Am dro i Fadagascar/Rapeto
| ← Storïau | Am dro i Fadagascar gan Daniel Owen Jones |
Jao → |
I.
NNid oes gan y plant ym Madagascar lyfrau storïau fel y mae'n bosibl ichwi eu cael neu eu prynu, ond y mae ganddynt, er hynny, chwedlau digrif y clywsant eu rhieni yn ei hadrodd o dro i dro ar yr aelwyd fin hwyr. Hen chwedlau ydynt ond y maent yn dal i fyw a dygant lawer o bleser i'r plant o genhedlaeth i genhedlaeth. Un ohonynt yw'r chwedl am Rapeto. Wele stori a thipyn amdano ynddi.
RAPETO.
Un tro, wrth fyned i bentref yn y wlad ym Madagascar, deuthum i fan ar ymyl y llwybr yr oeddwn arno, lle'r oedd darn o graig gweddol wastad, rhyw ddwy droedfedd mewn uchter. Ar wyneb y graig yr oedd twll bâs ar ddull padell. "Gwelwch," meddai'r brodor oedd gyda mi, "dyma ôl troed Rapeto!" Edrychem ein dau ar y twll.
"Ôl troed Rapeto! Pwy oedd Rapeto a chanddo droed a fedrai wneud twll fel hwn yn y graig?" gofynnais.
"Chlywsoch—chi ddim sôn am Rapeto?" oedd ei ateb a llawer o syndod yn ei lais. "Y mae pawb yma yn gwybod am Rapteo."
Na, 'dydi pawb ddim yn gwybod," meddwn. "Yr ydw—i yma a chlywais—i 'rioed yn fy mywyd am Rapeto. Pwy oedd e', dwedwch?"
Wedi clirio tipyn ar ei wddf, fel y mae'n arfer gan rai pobl pan fydd ganddynt rywbeth pwysig i'w ddweud, dywedodd gyda llawer o bwyslais.
"Cawr mawr oedd Rapeto. Unwaith fe aeth o'r pentref lle'r oedd yn byw, pentref ymhell oddi yma, i'r pentref yr ydym ni ein dau yn bwriadu ei gyrraedd cyn y nos ac fe wnaeth yr holl daith mewn dau gam. Yn y fan hon y gosododd i lawr ei droed fawr. Yma yr oedd terfyn ei gam cyntaf. Dyna'r rheswm fod y twll hwn yn y graig."
"Rhyfedd iawn," meddwn, gan geisio cuddio fy nigrifwch orau medrwn, "a dyma ni'n dau, â'n camau byrion, yn poeni yn y gwres a'r llwch i gyrraedd y pentref fan draw, a Rapeto yn gallu gwneud yr holl daith mewn dau gam ac heb chwysu ychwaith! Ie, a'i daith yn fwy na dwywaith ei hyd na'n taith ni. Dyna'r fantais o fod yn gawr. Dwedwch fwy am dano, wrtha-i. Fe garwn i'n fawr i gael clywed mwy."
"A welwch-chi'r bryn uchel y tu hwnt i'r afon a'r caeau reis draw yn y pellter?" gofynodd gan bwyntio â'i wefusau yn ôl arfer y wlad.
Wedi syllu am ychydig eiliadau i'r cyfeiriad gofynnais: "Ai cyfeirio ydech-chi at y bryn moel uchel acw rhwng y bryniau a'r coed?"
"Ie, dyna fo," oedd ei ateb. "Dyna lle'r oedd Rapeto'n byw, gyda Toto ei fab, ei unig blentyn. Ar ben y bryn yna."
Gofynnais iddo ynghylch Mrs. Rapeto ond ni thalodd sylw im cwestiwn gan gymaint oedd ei feddwl ar Rapeto.
"Yr oedd yn gymaint o gawr," aeth ymlaen, "ac yr oedd ei fraich mor hir fel pan oedd yn coginio reis yn ei gartref ag un llaw gallai â'r llaw arall gasglu coed tân yn y goedwig sydd rhwng ugain a deng milltir a'r hugain i ffwrdd!"
"Peth rhyfedd yw bod yn gawr" meddwn ar ôl clywed hyn. "Peth rhyfedd iawn!"
"Ie, ond daeth i ddiwedd truenus, truenus iawn!" meddai gyda llawer o bwyslais ar y gair olaf.
"Beth ddigwyddodd iddo?" gofynnais.
Wedi rhagor o besychu aeth ymlaen â'r hanes:
"Un noson olau leuad canfu ei fab Toto yn wylo'n hallt.
'Be' sy arnat ti? Pam 'r wyt-ti'n wylo fel hyn Toto bach?' gofynnodd Rapeto mewn llais tyner er ei fod yn gawr. R ydw-i eisiau'r lleuad. 'Drychwch, mor brydferth y mae. Rhowch y lleuad imi! Rhowch, rhowch, rhowch y lleuad imi, 'nhad.' Toto bach, 'r wyt-ti'n gofyn peth anodd dros ben,' meddai Rapeto. R ydw-i wedi gwneud gorchestion mawr yn fy nydd ond dim mor anodd â'r hyn wyt-ti'n ofyn imi ei wneud 'nawr,' meddai â'i law fawr ar ben Toto i'w gysuro. Ond plentyn wedi ei sbwylio oedd Toto ac fel pob plentyn felly yr oedd yn ystyfnig ac am gael ei ffordd ymhob man, ac felly wylo mwy a mwy a wnaeth nes i'w dad ddweud wrtho, 'O'r gorau ynteu, fe gei di'r lleuad.' Yna, gan osod ei draed mawr ar ben y bryn a chyfeirio ei lygaid mawr at y lleuad, neidiodd Rapeto i fyny gan wneuthur yr ymgais gawraidd fwyaf yn ei fywyd. Ond pan ddaeth yn agos i'r lleuad, aeth y lleuad yn ofnadwy o ddigllon, mor ddigllon fel y rhoddodd gic ofnadwy i Rapeto, a chwyrnellodd yntau i lawr gyda'r fath bwysau a chyflymder fel y trawodd y ddaear a'i ladd yn ddisyfyd."
A dyna oedd diwedd Rapeto!