Neidio i'r cynnwys

Am dro i Fadagascar/Croesi'r llyn

Oddi ar Wicidestun
Yn y goedwig Am dro i Fadagascar

gan Daniel Owen Jones

Yn y brif dref

V. CROESI'R LLYN

BYDD yn brofiad diddorol i groesi'r llyn mawr—y llyn sydd a'i led yn saith milltir. Yr unig ffordd gyfleus i wneud hynny yw mewn canŵ ac fe awn yn yr un mwyaf y gallwn ei gael. Dyma un digon mawr i gario dwsin o bobl. Gwnaed ef o un darn mawr o bren, bonyn coeden fawr o'r goedwig. Yr oedd yn gryn orchest i'r brodorion i'w wneuthur heb ddim ond cyllell a bwyell ganddynt at y gwaith. Rhaid oedd iddynt ei losgi i'w gafnio a'i gael i ddull cwch. Er mor hir a chul yw nid oes raid inni ofni mynd ynddo. Y mae'r ddau frodor sydd i eistedd ar y naill ben iddo yn ddigon cyfarwydd â'i gwaith, ac y mae pob un â'i rwyf yn barod i gychwyn. Ond rhaid inni ofalu peidio â sefyll pan ar y dŵr neu bydd perygl iddo droi a'n taflu i'r llyn. Byddai hynny'n anffawd ddirfawr inni ond yn elw mawr i'r crocodiliaid!

Nid yw'r creaduriaid rheibus hynny ar hyd a lled y llyn eithr mewn mannau neilltuol yn unig. Fe awn i gyfeiriad un o'r cyfryw fannau i gael cipolwg arnynt.

Beth y mae'r brodor yn y fan acw yn ei wneud tybed?

Ymddengys fel pe na byddai'n gwneuthur dim namyn eistedd yn ei ganŵ bach. Aros a gwylio y mae. Y foment y gwêl fwrlwm yn dod i wyneb y dŵr y mae'r cyfle wedi dod iddo, oblegid arwydd yw hynny iddo fod yno lysywen yn y llaid ar waelod y llyn. Yna â'i holl egni fe yrr ei bicell i lawr ac yn amlach na pheidio fe ddeil lysywen fawr. Y mae'r llyn yn enwog am ei lysywenod ac y maent yn llawer mwy eu maint na'r rhai a geir yn eich gwlad chwi. Ystyrir ei cig yn gig moethus iawn gan y brodorion.

Dacw frodor arall yn y fan draw. Pysgota y mae yntau hefyd, ond nid yw'n gwylio am lysywenod. Gwelwch fel y mae'n curo wyneb y llyn â phen ei wialen fer. Mor wahanol ei ddull i bysgotwr yng Nghymru! Pe bai ef yn gwneuthur fel y gwna hwn fe fyddai'n siŵr o anfon y pysgod i gyd i ffwrdd! Ie, ond y mae'n rhaid inni gofio fod y pysgod yma yn wahanol hefyd. Pysgod yn byw yn llaid y llyn sydd yma ac wrth iddo guro'r dŵr deuant allan o'r llaid i weld, fel pe tae, beth sy'n aflonyddu'r dŵr, a chânt eu temtio y pryd hwnnw gan yr abwyd a welant yn hongian uwchben! Yn wir, dyna fo wedi dal un sy'n ymddangos o'r fan hon yn bysgodyn pur fawr!

Canŵ bach, digon o faint i'w gario ef ei hun, yw ei ganŵ ef. Canŵ i gadw at fin y llyn a byddai'n rhy beryglus o lawer iddo fentro ceisio croesi'r llyn ynddo.

Ar y llyn mawr.

Dyma ni o'r diwedd wedi cyrraedd yn agos i'r fan y mae'r crocodiliaid yn llechu. Fe arhoswn yn y fan hon. Yr ydym yn gwbl ddiogel yma. Geilw'r brodorion y rhan yma o'r llyn: Saha-boay' (ardal y crocodiliaid) oherwydd eu bod mor luosog yma. A welwch-chi bethau tebyg i ddarnau o bren ar wyneb y llyn yn y fan acw? Dyna nhw. Pan fo'r crocodil yn y dŵr ni welir ond ei drwyn hir megis yn gorwedd ar wyneb y llyn, ond wrth fôn y trwyn y mae dau lygad llym a chraff yn gwylio, gwylio o hyd. Y pryd hwnnw y mae ei gorff hir, ei grafangau llym, a'i gynffon hir a nerthol yn guddiedig dan y dŵr. Pan fo allan o'r llyn y mae'n cysgu yn yr haul poeth ar y graean neu'r borfa ar bwys. Weithiau yn y llyn ac weithiau allan ohono ar ei lan, dyna ei ddull ef o fyw.

Fe awn yn nes i'r tir ac efallai y medrwn ei weld. Rhaid inni gadw'n weddol dawel a rhaid i'r ddau frodor dynnu ar y rhwyfau mor ddistaw ag sy'n bosibl iddynt er mwyn peidio â'i ddeffro os digwydd iddo fod gerllaw.

Dacw fo yn y fan draw. Fe welwch ei fod bron yr un lliw â'r graean y mae'n gorwedd arno. 'R wy'n siŵr eich bod yn sylwi hefyd fod ei geg fawr yn agored. Dyna ei arfer pan fo'n cysgu ac ar ei bwys fe welwch fod dau neu dri o adar mawr. Weithiau byddant yn bwrw'i pigau hirion y tu mewn i'w geg agored ac yn ymborthi ar yr hyn a gânt yno—microbes' meddai'r rhai sy'n ceisio deall pethau o'r fath. Y mae'n ddigon bodlon i ganiatáu iddynt wneuthur hynny iddo ond pe byddai unrhyw aderyn arall yn mentro yn agos ato byddai'n ei ddifa ar unwaith. Ond y mae ar delerau da â'r adar hyn a dyna paham y gelwir hwy gan bobl glannau'r llyn yn 'Sakaizamboay' (cyfaill y crocodil).

Tybiaf eich bod am wybod beth yw bwyd y crocodil. Wel, bron pob creadur a ddaw o fewn cyrraedd iddo—yr ychen a ddaw i yfed o'r llyn, y moch sy'n chwilio am fwyd yn yr hesg, yr adar gwylltion ar y llyn ac weithiau wrth gwrs ambell i frodor na fu'n ddigon gwyliadwrus.

Y mae'n syndod bod creadur mor fawr wedi dod o wy nad yw'n llawer mwy ei faint na'r wy a gewch chwi i frecwast. Gesyd y crocodil ei hwyau yn y graean neu'r tywod a bydd gwres mawr yr haul yn eu deor. Dyna'r nyth y daw'r crocodiliaid bach ohono mewn amser.

Cystal inni fynd yn ôl hwyrach tra bo'r llyn yn dawel. Ar ôl canol dydd y mae'n dueddol i fod yn donnog iawn a byddai'n beryglus i fod arno mewn canŵ y pryd hwnnw.

Ar ein ffordd yn ôl fe awn heibio'r fan lle y mae'r liliau dŵr, Fe'i ceir y tu hwnt i'r ynys fechan fan draw. Sylwch mor egniol y mae'r ddau frodor yn rhwyfo. Y rheswm am hynny yw eu bod yn mynd am gartref. Teg edrych tuag adre,' meddent hwythau fel ninnau.

Wele ni wedi cyrraedd i gyffiniau'r liliau dŵr ac fe welwch fod rhan eang o'r llyn yn cael ei guddio ganddynt. Mor dlws y maent yn eu lliwiau amryfath—gwyn, cochlas, gwyn-goch—pob un ar bwys ei ddeilen fawr! Sylwch ar yr aderyn yn sefyll ar y ddeilen fan draw. Mor brydferth yr edrych ar ei lwyfan gwyrddlas!

Yma yr ydym ym mharadwys y llyn, ond paradwys yn cael ei gwylio gan y llygaid llym a chraff yw ac felly gwell inni adael y liliau yn y fan y maent er cymaint yw'r demtasiwn i wneud blodeuglwm ohonynt.

A dyma ni'n ôl yn y fan y cychwynasom. Dihareb a glywir yn fynych yn ardal y llyn yw: Cicio pen blaen y canŵ y croeswyd ynddo!' Dangos bai y dyn anniolchgar y mae'r ddihareb yna. Ond yn sicr nid ydym ni yn teilyngu cael dwedyd hynny amdanom. Yr ydym yn wir ddiolchgar inni gyrraedd yn ddiogel.

Nodiadau

[golygu]