Neidio i'r cynnwys

Am dro i Fadagascar/Rhagair

Oddi ar Wicidestun
Am dro i Fadagascar Am dro i Fadagascar

gan Daniel Owen Jones

Cynnwys

RHAGAIR.

CEIR o leiaf dri rheswm dros inni gymryd diddordeb ym Madagascar. Y rheswm cyntaf yw fod ein cenhadon yn gweithio dros Iesu Grist yno. Buont yno ers blynyddoedd lawer a bendithiodd Duw eu gwaith yn rhyfeddol, fel bod llawer o'r brodorion heddiw yn Gristionogion. Dylid cofio er hynny bod llawer iawn o hyd yn baganiaid.

Yr ail reswm yw mai cenhadon o Gymru a aeth â'r Efengyl yn gyntaf i Madagascar. Y mwyaf adnabyddus ohonynt ydyw Dafydd Jones o Sir Aberteifi. Efe oedd yn flaenaf i sefydlu gwaith Iesu Grist yno. Llafuriodd yn galed ac erys ei enw 'Jonjy lava' (Jones tal) yn barchus iawn o hyd ar yr ynys.

A'r trydydd rheswm yw: mai ynys fawr ydyw Madagascar. Ar ynys yr ydych chwithau yn byw hefyd. Rhwng y ddwy ynys daw'r Affrica fawr. Felly, wrth wybod am Madagascar deuwn i wybod sut y maent yn byw yr ochr draw a dylem ddal ar bob cyfle i ddod i wybod am bobl eraill, eu ffordd o fyw a'i anghenion. Felly y medrwn wneud cymwynas â hwynt a'r gymwynas fwyaf yw danfon yr Efengyl. Yn sicr, dyna ddymuniad Iesu Grist ac fe welwch oddi wrth y storiau ar ddiwedd y llyfr fel y derbyniodd ac y gwerthfawrogodd pobl Madagascar y gymwynas honno.

Ysgrifennwyd y llyfr hwn gyda'r bwriad o ddwyn y wybodaeth wir angenrheidiol honno i chwi'r plant. Bydded iddo lwyddo i wneud hynny!

Dyletswydd bob amser, ac yn bleser yma, yw cydnabod cynorthwy pan y'i ceir. Dymuna'r awdur gan hynny ddiolch i'r Parch. Ted Lewis Evans, Llandudno, a fu mor garedig a mynd drwy'r llyfr a chywiro ei Gymraeg, yn ôl cais y Cyngor Cymreig iddo. Golygai hynny gryn dipyn o waith oherwydd rhydodd Cymraeg yr awdur yn fawr yn ystod yr amser hir y bu ym Madagascar. Teimla yn wir ddyledus iddo am ei gymorth parod a gwerthfawr.

Dymuna ddiolch hefyd i'r Arlunydd, Mr. Mitford Davies.

BUSHEY, HERTS.,
Awst, 1950.

Nodiadau

[golygu]