Am dro i Fadagascar/Yn y goedwig
| ← Mewn pentref | Am dro i Fadagascar gan Daniel Owen Jones |
Croesi'r llyn → |
IV. YN Y GOEDWIG.
Y MAE un o goedwigoedd mwyaf y byd ym Madagascar. Gadewch inni fynd i'w gweld.
Y mae'n rhy bell inni gerdded yno ac nid oes ond llwybr a hwnnw'n un gwael. Gan hynny fe gawn y brodorion i'n cario. Nid ar eu cefnau wrth gwrs ond mewn 'palanquin,' sef math o gadair wedi ei chysylltu yn gadarn rhwng dau bolyn gweddol hir. Y drefn arferol yw pedwar brodor i un 'palanquin,' dau y tu ôl a dau y tu blaen.
Fe eisteddwn, pob un ar ei gadair, fel y gall y cludwyr ein codi ar eu hysgwyddau a mynd â ni ar ein taith. Y mae cae! ein cario fel hyn yn esmwyth iawn ond rhaid inni fod yn ofalus wrth fynd i lawr llethr y bryn serth ar bwys y goedwig neu bydd perygl inni syrthio allan o'r 'palanquin.' Y pryd hwnnw rhaid fydd gafael yn dynn yn y naill ochr iddo.
Dyma ni wedi cyrraedd yn ddiogel. Beth yw'r coed prydferth yn y gors fan draw?—y coed sy'n ymddangos fel palmwydd. Yn wir, math o balmwydd ydynt—palmwydd raffia. Yn ôl pob tebyg o Madagascar y daw y raffia yr ydych yn gyfarwydd âg ef yn yr ysgol, a dyna'r coed y ceir ef ohonynt. Fe'i ceir o'r dail, sy'n ddigon tebyg i redyn, ond eu bod yn llawer mwy eu maint. Wrth gwrs, rhaid i'r brodorion eu trin, cyn y dônt ichwi yn y dull sy'n gyfarwydd ichwi. Y maent yn hynod o hwylus i wneuthur basgedi, hetiau, matiau, ac hyd yn oed defnydd dillad a phethau eraill. Y mae'n syndod gymaint o bambŵ sy'n tyfu ar gyffiniau'r goedwig ac mor dal a phrydferth y maent, â'i brigau yn plygu fel bwa. Dacw nyth ar ffurff esgid yn hongian ar frig un ohonynt. Dyna grud hyfryd i'r adar bach i gael eu siglo ynddo gan y gwynt!
Wele ddau frodor dieithr yn dod i'n cyfeiriad, pob un â'i faich. Tybed ai cario mêl gwyllt i'w werthu yn y farchnad y maent? Ceir digon ohono yn y goedwig. Fe ofynwn iddynt. Ie, mêl sydd ganddynt a dyma nhw yn ei ddangos inni. Yn ôl yr arferiad, y mae wedi ei osod mewn darnau brâs o bambŵ. Dyna boteli pobl y goedwig. Ni chostiant ddim iddynt namyn eu torri a'i paratoi, a gellir sicrhau eu bod yn lân o'r tu mewn. Fe gofiwch mai locustiaid a mêl gwyllt oedd bwyd Ioan Fedyddiwr. Digon tebyg ei fod yntau hefyd yn byw yn agos i goedwig fel hon.

Beth yw'r coed mawreddog fan draw a'i dail mawr fel bysedd llaw agored dywedwch? Palmwydd ydynt hwythau. Palmwydd a elwir palmwydd y teithiwr.' Fe roddwyd yr enw hwn iddynt oherwydd profasant lawer tro yn ffrindiau i deithwyr yn y goedwig drwy roddi iddynt o'r dŵr sydd arnynt i dorri eu syched. Cronna'r glaw neu'r gwlith oddi ar eu dail yng nghyswllt y ddeilen a'r boncyff, ac yno y mae i ddiwallu angen y balwydden yn ogystal ag i wneuthur cymwynas i'r teithiwr. Wele deithiwr yn sychedig yn y gwres ond nid oes ddŵr i'w weld yn unman. Ac yna gwêl yn y fan draw 'balmwydden y teithiwr' ac y mae'n cyflymu ei gamau. Wedi cyrraedd y fan a bwrw'i faich y mae'n ei dringo. A'i gyllell y mae'n tyllu'r rhisgl meddal. Ac ohono y llifa'r dŵr gloyw. Dyna lawenhau y mae ei galon wrth gael torri ei syched. Gellir galw plamwydden y teithiwr felly yn Samariad trugarog y goedwig.
Clywch. Dyna leisiau'r lemuriaid. Gadewch inni fynd i gyfeiriad y sŵn. Dacw nhw ym mrigau'r coed. O edrych arnynt y maent yn ddigon tebyg i'r mwnci a'r wiwer—rhywbeth rhwng y ddau—ond y mae'i lliwiau yn harddach ac yn amrywio mwy.
Mor rwydd a chyflym y llamant o goeden i goeden ac o gangen i gangen, a'r fam yn cario ei baban ar ei chefn. Y mae ei draed bach bron fel dwylo iddo ac felly gall gydio yn dynn a chadw ei le ar ei chefn er ei bod yn llamu'n chwim.
Y lemuriaid yw'r creaduriaid gwylltion mwyaf lluosog yn y goedwig ond y maent yn hollol ddiniwed yn eu cynefin rhamantus. Mewn caethiwed y maent yn fwy tueddol i ymosod. Ar y grawn a'r ffrwythau sydd yn y goedwig y maent yn byw. Yn ystod y dydd y maent yn weddol dawel ond yn y nos clywir eu sŵn, eu cri wylofus, o bell. O ran maint, y mwyaf ohonynt yw'r math a elwir 'babakoto. Y mae fel ci gweddol fawr. Y mae gan y brodorion bethau rhyfedd i'w dweud amdano ef. Dywedant ei fod pan wedi ei glwyfo, yn gwybod am y llysiau sydd yn feddyginiaeth a'i fod yn eu cnoi i'w gwneud yn ennaint i'w glwyf. Dywedant hefyd ei fod yn rhoddi gwers arbennig i'r babakoto bach i'w baratoi ar gyfer ei fywyd yn y goedwig. Gwna hynny, meddent hwy, drwy roddi cri arbennig i wahodd y babakotos eraill i ddod i'r fan y digwydd fod. Gosodant hwythau eu hunain yn gylch ar lawr y goedwig ac erys yntau ynghanol y cylch. Yna teifl y babakoto bach i un ohonynt a hwnnw drachefn i un arall, a hwnnw wedyn i un arall ac yn y blaen. Dyna, meddent, wers gyntaf y babakoto bach ar gyfer ei fywyd o neidio o goeden i goeden yn y goedwig fawr!
Yr unig greadur cas a pheryglus yn y goedwig yw'r crocodil ond, fel y mae'r gorau, ceidw ef i'r pyllau dŵr a'r afonydd. Ceir llawer o nadroedd ond nid oes eisiau eu hofni oblegid nid ydynt yn wenwynllyd iawn nac yn deuddol o ymosod ar neb. Nid yw'r brodorion yn hoffi lladd neidr oherwydd, fel y dywedant: Neidr a leddir ond nid oes ganddi ddwylo na thraed'—hynny yw, i amddiffyn ei hunan. Nid yn unig y maent ar delerau diofn â'r nadroedd ond y maent, yn y goedwig, yn falch o'i gweld yn dringo o dan do eu tai ac yn difa'r llygod ffrengig. Y rheini, yn ôl eu barn hwy, yw'r creaduriaid mwyaf dinistriol o bob creadur.
Cyn dychwelyd fe awn i'r pentref bach gerllaw ynghanol y coed Mor fychan yw'r tai ynddo. Y maent wedi eu gwneuthur o bambŵ ac wedi eu toi â dail mawr 'palmwydden y teithiwr.' Gwelir felly fod y balmwydden honno yn gwneuthur cymwynas arall i ddyn. Ond er mor fach yw'r tai y maent yn ddigon mawr ar gyfer anghenion syml y bobl, i fyw ynddynt y dydd ac i gysgu ynddynt y nos—i gysgu os caniatâ gwybed y nos, y mosquitoes, iddynt wneud hynny. Weithiau ym min yr hwyr fe welir y rhieni a'r plant yn yswatio ar y ddaear y tu allan tra byddo'r cartref yn llenwi o fwg oddi wrth y tân a gyneuwyd ynddo. Yna pan fo'n llawn o'r mwg ânt i mewn a chysgu ynddo. Gyrr y mwg y gwybed bychan poenus hynny allan ac y mae'n well ganddynt ddioddef y mwg na chael eu poeni ar hyd y nos ganddynt.
Mor wag yw'r pentref. Ble mae'r bobl tybed? Digon tebyg eu bod, rai ohonynt beth bynnag, ar eu planfeydd ac eraill, efallai, yn chwilio am fêl gwyllt yn y goedwig. Eithr wele un drws yn agored. Awn i weld pwy sydd i mewn. Fe ddilynwn yr arferiad a galw o'r tu allan: 'Oes 'ma rywun i mewn.?'
Hen wraig sydd yn y tŷ ac fe ddywed wrthym mai ei dyletswydd hi yw cadw'r un tân yn y pentref rhag diffodd, fel y gallo'r trigolion pan ddychwelant i'w cartrefi gael cynnau ohono. Mewn lle mor gyntefig ni ellir cael 'matches' ac felly y mae'n bwysig i ofalu na ddiffoddo un tân o leiaf.
Pe digwyddai hynny, byddai'n rhaid syrthio'n ôl ar y modd sydd ganddynt i gynnau tân o'r newydd Gwneir hynny drwy rwbio darn o bren sych ar bren arall, ei droi yn gyflym yn wir, nes cael gwreichion i danio'r borfa sych neu rywbeth cyffelyb a osodwyd yn gyfleus at y pwrpas. Cymerai hynny lawer gormod o amser pan fo'r bobl yn dyheu am eu pryd o reis ar ôl gweithio drwy'r dydd yn y caeau.
Erbyn hyn, yr ydym ninnau hefyd yn teimlo fel cael tamaid o rywbeth i'w fwyta, ac felly fe ddychwelwn.
A dyma'r 'palanquins' yn aros i'n cludo'n ôl.