Am dro i Fadagascar/Creaduriaid gwylltion
| ← Gyda'r cynhaeaf | Am dro i Fadagascar gan Daniel Owen Jones |
Y bobl → |
IX CREADURIAID GWYLLTION.
HEDDIW nid awn i unman. Fe arhoswn yn y tŷ a chawn sgwrsio am rai o'r creaduriaid gwylltion sydd i'w cael ym Madagascar. Yr ydym wedi cyfeirio eisoes at rai ohonynt, ond gwn yr hoffech glywed mwy amdanynt a chlywed am eraill hefyd.
Ni cheir yma'r anifeiliaid gwylltion mawr a pheryglus fel y llew, y teigr a'r llewpart, ac ni welir y sebra, yr eliffant na'r hippopotamus yma ychwaith. Yn Affrica y gwelir y rheini.
Y creadur casaf a'r mwyaf peryglus ar yr ynys yw'r crocodil. Profir hynny gan ddywediad y brodorion: Nid oes greadur mwy na'r crocodil,' hynny yw, mwy nerthol nag ef, ac hefyd, yn ôl eu syniad hwy, un sydd i'w ofni'n fwy. Ceir ef yn y llyn mawr, fel y dywedwyd, ac yn yr afonydd hefyd.
Pan fo rhywun eisiau croesi'r afon—nid oes pont i fyned drosti—yr arferiad yw aros ar lan yr afon nes bod eraill sydd hefyd am groesi yn dod ac i bawb fynd gyda'i gilydd. Wrth groesi curant wyneb yr afon yn chwyrn a chadwant gymaint o sŵn ag sy'n bosibl. Ceidw'r cynnwrf y crocodiliaid i ffwrdd a chroesant yn ddiogel. Y fath arferiad yw sail y ddihareb frodorol 'Ni ddifa'r crocodiliaid lawer o bobl yn croesi'r afon." Cyfystyr yw hynny a dweud: 'Mewn undeb y mae nerth.'
Ceir yn y goedwig greadur gwyllt o'r enw' fosa.' Y mae'n ddigon tebyg i gath ond yn fwy ei faint, ac y mae'n greadur ffyrnig iawn. Daw o'i wâl yn y nos a gwae'r pentref yr â iddo oblegid ymesyd ar yr ieir a'r hwyaid a'i difa er colled i'r brodorion. Ceir yn y goedwig hefyd foch gwyllt a'r hen enw ar Madagascar oedd: Ynys y moch gwyllt.' Y mae'n arferiad gan y bobl i'w hela ar nos olau leuad, ond y mae'n gryn orchest i ddal yr un ohonynt oblegid eu bod mor gyflym a ffyrnig.
Soniasom eisoes am y lemuriaid. Madagascar yw eu cartref a gellir galw'r ynys yn wlad y lemuriaid. Ceir tua
deugain o wahanol fathau ohonynt yn y goedwig. Y mae gan rai o'r brodorion ofn ofergoelus ohonynt oherwydd eu bod yn crwydro ar hyd a lled y goedwig yn y nos—fel y gwna'r ysbrydion drwg, meddent. Os digwydd iddynt ganfod corff marw un ohonynt ar eu llwybr drwy'r goedwig torrant fedd iddo a'i gladdu, yn fwy mewn ofn ohono nag o barch tuag ato.
Yn sicr gellir galw Madagascar yn wlad y symudliw (chameleon). Nid oes cynnifer o fathau ohono mewn unrhyw wlad arall. Creadur bach hollol ddiniwed a hynod o ddigrif i edrych arno ydyw. O ran ei gorff y mae'n ddigon tebyg i'r lysard, ond y mae ei symudiad mor araf ag yw'r lysard o gyflym. Y mae hynny oherwydd bod ei bedair troed fel pedair llaw ganddo i gydio yn hytrach nag i gerdded arnynt. Treulia ei amser ar y planhigion neu ar y Ilwyni. Ei fwyd yw'r pryfed, gloynnod byw, chwilod, a phethau o'r fath ac y mae'r modd y deil hwynt yn ddiddorol dros ben. Cydia yn dynn yn y planhigyn a thry ei liw fel yr ymddengys yn rhan ohono. Gwêl i bob cyfeiriad heb symud ei ben ac yna erys a disgwyl. O dipyn i beth daw gloyn byw ar flodeuyn o fewn cyrraedd ei dafod—tafod sydd mor hir â'i gorff ac mor denau â llinyn. Ar ei flaen y mae math o glud. Megis saeth yr â i gyfeiriad y blodeuyn ac mewn amrantiad diflana'r gloyn byw i'w geg!
Rhyfeddol yw ei allu i newid ei liw, ond i bobl Madagascar ei lygaid rhyfedd a aeth a'i sylw. Gall weled i fyny ac i lawr o'i flaen neu o'i ôl, i unrhyw gyfeiriad yr un pryd, gan hynny eu dihareb: 'Gwnewch fel y symudliw, edrychwch o'ch blaen a gwelwch o'ch ôl.' Cyfystyr yw hynny a dweud: 'Byddwch yn wyliadwrus.'
Ceir llawer gwahanol fathau o bryfed copyn ar yr ynys, rhai ohonynt yn llawer mwy eu maint na'r rhai a welir yn eich gwlad chwi. Yn fynych gwelir eu gwe ar frigau'r coed a rhwng y tai ac y mae'n ddigon cryf i beri magli aderyn a ddigwyddo hedfan iddo. Y mae rhai ohonynt yn wenwynig a chyn hyn profodd un gno yn farwol i frodor ac anifail.
Y mae'r morgrug gwynion sydd ym Madagascar yn ddinistriol iawn. Gwnant eu dinistr heb yn wybod i neb, o bosibl dan lawr yr ystafell. Un diwrnod hwyrach pan fo un o'r teulu yn croesi'r ystafell fe â ei droed yn sydyn drwy'r llawr. Ar ôl chwilio'r achos gwêl fod y morgrug gwynion wedi bwyta'r coed fel nad oes namyn y plisgyn yn aros.
Ond llawer mwy lluosog a llawer gwaeth na'r morgrug gwynion yw'r mosquitoes' a geir ar hyd a lled yr ynys. Y maent mor fychan â gwybed yr hâf ond y mae'i pigiad yn boenus a gwae yr hwn nad oes moddion ganddo i amddiffyn ei hunan rhagddynt—rhwyd dros y gwely fel rheol. Daw i lawr yn y bore â'i wyneb wedi chwyddo i gymaint ddwywaith ei faint. A gwaeth na'r pigiad yw'r dolur a elwir 'malaria a ddaw mewn canlyniad iddo.
Beth am yr adar meddech? Y mae'r adar yn brydferth eu gwisg ond cyffredin yw eu cân ac nid fel yr adar yng Nghymru. Ceir yr ehedydd yma hefyd ond wrth esgyn i fyny pair gwres mawr yr haul iddo fod yn rhy ddiog i byncio fel y gwna'r ehedydd yn eich gwlad chwi.
Gwelir yn aml aderyn cyffelyb i aderyn y tô, ond gyda hyn o wahaniaeth—y mae'n newid ei gôt yn y tymor gwlyb o fod yn llwyd i fod yn goch drosto i gyd. Y pryd hwnnw y mae'n hynod o brydferth, ond er hardded ei wisg lleidr ydyw, ac y mae'n angenrheidiol i wylio'r hâd yn y caeau rhagddo. Ystyrir hyn yn waith i fechgyn a hen ddynion.

Y mae'r brain sydd yma â thorch o wyn ar eu gyddfau ac edrychant fel croes rhwng brain a phiod.
Clywir y gog ar ddechrau'r tymor gwlyb, ond y mae ei nodau ychydig yn wahanol i'r nodau yr ydych chwi'n gyfarwydd a hwynt. Ceir parrotiaid yn y goedwig ond cyffredin yw eu gwisg hwythau. Perthynas i'r parrot yw'r aderyn a elwir 'aderyn y botel' oherwydd fod ei gân yn gymwys fel sŵn bwrlwm dŵr yng ngwddf potel pan fo'n cael ei arllwys.
Mewn rhai mannau ceir aderyn, digon tebyg i'r drudwy, a phan ddysgir ef y mae'n siaradwr penigamp. Aethum unwaith i siop brodor ac o ryw fan neu'i gilydd yno daeth llais yn iaith Madagascar gan ddweud yn glir a phlaen: Paid â lladrata! Paid a lladrata !" Ar ôl edrych i gyfeiriad y llais, ie, efe oedd yno yng nghornel y siop!
Gwelir adar ysglafaethus yn yr awyr uwchben y pentrefi. Wrth hofran gwyliant â'i llygaid craff, barus, am dameidiau o ysbail. Diolch amdanynt er hynny, oherwydd cadwant y pentrefi yn llawer glannach nag a fyddent pe na fyddent uwchben.