Neidio i'r cynnwys

Am dro i Fadagascar/Yn y farchnad

Oddi ar Wicidestun
Yn y brif dref Am dro i Fadagascar

gan Daniel Owen Jones

Gyda'r cynhaeaf

VII. YN Y FARCHNAD.

LLE pwysig yw'r farchnad ym Madagascar, oblegid yno y mae'r bobl yn gwerthu nid yn unig gynnyrch y ddaear ond hefyd y pethau a wnaed ganddynt. Y farchnad hefyd yw'r man mwyaf cyfleus iddynt gyfarfod â'i gilydd ac i gael y newyddion. Nid oes ganddynt bapurau dyddiol i gael y newyddion fel sydd gennych chwi. Y farchnad, fel pe tae, yw eu papur dyddiol hwy. Ar ôl cyfarch ei gilydd yno y cwestiwn cyntaf a ofynir yw: 'Beth yw'r newydd?' Droeon, pan mewn pentref unig, cefais fy synnu fel yr oedd y newyddion wedi cyrraedd yno o'm blaen. Yr eglurhâd, wrth gwrs, oedd y farchnad.

Y farchnad fwyaf o lawer yw'r un sy'n y brif dref. Yn ddios, y mae'n un o'r marchnadoedd mwyaf yn y byd. Daw miloedd ar filoedd o bobl iddi. Deuant o bob cwr o ganol yr ynys gan gludo y nwyddau sydd ganddynt i'w gwerthu. Gwelir yn fynych resi o geirt-ych ar yr heolydd, efallai ddwsin neu fwy mewn nifer, yn cario i'r farchnad. Gwelir hefyd y dynion yn cario eu beichiau ar bolyn yn groes i'w hysgwyddau a'r gwragedd â'i beichiau ar eu pennau, rai ohonynt â'i babanod ar eu cefnau hefyd. Y maent i gyd yn mynd i'r farchnad fawr yn y brif dref ac, fel rheol, byddant yn cyrraedd cyn y nos y diwrnod cynt fel y gallant fod yn eu lleoedd ar doriad y wawr.

Rhoddir enw'r diwrnod ar ba un y cynhelir hi i'r farchnad Zoma.' Dyna'r gair i fynegi Gwener, a dyna'r dydd y cynhelir hi. Gan fod heddiw yn ddydd Gwener gadewch inni fynd yno am dro. Fe awn yn weddol fore er mwyn gweled pethau ar eu gorau ac i osgoi gwres canol dydd. Cyn cychwyn fe edrychwn i lawr ar y farchnad o'r man uchel hwn. Dacw'r bobl ar y gwastadedd ar bwys y dref, miloedd ohonynt. Môr o wynebau yn cuddio traeth mawr ac eang! Oddi yma ymddangosant mor glos at ei gilydd fel y gallai un dybio nad oes ganddynt le o gwbl i ddangos eu nwyddau.

Ond gadewch inni fynd yno. Mor amrywiol a phrydferth yw'r lliwiau! Mor lluosog yw'r nwyddau ! Mor brysur y siarad a'r clebran! Mor ddiddorol y dull o werthu a phrynu— a'r haul tanbaid yn tywynnu dros y cyfan i gyd. Yr ydym yn awr yn adran y ffrwythau. Fe welwn yma fwy o bananas na dim arall. Ac nid yw hynny'n rhyfedd o gwbl oblegid yng ngwlad y bananas yr ym. O'r holl ffrwythau hwy a welir amlaf yn tyfu. Ceir math ohonynt sydd mor hir â'ch braich, a math arall mor fyr â'ch bys bach. Eithr y math byr sy'n felys, mor felys â mêl. Gadewch inni chwilio am y rhai melys fel y gallom eu mwynhau ar ôl dychwelyd.

Oranges... byddwch wedi sylwi fod llawer iawn ohonynt hwythau hefyd. Dyna gynnyrch arall y wlad. Fe'u ceir yn tyfu ar bwys bron pob pentref ac y mae'n bleser gweld y coed gyda'r dail gwyrdd a'r ffrwyth euraid ymhlith y dail. Yn y goedwig fe'i ceir yn tyfu'n wyllt, ac nid anghofiaf y profiad a gefais unwaith pan ganfûm bren orange yno. Yr oedd yr unig orange oedd i'w weled ar lawr y goedwig—wedi syrthio oddi ar y goeden. Yr oedd yno yn aeddfed, felyn-goch, braf. Ac yr oeddwn mor falch o'i weld oherwydd fy mod ar y pryd yn enbyd o sychedig. Ond y foment y cyffyrddodd y sudd â'm genau dyna siom a gefais! Yr oedd mor chwerw nes imi o'r bron golli fy anadl!

Pineapples, mangoes, custard apples . . . ffrwythau'r gwledydd poeth. Dyma hwynt yn y farchnad ac am bris rhesymol gan eu bod yn gynnyrch y wlad.

Beth y mae'r ddau frodor yn y fan hon yn ei wneud, dwedwch? Yn ôl eu dull a'i stŵr y maent fel pe'n cweryla â'i gilydd. Ond nid cweryla y maent, eithr dadlau am bris darn o ddefnydd. Dyna'i harfer ac er fod y ddadl yn boeth nid ydynt yn colli eu tymer. Yn wir, bron iawn nad yw'n well ganddynt y dadlau na'r prynu a'r gwerthu!

Fe welwch fod defnydd dillad o bob math a lliw yn cael ei ddangos. Dyma'r wraig hon yn yswatio ar y ddaear gynnes o dan ei 'umbrella' coch mawr. Y mae lliwiau o bob math o'i chylch. Gwerthu'r gwisgoedd a'r mentyll a wniodd ac a baratodd yn ei chartref y mae. Y mae ei pheiriant gwnio yn werthfawr iawn iddi.

Rhyfedd y nifer mawr o umbrellas agored sydd i'w gweled. Mor brydferth y maent yn eu gwahanol liwiau dan belydrau'r haul. Pebyll ar ddull umbrella' ydynt, hawdd. i'w gosod a'i symud a hawdd hefyd i weld y nwyddau oddi danynt.

Ceir pob math o bethau yn y farchnad . . . ffrwythau, dillad, dodrefn, bwydydd, blodau, a llu o bethau bychan o bob lliw a llun, hen a newydd.

Tybed beth y mae'r hen ŵr â'r farf hir yn y fan yma yn ei wneud? Y mae ei ford yn llawn llysiau, powdr, ennaint, a phethau o'r fath. Gwerthu meddyginiaeth frodorol y mae ac efallai yr â rhai o'r pethau a werthir ganddo ymhell oddi yma, hyd yn oed i law'r 'witch—doctor,' i'w defnyddio ar yr eilunod.

Clywch! Clywais lais yn gweiddi Lleidr!' Y mae cynnwrf mawr yn y fan draw yn y farchnad. Y mae'n fwy na thebyg bod rhywun wedi lladrata rhywbeth. Gwae iddo os caiff ei ddal! Fe gaiff gosfa nad anghofia mohoni ond gobeithio y bydd yn wers iddo i beidio â lladrata mwyach.

Cyn gadael y farchnad fe ddylem brynu rhywbeth i gofio am ein ymweliad. Fe awn i'r tŷ mawr ynghanol y farchnad. Yno fe werthir pob math o bethau—gwaith llaw'r brodorion. Wele sachell wedi ei gwneuthur o groen crocodil. A dyma gerflun tlws o wraig frodorol, y llestr dŵr ar ei phen a'i baban ar ei chefn. Y mae'r ddau beth cystal â dim y medrwn eu cael i'w cadw i gofio am ein ymweliad a'r farchnad fawr ym Madagascar.

Nodiadau

[golygu]