Am dro i Fadagascar (testun cyfansawdd)
| ← | Am dro i Fadagascar (testun cyfansawdd) gan Daniel Owen Jones |
Pennod Nesaf → |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Am dro i Fadagascar |

Am dro i Fadagascar
gan
D. OWEN JONES, M.A.
Y darluniau o waith MITFORD DAVIES, yr Arlunydd.
Gaerwen, Sir Fôn.
LLUNDAIN

GWASG LIVINGSTONE
42 BROADWAY, WESTMINSTER
S.W.I.
RHAGAIR.
CEIR o leiaf dri rheswm dros inni gymryd diddordeb ym Madagascar. Y rheswm cyntaf yw fod ein cenhadon yn gweithio dros Iesu Grist yno. Buont yno ers blynyddoedd lawer a bendithiodd Duw eu gwaith yn rhyfeddol, fel bod llawer o'r brodorion heddiw yn Gristionogion. Dylid cofio er hynny bod llawer iawn o hyd yn baganiaid.
Yr ail reswm yw mai cenhadon o Gymru a aeth â'r Efengyl yn gyntaf i Madagascar. Y mwyaf adnabyddus ohonynt ydyw Dafydd Jones o Sir Aberteifi. Efe oedd yn flaenaf i sefydlu gwaith Iesu Grist yno. Llafuriodd yn galed ac erys ei enw 'Jonjy lava' (Jones tal) yn barchus iawn o hyd ar yr ynys.
A'r trydydd rheswm yw: mai ynys fawr ydyw Madagascar. Ar ynys yr ydych chwithau yn byw hefyd. Rhwng y ddwy ynys daw'r Affrica fawr. Felly, wrth wybod am Madagascar deuwn i wybod sut y maent yn byw yr ochr draw a dylem ddal ar bob cyfle i ddod i wybod am bobl eraill, eu ffordd o fyw a'i anghenion. Felly y medrwn wneud cymwynas â hwynt a'r gymwynas fwyaf yw danfon yr Efengyl. Yn sicr, dyna ddymuniad Iesu Grist ac fe welwch oddi wrth y storiau ar ddiwedd y llyfr fel y derbyniodd ac y gwerthfawrogodd pobl Madagascar y gymwynas honno.
Ysgrifennwyd y llyfr hwn gyda'r bwriad o ddwyn y wybodaeth wir angenrheidiol honno i chwi'r plant. Bydded iddo lwyddo i wneud hynny!
Dyletswydd bob amser, ac yn bleser yma, yw cydnabod cynorthwy pan y'i ceir. Dymuna'r awdur gan hynny ddiolch i'r Parch. Ted Lewis Evans, Llandudno, a fu mor garedig a mynd drwy'r llyfr a chywiro ei Gymraeg, yn ôl cais y Cyngor Cymreig iddo. Golygai hynny gryn dipyn o waith oherwydd rhydodd Cymraeg yr awdur yn fawr yn ystod yr amser hir y bu ym Madagascar. Teimla yn wir ddyledus iddo am ei gymorth parod a gwerthfawr.
Dymuna ddiolch hefyd i'r Arlunydd, Mr. Mitford Davies.
- BUSHEY, HERTS.,
- Awst, 1950.
CYNNWYS
I
I GWLAD YR HAUL
II AR Y FFORDD
III MEWN PENTREF
IV YN Y GOEDWIG
V CROESI'R LLYN
VI YN Y BRIF DREF
VII YN Y FARCHNAD
VIII GYDA'R CYNHAEAF
IX CREADURIAID GWYLLTION
X Y BOBL
XI Y PLANT
XII MEWN PENTREF PAGANAIDD
II
STORIAU
(1) RAPETO
(2) JAO
(3) RAIVO
(4) KOTO
(5) Y BICELL
Am dro i Fadagascar
I. GWLAD YR HAUL.
MYND am dro i Madagascar yng nghwmni un a fu'n byw yno am nifer o flynyddoedd, dyna a wnewch yn y llyfr bach hwn. Felly, i ffwrdd â ni! Y chwi mewn dychymyg a minnau drwy brofiad a gwybodaeth o'r wlad.
Y mae'n rhaid inni fynd ymhell dros y môr, y tu hwnt i drwyn Affrica, cyn cyrraedd yno.
A dyma ni wedi glanio ar yr ynys, un o'r ynysoedd mwyaf yn y byd. Mor hynod o boeth y mae! Dylem ofalu fod ein helmau ar ein pennau, oherwydd hebddynt bydd pelydrau'r haul yn siwr o'n taro'n enbyd. Cymaint y gwres fel y mae hyd yn oed cerdded yn araf yn peri i un chwysu, a phwy a feddyliai yn y fath boethder am ddechrau chwarae gêm a olygai llawer o redeg—fel chwarae pêl droed.
Hyd yn hyn yr ydym ar lan y môr, ond y mae canol yr ynys gryn dipyn yn uwch ei harwynebedd ac y mae'r hinsawdd yno yn weddol bleserus. Y mae awel yr ucheldir yn tymheru y gwres. Awn yno gynted a gallwn. Diolch fod trên ar gael i fynd â ni. Golyga ddiwrnod cyfan o deithio ond bydd yn daith hynod o ramantus oblegid byddwn yn dringo i fyny drwy'r goedwig fawr. Eithr er cyrraedd cofiwn na chawn wared llwyr o'r gwres. Bydd yr haul poeth yno hefyd.
Gwlad yr haul yw Madagascar a nemor ddiwrnod yn ystod y flwyddyn nad oes ddigon ohono. Yr enw a ddefnyddia'r brodorion am yr haul yw 'masoandro' (llygad y dydd) a'r nos yn unig sy'n cau y llygad mawr hwnnw. Y maent mor sicr ohono fel ei fod yn awrlais iddynt. Mynega codiad haul iddynt hwy chwech o'r gloch y bore. Pan fydd yn union uwchben eu tai y mae'n ganol ddydd iddynt. Wedi iddo ddechrau cipio i mewn trwy'r drws dyna hi yn un o'r gloch a phan fo'n machlud bydd yn chwech o'r gloch yn y prynhawn. A dyna ddiwrnod Madagascar—o chwech o'r gloch hyd chwech o'r gloch, ac y mae bron yr un hyd drwy'r flwyddyn.
Yr amser poethaf o'r flwyddyn yw oddeutu'r Nadolig. Mor wahanol yw hyn yn eich gwlad chwi ynte? Yr adeg honno byddwch chwi yn disgwyl gweled eira ac efallai rhew ar y dŵr. Yr wyf yn siwr y bydd yn ddigon oer i wneud tân yn angenrheidiol i'ch cynhesu yn eich cartrefi.
Ond yma ceir haul yn disgleirio ar hyd a lled y wlad ac nid yw'r brodorion erioed wedi gweled eira na rhew ar ddŵr, ac nid oes byth angen tân arnynt i'w cynhesu yn eu cartrefi.
A dyma wahaniaeth mawr arall rhwng yma a Chymru.
Yng Nghymru, fel y gwyddoch, fe geir pedwar tymor. Yma nid oes ond dau dymor yn y flwyddyn sef y tymor sych a'r tymor gwlyb, a'r naill a'r llall ohonynt yn parhau am chwe' mis. Y tymor sych a ddaw rhwng Ebrill a Medi yw'r gaeaf, a'r pryd hwnnw bydd y gwres yn ogystal a'r sychter yn troi'r tyfiant ar y bryniau yn llwytgoch, a pheri i'r ddaear fod yn galed o dan draed. Y mae'r ynys y tymor hwn fel byd marw, neb yn gweithio yn y caeau na dim yn tyfu ar y planfeydd.
Edrychwch! Y mae'r bryniau ar dân, tân fan hyn a thân fan draw, nes goleuo'r nos am filltiroedd oddi amgylch. Beth yw'r rheswm tybed? Ai rhywun â bwriad câs ganddo sydd wedi rhoi y tyfiant sych ar dân? Na, nid hynny ond paratoi y mae'r bobl ar gyfer y tymor gwlyb. Y mae'r tân i gyd o dan reolaeth fel nad oes berygl iddo gyrraedd pentrefi'r ardal.
Llosgi'r hen dyfiant a wnant ac yna pan ddaw'r glaw bydd tyfiant newydd yn egino yn lludw'r hen a bydd yn llawer melysach ac yn fwy moethus i'r anifeiliaid, sef yr ychen. Rhaid gofalu amdanynt hwy oherwydd dyna brif gyfoeth y bobl. Os ydych am wybod pa mor gyfoethog yw rhywun, na ofynwch faint o arian sydd gan neb yn y banc, ond faint o ychen sydd ganddo.
Erbyn hyn y mae'r tymor gwlyb wedi dechrau. Bydd yn parhau o ddiwedd Medi hyd ddechrau Ebrill, a dyna hâf Madagascar. Pair i'r byd marw i adfywio yn gyflym. Y mae'n rhyfedd mor sydyn yw'r cyfnewidiad a welir! Dengys natur ei gwisg brydferth a gwelir y lliwiau eisoes fel pe'n cystadlu â'i gilydd i ddwyn mwynhad a phleser i'r rhai sydd à llygad ganddynt i weled. Daw'r glaw ar derfyn y dydd tua machlud haul a phery am ychydig oriau. Daw gan arllwys i lawr a gwae y neb sydd a tho ei dŷ heb fod yn barod i'w dderbyn! Llifa i lawr ochr y bryn gan gario o'i flaen bopeth a ddigwydd fod yn ei gwrs a rhyfedd y dwndwr sydd ganddo. Clywch! Dyna sŵn sydd gan y rhaeadr wrth ruthro obry! Ond peidiodd y glaw am heno. Gan hynny, gadewch inni fyned allan i'r ardd.
Dacw rywbeth fel gwreichion tân dan bwys yr awel, uwchben y blodau. Beth ydynt, dywedwch? Dyna'r gwybed-tân (fire-flies). Y mae'n debyg eich bod wedi gweld cyn hyn fagien yn disgleirio yn y clawdd fin hwyr ar ôl cawod. Wele rywbeth o'r un natur ond ei fod yn gallu hedfan. Edrychwch, y maent yn hedfan yn y coed fan draw hefyd. Mor brydferth y maent ar eu hynt disglair—fel darlun gwych ar fantell y nos! Pe gallem ddal tair neu bedair ohonynt a'i gosod mewn blwch gwydr fe roddent ddigon o oleuni inni fedru darllen oddi wrtho.
Gwrandewch! A glywch y sŵn uchel crychiaidd yna—fel math o chwiban? Dyna lais y pryf bychan a elwir 'jorery.' Creadur bach tymor y glaw ydyw yntau hefyd. Fe wna'r swn yna drwy rwbio'i adenydd ar ei ochrau. Saif ar y planhigyn ac heb iddo symud bron o'r fan fe â ei lais yn groes i'r dyffryn. Felly, meddai'r brodorion, y mae'r ymffrostiwr fel y 'jorery'—â llais mawr ond nid oes fawr o symud ynddo i weithio.
Y mae dwndwr mawr gan y brogaod heno hefyd! Oes, y mae digon ohonynt yn y corsydd a'r caeau reis. Ni chlywir hwynt yn ystod y tymor sych ond pan ddaw'r glaw y mae ganddynt y mwstwr rhyfeddaf.
Beth oedd yr aderyn mawr yna a ehedodd uwchben yn araf gynnau? Nid aderyn oedd, ond math o ystlum. Gelwir ef yn Saesneg 'flying fox,' ac yn ffurff ei ben y mae'n ddigon tebyg i gadno ac, fel y cadno, chwilia am ei fwyd yn y nos. Er hynny, nid ieir neu hwyaid yw ei fwyd ef ond ffrwythau. Nid oes traed ganddo ond ar flaen ei adain y mae ganddo fath o fach a phan nad yw'n hedfan crogi a wna, crogi ar ganghennau'r coed a diwallu ei hun ar y gwahanol ffrwythau. A chan mai y tymor gwlyb yw amser y ffrwythau y mae yntau hefyd yn falch iawn o gael y glaw.
II. AR Y FFORDD.
YR ydym yn awr, wrth gwrs, ynghanol yr ynys. Y mae'r ffyrdd yn well a gallem ddisgwyl hynny gan ein bod yn ardal y brif dref.
Gadewch inni fyned am dro drwy'r ardal ac allan i'r wlad. Rhaid cael rhywbeth i'n cario oblegid y mae'r gwres yma hefyd yn ormod inni fedru cerdded am unrhyw bellter er nad ydyw agos mor boeth a phan oeddym wrth ymyl y môr. Ie, fe awn mewn un o'r cerbydau-llaw sydd mor gyffredin yma.
Clywch! Y mae'r brodor yn y fan acw yn galw 'Pws-pws, pws-pws!' Tybed ai galw ar y gath y mae? Nage, nid hynny. Dyna enw'r cerbyd-llaw sydd ganddo i'w hurio, ac y mae'n galw fel yna er mwyn ein gwahodd i hurio ei gerbyd.
Dyma fe inni a dau frodor cryf, un i arwain a'r llall i wthio o'r tu ôl. Tybed ai o'r Saesneg 'push' y cawsant yr enw? Efallai. Gadewch inni eistedd ynddo fel y gallant fynd â ni i'r cyfeiriad a ddywedais wrthynt.
Y maent yn awyddus i gychwyn, beth bynnag, fel y gwelwn oddi wrth eu dull heini o drin y cerbyd. Sut y maent yn gallu rhedeg ar ffordd mor arw, ffordd â chymaint o gerrig arni, a hwythau yn droednoeth? Y maent yn ddigon cyfarwydd. Y maent wedi arfer cymaint fel bod croen gwadnau eu traed wedi myned fel lledr.
Wele ni yn pasio nifer o geirt-ych ar y ffordd i'r farchnad. Y mae pâr o ychen i bob cart ond nid oes ond un llorp, a honno yn hongian wrth yr iau ar eu gyddfau. Fe welwch fod y brodor sydd yn arwain yn eistedd y tu ôl i'r ychen. Oddi yno, drwy roddi ambell dro i'w cynffonnau a'i tynnn hefyd yn awr ac yn y man, y mae'n ei cael i fynd fel ac i ble y mynno. Mor araf y symudant! Ie, dyna ddull y wlad fel y gallech ddisgwyl mewn gwlad mor boeth. Y mae'r bobl yn ogystal â'r ychen yn araf ond byddant yn siwr o gyrraedd y farchnad mewn pryd gan eu bod yn trefnu eu hamser ymlaen llaw a gofalu bod digonedd ohono ganddynt. Byddant weithiau ddau neu dri diwrnod ar y ffordd. Fel y gwelwch y mae pen ar y cart ac ynddo y cysgant dros y nos oni fo tŷ yn gyfleus. Ychen ac nid ceffylau a ddefnyddir ar yr ynys. Ychen i dynnu, ychen i gario ac i farchogaeth. Dysgir yr ych i benlinio fel y gall y marchog ddringo yn rhwydd ar ei gefn. Weithiau cyfyd yn sydyn a charlamu i ffwrdd. Dyna'r profiad a gefais i unwaith, ond drwy ffawd dda yr oedd y ddaear lle y disgynnais arni yn weddol feddal! Dyna'r tro cyntaf a'r olaf imi geisio marchogaeth ych! Fe welwch fod yr ychen yn greaduriaid mawr a chrwmach, fel y camel, ar eu hysgwyddau. Dacw frodor a pholyn yn groes i'w ysgwydd a baich trwm ar y naill ben iddo. Y mae yntau hefyd yn mynd i'r farchnad.

Bambŵ trwchus yw'r pren cario a chan ei fod yn plygu ychydig dan y pwysau y mae'n esmwythach i'w ysgwydd noeth. Pan flino un ysgwydd gall symud ei fambŵ a'r ddau faich arno i'r ysgwydd arall heb gyffwrdd ag ef â'i law. Y mae mor gyfarwydd â chario fel yna fel y gall wneud hynny. Fe welwch hefyd fod ei war yn crymu ac mai math o drotian araf i'w ei gerdded. Y mai hynny'n llai blinedig iddo. Fel y gloewa'i groen cochddu, chwyslyd, dan belydrau'r haul poeth. Gwaith caled yw iddo ac am ychydig iawn dâl. Druan ohono!
A welwch-chi'r aderyn mawr acw, math o greyr, yn y gors fan draw? Coch-ddu yw ei liw ac y mae braidd yn hagr ei olwg. 'Takatra' yw ei enw. Y mae ei nyth mawr, tebyg i faich o goed tân, ar fforch y goeden fawr gerllaw, ar ymyl y gors. Cred y brodorion os mentra undyn ddinistrio ei nyth y tarewir hwnnw gan y gwahanglwyf a byddai hynny, yn ôl eu tyb hwy, yr anlwc truenusaf posibl a allai ddigwydd. Credant hefyd os digwydd i'r aderyn hedfan yn groes i lwybr rhywun sydd ar daith y bydd hynny yn siŵr o ddwyn anlwc gas i'r person os deil i fynd ymlaen ar y llwybr hwnnw. Felly er mwyn osgoi yr anlwc rhaid iddo chwilio am lwybr arall neu ddychwelyd. Er hynny, aderyn hollol ddiniwed ydyw. Cred ffôl y bobl sy'n cysylltu y fath anlwc ag ef.
Y mae llawer o'r hen gredoau ffôl hynny ym Madagascar, yn enwedig yn y rhannau paganaidd fel y gellir disgwyl. Dygant lawer o ofn a phryder i'r rhai sydd o dan eu dylanwad. Un lles mawr a ddug yr Efengyl i'r bobl yw eu galluogi i gael gwared ohonynt.
III. MEWN PENTREF.
FE awn heddiw i dalu ymweliad ag un o bentrefi Madagascar. Dacw'r pentref yn sefyll ar ochr bryn gweddol uchel. Coch yw ei liw. Dyna un enw a roddir i Fadagascar: Yr Ynys Goch. Gelwir hi felly oherwydd mai coch yw lliw'r ddaear yn y rhan fwyaf o'r ynys a chan fod y tai yn y rhan— barth hwn ohoni wedi eu gwneuthur o'r pridd y maent hwythau hefyd o'r un lliw.
Pan syrth pelydrau'r haul wrth fachlud ar y tai gloewant fel marwor eirias yng nghesail y bryn. Y pryd hwnnw, o edrych arnynt yn groes i'r dyffryn, y maent yn brydferth iawn, ond ar ôl cyrraedd y pentref ychydig o brydferthwch a welir.
Tai bychan cwbl debyg i'w gilydd sydd yno a phopeth yn hynod gyffredin.
Dyma ni wedi cyrraedd y pentref, Gadewch inni fyned i mewn i un o'r tai. Nid yw'n arferiad i guro ar y drws ond yn hytrach i alw: 'Oes 'ma rywun i mewn?' a phan ddaw'r ateb nid yw ychwaith yn arferiad i fynd i mewn ar unwaith. Rhaid rhoddi peth amser i wraig y tŷ i osod pethau yn daclus cyn ein derbyn. Cedwir mat glân wedi ei rolio mewn congl o'r ystafell ac y mae'n disgwyl cael digon o amser i osod hwnnw ar y llawr beth bynnag. Dyma hi yn awr yn dod i'n croesawu. Dywed 'Mba mandrosoa!' (os gwelwch yn dda, dewch i mewn).
Rhaid inni beidio ag edrych i mewn i'r ystafell ar y llawr oherwydd yn y fan honno y cedwir y reis, basgedi, rhawiau, a phethau felly. Y mae'n ein harwain i fyny i'r ystafell uwchben. Mor syml yw'r ystafell! Mor ychydig o ddodrefn sydd ynddi—dim ond cadair neu ddwy a gwely ar bwys y mur—matiau cysgu ar y llawr sydd i'r plant—ac un ford. Nid fod angen y ford i fwyta oddi arni oblegid oddi ar fat i'r pwrpas ar y llawr y gwneir hynny. Dyma'r ystafell y mae'r teulu yn byw ynddi y dydd ac yn cysgu ynddi y nos. Fe welwch nad oes lle i dân yma. Dim ond tân i goginio sydd eisiau ac y mae hwnnw yn uwch i fyny eto, sef o dan do y tŷ. Y mae'r tân yno fel y gall y mwg fynd allan yn rhwydd drwy fargod y to oblegid nid oes simneiau i'r tai hyn.
Beth yw'r peth hwn y tu allan yn y fan yma? Dyna wasg y pren siwgr. Y ddau bren crwn yna y maent yn eu troi gyferbyn â'i gilydd-rhywbeth tebyg i manglesydd yn gwasgu'r sudd allan o'r pren siwgr. Y mae'r sudd yn caledu yn gyflym a bydd yn barod i'w werthu yn dalpiau yn y farchnad.
Dacw'r pren siwgr yn tyfu fan draw, cnwd go dda ohono, ac yn debyg i balmwydd. Y mae'r plant yn hoff ohono a gwelir hwynt yn aml yn cnoi darn o'r pren siwgr ac yn mwynhau ei felyster yn fawr iawn. Y mae'n gofyn cael dannedd pur dda i'w falu a chael y sudd ohono.
Y mae gan y brodorion ddihareb a ddywed: 'Llawer y prennau, ond y pren siwgr yn unig sydd felys.' Defnyddiant y ddihareb i ddangos rhagoriaeth un peth dros beth arall, fel pe byddem yn dweud: 'Llawer y llyfrau, ond y Beibl yw'r llyfr gorau.'
Dyma stori fach am bren siwgr. Un diwrnod aeth Koto â cheiniog o'r ychydig arian oedd gan ei fam yn guddiedig o dan y mat, a gwnaeth hynny heb yn wybod iddi. Aeth a'r geiniog i'r siop fach a gadwai hen wraig, i brynu pren siwgr, ac oddi yno aeth gartref gan edrych ymlaen at fwynhau ei hunan â'i geiniogwerth melys. Gwelodd ei fam ef ac ar ôl ei holi a chyfrif ei harian oedd dan y mat, daeth i wybod pa fath geiniog oedd wedi talu'r pris am y pren siwgr. Y funud nesaf yr oedd y pren hwnnw yn bastwn ar ei gefn a throdd y pren melys yn bren chwerw iawn i Koto!
Ond yr oeddych yn gofyn paham nad oes plant i'w gweled yn y pentref. Cofiwch mai dydd Sadwrn ydyw a dyna'r diwrnod golchi yma. Dillad gwynion sy'n arferol ac y mae'r bobl am iddynt fod yn berffaith wyn i fynd i'r cwrdd yfory. Nid ydynt yn golchi yn eu carterfi ond yn yr afon neu ble bynnag y mae dŵr yn gyfleus. Fe aeth y mamau yn fore heddiw, pob un â baich o ddillad brwnt ar ei phen, i ymyl yr afon ac aeth y plant gyda hwynt. Pe dringem i ben y bryn fe welem oddi yno fod glan yr afon yn wyn gan dillad wedi eu taenu i sychu yn yr haul poeth ac fe welem hefyd y plant yn chwarae yn y dŵr neu ar y glaswellt yn ymyl.
Gwelir un peth ar bwys bron pob pentref fel hwn, sef ffald—ychen. Dacw hi yn y fan draw—man ysgwâr wedi ei amgau a phorth i'r ychen i fyned i mewn ac allan ohoni. Yn y fan yna y cedwir yr ychen dros y nos.
Ceir hanes trist yn gysylltiedig a'r ffald-ychen. Yn yr amser gynt, cyn i'r cenhadon ddod i'r wlad, yr oedd gan y brodorion arferiad gwael a thruenus ynglŷn â'i plant oedd wedi eu geni, yn ôl eu cred gyfeiliornus, ar ddiwrnod y tybient oedd yn anlwcus. Arferent eu rhoi i farwolaeth a'r modd y gwnaent hynny oedd eu gadael ar drothwy'r ffald fel y byddai'r ychen yn damsang arnynt wrth iddynt fynd i mewn. Trueni meddwl fod miloedd o blant bach Madagascar wedi trengi wrth borth y ffald-ychen oherwydd y fath gred ffôl a thywyll.
Erbyn hyn y mae'r Efengyl wedi goleuo y bobl yn yr ardaloedd lle'r arferent wneuthur hynny. Y maent yn gwybod yn well erbyn heddiw. Felly y mae Iesu Grist, drwy Ei Efengyl, wedi profi Ei Hunan yn Gyfaill a Gwaredwr i blant bach Madagascar.
IV. YN Y GOEDWIG.
Y MAE un o goedwigoedd mwyaf y byd ym Madagascar. Gadewch inni fynd i'w gweld.
Y mae'n rhy bell inni gerdded yno ac nid oes ond llwybr a hwnnw'n un gwael. Gan hynny fe gawn y brodorion i'n cario. Nid ar eu cefnau wrth gwrs ond mewn 'palanquin,' sef math o gadair wedi ei chysylltu yn gadarn rhwng dau bolyn gweddol hir. Y drefn arferol yw pedwar brodor i un 'palanquin,' dau y tu ôl a dau y tu blaen.
Fe eisteddwn, pob un ar ei gadair, fel y gall y cludwyr ein codi ar eu hysgwyddau a mynd â ni ar ein taith. Y mae cae! ein cario fel hyn yn esmwyth iawn ond rhaid inni fod yn ofalus wrth fynd i lawr llethr y bryn serth ar bwys y goedwig neu bydd perygl inni syrthio allan o'r 'palanquin.' Y pryd hwnnw rhaid fydd gafael yn dynn yn y naill ochr iddo.
Dyma ni wedi cyrraedd yn ddiogel. Beth yw'r coed prydferth yn y gors fan draw?—y coed sy'n ymddangos fel palmwydd. Yn wir, math o balmwydd ydynt—palmwydd raffia. Yn ôl pob tebyg o Madagascar y daw y raffia yr ydych yn gyfarwydd âg ef yn yr ysgol, a dyna'r coed y ceir ef ohonynt. Fe'i ceir o'r dail, sy'n ddigon tebyg i redyn, ond eu bod yn llawer mwy eu maint. Wrth gwrs, rhaid i'r brodorion eu trin, cyn y dônt ichwi yn y dull sy'n gyfarwydd ichwi. Y maent yn hynod o hwylus i wneuthur basgedi, hetiau, matiau, ac hyd yn oed defnydd dillad a phethau eraill. Y mae'n syndod gymaint o bambŵ sy'n tyfu ar gyffiniau'r goedwig ac mor dal a phrydferth y maent, â'i brigau yn plygu fel bwa. Dacw nyth ar ffurff esgid yn hongian ar frig un ohonynt. Dyna grud hyfryd i'r adar bach i gael eu siglo ynddo gan y gwynt!
Wele ddau frodor dieithr yn dod i'n cyfeiriad, pob un â'i faich. Tybed ai cario mêl gwyllt i'w werthu yn y farchnad y maent? Ceir digon ohono yn y goedwig. Fe ofynwn iddynt. Ie, mêl sydd ganddynt a dyma nhw yn ei ddangos inni. Yn ôl yr arferiad, y mae wedi ei osod mewn darnau brâs o bambŵ. Dyna boteli pobl y goedwig. Ni chostiant ddim iddynt namyn eu torri a'i paratoi, a gellir sicrhau eu bod yn lân o'r tu mewn. Fe gofiwch mai locustiaid a mêl gwyllt oedd bwyd Ioan Fedyddiwr. Digon tebyg ei fod yntau hefyd yn byw yn agos i goedwig fel hon.

Beth yw'r coed mawreddog fan draw a'i dail mawr fel bysedd llaw agored dywedwch? Palmwydd ydynt hwythau. Palmwydd a elwir palmwydd y teithiwr.' Fe roddwyd yr enw hwn iddynt oherwydd profasant lawer tro yn ffrindiau i deithwyr yn y goedwig drwy roddi iddynt o'r dŵr sydd arnynt i dorri eu syched. Cronna'r glaw neu'r gwlith oddi ar eu dail yng nghyswllt y ddeilen a'r boncyff, ac yno y mae i ddiwallu angen y balwydden yn ogystal ag i wneuthur cymwynas i'r teithiwr. Wele deithiwr yn sychedig yn y gwres ond nid oes ddŵr i'w weld yn unman. Ac yna gwêl yn y fan draw 'balmwydden y teithiwr' ac y mae'n cyflymu ei gamau. Wedi cyrraedd y fan a bwrw'i faich y mae'n ei dringo. A'i gyllell y mae'n tyllu'r rhisgl meddal. Ac ohono y llifa'r dŵr gloyw. Dyna lawenhau y mae ei galon wrth gael torri ei syched. Gellir galw plamwydden y teithiwr felly yn Samariad trugarog y goedwig.
Clywch. Dyna leisiau'r lemuriaid. Gadewch inni fynd i gyfeiriad y sŵn. Dacw nhw ym mrigau'r coed. O edrych arnynt y maent yn ddigon tebyg i'r mwnci a'r wiwer—rhywbeth rhwng y ddau—ond y mae'i lliwiau yn harddach ac yn amrywio mwy.
Mor rwydd a chyflym y llamant o goeden i goeden ac o gangen i gangen, a'r fam yn cario ei baban ar ei chefn. Y mae ei draed bach bron fel dwylo iddo ac felly gall gydio yn dynn a chadw ei le ar ei chefn er ei bod yn llamu'n chwim.
Y lemuriaid yw'r creaduriaid gwylltion mwyaf lluosog yn y goedwig ond y maent yn hollol ddiniwed yn eu cynefin rhamantus. Mewn caethiwed y maent yn fwy tueddol i ymosod. Ar y grawn a'r ffrwythau sydd yn y goedwig y maent yn byw. Yn ystod y dydd y maent yn weddol dawel ond yn y nos clywir eu sŵn, eu cri wylofus, o bell. O ran maint, y mwyaf ohonynt yw'r math a elwir 'babakoto. Y mae fel ci gweddol fawr. Y mae gan y brodorion bethau rhyfedd i'w dweud amdano ef. Dywedant ei fod pan wedi ei glwyfo, yn gwybod am y llysiau sydd yn feddyginiaeth a'i fod yn eu cnoi i'w gwneud yn ennaint i'w glwyf. Dywedant hefyd ei fod yn rhoddi gwers arbennig i'r babakoto bach i'w baratoi ar gyfer ei fywyd yn y goedwig. Gwna hynny, meddent hwy, drwy roddi cri arbennig i wahodd y babakotos eraill i ddod i'r fan y digwydd fod. Gosodant hwythau eu hunain yn gylch ar lawr y goedwig ac erys yntau ynghanol y cylch. Yna teifl y babakoto bach i un ohonynt a hwnnw drachefn i un arall, a hwnnw wedyn i un arall ac yn y blaen. Dyna, meddent, wers gyntaf y babakoto bach ar gyfer ei fywyd o neidio o goeden i goeden yn y goedwig fawr!
Yr unig greadur cas a pheryglus yn y goedwig yw'r crocodil ond, fel y mae'r gorau, ceidw ef i'r pyllau dŵr a'r afonydd. Ceir llawer o nadroedd ond nid oes eisiau eu hofni oblegid nid ydynt yn wenwynllyd iawn nac yn deuddol o ymosod ar neb. Nid yw'r brodorion yn hoffi lladd neidr oherwydd, fel y dywedant: Neidr a leddir ond nid oes ganddi ddwylo na thraed'—hynny yw, i amddiffyn ei hunan. Nid yn unig y maent ar delerau diofn â'r nadroedd ond y maent, yn y goedwig, yn falch o'i gweld yn dringo o dan do eu tai ac yn difa'r llygod ffrengig. Y rheini, yn ôl eu barn hwy, yw'r creaduriaid mwyaf dinistriol o bob creadur.
Cyn dychwelyd fe awn i'r pentref bach gerllaw ynghanol y coed Mor fychan yw'r tai ynddo. Y maent wedi eu gwneuthur o bambŵ ac wedi eu toi â dail mawr 'palmwydden y teithiwr.' Gwelir felly fod y balmwydden honno yn gwneuthur cymwynas arall i ddyn. Ond er mor fach yw'r tai y maent yn ddigon mawr ar gyfer anghenion syml y bobl, i fyw ynddynt y dydd ac i gysgu ynddynt y nos—i gysgu os caniatâ gwybed y nos, y mosquitoes, iddynt wneud hynny. Weithiau ym min yr hwyr fe welir y rhieni a'r plant yn yswatio ar y ddaear y tu allan tra byddo'r cartref yn llenwi o fwg oddi wrth y tân a gyneuwyd ynddo. Yna pan fo'n llawn o'r mwg ânt i mewn a chysgu ynddo. Gyrr y mwg y gwybed bychan poenus hynny allan ac y mae'n well ganddynt ddioddef y mwg na chael eu poeni ar hyd y nos ganddynt.
Mor wag yw'r pentref. Ble mae'r bobl tybed? Digon tebyg eu bod, rai ohonynt beth bynnag, ar eu planfeydd ac eraill, efallai, yn chwilio am fêl gwyllt yn y goedwig. Eithr wele un drws yn agored. Awn i weld pwy sydd i mewn. Fe ddilynwn yr arferiad a galw o'r tu allan: 'Oes 'ma rywun i mewn.?'
Hen wraig sydd yn y tŷ ac fe ddywed wrthym mai ei dyletswydd hi yw cadw'r un tân yn y pentref rhag diffodd, fel y gallo'r trigolion pan ddychwelant i'w cartrefi gael cynnau ohono. Mewn lle mor gyntefig ni ellir cael 'matches' ac felly y mae'n bwysig i ofalu na ddiffoddo un tân o leiaf.
Pe digwyddai hynny, byddai'n rhaid syrthio'n ôl ar y modd sydd ganddynt i gynnau tân o'r newydd Gwneir hynny drwy rwbio darn o bren sych ar bren arall, ei droi yn gyflym yn wir, nes cael gwreichion i danio'r borfa sych neu rywbeth cyffelyb a osodwyd yn gyfleus at y pwrpas. Cymerai hynny lawer gormod o amser pan fo'r bobl yn dyheu am eu pryd o reis ar ôl gweithio drwy'r dydd yn y caeau.
Erbyn hyn, yr ydym ninnau hefyd yn teimlo fel cael tamaid o rywbeth i'w fwyta, ac felly fe ddychwelwn.
A dyma'r 'palanquins' yn aros i'n cludo'n ôl.
V. CROESI'R LLYN
BYDD yn brofiad diddorol i groesi'r llyn mawr—y llyn sydd a'i led yn saith milltir. Yr unig ffordd gyfleus i wneud hynny yw mewn canŵ ac fe awn yn yr un mwyaf y gallwn ei gael. Dyma un digon mawr i gario dwsin o bobl. Gwnaed ef o un darn mawr o bren, bonyn coeden fawr o'r goedwig. Yr oedd yn gryn orchest i'r brodorion i'w wneuthur heb ddim ond cyllell a bwyell ganddynt at y gwaith. Rhaid oedd iddynt ei losgi i'w gafnio a'i gael i ddull cwch. Er mor hir a chul yw nid oes raid inni ofni mynd ynddo. Y mae'r ddau frodor sydd i eistedd ar y naill ben iddo yn ddigon cyfarwydd â'i gwaith, ac y mae pob un â'i rwyf yn barod i gychwyn. Ond rhaid inni ofalu peidio â sefyll pan ar y dŵr neu bydd perygl iddo droi a'n taflu i'r llyn. Byddai hynny'n anffawd ddirfawr inni ond yn elw mawr i'r crocodiliaid!
Nid yw'r creaduriaid rheibus hynny ar hyd a lled y llyn eithr mewn mannau neilltuol yn unig. Fe awn i gyfeiriad un o'r cyfryw fannau i gael cipolwg arnynt.
Beth y mae'r brodor yn y fan acw yn ei wneud tybed?
Ymddengys fel pe na byddai'n gwneuthur dim namyn eistedd yn ei ganŵ bach. Aros a gwylio y mae. Y foment y gwêl fwrlwm yn dod i wyneb y dŵr y mae'r cyfle wedi dod iddo, oblegid arwydd yw hynny iddo fod yno lysywen yn y llaid ar waelod y llyn. Yna â'i holl egni fe yrr ei bicell i lawr ac yn amlach na pheidio fe ddeil lysywen fawr. Y mae'r llyn yn enwog am ei lysywenod ac y maent yn llawer mwy eu maint na'r rhai a geir yn eich gwlad chwi. Ystyrir ei cig yn gig moethus iawn gan y brodorion.
Dacw frodor arall yn y fan draw. Pysgota y mae yntau hefyd, ond nid yw'n gwylio am lysywenod. Gwelwch fel y mae'n curo wyneb y llyn â phen ei wialen fer. Mor wahanol ei ddull i bysgotwr yng Nghymru! Pe bai ef yn gwneuthur fel y gwna hwn fe fyddai'n siŵr o anfon y pysgod i gyd i ffwrdd! Ie, ond y mae'n rhaid inni gofio fod y pysgod yma yn wahanol hefyd. Pysgod yn byw yn llaid y llyn sydd yma ac wrth iddo guro'r dŵr deuant allan o'r llaid i weld, fel pe tae, beth sy'n aflonyddu'r dŵr, a chânt eu temtio y pryd hwnnw gan yr abwyd a welant yn hongian uwchben! Yn wir, dyna fo wedi dal un sy'n ymddangos o'r fan hon yn bysgodyn pur fawr!
Canŵ bach, digon o faint i'w gario ef ei hun, yw ei ganŵ ef. Canŵ i gadw at fin y llyn a byddai'n rhy beryglus o lawer iddo fentro ceisio croesi'r llyn ynddo.

Dyma ni o'r diwedd wedi cyrraedd yn agos i'r fan y mae'r crocodiliaid yn llechu. Fe arhoswn yn y fan hon. Yr ydym yn gwbl ddiogel yma. Geilw'r brodorion y rhan yma o'r llyn: Saha-boay' (ardal y crocodiliaid) oherwydd eu bod mor luosog yma. A welwch-chi bethau tebyg i ddarnau o bren ar wyneb y llyn yn y fan acw? Dyna nhw. Pan fo'r crocodil yn y dŵr ni welir ond ei drwyn hir megis yn gorwedd ar wyneb y llyn, ond wrth fôn y trwyn y mae dau lygad llym a chraff yn gwylio, gwylio o hyd. Y pryd hwnnw y mae ei gorff hir, ei grafangau llym, a'i gynffon hir a nerthol yn guddiedig dan y dŵr. Pan fo allan o'r llyn y mae'n cysgu yn yr haul poeth ar y graean neu'r borfa ar bwys. Weithiau yn y llyn ac weithiau allan ohono ar ei lan, dyna ei ddull ef o fyw.
Fe awn yn nes i'r tir ac efallai y medrwn ei weld. Rhaid inni gadw'n weddol dawel a rhaid i'r ddau frodor dynnu ar y rhwyfau mor ddistaw ag sy'n bosibl iddynt er mwyn peidio â'i ddeffro os digwydd iddo fod gerllaw.
Dacw fo yn y fan draw. Fe welwch ei fod bron yr un lliw â'r graean y mae'n gorwedd arno. 'R wy'n siŵr eich bod yn sylwi hefyd fod ei geg fawr yn agored. Dyna ei arfer pan fo'n cysgu ac ar ei bwys fe welwch fod dau neu dri o adar mawr. Weithiau byddant yn bwrw'i pigau hirion y tu mewn i'w geg agored ac yn ymborthi ar yr hyn a gânt yno—microbes' meddai'r rhai sy'n ceisio deall pethau o'r fath. Y mae'n ddigon bodlon i ganiatáu iddynt wneuthur hynny iddo ond pe byddai unrhyw aderyn arall yn mentro yn agos ato byddai'n ei ddifa ar unwaith. Ond y mae ar delerau da â'r adar hyn a dyna paham y gelwir hwy gan bobl glannau'r llyn yn 'Sakaizamboay' (cyfaill y crocodil).
Tybiaf eich bod am wybod beth yw bwyd y crocodil. Wel, bron pob creadur a ddaw o fewn cyrraedd iddo—yr ychen a ddaw i yfed o'r llyn, y moch sy'n chwilio am fwyd yn yr hesg, yr adar gwylltion ar y llyn ac weithiau wrth gwrs ambell i frodor na fu'n ddigon gwyliadwrus.
Y mae'n syndod bod creadur mor fawr wedi dod o wy nad yw'n llawer mwy ei faint na'r wy a gewch chwi i frecwast. Gesyd y crocodil ei hwyau yn y graean neu'r tywod a bydd gwres mawr yr haul yn eu deor. Dyna'r nyth y daw'r crocodiliaid bach ohono mewn amser.
Cystal inni fynd yn ôl hwyrach tra bo'r llyn yn dawel. Ar ôl canol dydd y mae'n dueddol i fod yn donnog iawn a byddai'n beryglus i fod arno mewn canŵ y pryd hwnnw.
Ar ein ffordd yn ôl fe awn heibio'r fan lle y mae'r liliau dŵr, Fe'i ceir y tu hwnt i'r ynys fechan fan draw. Sylwch mor egniol y mae'r ddau frodor yn rhwyfo. Y rheswm am hynny yw eu bod yn mynd am gartref. Teg edrych tuag adre,' meddent hwythau fel ninnau.
Wele ni wedi cyrraedd i gyffiniau'r liliau dŵr ac fe welwch fod rhan eang o'r llyn yn cael ei guddio ganddynt. Mor dlws y maent yn eu lliwiau amryfath—gwyn, cochlas, gwyn-goch—pob un ar bwys ei ddeilen fawr! Sylwch ar yr aderyn yn sefyll ar y ddeilen fan draw. Mor brydferth yr edrych ar ei lwyfan gwyrddlas!
Yma yr ydym ym mharadwys y llyn, ond paradwys yn cael ei gwylio gan y llygaid llym a chraff yw ac felly gwell inni adael y liliau yn y fan y maent er cymaint yw'r demtasiwn i wneud blodeuglwm ohonynt.
A dyma ni'n ôl yn y fan y cychwynasom. Dihareb a glywir yn fynych yn ardal y llyn yw: Cicio pen blaen y canŵ y croeswyd ynddo!' Dangos bai y dyn anniolchgar y mae'r ddihareb yna. Ond yn sicr nid ydym ni yn teilyngu cael dwedyd hynny amdanom. Yr ydym yn wir ddiolchgar inni gyrraedd yn ddiogel.
VI. YN Y BRIF DREF.
IAITH a llawer o eriau hir ynddi yw iaith Madagascar ac y mae enw'r brif dref yn un ohonynt-Antananarivo. Tybed a fedrech ei sillafu? Gwnewch dreio, beth bynnag. Yr oedd mor anodd i ddieithriaid ei ddweud fel y newidiwyd yr enw i Tananarive ac, fel rheol, dyna y gelwir y brif dref heddiw.
A dyma ni yn y dref. Tref ar fryn uchel ynghanol yr ynys ac ymhell o lan y môr. Fe awn i'r man uchaf yn y dref i weld yr olygfa sydd i'w chael oddi yno. Y mae'n weddol fore ac felly nid yw'n rhy boeth inni i gerdded ond rhaid fydd dringo am gryn bellter.
Y man uchaf yw'r lle y saif hen blas brenhinol Madagascar arno. Cyn i'r Ffrancod eu gorchfygu ac i'r Malagasy golli eu gwlad, ychydig dros hanner can mlynedd yn ôl, yr oedd ganddynt eu llywodraeth eu hunain ac yn y plas hwn yr oedd eu brenhines yn byw.
Credwyd y dylasai'r frenhines fod yn uwch na neb arall yn ei theyrnas a dyna'r rheswm yr adeiladwyd y plas ar y man uchel y mae. Y mae heddiw yn amgueddfa. Yn gyntaf, fe awn i fyny i'r 'balcony.'
Rhyfedd yr olygfa sydd i'w chael oddi yma ynte? Sylwch gymaint o fan bentrefi sydd i'w gweled, rhai ohonynt ar y gwastadedd eang, rhai ymhlith y caeau reis, rhai ar y llethr ar eu pwys a rhai yng nghesail y bryniau pell.
Fe welwch wrth ymyl, neu ynghanol, rhai o'r pentrefi adeilad sydd yn llawer mwy ei faint na'r tai gerllaw iddo. Capel yw'r adeilad yna ac y mae nifer fawr o gapeli i'w cael yn y rhan hon o'r ynys. Beth amser yn ôl yr oedd y brodorion yn y cylch hwn hefyd yn baganiaid ond daeth y cenhadon â'r Efengyl iddynt. Y mae'n syndod mor barod oeddynt i dderbyn yr Efengyl ac mor falch oeddynt o'i chael! Ie, a chymaint a fu'r llwyddiant ar waith y cenhadon fel y mae y rhan eang yma o'r wlad yn ardal y capeli heddiw a'r bobl yn eu caru ac yn meddwl llawer ohonynt.
Yr ydym wedi mwynhau yr olygfa. Fe awn i lawr yn awr i gael cipolwg ar yr amgueddfa os caniatâ yr un sy'n gofalu am y lle inni wneuthur hynny. Ydi, y mae'n fodlon iawn.

Y mae yma dri pheth yn arbennig yr hoffwn ichwi eu gweld. Dyma un ohonynt. Yr aderyn mwyaf a fu erioed. Canfyddwyd yr ysgerbwd hwn ohono ym Madagascar lle'r arferai fyw. Y mae'n anodd dychmygu bod un o'i faint erioed wedi byw. Diflannodd o fodolaeth gannoedd o flynyddoedd yn ôl, ond bu fyw mewn traddodiad. Cofiaf pan welodd pobl glannau'r llyn mawr long awyr uwchben y llyn am y tro cyntaf iddynt feddwl mai yr aderyn hwn ydoedd a rhyfedd eu hofn ar y pryd. Yr estrys yw'r aderyn mwyaf a welir heddiw, ond yr oedd hwn yn llawer mwy ei faint na'r estrys. Wele ei wy yn y fan yma ac fe welwch ei fod yn llawn cymaint ei faint â phêl droed. Fe hoffech wybod enw yfath aderyn. Y mae'n lled anodd i'w ynganu—aepyornis."
Yr ail beth yw y ddwy ddysgl fawr o arian yn y fan yma. Fe welwch eu bod i bob ymddangosiad yn union yr un fath. Y mae hanes truenus yn gysylltiedig â hwynt. Yn yr amser a fu eiddo'r frenhines greulon oeddynt. Ar y cychwyn un oedd ganddi ac yna gorchmynnodd i grefftwr mewn arian i wneuthur un arall hollol yr un fath. Gwnaeth y crefftwr ei orau, ond pan ddaeth â'i ddysgl i'r frenhines gwelodd ei llygaid craff a chreulon nad oeddynt yn berffaith yr un fath. Y tâl a gafodd am ei drafferth ac am wneuthur ei orau, druan ohono, oedd cael ei roi i farwolaeth.
Y mae'r trydydd peth yr hoffwn ichwi ei weld yn llawer mwy pleserus i edrych arno. Dyma fo, ac fe welwch fod cadwyn yn ei glymu wrth y ford y mae arni. Dengys hynny y cyfrifir ef yn werthfawr. Nid yw hynny'n rhyfedd o gwbl oblegid rhodd oddi wrth frenhines i frenhines ydoedd. Rhodd Victoria, brenhines Prydain Fawr, i'r frenhines gyntaf ym Madagascar i fod yn Gristion. Dyma gyfrol fawr a phrydferth o'r Beibl ynte? Ni allai brenhines roddi gwell rhodd i frenhines na rhoddi iddi y llyfr gorau yn y byd.
Ac yn awr fe awn i ymweld â man neu ddau yn y dref. Sylwch yn arbennig ar yr adeilad sydd a thŵr uchel iddo yn y fan acw. Capel ydyw ac y mae'n sefyll ar ben craig uchel. Fe awn i'w weled. Mor ofnadwy o serth yw ochr y graig ac onid yw'r dyfnder yn arswydus? Y mae hyd yn oed edrych i lawr yn ddigon i beri braw a dychryn inni. Wel, i lawr i'r dyfnder enbyd hwn y taflwyd rhyw bymtheg o'r brodorion oedd yn Gristionogion yn amser yr hen frenhines greulon, baganaidd, honno yr ydym newydd gyfeirio ati. Yr oedd ei chas at yr Efengyl yn gymaint fel yr erlidiai a rhoi i farwolaeth y rhai oedd yn credu ynddi ac yn ei charu. Pe byddai'r bobl hynny yn fodlon diarddel eu crefydd ni ddigwyddai hynny iddynt, ond yr oedd eu cariad at Iesu Grist yn gymaint fel nas gallent wneuthur hynny. Yr oedd yn well ganddynt wynebu'r fath farwolaeth greulon na'i wadu Ef. Ac adeiladwyd y capel mawr hwn er côf amdanynt.
Ond gadewch inni fynd i lawr i fan arall yn y dref. Yno fe gawn weld 'capel y plant.' Gobeithio nad ydych yn blino cerdded. Y mae mynd i lawr yn y gwres yn llawer haws na dringo onid yw? Dyma ni wedi cyrraedd y fan. Y mae hwn eto, fel y gwelwch, yn gapel mawr. Hwyrach eich bod yn gofyn paham y gelwir ef yn gapel y plant.' Wel, fe'i gelwir felly am mai plant Prydain Fawr a roddodd yr arian i'w adeiladu ac fe wnaethant hynny er côf am y baban bach oedd gyda'i fam pan y'i llosgwyd hi ac eraill ar y fan hon oherwydd eu cariad at Iesu Grist. Yr oedd hyn eto yn amser yr hen frenhines greulon honno.
VII. YN Y FARCHNAD.
LLE pwysig yw'r farchnad ym Madagascar, oblegid yno y mae'r bobl yn gwerthu nid yn unig gynnyrch y ddaear ond hefyd y pethau a wnaed ganddynt. Y farchnad hefyd yw'r man mwyaf cyfleus iddynt gyfarfod â'i gilydd ac i gael y newyddion. Nid oes ganddynt bapurau dyddiol i gael y newyddion fel sydd gennych chwi. Y farchnad, fel pe tae, yw eu papur dyddiol hwy. Ar ôl cyfarch ei gilydd yno y cwestiwn cyntaf a ofynir yw: 'Beth yw'r newydd?' Droeon, pan mewn pentref unig, cefais fy synnu fel yr oedd y newyddion wedi cyrraedd yno o'm blaen. Yr eglurhâd, wrth gwrs, oedd y farchnad.
Y farchnad fwyaf o lawer yw'r un sy'n y brif dref. Yn ddios, y mae'n un o'r marchnadoedd mwyaf yn y byd. Daw miloedd ar filoedd o bobl iddi. Deuant o bob cwr o ganol yr ynys gan gludo y nwyddau sydd ganddynt i'w gwerthu. Gwelir yn fynych resi o geirt-ych ar yr heolydd, efallai ddwsin neu fwy mewn nifer, yn cario i'r farchnad. Gwelir hefyd y dynion yn cario eu beichiau ar bolyn yn groes i'w hysgwyddau a'r gwragedd â'i beichiau ar eu pennau, rai ohonynt â'i babanod ar eu cefnau hefyd. Y maent i gyd yn mynd i'r farchnad fawr yn y brif dref ac, fel rheol, byddant yn cyrraedd cyn y nos y diwrnod cynt fel y gallant fod yn eu lleoedd ar doriad y wawr.
Rhoddir enw'r diwrnod ar ba un y cynhelir hi i'r farchnad Zoma.' Dyna'r gair i fynegi Gwener, a dyna'r dydd y cynhelir hi. Gan fod heddiw yn ddydd Gwener gadewch inni fynd yno am dro. Fe awn yn weddol fore er mwyn gweled pethau ar eu gorau ac i osgoi gwres canol dydd. Cyn cychwyn fe edrychwn i lawr ar y farchnad o'r man uchel hwn. Dacw'r bobl ar y gwastadedd ar bwys y dref, miloedd ohonynt. Môr o wynebau yn cuddio traeth mawr ac eang! Oddi yma ymddangosant mor glos at ei gilydd fel y gallai un dybio nad oes ganddynt le o gwbl i ddangos eu nwyddau.
Ond gadewch inni fynd yno. Mor amrywiol a phrydferth yw'r lliwiau! Mor lluosog yw'r nwyddau ! Mor brysur y siarad a'r clebran! Mor ddiddorol y dull o werthu a phrynu— a'r haul tanbaid yn tywynnu dros y cyfan i gyd. Yr ydym yn awr yn adran y ffrwythau. Fe welwn yma fwy o bananas na dim arall. Ac nid yw hynny'n rhyfedd o gwbl oblegid yng ngwlad y bananas yr ym. O'r holl ffrwythau hwy a welir amlaf yn tyfu. Ceir math ohonynt sydd mor hir â'ch braich, a math arall mor fyr â'ch bys bach. Eithr y math byr sy'n felys, mor felys â mêl. Gadewch inni chwilio am y rhai melys fel y gallom eu mwynhau ar ôl dychwelyd.
Oranges... byddwch wedi sylwi fod llawer iawn ohonynt hwythau hefyd. Dyna gynnyrch arall y wlad. Fe'u ceir yn tyfu ar bwys bron pob pentref ac y mae'n bleser gweld y coed gyda'r dail gwyrdd a'r ffrwyth euraid ymhlith y dail. Yn y goedwig fe'i ceir yn tyfu'n wyllt, ac nid anghofiaf y profiad a gefais unwaith pan ganfûm bren orange yno. Yr oedd yr unig orange oedd i'w weled ar lawr y goedwig—wedi syrthio oddi ar y goeden. Yr oedd yno yn aeddfed, felyn-goch, braf. Ac yr oeddwn mor falch o'i weld oherwydd fy mod ar y pryd yn enbyd o sychedig. Ond y foment y cyffyrddodd y sudd â'm genau dyna siom a gefais! Yr oedd mor chwerw nes imi o'r bron golli fy anadl!
Pineapples, mangoes, custard apples . . . ffrwythau'r gwledydd poeth. Dyma hwynt yn y farchnad ac am bris rhesymol gan eu bod yn gynnyrch y wlad.
Beth y mae'r ddau frodor yn y fan hon yn ei wneud, dwedwch? Yn ôl eu dull a'i stŵr y maent fel pe'n cweryla â'i gilydd. Ond nid cweryla y maent, eithr dadlau am bris darn o ddefnydd. Dyna'i harfer ac er fod y ddadl yn boeth nid ydynt yn colli eu tymer. Yn wir, bron iawn nad yw'n well ganddynt y dadlau na'r prynu a'r gwerthu!
Fe welwch fod defnydd dillad o bob math a lliw yn cael ei ddangos. Dyma'r wraig hon yn yswatio ar y ddaear gynnes o dan ei 'umbrella' coch mawr. Y mae lliwiau o bob math o'i chylch. Gwerthu'r gwisgoedd a'r mentyll a wniodd ac a baratodd yn ei chartref y mae. Y mae ei pheiriant gwnio yn werthfawr iawn iddi.
Rhyfedd y nifer mawr o umbrellas agored sydd i'w gweled. Mor brydferth y maent yn eu gwahanol liwiau dan belydrau'r haul. Pebyll ar ddull umbrella' ydynt, hawdd. i'w gosod a'i symud a hawdd hefyd i weld y nwyddau oddi danynt.
Ceir pob math o bethau yn y farchnad . . . ffrwythau, dillad, dodrefn, bwydydd, blodau, a llu o bethau bychan o bob lliw a llun, hen a newydd.
Tybed beth y mae'r hen ŵr â'r farf hir yn y fan yma yn ei wneud? Y mae ei ford yn llawn llysiau, powdr, ennaint, a phethau o'r fath. Gwerthu meddyginiaeth frodorol y mae ac efallai yr â rhai o'r pethau a werthir ganddo ymhell oddi yma, hyd yn oed i law'r 'witch—doctor,' i'w defnyddio ar yr eilunod.
Clywch! Clywais lais yn gweiddi Lleidr!' Y mae cynnwrf mawr yn y fan draw yn y farchnad. Y mae'n fwy na thebyg bod rhywun wedi lladrata rhywbeth. Gwae iddo os caiff ei ddal! Fe gaiff gosfa nad anghofia mohoni ond gobeithio y bydd yn wers iddo i beidio â lladrata mwyach.
Cyn gadael y farchnad fe ddylem brynu rhywbeth i gofio am ein ymweliad. Fe awn i'r tŷ mawr ynghanol y farchnad. Yno fe werthir pob math o bethau—gwaith llaw'r brodorion. Wele sachell wedi ei gwneuthur o groen crocodil. A dyma gerflun tlws o wraig frodorol, y llestr dŵr ar ei phen a'i baban ar ei chefn. Y mae'r ddau beth cystal â dim y medrwn eu cael i'w cadw i gofio am ein ymweliad a'r farchnad fawr ym Madagascar.
VIII. GYDA'R CYNHAEAF.
HAU a medi—y mae hynny'n waith pwysig ymhob gwlad fel ei gilydd. Ymddibyna pobl y byd ar gynnyrch y ddaear am eu bwyd beunyddiol.
Yng Nghymru caeau gwenith a welir. O'r gwenith hwnnw y daw'r bara sydd mor hanfodol ichwi. Ym Madagascar caeau reis sydd i'w gweled gan mai reis yw prif fwyd y bobl. Y maent ar hyd a lled y wlad. Fe'i gwelir yma ar y gwastadedd eang; fe'i gwelir hefyd yn y dyffryn neu ar ymyl y bryn uchel, un uwchben y llall. Ceir nifer ohonynt gyda'i gilydd,

rhyw droedfedd o dir rhwng y naill a'r llall, a phob un ohonynt â'i berchen gwahanol. Y mae pob un hefyd yn llawn dŵr oblegid mewn daear laith y tyf y reis.
Gadewch inni weld fel y llafuriodd y bobl er mwyn cael y cynhaeaf.
Yn y darn bach yna o dir ar ymyl y cae reis yr hauwyd yr hâd. Yn y cyfamser paratoir y cae a phan flaguro'r had fe'i trawsblennir. Gwaith anodd oedd y paratoi gan fod y ddaear wedi caledu gymaint yn ystod y tymor sych. Yr oedd yn waith a ofynnai am gorff cryf i'w gyflawni. Yr unig offeryn a ddefnyddid oedd päl. Nid pâl fel a welir yng Nghymru, ond päl â llafn gul, hir, a choes rhyw ddwy lath o hyd iddi. Ni ddefnyddid y troed ychwaith wrth balu, dim ond y breichiau, a chyd-weithiai dau ddyn ochr yn ochr i droi yr un darn o dir. Ar ôl gorffen troi'r tir felly arweinid y dŵr i'r cae a dygid tua hanner dwsin o ychen i'w gyrru amgylch ogylch i ddamsang y talpiau ac i gymysgu'r ddaear â'r dŵr. Mawr oedd y gwaeddi, y pwnio a'r gwthio i gael yr ychen i gyd-fynd! A'r meibion a'r ychen mewn byr amser yn fwd i gyd, a golwg ryfedd arnynt !
Wedi i'r cae gael ei baratoi deuai'r merched i draws- blannu'r planhigion reis. Mor gyflym a chywrain oeddynt wrth y gwaith, yn gosod pob planhigyn yn ei le yn y mwd. Gwaith caled oedd yr eiddynt hefyd oblegid rhaid oedd plygu drwy'r dydd yn yr haul poeth, hyd eu penliniau yn y mwd. Ond gwaith cwbl hanfodol ydoedd os oeddynt am gael y cynhaeaf sy'n golygu cymaint iddynt.
Gwnaeth y bobl eu rhan, ond heb gymorth Rhagluniaeth i roddi gwres a glaw, dydd a nos, ni thyf y reis ac nid aeddfeda i'r cynhaeaf.
Drwy Ei gymorth Ef y daeth amser y cynhaeaf. Gwelwch mor brysur y mae'r dynion wrth y gwaith yn torri'r cnwd, nid â phladur neu gryman, ond â chyllyll mawr wedi eu hawchu yn dda ar gyfer yr achlysur.
Heddiw y mae'r meibion a'r merched gyda'i gilydd yn y cae reis, y merched yn dilyn y torrwyr, yn casglu'r corsennau a'i clymu yn ysgubau, a phawb yn hapus a siaradus fel y disgwylid iddynt fod yn amser medi. Onid yw eu gwaith wedi ei goroni â chynhaeaf toreithiog, ac oni fydd digon o reis iddynt hwy a'r plant yn ystod y flwyddyn i ddod?
Ar ôl hyn daw y dyrnu. Pwniant yr ysgubau ar garreg fawr ger y cae ac oddi yno y cludant y grawn reis i'r pentref i'w osod yn y pwll reis, twll mawr a chrwn ar bwys eu cartref, i gymryd ohono fel y bo angen y teulu.
Beth nesaf tybed? Wel, os ydynt yn bobl grefyddol—ac y mae'n bleser i feddwl bod llawer ohonynt felly erbyn heddiw—fe fyddant am ddiolch i'r Hwn a'i cynorthwyodd i gael y cynhaeaf. Byddant yn cynnal cwrdd diolchgarwch. Eu henw arno yw 'fanateram—bokatra' (offrymu'r cynhaeaf).
Nis gallant, wrth gwrs, gario'r cynhaeaf i gyd i'r capel ond dug hwn a hwn ychydig o reis, hon a hon ychydig o rywbeth arall—wyau, iar neu geiliog, tamaid o 'lace,' mat, etc., sef y pethau y galluogodd Rhagluniaeth hwy i'w gwneuthur, neu eu tyfu, pethau ynglŷn â'i bywoliaeth. A chan fod cynnifer o bobl yn gwneuthur hynny bydd yno gasgliad a chymysgedd ryfedd o bethau yn y capel y pryd hwnnw! Bydd yn achlysur pwysig iddynt a bydd y capel yn llawn, y canu yn wresog, y bregeth yn darawiadol a'r gwasanaeth i gyd, fel y dylai fod, yn llawn diolchgarwch.
Wedi i'r oedfa orffen clywir llais yn galw: 'Faint am hwn? Faint am hwn? Pwy sy'n cynnig? Rhywun eto? Un.. dau.. tri. . rhywun arall..?" Un o'r diaconiaid fydd yn gwerthu, ac felly y bydd nes bo'r nwyddau i gyd wedi eu prynu. A bydd y bobl yn ddigon hapus a pharod i weld hynny oblegid fe â'r arian i gyd at achos y capel.
IX CREADURIAID GWYLLTION.
HEDDIW nid awn i unman. Fe arhoswn yn y tŷ a chawn sgwrsio am rai o'r creaduriaid gwylltion sydd i'w cael ym Madagascar. Yr ydym wedi cyfeirio eisoes at rai ohonynt, ond gwn yr hoffech glywed mwy amdanynt a chlywed am eraill hefyd.
Ni cheir yma'r anifeiliaid gwylltion mawr a pheryglus fel y llew, y teigr a'r llewpart, ac ni welir y sebra, yr eliffant na'r hippopotamus yma ychwaith. Yn Affrica y gwelir y rheini.
Y creadur casaf a'r mwyaf peryglus ar yr ynys yw'r crocodil. Profir hynny gan ddywediad y brodorion: Nid oes greadur mwy na'r crocodil,' hynny yw, mwy nerthol nag ef, ac hefyd, yn ôl eu syniad hwy, un sydd i'w ofni'n fwy. Ceir ef yn y llyn mawr, fel y dywedwyd, ac yn yr afonydd hefyd.
Pan fo rhywun eisiau croesi'r afon—nid oes pont i fyned drosti—yr arferiad yw aros ar lan yr afon nes bod eraill sydd hefyd am groesi yn dod ac i bawb fynd gyda'i gilydd. Wrth groesi curant wyneb yr afon yn chwyrn a chadwant gymaint o sŵn ag sy'n bosibl. Ceidw'r cynnwrf y crocodiliaid i ffwrdd a chroesant yn ddiogel. Y fath arferiad yw sail y ddihareb frodorol 'Ni ddifa'r crocodiliaid lawer o bobl yn croesi'r afon." Cyfystyr yw hynny a dweud: 'Mewn undeb y mae nerth.'
Ceir yn y goedwig greadur gwyllt o'r enw' fosa.' Y mae'n ddigon tebyg i gath ond yn fwy ei faint, ac y mae'n greadur ffyrnig iawn. Daw o'i wâl yn y nos a gwae'r pentref yr â iddo oblegid ymesyd ar yr ieir a'r hwyaid a'i difa er colled i'r brodorion. Ceir yn y goedwig hefyd foch gwyllt a'r hen enw ar Madagascar oedd: Ynys y moch gwyllt.' Y mae'n arferiad gan y bobl i'w hela ar nos olau leuad, ond y mae'n gryn orchest i ddal yr un ohonynt oblegid eu bod mor gyflym a ffyrnig.
Soniasom eisoes am y lemuriaid. Madagascar yw eu cartref a gellir galw'r ynys yn wlad y lemuriaid. Ceir tua
deugain o wahanol fathau ohonynt yn y goedwig. Y mae gan rai o'r brodorion ofn ofergoelus ohonynt oherwydd eu bod yn crwydro ar hyd a lled y goedwig yn y nos—fel y gwna'r ysbrydion drwg, meddent. Os digwydd iddynt ganfod corff marw un ohonynt ar eu llwybr drwy'r goedwig torrant fedd iddo a'i gladdu, yn fwy mewn ofn ohono nag o barch tuag ato.
Yn sicr gellir galw Madagascar yn wlad y symudliw (chameleon). Nid oes cynnifer o fathau ohono mewn unrhyw wlad arall. Creadur bach hollol ddiniwed a hynod o ddigrif i edrych arno ydyw. O ran ei gorff y mae'n ddigon tebyg i'r lysard, ond y mae ei symudiad mor araf ag yw'r lysard o gyflym. Y mae hynny oherwydd bod ei bedair troed fel pedair llaw ganddo i gydio yn hytrach nag i gerdded arnynt. Treulia ei amser ar y planhigion neu ar y Ilwyni. Ei fwyd yw'r pryfed, gloynnod byw, chwilod, a phethau o'r fath ac y mae'r modd y deil hwynt yn ddiddorol dros ben. Cydia yn dynn yn y planhigyn a thry ei liw fel yr ymddengys yn rhan ohono. Gwêl i bob cyfeiriad heb symud ei ben ac yna erys a disgwyl. O dipyn i beth daw gloyn byw ar flodeuyn o fewn cyrraedd ei dafod—tafod sydd mor hir â'i gorff ac mor denau â llinyn. Ar ei flaen y mae math o glud. Megis saeth yr â i gyfeiriad y blodeuyn ac mewn amrantiad diflana'r gloyn byw i'w geg!
Rhyfeddol yw ei allu i newid ei liw, ond i bobl Madagascar ei lygaid rhyfedd a aeth a'i sylw. Gall weled i fyny ac i lawr o'i flaen neu o'i ôl, i unrhyw gyfeiriad yr un pryd, gan hynny eu dihareb: 'Gwnewch fel y symudliw, edrychwch o'ch blaen a gwelwch o'ch ôl.' Cyfystyr yw hynny a dweud: 'Byddwch yn wyliadwrus.'
Ceir llawer gwahanol fathau o bryfed copyn ar yr ynys, rhai ohonynt yn llawer mwy eu maint na'r rhai a welir yn eich gwlad chwi. Yn fynych gwelir eu gwe ar frigau'r coed a rhwng y tai ac y mae'n ddigon cryf i beri magli aderyn a ddigwyddo hedfan iddo. Y mae rhai ohonynt yn wenwynig a chyn hyn profodd un gno yn farwol i frodor ac anifail.
Y mae'r morgrug gwynion sydd ym Madagascar yn ddinistriol iawn. Gwnant eu dinistr heb yn wybod i neb, o bosibl dan lawr yr ystafell. Un diwrnod hwyrach pan fo un o'r teulu yn croesi'r ystafell fe â ei droed yn sydyn drwy'r llawr. Ar ôl chwilio'r achos gwêl fod y morgrug gwynion wedi bwyta'r coed fel nad oes namyn y plisgyn yn aros.
Ond llawer mwy lluosog a llawer gwaeth na'r morgrug gwynion yw'r mosquitoes' a geir ar hyd a lled yr ynys. Y maent mor fychan â gwybed yr hâf ond y mae'i pigiad yn boenus a gwae yr hwn nad oes moddion ganddo i amddiffyn ei hunan rhagddynt—rhwyd dros y gwely fel rheol. Daw i lawr yn y bore â'i wyneb wedi chwyddo i gymaint ddwywaith ei faint. A gwaeth na'r pigiad yw'r dolur a elwir 'malaria a ddaw mewn canlyniad iddo.
Beth am yr adar meddech? Y mae'r adar yn brydferth eu gwisg ond cyffredin yw eu cân ac nid fel yr adar yng Nghymru. Ceir yr ehedydd yma hefyd ond wrth esgyn i fyny pair gwres mawr yr haul iddo fod yn rhy ddiog i byncio fel y gwna'r ehedydd yn eich gwlad chwi.
Gwelir yn aml aderyn cyffelyb i aderyn y tô, ond gyda hyn o wahaniaeth—y mae'n newid ei gôt yn y tymor gwlyb o fod yn llwyd i fod yn goch drosto i gyd. Y pryd hwnnw y mae'n hynod o brydferth, ond er hardded ei wisg lleidr ydyw, ac y mae'n angenrheidiol i wylio'r hâd yn y caeau rhagddo. Ystyrir hyn yn waith i fechgyn a hen ddynion.

Y mae'r brain sydd yma â thorch o wyn ar eu gyddfau ac edrychant fel croes rhwng brain a phiod.
Clywir y gog ar ddechrau'r tymor gwlyb, ond y mae ei nodau ychydig yn wahanol i'r nodau yr ydych chwi'n gyfarwydd a hwynt. Ceir parrotiaid yn y goedwig ond cyffredin yw eu gwisg hwythau. Perthynas i'r parrot yw'r aderyn a elwir 'aderyn y botel' oherwydd fod ei gân yn gymwys fel sŵn bwrlwm dŵr yng ngwddf potel pan fo'n cael ei arllwys.
Mewn rhai mannau ceir aderyn, digon tebyg i'r drudwy, a phan ddysgir ef y mae'n siaradwr penigamp. Aethum unwaith i siop brodor ac o ryw fan neu'i gilydd yno daeth llais yn iaith Madagascar gan ddweud yn glir a phlaen: Paid â lladrata! Paid a lladrata !" Ar ôl edrych i gyfeiriad y llais, ie, efe oedd yno yng nghornel y siop!
Gwelir adar ysglafaethus yn yr awyr uwchben y pentrefi. Wrth hofran gwyliant â'i llygaid craff, barus, am dameidiau o ysbail. Diolch amdanynt er hynny, oherwydd cadwant y pentrefi yn llawer glannach nag a fyddent pe na fyddent uwchben.
X. Y BOBL.
ERBYN hyn gwyddoch dipyn am Madagascar ac am rai o'r pethau sydd i'w gweld ar yr ynys. Yn awr, gwn yr hoffech glywed am ei phobl.
Fel y gwelsoch, y maent yn dywyllach eu lliw na ni ac nid yw hynny'n rhyfedd o gwbl oblegid y maent yn byw mewn gwlad sydd â llawer mwy o haul. Gwyddoch yn dda beth a ddigwydd ichwi yn yr hâf—fel y mae eich lliw yn newid yn yr haul. A haul, haul, dibaid a geir yma, nid am amser byr fel yn yr hâf gyda chwi ond gydol y flwyddyn, a hyn yw'r prif reswm fod y bobl mor dywyll eu lliw. Onid yw'n liw tebyg i liw siocled? Cofiwch, er hynny, mai nid lliw dyn sy'n bwysig ond pa fath ddyn yw ynddo'i hunan ac mewn berthynas ag eraill. Hynny sy'n wir bwysig.
Nid yn unig gwahaniaetha'r bobl oddi wrthym yn eu lliw ond hefyd yn eu hiaith, yn eu dull o fyw ac mewn llawer o'i harferion. Pan fo'r bobl yn cyfarch ei gilydd dywedant: Akory hianao, tompoko?' (Sut yr ydych-chi, syr ?), neu os merch a gyferchir: Akory hianao, ramatoa?' (Sut yr ydych- chi, foneddiges?). Pan yn diolch am rywbeth dywedant: 'Misaotra, tompoko' neu 'Misaotra, ramatoa (Diolch, syr, neu Diolch, foneddiges). Dyna enghraifft o'i hiaith a elwir 'Malagasy.' Drwy roi y fannod o flaen y gair ceir enw'r bobl Y Malagasy.'
Yn yr iaith yna y sieryd y brodorion â'i gilydd, Yn yr iaith yna y dysgir y plant yn yr ysgol ac yn yr iaith yna y pregetha'r cenhadon. Gwna pob cenhadwr ymgais arbennig i ddysgu'r iaith fel y gall siarad yn rhwydd ynddi, oblegid y rheswm y daeth i'r wlad oedd bod ganddo neges mawr i'w roddi i'r bobl—i sôn wrthynt am Iesu Grist a'i gariad, ac heb wybod yr iaith ni fyddai, wrth reswm, yn bosibl iddo wneuthur hynny.
Os tywyll yw lliw y bobl, fel rheol, gwyn ydyw lliw eu gwisg. Ac y mae ganddynt wisg a elwir 'lamba' sydd yn nodweddiadol o Fadagascar. Math o fantell ysgafn dros eu hysgwyddau a defnyddir hi gan y gwŷr, y gwragedd a'r plant. Defnyddiant y 'lamba 'i wahanol bwrpasoedd. Caria y fam ei baban ar ei chefn ynddi. Pan yn gweithio yn y caeau reis neu ryw fan arall defnyddir hi fel gwregys a mwyaf ymroddgar i'w gwaith y byddant tynnaf yn y byd y bydd o'i cylch. Pan ânt i orffwys dros y nos yn eu cartrefi gwnant y lamba' yn orchudd, nid dros eu cyrff yn unig ond dros eu wynebau hefyd er amddiffyn eu hunain rhag y mosquitoes.' Yna pan ddaw'r cwsg olaf, sef marwolaeth, â'r lamba' yn amdo iddynt, ond y pryd hwnnw y mae math neilltuol a elwir Lamba mena'—y fantell goch.
Eu harfer yw cael un bedd mawr i'r holl deulu, a thu mewn i'r bedd ceir silffoedd ar ba rai y gosodir y meirw, nid mewn arch ond yn y fantell goch honno. Gwelir y bedd teuluol ar bwys y pentref, ac weithiau y tu mewn iddo. Ymddengys fel twmpath o'r ddaear, ond y tu mewn y mae fel ystafell fechan ac wedi ei hadeiladu â llechau gweddol fawr.
Ond i ddod at eu dull o fyw, tybiaf eich bod yn gofyn: Beth yw bwyd y bobl?' Fel y cyfeiriwyd eisoes, reis ydyw eu prif fwyd, reis i frecwast, i ginio a swper. Nid reis wedi ei baratoi fel pwdin, ond wedi ei ferwi yn syml. 'Wel, dyna fwyd diflas,' meddech, 'ydyn'—nhw ddim yn blino ar reis fel 'na o hyd?' Mi fyddwch chwi yn bwyta bara bron gyda bob pryd ond ni fyddwch yn blino arno. Y mae y reis fel bara iddynt hwy. Wrth gwrs, fe fydd rhywbeth arall gydag ef, rhyw fath o enllyn. Pan osodwyd y reis yn y pwll reis yr oedd newydd ddyfod o'r cae ac fel gwenith newydd ei fedi. Gwaith i'r gwragedd yw ei falurio er cael y grawn o'r plisg ac yna ei lanhau a'i olchi a'i osod yn y crochan i'w ferwi. Prif waith y wraig yn y cartref yw paratoi y pryd reis.
Pe byddai ichwi giledrych drwy ddrws agored ei chartref fe'i gwelech yn yswatio ar y llawr yn gwylio'r tân o dan y crochan a'i gadw'n eirias yn barhaus drwy roi porfa sych neu goed arno. A phan fyddai'r reis a'r enllyn yn barod fe'i clywech yn galw: 'Masaka ny vary'—y mae'r reis yn barod —a'r plant yn mynd i'w lleoedd a chyrcydu o amgylch y mat bwyd. Bydd un ddysgl yn llawn reis ar gyfer pob dau a phob un â'i lwy fawr yn diwallu ei hunan yn y modd mwyaf egniol!
Tri pryd y dydd a gânt, yn y bore, ganol dydd a min hwyr. Yn y bore, pryd ysgafn, ganol dydd, pryd trymach a min hwyr y pryd mawr ac ar ei ôl, mynd i gysgu, oni ddigwydd ei bod yn noson loergan braf. Y nosweithiau hynny cânt eu denu allan o'i tai—y bobl mewn oed i glebran, y bobl ieuanc i ddawnsio a chanu, a'r plant i chwarae.

Syml dros ben ydyw bywyd y bobl a golyga hynny fod llai o waith yn y cartref. Ychydig o lestri sydd i'w golchi ac nid oes ond un ystafell i'w chadw'n lân; dim sanau i'w trwsio a phethau o'r fath, ac felly y mae mam Kala fach yn fwy ffortunus na mam Morfudd fach!
Syml dros ben ydyw bywyd y bobl a golyga hynny fod llai o waith yn y cartref. Ychydig o lestri sydd i'w golchi ac nid oes ond un ystafell i'w chadw'n lân; dim sanau i'w trwsio a phethau o'r fath, ac felly y mae mam Kala fach yn fwy ffortunus na mam Morfudd fach!
Ond beth am dad Kala? Y mae ganddo yntau hefyd ei waith i gadw'r cartref i fynd. A ef yn fore â'i bâl ar ei ysgwydd i'r cae reis neu i'w blanhigfa. Cymer ofal da o'r bâl â'r goes hir ac ymfalchia pan fydd yn ddisglair ei llafn oblegid bydd hynny yn arwydd ei fod yn weithiwr diwyd. Ar y llaw arall, y mae pâl a rhwd ar ei llafn yn warth oblegid dengys hynny fod ei pherchen yn ddyn dioglyd.
Efallai mai masnachwr yw tad Kala fach. Os felly, bydd ei siop fach yn y pentref. Ond ychydig nwyddau a fydd ganddo i'w gwerthu—sebon, halen, siwgr, teisennau reis, mintys poethion, etc. Pe digwyddai mai cigydd ydyw ni fyddai ei siop namyn bord o fetel y tu allan i'w dŷ a phan na fydd yn gwerthu caiff ei gadw'n brysur wrth geisio gyrru'r gwybed i ffwrdd. Y mae holl gŵn y pentref hefyd yn hoff o'r cigydd ac yno y byddant yn eistedd ar y ddaear gynnes gerllaw â'i llygaid yn graff ar ei ford. Disgwyliant gael tamaid ganddo yn awr ac yn y man.
XI. Y PLANT.
DING! Dong! Clywch! Y mae cloch yr ysgol yn galw a'r plant yn prysuro eu camau er cyrraedd yn brydlon. Sylwch fel y gwthiant yn erbyn ei gilydd ar drothwy'r ysgol, pob un am fod o flaen y llall. Disgwyliech glywed llawer o sŵn traed, ond nid oes, oblegid y mae pob un ohonynt, y merched a'r bechgyn, yn droednoeth. Troednoeth yn mynd i'r ysgol, neu i'r cwrdd a phan yn chwarae yn y pentref a dringo'r coed o'i gylch. Weithiau y mae eu traed fel dwylo iddynt. Gallant godi rhywbeth o'r llawr â bysedd eu traed mor hawdd ag a fyddai ichwi wneud hynny â bysedd eich llaw a gyda'r fantais ychwanegol nad oes raid iddynt blygu i wneuthur hynny.
Nid oes ganddynt hetiau na chapiau ychwaith i'w hongian ym mhorth yr ysgol oblegid bod yn bennoeth yw'r arferiad. Y mae eu pennau hefyd fel dwylo i gario iddynt. Gwelwch faint o lyfrau sydd ar eu pennau, tri, pedwar, pump, weithiau ragor, ac ar ben y llyfrau eu potel inc a'i pinnau ysgrifennu a phethau o'r fath. Yn y gwthio chwyrn wrth drws yr ysgol, er hynny, y mae'n rhaid iddynt fod yn ofalus neu fe gollir yr inc ar y gwisgoedd gwynion ac ni fydd dim ganddynt ar ôl ar gyfer y gwersi!
Erbyn hyn, distawodd cloch yr ysgol, y mae'r canu a'r addoliad ar ddechrau'r dydd drosodd a phawb yn eu lleoedd yn yr ysgol. Wele'r ysgolfeistr ar y llwyfan yn galw'r 'register' a'r plant yn barod i'w gwersi—arithmetic, geography, grammar, scripture, etc. Ysgol yn y wlad yw hon ac er fod rhyw dri dosbarth, y maent yn yr un ystafell a'r meistr efallai yn athro i'r tri. Yn y dref ceir gwahanol ystafelloedd a nifer o athrawon.
Fe ofynwn i'r meistr os cawn gipolwg ar y 'register.' Dywed wrthym fod amryw o blant yn absennol oblegid i rywun ledaenu si fod y 'mpaka fo' yn yr ardal ac oherwydd hynny y mae'r rhieni yn ofni anfon eu plant i'r ysgol. Fe soniwn am y 'mpaka fo' ymhellach ymlaen. Gadewch inni'n awr i edrych ar y gwahanol enwau. Enwau'r bechgyn DING! Dong! Clywch! Y mae cloch yr ysgol yn galw a'r plant yn prysuro eu camau er cyrraedd yn brydlon. Sylwch fel y gwthiant yn erbyn ei gilydd ar drothwy'r ysgol, pob un am fod o flaen y llall. Disgwyliech glywed llawer o sŵn traed, ond nid oes, oblegid y mae pob un ohonynt, y merched a'r bechgyn, yn droednoeth. Troednoeth yn mynd i'r ysgol, neu i'r cwrdd a phan yn chwarae yn y pentref a dringo'r coed o'i gylch. Weithiau y mae eu traed fel dwylo iddynt. Gallant godi rhywbeth o'r llawr â bysedd eu traed mor hawdd ag a fyddai ichwi wneud hynny â bysedd eich llaw a gyda'r fantais ychwanegol nad oes raid iddynt blygu i wneuthur hynny.
Nid oes ganddynt hetiau na chapiau ychwaith i'w hongian ym mhorth yr ysgol oblegid bod yn bennoeth yw'r arferiad. Y mae eu pennau hefyd fel dwylo i gario iddynt. Gwelwch faint o lyfrau sydd ar eu pennau, tri, pedwar, pump, weithiau ragor, ac ar ben y llyfrau eu potel inc a'i pinnau ysgrifennu a phethau o'r fath. Yn y gwthio chwyrn wrth drws yr ysgol, er hynny, y mae'n rhaid iddynt fod yn ofalus neu fe gollir yr inc ar y gwisgoedd gwynion ac ni fydd dim ganddynt ar ôl ar gyfer y gwersi!
Erbyn hyn, distawodd cloch yr ysgol, y mae'r canu a'r addoliad ar ddechrau'r dydd drosodd a phawb yn eu lleoedd yn yr ysgol. Wele'r ysgolfeistr ar y llwyfan yn galw'r 'register' a'r plant yn barod i'w gwersi—arithmetic, geography, grammar, scripture, etc. Ysgol yn y wlad yw hon ac er fod rhyw dri dosbarth, y maent yn yr un ystafell a'r meistr efallai yn athro i'r tri. Yn y dref ceir gwahanol ystafelloedd a nifer o athrawon.
Fe ofynwn i'r meistr os cawn gipolwg ar y 'register.' Dywed wrthym fod amryw o blant yn absennol oblegid i rywun ledaenu si fod y 'mpaka fo' yn yr ardal ac oherwydd hynny y mae'r rhieni yn ofni anfon eu plant i'r ysgol. Fe soniwn am y 'mpaka fo' ymhellach ymlaen. Gadewch inni'n awr i edrych ar y gwahanol enwau. Enwau'r bechgyn
Peth arall a hoffant gyda'i reis yw gwyfynod, ac y mae'r modd y daliant hwy yn ddiddorol iawn. Casglant nifer o flodau a gosodant hwy yn gylch gweddol fawr ar y ddaear. Yna fin hwyr daw un o'r genethod i yswatio ynghanol y cylch gan ddal blodeuyn yn ei llaw a chanu yn weddol isel:
"Tyred yma, ehedwr heini ei adain,
Tyred yma, tyred yma;
Fan hyn y melys, fan draw y chwerw,
Tyred yma, tyred yma. . . .
O dipyn i beth disgyn y gwyfyn ar y cylch blodau ac ar ôl hedfan o un i un daw ar y blodeuyn sy'n ei llaw ac mewn amrantiad bydd ei llaw yn cau ar ei drwyn hir a bydd wedi ei ddal. Ar ôl hynny deil i ganu nes dal yr ail a'r trydydd a rhagor. Wedi iddi ddal hanner dwsin ohonynt, mwy neu lai, â i'w chartref yn hapus gan edrych ymlaen am eu mwynhau gyda'i reis.
Nid oes gan y plant deganau o'r siop i chwarae â hwynt fel y sydd gan blant Cymru. Ond hoffant hwythau chwarae ac y mae'n rhaid iddynt wrth rai pethau i'w bodloni a'i gwneud yn hapus. Y mae'r genethod yn hoff o chwarae cadw tŷ a phan yn chwarae felly dynwaredant eu mamau yn eu cartrefi. Hoffa'r plant hefyd chwarae priodas ac y maent yn arbennig hoff o chwarae angladd. Heb gorff i'w gladdu ni fyddai angladd yn angladd wrth gwrs. Ac fel rheol corff ceiliog y rhedyn a gleddir ganddynt a bydd ei gladdedigaeth yn union fel gwir angladd—yr orymdaith, yr amdo, yr wylo a phopeth. Ni dylai plant beri poen i unrhyw greadur wrth chwarae, ond gwnant hwy hynny weithiau. Gwnant hynny hefyd pan esyd bechgyn ddau symudliw i ymladd â'i gilydd. Gellir eu gweld weithiau yn cario symudliw ar bren bambŵ hir ac yn mynd o fan i fan gan chwilio'r llwyni am un arall i'w osod gyferbyn ag ef. Ni all y ddau, wrth reswm, basio ei gilydd ar y pren crwn a dechreuant ymladd nes troi yn ddu eu lliw. Hynny a wna'r symudliw pan mewn tymer.
Byddwch chwi, yn arbennig chwi fechgyn, yn hapus os cewch chwarae â thipyn o gicio ynddo. Y mae'r bechgyn ym Madagascar felly hefyd ond yn lle cicio pêl fel y byddwch chwi byddant hwy yn cicio ei gilydd! Er hynny, ni niwediant ei gilydd, oblegid eu bod yn droednoeth ac yn defnyddio'r sawdl yn hytrach na blaen y troed.

Chwarae arall hoff gan y bechgyn yw chwarae ych.' Yr ych yw'r anifail y maent yn fwyaf cyfarwydd ag ef; yn aml ceir ef yn hanner gwyllt a dyna'r math a ddangosir yn eu chwarae. Dewisant un o'i plith i fod yn ych a bydd ganddo bren, fforchog ar un pen, a deil ef o flaen ei wyneb i fod yn ddau gorn iddo. A dechreua'r chwarae. Gan ymddangos yn ffyrnig ceisia'r 'ych' eu cornio a cheisiant hwythau ddianc o'i ffordd, gan waeddi: Daliwch ef! Rhaffwch ef! Taflwch ef i'r llawr! Ar yr un pryd ceisiant daflu y rhaff a fydd ganddynt o gylch ei wddf a'i ddal.
Mewn amser trechant ef a thaflant ef i'r llawr, clymant ei draed a'i ddwylo ac â darn o bren yn ffugio cyllell tyrr un ohonynt ef yn ddarnau. A diwedd y chwarae fydd i bob un ohonynt fynd gartref â charreg yn ei law gan ffugio mai darn o'r ych' ydyw!
Ond nid dysgu a chwarae yn unig a wna'r plant. Pan na fyddant yn yr ysgol y mae ganddynt ddyletswyddau i'w cyflawni. Cynorthwya'r merched eu mamau, drwy ofalu am y baban, cyrchu dŵr, a thasgau o'r fath, ac i'r bechgyn bydd dyletswyddau fel gwylio'r had rhag y lleidr bach â'r gót goch, neu gyrchu'r ychen a'i harwain i'r ffald.
Am blant ardal yr ysgolion, yr ysgol ddyddiol a'r ysgol Sul, y soniasom. Y mae lluoedd o blant eraill ym Madagascar sy'n llai ffortunus na hwynt—plant y pentrefi paganaidd nad oes ganddynt ysgol i fynd iddi na neb i ofalu'n iawn amdanynt ychwaith. Ond mwy amdanynt hwy yn nes ymlaen.
XII. MEWN PENTREF PAGANAIDD.
PNTREF paganaidd—tybiaf eich clywed yn gofyn: 'Pa fath le yw hwnnw?' Byddwch yn sôn amdano wrth ganu. Pentref â
.. Dim ond eilunod o'i cylch ymhob man
Neb i ddweud am Dduw...
Beth yw eilunod, tybed?
Dyma hanesyn diddorol a ddengys ichwi beth ydynt.
Un tro yr oedd geneth ieuanc ym Madagascar wedi colli ei ffordd. Daeth i dy bychan yn yr ardal unig honno a chafodd lety am y nos. Yr oedd gŵr y tŷ newydd ddyfod i mewn ac yr oedd wrthi'n brysur yn gweithio ar y pren a ddygodd gydag ef o'r goedwig gerllaw. Gosodai ei wraig y brigau mân ar y tân oedd ar yr aelwyd a llafuriai yntau'n ddygn ar y bonyn.
"Beth ydi hwnna i fod?" gofynodd yr eneth iddo.
'Ody' (eilun)," oedd ei ateb.
Drannoeth yn fore, wedi diolch am ei llety, aeth yr eneth i ffwrdd. Ymhen ysbaid ar ôl hynny, a hithau yn ei chartref yn y dref, daeth cyfeilles i ymweld â hi. Yr oedd ei chyfeilles yn Gristion ac yr oedd ei Beibl ganddi, fel arfer, mewn sachell fach. Cyn ymadael, wedi gofyn caniatâd i ddarllen iddi, fel y digwyddodd agorodd ei Beibl yn y man y gwelir y geiriau hyn: "... . a rhan ohono a lysg efe yn tân . . . A'r rhan arall yn dduw y gwna, yn ddelw gerfiedig iddo; efe a ymgryma iddo, ac a'i haddola, ac a weddia arno, ac a ddywed, Gwared fi; canys fy nuw ydwyt." (Eseia 44, 16—17). Ar unwaith cofiodd yr eneth yr hyn a welodd yn y llety y cafodd garedigrwydd ynddo.
"Llyfr rhyfedd ydi hwnna !" meddai wrth ei chyfeilles mewn syndod. "Y mae'n dweud yn hollol beth oedden nhw'n ei wneud ar y pryd... gosod rhan o'r pren yn y tân a gwneud duw i ymddiried ynddo o ran arall."
O'r funud honno bu ei chasineb at eilunod yn fawr a daeth yn Gristion selog a dioddefodd lawer dros ei chrefydd.
Dyna beth yw eilunod. Gwrthrychau a wnaed gan law dyn a gyfrifir yn dduwiau i'w haddoli ac i ymddiried ynddynt. Paganiaid a wna hynny oblegid ni wyddant am y gwir Dduw, drwy Iesu Grist, y Duw sy'n unig yn deilwng i'w addoli.
Y mae'n drist i feddwl fod llawer ym Madagascar yn y fath gyflwr truenus. Trigant mewn pentrefi bychan, rhai ohonynt yn y goedwig fawr, rhai ar lannau'r afonydd ac mewn mannau eraill, a phob un ohonynt yn bentref paganaidd.
Ond gwell na sôn am bentref paganaidd a fyddai mynd i'w weld. Fe awn i lawr yr afon mewn canŵ a galwaf ar ddau frodor i'n rhwyfo. A dyma ni wedi cyrraedd. 'D oes neb i'w weled yn y pentref. Ble mae'r bobl tybed? Y maent yma, ac yn ein gweled, er na welwn ni hwy. Y maent yn edrych arnom drwy agoriadau bychan ym muriau hesg eu tai. Y mae'n syndod mor ofnus y maent o ddieithriaid!
Fe anfonwn y ddau frodor i'w hysbysu ein bod yn ymweld â'r pentref ac yn dymuno'n dda iddynt a thra eu bod yn gwneud hynny fe awn ninnau am dro o gylch y pentref.
Sylwch ar y tŷ bychan fan draw a'r balmwydden dal ar ei bwys. Dyna dŷ y 'witch-doctor.' Y mae'r balmwydden yn arwydd mai dyna'r lle y mae'n byw. Pan ddaw rhywun mewn angen ymgeledd a chynorthwy, i gael cyfarwyddyd, neu eilun neu rywbeth cyffelyb oddi wrtho, fe ddaw heb holi i'r tŷ y mae'r balmwydden ar ei bwys.
'Ydi—o'n gwerthu eilunod?' meddech. Ydyw, yn siwr iawn. Gwneud eilunod a'i gwerthu, dyna'i waith. Gwna hwynt o wahanol bethau, darn o bren, o gorn ych a phethau eraill. Yna, ar ôl eu llunio y mae ganddo, meddai ef, ffordd i'w gwneud yn 'nerthol.' Bydd yn cymell y bobl i ymddiried ynddynt, fel y gallant eu hamddiffyn rhag y pethau a ofnant—afiechydon, damweiniau, anlwc, eu gelynion, y crocodiliaid.
Ni allant wneud hynny mewn gwirionedd, ac nid yw ef namyn y 'dall yn arwain y dall.' Eithr cred y bobl ofergoelus ynddo ac yn yr eilunod y mae'n werthu iddynt. Deuant ato yn eu hangen ac ni all roddi ond cyngor ffôl a gwerthu eilun iddynt.
Trist yw meddwl fod cymaint o bobl eto ym Madagascar a neb gwell ganddynt i fynd ato yn eu hangen na'r 'witch-doctor. Dyna yw'r hyn a elwir yn dywyllwch paganiaeth, anwybodaeth ac ofergoeliaeth, a llawer o gredoau ffôl ac arferion gwael.
Gwelwch y bachgen bach yn cysgu yn yr haul ar bwys y tŷ fan yma. Mor frwnt a thenau y mae'n edrych. Gwell gadael iddo i gysgu, druan bach, ac fe holwn y bobl amdano.
Fe awn at y bobl sy'n dod allan a'i cyfarch yn ôl yr arferiad, ac fe ofynwn iddynt amdano. Dywedant fod mam y bachgen bach wedi ei lladd gan grocodil pan yn cyrchu dŵr o'r afon, fod ei dad wedi dianc o'r pentref, a'i fod ef oherwydd yr hyn a ddigwyddodd i'w fam yn blentyn anlwcus. Yn ôl eu syniad hwy y mae hynny'n gyfystyr â dweud nad ydyw'n werth poeni yn ei gylch.
Y mae'n fwy na thebyg mai'r hen ŵr â'r farf hir ydyw pennaeth y pentref. Cyfarchaf ef fel pennaeth beth bynnag a rhoddi gair o gyngor iddo yr un pryd. Ymddengys yn hen ŵr caredig er ei fod yn bagan. Ie, efe yw'r pennaeth ac y mae'n addo cymryd gofal da o'r bachgen bach o hyn allan. Pobl syml a charedig ydynt wedi'r cyfan. Eu hanwybodaeth a'i hofergoeliaeth sy'n peri iddynt wneud pethau ffôl a gwael, ond beth arall y gellir ei ddisgwyl pan nad oes ganddynt neb gwell i'w cyfarwyddo a'i helpu na'r 'witch-doctor.'
Y mae'n drueni i feddwl am y plant mewn lleoedd fel hyn, heb rieni yn medru gofalu'n iawn amdanynt, heb feddyg i'w gwella pan ddaw afiechyd, ac heb ysgol na chapel i fyned iddynt i ddysgu ac i addoli.
Mor wahanol y mae pethau gyda chwi! Rhieni yn gwybod sut i ofalu'n iawn amdanoch, ysgol a chapel i fyned iddynt, a meddyg i'w alw i mewn atoch pan ddaw afiechyd.
Mewn gair y gwahaniaeth yw hyn: Eich bod chwi'n byw yng ngwlad y breintiau a hwythau'n byw yng ngwlad yr angen. Ond y mae Iesu Grist yn eu caru hwythau hefyd ac, yn sicr, y mae'n disgwyl i bobl y breintiau i gynorthwyo pobl yr angen.
A'r cymorth gorau y gellir ei roddi ydyw danfon yr Efengyl iddynt a dyna a wnawn pan fyddwn yn helpu'r cenhadon a'i gwaith.
II. STORÏAU.
CAWSOM amser hyfryd gyda'n gilydd ar ein tro i Fadagascar. Felly y teimlaf fi beth bynnag a gobeithio eich bod chwithau yn teimlo felly hefyd. Gobeithio hefyd y bydd yr hyn ydych wedi ei weled a'i glywed yn peri fod gennych, nid yn unig fwy o ddiddordeb yn y wlad, ond hefyd fwy o gydymdeimlad â'r bobl, yn enwedig a'r plant sy'n byw yn y fath leoedd â'r pentref paganaidd y buom ynddo. Ie, cydymdeimlad a wna ichwi chwennych gwneud mwy eto ar eu rhan-mwy o gofio amdanynt, mwy o weddio drostynt a mwy o gasglu gyda'ch cardiau, fel y gallant hwy- thau hefyd ddod i wybod am Iesu Grist, Cyfaill plant bach yr holl fyd.
Credaf mai priodol a fyddai diweddu drwy adrodd nifer o storïau a ddengys crêd, arferiad a'r hanes a berthyn i'r Malagasy.
I.
NNid oes gan y plant ym Madagascar lyfrau storïau fel y mae'n bosibl ichwi eu cael neu eu prynu, ond y mae ganddynt, er hynny, chwedlau digrif y clywsant eu rhieni yn ei hadrodd o dro i dro ar yr aelwyd fin hwyr. Hen chwedlau ydynt ond y maent yn dal i fyw a dygant lawer o bleser i'r plant o genhedlaeth i genhedlaeth. Un ohonynt yw'r chwedl am Rapeto. Wele stori a thipyn amdano ynddi.
RAPETO.
Un tro, wrth fyned i bentref yn y wlad ym Madagascar, deuthum i fan ar ymyl y llwybr yr oeddwn arno, lle'r oedd darn o graig gweddol wastad, rhyw ddwy droedfedd mewn uchter. Ar wyneb y graig yr oedd twll bâs ar ddull padell. "Gwelwch," meddai'r brodor oedd gyda mi, "dyma ôl troed Rapeto!" Edrychem ein dau ar y twll.
"Ôl troed Rapeto! Pwy oedd Rapeto a chanddo droed a fedrai wneud twll fel hwn yn y graig?" gofynnais.
"Chlywsoch—chi ddim sôn am Rapeto?" oedd ei ateb a llawer o syndod yn ei lais. "Y mae pawb yma yn gwybod am Rapteo."
Na, 'dydi pawb ddim yn gwybod," meddwn. "Yr ydw—i yma a chlywais—i 'rioed yn fy mywyd am Rapeto. Pwy oedd e', dwedwch?"
Wedi clirio tipyn ar ei wddf, fel y mae'n arfer gan rai pobl pan fydd ganddynt rywbeth pwysig i'w ddweud, dywedodd gyda llawer o bwyslais.
"Cawr mawr oedd Rapeto. Unwaith fe aeth o'r pentref lle'r oedd yn byw, pentref ymhell oddi yma, i'r pentref yr ydym ni ein dau yn bwriadu ei gyrraedd cyn y nos ac fe wnaeth yr holl daith mewn dau gam. Yn y fan hon y gosododd i lawr ei droed fawr. Yma yr oedd terfyn ei gam cyntaf. Dyna'r rheswm fod y twll hwn yn y graig."
"Rhyfedd iawn," meddwn, gan geisio cuddio fy nigrifwch orau medrwn, "a dyma ni'n dau, â'n camau byrion, yn poeni yn y gwres a'r llwch i gyrraedd y pentref fan draw, a Rapeto yn gallu gwneud yr holl daith mewn dau gam ac heb chwysu ychwaith! Ie, a'i daith yn fwy na dwywaith ei hyd na'n taith ni. Dyna'r fantais o fod yn gawr. Dwedwch fwy am dano, wrtha-i. Fe garwn i'n fawr i gael clywed mwy."
"A welwch-chi'r bryn uchel y tu hwnt i'r afon a'r caeau reis draw yn y pellter?" gofynodd gan bwyntio â'i wefusau yn ôl arfer y wlad.
Wedi syllu am ychydig eiliadau i'r cyfeiriad gofynnais: "Ai cyfeirio ydech-chi at y bryn moel uchel acw rhwng y bryniau a'r coed?"
"Ie, dyna fo," oedd ei ateb. "Dyna lle'r oedd Rapeto'n byw, gyda Toto ei fab, ei unig blentyn. Ar ben y bryn yna."
Gofynnais iddo ynghylch Mrs. Rapeto ond ni thalodd sylw im cwestiwn gan gymaint oedd ei feddwl ar Rapeto.
"Yr oedd yn gymaint o gawr," aeth ymlaen, "ac yr oedd ei fraich mor hir fel pan oedd yn coginio reis yn ei gartref ag un llaw gallai â'r llaw arall gasglu coed tân yn y goedwig sydd rhwng ugain a deng milltir a'r hugain i ffwrdd!"
"Peth rhyfedd yw bod yn gawr" meddwn ar ôl clywed hyn. "Peth rhyfedd iawn!"
"Ie, ond daeth i ddiwedd truenus, truenus iawn!" meddai gyda llawer o bwyslais ar y gair olaf.
"Beth ddigwyddodd iddo?" gofynnais.
Wedi rhagor o besychu aeth ymlaen â'r hanes:
"Un noson olau leuad canfu ei fab Toto yn wylo'n hallt.
'Be' sy arnat ti? Pam 'r wyt-ti'n wylo fel hyn Toto bach?' gofynnodd Rapeto mewn llais tyner er ei fod yn gawr. R ydw-i eisiau'r lleuad. 'Drychwch, mor brydferth y mae. Rhowch y lleuad imi! Rhowch, rhowch, rhowch y lleuad imi, 'nhad.' Toto bach, 'r wyt-ti'n gofyn peth anodd dros ben,' meddai Rapeto. R ydw-i wedi gwneud gorchestion mawr yn fy nydd ond dim mor anodd â'r hyn wyt-ti'n ofyn imi ei wneud 'nawr,' meddai â'i law fawr ar ben Toto i'w gysuro. Ond plentyn wedi ei sbwylio oedd Toto ac fel pob plentyn felly yr oedd yn ystyfnig ac am gael ei ffordd ymhob man, ac felly wylo mwy a mwy a wnaeth nes i'w dad ddweud wrtho, 'O'r gorau ynteu, fe gei di'r lleuad.' Yna, gan osod ei draed mawr ar ben y bryn a chyfeirio ei lygaid mawr at y lleuad, neidiodd Rapeto i fyny gan wneuthur yr ymgais gawraidd fwyaf yn ei fywyd. Ond pan ddaeth yn agos i'r lleuad, aeth y lleuad yn ofnadwy o ddigllon, mor ddigllon fel y rhoddodd gic ofnadwy i Rapeto, a chwyrnellodd yntau i lawr gyda'r fath bwysau a chyflymder fel y trawodd y ddaear a'i ladd yn ddisyfyd."
A dyna oedd diwedd Rapeto!
2.
Er mai stori yw'r canlynol fe gynnwys hanes un a adwaenaf yn dda a gallaf ei edmygu heddiw am yr hyn ydyw gweithiwr ffyddlon i Iesu Grist yn ardal y llyn mawr. Y mae ei enw heddiw yn dipyn gwahanol ond 'd oes dim gwahaniaeth am hynny.
JAO.
Jao oedd ei enw ac y mae'n ddiddorol fel y cafodd yr enw. Yr oedd ei dad yn bagan ac yn bennaeth y pentref paganaidd lle'r oeddynt yn byw. Credai y byddai enw priodol ar ei fab yn peri iddo chwennych bod yn bennaeth ar ei ôl. Am hynny y meddyliai pan ddigwyddodd weled gyr o ychen yn croesi'r dyffryn ar bwys y pentref. Fel y mae'n arfer gan ychen wrth fyned felly yr oedd un ohonynt ychydig ar y blaen ac yn arwain y gweddill. Gelwir yr ych hwnnw 'Jao,' sef, arweinydd.
Jao! Jao!" meddai wrtho'i hunan. "Dyna'r enw iddo. Jao. . . arweinydd. . . enw a'i gwna'n arweinydd fel myfi."
A'r peth cyntaf a wnaeth wedi dychwelyd i'w gartref yn y pentref oedd dweud wrth yr hen baganes, ei wraig, mai hynny oedd ei enw i fod o'r awr honno ymlaen.
"Ie, fel y dywed y doeth, bydded felly," oedd ei hateb. Felly, yn lle'r hen enw oedd wedi bod arno, Jao a fu.
Yn fynych ddigon arferai ei dad bwysleisio wrtho bwysigrwydd ei enw newydd a'i ragoriaeth hefyd ar yr enwau eraill yn y pentref.
"'D oes yr un enw arall fel dy enw di," meddai wrtho.
"Jao . . . arweinydd . . . ac arweinydd a fyddi di fel yr ydw-i'n arweinydd yma ar hyn o bryd."
Ond er cystal ei enw nid oedd Jao ond un o blant y pentref paganaidd hwnnw ac yr oedd ei wisg mor frwnt, ei wallt mor aflêr, a'i wyneb mor fudr â'r un ohonynt. Mewn un peth yn unig y rhagorai arnynt sef mewn dringo'r coed i hela'r lemuriaid yn y goedwig fawr gerllaw.
Un diwrnod, yr oedd yn un ar bymtheg oed ar y pryd, daeth gwahoddiad iddo i ymweld â chefnder iddo oedd yn byw ychydig o bellter i ffwrdd. Ni welsant ei gilydd ers amser maith ac yr oedd yn falch o'r gwahoddiad.
Cyrhaeddodd Jao yn ddiogel i'r pentref a gwelodd ar ei union fod ei gefnder gryn dipyn yn wahanol i'r hyn arferai fod. Yr oedd ei wisg yn llawer glanach a'i gartref yn fwy trefnus, ac nid oedd yr un eilun i'w weled yn y tŷ. Yr oedd hefyd yn fwy caredig ei ffordd.
Drannoeth, gan mai dydd Sul ydoedd, gwahoddodd ei gefnder ef i fyned gydag ef i'r capel bach oedd ar ochr y bryn y tu draw i'r dyffryn—y capel nad oedd ef ond newydd ddechrau ei fynychu. Cyn hynny yr oedd yntau hefyd yn bagan.
Ac aethant ill dau. A'r bore hwnnw clywodd Jao am y tro cyntaf erioed ddyn du ei groen fel ei hunan yn pregethu a mawr oedd ei syndod wrth wrando arno ac yn enwedig wrth wrando ar y canu!
"Dyna ddyn dysgedig, doeth, oedd hwnna. 'Ble cafodd o'r fath wybodaeth?" gofynodd i'w gefnder ar ei ffordd adref.
"Yn y dref fawr," oedd ei ateb.
Ni cyfeiriwyd mwy at y peth ond yn awr ac yn y man dychwelai i feddwl Jao, ac fe ddeuai ateb ei gefnder yn ôl hefyd... Yn y dref fawr."
Dychwelodd i'w gartref ond rywfodd neu'i gilydd yr oedd aflonyddwch wedi cydio ynddo ac ni theimlai mwyach yn gartrefol, yn enwedig pan dalai ei rieni y sylw arferol i'w heilunod. Er hynny, gofalai beidio â gwneud dim a ddirmygai yr hyn a wnaent a'i digio drwy hynny.
"Yn y dref fawr; yn y dref fawr ". . . Parhau i ddod yn ôl a wnai'r ateb. O'r diwedd, heb yn wybod i neb, aeth i ffwrdd i gyfeiriad y dref honno.
Clywsai fod pobl pan yn mynd i'r dref fawr yn gyntaf i gyd yn mynd i'r orsaf, ond nid oedd ef erioed wedi bod mewn lle o'r fath ac mor bell o'i gartref. Ar ôl llawer o holi ar y ffordd cyrhaeddodd yno ac eisteddodd ar un o'r seddau. Yr oedd ei anwybodaeth o bethau yn gymaint fel y credai ond iddo eistedd felly y deuai'r trên a'i gyrchu ymaith, hynny yw, y byddai'r trên yn ei ddal ef ac nid ef yn dal y trên!
Daeth y trên a chychwynodd drachefn, ond dal i eistedd ar y sedd a wnai Jao, a byddai wedi eistedd felly drwy'r nos a thrannoeth onibai i wraig yr orsaf-feistr ei weld a chymryd trugaredd arno. Yr oedd hi yn Gristion ac yn ddynes garedig. Cafodd lety ganddi y noson honno a thrannoeth rhoes ef ar y trên a thocyn yn ei logell.
Cyrhaeddodd y dref fawr yn ddiogel. Wedi holi yno a chael cymwynas arall daeth i dŷ ysgolfeistr y Mission. Derbyniwyd ef i'r ysgol. Ar ôl nifer o flynyddoedd yno aeth i'r coleg yn y dref fawr ac erbyn hyn treuliodd Jao lawer blwyddyn yn weinidog ffyddlon i Iesu Grist.
Gan hynny y mae'n arweinydd nid yn ôl dymuniad ei dad amdano, ond yn ôl dymuniad Duw. Ac y mae hynny'n ganmil gwell.
3.
Ymhen ychydig amser ar ôl i nifer o'r brodorion yng nghanolbarth Madagascar dderbyn yr Efengyl oddi wrth y cenhadon cyntaf i gyrraedd yr ynys aeth yn amser caled iawn arnynt. Daeth brenhines baganaidd a chreulon o'r enw Ranavâlona i'r orsedd, a gwnaeth ei gorau i ddileu yr Efengyl yn llwyr allan o'i gwlad. Gwnai hynny drwy roi i farwolaeth neu gosbi'n enbyd pob un y deuai i wybod amdano ei fod yn Gristion. Cafodd nifer eu lladd a dioddefodd llawer eraill yn ddirfawr. Methodd yn ei hamcan drwg a chreulon oblegid yr oedd Iesu Grist gyda'i ganlynwyr yn eu nerthu i lynu wrth eu crefydd ar waethaf pob anhawster a dioddefaint, hyd yn oed hyd angau. Gelwir yr amser trist hwnnw Cyfnod yr erledigaeth fawr (1836-61). Un o'r rhai a ddioddefodd lawer y pryd hwnnw oedd.
RAIVO.
Raivo oedd ei henw ac ar y pryd yr oedd yn un ar bymtheg oed. Unig blentyn ei rhieni, yr oedd yn byw gyda hwynt mewn pentref bach rhyw chwe' milltir o'r brif dref. Yr oedd yn eneth hardd ei phryd ond, yn fwy pwysig na hynny, yr oedd yn hardd ei chymeriad drwy garu Iesu Grist, a hynny yn yr amser pan oedd bron pawb yn yr ardal o'r frenhines i lawr, yn baganiaid.
Yr oedd y frenhines yn un o'r rhai mwyaf creulon a fu erioed, a chan ei bod yn baganes yr oedd yn casàu pawb a garai Iesu Grist ac a'i gwasanaethai. Gymaint oedd ei châs ohonynt fel y gorchymynai'n gyfnodol i'w rhoi i farwolaeth. Gorchymynai hefyd i'r magnelau mawr oddeutu y plas i gael eu tanio ar fore y diwrnod yr oedd hynny i gymryd lle. Ymfalchïai yn y sŵn mawr oblegid dangosai hwnnw ei hawdurdod a pharai ddychryn i'w phobl.
"Clywch, mam! Clywch!" meddai Raivo. "Dyna sŵn rhyfedd o gyferiad y brif dref. Sŵn fel t'ranau ond nis gall fod yn t'ran'u oblegid y mae'r awyr yn glir. 'Does 'na ddim cwmwl o gwbl. Gadewch inni fyned allan i glywed yn well."
Bŵm Bŵm! Bŵm! "Y mae'n rhaid fod magnelau'r plas yn cael eu tanio. Rhywrai yn cael eu rhoi i farwolaeth eto. Gobeithio nad oes neb o'n cyfeillion. 'Does 'na ddim diwedd ar greulondeb y frenhines!" "Gad inni fynd yn ôl i'r tŷ, Raivo, annwyl," meddai ei mam yn gymhellgar. "Fe gauwn ni'r sŵn trist allan. A chofia, fe ddylet-ti fod yn llawer mwy gofalus. 'R wyt-ti'n llawer rhy hoff o ddarllen dy Feibl wrth y drws agored. Cofia, da thi, fod ysbiwyr y frenhines ar hyd a lled yr ardal yn chwilio am rywun y gallan'-nhw'i cyhuddo o fod yn Gristionogion. Yr oedd 'na ddyn dieithr yn y pentref 'ma ddoe, fel 'r wyt-ti'n gwybod."
"Mam annwyl, peidiwch â phryderu. Fe fydda-i'n ddigon gofalus, yn siŵr ichi, ond doed a ddelo y mae'n rhaid imi ddarllen fy Meibl. Y mae gair Duw yn bopeth imi," oedd ateb Raivo.
Yn fore dau ddiwrnod yn ddiweddarach yr oedd dau filwr â phicell[1] wrth ddrws y cartref. Arwydd oedd hynny eu bod ar neges arbennig dros y frenhines. Galwent mewn lleisiau uchel ac awdurdodol: "Vohay! Vohay !" (Agorwch! Agorwch !).
Agorodd tâd Raivo y drws. Gwthiasant heibio iddo gan chwifio'r bicell ac yn yr un llais cras gofynnent: "'Ble mae Raivo? Bydded barod! Daethom yma i'w 'mofyn—yn enw'r frenhines."
"Dyma fi," atebodd hithau yn dawel a diofn.
Rhoddwyd cadwyn ar ei dwylo ac aethant â hi i ffwrdd i'r brif dref. Dilynodd ei rhieni â chalonnau trist.
Dygwyd hi i'r man neilltuol yn y farchnad lle'r holid carcharorion ac yno yswatiodd ar y ddaear gynnes gydag eraill a gyhuddwyd.
Pan ddaeth ei thro i gael ei holi ac iddi godi ar ei thraed clywyd ochain o drueni drwy'r dorf wrth weled un mor ieuanc a hardd â'r gadwyn ar ei dwylo.
"Raivo, a wnei di addoli'r eilunod sy'n eiddo'r frenhines?
Wnei di addoli'r wybren a'r ddaear?" gofynodd yr holwr, mewn llais i beri braw.
"Wna-i ddim addoli'r eilunod," atebodd yn araf a phenderfynol. "'Dydyn-nhw'n ddim ond pren a gwaith llaw Duw yw'r pren. Wna-i ddim addoli'r wybren na'r ddaear ychwaith. Llaw Duw a'i creodd. Duw Ei Hun sy'n fawr imi ac Ef yn unig fydda-i'n addoli."
Aed ymlaen, ond er manyled yr holi a'r bygwth wynebodd y cyfan yn yr un ysbryd mwynaidd a phenderfynol fel na wyddai'r holwr beth i'w wneud â hi. Erbyn hyn yr oedd yntau hefyd wedi ei gyffwrdd gan y teimlad a aeth drwy'r dorf. Daeth ei rhieni ymlaen ac mewn dagrau hallt ceisiasant ei pherswadio i newid ei meddwl ond ofer eu hymgais, er ei bod yn teimlo i'r byw drostynt.
Oddi yno aed â hi i'r carchar ac o'r carchar ymhen rhai dyddiau i ben craig fawr ac uchel ynghanol y dref. Dangoswyd iddi beth oedd ei thynged i fod onid oedd yn fodlon i ildio'i chrefydd ac addoli'r eilunod—fe'i teflid dros y graig.
Y diwrnod hwnnw yr oedd nifer wedi eu condemnio o fod yn ganlynwyr i Iesu Grist ac wedi eu taflu dros y dibyn. Yr oedd y magnelau wedi cyhoeddi hynny'n fore. Ond er bygwth y fath farwolaeth iddi glynu wrth ei chrefydd a wnaeth Raivo.
"Y mae fy nghyfeillion wedi mynd. Gadewch i minnau eu dilyn," oedd ei chais gwrol.
A'r dorf yn synnu a'r swyddogion yn petruso, wele filwr â'r bicell yn ei law, yn ymddangos yn sydyn gan ddwyn neges oddi wrth y frenhines.
"Gorchymynaf," meddai'r neges, "i ollwng Raivo yn rhydd. Nid ydyw ond plentyn wedi colli ei synnwyr. Nid ydyw yn Gristion." Swynwyd hi,—Ranavâlona, y frenhines.
Ac wrth gwrs, rhyddhawyd hi ond ni fu'n rhydd yn hir.
Mewn byr amser ar ôl hynny yr oedd Raivo yn y farchnad eto ac yn yr un man ag y rhoddodd ei thystiolaeth ddewr.
Y tro hwn yr oedd yn un o nifer o gaethweision oedd yno i'w gwerthu yn ôl arferiad drwg y wlad ar y pryd. A gwerthwyd Raivo i fod yn gaethforwyn er ei bod o linach urddasol. Ie, gwerthwyd hi am bris isel iawn. . . dim ond pum punt!
Ond yr oedd Raivo yn fwy o werth i Iesu Grist na holl arian ac aur Madagascar.
4.
Ychydig iawn o bethau i ddwyn pleser iddynt sydd gan y plant ym Madagascar o'i cymharu â chwi a phan gânt ddarlun bach neu rywbeth cyffelyb gan y cenhadwr y mae'n syndod mor falch y byddant ohono. Er mwyn ei gadw'n ddiogel rhoddant ef weithiau ar fur y cartref neu rhwng tudalennau'r Beibl os ydynt yn ddigon ffortunus i feddiannu un.
Kото.
Diwrnod mawr yn yr ysgol oedd y dydd Gwener hwnnw. Yr oeddynt yn cau dros wyliau'r Nadolig ac yr oedd pob un o'r plant i gael rhodd gan y genhades yr oedd gofal yr ysgol arni. Derbyniasai hi nifer o bethau oddi wrth gyfeillion caredig yng Nghymru i'w rhoi iddynt fel y gwelai orau. Pinnau ysgrifennu, penseli, peli, doliau, a nifer fawr o hen gardiau Nadolig.
Yr oedd y plant yno'n gwenu'n hapus gan edrych ymlaen yn awyddus i dderbyn o'r blychau llawn oedd erbyn hyn ar lwyfan yr ysgol. Ar ôl y canu gwresog, gweddi fer ac araith gan y genhades yn eu canmol am eu diwydrwydd yn ystod y tri mis cynt a chyfeiriad at y pethau oedd yno i'w rhannu ac o 'ble y daethant, aed ymlaen i rannu'r gwahanol anrhegion.
Yn gyntaf fe'i gosodwyd ar y bwrdd llydan oedd ar y llwyfan a rhyfedd fel y gloywai y dyrfa o lygaid wrth eu gweld yn cael eu tynnu o'r blychau. Wedi gorffen hynny, dechreuwyd eu rhannu ac yr oedd digon ar eu cyfer. Aeth y doliau wrth gwrs i'r merched, y peli i'r bechgyn, pinnau ysgrifennu a phenseli i bawb a allai ysgrifennu a'r cardiau Nadolig i'r rhai ieuengaf yno.
Cerdyn Nadolig a gafodd Koto bach ac arno yr oedd llun angylion, fel a welir yn fynych ar gardiau Nadolig. Yr oedd yn gerdyn gweddol fawr a'r angylion arno yn wyn braf, adenydd gwynion, wynebau gwynion, gwisgoedd gwynion a gwallt melyn-goch hardd yn cyrraedd i'w hysgwyddau!
Yr oedd Koto mor falch o gael y fath rodd fel na allai dynnu ei lygaid oddi ar y darlun. Mor gynted ag yr oedd amser yr ysgol drosodd rhedodd gartref mor gyflym ag a allai i ddangos ei anrheg i'w fam a'i frawd, Nivo, oedd eto heb. ddechrau mynd i'r ysgol. Ar y pryd yr oedd ei dad ymhell oddi cartref a dyna lle'r oedd y tri yn edrych gyda syndod ar y cerdyn ac yn mwynhau hynny.
Wedi syllu llawer rhaid oedd ei osod ar fur yr unig ystafell oedd yn y tŷ a dyna lle'r oedd â'r angylion gwynion mor naturiol fel o'r bron gellid dychmygu eu gweld yn hedfan allan o'r cerdyn!
Daeth y pla i'r pentref ac i gartref Koto a bu Nivo ei frawd farw o'r haint.
A mawr oedd galar Koto ar ôl colli ei frawd bach! Gwnai ei fam ei gorau i'w gysuro gan ddweud wrtho fod Nivo bach wedi mynd at Iesu Grist, ei fod yn hapus ymhlith yr angylion, ac yn wir ei fod yn angel fel hwythau. Ond er pob ymgais i'w gysuro wylo yn aml a wnai Koto
Un diwrnod, a'i fam yn gwneud ymgais arall atebodd hi â llais siomedig, trist, gan bwyntio at y cerdyn ar y mur: "O mam! 'Drychwch! Gwyn, gwyn ydi'r angylion i gyd. Sut y gall Nivo fod yn angel?"
Ceisiodd ei fam egluro iddo orau gallai ond yr angylion gwynion ar y mur a welai Koto er pob eglurhad a roddai. Mewn ychydig ddyddiau daeth y genhades i'w gweld, i gydymdeimlo â hwynt ac i'w cysuro yn eu galar. Ar ôl ychydig o ymddiddan dywedodd y fam wrthi am ei hymgais i gysuro Koto, am ei methiant i wneud hynny, ac am ei syniad o'r angylion ar y mur.
"Y mae'r Nadolig yn ymyl. Nos Fercher nesaf bydd nifer o blant 'r ydw-i wedi ei paratoi yn perfformio 'Drama Nadolig yn yr ysgol. Dowch â Koto gyda-chi i'w gweld," meddai'r genhades wrth ymadael.
Daeth nos Fercher. Yr oedd ystafell yr ysgol yn llawn o bobl mewn oed a phlant ac yn eu plith, Koto a'i fam. Diffoddwyd y canhwyllau oedd yn hongian yn eu lleoedd ar y muriau. Tynnwyd y llenni yn ôl. Yr oedd y llwyfan yn olau, yn ddisglair hyfryd a phopeth yn drefnus i ddangos y Nadolig fel y daeth gynt y Nadolig cyntaf i Fethlehem. Y llwyfan i gyd yn wyn gan eira—llwch calch oedd yr eira. Mewn congl hanner cuddiedig yr oedd y preseb. Gyferbyn gwelid y bugeiliaid yn gwylio'i defaid ac ar yr ochr bellaf—hanner y ffordd rhwng llawr y llwyfan a'r tô—yr angylion. Dwy eneth —a'r bwrdd yr oeddynt yn sefyll arno yn guddiedig—â'i adenydd gwynion ar led, eu gwallt cyrliog du yn cyrraedd at eu hysgwyddau a'i wynebau bron mor ddu a'i gwallt! Wedi ychydig eiliadau, digon o amser i bawb oedd yno i fodloni eu llygaid ar yr olygfa, rhoddwyd arwydd. Dechreuodd yr angylion ganu. Trefnodd y bugeiliaid eu mentyll a chyfeiriasant eu camau tua 'Bethlehem,' lle'r oedd y preseb. Yr oedd popeth mewn ysbryd gweddus a rhyfedd y dylanwad a wnaed ar y bobl. Dangosasant eu gwerthfawrogiad drwy glecian eu tafodau—dyna eu dull hwy o ddangos hynny ac nid drwy guro dwylo fel y gwnawn ni.
Ac yno yn rhywle yn yr ystafell yr oedd bachgen bach yn nesu, nesu mwy a mwy at ochr ei fam a'i ddau lygad du yn syllu ar yr angylion. Mewn llais crynedig gan lawenydd galwodd: "Mam! O mam! Y mae nhw'n ddu, yn ddu i gyd fel y ni!"
Ac felly y daeth cysur o'r diwedd i Koto bach!
5. Y BICELL.
Yn yr amser gynt ym Madagascar, ac nid mor bell yn ôl, pan gyhuddid person o droseddu yn erbyn y ddeddf drwy ladrata, niweidio neu ladd, neu rywbeth o'r fath arferai un o'r milwyr a ddanfonid i'w ddwyn yn garcharor gario picell arbennig fel arwydd eu bod yn dod yn enw'r frenhines.
Enw'r bicell oedd Tsi-tia-lainga.' Ystyr hynny yw, 'Casáu Celwydd' ac yr oedd yr enw yn gerfiedig ar ei llafn. Rhoddid enw'r bicell i'r un oedd yn ei chario, a gelwid y rhai a fyddai gydag ef hefyd yn Casáu Celwydd.'
Rhyfedd y dychryn a ddelai i'r bobl pan welant y milwyr yn dod, er iddynt wybod nad oeddynt yn dod i'w cyrchu hwy. Mewn llais isel ofnus sibrydent wrth ei gilydd: Y Casáu Celwydd! Y Casáu Celwydd!' Rhedent i'w tai i guddio neu os digwyddent fod allan ac yn rhywle'n agos i'r llwybr y delai'r milwyr arno byddent yn ffoi mor gyflym ac mor bell ag y gallent.
Yr oedd y Casáu Celwydd i'w gweled yn aml iawn yn amser y frenhines greulon y soniwyd amdani oherwydd ymhyfrydai hi mewn cosbi neu roi person i farwolaeth am y trosedd lleiaf. Yr oedd yn amser caled iawn i'r brodorion, yn enwedig i'r rhai oedd Gristionogion am nad oeddynt yn fodlon i addoli'r eilunod fel y gwnai hi ac eraill.
Yr oedd ei hysbiwyr ar hyd a lled y wlad yn chwilio am unrhyw arwydd a ddangosai bod hwn a hwn neu hon a hon yn Gristion. Weithiau byddent yn ffugio bod yn deithwyr diniwed yn galw am ddiferyn o ddwr i dorri eu syched. Dro arall byddent yn cuddio fin nos yn y tyfiant gwyllt ar bwys y tai i wrando, ac os gallent glywed emyn, darllen neu weddio yr oeddynt wrth eu bodd. Aent i ffwrdd ar unwaith i adrodd yr hanes ac mewn byr amser deuai'r milwyr â'r bicell i mofyn y bobl o'i cartrefi, gosod cadwyn ar eu dwylo a'i dwyn yn garcharorion, i gael eu barnu a'i condemnio i farwolaeth neu i dynged arall yr un mor druenus.
Un o'r rhai a garai Iesu Grist y pryd hwnnw oedd gŵr ieuanc o'r enw Faralahy a chymaint oedd ei gariad fel yr arferai ddangos llawer iawn o ddewrder a hyfdra i'w addoli bob cyfle posibl, weithiau yn ei gartref ond yn amlach mewn ogof ychydig bellter o'i gartref. Gwaharddai y frenhines greulon bob addoli, mewn capel neu unrhyw fan arall—pob addoli ond addoli'r eilunod. Maes o law cyhuddwyd Faralahy o fod yn Gristion a thrueni yw meddwl fe'i cyhuddwyd gan un y gwnaeth ef gymwynas iddo—cyfaill dyledus yn troi yn fradwr! Daeth y milwyr a'r bicell yn fuan i'w gartref ond o'i gweled yr oedd yn berffaith ddiofn. Ni wnaeth ei osgo tawel namyn eu cynhyrfu'n fwy ac mewn llais awdurdodol cas gwaeddasant: "Edrych! Y Casáu Celwydd.' 'Rydym ni wedi dod yn enw'r frenhines i'th gymryd di'n garcharor. Bydd barod!"
Mewn llais araf a dewr atebodd hwynt: "Rydw—i'n yn barod, ond ni welaf yma rai sydd yn casáu celwydd. Yn hytrach 'rydych yn caru celwydd pan yn gwneud hyn i mi, am fy mod yn caru Iesu Grist."
Aed ag ef i ffwrdd—gosodwyd y cadwynau trymion a elwid 'Be ranomaso' (dagrau lawer) arno yn y carchar, a chondemniwyd ef i farwolaeth. Daeth y diwrnod i hynny gymryd lle. Yr oedd ar ei liniau yn gweddio, ei weddi olaf, daer, yn cyflwyno ei hunan i law Duw, pan ddisgynodd picell y lladdwr arno a'i drywanu i farwolaeth.
Felly y bu farw Faralahy, ail ferthyr Madagascar. Fel mae'r gorau pasiodd yr amser creulon hwnnw ac y mae'r bicell Casáu Celwydd' ar neges canmil gwell erbyn heddiw.
Gwelwch! Mor gyflym ydyw camrau y ddau frodor acw. Fel rheol araf iawn ydyw dull y brodorion o gerdded fel pe bai amser o ddim pwys iddynt. Nid yw hynny'n rhyfedd mewn gwlad mor boeth, ond y mae'r ddau acw ym mynd yn bur gyflym. Hefyd y maent, y naill o flaen y llall, yn cario cwdyn gweddol fawr ar bolyn yn groes i'w hysgwyddau. Dau frodor yn cario'r post i dref bell oddi yma ydynt ac y mae'n rhaid iddynt frysio er cyrraedd yno cyn y nos. Nid oes ganddynt wisg post-man. Nac oes, ond sylwch y mae un ohonynt yn cario picell. Ie, yr hen bicell Casáu Celwydd' ydyw, yn parhau o hyd yn arwydd eu bod ar waith y llywodraeth.
Gobeithio fod eu cwdyn yn llawn o newyddion da a diolch fod yr hen bicell ar neges dda heddiw!
GEIRFA.
| AMRYFATH | . . . | miscellaneous. |
| AWCHU | . . . | to sharpen. |
| BANNOD | . . . | the article. |
| BAS | . . . | shallow. |
| BROGAOD | . . . | frogs. |
| BRWNT | . . . | dirty. |
| CAWOD | . . . | a shower |
| CEILING Y RHEDYN | . . . | grasshopper. |
| CILEDRYCH | . . . | to look aside. |
| CNO | . . . | a bite. |
| COSFA | . . . | a thrashing. |
| CREYR | . . . | heron. |
| CRWMACH | . . . | hump. |
| CWDYN | . . . | pouch. |
| CYFNODOL | . . . | periodical. |
| CYMHARU | . . . | to compare. |
| CYRCYDU | . . . | to squat. |
| CHWYRNELLU | . . . | to whirl. |
| DAMSANG | . . . | to trample. |
| DIGLLON | . . . | wrathful. |
| DISYFYD | . . . | sudden. |
| DRUDWY | . . . | starling. |
| EILUNOD | . . . | idols. |
| ENLLYN | . . . | anything eaten with bread such as butter, cheese. |
| ENNAINT | . . . | ointment. |
| ESTRYS | . . . | ostrich. |
| FFORTUNUS | . . . | fortunate. |
| GLUD | . . . | sticky. |
| GRAEAN | . . . | gravel. |
| GWASG | . . . | press. |
| GWREGYS | . . . | girdle. |
| GWRTHRYCHAU | . . . | objects. |
| GWYFYNOD | . . . | moths. |
| GYR | . . . | drove. |
| HELMAU | . . . | helmets. |
| HESG | . . . | rushes. |
| LLAID | . . . | mud. |
| LLORP | . . . | cart-shaft. |
| LLYGOD FFRENGIG | . . . | rats. |
| LLYSYWEN | . . . | eel. |
| MAGIEN | . . . | glow-worm. |
| NEMOR | . . . | few in number. |
| OBRY | . . . | beneath. |
| OFERGOELIAETH | . . . | superstition. |
| PȧL | . . . | spade. |
| PICELL | . . . | spear. |
| PLANFEYDD | . . . | plantations. |
| PLISG | . . . | shells. |
| PRYD | . . . | a meal. |
| SACHELL | . . . | satchell |
| SBWYLIO | . . . | to spoil. |
| SYMUDLIW | . . . | changing colour (chameleon). |
| YSWATIO | . . . | to lie low. |
NODIAD.
Yng nghwrs y llyfr defnyddir y gair "gwybed" yn hytrach na "cilion" (gair y De) am "house-flies."
Defnyddir y gair "pâl" yn hytrach na "rhaw" (a ddefnyddir fynychaf yn ardaloedd y Gogledd) er dangos y gwahaniaeth rhwng y ddau air. Ni fyddir byth yn defnyddio'r troed ar raw.
Wrth ynganu y geiriau o'r Falagasy a geir yng nghwrs y llyfr seinier y llafariaid fel y gwneir yn y Gymraeg ag eithro "o," a gymer y sain "w" fel yn "cnwd." Er enghraifft, Koto—Kwtw; Raivo—Raivw, etc. Nid oes "u" yn iaith y Malagasy.
Printed by
Jones and Son
Crown Printing Works
Morriston, Swansea

Nodiadau
[golygu]- ↑ v. tud. 61
Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.