Neidio i'r cynnwys

Am dro i Fadagascar/Gyda'r cynhaeaf

Oddi ar Wicidestun
Yn y farchnad Am dro i Fadagascar

gan Daniel Owen Jones

Creaduriaid gwylltion

VIII. GYDA'R CYNHAEAF.

HAU a medi—y mae hynny'n waith pwysig ymhob gwlad fel ei gilydd. Ymddibyna pobl y byd ar gynnyrch y ddaear am eu bwyd beunyddiol.

Yng Nghymru caeau gwenith a welir. O'r gwenith hwnnw y daw'r bara sydd mor hanfodol ichwi. Ym Madagascar caeau reis sydd i'w gweled gan mai reis yw prif fwyd y bobl. Y maent ar hyd a lled y wlad. Fe'i gwelir yma ar y gwastadedd eang; fe'i gwelir hefyd yn y dyffryn neu ar ymyl y bryn uchel, un uwchben y llall. Ceir nifer ohonynt gyda'i gilydd,

Trawsblannu reis.

rhyw droedfedd o dir rhwng y naill a'r llall, a phob un ohonynt â'i berchen gwahanol. Y mae pob un hefyd yn llawn dŵr oblegid mewn daear laith y tyf y reis.

Gadewch inni weld fel y llafuriodd y bobl er mwyn cael y cynhaeaf.

Yn y darn bach yna o dir ar ymyl y cae reis yr hauwyd yr hâd. Yn y cyfamser paratoir y cae a phan flaguro'r had fe'i trawsblennir. Gwaith anodd oedd y paratoi gan fod y ddaear wedi caledu gymaint yn ystod y tymor sych. Yr oedd yn waith a ofynnai am gorff cryf i'w gyflawni. Yr unig offeryn a ddefnyddid oedd päl. Nid pâl fel a welir yng Nghymru, ond päl â llafn gul, hir, a choes rhyw ddwy lath o hyd iddi. Ni ddefnyddid y troed ychwaith wrth balu, dim ond y breichiau, a chyd-weithiai dau ddyn ochr yn ochr i droi yr un darn o dir. Ar ôl gorffen troi'r tir felly arweinid y dŵr i'r cae a dygid tua hanner dwsin o ychen i'w gyrru amgylch ogylch i ddamsang y talpiau ac i gymysgu'r ddaear â'r dŵr. Mawr oedd y gwaeddi, y pwnio a'r gwthio i gael yr ychen i gyd-fynd! A'r meibion a'r ychen mewn byr amser yn fwd i gyd, a golwg ryfedd arnynt !

Wedi i'r cae gael ei baratoi deuai'r merched i draws- blannu'r planhigion reis. Mor gyflym a chywrain oeddynt wrth y gwaith, yn gosod pob planhigyn yn ei le yn y mwd. Gwaith caled oedd yr eiddynt hefyd oblegid rhaid oedd plygu drwy'r dydd yn yr haul poeth, hyd eu penliniau yn y mwd. Ond gwaith cwbl hanfodol ydoedd os oeddynt am gael y cynhaeaf sy'n golygu cymaint iddynt.

Gwnaeth y bobl eu rhan, ond heb gymorth Rhagluniaeth i roddi gwres a glaw, dydd a nos, ni thyf y reis ac nid aeddfeda i'r cynhaeaf.

Drwy Ei gymorth Ef y daeth amser y cynhaeaf. Gwelwch mor brysur y mae'r dynion wrth y gwaith yn torri'r cnwd, nid â phladur neu gryman, ond â chyllyll mawr wedi eu hawchu yn dda ar gyfer yr achlysur.

Heddiw y mae'r meibion a'r merched gyda'i gilydd yn y cae reis, y merched yn dilyn y torrwyr, yn casglu'r corsennau a'i clymu yn ysgubau, a phawb yn hapus a siaradus fel y disgwylid iddynt fod yn amser medi. Onid yw eu gwaith wedi ei goroni â chynhaeaf toreithiog, ac oni fydd digon o reis iddynt hwy a'r plant yn ystod y flwyddyn i ddod?

Ar ôl hyn daw y dyrnu. Pwniant yr ysgubau ar garreg fawr ger y cae ac oddi yno y cludant y grawn reis i'r pentref i'w osod yn y pwll reis, twll mawr a chrwn ar bwys eu cartref, i gymryd ohono fel y bo angen y teulu.

Beth nesaf tybed? Wel, os ydynt yn bobl grefyddol—ac y mae'n bleser i feddwl bod llawer ohonynt felly erbyn heddiw—fe fyddant am ddiolch i'r Hwn a'i cynorthwyodd i gael y cynhaeaf. Byddant yn cynnal cwrdd diolchgarwch. Eu henw arno yw 'fanateram—bokatra' (offrymu'r cynhaeaf).

Nis gallant, wrth gwrs, gario'r cynhaeaf i gyd i'r capel ond dug hwn a hwn ychydig o reis, hon a hon ychydig o rywbeth arall—wyau, iar neu geiliog, tamaid o 'lace,' mat, etc., sef y pethau y galluogodd Rhagluniaeth hwy i'w gwneuthur, neu eu tyfu, pethau ynglŷn â'i bywoliaeth. A chan fod cynnifer o bobl yn gwneuthur hynny bydd yno gasgliad a chymysgedd ryfedd o bethau yn y capel y pryd hwnnw! Bydd yn achlysur pwysig iddynt a bydd y capel yn llawn, y canu yn wresog, y bregeth yn darawiadol a'r gwasanaeth i gyd, fel y dylai fod, yn llawn diolchgarwch.

Wedi i'r oedfa orffen clywir llais yn galw: 'Faint am hwn? Faint am hwn? Pwy sy'n cynnig? Rhywun eto? Un.. dau.. tri. . rhywun arall..?" Un o'r diaconiaid fydd yn gwerthu, ac felly y bydd nes bo'r nwyddau i gyd wedi eu prynu. A bydd y bobl yn ddigon hapus a pharod i weld hynny oblegid fe â'r arian i gyd at achos y capel.

Nodiadau

[golygu]