Am dro i Fadagascar/Raivo
| ← Jao | Am dro i Fadagascar gan Daniel Owen Jones |
Koto → |
3.
Ymhen ychydig amser ar ôl i nifer o'r brodorion yng nghanolbarth Madagascar dderbyn yr Efengyl oddi wrth y cenhadon cyntaf i gyrraedd yr ynys aeth yn amser caled iawn arnynt. Daeth brenhines baganaidd a chreulon o'r enw Ranavâlona i'r orsedd, a gwnaeth ei gorau i ddileu yr Efengyl yn llwyr allan o'i gwlad. Gwnai hynny drwy roi i farwolaeth neu gosbi'n enbyd pob un y deuai i wybod amdano ei fod yn Gristion. Cafodd nifer eu lladd a dioddefodd llawer eraill yn ddirfawr. Methodd yn ei hamcan drwg a chreulon oblegid yr oedd Iesu Grist gyda'i ganlynwyr yn eu nerthu i lynu wrth eu crefydd ar waethaf pob anhawster a dioddefaint, hyd yn oed hyd angau. Gelwir yr amser trist hwnnw Cyfnod yr erledigaeth fawr (1836-61). Un o'r rhai a ddioddefodd lawer y pryd hwnnw oedd.
RAIVO.
Raivo oedd ei henw ac ar y pryd yr oedd yn un ar bymtheg oed. Unig blentyn ei rhieni, yr oedd yn byw gyda hwynt mewn pentref bach rhyw chwe' milltir o'r brif dref. Yr oedd yn eneth hardd ei phryd ond, yn fwy pwysig na hynny, yr oedd yn hardd ei chymeriad drwy garu Iesu Grist, a hynny yn yr amser pan oedd bron pawb yn yr ardal o'r frenhines i lawr, yn baganiaid.
Yr oedd y frenhines yn un o'r rhai mwyaf creulon a fu erioed, a chan ei bod yn baganes yr oedd yn casàu pawb a garai Iesu Grist ac a'i gwasanaethai. Gymaint oedd ei châs ohonynt fel y gorchymynai'n gyfnodol i'w rhoi i farwolaeth. Gorchymynai hefyd i'r magnelau mawr oddeutu y plas i gael eu tanio ar fore y diwrnod yr oedd hynny i gymryd lle. Ymfalchïai yn y sŵn mawr oblegid dangosai hwnnw ei hawdurdod a pharai ddychryn i'w phobl.
"Clywch, mam! Clywch!" meddai Raivo. "Dyna sŵn rhyfedd o gyferiad y brif dref. Sŵn fel t'ranau ond nis gall fod yn t'ran'u oblegid y mae'r awyr yn glir. 'Does 'na ddim cwmwl o gwbl. Gadewch inni fyned allan i glywed yn well."
Bŵm Bŵm! Bŵm! "Y mae'n rhaid fod magnelau'r plas yn cael eu tanio. Rhywrai yn cael eu rhoi i farwolaeth eto. Gobeithio nad oes neb o'n cyfeillion. 'Does 'na ddim diwedd ar greulondeb y frenhines!" "Gad inni fynd yn ôl i'r tŷ, Raivo, annwyl," meddai ei mam yn gymhellgar. "Fe gauwn ni'r sŵn trist allan. A chofia, fe ddylet-ti fod yn llawer mwy gofalus. 'R wyt-ti'n llawer rhy hoff o ddarllen dy Feibl wrth y drws agored. Cofia, da thi, fod ysbiwyr y frenhines ar hyd a lled yr ardal yn chwilio am rywun y gallan'-nhw'i cyhuddo o fod yn Gristionogion. Yr oedd 'na ddyn dieithr yn y pentref 'ma ddoe, fel 'r wyt-ti'n gwybod."
"Mam annwyl, peidiwch â phryderu. Fe fydda-i'n ddigon gofalus, yn siŵr ichi, ond doed a ddelo y mae'n rhaid imi ddarllen fy Meibl. Y mae gair Duw yn bopeth imi," oedd ateb Raivo.
Yn fore dau ddiwrnod yn ddiweddarach yr oedd dau filwr â phicell[1] wrth ddrws y cartref. Arwydd oedd hynny eu bod ar neges arbennig dros y frenhines. Galwent mewn lleisiau uchel ac awdurdodol: "Vohay! Vohay !" (Agorwch! Agorwch !).
Agorodd tâd Raivo y drws. Gwthiasant heibio iddo gan chwifio'r bicell ac yn yr un llais cras gofynnent: "'Ble mae Raivo? Bydded barod! Daethom yma i'w 'mofyn—yn enw'r frenhines."
"Dyma fi," atebodd hithau yn dawel a diofn.
Rhoddwyd cadwyn ar ei dwylo ac aethant â hi i ffwrdd i'r brif dref. Dilynodd ei rhieni â chalonnau trist.
Dygwyd hi i'r man neilltuol yn y farchnad lle'r holid carcharorion ac yno yswatiodd ar y ddaear gynnes gydag eraill a gyhuddwyd.
Pan ddaeth ei thro i gael ei holi ac iddi godi ar ei thraed clywyd ochain o drueni drwy'r dorf wrth weled un mor ieuanc a hardd â'r gadwyn ar ei dwylo.
"Raivo, a wnei di addoli'r eilunod sy'n eiddo'r frenhines?
Wnei di addoli'r wybren a'r ddaear?" gofynodd yr holwr, mewn llais i beri braw.
"Wna-i ddim addoli'r eilunod," atebodd yn araf a phenderfynol. "'Dydyn-nhw'n ddim ond pren a gwaith llaw Duw yw'r pren. Wna-i ddim addoli'r wybren na'r ddaear ychwaith. Llaw Duw a'i creodd. Duw Ei Hun sy'n fawr imi ac Ef yn unig fydda-i'n addoli."
Aed ymlaen, ond er manyled yr holi a'r bygwth wynebodd y cyfan yn yr un ysbryd mwynaidd a phenderfynol fel na wyddai'r holwr beth i'w wneud â hi. Erbyn hyn yr oedd yntau hefyd wedi ei gyffwrdd gan y teimlad a aeth drwy'r dorf. Daeth ei rhieni ymlaen ac mewn dagrau hallt ceisiasant ei pherswadio i newid ei meddwl ond ofer eu hymgais, er ei bod yn teimlo i'r byw drostynt.
Oddi yno aed â hi i'r carchar ac o'r carchar ymhen rhai dyddiau i ben craig fawr ac uchel ynghanol y dref. Dangoswyd iddi beth oedd ei thynged i fod onid oedd yn fodlon i ildio'i chrefydd ac addoli'r eilunod—fe'i teflid dros y graig.
Y diwrnod hwnnw yr oedd nifer wedi eu condemnio o fod yn ganlynwyr i Iesu Grist ac wedi eu taflu dros y dibyn. Yr oedd y magnelau wedi cyhoeddi hynny'n fore. Ond er bygwth y fath farwolaeth iddi glynu wrth ei chrefydd a wnaeth Raivo.
"Y mae fy nghyfeillion wedi mynd. Gadewch i minnau eu dilyn," oedd ei chais gwrol.
A'r dorf yn synnu a'r swyddogion yn petruso, wele filwr â'r bicell yn ei law, yn ymddangos yn sydyn gan ddwyn neges oddi wrth y frenhines.
"Gorchymynaf," meddai'r neges, "i ollwng Raivo yn rhydd. Nid ydyw ond plentyn wedi colli ei synnwyr. Nid ydyw yn Gristion." Swynwyd hi,—Ranavâlona, y frenhines.
Ac wrth gwrs, rhyddhawyd hi ond ni fu'n rhydd yn hir.
Mewn byr amser ar ôl hynny yr oedd Raivo yn y farchnad eto ac yn yr un man ag y rhoddodd ei thystiolaeth ddewr.
Y tro hwn yr oedd yn un o nifer o gaethweision oedd yno i'w gwerthu yn ôl arferiad drwg y wlad ar y pryd. A gwerthwyd Raivo i fod yn gaethforwyn er ei bod o linach urddasol. Ie, gwerthwyd hi am bris isel iawn. . . dim ond pum punt!
Ond yr oedd Raivo yn fwy o werth i Iesu Grist na holl arian ac aur Madagascar.
Nodiadau
[golygu]- ↑ v. tud. 61