Am dro i Fadagascar/Yn y brif dref
| ← Croesi'r llyn | Am dro i Fadagascar gan Daniel Owen Jones |
Yn y farchnad → |
VI. YN Y BRIF DREF.
IAITH a llawer o eriau hir ynddi yw iaith Madagascar ac y mae enw'r brif dref yn un ohonynt-Antananarivo. Tybed a fedrech ei sillafu? Gwnewch dreio, beth bynnag. Yr oedd mor anodd i ddieithriaid ei ddweud fel y newidiwyd yr enw i Tananarive ac, fel rheol, dyna y gelwir y brif dref heddiw.
A dyma ni yn y dref. Tref ar fryn uchel ynghanol yr ynys ac ymhell o lan y môr. Fe awn i'r man uchaf yn y dref i weld yr olygfa sydd i'w chael oddi yno. Y mae'n weddol fore ac felly nid yw'n rhy boeth inni i gerdded ond rhaid fydd dringo am gryn bellter.
Y man uchaf yw'r lle y saif hen blas brenhinol Madagascar arno. Cyn i'r Ffrancod eu gorchfygu ac i'r Malagasy golli eu gwlad, ychydig dros hanner can mlynedd yn ôl, yr oedd ganddynt eu llywodraeth eu hunain ac yn y plas hwn yr oedd eu brenhines yn byw.
Credwyd y dylasai'r frenhines fod yn uwch na neb arall yn ei theyrnas a dyna'r rheswm yr adeiladwyd y plas ar y man uchel y mae. Y mae heddiw yn amgueddfa. Yn gyntaf, fe awn i fyny i'r 'balcony.'
Rhyfedd yr olygfa sydd i'w chael oddi yma ynte? Sylwch gymaint o fan bentrefi sydd i'w gweled, rhai ohonynt ar y gwastadedd eang, rhai ymhlith y caeau reis, rhai ar y llethr ar eu pwys a rhai yng nghesail y bryniau pell.
Fe welwch wrth ymyl, neu ynghanol, rhai o'r pentrefi adeilad sydd yn llawer mwy ei faint na'r tai gerllaw iddo. Capel yw'r adeilad yna ac y mae nifer fawr o gapeli i'w cael yn y rhan hon o'r ynys. Beth amser yn ôl yr oedd y brodorion yn y cylch hwn hefyd yn baganiaid ond daeth y cenhadon â'r Efengyl iddynt. Y mae'n syndod mor barod oeddynt i dderbyn yr Efengyl ac mor falch oeddynt o'i chael! Ie, a chymaint a fu'r llwyddiant ar waith y cenhadon fel y mae y rhan eang yma o'r wlad yn ardal y capeli heddiw a'r bobl yn eu caru ac yn meddwl llawer ohonynt.
Yr ydym wedi mwynhau yr olygfa. Fe awn i lawr yn awr i gael cipolwg ar yr amgueddfa os caniatâ yr un sy'n gofalu am y lle inni wneuthur hynny. Ydi, y mae'n fodlon iawn.

Y mae yma dri pheth yn arbennig yr hoffwn ichwi eu gweld. Dyma un ohonynt. Yr aderyn mwyaf a fu erioed. Canfyddwyd yr ysgerbwd hwn ohono ym Madagascar lle'r arferai fyw. Y mae'n anodd dychmygu bod un o'i faint erioed wedi byw. Diflannodd o fodolaeth gannoedd o flynyddoedd yn ôl, ond bu fyw mewn traddodiad. Cofiaf pan welodd pobl glannau'r llyn mawr long awyr uwchben y llyn am y tro cyntaf iddynt feddwl mai yr aderyn hwn ydoedd a rhyfedd eu hofn ar y pryd. Yr estrys yw'r aderyn mwyaf a welir heddiw, ond yr oedd hwn yn llawer mwy ei faint na'r estrys. Wele ei wy yn y fan yma ac fe welwch ei fod yn llawn cymaint ei faint â phêl droed. Fe hoffech wybod enw yfath aderyn. Y mae'n lled anodd i'w ynganu—aepyornis."
Yr ail beth yw y ddwy ddysgl fawr o arian yn y fan yma. Fe welwch eu bod i bob ymddangosiad yn union yr un fath. Y mae hanes truenus yn gysylltiedig â hwynt. Yn yr amser a fu eiddo'r frenhines greulon oeddynt. Ar y cychwyn un oedd ganddi ac yna gorchmynnodd i grefftwr mewn arian i wneuthur un arall hollol yr un fath. Gwnaeth y crefftwr ei orau, ond pan ddaeth â'i ddysgl i'r frenhines gwelodd ei llygaid craff a chreulon nad oeddynt yn berffaith yr un fath. Y tâl a gafodd am ei drafferth ac am wneuthur ei orau, druan ohono, oedd cael ei roi i farwolaeth.
Y mae'r trydydd peth yr hoffwn ichwi ei weld yn llawer mwy pleserus i edrych arno. Dyma fo, ac fe welwch fod cadwyn yn ei glymu wrth y ford y mae arni. Dengys hynny y cyfrifir ef yn werthfawr. Nid yw hynny'n rhyfedd o gwbl oblegid rhodd oddi wrth frenhines i frenhines ydoedd. Rhodd Victoria, brenhines Prydain Fawr, i'r frenhines gyntaf ym Madagascar i fod yn Gristion. Dyma gyfrol fawr a phrydferth o'r Beibl ynte? Ni allai brenhines roddi gwell rhodd i frenhines na rhoddi iddi y llyfr gorau yn y byd.
Ac yn awr fe awn i ymweld â man neu ddau yn y dref. Sylwch yn arbennig ar yr adeilad sydd a thŵr uchel iddo yn y fan acw. Capel ydyw ac y mae'n sefyll ar ben craig uchel. Fe awn i'w weled. Mor ofnadwy o serth yw ochr y graig ac onid yw'r dyfnder yn arswydus? Y mae hyd yn oed edrych i lawr yn ddigon i beri braw a dychryn inni. Wel, i lawr i'r dyfnder enbyd hwn y taflwyd rhyw bymtheg o'r brodorion oedd yn Gristionogion yn amser yr hen frenhines greulon, baganaidd, honno yr ydym newydd gyfeirio ati. Yr oedd ei chas at yr Efengyl yn gymaint fel yr erlidiai a rhoi i farwolaeth y rhai oedd yn credu ynddi ac yn ei charu. Pe byddai'r bobl hynny yn fodlon diarddel eu crefydd ni ddigwyddai hynny iddynt, ond yr oedd eu cariad at Iesu Grist yn gymaint fel nas gallent wneuthur hynny. Yr oedd yn well ganddynt wynebu'r fath farwolaeth greulon na'i wadu Ef. Ac adeiladwyd y capel mawr hwn er côf amdanynt.
Ond gadewch inni fynd i lawr i fan arall yn y dref. Yno fe gawn weld 'capel y plant.' Gobeithio nad ydych yn blino cerdded. Y mae mynd i lawr yn y gwres yn llawer haws na dringo onid yw? Dyma ni wedi cyrraedd y fan. Y mae hwn eto, fel y gwelwch, yn gapel mawr. Hwyrach eich bod yn gofyn paham y gelwir ef yn gapel y plant.' Wel, fe'i gelwir felly am mai plant Prydain Fawr a roddodd yr arian i'w adeiladu ac fe wnaethant hynny er côf am y baban bach oedd gyda'i fam pan y'i llosgwyd hi ac eraill ar y fan hon oherwydd eu cariad at Iesu Grist. Yr oedd hyn eto yn amser yr hen frenhines greulon honno.