Addysg yng Nghymru 1847-1947 (testun cyfansawdd)
| ← | Addysg yng Nghymru 1847-1947 (testun cyfansawdd) gan Adran Gymreig y Weinyddiaeth Addysg |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Addysg yng Nghymru 1847-1947
|

Addysg yng Nghymru
1847-1947
ADRAN GYMREIG
Y WEINYDDIAETH ADDYSG
PAMFFLED 2

RHAGAIR
Ym 1846 penododd y Llywodraeth Ddirprwyaeth i ymchwilio i gyflwr Addysg yng Nghymru. Bu llawer o drafod ar yr Adroddiadau a ddilynodd yr ymchwiliad, er na ellir gwadu i'w cyhoeddi fod o ryw gymaint o les i addysg Cymru. Aeth canrif heibio, y mae'r teimladau brwd a'r rhagfarnau bellach wedi tawelu, ac ymddengys yn amser addas yn awr i adolygu gwaith y Dirprwywyr a mesur ei bwysigrwydd yn hanes datblygiad addysg yng Nghymru. Ceisir gwneuthur hyn yn y pamffled hwn.
Yr ydym yn byw yn nyddiau gwewyr y cynnydd addysgol a wnaed yn bosibl gan Ddeddfau Addysg 1944 a 1946. Erys llawer i'w wneuthur eto. Dilyn ffordd araf datblygiad yw ein traddodiad ni ym Mhrydain, addasu'r presennol ar gyfer anghenion y dyfodol gan gofio bob amser am y graig y naddwyd ni ohoni. Yn y pamffled hwn edrychir yn ôl dros y can mlynedd diwethaf, a dylai hyn ein hatgofio o'r camau breision a wnaed er 1847. Y pryd hynny medrai tri o Ddirprwywyr galluog gondemnio dylanwad yr iaith Gymraeg ar gynnydd moesol ac economaidd y Cymry. Ni ellir dal y syniad hwn mwyach. I'r gwrthwyneb, credaf fod iaith, llên, hanes a thraddodiadau Cymru yn etifeddiaeth amhrisiadwy i bawb o'i phlant
George Tomlinson
Y Weinyddiaeth Addysg,
- Llundain, W.1.
- Rhagfyr, 1947.
Dymuna Adran Gymreig y Weinyddiaeth Addysg gydnabod y cymorth a dderbyniodd wrth baratoi'r pamffled gan yr Athro R. T. Jenkins, Mr. Bob Owen, Croesor, a'r Prifathrawon hynny a fu mor garedig â rhoddi eu llyfrau cofnodion at ei gwasanaeth. Dymuna ddiolch hefyd i'r rhai a ganlyn am eu caredigrwydd yn rhoddi'r darluniau Arglwydd Shuttleworth (Syr James Kay Shuttleworth), Syr Ifan ab Owen Edwards (Syr O. M. Edwards), a Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Syr Hugh Owen, Deon Cotton, a llun y wynebddalen o'r Rhan I o'r "Llyfrau Gleision").
ADDYSG YNG NGHYMRU 1847-1947
BLWYDDYN BWYSIG I GYMRU, AR LAWER CYFRIF, OEDD 1843. YN Y flwyddyn honno y cyflwynodd Syr James Graham ei Fesur Ffatrioedd; y cyhoeddwyd, am y tro cyntaf, Yr Amserau a'r Cronicl, ac yr ail-dorrodd terfysgoedd Rebecca. Y terfysgoedd hyn, ynghyd ag atgofion am helyntion y Siartwyr yn 1839, a awgrymodd i William Williams, aelod seneddol dros Coventry a brodor o Lanpumpsaint, y dylid gwneud rhywbeth er sicrhau gwell addysg i'r Cymry. Credai ef, fel llawer o rai eraill ar y pryd, fod afreoleidd-dra i'w briodoli i anwybodaeth, a bod ysgolion yn rhatach i'w cynnal na heddlu neu fyddin.
"Dylid cofio" meddai yn Nhŷ'r Cyffredin yn 1846, "fod pobl heb addysg a heb ddisgyblaeth, fel y rhai sy'n byw ymysg y Mwynfeydd yn Neheudir Cymru, yn beryglus i'r eithaf i'r gymdogaeth y maent yn byw ynddi, a bod y gost o gadw nifer o ysgolfeistri effeithiol yn llai na'r draul o gynnal corff o heddgeidwaid neu filwyr."
Ar bwys y syniadau hyn aeth ymlaen i gynnig:
"Ein bod yn ostyngedig yn cyflwyno Deiseb i'w Mawrhydi ar iddi'n rhadlon drefnu Ymchwiliad i gyflwr addysg yng Nghymru, yn arbennig i gyfleusterau'r gweithwyr i ddysgu Saesneg."
Cydsyniodd ei Mawrhydi, sef y Frenhines ieuanc Victoria (nad oedd ond 27 oed ar y pryd), a phenodwyd tri o Ddirprwywyr ar gyfer y gwaith. Tri o wyr ieuainc galluog oeddynt—J. C. Symons, R. R. W. Lingen a H. Vaughan Johnston—a rhoddwyd iddynt gyfarwyddiadau clir a synhwyrol gan James Kay Shuttleworth (Ysgrifennydd y Cyfrin Gyngor ar Addysg). Eglurodd iddynt mai amcan y Ddirprwyaeth ydoedd gwybod beth oedd "nifer yr ysgolion o bob math ar gyfer addysgu plant y gweithwyr, ac ar gyfer pobl mewn oed, cyfanswm y presenoldeb, oed y disgyblion a natur y gwersi," fel y gallai'r Llywodraeth ystyried pa fesurau y dylid eu cymryd er mwyn gwella darpariaethau addysg yng Nghymru. Disgwylid iddynt egluro'u gwaith i ymddiriedolwyr a rheolwyr yr ysgolion, a phan geid cyfleusterau i ffurfio barn deg ar gymwysterau a chyraeddiadau athrawon yr oeddynt i fynegi eu barn mewn dull "na fyddai'n digalonni dynion gwylaidd ond teilwng na chawsent ond ychydig o gyfleusterau addysg." Mewn rhai mannau byddai'n angenrheidiol iddynt gyflogi cynorthwywyr hyddysg yn y Gymraeg, ac wedi iddynt orffen eu gwaith disgwylid iddynt ffurfio barn am gyflwr cyffredinol dealltwriaeth a gwybodaeth y dosbarthiadau isaf yng Nghymru ac am "y dylanwad y gellid ei ddisgwyl oddiwrth addysg well ar gyflwr cymdeithas a'i chynnydd moesol a chrefyddol." Dechreuodd y Dirprwywyr ar eu gwaith yn ddiymdroi ac mewn amser byr iawn caed ganddynt adroddiad swyddogol ar 1,183 o dudalennau. Cyhoeddwyd yr Adroddiad mewn tri o lyfrau gleision. Achosodd y llyfrau hyn gryn gynnwrf yng Nghymru, a sonnir amdanynt o hyd fel "Y Llyfrau Gleision." Cyn y medrwn ddeall cynnwys y llyfrau hyn, y mae'n rhaid inni fwrw golwg yn ôl am ychydig a cheisio darganfod beth oedd cyflwr addysg yng Nghymru cyn eu cyhoeddi yn 1847—gan mlynedd yn ôl.
2
AR DDECHRAU'R BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG YR OEDD darpariaeth addysg i blant Cymru yn wael iawn. Y mae'n wir bod tua dwsin o hen Ysgolion Gramadeg, a sefydlwyd gan mwyaf yn nyddiau Elisabeth a lago I, ond ar wahân i'r ffaith mai bychan oedd eu rhif a'u maint, yr oeddynt yn hollol Seisnig eu hawyrgylch; darparent yn bennaf ar gyfer meibion y dosbarth canol. Sefydlwyd ychydig o Ysgolion Gramadeg eraill yn y ddeunawfed ganrif hefyd, rhai ohonynt yn agored i feibion y werin; ac yr oedd nifer o ysgolion preifat yma a thraw (mwy, efallai, nag a dybir yn gyffredin), ysgolion a sefydlwyd gan unigolion preifat i roddi rhyw fath o addysg am geiniog neu ddwy i'r neb a allai fforddio hynny. Yn gyffredinol, fodd bynnag, gellir dweud nad oedd gan werin Cymru ddim ond yr Ysgolion Sul i anfon eu plant iddynt, ynghyd ag ychydig o'r Ysgolion Cylchynol a oedd yn parhau yma a thraw, a'r Academiau Ymneilltuol. Heblaw hyn, ar derfyn y ddeunawfed ganrif, nid oedd Ysgol Sul i'w chael ymhob eglwys a chapel, oherwydd nid oedd ond deuddeng mlynedd er pan argyhoeddwyd Thomas Charles, gwir sylfaenydd y sefydliad fel y gwyddom ni amdano, o'i phwysigrwydd. At ei gilydd, felly, prin iawn oedd y ddarpariaeth ar gyfer mwyafrif plant Cymru yn 1800, a pheth gwael iawn, fel rheol, oedd hynny o ddarpariaeth a geid.
Y mae'n wir i rai o'r ysgolion preifat (neu ysgolion antur preifat fel yr adnabyddid hwy yn aml) ennill rhyw fath o enw da tu allan i'w cymdogaeth. Rhai felly oedd ysgolion y Parch. Evan Richardson yng Nghaernarfon (lle'r addysgwyd Syr Hugh Owen), y Parch. Robert Jones (Rhoslan) yn Llangybi, Eben Fardd yng Nghlynnog a'r Parch. Thomas Lloyd yn Abergele. Ffynnai ysgol Lloyd am hanner canrif (1799-1848) ac yn ystod y cyfnod hwn derbyniodd tua 1200 o ddisgyblion elfennau addysg ynddi. Deuai rhai o'r plant o leoedd cyn belled â Chaer, Lerpwl a Birmingham. Cedwid yr ysgolion mwyaf adnabyddus drwy anawsterau a gyfrifid yn llethol gennym ni heddiw, ac yr oedd yr ysgolion llai adnabyddus yn druenus o wael. Yn ei dydd yr oedd Ysgol Dr. Thomas Phillips yn y Neuaddlwyd, sir Aberteifi, ymhell o fod yn un ddibwys, ac eto dywedir wrthym mai dwy ystafell yn unig oedd yno, nad oedd ganddi nemor ddim cyfarpar, mai prin oedd ei dodrefn, nad oedd ganddi ddim un darlun, dim ond ychydig o lyfrau, a bod yr ysgolheigion (yn Gymry, Saeson a Gwyddelod) yn amrywio mewn oedran o laslanciau i ddynion canol oed, ac un llanc" barfog tua'r 45 yn cael ei adnabod fel "tadcu". Gwnaeth Lewis Williams, Llanfachreth, yntau lawer yn ei ffordd ei hun i gyfrannu elfennau darllen i blant ei ardal. Yn sicr, yr oedd ef ar ei ben ei hun hyd yn oed yn y dyddiau hynny oblegid agorodd ysgol cyn medru darllen ei hun. Er hynny, bu peth llwyddiant ar ei ymdrech oblegid dewisodd Thomas Charles ef yn un o'i ysgolfeistri yn 1799, ac ymhlith ei ddisgyblion yr oedd dau a ddaeth wedi hynny yn adnabyddus iawn—y Parch. Roger Edwards, yr Wyddgrug, a Mary Jones, yr eneth a gerddodd o Lanfihangel-y-Pennant i'r Bala i brynu Beibl.
Er caniatáu bod rhai eithriadau nodedig, eto, truenus ydoedd cyflwr yr ysgolion preifat. Peth anghyffredin oedd gweled Thomas Lloyd, Abergele, yn gwenu; ar un achlysur gwnaeth i blentyn gyffesu anonestrwydd trwy sefyll ei brawf gerbron rheithwyr o blith ei gyd— ddisgyblion a'i ddychryn yn fwy fyth trwy ddangos rhaff—cofier y gyrrid lladron yn aml yn y dyddiau hynny i'r crocbren. Y mae gennym, drachefn, ddisgrifiad Eben Fardd o'i brofiad yn blentyn pum mlwydd oed mewn ysgol a gedwid gan un o'r enw Richard Price yn Eglwys Llanarmon, Sir Gaernarfon. Yn yr oed tyner hwn fe'i cosbwyd yn greulon unwaith a'i gau yn yr Eglwys, a'r meistr annynol, mewn gwisg wen, yn codi'n araf o'r pulpud mewn rhith ysbryd. Bu ef, yn ddiamau, lawer mwy caredig wrth ei ddisgyblion ei hun yng Nghlynnog. Er enghraifft, pan aeth a'i ddisgyblion i Lanbedrog yn 1836 i'w holwyddori gan y Deon Cotton o Fangor, rhoes i'r ddau na chawsent wobrau gan y Deon ddimai yr un, gwerth grôt o fara, ychydig o fenyn, a chwart o gwrw rhyngddynt. Ond gwyddai Eben Fardd 'nid hael ond hael gartref' a dywed yn ei Ddyddiadur: "Cymerais innau hanner peint fy hun."
Yr oedd llawer o ysgolion o ryw fath, felly, yng Nghymru yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond ar y cyfan, yr oeddynt ymhell o fod yn foddhaol; nid oedd digon ohonynt, ac nid oeddynt yn ddigon da. Rhoes Daniel Owen ddarlun anfarwol inni o un o'r ysgolion hyn yn ei nofel Rhys Lewis. Nid "Robin y Sowldiwr" oedd yr unig fath o ysgolfeistr yng Nghymru yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond yn anffodus yr oedd gormod o rai tebyg iddo, a themtid un a fethodd ymhob crefft a galwedigaeth arall i agor ysgol. Ni ellir synnu at hyn pan gofir am yr holl anawsterau, adeiladau'r ysgolion, y llyfrau ysgol, ac yn arbennig gymwysterau a chyflogau'r athrawon. Pan agorodd Eben Fardd ei ysgol yng Nghlynnog yn 1827 cytunodd y Ficer i dalu iddo £3 y chwarter am ddysgu 24 o blant i ddarllen, pum swllt yn ychwaneg am gadw cyfrifon y Festri, a chyfrannai'r plwyf 6 swllt arall. Nid yw'n rhyfedd felly ei fod yn 1834, ar wahân i ofalu am ei ysgol, yn cadw siop, yn rhwymo llyfrau ac yn pobi a gwerthu bara. Os prin yr oedd mynychu ysgol yn rhoddi mwynhad à lles, nid oedd cadw ysgol yn rhoddi na'r naill na'r llall.
Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ffurfiwyd dwy Gymdeithas yn Lloegr i hyrwyddo addysg plant tlodion. Enw un ohonynt oedd The British and Foreign School Society (1808) ac enw'r llall oedd The National Society (1811). Joseph Lancaster oedd apostol y naill a Dr. Andrew Bell y llall, ond tra dysgai'r National Schools egwyddorion crefyddol Eglwys Loegr, yr oedd addysg grefyddol y British Schools yn gwbl anenwadol. Ar wahân i'r gwahaniaeth pwysig hwn nid oedd rhagor rhwng y ddwy Gymdeithas ar y dechrau. Cymdeithasau gwirfoddol oedd y ddwy gan eu bod yn dibynnu am eu harian ar roddion gwirfoddol a thaliadau am ysgol; yr oedd y ddwy yn awyddus i symud trueni ac anwybodaeth er mwyn cadw rheol a threfn, oblegid teimlent, fel y teimlai'r mwyafrif ar y pryd, fod pobl anwybodus yn fwy agored i'w cyffroi i derfysg; a mabwysiadodd y ddwy gyfundrefn y Monitors. Hawliai Bell mai ef a ddyfeisiodd y gyfundrefn hon, ond yn wir cawsai ei defnyddio'n helaeth cyn hyn ar y Cyfandir, ac mewn rhai o'r Ysgolion Élusen yn Lloegr. Buasai Bell gynt yn Arolygwr Cartref i blant amddifaid ym Madras. Yno, rhoesai hyfforddiant i'r disgyblion hynaf yn gyntaf ac yna gosod y goreuon ohonynt i ddysgu'r plant lleiaf. Yr oedd y gyfundrefn hon yn rhad iawn; tua 7 swllt a gostiai i addysgu plentyn am flwyddyn, ac yr oedd yn ddull penigamp i sicrhau cyflenwad o athrawon mewn amser byr. "Rhowch imi 24 o ddisgyblion heddiw" meddai Bell unwaith, "a chewch 24 o athrawon gennyf yfory."
Agorodd y ddwy Gymdeithas ysgolion ledled Lloegr a Chymru. Ar y dechrau ni roes y wladwriaeth ddim cymorth at y treuliau, ond yn 1833, pleidleisiodd 50 yn erbyn 26 yn Nhŷ'r Cyffredin dros roddi £20,000 i'w rannu rhyngddynt ar sail cyfraniad o bunt y bunt tuag at godi ysgolion. Cymorth bychan iawn oedd hwn, nid yn unig o'i gymharu â'r swm enfawr a werir heddiw ar addysg, ond o'i gymharu hyd yn oed â symiau eraill a delid y pryd hwnnw gan y Llywodraeth; er enghraifft, yn 1839, rhoes Llywodraeth Melbourne swm o £70,000 tuag at godi stablau'r Brenin yn Windsor. Ond er lleied oedd, amlygai'r cymorth ariannol cyntaf hwn gychwyn diddordeb y wladwriaeth mewn Addysg, ac yn raddol aeth ar gynnydd; yn 1839 caed £30,000, erbyn 1846 cododd i £100,000 ac yn 1946 darparodd y wladwriaeth bron 90 miliwn o bunnau tuag at bob adran o Addysg heb gyfrif y Prifysgolion, a heb gyfrif y symiau a godwyd mewn trethi gan yr Awdurdodau Addysg Lleol. Er mai ar gyfer adeiladu ysgol y rhoddwyd grantiau ar y dechrau caed cymorth yn ddiweddarach at godi tŷ-ysgol hefyd, ac wedi hynny at brynu offer gwaith i'r ysgolion.
Codwyd y "National School" gyntaf a agorwyd yn Nghymru ym Mhenley, Sir Fflint, mor gynnar à 1811, a mae'n ddiddorol sylwi bod ei thô gwellt yn aros heddiw, a'i hen enw-Ysgol Madras-yn para i lynu wrthi, gan ddwyn i gof y dyddiau a dreuliodd Andrew Bell yn yr India a'r gyfundrefn a fabwysiadodd yno. Hon oedd un o'r ychydig ysgolion a gafodd adroddiad ffafriol gan y Dirprwywyr yn 1847. Y pryd hynny addysgid 78 o fechgyn mewn un dosbarth gan yr athro, 73 o ferched dan ofal athrawes mewn dosbarth arall, a 15 Monitor i'w cynorthwyo. Fodd bynnag, ni ddechreuodd y National Society ar ei gwaith o ddifri yng Nghymru hyd tua 1837; yn y blynyddoedd nesaf gwnaeth gynnydd sylweddol. Er enghraifft, yn 1838, yr oedd 72 o'u hysgolion yn esgobaeth Bangor yn unig, a rhwng 1837 a 1846 cynyddodd rhif plant ysgolion Eglwys trwy'r wlad yn gyffredinol o 25,686 i 44,841.

Bu cynnydd y Gymdeithas Frutannaidd yn fwy araf o lawer; gwaith anodd yn y dyddiau hynny oedd cael Anghydffurfwyr i gydweithio. O ganlyniad, nid oedd ond dwy ysgol Frutannaidd trwy Ogledd Cymru i gyd yn 1843 (yng Ngwrecsam a Phorthmadog), er bod rhai eraill wedi byw am ychydig; ac nid oedd ond ychydig mwy na hyn yn y De. Yn 1843, felly, âi'r mwyafrif o blant Cymru, os aent i ysgol o gwbl, i ysgol breifat neu i'r Ysgol Eglwys. Cadwai llawer o'r Anghydffurfwyr eu plant o'r ysgolion Cenedlaethol hyn am resymau enwadol, oblegid yng ngeiriau'r Deon Cotton " prif amcan yr Ysgolion Eglwys ydyw sylfaenu'r plant yn dda mewn gwybodaeth o'r Ysgrythur Lân, a'u trwytho yn egwyddorion yr Eglwys." Yr oedd hyn yn hollol naturiol ac yn iawn wrth gwrs o safbwynt yr Eglwys; wedi'r cwbl, ag arian yr Eglwys gan mwyaf y codwyd yr ysgolion. Ofnai'r Anghydffurfwyr, fodd bynnag (a hynny'r un mor naturiol) y byddai i'w plant, o fynychu'r ysgolion hyn, droi'n Eglwyswyr eu hunain, oblegid yn aml gorfodid hwy i fynd i'r Eglwys ar y Sul. Dyna'r safle yn 1843. Y flwyddyn honno, cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cartref, Syr James Graham, Fesur Ffatrioedd newydd i'r Senedd. Yn y cyfnod hwnnw gweithiai plant bychain am oriau maith mewn ffatrioedd truenus, ac amcan Mesur Graham ydoedd gwella'u hamodau gwaith. Yr oedd ynddo un adran yn ymwneud ag addysg, a'r adran arbennig honno a fu'n achos cynnwrf buan, oblegid rhoes i'r Eglwys fesur helaeth o awdurdod i arolygu'r ysgolion. Teimlai'r Anghydffurfwyr petai'r Mesur hwn yn Ddeddf, y trosglwyddid addysg plant drwy'r wlad i'r Eglwys, a dyna'r peth olaf a ddymunent. Anghofiwyd megis dros nos y gwahaniaethau a'u rhannai cyhyd, a chytunwyd i hawlio tynnu'r Mesur yn ôl. Llwyddasant, ac ni bu sôn amdano mwy. Atebodd ddiben da; gwnaeth iddynt sylweddoli y dylent wneud rhywbeth eu hunain dros addysg eu plant, a bu dau ganlyniad pwysig i'r cynnwrf yng Nghymru.
Y canlyniad cyntaf ydoedd agor llawer o ysgolion Brutannaidd newydd yng Ngogledd Cymru. Yn yr un flwyddyn (1843) danfonwyd llythyr i'r Wasg yng Nghymru gan Hugh Owen, un o Gymry Llundain (yn ddiweddarach, Syr Hugh Owen, un o garedigion pennaf Addysg Cymru yn ystod y ganrif ddiwethaf) yn galw am i'r gwahanol enwadau uno i godi Ysgolion Brutannaidd yng Nghymru a rhoddi iddynt gyfarwyddiadau ynghylch sicrhau cymorth ariannol gan y Llywodraeth. Rhoddwyd derbyniad gwresog i'w lythyr mewn llawer cylch, gyda'r canlyniad iddo yntau ddwyn anghenion Cymru gerbron y Gymdeithas Ysgolion Brutannaidd a Thramor ym mis Hydref 1843, a chael ganddynt benodi trefnydd i hyrwyddo codi Ysgolion Brutannaidd yng Ngogledd Cymru. Y trefnydd hwn oedd y Parch. John Phillips, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a bu cymaint o lwyddiant ar ei ymdrechion nes agor 12 o ysgolion yn ystod y flwyddyn gyntaf a derbyn 24 o geisiadau eraill am gymorth ariannol. Erbyn 1846 yr oedd 31 o ysgolion yn agored a 12 o rai eraill dan ystyriaeth; yr oedd dau berson arall wedi eu penodi i gynorthwyo Phillips, a ffurfiwyd y Cambrian Education Society fel cangen Gymreig o'r Gymdeithas Frutannaidd. Dyna ganlyniad cyntaf cyflwyno Mesur Graham, sef creu mudiad i chwanegu at nifer yr Ysgolion Brutannaidd yng Ngogledd Cymru.
Yn Neheudir Cymru nid oedd y Gymdeithas Frutannaidd mor boblogaidd o lawer. Yr oedd llawer mwy o Annibynwyr a Bedyddwyr, a llai o Fethodistiaid, yn y rhan honno o'r wlad, ac fel Annibynwyr a Bedyddwyr gwrthodent gymorth y wladwriaeth. Credent nad oedd mwy o hawl gan y wladwriaeth i ddarparu arian ar gyfer ysgolion nag oedd ganddi i gynnal yr Eglwys.
"Ni phetrusaf gyhoeddi "ebe'r Parch. David Rees, Llanelli, un o wrthwynebwyr cryfaf derbyn cymorth y Llywodraeth "y bydd unrhyw gyfundrefn o addysg dan nawdd y Llywo draeth cyn sicred o brofi'n felltith i'r wlad yn y dyfodol á bod Eglwys Loegr yn felltith i'r wlad heddiw."
Yr oedd y Gwirfoddolwyr, fel y gelwid hwy, yr un mor benderfynol dros wneud rhywbeth i'w plant. Dan arweiniad David Rees, ac ar awgrym a roddwyd gan Henry Richard o Dregaron, gweinidog ar y pryd gyda'r Annibynwyr yn Llundain, caed cynhadledd yn Llanymddyfri yn 1845 i drafod holl bwnc addysg yn Neheudir Cymru. Ffurfiwyd Pwyllgor Addysg Deheudir Cymru a phenderfynwyd sefydlu ysgol Normal yn Aberhonddu i hyfforddi athrawon a threfnu ymgyrch o blaid codi Ysgolion Gwirfoddol ymhob rhan o'r Deheudir, hynny yw, ysgolion i'w codi a'u cynnal yn gyfangwbl gyda chyfraniadau gwirfoddol. Agorwyd yr Ysgol Normal yn Aberhonddu ar y cyntaf o Ionawr 1846, a Mr. Evan Davies yn Brifathro arni, ond symudwyd hi i Abertawe yn 1849, ac yn fuan aeth yn Ysgol breifat i'r Prifathro. Agorwyd ysgolion gwirfoddol hefyd gan y Pwyllgor, mewn capeli neu festrioedd fel rheol, ond mae'n anodd dweud beth oedd eu rhif. Mae'n fwy na thebyg eu bod yn lluosog, ond profodd y draul o'u cynnal yn faich rhy drwm ar bobl yr ardal, ac yn 1853 penderfynwyd gofyn i'r Gymdeithas Frutannaidd anfon trefnydd i Ddeheudir Cymru. Cydsyniwyd, a phenodwyd y Parch. William Roberts, Blaenau Gwent (a adwaenir yn well fel Nefydd). Nid oedd ond 14 o Ysgolion Brutannaidd yn y Deheudir pan ddechreuodd ar ei waith; ymhen deng mlynedd, ar derfyn tymor ei wasanaeth, yr oedd yno 164. Dyna'r ail ganlyniad i gyflwyno Mesur Graham, sef ymgais i sefydlu Ysgolion Gwirfoddol yn Neheudir Cymru, ymgais a barhaodd am ddeng mlynedd (1843-1853), ac a arweiniodd i benodi Nefydd yn drefnydd Ysgolion Brutannaidd yn y rhan honno o Gymru fel y gwnaethai John Phillips mor llwyddiannus yn y Gogledd.
3
ADDYSGWYD Y DIRPRWYWYR A BENODWYD YN 1846 I WNEUD YMCHWILIAD i gyflwr addysg yng Nghymru yn Ysgolion Cyhoeddus Lloegr, ac wedi hynny yn Rhydychen neu yng Nghaergrawnt. Dynion galluog oeddynt, ond prin y gellir eu hystyried y rhai mwyaf addas i wneud ymchwiliad o'r fath. Ychydig a wyddent, hyd yn oed, am weithwyr Lloegr, llai fyth am werin Cymru. Yn bwysicach na hynny, ni fedrent Gymraeg, a syniadau rhyfedd oedd ganddynt am yr iaith a'i llenyddiaeth. Gan amlaf, yngynghorent hwy a'u cynorthwywyr â'r sgweiar neu â pherson y plwyf. Buasai hyn yn eithaf naturiol a phriodol mewn llawer man yn Lloegr, ond nid y gwŷr hyn, gyda rhai eithriadau amlwg, oedd y rhai mwyaf cymwys i roi darlun cywir o gyflwr pethau yng Nghymru y pryd hynny.
Er gwaetha'r diffygion hyn, gwnaeth y Dirprwywyr eu gwaith yn ddiwyd a thrwyadl. Gwnaethant eu gorau i fod yn deg. Pan fyddai angen am hynny ni phetrusent feirniadu'r gwŷr mawr; cystwyent y diwydianwyr mawr yn llymach fyth: dywedent yn erbyn yr Eglwys ar brydiau, er eu bod yn Eglwyswyr eu hunain; a chanmolent yr Ysgolion Sul Cymraeg a dealltwriaeth y bobl. Er hyn i gyd deffrôdd eu Hadroddiad lid cenedl gyfan. Ymhle, felly, yr aethant ar gyfeiliorn, os bu iddynt gyfeiliorni o gwbl?
Yn y lle cyntaf, dywedasant fod llawer iawn o anwybodaeth yng Nghymru, ac yr oedd hynny ynddo'i hun yn boen i'r Cymry. Dywedasant drachefn fod llawer o anwiredd, twyll, diogi, meddwdod ac anfoesoldeb yng Nghymru, a chyffrôdd hynny'r Cymry'n fwy fyth. Ond pan aethant i geisio esbonio'r sefyllfa drist ni wnaethant ond chwythu'r tân. Iddynt hwy yr oedd Cymru wedi suddo mewn anwybodaeth a phechod am ddau reswm; yr Iaith Gymraeg oedd un ac Anghydffurfiaeth Cymru oedd y llall. I bob diben, ystyr eu geiriau oedd bod y Cymry'n anwybodus ac anfoesol oherwydd eu bod yn siarad Cymraeg ac yn mynd i gapel yn hytrach nag i'r Eglwys. Rhaid inni gofio hefyd fod llawer mwy o bobl, yn ôl y boblogaeth, yn siarad Cymraeg yn y dyddiau hynny nag sydd heddiw, a llawer mwy o bobl a chanddynt ddiddordeb gwirioneddol mewn crefydd, a'r grefydd honno, gan mwyaf, yn troi o gwmpas y capel lleol.
"Mae'r iaith Gymraeg ", meddent, " yn anfantais ddirfawr i Gymru, ac yn rhwystr mewn llawer ffordd i ddatblygiad moesol a llwyddiant masnachol y bobl. Nid yw'n hawdd gorfesur ei heffeithiau niweidiol."
Mewn geiriau eraill, mynegodd y Dirprwywyr eu barn ystyriol na wnai'r Cymry byth gynyddu mewn moes na masnach tra parhaent i siarad Cymraeg. Yr iaith Gymraeg oedd gwreiddyn pob drwg a flinai'r wlad y pryd hynny, hi ydoedd ffynhonnell ei hanwybodaeth, ei hanfoesoldeb, a'i Hanghydffurfiaeth. Yr oedd y feddyginiaeth wrth gwrs yn amlwg: darparu rhagor o ysgolion i ddysgu Saesneg yn effeithiol ynddynt ac yn y diwedd lladd y Gymraeg.
"Y mae'r bobl yn eu dymuno", medd yr Adroddiad, "ac nid oes yr amheuaeth lleiaf na bydd i addysg effeithiol, fydol a chrefyddol, ddyrchafu eu cyflwr naturiol a symud ymaith eu llygredd moesol."
Dyna'n fyr brif gasgliadau'r Ddirprwyaeth Ymchwil. Yr oedd y Dirprwywyr wedi camddeall cenedl gyfan a'i henllibio, a'r canlyniad oedd digllonedd ffyrnig. Ymunodd Cymry o bob enwad a phlaid, Whigiaid a Thoriaid, Eglwyswyr ac Anghydffurfwyr yn y frwydr i glirio enw da Cymru. Er na wnaeth y Llyfrau Gleision ddim oll i wella'r berthynas rhwng Cymru a Lloegr, buont yn foddion i uno'r Cymry o'r naill gwr o'r wlad i'r llall.
Aeth yr ymrafael heibio bron yn gyfan gwbl erbyn hyn, ond erys atgofion amdano o hyd. Gwaith anodd iawn, heb wybodaeth lwyr o gyflwr y mwyafrif, onid y cwbl, o ysgolion Cymru rhwng 1840 a 1850 ydyw penderfynu i ba raddau yr oedd y Dirprwywyr yn iawn wrth gondemnio addysg Cymru. A chaniatáu bod rhai eithriadau yma a thraw, y mae'n debyg i fwyafrif yr ysgolion haeddu'r cerydd a gawsant, a diddorol yw sylwi bod Kay Shuttleworth ei hun wedi rhoi beirniadaeth gyffelyb ar ysgolion Lloegr. Yr oedd yr adeiladau, yma ac yno, fel rheol ymhell o fod yn foddhaol. Cynhelid yr ysgolion Cymreig mewn capelau, siopau, bythynod, seleri, ceginau, llofftydd, a hyd yn oed mewn stablau; yr oedd llyfrau ac offer gwaith yn druenus o brin; a'r athrawon hwythau, lawer ohonynt, heb hyfforddiant, heb gyflog teilwng, a heb fod rhyw lawer ar y blaen i'r disgyblion y ceisient eu dysgu. "Mae anallu'r athrawon" meddai Symons "yn ddirfawr," ond bu'n ddigon teg i chwanegu "bod safle mwyafrif yr ysgolfeistri tua hanner y ffordd rhwng cyflwr tlotyn a labrwr iach." Nid yw'n syndod, felly, fod llawer ohonynt wedi dechrau addysgu "oherwydd eu bod naill ai'n rhy hen neu'n rhy ifanc ar gyfer gwaith caled," a bod eraill " wedi eu cymell i ddilyn yr alwedigaeth oherwydd colli aelod, colli golwg neu glyw, neu ryw anffawd arall." Ac am y cynllun gwaith, darllen ydoedd yn bennaf, gydag ychydig o sgrifennu a rhifo yma ac acw. Fel rheol anwybyddid daearyddiaeth, hanes, gramadeg, arlunio a chanu. Mewn gair, o edrych ar yr addysg o'r tu allan, fel y gwnaeth y Dirprwywyr, y mae llawer i'w ddweud dros eu syniadau; yr oedd yr adeiladau, yr offer gwaith a'r athrawon yn rhy aml yn wael iawn. A chydnabod hyn, fodd bynnag, nid yw'n dilyn bod y Cymry mor anwybodus ag y disgrifid hwy. Ni fedrent Saesneg, mae'n wir, ond nid yw hynny'n gyfystyr ag anwybodaeth; yn wir, rhoes y Dirprwywyr eu hunain gymeradwyaeth i'w gwybodaeth o'r Gymraeg. Yn anffodus cymerwyd yn ganiataol mai gwybod Saesneg ydoedd gwybodaeth, a bod gwybod Cymraeg naill ai'n ddiwerth neu'n ddiffyg gwybodaeth. Yr oeddynt yn barod i addef fod gan y Cymro wybodaeth dda o'i iaith ei hun. "Y mae ganddo well meistrolaeth o lawer ar ei iaith nag a fedd Sais o gyffelyb radd ar Saesneg." Yr anffawd oedd na olygai hyn ddim iddynt, oblegid tybient hwy nad oedd dim gwerth yn y Gymraeg ac nad oedd wedi cynhyrchu "dim llenyddiaeth teilwng o'r enw"!
Yna daw'r cyhuddiad o anonestrwydd cyffredinol, twyll ac anfoesoldeb ymhlith y Cymry. Erbyn heddiw, y mae'n anodd iawn profi hyn na'i wrthbrofi, ond at ei gilydd ceir digon o dystiolaeth i awgrymu bod lleiafrif nad oeddynt yn byw yn deilwng o bobl a gyfrifid yn hoff o'u cyfarfodydd crefyddol. Mae'n wir nad oedd yr amgylchiadau ddim gwell yn Lloegr, ac y mae'n debyg eu bod yn waeth ar y Cyfandir, fel y dangosodd Henry Richard; ond nid yw hynny'n cyfreithloni dim. Mae'n debyg fod rhyw gymaint o wir yn y cyhuddiad arbennig hwn, ond aeth y Dirprwywyr ar gyfeiliorn eto mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, ffolineb noeth oedd eu honiad mai dyna gyflwr cyffredin y mwyafrif o'r Cymry. Yn ail, priodolent y llacrwydd hwn i'r iaith Gymraeg ac i Anghydffurfiaeth Gymreig, tra nad oedd a wnelo'r naill na'r llall mewn gwirionedd ddim ag ef. Gellir mentro dweud na fuasai cyflwr cymdeithasol a moesol y Cymry ddim gronyn gwell pe clywsid pob un yn siarad Saesneg a phe gwelsid hwy yn mynychu'r Eglwys yn hytrach na'r Capel. Ni bu'r Cymry'n araf i ddangos hyn, yn Eglwyswyr yn gystal ag Anghydffurfwyr. Yr oedd yn naturiol efallai i ddynion fel leuan Gwynedd, Henry Richard a Lewis Edwards wrthdystio'n egniol, oherwydd Anghydffurfwyr Cymraeg oeddynt, ond yr oedd Eglwyswyr Saesneg fel yr Esgob Thirlwall o Dŷddewi a'r Deon Cotton o Fangor yr un mor ddig, heb sôn am Eglwyswyr Cymraeg fel Syr Thomas Phillips. "Nid oes nac Eglwyswr nac Anghydffurfiwr yn awr", meddai Syr Thomas Phillips, "yn holi a yw'r cyhuddiadau, y cwyna'r ddau o'u plegid, yn fwy o sarhad arno ef nag ar ei wrthwynebydd."
4
ANFYNCH Y MAE CYNNWRF FEL HWN YN GWBL DDI-LES. Gwnaeth cyhoeddi'r Llyfrau Gleision un peth o leiaf yn hollol glir i bawb yng Nghymru, sef sylweddoli grym dadl Kay Shuttleworth na cheid byth wir gynnydd mewn addysg nes sicrhau i Gymru gyflenwad da o athrawon wedi eu hyfforddi. Golygai hyn sefydlu Colegau Hyfforddi. Hyd yma cawsai athrawon ysgolion Brutannaidd o Gymru eu hyfforddi yng Ngholeg Hyfforddi Borough Road, Llundain, ar ychydig o gostau personol. Am chwe swllt yr wythnos cawsent addysg, bwyd a llety, golchi eu dillad a gwasanaeth meddygol.

Ond aeth Coleg Borough Road yn rhy lawn i'w derbyn i gyd, a bu raid cau 35 o ysgolion yng Ngogledd Cymru yn unig oherwydd prinder athrawon wedi eu hyfforddi, a methodd rhai eraill ag ennill cymorth ariannol oherwydd eu bod yng ngofal athrawon heb drwydded. Hyfforddwyd rhai athrawon yng Ngholeg y Bala, ond nid oedd hynny'n ddigon; yr unig ffordd allan o'r anhawster ydoedd sefydlu Coleg Normal yng Nghymru ei hun. Cyfeiriwyd eisoes at Ysgol Normal Aberhonddu a sefydlwyd yn 1846, ond byr fu hoedl honno oblegid dibynnai'n gyfangwbl ar gyfraniadau gwirfoddol. Yn hyn o beth, fel gyda chodi ysgolion, yr oedd yr Eglwys ar y maes yn barod. Dan arweiniad y Parch. Thomas Thomas, ficer Caernarfon, agorwyd adran Normal yn Ysgol Genedlaethol Caernarfon yn 1846; yn 1849 symudodd i adeilad arall dros dymor gyda'i Brifathro ei hun; yn 1856 daeth yn goleg preswyl i Ogledd Cymru; a symudodd i Fangor yn 1894. Coleg Hyfforddi Athrawesau ydyw ei olynydd, Coleg y Santes Fair, heddiw. Yn Neheudir Cymru, yn bennaf trwy lafur Esgob Thirlwall a'r Pwyllgor Addysg Cymreig a ffurfiwyd yn 1846 i godi Ysgolion Cenedlaethol, agorwyd Coleg Hyfforddi Caerfyrddin yn 1848.
Ym mis Ebrill 1856 daeth Syr Hugh Owen a rhai o'i gyfeillion i Fangor er mwyn trafod, ymhlith materion eraill, yr angen am Goleg Hyfforddi yng Ngogledd Cymru. Yr oedd pawb yn frwdfrydig iawn yno, a chaed cyfarfod arall ym mis Gorffennaf yn Rhyl pryd y penderfynwyd sefydlu Coleg ym Mangor. Ymgymerth John Phillips eto a'r gwaith llafurus o greu diddordeb o'i blaid ymysg y Cymry a chasglu rhoddion. Teithiodd yn ddiflino i bob rhan o Gymru, i Lerpwl, Manceinion a Llundain, a chasglwyd £11,500 i gyfarfod cymorth ariannol o £2,000 oddi wrth y Llywodraeth. Derbyniwyd cyfraniadau oddi wrth y prif sefydliadau crefyddol, mewn symiau amrywiol, a'r Methodistiaid Calfinaidd ar y blaen gyda £10,786 6s. 3d.. Agorwyd y Coleg yn 1858, dros dro yn Festri Capel Twrgwyn, Bangor, yna mewn dau dy-annedd. Yn Awst 1862, yr oedd yr adeiladau newydd yn barod gyda lle i 40 o fyfyrwyr, ac yn briodol iawn dechreuodd Coleg Normal, Bangor, ei yrfa â John Phillips yn Bennaeth arno.
Yn y cyfamser bu cryn weithgarwch ynglŷn â chodi ysgolion yng Nghymru; agorwyd nifer mawr o Ysgolion Cenedlaethol, Ysgolion Brutannaidd ac Ysgolion Gwirfoddol. Nid oedd derbyn cymorth y Llywodraeth na hyd yn oed adeiladu ysgol mewn tref neu bentref yn golygu bod i'r ysgol oes hir. Er hynny, yr oedd nifer yr ysgolion yn uwch yn 1870 nag yn 1850. Yn Nhachwedd 1863 cymerodd David Williams, Prifathro "Ysgol y Copper Works," Llanelli, le Nefydd fel trefnydd y Gymdeithas Frutannaidd yn Neheudir Cymru, ac erbyn 1870 medrai gyhoeddi bod 98 o ysgolion newydd wedi eu hadeiladu, 120 o rai eraill wedi eu hagor, a bod cyfanswm Ysgolion Brutannaidd yng Nghymru y flwyddyn honno wedi cyrraedd 302; o'r rhain yr oedd 97 yn y Gogledd a 205 yn y De. Er nad oes ystadegau ar gael yn rhoddi nifer Ysgolion Cenedlaethol yng Nghymru yn y flwyddyn honno, byddai'n ddiogel cymryd yn ganiataol fod y nifer wedi cynyddu'n fawr ar ôl ffurfio'r Pwyllgor Addysg Cymreig. Erbyn 1870 felly yr oedd mwy o ysgolion yng Nghymru nag erioed o'r blaen, ac yr oedd ychydig o Golegau Hyfforddi hefyd.[1]
5
YN 1846, CYCHWYNNODD JAMES KAY SHUTTLEWORTH, YSGRIFENNYDD Pwyllgor y Cyfrin Gyngor ar Addysg, gynllun i gynhyrchu gwell athrawon a gwella cyfundrefn y Monitors a fu mewn bri am genhedlaeth. Yr oedd darpar-athrawon i'w derbyn fel "disgybl-athrawon" neu fel Monitors cyflogedig mewn ysgolion arbennig am bum mlynedd i'r naill a phedair blynedd i'r llall. Yn ystod y tymor hwn, yr oeddynt i dderbyn cyflog bychan, i gael eu haddysgu gan y Prifathro am o leiaf awr a hanner cyn oriau ysgol neu wedi iddi orffen bob dydd; i gael cyfleusterau i wylio athrawon eraill wrth eu gwaith ac i ymgymryd â dysgu plant ar rai adegau eu hunain. Ar derfyn tymor eu prentisiaeth yr oedd y disgybl—athrawon yn gymwys i gynnig am gymorth ariannol a chael mynd i Goleg Hyfforddi fel "Ysgolorion y Frenhines," ac os enillent dystysgrif ar ddiwedd eu cwrs yn y Coleg gallent hawlio grant" gan y Llywodraeth yn ychwanegol at eu cyflog arferol. Dyna'r ffordd yr aeth llawer o athrawon i'w galwedigaeth a cheir cyfeiriadau mynych atynt mewn hen "Log Books." Yn naturiol yr oedd rhai o'r prentisiaid hyn heb fod mor ddiwyd ag eraill, ac yr oedd hyn yn arbennig o wir am y Monitors. Profodd y demtasiwn o golli'r gwersi boreol yn ormod i lawer ohonynt, ac yn ei ddigofaint ysgrifennodd un ysgolfeistr fel hyn:
"Ni ddaw y Monitors yn brydlon i'w gwersi boreol (a rhwng wyth a naw o'r gloch y cynhelid y dosbarth hwn)—dygir egnion y Meistr i rym i raddau helaethach na dim a ganiateir gan Wyddor Iechyd."
Yn anymwybodol o hiwmor ei ymadrodd ychwanegodd:
"Mae'n ddiau bod hadau addysg yn cael eu hau yn helaeth."
Yn ddiamau, y digwyddiad pwysicaf yn hanes addysg elfennol yn y cyfnod hwn ydoedd y gyfundrefn o dalu "grant" gan y Llywodraeth, cyfundrefn a adwaenid yn ddiweddarach dan yr enw "Payment by Results." Dyn goleuedig oedd Kay Shuttleworth, dyn yn byw ymhell o flaen ei oes; er enghraifft, gwerthfawrogai le'r iaith Gymraeg yn ysgolion Cymru ac awgrymodd y dylid gosod papurau arholiad yn y Gymraeg i'r myfyrwyr yng Ngholeg Hyfforddi Caerfyrddin fel y ceid athrawon dwy-ieithog da. Yn 1849, fodd bynnag, dilynwyd ef gan
Lingen, un o Ddirprwywyr 1846. Yr oedd Lingen yn awyddus i gynilo ar ôl Rhyfel y Crimea a'i waith ef, yn bennaf, oedd "Revised Code" Robert Lowe yn 1862. Canlyniad hwn oedd seilio taliadau i'r ysgolion ar bresenoldeb y disgyblion ac ar ganlyniad arholiad mewn darllen, ysgrifennu, a rhifo—y tair R[2]—dan gyfarwyddyd yr Arolygwr. Am bob plentyn a fyddai'n bresennol 200 o weithiau, ac a fyddai'n llwyddiannus mewn arholiad yn y pynciau hyn, telid 2s. 8c. Yn ddiamau gellid dweud rhywbeth o blaid y gyfundrefn hon. Bu'n gymorth i ddeffro prifathrawon ac athrawon a fyddai'n tueddu i ollwng eu gafael, a rhoes bwyslais ar dair cangen bwysig y dylai pob plentyn fod yn hyddysg ynddynt. Er hyn i gyd, yr oedd ynddi ddiffygion difrifol, a disgrifiwyd hi'n deg fel "talp o ffolineb digyffelyb." Os, fel y digwyddai'n gyffredin, y gwyddai'r ysgolfeistr fod y "grant (ac felly ran o'i gyflog yntau) yn dibynnu ar wybodaeth ei ddisgyblion o'r "tair R" yn yr arholiad blynyddol, byddai'n demtasiwn iddo beido â dysgu iddynt nemor ddim heblaw y pynciau hyn o un arholiad i'r llall, a'u dysgu yn y dull mwyaf peiriannol ac undonnog. Dyna'r union beth a ddigwyddai mewn llawer ysgol. Dydd yr arholiad oedd y dydd pwysicaf, a'r mwyaf arswydus, ym mywyd yr ysgol. Hysbysid y dyddiad ymlaen llaw, rhybuddid y plant i ddod i'r ysgol yn lân ac yn eu dillad gorau, a phan gyrhaeddai'r Arolygwr yn ei bryd fel petae o fyd arall, gosodid y plant a oedd i'w arholi, gefn yng nghefn, mewn rhengau, a'u llechi yn eu dwylo, yn barod i wynebu'r prawf. Ac yn wir, prawf llym ydoedd. Nid rhyfedd oedd i blant nerfus, wrth geisio dyfalu beth a ofynnai'r Arolygwr neu beth a ddywedai'r Meistr wedi i'r Arolygwr fynd ymaith, ollwng eu llechi a mynd yn fwy nerfus fyth.
O ganlyniad cyfrifid y gyfundrefn o dalu'n ôl y canlyniadau yn un anhapus iawn. Yr oedd ei heffaith yn anffodus iawn yn Lloegr, ond yr oedd yn waeth fyth yng Nghymru oherwydd darllen ac ysgrifennu Saesneg yn unig oedd y prawf; nid oedd dim lle i'r Gymraeg gan nad oedd dim gwerth ynddi. Dyna un rheswm paham y diflannodd y Gymraeg mor llwyr o'r rhan fwyaf o'r ysgolion. Nid oedd iddi werth masnachol ac ni allai byth godi cyflog yr ysgolfeistr; yn wir, pe rhoddai lawer o'i amser i'w dysgu i'w ddisgyblion, a cholli'r amser hwnnw gyda'r gwersi Saesneg, gallai hynny olygu lleihad yn ei gyflog. A chan fod yr ysgolfeistri hwythau, yn nodweddiadol o Gymry'r cyfnod hwnnw, yn ddynion gochelgar, derbyniasant y polisi swyddogol ac ymlid y Gymraeg o'u hysgolion. Dysgent y "tair R"; dysgai llawer ohonynt hanes, daearyddiaeth, cerddoriaeth, elfennau iechyd a gwnio, ond anfynych y rhoddent sylw i'r Gymraeg. Yn wir, cynrychiolydd teilwng o'i gyd-athrawon oedd y prifathro hwnnw mewn ysgol ym mherfedd y wlad a groniclodd gyda balchder yn ei "Log Book" ddarfod iddo roi gwersi arbennig ar gopr, arian, sidan, gwneud porslen, "cocoanut," a'r "major sharp scales." Anwybyddodd yn llwyr iaith a hanes ardal a fu'n fagwrfa gyfoethog i Gymry enwog.
Gan ysgolfeistri'r genhedlaeth hon y defnyddid y "Welsh Not," sef darn o bren neu gerdyn a grogid am wddf y sawl a glywid yn siarad Cymraeg yn yr ysgol. Trosglwyddid ef o blentyn i blentyn yn


ystod yr wythnos ac yr oedd cosb drom yn aros y neb a'i gwisgai ar brynhawn Gwener. Dyma a ddywaid un o'r Dirprwywyr amdano—
Tynnwyd fy sylw gan ddarn o bren a grogai wrth linyn am wddf un o'r bechgyn â'r geiriau "Welsh Stick" arno. Dywedwyd wrthyf mai nôd gwaradwydd ydoedd am siarad Cymraeg. Mewn gwirionedd yr unig ddewis iddo oedd siarad Cymraeg neu beidio â dweud dim. Ni ddeallai mo'r Saesneg ac ni chai ymarfer cyson i ddysgu deall."
At ysgol Llandyrnog, yn Nyffryn Clwyd, y cyfeiria'r geiriau hyn a dyna gyflwr echrydus addysg yng Nghymru yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gan mlynedd cyn hyn dywedodd Griffith Jones, Llanddowror, y byddai'r un mor ddifudd ceisio dysgu plant o Saeson drwy'r Ffrangeg å dysgu plant Cymru drwy'r Saesneg. Anghofiwyd ei eiriau doeth, a hynny, sylwer, cyn i Reolau Robert Lowe ddod i rym. Mae'n rhaid gosod cyfran o'r cyfrifoldeb ar rieni'r genhedlaeth honno. Ni ddymunent i'w plant ddysgu Cymraeg o gwbl; anfonent hwy i'r ysgol i ddysgu Saesneg. Yn y dyddiau pryd nad oedd Robert Lowe ond bachgen, ni siaradai Thomas Lloyd, Abergele, â disgybl o Gymro uniaith ond trwy gyfieithydd Saesneg; a disgwyliai Dr. Phillips, Neuaddlwyd, i'r Monitor gasglu 9 c. o leiaf, bob wythnos, mewn dirwyon gan ddisgyblion am gam—ymddwyn ac am siarad Cymraeg, fel y medrai ef brynu ei ddwy owns arferol o faco!
6
RHWNG 1860 A 1870 DAETH CYNNYDD GWASTAD YN Y GALW AM gyfundrefn addysg genedlaethol. Gwledydd dysgedig, neu o leiaf gwledydd â chanddynt gyfundrefn genedlaethol o addysg, a ymddangosai'n fwyaf llwyddiannus mewn rhyfel; yn y Rhyfel Cartref yn America, y Gogledd a drechodd y De, a gorchfygesid Awstria gan Prwsia yn 1866. Yn bwysicach fyth, rhoes "Reform Act" 1867 y bleidlais am y tro cyntaf i nifer mawr o weithwyr y trefi, ac yr oedd angen rhoi addysg i'r rhain er mwyn iddynt ddefnyddio'u rhagorfraint yn ddoeth. Canlyniad hyn i gyd oedd Deddf Addysg Forster yn 1870.
Erbyn hyn, er i'r Cymdeithasau Cenedlaethol a Brutannaidd agor cannoedd o ysgolion yng Nghymru, yr oedd eto le i gynnydd. Er enghraifft yn 1869 yr oedd 92 o blwyfi yn siroedd Aberteifi, Caerfyrddin, a Phenfro, a'r boblogaeth ymhob un ohonynt dros 400, heb gymaint ag un ysgol gydnabyddedig gan y Llywodraeth, ac yr oedd plwyfi eraill mewn sefyllfa gyffelyb trwy'r holl wlad. Gwnaethai Nefydd a David Williams waith da trwy sefydlu Ysgolion Brutannaidd yn Neheudir Cymru, ond bu raid iddynt wynebu llawer o anawsterau—prinder arian, prinder athrawon cymwys, diffyg safleoedd addas i godi ysgolion arnynt, difaterwch y bobl ac, yma a thraw, deimladau enwadol chwerw. Yn 1870, felly, y lleiafrif yn unig o blant Cymru a dderbyniai addysg, a chan nad oedd addysg eto'n orfodol na rhad ni fynychent ysgol yn gyson ac ymadawai y rhan fwyaf ohonynt heb dderbyn mwy na blwyddyn neu ddwy o addysg. I'r rhieni, nid oedd addysg ond "manwerth i'w brynu fel prynu menyn wrth yr owns" (ys dywed y Llyfrau Gleision), a chanlyniad hyn oedd bod presenoldeb eu plant yn yr ysgol yn hollol anghyson ac yn achos blinder parhaus i'r ysgolfeistri. Ar un achlysur danfonodd prifathro ysgol yng Ngogledd Cymru ei athrawon i gydi annos ei ddisgyblion absennol, ond dewisodd ei gyfaill yn Llanfrothen ddull gwahanol:
"Fel cymhelliad i bresenoldeb cyson, i ymddygiad da ac i weithgarwch," meddai, "byddaf yn gwobrwyo'r goreuon ymhob dosbarth bob mis à chopi o'r Band of Hope Review, Infants Magazine neu'r Children's Friend, ac y mae'r plant yn eu gwerthfawrogi'n fawr."
Rhoes Deddf Addysg Forster chwaneg o gymorth ariannol tuag at Ysgolion Gwirfoddol, a galwodd am adeiladu ysgolion newydd lle'r oedd angen amdanynt. I'r pwrpas hwn, yr oedd Byrddau Ysgol (School Boards) i'w hethol ymhob plwyf, ac yr oedd y Byrddau hyn i ddarparu ar gyfer codi Ysgol Fwrdd trwy gymorth ariannol oddi wrth y Llywodraeth, trethi lleol a thaliadau ysgol. Caniateid i'r Ysgolion Gwirfoddol barhau i ddysgu eu hathrawiaethau crefyddol eu hunain, ond yr oedd addysg grefyddol i fod yn anenwadol yn yr Ysgolion Bwrdd. Gallai rhieni â chanddynt wrthwynebiad i addysg grefyddol gadw eu plant o'r ysgol yn ystod y gwersi crefyddol. Yn fuan wedi 1870 codwyd cannoedd o Ysgolion Bwrdd yng Nghymru. Cyn hyn, bu'r wladwriaeth yn fodlon ar estyn cymorth i'r cymdeithasau gwirfoddol i adeiladu ysgolion, yn awr cymerth y blaen i godi ysgolion ei hun.
Rhoes Deddf 1870 allu hefyd i'r Byrddau Ysgol i wneud eu mân- ddeddfau eu hunain a gorfodi plant rhwng 5 a 13 oed i fynd i'r ysgol. Gwnaed hyn gan rai o'r Byrddau ond gwrthododd y mwyafrif ohonynt, ac oherwydd i'r rhai a wnaeth ganiatau cynifer o eithriadau ni chaed ond ychydig iawn o welliant. Yn 1880 caed Deddf arall a'i gwnaeth yn orfodol i bob plentyn fynychu ysgol hyd 13 oed, a phenodwyd swyddogion i'w rhoddi mewn grym.
Un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach daeth diwedd ar dalu am ysgol. Hyd hynny disgwylid i blant ymhob math o ysgol—Cenedlaethol, Brutannaidd a Bwrdd—dalu dwy geiniog neu dair bob wythnos; disgwylid iddynt hefyd brynu eu llyfrau eu hunain ac yn aml iawn gyfrannu tuag at gostau'r tanau. Rhoes hyn faich trwm ar y rhieni yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd cyflogau mor isel, a hynny a gyfrifai i raddau am ddiffyg presenoldeb y plant yn yr ysgolion a'u symud ohonynt mor fuan. Modd bynnag, daeth newid ar y cwbl yn 1891; yr oedd addysg elfennol bellach yn rhydd. Arweiniodd hyn, gyda chymorth egniol "plismon y plant," i bresenoldeb mwy cyson o du'r plant ac i fwy o barodrwydd o du'r rhieni i ddanfon eu plant i'r ysgol.
Erbyn hyn yr oedd yng Nghymru gyfundrefn o addysg elfennol ar gyfer pob ardal, ond er i'r ysgolion wneud llawer o les i'w disgyblion buont o fewn y dim i ladd yr iaith Gymraeg. Yr oedd Rheolau Lowe mewn grym o hyd, a pharhâi mwyafrif y Cymry i ddanfon eu plant i'r ysgol i ddysgu Saesneg; cafodd iaith, llenyddiaeth, hanes a daearyddiaeth Cymru eu hanwybyddu bron yn llwyr. "Gwnes reol yn gwahardd siarad Cymraeg yn oriau'r ysgol" meddai prifathro Llanfrothen yn 1870; ychydig cyn hynny ceir cofnodiad iddo "gasglu 1/2 mewn dirwyon yn yr ysgol nos yn ystod y gaeaf; telid ½c. gan y disgybl a wisgai'r 'Welsh Not' ar ddiwedd bob cyfarfod."
Rhoed her i'r sefyllfa hon gan nifer o bersonau. Un ohonynt oedd yr Athro Thomas Powell o Gaerdydd, a ddadleuai dros ddefnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng addysg yn ysgolion Cymru. Hawliai y dylid dysgu'r iaith er ei mwyn ei hun a'i chydnabod fel "pwnc penodol." Un arall oedd Dan Isaac Davies, a'r trydydd oedd O. M. Edwards— yn ddiweddarach Syr Owen Edwards. Yr oedd Dan Isaac Davies ac "O.M." yn Gymry pybyr, bu'r ddau yn Arolygwyr Ysgolion (ar adegau gwahanol) a gwnaeth y ddau waith mawr dros iaith a diwylliant Cymru, y naill trwy ei ymdrechion fel Arolygwr Ysgolion yn Neheudir Cymru a'r llall trwy ei lyfrau difyr a thrwy ei waith fel Prif Arolygwr. Dylid cyfeirio hefyd at Thomas Darlington, Sais a ddysgodd Gymraeg, ac un a wnaeth waith cyffelyb fel Arolygwr Ysgolion yng Ngogledd Cymru.
Hyd yma rhoesid grant am ddysgu pynciau cyffredinol (y "tair R") a gwnio, a hefyd am ddysgu rhai "pynciau penodol" megis daearyddiaeth a gramadeg. Dadleuai Powell a Davies dros gydnabod Cymraeg fel pwnc penodol, cefnogwyd hwy gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac o 1888 ymlaen rhoed y Gymraeg ar yr un tir ag Erse a oedd eisoes yn bwnc penodol yn Iwerddon. Er hyn i gyd, ychydig o gynnydd a wnaed am beth amser. Yr oedd llywodraethwyr ysgolion wedi penodi Saeson uniaith yn brifathrawon ac ni theimlai y rhain fod unrhyw rwymedigaeth arnynt i ddysgu Cymraeg. Mwy na hynny, yr oedd llawer o athrawon yn anfodlon i ddysgu Cymraeg a llawer o Fyrddau Ysgol yn anfodlon caniatáu i'r iaith gael ei dysgu. Rhaid oedd gwneud rhywbeth i'w hargyhoeddi o bwysigrwydd rhoddi lle priodol i iaith a thraddodiadau Cymru yn yr ysgolion, a daeth y cyfle yn 1902.
Yn y flwyddyn honno daeth Deddf Balfour i rym. Achosodd lawer o siarad ar y pryd, a chryn lawer o chwerwder, ond trwy ad-drefnu'r peirianwaith gweinyddol bu'n foddion i achub yr iaith Gymraeg. O dan y Ddeddf hon sefydlwyd ymhob Sir Awdurdod Addysg Lleol; yr Awdurdodau hyn oedd yn gyfrifol bellach am yr Ysgolion Cyngor yn eu cylch, a daeth yr Ysgolion Bwrdd i'w hadnabod o hynny ymlaen fel Ysgolion Cyngor. Ystyr hyn i gyd ydoedd, os penderfynai Awdurdod Addysg Lleol fod y Gymraeg i'w dysgu yn eu rhanbarth, yna disgwylid i bob ysgol yn y rhanbarth hwnnw (sef y sir, neu pwrdeisdref neu pwrdeisdref sirol neu ynteu ranbarth dinesig) ddysgu Cymraeg. I'r bobl a ddymunai ennill ei lle priodol i'r Gymraeg yr oedd y broblem bellach yn haws o lawer; yn hyrrach na cheiso argyhoeddi ugeiniau o Fyrddau Ysgol a rheolwyr ysgolion gelwid arnynt i argyhoeddi nifer cymharol fychan o Awdurdodau Addysg Lleol.
7
ER MAI AG ADDYSG GYNRADD Y MAE A WNELO'R LLYFRYN HWN YN bennaf rhaid dweud gair am Addysg Uwchradd; ni byddai hanes addysg yng Nghymru yn ystod y ganrif ddiwethaf yn gyflawn heb gyfeirio at yr Ysgolion Uwchradd. Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr unig ysgolion Uwchradd oedd yr hen Ysgolion Gramadeg ysgolion fel y Friars ym Mangor, ysgol y Bontfaen, ac Ysgol y Frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin. Yn y flwyddyn 1880 cyfanrif yr ysgolion hyn ac ysgolion gwaddol eraill mwy diweddar (fel Llanymddyfri) oedd 27; ynghyd â 79 o ysgolion preifat, darparent addysg uwchradd ar gyfer tua 4,000 o fechgyn yr adeg honno. Nid oedd ond tair o ysgolion Uwchradd i ferched—Ysgol Dr. Williams, Dolgellau, ac Ysgolion Howell yn Ninbych a Llandaf.
Yn 1880 penododd Gladstone bwyllgor i wneud ymchwiliad i'r ddarpariaeth ar gyfer Addysg Uwchradd ac Addysg Golegol yng Nghymru. Cyfrifir hwn yn bwyllgor enwog ac adwaenir ef yn gyffredin fel Pwyllgor Aberdâr (Arglwydd Aberdâr oedd y Cadeirydd). Erbyn 1880 yr oedd pedwar Coleg Hyfforddi wedi eu sefydlu, a Choleg Brifysgol (a gynhelid yn gyfangwbl gan roddion gwirfoddol) wedi ei agor yn Aberystwyth yn 1872. Awgrymodd y Pwyllgor y dylid sefydlu dau Goleg ychwanegol, y naill yn y Gogledd a'r llall yn y De. Dyna'r ffordd y daeth Coleg y Brifysgol i Gaerdydd yn 1883 ac un arall i Fangor yn 1884. Rhoes y Llywodraeth i bob un o'r ddau (ac i Aberystwyth hefyd ar ôl hyn) y swm o £4,000 yn y flwyddyn. Yn y dechrau paratoid myfyrwyr y Colegau hyn ar gyfer arholiadau Prifysgol Llundain, ond yn 1893, trwy ymdrechion y Prifathro John Viriamu Jones, Caerdydd, yn bennaf, caed Siarter Frenhinol Prifysgol Cymru, a hawl i'r Brifysgol i roddi ei graddau ei hun. Pan agorwyd Coleg Abertawe yn 1920 cymerodd ei le yn y Brifysgol fel y tri Choleg arall.
Yn y blynyddoedd cyntaf sicrhau digon o fyfyrwyr i'r Colegau hyn oedd y broblem fwyaf. Yr oedd yn amlwg na ellid disgwyl i ddisgyblion yr ysgolion elfennol fynd yn syth i Goleg; gwelwyd fod angen am addysg ganolradd rhwng yr ysgol elfennol a'r Coleg. Sylweddolwyd hyn gan Bwyllgor Aberdâr ac awgrymwyd codi Ysgolion Canol trwy'r wlad a'u cynnal o'r trethi lleol ynghyd â grantiau'r Llywodraeth. Yr oedd y syniad hwn yn newydd iawn ar y pryd, oherwydd er y cawsid cymorth y Llywodraeth tuag at Addysg elfennol o'r flwyddyn 1833 ni wnaed dim oll i hyrwyddo addysg uwchradd. Er hynny derbyniwyd yr awgrym a chaed Deddf Addysg 1889. Rhoes hon awdurdod i'r Cynghorau Sir a'r Cynghorau Bwreisdrefi Sirol a oedd newydd eu sefydlu i godi treth o ddimai, ac addawodd y Llywodraeth gyfrannu punt am bob punt a gesglid trwy y dreth a thrwy roddion gwirfoddol. Canlyniad uniongyrchol hyn ydoedd adeiladu nifer o ysgolion Canol (neu Ysgolion Sir, fel y gelwid hwy yn gyffredin) yn y rhan fwyaf o drefi marchnad Cymru; agorwyd yr ysgol gyntaf yng Nghaernarfon yn 1894.
Yn fuan daethpwyd i deimlo'r angen am sefydlu rhyw safon gyffredin i brofi gwaith yr ysgolion hyn, rhyw drefniant i arholi gwaith y disgyblion ac i arolygu bywyd yr ysgolion. Hyn oedd y rheswm dros sefydlu Bwrdd Canol Cymru yn 1896, i arholi ac arolygu yr Ysgolion Sir a sefydlwyd dan Ddeddf 1889, ac yn ddiweddarach i arholi y rhan fwyaf o'r Ysgolion Uwchradd a sefydlwyd dan Ddeddf 1902. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg felly yr oedd gan Gymru gyfundrefn o addysg uwchradd, ac yn y "C.W.B." yr oedd ganddi sefydliad a geisiai roddi safon i'r ysgolion ieuainc hyn.
8
RHAID TRAFOD GWEDDILL YR HANES YN FYR. CAED LLAWER O ddatblygiadau pwysig yn ystod y deugain mlynedd diwethaf, ond nid oes yma le i gyfeirio at fwy na thri ohonynt. Y cyntaf, o ran amser, oedd sefydlu Adran Gymreig y Bwrdd Addysg. Sefydlwyd y " Bwrdd " ei hun yn 1899, gyda Llywydd yn bennaeth arno, i ddwyn ymlaen y gwaith a gychwynnwyd gan Bwyllgor y Cyfrin Gyngor yn 1839. Gwnaed ymgais, yn 1906, i sefydlu Cyngor Addysg Cenedlaethol i Gymru, ond ni dderbyniwyd y Mesur yr oedd y ddarpariaeth hon yn rhan ohono gan y Senedd, ac yn ei le ffurfiwyd Adran Gymreig y Bwrdd Addysg yn 1907. Pennaeth cyntaf yr Adran Gymreig oedd Mr. (wedi hyn Syr) Alfred T. Davies, a'r Prif Arolygwr cyntaf oedd Owen M. Edwards. Yr oedd "O.M." yn awr mewn gwell safle nag erioed i gefnogi defnyddio'r Gymraeg a dysgu hanes, daearyddiaeth a llenyddiaeth Cymru yn yr ysgolion.
Yr ail ddatblygiad pwysig a diddorol ydyw tyfiant yr Ysgolion Canolog (Central and Senior Schools). Tua diwedd y ganrif ddiwethaf caed fod nifer o blant yn aros yn yr ysgol elfennol ar ôl mynd trwy'r seithfed safon, sef y dosbarth uchaf. Mewn llawer o ysgolion ffurfiwyd dosbarthiadau arbennig ar eu cyfer, ac ambell dro trefnid i'r plant hyn o nifer o ysgolion cyfagos fynd i un ysgol ganolog neu Ysgol Uwchraddol. Ond ni bu llawer o ddatblygu ar y math yma o ysgol hyd y blynyddoedd ar ôl y Rhyfel Mawr, 1914-18. Yn 1926, cyhoeddwyd adroddiad Pwyllgor, dan lywyddiaeth Syr Henry Hadow, ar yr addysg orau ar gyfer disgyblion rhwng 11 a 15 oed nas derbyniwyd i'r Ysgolion Gramadeg neu'r Ysgolion Sir. Daeth yr adroddiad yn adnabyddus fel "Adroddiad Hadow." Caed ynddo gymhellion cryf godi ysgolion llai academaidd na'r ysgolion Gramadeg ar gyfer y plant hyn a mwy o ddarpariaeth ynddynt at waith ymarferol. Erbyn hyn y mae llawer o Ysgolion Canolog i'w cael yng Nghymru; daeth Syr Henry Hadow ei hun i agor y gyntaf ohonynt yn Shotton, Sir Fflint, ym mis Tachwedd 1929. Er i Bwyllgor Hadow awgrymu galw'r ysgolion yn Ysgolion "Modern," gelwid hwy hyd yn ddiweddar yn Ysgolion canolog neu Ysgolion "Senior." Rhoes canlyniadau Deddf Addysg 1944 enw newydd arnynt sef Ysgolion Uwchradd Modern, a sicrhau iddynt yn awr yr un safle a'r un pwysigrwydd ag a roddir i'r hen Ysgolion Canol, a elwir bellach yn Ysgolion Uwchradd Gramadeg.
Yn olaf daw Deddf Addysg 1944. Cymerai lyfr cyfan i wneuthur cyfiawnder llawn â hi, ond gellir crynhoi ei phrif amcan i un frawddeg, sef darparu ymhob ardal ysgolion addas mewn rhif, nodwedd a chyfarpar i roddi i'r holl ddisgyblion mewn oedran ysgol yr addysg fwyaf cymwys i'w hoedran, eu gallu a'u tueddfryd. Nid yw disgrifio'r modd y gwneir hyn yn rhan o'r llyfryn hwn, ond gellir dweud cymaint à hyn bydd pob plentyn yn aros yn yr ysgol nes cyrraedd 15 oed (yn nês ymlaen, 16); gall gychwyn yn ddwyflwydd oed mewn Ysgol Famaeth neu Ddosbarth Mamaeth ac aros yno hyd 5 oed; yna symud i Ysgol Babanod ac ymlaen i'r Ysgol Gynradd nes cyrraedd 11 oed; ac wedi hynny myned i Ysgol Uwchradd—Ysgol Fodern neu Ysgol Ramadeg neu ynteu Ysgol Dechnegol-neu gyfuniad o ddwy neu dair o'r rhain mewn ysgol ddwy-ochrog neu ysgol amlochrog. Wedi hynny, drachefn, onid å i sefydliad arall a derbyn addysg yr holl amser, disgwylir iddo dreulio rhan o'i amser mewn Coleg Sir hyd ddeunaw oed. Ac os å ymlaen i Brifysgol neu i Goleg Hyfforddi neu i Goleg Technegol rhwyddheir y ffordd iddo gan ysgoloriaethau a grantiau hael. Y mae llawer mwy na hyn yn y Ddeddf Addysg-er enghraifft darpariaethau ar gyfer adeiladu ysgolion, llaeth a chinio-ond y peth pwysig ydyw sicrhau bod pob plentyn yn derbyn yr addysg a fo'n fwyaf cymwys iddo ar hyd y ffordd gan gynnwys addysg uwchradd, a bod yr addysg hon, ynghyd â rhyw gymaint o addysg bellach, yn rhad. Ni welir mwyach blant yn dwyn eu ceiniogau i ysgol dywyll a llaith a dysgu'r wyddor â llyfr corn, neu ganu tablau i acenion Llwyn Onn gan wrando ar athro anfedrus yn siarad â hwy mewn iaith ddieithr aeth dydd y pethau hyn heibio. Yr un modd, aeth heibio'r adeg y byddai Robert Roberts, "Y Sgolor Mawr," yn ymdrechu trwy gwrs Coleg Hyfforddi ar bedwar swllt yr wythnos; byw ar dorth swllt o fara, hanner pwys o fenyn, hanner pwys o gig moch ac ychydig o wyau; talu 1/6 am lety a benthyca'i lyfrau. Od oes llawer i'w wneuthur eto cyn y daw'r Ddeddf Addysg i rym caed digon i'n hatgofio o'r cyfnewidiadau mawr a fu yn ystod y can mlynedd diwethaf. Y pryd hynny, perthynai addysg i'r sefydliadau crefyddol, yn awr y mae'n un o brif ddyletswyddau'r wladwriaeth; math o gardod i'r tlawd y cyfrifid hi gynt, heddiw rhagorfraint pawb ydyw.
9
AETH CANRIF UNION HEIBIO ER PAN GYHOEDDWYD Y LLYFRAU GLEISION, ac er nad oeddynt yn adroddiadau swyddogol yn yr ystyr eu bod yn adlewyrchu syniadau Llywodraeth y dydd, prin yr haeddent y pwysigrwydd a roed iddynt. Nid aethant o gof y Cymry; prin y gellir eu hanghofio; yn wir, bron na ellir dweud na ddylid mo'u gollwng dros gof er mwyn iddynt ein hatgofio o'r cynnydd a wnaed yn ystod y ganrif. Y pryd hynny nid oedd dim lle i'r iaith Gymraeg na'r diwylliant Cymreig yn ysgolion Cymru, ac yr oedd Saeson fel Kay Shuttleworth a'r Deon Cotton yn fwy goleuedig o lawer na'r Cymry cyffredin. Ar wahân i'r ychydig eithriadau, fel Dr. Rowland Williams, ni fynnai'r Cymry i'w plant ddysgu Cymraeg yn yr ysgol ddydd; gwaith y cartref a'r Ysgolion Sul oedd hynny. Eisiau dysgu Saesneg i'w plant oedd ganddynt hwy, oherwydd trwy ddysgu Saesneg yn unig yr oedd gobaith iddynt ddod ymlaen yn y byd.
"Ni all neb roddi gormod o bris ar y breintiau a ddaw i drigolion tlawd Cymru trwy ddysgu Saesneg."
Dyna eiriau a ysgrifennwyd gan Dr. O. O. Roberts, Bangor, yn 1847, a chan eu bod yn nodweddiadol o agwedd y mwyafrif o'r Cymry ar y pryd, ceir ynddynt eglurhad ar y ffaith na chafodd Dirprwywyr 1846-47, mewn naw allan o dair-ar-ddeg o siroedd Cymru, ddim ond dwy ysgol a agorwyd i ddysgu Cymraeg allan o 818. Gydag ychydig o eithriadau, methodd y Cymry â sylweddoli mai'r Gymraeg oedd y cyfrwng gorau i ddysgu plant o Gymry uniaith ac y dylai iaith, llenyddiaeth, hanes a daearyddiaeth Cymru—mewn gair, diwylliant Cymru ffurfio rhan hanfodol o'u haddysg. Mor ddiweddar â 1884 dywedodd Prifathro Ysgol Frutannaidd yn Sir Gaernarfon beth fel hyn―
"Yr wyf yn gwbl argyhoeddedig y byddai dysgu Saesneg, a'r Gymraeg yn gyfrwng hyfforddiant, i bob pwrpas ymarferol yn fethiant sicr."
Ychwanegodd, pe byddai iddo ddysgu Cymraeg fel pwnc yn ei ysgol "byddai lleihad cyflym yn nifer fy nisgyblion a byddai'r desciau'n wag yn fuan iawn." Os dyna ydoedd syniad y Cymro cyffredin o ysgolfeistr yn 1884 prin y gellir synnu at olygiadau tri Dirprwywyr o Saeson genhedlaeth yn gynt. Dyna'r safle gan mlynedd yn ôl; y mae pethau wedi newid llawer erbyn heddiw. Daw rhieni i sylweddoli'n fwyfwy bwysigrwydd y Gymraeg; daw athrawon yn fwy cyfarwydd a'r dulliau diweddar o'i dysgu: mae'r Awdurdodau Addysg, at ei gilydd, yn rhoddi cefnogaeth i'r athrawon i'w dysgu; ac y mae Adran Gymreig y Weinyddiaeth Addysg (yn gyson a'r Adroddiad Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd, a gyhoeddwyd yn 1927), trwy'r Arolygwyr, cylchlythyrau a phamffledi, ymchwiliadau, cyrsiau i athrawon, a'r llyfrau a gyhoeddwyd yn y ddwy iaith mewn cydweithrediad â Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru wedi gwneud ac yn parhau i wneud llawer i hyrwyddo diddordeb byw yn yr iaith ac yn niwylliant Cymru. Mae'r "Welsh Not" a'r Llyfrau Gleison bellach ymhlith y pethau a fu, a phan ymwelodd Mr. R. A. Butler, Llywydd y Bwrdd Addysg, ag Ysgol Ramadeg Abergele ar y 10fed o Fawrth, 1942, manteisiodd ar y cyfle, ar ran y Llywodraeth, i gondemnio mewn geiriau plaen syniadau gwyrgam y Llyfrau Gleision am le'r Gymraeg yng nghyfundrefn addysg Cymru ac i annog pob Cymro i ddiogelu ei etifeddiaeth genedlaethol.
"Dymunaf heddiw," meddai, "gan mlynedd yn ddiwedd- arach, ar fy rhan fy hun ac ar ran y Llywodraeth, ymwrthod yn llwyr a'r syniad hwnnw; yn wir, bwriadaf weithio i'r cyfeiriad arall."
Dri mis yn ddiweddarach, Mehefin 16, 1942, ychwanegodd at ei ddatganiad, y tro hwn yn Nhŷ'r Cyffredin:
Yn fy marn i, tywyllu cyngor wnaeth y Comisiwn Ymchwil a aeth i Gymru gan mlynedd yn ôl a chyhoeddi bod diogelu gwybodaeth o'r iaith hyfryd hon yn cloffi pob ymgais ac yn llesteirio pob ymdrech yng Nghymru. Dymunaf heddiw, gan mlynedd yn ddiweddarach, wneud iawn am y camwri hwnnw."
Llawenydd i'r Cymry oedd gwrando'r geiriau hyn, oblegid gwyddent fod y rhod wedi troi.
A SHORT LIST OF BOOKS
(LLYFRYDDIAETH FER)
1. The Report of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales, 1847.
This Report was issued in three parts. Part I refers to the counties of Carmarthen, Glamorgan and Pembroke;
Part II to Brecknock, Cardigan, Radnor and Monmouth;
and Part III to Anglesey, Caernarvon, Denbigh, Flint, Merioneth and Montgomery.
2. David Salmon, "The Story of a Welsh Education Commission,"
Y Cymmrodor, Vol. XXIV.
3. William Davies, "Brad y Llyfrau Gleision." Wales
(ed. by J. Hugh Edwards), Vol. 4, 1913.
4. Welsh in Education and Life. London, 1927.
5. T. I. Ellis, The Development of Higher Education in Wales. Wrexham, 1935.
6. Idwal Jones. "The Voluntary System at Work,"
Cymmrodorion Transactions, 1931-2. pp. 72-164.
7. W. E. Davies, Life of Hugh Owen. London, 1885.
8. Frank Smith, Life of Sir James Kay-Shuttleworth. London, 1923.
9. Rev. William Hughes, The Life and Speeches of the Very Rev. J. H. Cotton, B.C.L.,
Dean of Bangor and Rector of Llanllechyd. Bangor, 1874.
10. Thomas Phillips, Wales. London, 1849.
11. J. Vyrnwy Morgan (ed.), Welsh Political and Educational Leaders in the Victorian Era.
London, 1908.
12. Daniel Evans, The Life and Work of William Williams, M.P. Llandyssul, 1940.
Readers who may wish to study the subject further should refer to A Bibliography of the History of Wales, edited by Professors William Rees and R. T. Jenkins, Cardiff, 1931.

Nodiadau
[golygu]- ↑ Ceir darlun da fywyd yn yr ysgolion yn y cyfnod hwn, ac o ymdrechion rhai o'r disgyblion mwyaf addawol am fynediad i'r Colegau, oddiwrth hunangofiannau diddorol tri o ddynion, a phog un ohonynt yn berson nodedig yn ei ffordd ei hun —Robert Roberts, Y Sgolor Mawr, Syr Henry Jones a'r Dr. John Lloyd Williams.
- ↑ y tair R=Reading, wRiting ac aRithmatic