd gan ei ddangos ei hun a chelu popeth arall ond y llawr—dyna'r nef niwlog.
Y profiad o golli diddordeb ynom ein hunain a'n rhwymedigaethau; popeth yn llacio'i afael a ninnau yn methu â chydio mewn dim; dim blas ar na gwaith na seguryd, a'r gorchwylion a hanner gyflawnir gennym yn cael eu gwneuthur yn unig mewn ufudd-dod anfodlon i chwip dyletswydd-dyna'r nef lwyd.
Y profiad o rywbeth bygythiol, na wyddom yn iawn beth yw, a hofran uwch ein pen, nes peri inni frawychu wrth feddwl y geill ymddryllio unrhyw funud ac ymarllwys arnom yn ddilyw dinistr, a'r arswyd wedi ein dinerthu—dyna'r nef gymylog.
Y profiad o hirnych corff a chystudd ysbryd; ing hiraeth am gâr a chyfaill; yr ymwybod o fethiant pan welom falltod yn difwyno'n breuddwydion tecaf; y siom o sylweddoli arafed yw ein twf ysbrydol a ninnau wedi'n plannu yn Nhir Imaniwel—gwastadeddau breision ffafr Duw; y coll hyder mewn dynion yr ymddiriedasom ynddynt; sŵn crechwen cythreuliaid wrth weled rhagrithwyr Seion mor niferus a'r llafurwyr mor brin; y gofid o weled llywodraeth ac addysg gwlad yn nwylo paganiaid; y gloesau o ganfod dynion a arddel enw Tywysog tangnefedd yn bendigo rhyfel, brodyr yn llofruddio brodyr, "saint" goludog heb gydymdeimlad â thrueiniaid anghenus, di-waith, a "Christnogion" yn ail—groeshoelio Mab Duw gan Ei wneuthur yn watwar—dyna'r nef dymhestlog.
Y profiad o unigrwydd digyswllt â'r cyfanrwydd mawr; tywyllwch wedi'n hamgau, heb sêr i ridyllu'r afagddu: dim i'w deimlo namyn pwysau'r trwch o ludw'r gobaith llosg olaf a orchuddia ein calonnau; heb ffydd na chri amdani; a heb Dduw yn y byddyna'r nef ddu.
O na rwygit y nefoedd, a disgyn.
Ef yw y Nef—Ef yn agos.
Y mae pob nef i'w hagoryd, a ninnau i fyned i mewn iddi a thrwyddi fel yr aeth yr Archoffeiriad Mawr. Ymddiriedwyd i ni yr allweddau; ond ni a'u collasom neu nis defnyddiwn; a chan nad awn i mewn drwy y pyrth y mae'n rhaid rhwygo'r nefoedd. Nid oes onid yr Arglwydd a ddichon wneuthur hyn, gan mai oddi fyny hyd i waered, fel llenni'r deml gynt, y gellir eu rhwygo; a'r ffordd y gwna Ef hyn ydyw disgyn drwyddynt hyd atom.
"Nid fy Nef yw ar y ddaear
Pe'r man gorau tan yr haul;
Fy Nef yw tawel bresenoldeb
Wyneb siriol Adda'r Ail."
Ef ydyw y Nef, a gweled Ei wyneb yw bod ynddi. Hanfod gwynfyd yw cymundeb â Duw—Duw'r wyneb a'i dirionwch. "Edrychasant arno a hwy a oleuwyd, a'u hwynebau ni chywilyddiwyd." Y mae Duw i gyd yn wyneb Iesu Grist, a dyn i gyd yn rhedeg i'w lygaid pan edrycho arno Ef. Cymundeb y ddau edrychiad ydyw'r Nef. "Yn siriol wynepryd y Brenin y mae bywyd."
Gwaredwr "uwch na'r nefoedd oedd weddus i ni," Un na allai nefoedd y Nefoedd mo'i gynnwys y Duw a ddisgynnodd i'n byd a'n bywyd gan rwygo'r nefoedd wrth ddyfod i lawr.
PENNOD X
PROFIAD PERSONOL
I
NID yw profiadau a chyflyrau saint Duw mor hawdd eu helfennu, eu diffinio a'u dosbarthu ag y barna rhai. Peth cymhleth ryfeddol ydyw profiad ysbrydol. Y mae profiad o oleuni gras yn rhagdybied profiad o dywyllwch blaenorol a thywyllwch cyfamserol, gan fod y goleuni yn ein datguddio i ni ein hunain. Yng nghymdeithas Duw y teimla dyn ei fod nesaf ato a phellaf oddi wrtho; canys wrth rodio gydag Ef y teimlwn ein bod yn methu â rhodio; er iddo Ef fyrhau Ei gam, o dosturi, a rhoi camau anfeidrol fyr, gwyddom er ein gofid Ei fod Ef yn anfesurol bell oddi wrthym mewn perffeithrwydd moesol. "O ran y gwyddom . . eithr pan ddelo yr hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddileir." Heb ddyfod eto y mae'r cyflwr hwnnw. Fe ddaw; a theimlwn weithiau ernes o'r sefyllfa honno. I ni, yn awr, fodd bynnag, nid llawenydd digymysg ydyw rhodio gyda Duw, canys fe'n hatgofir hyd yn oed yn addewid rasol ein Gwaredwr—"chwi a fyddwch berffaith"—o'n hamherffeithrwydd presennol; a phair sylweddoli'r diffyg ddygn boen inni. Fe gyd-drig gobaith ac ofn, llawenydd a thristwch yn ein calon.
"Y mae'n rhaid esgyn ar hyd ffordd driphlyg," ebe'r Hisbaenwr enwog Bonaventura—"ffordd y puro, ac yn honno y glanheir o bechod; ffordd y goleuo, ac yn honno y dilynir Crist; ffordd yr uno, ac yn honno y derbynnir y Priodfab." Ond nid rhywbeth i'w gyrchu a'i sylweddoli ar ddiwedd yr yrfa ydyw undeb â Christ, namyn rhywbeth sy'n ffaith heddiw yn hanes a phrofiad y sawl a gredo. "Glanhau, dilyn Crist, derbyn y Priodfab"—dyna drefn y Pabydd. Eithr nid dyna fel y dysg Protestaniaeth. Nid y sancteiddio sy'n blaenori yn Nhrefn y Cadw; ac nid un act derfynol mo sancteiddhâd, ond, yn hytrach, cwrsweithrediad cyson, parhaus.
"Fe'm golchir yn fy nghystudd trwm,
Fe'm purir yn y tân;
Ac mi ddof allan pan ddêl dydd
Wedi fy nghannu'n lân."
Nid tair ffordd sydd yma i'w hesgyn gennym, ond un. Neu, yn fwy cywir, y mae'r tair yr un a'r unrhyw —y glanhau, y dilyn a'r derbyn. Puro drwy ddilyn ydyw, a dilyn drwy gael ein puro; ac ni ellir mo'r naill na'r llall heb dderbyn Crist. Y tri hyn, un ydynt. Yng Nghrist y mae ein popeth; ac o'i dderbyn Ef drwy gredu ynddo, nyni a dderbyniwn yr Iachawdwriaeth gyflawn: "yr ydych chwi ohono Ef yng Nghrist Iesu, yr Hwn a wnaethpwyd inni gan Dduw yn ddoethineb, yn gyfiawnder, yn sancteiddrwydd ac yn brynedigaeth." A phan adawom y byd hwn ac y'n perffeithir sylweddoli yn llwyrach y byddwn ein hetifeddiaeth bresennol—cawn brofiadau newydd o ogoniant digwmwl sancteiddrwydd, o ddwyfol ramant y dilyn, o hyfrydwch anorffen y derbyn.
Camgymeriad dybryd yw tybied mai ar lwybr ac ar ddull mathematical progress y digwydd cynnydd ysbrydol. Tebycach yw ei gynnydd ef i ymweithiad deddf trai a llanw'r môr. Sefwch ar y draethell ac edrychwch ar ddynesiad y don, a chewch ynddi ddrych o gynnydd ysbrydol. Y mae'n cefnu a dynesu bob yn ail, cilio a dyfod atom, pellhau ac agosau, llithro'n ôl a symud ymlaen. Try ei chefn ar y morlan, un munud; y munud nesaf, cofleidia hi. Ac y mae llithriad y don mor anhepgor iddi â'i dyrchafiad os am gyrraedd ei chyrch.
"Try'r greadigaeth
Ôl a gwrthol, wrth Dy air."
Nid y greadigaeth faterol yn unig, eithr hefyd y greadigaeth newydd yn enaid dyn. Ie, "ôl a gwrthol" ydyw hi arnom—to and fro. A'r cwbl "wrth Ei air." Y gwrthebau yma sy'n peri mai ar ofer hynt yr ymlwybra'r eneidegydd anianol a gais—â'i lygaid ynghau —ddyfod o hyd i gyfrinachau'r bywyd ysbrydol. "Canys pwy ymhlith dynion a edwyn bethau dyn, ond ysbryd dyn, yr hwn sydd ynddo ef? Felly hefyd, pethau Duw, nid edwyn neb ond ysbryd Duw." Fe lif drwy ein henaid afonydd na bu neb ond Duw yn rhodio'u glennydd; ac ni chlyw neb ond Ef a ninnau su eu dyfroedd. Y mae ynom "bethau sydd tuag at Dduw"—llygaid a luniwyd o bwrpas i weled Duw, ac nid neb na dim arall; ac nid edrych y llygaid hyn byth ar neb llai na Duw;—clustiau a blannwyd yn un swydd i glywed Ei lais Ef: ni wrandawant ar neb arall. Ac mor wir â bod y "pethau" hyn yn edrych ar Dduw ac arno Ef yn unig; yn clustfeinio am Ei lais Ef, a'i lais Ef yn unig, y maent hefyd yn bethau nas gwelir ac nas clywir gan neb ond Duw Ei Hun.
II
DILYN yn ôl traed pechaduriaid a saint a wna dyn wrth ganu salmau, canys nid yw salm yn ddim llai na llwybr a wnaethpwyd gan ddioddefaint cenedlaethau. Gweddïau ydyw gwir lên pob oes a gwlad. Dyma'r unig binaglau sy yn y golwg wedi ymchwydd dilyw'r oesoedd. Dolef enaid a barodd iddynt esgyn hyd y Nef: artaith y galon friw oedd y "bydded" a roddes iddynt fod.
Ni cheir dim uchder ond lle bo dyfnder; ac y mae'r ddau'n cyfateb. O fesur dyfnder y môr yn ei fan isaf, ceir ei fod bron yn gymesur ag uchder y mynydd yn ei fan talaf. Y mae'n rhaid i'r llinyn a blymio i waelod Tuscorora—a dyna ddwfn eitha'r eigion—fesur deng mil ar hugain o droedfeddi. Taldra Mynydd Everest, o'i droed i'w grib,—ag ef yn fynydd mwya'r byd —ydyw naw mil ar hugain o droedfeddi. Y mae rhwng môr a mynydd, dyfnder ac uchder, gryn bellter mewn gofod; ond eto, er hynny, cymheiriaid ydynt.
Oni wybuost am gri cydwybod yn ei gwaed, a dyhead ysbryd mewn cadwyn, diystyr a diwerth iti byth a fydd profiadau'r iselderau, oblegid o ddyfnder ing y deilliodd pob emyn sydd yn fynydd y fendith. Os bas dy enaid, heb na dyfnder meddwl na dyfnder teimlad, anghyfiaith iti, ddyddiau d'oes, a fydd salmau, hymnau ac odlau ysbrydol; y mae'r iaith yn ddyfnach nag a ddeelli di. Gwir ydyw a ddywaid y bardd: "mae'n dawel ar yr uchelfannau oll"; ond tangnef a esgynnodd o'r gwaelodion ydyw. Y mae perthynas agos a chyfathrach dyner rhwng "y dyfnder sy'n gorwedd isod" a "phen mynyddoedd y dwyrain" (y wlad lle mae'r bore'n byw—dyna'r enw sy gan yr Almaenwr ar "y dwyrain"). Y mae bydoedd Duw i gyd-mater, meddwl, ysbryd—yn llawn odlau per a chynganeddion perffeith—gwbl. Rhywbeth a gaiff llinell ar bwys ei pherthynas â llinell arall ydyw odl; rhywbeth a ennill hi yn ei pherthynas â hi ei hun yw cynghanedd. Un llinell yn galw ar un arall, hithau'n ateb; un byd yn galw ar fyd arall, yntau'n dywedyd 'wele fi'—dyna odl. Ond lle bynnag y bo llinell o gynghanedd y mae'r cydweddiad yn fwy tumewnol a chymhleth: fe gyfetyb un rhan i ran arall yn hollol annibynnol ar y llinellau perthnasol. Tebyg yw cynghanedd i Gaersalem—a adeiladwyd fel dinas wedi ei chyd—gysylltu ynddi'i hun.
Llawenychwn o wybod y'n dygir yng nghyflawnder yr amser i odli â bydoedd Duw i gyd-y bychan a'r mawr, ei greaduriaid distadl ac arddunol. A gorfoleddwn ambell dro yn ddistaw iawn—mor ddistaw nad gwybyddus mo'r gorfoledd i gyrion pella'r ysbryd—wrth feddwl y dichon inni rywbryd wneuthur rhagor nag odli â llinellau eraill y Meddyliwr Cyntaf. Cynganeddu y mae Gras. Bydd holl rannau amryw ein bywyd wedi eu cymwys gyd-gysylltu—cyfatebiaeth gytseiniol wedi edfryd i ddirgel ddyn y galon, drefn a dosbarth, am mai gwraidd ein bywyd yw yr Hwn sy'n achos pob cynghanedd: "canys nid yw Duw awdur anghydfod, ond tangnefedd."
Un yn Dri—dyna ddwyfol odliad.
Tri yn Un—dyna ddwyfol gynghanedd.
Y mae rhyw gymaint ohono Ef Ei Hun ym mhopeth a'r a wnaethpwyd ganddo; ac fe'n creodd ni ar Ei lun a'i ddelw. Onid oes cynghanedd yn holl rannau Ei ffyrdd Ef? Ac onid "croes-gynghanedd" yw, ac yn ordeiniedig i fod, ddydd a ddaw, yn "groes rywiog"? "Oni ddaw allan o enau'r Arglwydd ddrwg a da?" "Gwna Ef dywyllwch a nos fydd"; a phair "i oleuni lewyrchu allan o dywyllwch." "Am hynny y bydd nos i chwi fel na chaffoch ddewiniaeth; yr haul hefyd a fachluda ar y proffwydi a'r dydd a ddua arnynt." Eto, "i'r rhai sydd yn eistedd ym mro a chysgod angau y llewyrchodd goleuni mawr." Ydyw, y mae Ef yn cynganeddu tywyllwch a goleuni, gaeaf a haf, aflwydd a llwydd, dyfnder ac uchder.
Cyn y dichon inni ymddedwyddu a chanu yn ein calonnau i'r Arglwydd, gorfydd inni wybod y terfynau. Poen, yn anad dim, a ŵyr lle mae'r ffin. A phrofiadau y mesurir ymdaith bywyd: dyna'r tirnodau. Wele ennill a droes yn golled; wele golled a droes yn elw. Dacw siom yn garreg filltir; dacw garreg filltir arall, a honno'n garreg dân. "Meini tywyllwch" sy'n llewyrchu'n fwyaf tanbaid. Distaw'r gornant heb y meini a saif yn hy ar ei llwybr tua'r môr; y rhwystrau a rydd iddi barabl ac a'i dysg i ganu. Llumanau gwynion ei buddugoliaeth ydyw blodau'r ewyn y sydd ar ei bron. Mud a fai'r awel heb y goedlan. Cerddorfa ydyw bywyd; a hi a fydd ryw ddydd yn gerddorfa lawn: y cantorion a'r cerddorion a fyddant yno. Y mae llawer ohonynt eisoes wedi dyfod ynghyd. Mwynderau ydyw'r flute notes; adfyd yw'r islais.
Y mae'n rhaid i'r enaid daro, filwaith a mwy, yn erbyn gofid fel y callestr yn erbyn dur, cyn byth y deffroir ynddo y wreichionen a ddengys gyfrinach bywyd. Od yw'r hin yn gerwino, na rwgnach. Os dysgaist wers drwy'r brofedigaeth, gelli fod yn sicr nad damwain ydoedd, a bod ei hangen arnat. Galwad at Dduw ydyw. Plyg.
III
Y MAE'R mynydd cyfagos, llidiart yr ardd, y coed yn ffrynt y tŷ, y llwybr troed, a'r fforddolion a êl heibio yn ymddangos yn dra gwahanol yn y cyfnos—pan fo hi'n dechrau hwyrhau—i'r olwg a oedd arnynt yn y dydd; a hynny am fod y cysgodion yn taflu hugan denau drostynt. Nid yw gwead y fantell yn ddigon clos i'w cuddio'n llwyr, ond y mae'n ddigon trwchus i'w darn—guddio. Nid gorchudd yn celu mohono, ond llen yn peri gweddnewidiad.
Erbyn hyn, y mae'r gwrthrychau a welid gennym yn y dydd llachar—heb drafferthu ohonom i syllu arnynt; neu heb graffu odid ddim—wedi dyfod yn fwy gweledig, yn nes atom, yn fwy pendant. Gwyddom mai yr un a'r unrhyw ydynt, ond bod eu gwedd yn ddieithrach a mwy cyfrin.
Daw'r gwrthrychau'n agosach atom—yn nesnes o hyd—pan yw'r nos yn dechrau mynd rhyngom a hwy; a mynnant bwyso'n drwm arnom cyn canu'n iach ac ymgolli yn y gwyll, fel pe baent yn anfodlon i ddim fynd rhyngom a'n gilydd. Po agosaf atom, nesaf oll ydynt i gilio. Y gwasgiad olaf ydyw'r un a mwyaf o angerdd serch ynddo.
Yn y cysgodion, nid gweld y gwrthrychau, y pethau, y bendithion a wna dyn, eithr canfod eu hystyr, eu pwrpas, eu neges a'u henaid. Ni chanfuwyd dim gennym oni ddeallasom yr hyn sydd ynddo. Llwybrau i galon gwrthrych, i galon bendith ydyw'r hyn sydd yn y golwg—dim rhagor na hynny; canys ynddo'i hun y mae trigfa pob peth.
Gorfydd inni wrth dywysiad cysgodion os ydym chwannog i groesi hiniog y gweledig a mynd yn syth i mewn. A dyma gyfarchiad Sylwedd bob amser i'r sawl a ddêl i mewn i galon ei gyfrinach: "Pwy bynnag a ddêl ataf i nis bwriaf ef allan ddim." Caiff aros i mewn. Gartref—nid ar y ffordd yno y mae pob creadur yn ei ddatguddio'i hun: yno y'i gwelir yn ei elfen a'i fyd a'i gyswllt priod—yr aderyn yn yr awyr, y pictiwr yn y ffrâm, y cwch ar yr afon, y planhigyn yn y pridd, y plentyn ar yr aelwyd, y gwaredig yng Nghrist a thragwyddoldeb yn Nuw.
Megis na ellir cwsg heb fywyd ac na cheir breuddwyd oni bydd rhyw ran o'r enaid ar ddi-hun, felly annichon yw cysgod ar wahân i oleuni. Un o blant y dydd ydyw ef ond bod lliw'r nos arno.
Ni chydnebydd y deial onid yr oriau heulog yn unig. Iddo ef, nid yw oriau'r gwyll yn bod o gwbl. Gan mai wrth symudiadau'r cysgodion y mesur ef symudiadau amser ni ddaw'r nos i'w gyfrif.
Cysgod cyfnos yw cwlwm goleuni a thywyllwch; cysgod cyfddydd sy'n cydio nos a dydd. "Ef a wna i derfyn bore a hwyr lawenychu."
Llithrodd yr haul dan ei geyrydd ers tro; a'r cysgodion oll a ddarfuant. Y mae hi bellach yn gefn trymedd y nos—y tywyllwch yn hirllaes a'r düwch yn ddwfn; ond maint aruthr y ddaear ei hun a bair i'r nos bara cyhyd, ac oedi'r wawr. Petai'r ddaear yn llai ac yn cylchdroi'n gyflymach, fe ddôi'r bore'n gynharach a chwtogid y nos.
"Ond Haul Cyfiawnder a gyfyd i chwi." Fy enaid, nac atal dywyniadau'r Haul, eithr "prysura ddyfodiad dydd Duw"—y dydd y mae i'w holl belydr eu llewyrch a'u cysgod.
"Fel y dyhea gwas am gysgod." Gweithiwr Dwyreiniol sydd yma yn llafurio yn y maes, wedi lluddedu gan galedwaith, yn dyddfu gan wres y dydd, a'i gylla'n ddigon gwag. Ond gŵyr fod awr benodol gollyngdod llafur wedi'i threfnu, y dôi'r cysgod ar y deial i ddynodi'r amser terfynedig, a hiraetha am ddyfod o'r awr honno. Dyma gysgod yn troi'n wybod—y gwybod a gynnwys ryddid, lluniaeth a gorffwystra. Gwyn ei fyd y gŵr blinderog, hiraethus, a fedr ddatod seliau'r cysgodau; datgloi pyrth y dirgeledig; a mynd i mewn i galon cyfrinach—y gwybod sy â'i ddirgelwch yn oleuni, a'i oleuni'n ddirgelwch. Gwisg y pelydryn ei fantell. Ac fel Nicodemus fe gerdd lwybrau'r Waredigaeth liw nos.
IV
FE gerdd drwy'n henaid ambell foregwaith fintai o feddyliau dieithr. Gwyddom nad yn ein bron y ganed
hwynt; ac fel y dywedir am y sawl sy anedig o Dduw, ni wyddom o ba le y daethant nac i ba le yr ânt. Nid ydynt oll yn ogymaint, yn unffurf nac o'r un taldra, eithr cyd-symudant yn dawel, heb sŵn yn y byd; a dwg hoywder eu sang ar gof inni ddawns y llawenydd cynnar, a hyfrydwch y gân a gollwyd cyn clywed ohonom onid nodyn neu ddau.
Er mai sionc eu cerddediad, nid yw'r ysgogiadau'n ddigon chwim na'u camau mor gyflym ag i andwyo na hyd yn oed amharu dim ar eu hurddas. Er bod ohonynt yn orchuddedig â llwch-olion rhyw hynt hirfaith—a bod clais a chraith yr antur a'r ymdrech yn amlwg ar eu gruddiau, nis difwynwyd ac ni wanychwyd eu nerth.
Cil-edrych arnom a wnânt wrth fyned heibio, a nyni'n sefyll yn syn ar yr ochr dde-eu trem yn gwahodd a gwahardd, yn ein galw a'n cadw draw, yn ein denu a'n hatal, yn peri hyder a pharchedig ofn.
Gwead yw eu gwên o ffresni bore ac aeddfedrwydd prynhawn, o doriad gwawr ac ymachlud, o ynni boreddydd a thangnef yr hwyr. Yng ngoleuni eu llygaid hwy eu hunain-fflach y disgleirdeb nefol-gwelwn mai meddyliau Duw ydynt, ar eu hymdaith o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb ac yn pererinio drwy'n henaid ni ar y ffordd adref. Rhyfeddwn, arswydwn, diolchwn o sylweddoli'r bri a ddodant arnom drwy gydnabod ein bod ac ymweled â ni, a ninnau onid distadl ymysg ei greaduriaid afrifed Ef. Gallasent ddychwelyd i'w Gwlad ar hyd ffordd arall; ond fel yna o'i ras y bu wiw gan yr Arglwydd drefnu.
Cyffyrddiadau personol Duw ei Hun ydyw Ei feddyliau. Yr hyn yw'r pelydr a'r gwlith, y gawod a'r awel, y tir a'r wybr i'r planhigyn-dyna ydyw meddyliau Duw i enaid. Heb Ei feddwl Ef nis plennir, ni wreiddia, ni thyf, ni flagura, ni ddwg ffrwyth. Bu'n rhaid i'r meddyliau gosgeiddig, ucheldras oblygu eu pennau'n isel iawn cyn medru dynesu atom drwy borth mor gul. "Nid fy meddyliau I yw eich meddyliau chwi." Pur, uniawn, gwir ydyw yr eiddo Ef; halog, gwyrgam, gau yw yr eiddom ni.
Yr Arglwydd a ddysgodd ddyn i feddwl: "yr Hwn a ddywaid i ddyn beth yw ei feddwl"-nid Ei feddwl Ef yn unig, eithr meddwl y dyn ei hun hefyd. Beth tybed oedd rhag-flaenor y meddyliau fyrdd a dramwyodd drwy enaid dyn-Alpha pob syniad-meddwl cynta'r oesoedd? Er y bore hwnnw (ie bore ydoedd, oblegid gwawr yw pob datguddiad) fe genhedlwyd myrddiynau o feddyliau gan feibion dynion. I ba le yr aeth meddyliau coll y canrifoedd? A fugeilir hwy'n ôl o'u disberod? A yw'r Bugail Da yn corlannu meddyliau? Ymhlith y torfeydd dirif o feddyliau, nid oes un gwir na phrydferth na da o ewyllys y cnawd nac o ewyllys gŵr. Nid rhoddi bod i feddyliau ysbrydol a wneir. Dyfod a wnânt hwy: ymwelyddion o fyd arall ydynt. Hanu o Dduw a wna pob rialiti. Ef ydyw'r Sylwedd di-gysgod. Ef ydyw'r Tegwch gwir. Ac nid oes neb Da ond Duw, na dim da onid a lif allan ohono Ef.
Peidiem â sôn dim am wreiddiolder pe baem yn byw'n nes at y Gwreiddiol, yn Ei adnabod yn well, yn Ei garu'n fwy. "Pa beth sydd gennyf a'r nas derbyniais?"
Beth fydd ysbail rhyfel enaid pan ddychwelo wedi'r frwydr olaf a'r fuddugoliaeth fawr, derfynol? Tybed a fydd ganddo rywbeth gwell nag ef ei hun wedi'i oleuo, ei hyfforddi, ei dywys a'i dariannu gan "fedd- yliau Ei galon Ef;" ei rymuso drwy'r trinoedd a'i olchi drwy'r Gwaed?
V
Y MAE pob meddwl dwfn yn feddwl ar ei ddeulin; dyna anian briod y meddwl dwys. Beth bynnag fo testun ein hefryd a'n myfyr-bydded ef unrhyw gainc o'r gwybodau-ni allwn byth feddwl o ddifri heb ein bod trwy hynny yn cyfwrdd a chyffwrdd Duw, oblegid Ef ydyw gwaelod a gwraidd popeth. Gŵyr y serydd effro a gerdd lwybrau'r ffurfafen liw nos nad yw'r ysbaid tawel hwnnw ddim yn nos i neb namyn i enaid cwsg; ac mai rhai o gyfrinachau Duw yn dechrau blaguro ydyw'r sêr.
Traidd yr anianydd i galon llychyn, a chenfydd yno fydoedd aneirif yn chwyrnellu drwy'i gilydd, ac eto'n cylchdroi ogylch haul eu cyfundrefn; ac ymgryma'n addolgar a dywedyd, "dyma rannau Ei ffyrdd Ef."
Pan yfo'r cerddor yn ddwfn o ysbryd y Gân fe nawf ar donnau seiniau nes glanio ohono ar draethell bell, bell, lle y mae pob ton yn dôn, pob symudiad yn beroriaeth, pob bywyd yn gynghanedd.
Arwynebolrwydd yn anad dim sydd yn peri anghred a rhyfyg. Plentyn y feisdon ydyw anffyddiaeth, nid plentyn yr eigion; ac nid yn y dwfn y clywir cableddau. Y mae calon gwirionedd—fel calon y blaned y preswyliwn arni—yn dân; ac ond ymwthio i mewn cyn agosed ag y gallom i'r canolbwnc fe dawdd ein hanghred yng ngwres yr oddaith anniffodd; a nyni a addolwn.
PENNOD XI
CYFRINIAETH
MEWN ymdriniaeth ar addoli fe hawlia Cyfriniaeth le amlwg a'r lle mwyaf gan mai o blith Cyfrinwyr y cafodd yr Eglwys ei phrif saint a'i gweithwyr pennaf —hwynt—hwy oedd y dynion mwyaf ysbrydol a'r llafurwyr eiddgaraf. Heb sôn am Plato ac Ioan, Paul ac Awstin—y pedwar yn fwy na neb arall sy gyfrifol am ysbryd, ffurfiau, cynnwys a chyfeiriad Cyfriniaeth Gristnogol y mae oesoedd diweddarach wedi'n bendithio â lliaws o gyfrinwyr mawr. O'r drydedd ganrif ar ddegoes aur Cyfriniaeth—hyd heddiw ni ellir nodi neb a gyfoethogodd gymaint ar fywyd ysbrydol â Francis o Assisi, Dante, Da Todi, Bonaventura, Tauler, Plotinus, Suso, Eckhart, awduron y Theologia Germanica, Ignatius Loyola, Teresa, Ioan y Groes, Boehme, George Herbert, Fox, Vaughan, Morgan Llwyd, Molinos, Traherne, Crashaw, Platoniaid Caergrawnt, Blake, William Law, Coleridge, Pantycelyn, Browning, John Smith, John Henry Newman, Islwyn, Whittier, Francis Thompson. A bu pregethu cyfrin Evan Phillips, Joseph Jenkins, Peter Hughes Griffith ac eraill, o werth amhrisiadwy i'n cenedl ni.
Er y Diwygiad Protestannaidd ni roddwyd i Gyfriniaeth agos gymaint o sylw ag a roddir heddiw.
(a). Adwaith ydyw'r adfywiad hwn yn dilyn y gorbwys a roddes y ganrif ddiweddaf ar Reswm. Penfeddwodd Rheswm ar ei liaws buddugoliaethau. Dyna yw gwendid a nam "Rhesymoliaeth." Ond ni fyn yr ysbryd symleiddio gormod ar ei fyd, gan fod mwy o ffeithiau yn wybyddus iddo nag a freuddwydiodd Gwyddoniaeth. Mewn atebiad i'r wrthddadl na ellir gwybod beth yn eu hanfod yw mater ac egni, meddwl a bywyd, ac felly bod Duw a'r cread yn anwybyddadwy, fe gyfeiria'r Cyfrinydd at y profiad o Dduw. Oni ellir drwy gysylltu ffaith wrth ffaith, a gwneud ohonynt gadwyn hirfaith, ddyfod o hyd i Dduw, yna mae'n rhaid bod ffordd arall i gael gafael arno. Gwrthdystiad yw Cyfriniaeth, yn ôl Dwelly a Grensted, yn erbyn rhannu dyn, ac yn hawlio ei holl bersonoliaeth. Y mae dyn yn fwy na meddwl a rheswm, ac yn teimlo a byw anhraethol fwy nag y dichon iddo ei ddiffinio, ei egluro, na hyd yn oed ei fynegi.
(b). Rhoddir bri dyladwy heddiw ar Gyfriniaeth fel math o wrthdystiad yn erbyn y gor-bwyslais ar sefydliadau, rheolau, deddfau dynol, defodau, seremonïau, etc., mewn gair, yr allanol, y plisgyn, y ffrâm, gan anghofio'r mewnol, y cnewyllyn, y darlun.
Cawn hanes Cyfriniaeth gan Inge, Christian Mysticism, Studies of English Mystics, The Philosophy of Plotinus; a Rufus Jones, Spiritual Reformers of the 16th and 17th centuries; ei meddyleg a'i hathroniaeth gan William James, The Varieties of Religious Experience; Starbuck, The Philosophy of Religion; Coe, The Spiritual Life; Du Prel, The Philosophy of Mysticism; Rènéjac, The Bases of Mystic Knowledge; Delacroiz, Etudes d'Histoire et Psychologie du Mysticisme; Underhill, Mysticism, and Practical Mysticism; von Hügel, The Mystical Element in Religion; Morris Addison, The Theory and Practice of Mysticism, ac ymlaen.
Sieryd Cyfrinwyr yr un iaith a'r un yw eu nod a'u Gwlad. Dylem medd Plato, yn y Timaeus, wahaniaethu rhwng dwy ffurf bod, a gofyn, Beth yw hwnnw nad oes iddo ddechreuad, a beth yw hwnnw sydd o hyd yn dyfod ac nad yw. Ac yn y Paradiso gwêl Dante Rialiti fel afon o Oleuni—hynny yw, rhyw lif sydd yn bythol newid a symud; ond yn ddiweddarach, wedi ei sancteiddio, gwêl ef fel Calon Rhosyn, a'r gwaredigion yn betalau y Rhosyn hwnnw. I'r Cyfrinydd ni all y newidiol, symudol fod y gwir Rialiti:
Arwydd-luniol ydyw ar y gorau. Cais ef y tragwyddol ddinewid; eithr, yn wahanol i'r athronydd nis bodlonir gan yr Absolwt haniaethol, ond myn fyned y tu draw a thu allan i gylchoedd rhesymeg a theimlo Duw, Ei gyffwrdd yn bersonol, a dyfod i undeb ag Ef. Gwaith Thomas Acquinas a'r Sgolwyr oedd dysgu ac esbonio athrawiaeth; swyddogaeth y Cyfrinwyr oedd egluro'r bywyd Cristnogol; y blaenaf yn dangos rhesymoldeb awdurdod Eglwys a Datguddiad, a'r olaf—fel ffrwyth eu profiad personol yn egluro elfennau cymundeb enaid â Duw, hynny yw, hyd y gellid, oblegid y mae'r gyfrinach i gyd yn fwy nag y gellir byth ei datguddio. Hon yw cyfrinach y Garreg Wen: "ac ar y Garreg enw newydd wedi'i ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb ond yr hwn sydd yn ei dderbyn."
Angerdd ymwybod o'r angen am Dduw sydd yn rhoi bod i Gyfrinydd—yr argyhoeddiad na thorrir mo'r syched amdano gan na chyfundrefn o athrawiaethau, nac athroniaeth, na chyflawniadau gweithredol er i'r rheini fod yn actau o ddyngarwch dihunan. Nid priod ddawn y rhai dewisol yw: cyfrinydd yw pob dyn y mae ymdeimlad o hiraeth dwfn am y Duw byw yn llywio a lliwio'i fywyd. Nid gwybod am Dduw yw ei gri, ond am Ei deimlo; a chred ef fod ei hiraeth yn broffwydol am fod perthynas rhyngddo a Duw. Ni chollwyd Duw ganddo—dim ond colli'r ffordda dywaid wrthym fod yna lwybr a arwain ato; ac un o nodau penna'r Cyfrinydd yw yr egni cyson, di-dor, a'r dewrder moesol, di-wanychiad â'r rhai yr ymestyn at y delfryd pendant sy ganddo. Gwahaniaetha nifer y camau ar y Ffordd Gyfrin. Yn The Book of the Nine Rocks y maent yn naw; yn y Theologia Germanica saith ydynt, sef:
(1) yr hiraeth am Dduw; (2) deffroad yr enaid; (3) puredigaeth neu edifeirwch; (4) myfyrdod, yn cynnwys distawrwydd gweddi, canol-bwyntiad; (5) goleuni, neu ymwybod â phresenoldeb Duw, h.y., golwg ar Gopa'r Mynydd; (6) nos yr enaid, sef anobaith ac amheuaeth; (7) undeb perffaith â Duw. Yn ôl rhai Cyfrinwyr nid oes onid pum cam; myn eraill mai pedwar ydynt, sef Deffroi, Puro, Goleuo, Uno. Y mae'r sawl a wnaeth astudiaeth fanwl o fywydau Teresa, Madam Guyon, Ioan y Groes a Suso (a dewisir y pedwar hyn oblegid amlder y ffeithiau gwybyddus amdanynt) yn tystio mai tair ystâd oedd eiddynt hwy. Yn gyntaf, y profiad o lawenydd oblegid gwybod ohonynt eu bod wedi eu huno â Duw—profiad a geisiwyd er ei fwyn ei hun ac a'i mynegai ei hunan drwy deimlad angerddol. Yna ecstasi poen oherwydd teimlo bod Duw yn absennol, a'r enaid yn ymwybodol o'i anheilyngdod a'i ysgariad oddi wrth Dduw. Yna, yn ddiweddaf, nid oes na llawenydd na phoen, na dim ymwybod o'r enaid mewn undeb â Duw nac ar wahân ac yn ysgaredig oddi wrtho; ond, yn hytrach, hunan wedi ei lwyr anghofio, a dim ond Duw yn y golwg, heb mwyach drai na llanw teimlad, na chais am fedru teimlo—Duw yn wastadol ger ei fron, yn ei gyfarwyddo a'i dywys hyd yn oed ym mhethau lleiaf a distadlaf bywyd.
Deil Underhill y geill dyn ddyfod i undeb â Rialiti yn hollol yn yr un ffordd ag y mae dyn yn adnabod ei wlad, bardd yn gwybod cyfrinachau awen, a'r carwr yn adnabod ei anwylyd.
Onid yw'r breuddwydiwr yn gyfrinydd pan ddyger gan ei weledigaeth wyneb yn wyneb â'r pethau sy tu draw i fyd y synhwyrau? Tybed nad cyfrinydd yw'r athronydd pan elo y tu hwnt i feddwl a chael golwg ar wirionedd noeth—nid y syniad am wirionedd? Onid yw y dyn ymarferol, y gweithiwr cyffredin yn gyfrinydd pan sylweddolo fod ei weithrediadau yn rhan o egnïon diorffwys y Gweithiwr Mawr?
Heb weithrediad Duw yn yr enaid nid oes grefydd. Ymdeimlad o rywbeth yn gafaelyd ynom, yn gweithio arnom a thrwom ac yn ein gweddnewid-dyna ei hanfod. Fe gynnwys hyn, o raid, ein bod ninnau yn cydweithio ag ef, ond y mae'r cwbl—o'n tu ni—yn dechrau mewn goddefolrwydd, ymollyngiad ar Dduw, ac iddo ac ynddo: hynny yw, yn gyfriniol.
Y mae i Ffydd, fel sail wrthrychol, ddatguddiad hanesyddol. Deil Herrmann nad yw felly gyda Chyfriniaeth, a myn ef yr ymwrthyd hi â'r hanesyddol; ond credaf mai ar ŵyr yr â ef, Brunner, Barth a Tennant, a'u bod yn camddeall Cyfriniaeth, neu, o leiaf, na wnânt y gwahaniaeth a ddylid wneuthur rhwng Cyfriniaeth Gristnogol a Chyfriniaethau eraill. "Ffurf o dduwioldeb yw Cyfriniaeth," ebr ef, "a deimla fod yr elfen hanesyddol yn feichus" ac felly a'i teifl o'r neilltu. Ond nid cywir hyn, fel y dengys Inge, Maritain, Dawson, Bergson, Bremond, Söderblom a Von Hügel. A dengys Heiler nad cyngreddfau (intuitions) na theimlad ydyw'r elfennau llywodraethol mewn Cyfriniaeth, er eu bod yn amlwg ynddi. Yn hytrach, Ilwybrau at y Weledigaeth bersonol ydynt. Ac yn sicr nid Rheswm yw yr unig afon a lif i Dduw. Pe nas arweiniai y cyngreddfau a'r teimlad ddim pellach nag atynt hwy eu hunain buasai Cyfriniaeth yn fyfïaeth wrthun: yn lle hynny tywys at y Rialiti y maent. Yr oedd y Cyfrinwyr Cristnogol mwyaf, yn ddieithriad, yn gyfarwydd â hanes yr Arglwydd Iesu ac yn rhoddi iddo ei briod le. Nid rhywbeth a ddisgyn o'r nef fel cawod o law yw Cyfriniaeth: tyfiant ydyw o ddaear fras profiad—h.y., y mae ei gwreiddiau i lawr yn ddwfn mewn ffeithiau—ffeithiau hanes y Crist a ffeithiau profiad y Cyfrinwyr eu hunain. Nid mewn Cyfriniaeth y dechrau'r weledigaeth nefol, nac ynddi hi y tardd y datguddiadau a gafwyd ar Dduw a bywyd tragwyddol. Dynion yw'r Cyfrinwyr sydd yn hollol gynefin â hanes y Gwaredwr, yn cymuno ag Ef yn bersonol drwy gyfrwng y ffeithiau a groniclir, pob gair a lefarodd Ef, a phob peth a'r a wnaethpwyd ganddo yn cael eu cysegru i fod yn llwybrau'r dyfodiad ato. Hwy, o holl ddiwinyddion a beirdd yr Eglwys sydd yn sôn mwyaf am angau'r Groes ac yn ymwthio bellaf i mewn i ystyr a chyfrinach y ffaith. Nid "rhodfeydd y Brenin" yn unig yw Ei eiriau, Ei ddistawrwydd a'i actau: y maent yn rhodfeydd iddynt hwythau hefyd.
Gwyddant yn arbennig am "gymdeithas Ei ddioddefiadau" i'r hon yr aent i mewn yn gyntaf drwy byrth y ffeithiau hanesiol, nes deffroi o'r dyn ynddynt, a pheri iddynt wrthdystio yn erbyn y cam a wnaed â'r Cyfiawn hwnnw. O gerdded ymhellach i mewn i'r gymdeithas fe ddeffrowyd y pechadur ynddynt, oni wybuwyd ganddynt y rhaid bod pechod yn rhywbeth echryslawn cyn byth y triniesid Iesu Grist—ac Ef yr Hwn ydoedd y modd y triniwyd Ef, a chyn y goddefsai Ei Dad iddo ddioddef y fath driniaeth waradwyddus. O gerdded ymhellach—bellach i'r gymdeithas deffrodd y sant ynddynt, nes llefain ohonynt mewn ing dyhead:
"O na welwn
"Fore byth na phechwn mwy."
Gweddi sant, nid gweddi pechadur yw honyna. Ffaith, nid ffansi. Ffrwyth profiad yw, ac fel y dywaid von Hügel, "ni buasai un adnabyddiaeth o Dduw nac un profiad ohono'n bosibl, onibai ein bod yn byw mewn byd sy wedi'i drwytho mewn ffeithiau." Rialiti yn ei ddatguddio'i Hun ac yn ei guddio'i Hun—dyna oedd yr Ymgnawdoliad. Yr ydym yn colli golwg ar ryfeddod fwyaf Gwyrth y gwyrthiau oni sylweddolwn fod yr Ymgnawdoliad yn Ffenestr ac yn Orchudd. Yr oedd Ei gnawd Ef yn "llen." A chafodd y Cyfrinwyr, yn anad neb, olwg ar Rialiti gogoneddus y Gwydr a'r Blind.
Duw'n ymddangos, Duw'n ymguddio
Dyna Faban Bethlehem:
Llewyrch cyfrin hwyr gysgodion
Tywyn Haul, heb lachar drem.
Gwybod sydd uwchlaw gwybodaeth
Dyna'r unig wybod gwir:
Golau a gwyll yn gyfamserol
Llwydnos dros y Dwyfol Dir.
Er mor hanfodol bwysig yw'r datguddiad hanesyddol, oni fedd dyn rywbeth ychwanegol—sef yw hynny, profiad—nid oes ganddo ddim amgen na chrefydd ail law: ffydd yn ffydd rhai eraill sy ganddo, a dim rhagor.
Yn ôl Ritschl a William James y mae Ffydd a Chyfriniaeth yn hollol wrthwyneb i'w gilydd yn hanfodol felly. A Ritschl mor bell a chondemnio yr elfen gyfrin mewn Pietistiaeth a'r Diwygiad Methodistaidd. Ar y llaw arall, barna James mai "mewn ymwybyddiaeth gyfriniol y mae gwraidd a chanolbwnc y profiad crefyddol, personol." A thra deil Herrmann nad cyfystyr ffydd a chyfriniaeth, fe ddysga er hynny fod bywyd mewnol crefydd yn cynnwys rhywbeth dirgelaidd, cyfrin ac anhrosglwyddiadwy, ac na ddichon dyn gyflwyno drosodd i arall ddim o orau crefydd: gorfydd i'r dyn ei hunan ei feddiannu trwy brofiad. Ni wna un gwahaniaeth i ddyn pa un ai fflachio ar ei feddwl fel goleuni mellten ai ynteu tywynnu'n ddistaw—dyner a wna'r weledigaeth, oblegid yr Un yw Duw y mellt a Duw y pelydr. Pan ddelo, y mae'r weledigaeth yn erchi gydag awdurdod na ellir anufuddhau iddo. Ac nid yw ufudd-dod dyn yn ddim llai na ffrwyth uniongyrchol cyffyrddiad personol Duw.
Myn Rufus Jones fel llawer eraill o'r Crynwyr, mai Duw ydyw sylfaen enaid, a bod pob dyn—yn nwfn ei fod yn cyfranogi o un bywyd mawr, canolog; ac fe ddiffinia Gyfriniaeth fel y gelfyddyd o ddarganfod Duw yn ein calon. Myned i mewn felly ydyw mynd i fyny; a mynd i fyny yw myned i mewn. Ond wrth sôn am "ddarganfod Duw" dylid cofio na ddargenfydd dyn ond a ddatgudd Duw. "Ni a adwaenom Dduw," ebe Plotinus, "drwy ddealltwriaeth arall, gwahanol i'r un sydd yn ymresymu."
Un o ddaliadau beiddgaraf Cyfriniaeth yw bod dyn o ddyfod i undeb â Duw yn cael ei "ddwyfoli." Dyma eiriau Clement o Alecsandria: "Gwers bennaf y gwersi ydyw i ddyn ei adnabod ei hunan, canys o'i adnabod ei hunan fe adnebydd Dduw, ac wrth Ei adnabod Ef fe'i gwneir yn debyg iddo." Dywaid Athanasius "ddarfod i Grist gael Ei wneuthur yn gnawd fel y'n gwelid ni yn abl i dderbyn dwyfoldeb i'n bywyd." A dyma ddysgeidiaeth Eckhart: "Dywaid ein Duw wrth bob enaid caruaidd, 'Mi a ddeuthum yn ddyn er eich mwyn chwi; oni ddeuwch chwithau yn Dduw er fy mwyn I, yr ydych yn gwneud cam â mi'." Braidd nad ystyriwn fod ei sylw beiddgar ar erchwyn rhyfyg; ac eto, nid yw y "dwyfoli" yn ddim ond ei ffordd ef o fynegi mai drwy fod yn gydryw â Duw y gwaredir dyn. "Ni soddir mo'i bersonoliaeth yn y dwyfol, na chan y dwyfol, nes peri i ddyn golli ei hunaniaeth." "Nid yw Duw," ebe Boehme, yn "newid yr enaid o fod yn enaid. Ni pheidiodd Duw â bod
Dduw wrth ymgnawdoli; a chreadur fydd dyn byth er cael ei ddwyfoli." Ymddengys i ni nad yw'r "dwyfoli" yn ddim gwahanol i'r hyn a ddysgir yn yr ymadrodd "yn gyfranogion o'r dduwiol anian."
Gwneir cam dybryd â Chyfriniaeth gan Murisier, a'i ddilynwyr yn Lloegr, drwy ddysgu ei bod yn crebachu'r ymwybyddiaeth, mai myfyrdod ac ecstasi yw cyrch eithaf Cyfrinwyr, ac nad ydynt yn weithwyr ymarferol. Yn sicr nid crebachdod ydyw canoli, canolbwyntio ac unoli ymadferthoedd yr enaid: ni ellir meddwl o ddifrif heb hynny; ac ni chafwyd erioed weledigaeth ysbrydol a weddnewidiodd fywyd y gweledydd heb fod yr enaid wedi ei grynhoi a'i wasgu i un pwynt. Nes i'r gwir na dywedyd bod Cyfriniaeth yn crebachu fyddai dywedyd mai gwregysu lwynau'r meddwl a wna—casglu'r egnïon gwasgaredig, eu huno, eu cyfnerthu, nes bod symud a gweithio yn haws na chynt. Gwregys nerth yw Cyfriniaeth.
Nid myfyrdod nac ecstasi ychwaith yw uchelgais pennaf Cyfrinydd: moddion i gyrraedd amcan ydyw'r naill a'r llall. Undeb â Duw, calon bur, ewyllys gwbl barod i ufuddhau i eirchion Ei ewyllys Ef, bodlonrwydd llwyr i weithio a dioddef—dyna'r "union nod o flaen ei amrant." Ni wybu yr Eglwys erioed am weithiwr mor galed â Phaul, a fuasai yn y Nefoedd ac a welsai yno bethau anhraethadwy. Yn wir, y mae ymgysegriad i waith yn nod arwydd y prif Gyfrinwyr ar hyd yr oesoedd; a phrawf hanes yr Eglwys mai'r dynion mwyaf ysbrydol oedd y dynion mwyaf ymarferol hefyd. Gwnâi Plotinus waith mawr fel gwarcheidwad; sefydlai Teresa leiandai lawer a'u harolygu gyda manylder cyfrifydd; Williams Pantycelyn oedd y gweithiwr mwyaf egnïol a'r mwyaf ymarferol ymysg y Diwygwyr Methodistaidd.
Ni all gwladwriaeth fyw heb yr idealydd; a threngi a wnâi'r Eglwys heb y Cyfrinydd. Ef, bob amser, yw ei gwaredydd mewn cyfwng, a'i hysbrydolydd yn nos ei gofwy. Pwy a ddichon brisio gwerth Francis a Dante i Eglwys Rufain? Buasai gweithgarwch y Mudiad Tractaraidd yn Rhydychen wedi ymgolli yn nhywod yr anialwch onibai am bersonoliaeth fawr, gyfriniol Newman; ac onibai am Williams yn canu emynau a'u gwerthu led—led y wlad, buasai'r anghaffael anffodus rhwng Rowlands a Harris wedi dinistrio effeithiau daionus y Diwygiad. Yn hytrach na'u bod yn freuddwydwyr anymarferol, fel y tybia'r anwybodus, y mae'r Cyfrinwyr yn fyw i alwadau eu cyfnod, yn ymgymryd yn ewyllysgar ac awchus ag iau gwasanaeth, yn dwyn beichiau cyfrifoldeb. I'r sawl a'i cymero, fe dry'r iau yn brawf o agosrwydd at Rialiti, yn sel cymundeb ac yn ernes parhad o'r cymundeb. O'i ddwyn yn hir try'r baich yn asgell. Yn wir, nid yw'r hyn a eilw dynion yn gyffredin yn "feichiau," yn ddim byd llai i Gyfrinydd na blaenau'i adenydd yn dechrau dyfod i'r golwg.
Gellir dosbarthu Cyfriniaeth i dri math:
1. Cyfriniaeth Teimlad. Fel y mae'r byd materol o'n cwmpas yn ei gyflwyno'i hunan inni drwy ein synwyriadau naturiol, felly y mae byd uwch y byd ysbrydol yn dyfod i gyffyrddiad â ni ac yn ei argraffu ei hunan arnom drwy rhyw addasrwydd tyner sydd ynom i deimlo ei gyffyrddiadau. Fel y mae'r arlunydd wrth edrych ar olygfa mewn natur yn canfod ynddi rywbeth nas gwêl y bywydegydd, ac fel y mae'r cerddor yn clywed rhythmau a chynghanedd yn y cread nas clywir gan neb arall, ac na fedr hyd yn oed yr offeryn mwyaf sensitif a ddyfeisiodd gwyddoniaeth ddim cofrestru eu symudiad na'u sŵn, felly y mae ysbryd y Cyfrinydd sydd gwbl oddefol i'r byd ysbrydol, yn teimlo dylifiad Rialiti pob bodolaeth i mewn i'w galony pethau ni welodd llygad ac ni chlywodd clust. "Y synhwyriad cyfan, perffaith" y gelwir hwn, a thrwyddo caiff y sawl a'i medd brofiad o'r Cyfanrwydd Dirannau na ddaw'r arlunydd, fel arlunydd, na'r cerddor, fel cerddor, ddim i wybod onid am ryw gyrion ohono.
"Rai munudau
Rho imi brofi'r hyn sydd fry."
Munudau dethol yw y rhain—etholedigion y munudau. Ydyw, y mae Duw, weithiau yn distyllio tragwyddoldeb a'i holl gynnwys i ambell funud.
Diolch am ambell funud
I anghofio 'mhoen a'm pwn,
A sibrwd: Dyna fydd nefoedd
Tragwyddol barhad o hwn.
2. Cyfriniaeth Dyfaliad—seiliedig ar flaenoriaeth ac uchafiaeth Meddwl. "Meddyliaf, felly yr wyf yn bod." Meddwl, i Descartes, oedd yr allwedd i agoryd holl gloeon dirgelwch, a'r llaw a fedrai ddatod pob cwlwm. Ac o'i flaen bu athronwyr Groeg yn dysgu yr un athrawiaeth: gwynfydai Socrates, Plato ac Aristotle wrth geisio datguddio i'w gwrandawyr y pwerau cudd a oedd yn oblygedig mewn Meddwl. Tasg bennaf rhesymegwyr pob oes ydyw dangos y drefn bendant sydd yn ei hydreiddio; a chais athronwyr idealaidd adeiladu inni fyd newydd i breswylio ynddo—byd lle mae Meddwl wedi ei orseddu, a phawb a phopeth yn ddarostyngedig i'w lywodraeth. "Fy Nuw, meddwl Dy feddyliau Di ar dy ôl yr wyf"—hynny yw, atsain o'r Meddwl yw ein meddyliau ni. Y mae yna Feddwl Absolwt, ac nid yw'r gwirionedd sydd yn ein syniadau ni onid diferynnau ohono ef.
Pwy na theimlodd ysbrydoliaeth wedi deall fod iddo ryddid i wthio'i lestr i Fôr Meddwl, a bod sŵn pob ton a ddisgyn ar ei glyw wrth rodio'r draethell yn wahoddiad i fordwyo'r eigion mawr?
Gwthia i'r dwfn, lleda dy hwyl,
Rho ffarwel i'r draethell dawel.
3. Cyfriniaeth Foesol. Gorffwys hon ar yr ymwybod o'r gorfod moesol. diwrthdro a deimlir mor rymus gan rai dynion. Ymhob oes. chwi gewch ddynion a ddewisodd eu llwybr eu hunain gan lwyr anwybyddu neu ynteu herio traddodiadau briglwyd, a hyd yn oed arferion cysegredig, a gosod eu hewyllys eu hunain i weithredu yn erbyn yr holl fyd, am y teimlent na allent ond hynny. Dyma'r gwŷr, fel Socrates, a glywodd o'u mewn lais yn dywedyd, "Dyma'r ffordd, rhodia ynddi." Edrydd Esay hefyd am yr un llais: "A thi a glywi lais o'th ôl yn dywedyd, Dyma'r ffordd; rhodiwch ynddi, pan bwysech ar y llaw ddehau, neu pan bwysech ar y llaw aswy"—llais o'r tu ôl, o brofiad personol ac o hanes yr hil. Ac eto, y mae yn rhagor na llais o'r gorffennol yn unig, ac yn fwy hyd yn oed nag adlais crwydr o'r tragwyddol. Llais Duw, ydyw yn yr hyn a brofwyd, a thrwyddo. "Llef yr Arglwydd sydd mewn nerth; llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch; llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd. . . Yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion." Lle bynnag y bo llais Duw y mae Ef Ei hun yno. Y mae Ef yn Ei lais.
Dyma'r Llais a glywir gan eneidiau dethol ar groesffyrdd Hanes, lle petrusa'r bobloedd clustfyddar. A'r sawl a glyw'r Llais sydd yn arwain y gwerinoedd i ddaioni. Clywsant, a digon yw. Lle cymerir yr agwedd hon ar feddwl fel egwyddor y gellir adeiladu arni esboniad ar fod, a bywyd a dyletswydd, chwi a gewch Gyfriniaeth Foesol yn ei grym. Yr enghraifft orau o hyn ydyw athrawiaeth Kant am Orchymyn Diamodol, Diwrthdro y Rheswm Ymarferol, a'r Ddeddf Foesol sydd yn hawlio ufudd-dod.
Fel athroniaeth, y mae i Gyfriniaeth wedd driphlyg. Y mae yn ddamcaniaeth o wybodaeth, yn ddamcaniaeth o fodolaeth, yn ddamcaniaeth o fywyd.
(i). Fel damcaniaeth o wybodaeth, yn negyddol, fe gyfeiria at derfyniadau a chyfyngiadau rhesymeg a gwyddoniaeth. Ni ddichon nac elfennu meddwl na chyfosodiad (synthesis) ein harwain ymhellach na'r rhannol, anghyflawn. Fe orwedd y Cwbl-oll, y Cyfanrwydd, yr Anfeidrol y tuhwnt, ac allan o'n cyrraedd, ac nid ydym ronyn nes ato drwy ddadansoddi ein gwybodaeth, neu ychwanegu cyfran at gyfran. Yr unig ffordd i osgoi amheuaeth ac anobaith ydyw ymddiosg o falchder gwybod dealltwriaethol, ac agoryd ein calonnau i dderbyn yr Anfeidrol i mewn. Yn gadarnhaol, yr ydym yn adnabod y Cyfanrwydd, yr Anfeidrol am mai Person ydyw sydd wedi ei ddatguddio Ei hun inni yng Nghrist (a ninnau'n bersonau), a'n dwyn i undeb ag Ef.
(ii). Fel damcaniaeth o fodolaeth, fe wad rialiti y pethau a welir drwy'r synhwyrau, am nad ydynt onid pethau dros dro yn unig. Nid oes dim yn bod mewn gwirionedd ond sydd ddiddarfod: rhithiau ydyw popeth arall. Nid ydyw'r gwrthrychau a adwaenir gennym yn ddim ond nodau yn y gynghanedd dragyfythynddynt eu hunain nid ydynt ddim; a chyhyd ag y meddyliom amdanynt hwy ni chlywn byth mo'r dôn. Gorfydd i'r nodau fynd ar goll yn y gerdd. Ac y mae'r gainc yn anorffen.
(iii). Fel damcaniaeth o fywyd, cais Cyfriniaeth ddyrchafu dynion uwchlaw deddfoldeb a thraddodiad, a'r sylw a roddir i weithredoedd (drwy y rhai ni bu cadwedig un cnawd), a'u tywys i lwyr ymollwng ar Dduw mewn ffydd—un act fawr, derfynol, unwaith ac am byth, sydd yn dwyn dynion i gwlwm annatod â'r Ewyllys ddwyfol. "Yr hyn sydd amhosibl i ddynion sydd bosibl gyda Duw"—hynny yw, sydd bosibl i ddynion. Y mae dyn "gyda Duw" yn hollalluog. Y mae'n rhaid i ffrydiau eiddil ein hewyllysiau ni redeg i mewn i gyd i lif grymus yr Ewyllys ddwyfol. Dyna'r unig adeg y byddwn yn meddu ac yn medru. Dyna'r pryd y'n gwaredir rhag ymserch ofer yn y cyfnewidiol a'r tymhorol, ac y'n rhyddheir o afaelion y nwydau a'r dymuniadau sydd yn ymborthi ar gysgodion.
"Dysg im gerdded drwy'r afonydd;
Na'm dychryner gan y llif;
Na bwy'n gildio gyda'r tonnau,
Temtasiynau fwy na rhif ;
Cadw 'ngolwg ar y bryniau
Uchel, heirdd, tu draw i'r dŵr"—
—tu draw i'r aflonydd a'r cynhyrfus, y gwibiol a'r gwamal, yr amserol a'r gweledig, yr oriog a'r rhithioltu draw i bopeth ond Duw.
"Awn drosodd i'r tu draw."
Cyfrinwyr oedd y Proffwydi i gyd. "Yr oedd llaw yr Arglwydd arnynt"—ymadrodd sydd yn golygu eu bod drwy'r cyffyrddiad yn cael eu symud a'u dyrchafu uwchlaw i'w hymwybod arferol. Yn y chweched bennod o Esay ceir enghraifft neilltuol o brofiad sydd yn bleth o Ffydd a Chyfriniaeth. Clyw'r proffwyd lais y seraff yn dywedyd "Glanhawyd dy bechod." Llifodd rhywbeth i'w ymwybyddiaeth nad oedd yno cyn hyn, oni ddyrchafwyd ac y gweddnewidiwyd ei holl fywyd am byth. Yr oedd y llais yn alwad i fywyd o wasanaeth. Gwelir yr un peth yn y bennod gyntaf o broffwydoliaeth Jeremeia. Cyfnerthwyd ymadferthoedd y proffwyd, codwyd ef i wastad uwch, a deffrowyd ynddo egnïon cwsg o glywed "gair yr Arglwydd." Teimlai y Proffwydi mai yr Arglwydd a osodai y "baich" ar eu hysgwyddau.
Ac fe draidd yr elfen gyfrin drwy liaws o'r Salmau. "Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd felly yr hiraetha fy enaid amdanat Ti, O Dduw. Na fwrw fi ymaith oddi ger Dy fron ac na chymer Dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf. Fy enaid sydd yn disgwyl yn ddistaw wrth Dduw yn unig. Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y goruchaf a erys yng nghysgod yr Hollalluog. I ba le yr af oddi wrth Dy ysbryd? aci bale y ffoaf o'th ŵydd? Wele ni huna ac ni chwsg Ceidwad Israel. Pan ddeffrowyf, gyda Thi yr ydwyf yn wastad."
Gyda Duw y mae'r enaid effro "yn wastad," am fod yr Effro tragwyddol na ddisgynnodd cysgod cwsg ar Ei emrynt erioed yn deffroi pawb a ddelo'n agos ato. Gwawr ydyw Duw a achubodd flaen y cyfddydd, ac
"Mae'r wawr yn cerdded ar Ei ôl."
Ni ellir dodi y dyfyniadau uchod o eiriau'r Salmyddion o fewn cylch yr hyn a elwir gennym yn ddeall a rheswm; ac eto, yr oeddynt yn wir iddynt hwy oblegid eu profiad o Dduw; a daethant yn wir yn hanes myrddiynau ar eu hôl.
Tröer i'r Testament Newydd a gwelir ei fod yntau yn oludog o'r un dywediadau cyfriniol: "Gwyn eu byd rhai pur o galon canys hwy a welant Dduw. Gwyn dy fyd... canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Nid edwyn neb y Mab ond y Tad, ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab a'r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddatguddio iddo. Lle bynnag y mae dau neu dri wedi ymgynnull yn Fy enw yno yr ydwyf. Yr ydym ni yn llefaru, nid doethineb y byd hwn, ond doethineb Duw mewn dirgelwch, sef y ddoethineb guddiedig. Y pethau ni welodd llygad ac ni chlywodd clust a ddatguddiodd Duw i ni drwy yr ysbryd, oblegid yr ysbryd sydd yn chwilio pob peth, ie, dyfnion bethau Duw hefyd. Fe welodd Duw yn dda ddatguddio Ei Fab i mi. Nid ymgynghorais â chig a gwaed. A nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis drwy ddrych, a newidir i'r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd. Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, eithr ar y pethau ni welir, canys y pethau a welir sydd dros amser a'r pethau ni welir sydd dragwyddol."
Ac yn enwedig yn ysgrifeniadau Ioan a'r Llythyr at yr Hebreaid daw Cyfriniaeth yn amlycach fyth. Y mae gagendor rhwng y nefol a'r daearol. Felly hefyd rhwng cnawd ac ysbryd. "Yr hyn a aned o'r cnawd sydd gnawd a'r hyn a aned o'r ysbryd sydd ysbryd. Yr hwn sydd yn dyfod o'r nefoedd sydd goruwch pawb. Yr ydych chwi o'r byd hwn. Nid wyf fi o'r byd hwn." Nid y pethau nefol eu hunain yw pethau'r byd ar y gorau. Pethau a ysgydwir yw pethau'r ddaear ac yn y man a symudir. Y mae pethau nid ysgydwir ac oblegid hynny yn para byth. "Y mae gennych chwi yr eneiniad oddi wrth y sanctaidd hwnnw, a chwi a wyddoch bob peth. Nid rhaid dysgu o neb chwi. Yr ydym ni o Dduw. Y mae yr hwn sydd o Dduw yn ein gwrandaw ni. Yn gweled yr anweledig." Ac un yw y geni o newydd, y gwybod newydd a'r cariad. "O châr neb Fi, efe a geidw Fy ngair, a'm Tad a'i câr ef, a nyni a ddeuwn ato ef ac a wnawn ein trigfa gydag ef. Myfi ynddynt hwy a Thithau ynof Fi, fel y byddont wedi eu perffeithio yn un.
Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion, ac i ddinas y Duw byw, y Jerwsalem nefol, ac at fyrddiwn o angylion, i gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf—anedig, y rhai a ysgrifennwyd yn y nefoedd, ac at Dduw, Barnwr pawb, ac at ysbrydoedd y Cyfiawn, y rhai a berffeithiwyd, ac at Iesu, Cyfryngwr y testament newydd, a gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel."
A hyn oll, sylwer, yn awr, yn y byd sydd yr awr hon, ac nid wedi yr elont i'r nefoedd. Profiad Cyfrinwyr sydd yn y geiriau. Pa ryfedd mai hwynt-hwy yw yr addolwyr perffeithiaf?
PENNOD XII
CRONGLWYD Y NEF
FFYDD, Gobaith, Cariad—dyna'r tri gras pennaf. Nid addurniadau mohonynt, ond anhepgorion; ni ellir dim byw hebddynt; ac y mae meddu'r doniau hyn yn gwarantu cynnydd, perffeithiad a pharhad pob da arall.
Y mae'n rhaid wrth Ffydd yr Efengyl cyn y medr dyn gael gafael arno'i hun, ei feddiannu ei hun, a'i ddefnyddio ei hun: caffael, perchenogi, llafurio. Cleddau di-garn, na bydd dim dichon cydio ynddo heb eich hacio'ch hun yn yr ymdrech—dyna ydyw bywyd diffydd. Credwch.
Y mae'n rhaid wrth Obaith yr Efengyl i dynnu'r Sylwedd i'n hymyl, i wneuthur gwirioneddau pell, dynion pell, bydoedd pell, amseroedd pell a gwynfydau pell yn agos. Dwyn dyn ato'i hun a wna Ffydd; dwyn dynion a phopeth sydd sylweddol yn y byd hwn a'r byd a ddaw ato—dyna orchest Gobaith. Heb y dynesu hwn, a theimlo ohonom wres yr agosrwydd, ni phrysurwn mo ddyfodiad dydd Duw; ac ni chlywir gennym beroriaeth nefol yn y byd sydd yr awr hon— byd y pethau agos pell a'r pethau pell agos. Telyn ddi-dant, a'r gerdd ysbrydol yn fythol fud fydd bywyd heb obaith. Gobeithiwch.
Y mae'n rhaid wrth Gariad yr Efengyl neu fod yn brin o luniaeth, o lawnder, o lawenydd. Cariad ydyw "gwenith gwyn" Anfarwoldeb, a hebddo ni ellir ymgynnal. Cariad yw'r anchwiliadwy olud a'ch gwna yn gyfoethog. Drwy Gariad y cefna dyn arno'i hun—y gedy "hunan" ac yr ymgyll mewn gwasanaeth ac aberth. Cariad yw gwin y Winwydden orau; a dieithr i chwi a fydd gwir felyster onid yfwch ef. Ffiol gwag yn gwatwar eich min sychedig ydyw bywyd heb Gariad. Cerwch.
Dyna'r grasau a'th ddwg di, ddarllenydd hynaws, i awyr agored gwirionedd, a pheri iti wybod mai dy Gartref ydyw
Cronglwyd y Nef
Gad dy ystafell a'i myllni cas
A thyrd allan, fy mrawd, dan yr awyr las;
Mae'r haul yn fywyd, mae'r awel yn ras.
Tyrd allan fy mrawd, gad dy gyfyng gell
Am awyr agored y pethau gwell,
Ac eangderau'r gorwelion pell.
Magwyrydd caead a di-lesâd
Yw rhagfarn enwad a phlaid a gwlad;
Tyrd allan. Dianc. Myn dy ryddhad.
Gwybydd nad carchar yw "credo" i fod;
Ond seren arweiniol, arwyddol nod,
A mynag hyffordd y bythol ddod.
Ystyr ar drothwy gwirionedd drud
Fod yr Iesu'n fwy na'i hanes i gyd,
A bod Duw'n fwy na chredo lleta'r byd.
'R oedd y Crist heb le i roi'i ben i lawr
Am mai'i eiddo Ef oedd y Cread mawr,
A bod Duw yn gartref iddo, bob awr.
Gad ogof y nos a'i dolefus gri,
Ei chulni afiachus, heintus hi;
O dan Gronglwyd y Nef mae dy Gartref di.
Anghred, gwladeiddia. Amheuaeth, taw.
Mae Nef goruwch Nef yn y byd a ddaw,
A dwyrain hwnt dwyrain yn agor, draw.
Tyrd allan, fy mrawd, dring rhagot yn rhydd
Wyrdd lethrau Cariad, Gobaith a Ffydd—
Mynyddoedd tragwyddol Gwlad y dydd.
Allan o hunan cei fythol fyw;
Allan mae tangnef o ddwyfol ryw;
Allan mae Rhyddid a Dydd a Duw.
PENNOD XIII
DATGUDDIAD ARBENNIG CRIST AR ADDOLI
BYTH ers pan roddes Pfleiderer wynt i'r syniad cyfeiliornus na chynnwys dysgeidiaeth Crist ddim byd newydd, y mae wedi bod yn ffasiwn gan rai dysgodron i fychanu ac is—brisio yr Athro Mawr a'r unig Athro perffaith.
Awgrymir mai yn Ei ddull yn unig yr oedd newydddeb, a'i fod ym mhopeth arall yn symud yn rhych traddodiad. Modd bynnag, fe hawliai Crist Ei hun Ei fod yn newyddwr. "Llain o frethyn newydd" a "gwin newydd"—dyna'r geir—luniau a dyn i ddisgrifio newydddeb Ei athrawiaeth.
Ceir ysgol arall o feddylwyr sydd yn barod i gydnabod bod yn Ei ddysgeidiaeth ronyn o newydd-debdim ond gronyn, a hwnnw yn un bychan iawn. Daw y cyfeiliornad hwn ger ein bron mewn gwisg flugwyddonol. Ond y mae'n deilwng o sylw nas derbynnir gan wir wyddonwyr: er enghraifft, y mae Bertrand Russell, Oliver Lodge ac eraill wedi profi tuhwnt i ddadl bod newydd-deb trwyadl yn Ei ddysgeidiaeth a'i fod wedi datguddio egwyddorion moesol nas gwybuwyd cyn Ei ddyfod gan Israel nac un genedl arall.
Y syniad cywir ydyw bod Ei holl ddysgeidiaeth yn newydd, ac yn gwireddu'r geiriau a lefair amdano Ei hun, "Wele yr ydwyf yn gwneuthur pob peth yn newydd." I fod yn broffwyd nid yw'n ofynnol, o Y angenrheidrwydd, datguddio pethau newydd. mae dyn yn broffwyd os yn egluro i gylch ehangach, wirionedd nas gwybyddid o'r blaen ond gan ychydig; neu, os adfer i ymwybyddiaeth dynion wirionedd coll; neu, os dwg i amlygrwydd wirionedd a gornelid; neu, os dyd gymhwysiad newydd i wirionedd cyfarwydd. Gwnaeth Iesu Grist hyn i gyd, a mwy. Yr oedd Crist yn fwy na proffwyd. Newyddwr mawr ydoedd. Defnyddiai hen eiriau, a rhoddi iddynt ystyr newydd, fel y trawsnewidiwyd ac y dyrchafwyd ganddo holl syniadau Israel am Dduw, dyn, y byd, cyfiawnder, teyrnas Dduw, y Meseia, anfarwoldeb ac addoliad; eto heb ymwrthod â dim o'r gwirionedd a oedd yn nysgeidiaeth y rhai a'i rhagflaenai.
Yn wir, fe hawlid newydd-deb yn Ei ddysgeidiaeth, ac fe'i gwarentid gan y ffaith ei fod Berson unique. Ef yw Mab Duw—y Datguddydd a'r Datguddiad. Daw'r gair Almaeneg einmahligkeit (yn llythrennol, onceness) yn nes at y gwir syniad y ceisir ei fynegi yn y gair Saesneg uniqueness, er nad yw'r naill na'r llall yn gwbl foddhaol. Efallai mai dyma fuasai'r trosiad gorau, na-welir-eilchwyl: mae ymddangosiad y goleuni a gafwyd drwy Ei ddysgeidiaeth yn ddigwyddiad na all ddigwydd ond unwaith yn y byd sy wybyddus i ni —byd sydd a'i fod mewn space-time. Bid sicr, fe bery'r goleuni, eithr y mae'r cyfodiad Haul o'r uchelder yn act na ddigwydd drachefn. "Un waith am byth oedd ddigon." Un waith am byth oedd ddichonadwy hefyd, canys Ef yw yr Unig—anedig oddi wrth y Tad.
Gan hynny, yn ôl natur pethau, gorfydd i'w ddatguddiad fod yn newydd—yn drwyadl newydd. Nid oes a wnelom ni yn awr ond â'i gyfraniad arbennig ar addoli. Nid ehangu na chwtogi syniadau a oedd wybyddus eisoes yn unig a wnaeth, na bodloni yn unig ar roddi esboniad newydd ar wirioneddau cynefin. Y mae ganddo ddatguddiad newydd. Ceir enghraifft neilltuol o hyn yn y bedwaredd bennod o Efengyl Ioan. "Ond dyfod y mae'r awr, ac yn awr y mae hi pan addolo'r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd; canys y cyfryw y mae'r Tad yn eu ceisio i'w addoli ef."
Creffwch ar y geiriau "addoli" a "Thad."
Ni bu'r ddeuair erioed o'r blaen yn ymyl ei gilydd. Byddai pellter mwy na phellter y pegynnau rhyngddynt. Perthyn a wnaent i ddau gylch gwahanol o fywyd. Iesu Grist a wnaeth y geiriau yn gymdogion, ac Ef biau'r syniad gwreiddiol sydd yn yr ymadrodd—addoli Tad. Er mor oleubwyll athronwyr India a Groeg ac mor dreiddgar eu golygon, ni welwyd hyd yn oed gysgod y syniad hwn ganddynt. Yng ngrym dyhewyd ac awen esgynnodd beirdd mawr gwahanol wledydd ac oesoedd yn uchel ryfeddol ac oedi'n hir ar eu hadanedd i syllu ar y golygfeydd arddunol; eithr ni chyfododd un ohonynt cyfuwch â'r syniad hwn. Gwyddom fod Zeus Homer yn dad duwiau a dynion, a bod Jupiter (fel yr awgryma'i enw) yn dad. Ond ynglŷn â hwy, ill dau, dodir y pwyslais ar eu dwyfoldeb, nid eu tadolrwydd. Ac y mae'r un peth yn wir am Dduw Israel; er y câi'r proffwydi ambell gipdrem achlysurol ar dadolaeth Duw, nid yw y Tad byth yn cael Ei addoli. Yr elfennau a gysylltid yn ddieithriad ag addoli oedd yr aruchel, y dirgeledig, y pell. Gwrthrych addoliad Israel oedd y Duw a wisgai'r goleuni fel dilledyn, a drigai yn y goleuni ni ellid dyfod ato, a breswyliai yn y goruchelder a'r cysegr ac a gyfaneddai dragwyddoldeb. Ond rhoddes Iesu Grist inni syniad cwbl newydd am addoli—addoli'r Tad. Dug y pell yn agos: nid yn unig dynion pell, ond byd pell. Ac nid yn unig fe fugeiliodd wirioneddau coll a'u corlannu, eithr dug Dduw y pellterau i'n hymyl. Addoli'r agos yr ydym —addoli Tad. Yn Ei Berson unique, a'i ddatguddiad unique fe ddaeth y byd ysbrydol i fod yn Dŷ ein Tad; y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu yn garreg aelwyd, a gorsedd Duw yn gadair freichiau Tad. Mwyach, cartref yw tragwyddoldeb—y Tad yn Ei gadair a'r plant o'i gwmpas. Do, rhoddes Iesu Grist wedd aelwyd ar dragwyddoldeb. Bod yn agos at Dduw, trigo yn llewyrch Ei wyneb, ymddigrifo yn Ei gymdeithas, a byw i'w ogoneddu yn rhyddid gogoniant y plant—dyna yw addoli. Addoli'r Tad.
Ond beth, atolwg, a ddynodir gan y gair Tad?
(i). Fe olyga ofal, tynerwch a chalon faddeugar Duw.
(ii). Fe olyga berthynas. Os Ef yw ein Tad yr ydym ninnau yn blant iddo.
(iii). Ac eto nid dyna'r gwirioneddau sylfaenol, llywodraethol yn y syniad o dadolaeth. Gwir Ei fod yn gofalu amdanom gyda dwyfol fwynder, a bod rhyngom ag Ef berthynas. Ond y mae yna rywbeth sydd yn rhagflaenu'r berthynas ac yn ei gwneuthur yn bosibl. Yn niffyg gwell gair fe alwn y rhywbeth hwnnw yn unrhywiaeth deunydd. Hawliwn ac arddelwn berthynas ag eraill, yn unig ar sail y ffaith ein bod yn gyd-gyfrannog â hwy o'r un natur, ansawdd, sylwedd, h.y., ein bod o'r un deunydd. I ddefnyddio gair y gwna Shakespeare ddefnydd ohono rhaid ein bod wedi ein llunio o'r un stwff ("we are of such stuff as dreams are made of") cyn y byddwn yn perthyn i neb.
Disgrifia Thomson yr electron fel un o'r priddfeini y ffurfir mater ohonynt. Y mae holl ffurfiau aneirif mater sy wybyddus i ni yn perthyn i'w gilydd i gyd, oblegid (ymysg rhesymau eraill) ddarfod iddynt gael eu hadeiladu o electronau cydryw. Dyna'r ddolen gydio. Er pob gwahaniaeth rhyngddynt, y maent yr un a'r unrhyw yn y bôn. Dyna sail eu bod, a rhwymyn eu hundeb.
Fe berthynwn ni i Dduw oblegid ein llunio o stwff dwyfol. Meini a naddwyd o'r Ddwyfol Graig ydyw ysbrydoedd dynion. Ysbryd yw Duw. Y mae ysbryd mewn dyn.
Gwahaniaethir weithiau rhwng Ysbryd Duw ac ysbryd dyn o ran eu natur, a seilir y gwahaniaeth ar y dybiaeth wyrgam fod un yn ddi-grëedig (neu fel y dywedai Milton, increate) a'r llall yn grëedig. Ond y mae'r gwahaniaethu yn ddi-raid; a gwaeth na hynny, yn gamarweiniol. Ni chrewyd erioed mo ysbryd dyn. Ef yw yr unig ran ohono na bu iddo ddechreuad; y mae yn rhywbeth a achubodd y blaen ar bob elfen sydd yn y cread, ac ni fyn dalu gwrogaeth i'r heuliau er hyned hwy.
"Vital spark of heavenly flame."
Ie, rhagor—of a divine flame. Gwreichionen o'r oddaith ddwyfol ydyw ysbryd dyn, ac nis diffoddir oni ddiffydd Duw. Y ffaith na bu iddo ddechreuad sydd yn wystl ei barhad bythol; oblegid y mae diwedd rhywbryd i fod yn hanes popeth y bu iddo ddechreuad. Anadl Duw yw ysbryd dyn. "A Duw a anadlodd yn ei ffroenau ef anadl einioes, a'r dyn a aeth yn enaid byw." "Ysbryd yr Arglwydd a'm bywiocaodd." Ysbryd ydyw hanfod a sail ein bod. Yr ydym yn perthyn i Dduw am ein bod yn unrhyw. Y mae gwreiddiau ein bywyd yn y tragwyddol, oblegid ein bod o'r un deunydd â Duw.
Beth, yn ôl dysgeidiaeth Iesu Grist yw addoli? Dychweliad y dwyfol sy ynom at Dduw. Y mae hyn yn anhraethol fwy na diolch, mawl, parchedig ofn, myfyrdod, canol—bwyntio'r meddwl, defosiwn, gwasanaeth, aberth a hunan—aberth. Addoli'r Tad yr ydym. Dychweliad yw addoli. Dyfod adref yw addoli. Y mae i'r llwynog ei ffau, i'r aderyn ei nyth, fe eheda'r wreichionen i fyny, fe dreigla'r nant i'r afon, ac fe lif yr afon i'r môr. Y mae pob creadur yn homeward bound.
"Yn wir mae holl Greadigaeth Duw
Yn teithio tuag adref."
"Canys y cyfryw y mae'r Tad yn eu ceisio i'w addoli Ef." Ceisio pechaduriaid y mae Iesu Grist; ceisio addolwyr a wna Duw. Damweinio a wnaeth pechod: rhywbeth tramor ydyw a ddaeth i mewn i'n bywyd; ond y mae addoli yn gynhenid—yn rhan a chyfran hanfodol ohonom. Pan lwyr ddileir ein pechod a'r pechadur wedi ei soddi yn y sant, ni ryfeddem ddim ped anghofiem ddarfod inni erioed fod ar y ddaear. Y mae tragwyddoldeb yn hirfaith iawn.
"Mae rhyfeddodau rif y dail
Ym mherson hynod Adda'r Ail,"
ac ni welsom, hyd yn hyn, onid dalen neu ddwy yn y Goedwig fawr. Ni gawn oesoedd dirifedi i gyfri'r dail a myfyrio arnynt. "O ogoniant i ogoniant" fydd ein hanes yno—pob datguddiad a phrofiad a gwybodaeth a gwynfyd, nid yn ddinas i drigo ynddi, ond yn babell. Gobeithiwn gael pebyllio mewn un datguddiad o Dduw am filiwn o flynyddoedd; yna ymdaith am filiwn arall drwy froydd teg y profiad newydd a geffir drwy'r datguddiad hwnnw; gosod ein pabell i lawr am filiwn arall, oni symudom drachefn. Ac felly am byth ——ymlaen ac ymlaen, i fyny ac i fyny; a ninnau'n tyfu'n fwy o addolwyr wrth aros ac wrth ymdaith.
"Er treulio myrdd o oesoedd glân."
Y mae'n amheus a wyddom ni eto beth yw diwrnod trwyadl lân. Tybed a wybuwyd un awr lân i gyd gennym—awr nad oedd cysgod anwiredd yn disgyn ar ryw gwr ohoni? Purdeb sydd yn medru gweld yn ddwfn a phell; a dyna paham y deuwn i wybod mwy mewn eiliad yn y nefoedd nag y daethom i'w wybod drwy gydol oes ar y ddaear.
Ni a gawn "oesoedd glân;" a diau y bydd pob oes yn hir i gyfateb i bopeth mawr y byd tragwyddol. "Myrdd o oesoedd." Cawn edrych drach ein cefn ar fyrdd o oesoedd wedi eu "treulio;" ac edrych ymlaen nes gweld "tu draw i fyrdd o oesoedd"—nid gweled yr oesoedd ond gweled "tu draw" iddynt.
Y mae rhywbeth i ddyfod yn hanes y gwaredigion addolgar, oblegid ei fod eisoes wedi dyfod. "Dyfod y mae yr awr, ac yn awr y mae hi," ebe Crist, "pan addolo'r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd." "Y gwir addolwyr"—gan awgrymu bod addolwyr gau, rhagrithiol. Yn lle'r "mynydd hwn" dyd "ysbryd," " ac yn lle "Jerwsalem" dyd "wirionedd." Ysbryd ydyw'r unig fynydd a'n cyfyd at Dduw. Y mae'n rhaid dringo. Nid Jerwsalem yn ystlysau'r gogledd, nac unrhyw le arall, pa mor gysegredig bynnag, ond Dinas y Gwirionedd. Os am fod yn wir addolwyr gorfydd inni rodio ei heolydd hi: y gwirionedd yn wrthgyferbyn i ffug, rhith, ymddangosiad, twyll, celwydd. Nid oes addoli lle bo'r pethau yna.
Fe gynnwys perffeithiad y saint fwy na glanhad oddi wrth bechod: golyga y byddant ryw ddydd wedi anghofio pechod. Pan faddeuo Duw i bechadur y mae yn gollwng eu camweddau dros gof: "a'ch pechodau a'ch hanwireddau ni chofiaf ddim ohonynt mwyach." Nid ydynt yn bod mwyach, hyd yn oed yn Ei feddwl. Y mae delw Duw ar yr hon y'n crewyd yn cynnwys llawer mwy, mae'n ddiau, na'r hyn a ddywaid Charles —"cyfiawnder, gwybodaeth a gwir sancteiddrwydd." Fe gynnwys, ni gredwn, ymhlith pethau eraill, y byddwn megis Yntau wedi llwyr anghofio pechod, am ddarfod inni brofi o'i faddeuol ras.
Gobeithiwn ryw fore gyrraedd y stâd honno mewn perffeithrwydd pan fyddom wedi anghofio ein bod erioed wedi pechu; a gorfoleddwn yn awr wrth feddwl am y bore hwnnw, a gweled, drwy ffydd, ei wawr yn torri ar y bryniau pell. Ni bydd pechod mwyach —ynom nac o'n hamgylch. Ac ni bydd cwmwl du o atgof am ddrwg i dywyllu'r wybren las yn oes oesoedd.
Creodd Duw ddyn i'w ogoniant, h.y., i'w addoli; gwaredodd ef i'w ogoniant, h.y., i'w addoli. "Canys y cyfryw y mae'r Tad yn eu ceisio i'w addoli Ef." Nid â Ei gais yn ofer.
"Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo Efe y deyrnas i Dduw a'r Tad, wedi iddo ddileu pob pendefigaeth, a phob awdurdod a nerth."
PENNOD XIV
AWGRYMIADAU YMARFEROL
MEWN munud neu ddau o ddistawrwydd y dylai ein defosiwn personol ddechrau; a dylid ystyried y distawrwydd yn rhan o'r addoli ac nid yn unig fel paratoad ar ei gyfer. Hyd y galler, dewiser yr un lle a'r un adeg, oblegid y mae y man a'r amser yn cael eu cysegru gan addoliad ac yn gwneuthur addoli yn haws rhagllaw. Cyn gweddio, darllener cyfran fer o'r Ysgrythur: bydd darllen hanner dwsin o adnodau yn well o'u darllen yn bwyllog na phe darllenid pennod gyfan dan redeg; a gwell fyth os darllenir ddwywaith. Pan benliniwn gadawer i'r meddwl yn y distawrwydd ganolbwyntio mewn rhyw un ffaith yn hanes yr Arglwydd Iesu Grist, neu mewn un ymadrodd o'r hyn a ddarllenwyd. Pan weddïom, mawl sydd i fod gyntaf, nid diolch; ac ni ddylem byth ollwng dros gof mai rhoddi, nid derbyn yw y peth rheitiaf. Wrth ddiolch, meddwl amdanom ein hunain yr ydym; wrth foli, meddwl am Dduw a wnawn—y Rhoddwr, nid y rhoddion. O edrych ar yr Arglwydd yn y Gwyddfod sanctaidd, a'i ogoneddu am yr hyn ydyw, fe wneir llwybr rhydd i'n diolch a'n herfyniadau, a hawdd fydd gwneuthur y deisyfiadau mawr sydd yn y Salmau xcviii, 1; li, 10; xc, 1; xci, 2; cvii, 1; xcvii, 1; cxxii, 1.
Ymgydnabyddwn â gweddïau Iesu Grist, a'u dysgu ar dafod leferydd; hefyd gweddïau saint mawr fel lliaws o'r Salmyddion, y Proffwydi, Paul, Francis o Assisi, Ignatius Loyola, Luther, Calfin, Tauler, Martineau, Spurgeon, Rutherford, Erskine o Linlathan, Lacoirdare, Rauchenbusch, John Hunter ac eraill. (Ysywaeth, nid yw gweddïau mawr ein cenedl ni wedi eu cyhoeddi na'u cadw). Bydd yr hyn a fo eisoes yn ein meddwl wrth agosau at Dduw yn rhoddi cyweirnod a chyfeiriad i'n gweddi, fel na bo rhaid inni ddywedyd "ni wyddom pa beth a weddïom, megis ag y dylem."
Gadawn i'r Arglwydd agoryd porth y dydd inni, a gofalwn roddi allweddau'r nos yn Ei law drwy weddi.
Colled ddybryd i'n bywyd ysbrydol ydyw ddarfod syrthio i'r llawr o'r allor deuluaidd. Y mae'r Arglwydd yn caru "preswylfeydd Jacob" o hyd, ac yn tosturio wrth weled y teulu yn rhy brysur gyda chysgodion i oedi chwarter awr gyda'i gilydd yng nghymdeithas y Sylwedd, y Rialiti Mawr.
Gwyn fyd na bai'r syniad am addoli a chydaddoli y gwasanaeth cyhoedd yn gyfryw ag a'n dygai ynghyd yn brydlon—yn wir, ddeng munud cyn amser dechrau —fel y caffem hamdden dawel i ddarllen ychydig adnodau neu emynau. Ofnwn mai nifer cymharol fychan ohonom sydd erioed wedi iawn—farnu pwrpas, ystyr ac urddas defosiwn. Onid hyn sydd yn achosi'n diweddarwch, a'r diffyg gwylio ar ein troed pan ddelom i'r cysegr? "Dygwch anrheg i'r Ofnadwy." "Ymlawenhewch mewn dychryn." "Bydded gennym ras drwy yr hwn y gwasanaethom Dduw wrth Ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn" (neu, yn ôl T. Charles Edwards, "trwy yr hwn y cyflwynom wasanaeth wrth fodd Duw, gyda duwioldeb ac ofn"). Nid oes arwydd o barchedigaeth nac ofn na duwioldeb mewn bod yn hwyr a thrystiog.
Dechreuer y gwasanaeth mewn distawrwydd pob un â'i ben i lawr; a phriodol fyddai ystôl fel y gallem benlinio. Na adawer i neb ddyfod i mewn pan â unrhyw ran o'r gwasanaeth ymlaen—darllen yr emyn, ei ganu, darllen y wers, gweddio, casglu, pregethu: y mae pob rhan mor gysegredig â'i gilydd; ac oherwydd hynny ni ddylai dim gael ei wneuthur, drwy sŵn na symudiad, a fyddo'n tarfu meddwl yr addolwyr. Trefner ychydig funudau o saib rhwng y gwahanol rannau fel y caffo'r diweddariaid esgeulus gyfle i ddyfod i mewn. Yr un pryd, dylem eu hatgoffa fod eu dyfod y pryd hwnnw mewn perygl o dynnu meddwl yr addolwyr oddi wrth yr Arglwydd.
Darllener yr emyn drwyddo. Bydd ei ddarllen yn synhwyrol yn gryn help i'r gynulleidfa ei ddeall. Caned pawb. "Deuwch o'i flaen Ef â chân." Nid rhaid dywedyd hyn wrth saint oblegid "preswylwyr y graig a ganant;" "gwaredigion yr Arglwydd a ddychwelant i Seion â chaniadau."
Yn oedfa'r bore, wedi i'r pregethwr ddarllen cyfran o'r Ysgrythur (ei darllen, nid ei llurgunio) darllened ef a'r gynulleidfa Salm, bob yn ail adnod. Yn oedfa'r hwyr, cyd-ddarllener. Bydded y weddi'n fer. Nid ystyr hyn yw bod iddi gwmpas bychan na'i bod yn fâs. Y gweddïwyr byrraf a glywsom, ar eu haelwyd ac yn y pulpud, oedd Evan Phillips a Thomas Charles Edwards; ac eto hwy, ill dau, oedd y gweddïwyr mwyaf a wrandawsom. "Bydded eich geiriau yn anaml," ebe'r Gwaredwr, ac edliwiai i rai "y tybient y caent eu gwrando am eu hamleiriau." Yr oedd Ef yn iawn brisio geiriau. Iddo Ef, nid gwerth marchnadol oedd ynddynt, fel gwerth arian i farsiandïwr; eithr gwerth paent i'r arlunydd: nid cyfrwng derbyn mohonynt eithr cyfrwng rhoddi; nid cyfrwng meddu namyn cyfrwng mynegi. Ni ddylid beichio meddyliau ag iaith: help i'r syniad ydyw gair i fod—troed, nid llyffethair; asgell, nid cawell.
Gwyddom fod rhai o bregethwyr mwyaf ein cenedl heddiw yn ymboeni mwy i baratoi eu hysbryd a'u gweddïau nag i baratoi'r bregeth; ac nid rhyfedd eu bod y fath rym ysbrydol. Ni welsom eto yr un gwir weddïwr, pa mor fychan bynnag ei wybodaeth a byr ei ddawn, nad oedd ei weinidogaeth yn effeithiol. Y mae llawer oedfa wedi ei handwyo gan weddïau hirfaith, gwasgarog, dieneiniad; a llawer cyfarfod gweddi wedi bod yn gwbl ddifudd oherwydd hirder ac ystrydebaeth gweddïau "ffwrdd â hi." Dylem ymogelu rhag geiriogrwydd ymhob cylch, ac yn anad dim pan nesaom at Dduw.
Tra cheidwadol ydym fel Ymneilltuwyr, a chyndyn i ddysgu dim oddi wrth geinciau eraill Eglwys Crist. Hoffem weled mabwysiadu'n gyffredinol Ffurf Wasanaeth, yn enwedig Ffurf Weddïau—nid i gymryd lle y Weddi Rydd bid sicr, ond i gyd-weini â hi. Y mae rhywbeth godidog ryfeddol, a'r rhywbeth hwnnw yn gyforiog o bosibilrwydd addolgar, mewn defnyddio ymadroddion fu'n gyfrwng addoli gan fyrdd o saint ar hyd y canrifoedd gweddiau mawr wedi eu llunio o eiriau'r Ysgrythur Lân a myfyrdodau etholedigion Duw. Yn yr un fan yn union y daeth Mair o hyd i Iesu Grist ag y cyfarfu Martha ag Efo'i blaen. Yr oedd Ef yno yn ei disgwyl (Ioan xi, 30). Y mae'n dra sicr fod yr Arglwydd trugarog yn oedi, a heb symud cam o'r lleoedd nac o'r ymadroddion sanctaidd lle daeth dynion ac Yntau o hyd i'w gilydd. Gwyddom mai perygl ffurf yw meithrin ffurfioldeb a gwneuthur yr addoli yn brennaidd a di-sug; ondy mae llawn cymaint perygl, onid mwy, oddi wrth y Weddi Rydd, sydd mor fynych yn amleiriog, dibwynt, ystrydebol, hirwyntog a chyffredin ei thrwsiad. Defnyddier y ddwy, gan gofio bod iddynt y naill fel y llall—eu manteision a'u hanfanteision. I "wir addolwyr" mantais yw y ddwy.
Beth yw hyd y bregeth i fod? Dibynna hyn ar bwy sydd yn pregethu a'r fath bobl yw ei wrandawyr! Ond pregeth fer sy orau, a chymryd popeth at ei gilydd.
Neilltuer y Cysegr yn gyfangwbl i addoli: na chynhalier ac na "chyhoedder" ynddo un math o gyfarfod ond cyfarfod crefyddol. Disgynned taw buan ar areithiau blaenoriaid yn y seiat nos Sul: gadawer i'r gynulleidfa fynd adref yn sŵn y neges oddi fry. Os emyn hwyrol" neu "weddi hwyrol" i fod, nid oes ystyr mewn canu'r cyfryw ar ôl cyhoeddi'r Fendith: y Fendith sy i fod yn glo ar waith cysegredig y dydd.
Y mae o'r pwys mwyaf fod y rhai a "arwain" mewn addoli cyhoedd yn wŷr defosiynol ac yn ofni Duw. Nid oes dim tristach yn hanes crefydd Cymru heddiw na bod swyddogion heb ysbryd Crist ganddynt yn cymryd y blaen mewn llawer eglwys, yn y seiat, y cyfarfod gweddi a'r ysgol Sul, a hyd yn oed yn ddigon hy a rhyfygus i rannu'r bara a'r gwin yn y Cymun Bendigaid-dynion anfaddeugar, dialgar, lawer ohonynt, sydd yn dywedyd pob drygair yn erbyn brodyr a chwiorydd yn yr un eglwys. "Dos ymaith" oedd gorchymyn Crist i'w tebyg gynt, "yn gyntaf cymoder di â'th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd." Nid oes gan y cyfryw ddynion anianol hawl i gyffwrdd â dim rhan o waith y cysegr sanctaidd; y mae eu presenoldeb yn dianrhydeddu Duw, yn atal y fendith ac yn difuddio'r gwasanaeth.
PENNOD XV
YR ADDOLWR YN DEML
Adfail hen gaer yw hwn-malurion mawredd;
A'r pelydr, o ddisgyn arno, hwythau'n chwilfriw;
Ac ef yn fudan mewn anwybod llonydd;
Fy enaid innau'n filmil mwy o ddrylliau-
Gweddillion hoedl yn symud drwy ei gilydd:
A'u cri yn fyrdd o deilchion ysgaredig,
Fel atsain griddfan ysbryd coll Iscariot.
Tybed gyfennir eilchwyl yr adfeilion?
Adfail castell ydyw'r naill; teml ar chwâl ydyw'r llall.
Y mae rhai o fagwyr y gaer ar ŵyr; a gorwedd main y muriau cwymp blith draphlith. Eithr ni ŵyr y gaer mo'i chyflwr; ac am hynny distaw a llonydd yw. Er disgyn o'r tywynion cymwynasgar i ganol y dinistr, arall ac nid y malurion eu hunain a wêl eu hadfyd ac a wyla o'i blegid.
Er eu maint anferth, nid ydyw drylliau'r gaer namyn pentwr o ysglod, swp o grinddail, siwrwd mawn, neu ddyrnaid o lwch yn ymyl carneddau aruthr enaid dirywiedig. Methodd gan ddistryw hy a llwyr ddifrodi ei fawredd ef, na dileu mo'i urddas cynhwynol. Oeda mwy gogoniant ym murddyn y deml nag a wybu'r gaer yn nydd ei chadernid disigl. Talach yw'r meini a orwedd na thyrau ucha'r gaer ym more sefydlogrwydd ucheldrem. Er gwyro o'r deml i'r llwch, nid diflant oll ydyw'r arddunedd cyntefig.
Ac y mae yn ei chwymp hi rywbeth na chwympodd. Agwedd proffwydi cwsg ym min dadebru yw'r osgo sy ar y cerrig nadd syrthiedig. Gwybyddus i'r enaid a iselwyd ddarfod ei ddarostwng; a gŵyr druaned yw. Er ymollwng ohono, y mae'r malurion digyswllt yn ymwybod â'r undod cysefin; a dyheant am y cymwys gyd-gysylltu mewn adail ddiddatod. Oherwydd paham, ymwthia'r drylliau drwy'i gilydd,
Medr enaid ei fynegi ei hun. Ni chollodd mo'i lais; ond bod y llais wedi troi'n gri: a'r cri yntauoblegid ymddatod o'r enaid—wedi ymrwygo'n gareiau mân.
Nid enaid enaid onid adunir. Ond a adferir ef? A adeiledir y deml drachefn? Gwneir, o drugaredd, canys ffyddlon yw yr Hwn a addawodd, yr Hwn hefyd a'i gwna. Dy furiau—nid dy adfail—sydd ger fy mron bob amser, medd yr Arglwydd. Nid enaid fel y mae, eithr fel yr oedd ac fel y bydd sydd yn Ei wyddfod Ef. Chwi a fyddwch berffaith. Ni osodir maen ar faen yn y deml newydd ond a fo deilwng o'r Sylfaen. Gras ydyw'r Pensaer, a Gwirionedd yr adeiladydd.
Yr Arglwydd a fynnai Ei ddryllio Ef. Dymchwelwyd y deml, rhwygwyd y cri, drylliwyd y Pelydryn. Yng ngolau atgof—a dry bellach yn ddoethineb profiad—gŵyr yr enaid am a fu. Yn llewyrch y Pelydryn, fe'i cenfydd ei hun wedi'i seilio mewn cariad a'i adeiladu ar y sancteiddiaf Ffydd yn cynyddu'n deml sanctaidd yn yr Arglwydd yn deml ni thynnir i lawr.
- Una fy nghalon i ofni Dy Enw.
Boed fy nghalon iti'n deml,
Triged d'Ysbryd
Yn Ei deml dan fy mron.
"Teml y Duw byw ydych chwi, fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt ac a rodiaf ynddynt." —II Cor. vi. 16.
AWDURIAID.
AUGUSTINE: The Confessions.
BAILLIE: The roots of Religion in the human soul.
BREMOND, HENRI: Histoire Littéraire du Sentiment Religieux en France.
BRUNNER: Der Mittler.
CATHERINE OF SIENA: Dialogue of Divine Providence.
CHARLES, R. H.: Religious development, etc.
COE: The Psychology of Religion.
CHOCARNE: The inner life of Lacordaire.
DAVIES, W. D.: Datblygiad Duw.
DALMAN: Die Worte Iesu.
DRAKE: The way of Fellowship.
DEISMANN: Mysterium Christi.
EDWARDS, MIALL: Crefydd a Diwylliant.
EDWARDS, T. CHARLES: Yr Epistol at yr Hebreaid.
GOLDENWEISER: Psychologie und Cultur.
GWATKIN: The Knowledge of God.
GLOVER: The influence of Christ in the Ancient World.
GRENSTED: The Person of Christ.
GROW: Interieur de Jesus.
HADFIELD: The Psychology of Power.
HARRIES, RENDEL: The Guiding Hand of God.
HERRMANN: Systematic Theology.
Der Verkehr des Christen mit Gott.
HEILER: Das Gebet.
HEPHER: The fruits of silence.
HOSKYNS AND DAVEY: The Riddle of the New Testament.
INGE: Personal Religion and the Life of Devotion.
Christian Ethics and Moral Problems.
JULIAN OF NORWICH: Revelations of Divine Love.
JOHN OF THE CROSS: Ascent of Mount Carmel.
Spiritual Canticle.
JAMES, W.: Varieties of Religious Experience.
JONES, RUFUS M.: Pathways to the Reality of God.
Studies in Mystical Religion.
JONES, T. GWYNN: Welsh Folklore and Folk—custom.
Llenyddiaeth y Cymry.
JONES, J. LLOYD: Geirfa Barddoniaeth Gymraeg gynnar.
JOWETT: The daily altar.
LILLEY: Prayer in Christian Theology.
LEUBA: Psychology of Christian Mysticism.
LACORDAIRE: Letters.
LOYOLA, IGNATIUS: The Spiritual Experience.
MAMSON: The Teaching of Jesus.
MARTINEAU: Home prayers.
Seat of Authority in Religion.
Mc DOUGAL: The Group Mind.
MILL, J. S.: Three Essays on Religion.
OMAN: Grace and Personality.
Science, Religion and Reality.
The Natural and Supernatural.
OTTO: The Idea of the Holy.
PEAKE: The People and the Book.
PEDERSEN: Vergl—Gram. der Keltische Sprache.
PIRANDELLA: Quanderni di Serafino Gubbio, operatore.
PRATT, J. B.: The Religious Consciousness.
PRINGLE—PATTISON: The idea of God in the light of recent Philosophy.
RAUCHENBUSCH: Prayers of the Social Awakening.
RHYS: Celtic Britain.
SILESIUS, ANGELUS: Cherubinischer Wandersmann.
SÖDERBLOM: The Living God.
SPENGLER: Der untergang des Abendlandes.
SCHMIEDEL: Die Person Iesu im Streit der Meinunger der Gegenwart.
SCHWEITZER: Geschichte der Leben Iesu.
STREETER: The Four Gospels.
Concerning Prayer.
Reality.
The Primitive Church.
TRAHERNE: Centuries of Meditation.
TENNANT: Philosophical Theology.
TERESA: Her Life (by herself).
Interior Castle.
UNDERHILL: Mysticism.
Life of the Spirit.
VON HÜGEL: Briefe.
Essays and Addresses.
VOGT, VON OGDEN: Kunst und Religion.
WENDT: D. Theologie d. Neue Testament.
Die Lehre Iesu.
WESTCOTT: Christus Consummator.
WHITEHEAD: Adventures in ideas.

Nodiadau
[golygu]- ↑ Oni theimla'r darllenydd ddiddordeb mewn geirofyddiaeth gall fynd heibio i'r tudalennau 1—6 rhag i eiriau estron ei faglu, a thripio ohono ar yr hiniog. Y mae pob gwreiddiau yn sych o raid; ond fe dâl i ymgydnabod â hwy: bydd yn gryn gymorth i ddeall y mater a drafodir yn nes ymlaen.
Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.