Neidio i'r cynnwys

Am dro i Fadagascar/Jao

Oddi ar Wicidestun
Rapeto Am dro i Fadagascar

gan Daniel Owen Jones

Raivo

2.

Er mai stori yw'r canlynol fe gynnwys hanes un a adwaenaf yn dda a gallaf ei edmygu heddiw am yr hyn ydyw gweithiwr ffyddlon i Iesu Grist yn ardal y llyn mawr. Y mae ei enw heddiw yn dipyn gwahanol ond 'd oes dim gwahaniaeth am hynny.

JAO.

Jao oedd ei enw ac y mae'n ddiddorol fel y cafodd yr enw. Yr oedd ei dad yn bagan ac yn bennaeth y pentref paganaidd lle'r oeddynt yn byw. Credai y byddai enw priodol ar ei fab yn peri iddo chwennych bod yn bennaeth ar ei ôl. Am hynny y meddyliai pan ddigwyddodd weled gyr o ychen yn croesi'r dyffryn ar bwys y pentref. Fel y mae'n arfer gan ychen wrth fyned felly yr oedd un ohonynt ychydig ar y blaen ac yn arwain y gweddill. Gelwir yr ych hwnnw 'Jao,' sef, arweinydd.

Jao! Jao!" meddai wrtho'i hunan. "Dyna'r enw iddo. Jao. . . arweinydd. . . enw a'i gwna'n arweinydd fel myfi."

A'r peth cyntaf a wnaeth wedi dychwelyd i'w gartref yn y pentref oedd dweud wrth yr hen baganes, ei wraig, mai hynny oedd ei enw i fod o'r awr honno ymlaen.

"Ie, fel y dywed y doeth, bydded felly," oedd ei hateb. Felly, yn lle'r hen enw oedd wedi bod arno, Jao a fu.

Yn fynych ddigon arferai ei dad bwysleisio wrtho bwysigrwydd ei enw newydd a'i ragoriaeth hefyd ar yr enwau eraill yn y pentref.

"'D oes yr un enw arall fel dy enw di," meddai wrtho.

"Jao . . . arweinydd . . . ac arweinydd a fyddi di fel yr ydw-i'n arweinydd yma ar hyn o bryd."

Ond er cystal ei enw nid oedd Jao ond un o blant y pentref paganaidd hwnnw ac yr oedd ei wisg mor frwnt, ei wallt mor aflêr, a'i wyneb mor fudr â'r un ohonynt. Mewn un peth yn unig y rhagorai arnynt sef mewn dringo'r coed i hela'r lemuriaid yn y goedwig fawr gerllaw.

Un diwrnod, yr oedd yn un ar bymtheg oed ar y pryd, daeth gwahoddiad iddo i ymweld â chefnder iddo oedd yn byw ychydig o bellter i ffwrdd. Ni welsant ei gilydd ers amser maith ac yr oedd yn falch o'r gwahoddiad.

Cyrhaeddodd Jao yn ddiogel i'r pentref a gwelodd ar ei union fod ei gefnder gryn dipyn yn wahanol i'r hyn arferai fod. Yr oedd ei wisg yn llawer glanach a'i gartref yn fwy trefnus, ac nid oedd yr un eilun i'w weled yn y tŷ. Yr oedd hefyd yn fwy caredig ei ffordd.

Drannoeth, gan mai dydd Sul ydoedd, gwahoddodd ei gefnder ef i fyned gydag ef i'r capel bach oedd ar ochr y bryn y tu draw i'r dyffryn—y capel nad oedd ef ond newydd ddechrau ei fynychu. Cyn hynny yr oedd yntau hefyd yn bagan.

Ac aethant ill dau. A'r bore hwnnw clywodd Jao am y tro cyntaf erioed ddyn du ei groen fel ei hunan yn pregethu a mawr oedd ei syndod wrth wrando arno ac yn enwedig wrth wrando ar y canu!

"Dyna ddyn dysgedig, doeth, oedd hwnna. 'Ble cafodd o'r fath wybodaeth?" gofynodd i'w gefnder ar ei ffordd adref.

"Yn y dref fawr," oedd ei ateb.

Ni cyfeiriwyd mwy at y peth ond yn awr ac yn y man dychwelai i feddwl Jao, ac fe ddeuai ateb ei gefnder yn ôl hefyd... Yn y dref fawr."

Dychwelodd i'w gartref ond rywfodd neu'i gilydd yr oedd aflonyddwch wedi cydio ynddo ac ni theimlai mwyach yn gartrefol, yn enwedig pan dalai ei rieni y sylw arferol i'w heilunod. Er hynny, gofalai beidio â gwneud dim a ddirmygai yr hyn a wnaent a'i digio drwy hynny.

"Yn y dref fawr; yn y dref fawr ". . . Parhau i ddod yn ôl a wnai'r ateb. O'r diwedd, heb yn wybod i neb, aeth i ffwrdd i gyfeiriad y dref honno.

Clywsai fod pobl pan yn mynd i'r dref fawr yn gyntaf i gyd yn mynd i'r orsaf, ond nid oedd ef erioed wedi bod mewn lle o'r fath ac mor bell o'i gartref. Ar ôl llawer o holi ar y ffordd cyrhaeddodd yno ac eisteddodd ar un o'r seddau. Yr oedd ei anwybodaeth o bethau yn gymaint fel y credai ond iddo eistedd felly y deuai'r trên a'i gyrchu ymaith, hynny yw, y byddai'r trên yn ei ddal ef ac nid ef yn dal y trên!

Daeth y trên a chychwynodd drachefn, ond dal i eistedd ar y sedd a wnai Jao, a byddai wedi eistedd felly drwy'r nos a thrannoeth onibai i wraig yr orsaf-feistr ei weld a chymryd trugaredd arno. Yr oedd hi yn Gristion ac yn ddynes garedig. Cafodd lety ganddi y noson honno a thrannoeth rhoes ef ar y trên a thocyn yn ei logell.

Cyrhaeddodd y dref fawr yn ddiogel. Wedi holi yno a chael cymwynas arall daeth i dŷ ysgolfeistr y Mission. Derbyniwyd ef i'r ysgol. Ar ôl nifer o flynyddoedd yno aeth i'r coleg yn y dref fawr ac erbyn hyn treuliodd Jao lawer blwyddyn yn weinidog ffyddlon i Iesu Grist.

Gan hynny y mae'n arweinydd nid yn ôl dymuniad ei dad amdano, ond yn ôl dymuniad Duw. Ac y mae hynny'n ganmil gwell.

Nodiadau

[golygu]