Am dro i Fadagascar/Mewn pentref paganaidd
| ← Y plant | Am dro i Fadagascar gan Daniel Owen Jones |
Storïau → |
XII. MEWN PENTREF PAGANAIDD.
PNTREF paganaidd—tybiaf eich clywed yn gofyn: 'Pa fath le yw hwnnw?' Byddwch yn sôn amdano wrth ganu. Pentref â
.. Dim ond eilunod o'i cylch ymhob man
Neb i ddweud am Dduw...
Beth yw eilunod, tybed?
Dyma hanesyn diddorol a ddengys ichwi beth ydynt.
Un tro yr oedd geneth ieuanc ym Madagascar wedi colli ei ffordd. Daeth i dy bychan yn yr ardal unig honno a chafodd lety am y nos. Yr oedd gŵr y tŷ newydd ddyfod i mewn ac yr oedd wrthi'n brysur yn gweithio ar y pren a ddygodd gydag ef o'r goedwig gerllaw. Gosodai ei wraig y brigau mân ar y tân oedd ar yr aelwyd a llafuriai yntau'n ddygn ar y bonyn.
"Beth ydi hwnna i fod?" gofynodd yr eneth iddo.
'Ody' (eilun)," oedd ei ateb.
Drannoeth yn fore, wedi diolch am ei llety, aeth yr eneth i ffwrdd. Ymhen ysbaid ar ôl hynny, a hithau yn ei chartref yn y dref, daeth cyfeilles i ymweld â hi. Yr oedd ei chyfeilles yn Gristion ac yr oedd ei Beibl ganddi, fel arfer, mewn sachell fach. Cyn ymadael, wedi gofyn caniatâd i ddarllen iddi, fel y digwyddodd agorodd ei Beibl yn y man y gwelir y geiriau hyn: "... . a rhan ohono a lysg efe yn tân . . . A'r rhan arall yn dduw y gwna, yn ddelw gerfiedig iddo; efe a ymgryma iddo, ac a'i haddola, ac a weddia arno, ac a ddywed, Gwared fi; canys fy nuw ydwyt." (Eseia 44, 16—17). Ar unwaith cofiodd yr eneth yr hyn a welodd yn y llety y cafodd garedigrwydd ynddo.
"Llyfr rhyfedd ydi hwnna !" meddai wrth ei chyfeilles mewn syndod. "Y mae'n dweud yn hollol beth oedden nhw'n ei wneud ar y pryd... gosod rhan o'r pren yn y tân a gwneud duw i ymddiried ynddo o ran arall."
O'r funud honno bu ei chasineb at eilunod yn fawr a daeth yn Gristion selog a dioddefodd lawer dros ei chrefydd.
Dyna beth yw eilunod. Gwrthrychau a wnaed gan law dyn a gyfrifir yn dduwiau i'w haddoli ac i ymddiried ynddynt. Paganiaid a wna hynny oblegid ni wyddant am y gwir Dduw, drwy Iesu Grist, y Duw sy'n unig yn deilwng i'w addoli.
Y mae'n drist i feddwl fod llawer ym Madagascar yn y fath gyflwr truenus. Trigant mewn pentrefi bychan, rhai ohonynt yn y goedwig fawr, rhai ar lannau'r afonydd ac mewn mannau eraill, a phob un ohonynt yn bentref paganaidd.
Ond gwell na sôn am bentref paganaidd a fyddai mynd i'w weld. Fe awn i lawr yr afon mewn canŵ a galwaf ar ddau frodor i'n rhwyfo. A dyma ni wedi cyrraedd. 'D oes neb i'w weled yn y pentref. Ble mae'r bobl tybed? Y maent yma, ac yn ein gweled, er na welwn ni hwy. Y maent yn edrych arnom drwy agoriadau bychan ym muriau hesg eu tai. Y mae'n syndod mor ofnus y maent o ddieithriaid!
Fe anfonwn y ddau frodor i'w hysbysu ein bod yn ymweld â'r pentref ac yn dymuno'n dda iddynt a thra eu bod yn gwneud hynny fe awn ninnau am dro o gylch y pentref.
Sylwch ar y tŷ bychan fan draw a'r balmwydden dal ar ei bwys. Dyna dŷ y 'witch-doctor.' Y mae'r balmwydden yn arwydd mai dyna'r lle y mae'n byw. Pan ddaw rhywun mewn angen ymgeledd a chynorthwy, i gael cyfarwyddyd, neu eilun neu rywbeth cyffelyb oddi wrtho, fe ddaw heb holi i'r tŷ y mae'r balmwydden ar ei bwys.
'Ydi—o'n gwerthu eilunod?' meddech. Ydyw, yn siwr iawn. Gwneud eilunod a'i gwerthu, dyna'i waith. Gwna hwynt o wahanol bethau, darn o bren, o gorn ych a phethau eraill. Yna, ar ôl eu llunio y mae ganddo, meddai ef, ffordd i'w gwneud yn 'nerthol.' Bydd yn cymell y bobl i ymddiried ynddynt, fel y gallant eu hamddiffyn rhag y pethau a ofnant—afiechydon, damweiniau, anlwc, eu gelynion, y crocodiliaid.
Ni allant wneud hynny mewn gwirionedd, ac nid yw ef namyn y 'dall yn arwain y dall.' Eithr cred y bobl ofergoelus ynddo ac yn yr eilunod y mae'n werthu iddynt. Deuant ato yn eu hangen ac ni all roddi ond cyngor ffôl a gwerthu eilun iddynt.
Trist yw meddwl fod cymaint o bobl eto ym Madagascar a neb gwell ganddynt i fynd ato yn eu hangen na'r 'witch-doctor. Dyna yw'r hyn a elwir yn dywyllwch paganiaeth, anwybodaeth ac ofergoeliaeth, a llawer o gredoau ffôl ac arferion gwael.
Gwelwch y bachgen bach yn cysgu yn yr haul ar bwys y tŷ fan yma. Mor frwnt a thenau y mae'n edrych. Gwell gadael iddo i gysgu, druan bach, ac fe holwn y bobl amdano.
Fe awn at y bobl sy'n dod allan a'i cyfarch yn ôl yr arferiad, ac fe ofynwn iddynt amdano. Dywedant fod mam y bachgen bach wedi ei lladd gan grocodil pan yn cyrchu dŵr o'r afon, fod ei dad wedi dianc o'r pentref, a'i fod ef oherwydd yr hyn a ddigwyddodd i'w fam yn blentyn anlwcus. Yn ôl eu syniad hwy y mae hynny'n gyfystyr â dweud nad ydyw'n werth poeni yn ei gylch.
Y mae'n fwy na thebyg mai'r hen ŵr â'r farf hir ydyw pennaeth y pentref. Cyfarchaf ef fel pennaeth beth bynnag a rhoddi gair o gyngor iddo yr un pryd. Ymddengys yn hen ŵr caredig er ei fod yn bagan. Ie, efe yw'r pennaeth ac y mae'n addo cymryd gofal da o'r bachgen bach o hyn allan. Pobl syml a charedig ydynt wedi'r cyfan. Eu hanwybodaeth a'i hofergoeliaeth sy'n peri iddynt wneud pethau ffôl a gwael, ond beth arall y gellir ei ddisgwyl pan nad oes ganddynt neb gwell i'w cyfarwyddo a'i helpu na'r 'witch-doctor.'
Y mae'n drueni i feddwl am y plant mewn lleoedd fel hyn, heb rieni yn medru gofalu'n iawn amdanynt, heb feddyg i'w gwella pan ddaw afiechyd, ac heb ysgol na chapel i fyned iddynt i ddysgu ac i addoli.
Mor wahanol y mae pethau gyda chwi! Rhieni yn gwybod sut i ofalu'n iawn amdanoch, ysgol a chapel i fyned iddynt, a meddyg i'w alw i mewn atoch pan ddaw afiechyd.
Mewn gair y gwahaniaeth yw hyn: Eich bod chwi'n byw yng ngwlad y breintiau a hwythau'n byw yng ngwlad yr angen. Ond y mae Iesu Grist yn eu caru hwythau hefyd ac, yn sicr, y mae'n disgwyl i bobl y breintiau i gynorthwyo pobl yr angen.
A'r cymorth gorau y gellir ei roddi ydyw danfon yr Efengyl iddynt a dyna a wnawn pan fyddwn yn helpu'r cenhadon a'i gwaith.