Neidio i'r cynnwys

Am yr Ysgol rad Sabbothol

Oddi ar Wicidestun
Diolch iti, Arglwydd mawr Am yr Ysgol rad Sabbothol

gan Roger Edwards, Yr Wyddgrug

Wele'r Athro mawr yn dysgu
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

353[1] Mawl am yr Ysgol Sabbothol.
84. 84. 8884.

1 AM yr Ysgol rad Sabbothol,
Clod, clod i Dduw!
Ei buddioldeb sydd anhraethol;
Clod, clod i Dduw!
Ynddi cawn yr addysg orau,
Addysg berffaith Llyfr y llyfrau:
Am gael hwn yn iaith ein mamau,
Clod, clod i Dduw!

—Roger Edwards, Yr Wyddgrug


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 353, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930